Rhyddhad newydd

SRA yn penodi Pennaeth Materion Cymreig

English Cymraeg

Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) wedi cynyddu ei ymwneud â’r sector cyfreithiol yng Nghymru drwy benodi ei Bennaeth Materion Cymreig cyntaf erioed.

Bydd Liz Withers, cyn Bennaeth Polisi Cyngor ar Bopeth Cymru, yn arwain gweithgareddau’r rheoleiddiwr mewn materion cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys cryfhau ei ddealltwriaeth o dirwedd gyfreithiol Cymru a gweithio gyda grwpiau defnyddwyr lleol.

A hithau wedi'i lleoli yng Nghymru, fe fydd hi hefyd yn helpu i gyflwyno mentrau allweddol yr SRA yng Nghymru, gan gynnwys helpu i fabwysiadu technoleg ac arloesedd a chyflwyno'r Arholiad Cymhwyso newydd i Gyfreithwyr. Bydd hefyd yn gweithio i sefydlu swyddfa newydd i’r SRA yng Nghymru, yn amodol ar gyfyngiadau’r pandemig.

Datblygu mwy o bresenoldeb yng Nghymru yw un o amcanion allweddol Strategaeth Gorfforaethol yr SRA ar gyfer 2020-23.

Dywedodd Anna Bradley, Cadeirydd yr SRA 'Mae penodi Liz fel ein Pennaeth Materion Cymreig cyntaf erioed yn gam mawr ymlaen i ni, wrth inni weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a chyfreithwyr yng Nghymru. Mae'r dirwedd gyfreithiol yng Nghymru yn newid ac rydyn ni am chwarae ein rhan, nid yn unig drwy gyflwyno'r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr yn Gymraeg yn raddol ond ar draws meysydd allweddol eraill hefyd, megis defnyddio technoleg a ffyrdd eraill i bobl sicrhau’r cymorth cyfreithiol y mae arnyn nhw ei angen.  

"Mae gennyn ni ymrwymiad clir i wneud mwy yng Nghymru a dwi’n gwybod y bydd Liz, gyda'i dirnadaeth, ei harbenigedd a'i hanes cryf o weithio er budd y cyhoedd, yn allweddol wrth wneud hynny."

Dywedodd Liz Withers, Pennaeth Materion Cymreig yr SRA: "Rwy'n llawn cyffro wrth sefydlu presenoldeb yr SRA yma yng Nghymru. Rwy'n awyddus i'r SRA chwarae rhan weithredol yn natblygiad sector cyfreithiol cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru, a hwnnw'n caniatáu i'r cyhoedd gael cyngor cyfreithiol priodol o safon, pryd a sut mae arnyn nhw ei angen."

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn gyda llawer o newidiadau i gyfreithwyr ac i'r cyhoedd. Oherwydd hynny, rwy'n edrych ymlaen at wrando ar brofiadau pobl a gweithio i helpu i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol o safon yng Nghymru."

Cyn yr SRA, bu Liz yn gweithio mewn nifer o rolau amlwg mewn materion cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys Cyngor ar Bopeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth a Llais Defnyddwyr (Cymru).

Use www.sra.org.uk/pennaeth-materion-cymreig to link to this page.