Adolygiad o Addysg a Hyfforddiant 2018/19

Ionawr 2021

Safonau addysg a hyfforddiant

Ni sy'n gosod y safonau addysg a hyfforddiant i gyfreithwyr i sicrhau bod y bobl y caniatawn iddynt ymuno â'r proffesiwn yn gymwys. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn cael gwasanaeth o'r safon briodol gan eu cyfreithiwr.

Rydyn ni eisiau i bawb sy'n ymuno â'r proffesiwn gyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel. Ym mis Medi 2021, byddwn yn cyflwyno un arholiad sengl, yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE), i ddisodli'r llwybrau presennol at gymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd hyn yn rhoi i'r cyhoedd a'r proffesiwn hyder mewn gwasanaethau cyfreithiol ac yn annog rhagor o hyblygrwydd a dewis wrth hyfforddi. Bydd yr hyblygrwydd, a fydd yn cynnwys dewisiadau ‘ennill wrth ddysgu', hefyd yn helpu i annog proffesiwn amrywiol, gan ddenu'r disgleiriaf a'r gorau o bob cymuned.

Prawf o gymeriad ac addasrwydd

Rydym yn asesu a yw'r ymgeiswyr i'w derbyn fel cyfreithiwr yn addas i ymuno â'r proffesiwn drwy ein prawf o gymeriad ac addasrwydd. Ymysg y cwestiynau a ofynnwn y mae a oes gan yr ymgeisydd unrhyw euogfarn droseddol, a fuont yn ddarostyngedig i unrhyw gamau gorfodi gan gorff rheoleiddio arall ac a gawsant erioed eu datgan yn fethdalwr. Wrth wneud ein penderfyniadau, rydym yn ystyried yr holl wybodaeth y mae ymgeiswyr yn ei rhoi inni ac, os ceir pryderon posibl ynglŷn â'u haddasrwydd, unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i ddiwygio eu cymeriad.

Yn 2018/19, fe wnaethom wrthod tri chais. Y rhesymau oedd gan fod un ymgeisydd wedi methu â datgelu euogfarn flaenorol ar ei gais. Roedd y ddau ymgeisydd arall yn gyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig (RELs) ac nid oeddent yn bodloni ein gofynion i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae'r ceisiadau a wrthodwn bob blwyddyn yn gyfyngedig eu nifer gan fod rhai pobl yn tynnu eu ceisiadau'n ôl pan na allant fodloni ein gofynion.

Open all

Mae ein hadroddiad diweddaraf ar Reoleiddio ac Addysg yn cyflwyno data gan ddarparwyr cyrsiau cyfreithiol am berfformiad myfyrwyr ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC); y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL), a elwir hefyd yn Arholiad Proffesiynol Cyffredinol (CPE); a gwybodaeth am y cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT) y mae pob darpar gyfreithiwr yn ei gwblhau cyn cymhwyso. Y prif ganfyddiadau yn adroddiad 2017/18 oedd:

  • Fe wnaeth y cyfraddau cyffredinol o safbwynt cwblhau'r LPC yn llwyddiannus syrthio o 66% yn 2016/17 i 56% yn 2017/18. Fe wnaeth y gyfradd ar gyfer cwblhau'r CPE yn llwyddiannus hefyd syrthio o 64% i 60%. Pery gwahaniaethau mawr o hyd yn y cyfraddau cwblhau rhwng darparwyr cyrsiau.
  • Yn ogystal â'r gwahaniaethau mewn cyfraddau cwblhau llwyddiannus cyffredinol, ceir gwahaniaethau mawr rhwng darparwyr ymysg cyfran y myfyrwyr sy'n ennill graddau pasio, clod neu ragoriaeth. Dengys y data fod myfyrwyr o grwpiau ethnig heblaw am wyn yn llai tebygol o gwblhau'r CPE a'r LPC yn llwyddiannus, canfyddiad a wnaethom yn adroddiad 2016/17 hefyd.
  • Fel y gwelsom y llynedd, mae'n ymddangos bod myfyrwyr benyw a myfyrwyr gwryw yn perfformio cystal ar y CPE a'r LPC, a cheir mwy o fenywod na dynion ar y ddau gwrs adeg eu derbyn.
  • Mae ein data ar ethnigrwydd ac anabledd pobl sydd wedyn yn dechrau eu PRT yn llai cynhwysfawr. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod 94% o'r bobl a oedd yn dechrau eu PRT wedi cofrestru eu hethnigrwydd fel 'anhysbys' yn 2017/18. Ac fe wnaeth llai nag 1% (pedwar o bobl) ddatgan anabledd, ffigur nad yw'n adlewyrchu'r niferoedd sy'n datgan anabledd ar yr LPC (15%) neu'r GDL (14%). Roedd y niferoedd o safbwynt y PRT yn debyg yn adroddiad 2016/17, gyda 92% yn datgan eu hethnigrwydd fel 'anhysbys' a naw o bobl yn unig yn datgan anabledd.

Dylai profi pob darpar cyfreithiwr drwy gyfrwng un arholiad, yr SQE, sicrhau safonau uchel, cyson yn well pan fo pobl yn ymuno â'r proffesiwn.

Adolygu cymhwysedd

Disgwyliwn i bob cyfreithiwr gyflenwi lefel briodol o wasanaeth i gleientiaid. I wneud hyn, rhaid i gyfreithwyr fodloni ein safonau drwy gadw eu sgiliau a'u gwybodaeth yn ddiweddar. Mae'r safonau y disgwyliwn iddynt eu cynnal i'w gweld yn ein Datganiad Cymhwysedd.

Yn 2016, fe wnaethom newid ein gofynion ynglŷn â sut mae cyfreithwyr yn bodloni'r safonau hyn. Symudom oddi wrth ofyn i gyfreithwyr ddilyn 16 awr o hyfforddiant cymeradwy gorfodol i broses fwy berthnasol a diweddar. Mae angen i gyfreithwyr yn awr wneud datganiad blynyddol inni eu bod wedi myfyrio ar, wedi adnabod a rhoi sylw i unrhyw anghenion dysgu a datblygu.

Yn 2019, fe wnaethom gynnal adolygiad thematig o waith 20 cwmni, arolwg ar-lein a gafodd bron 500 o ymatebion, a buom yn ystyried y datganiadau blynyddol a wna cyfreithwyr inni ynglŷn â chymhwysedd parhaus. Roeddem eisiau cael adborth cynnar ar sut roedd y dull newydd yn gweithio – er ei bod yn dal yn fuan i ddod i gasgliadau cadarn. Canfyddiadau'r gwaith hwn, ymysg pethau eraill, oedd:

  • Dywedodd y rhan fwyaf o gwmnïau a chyfreithwyr eu bod yn gweithredu'r dull newydd heb lawer o broblemau.
  • Ni wireddwyd unrhyw bryderon y gallai'r dull newydd arwain at fod cyfreithwyr yn esgeuluso eu hanghenion dysgu a datblygu. Dangosodd canlyniadau ein harolwg fod 52% o gyfreithwyr yn dweud eu bod yn gwneud tua'r un faint o ddysgu a datblygu, roedd 40% yn gwneud mwy, a dim ond 9% oedd yn gwneud llai.
  • Teimla'r cyfreithwyr nad yw tynnu'r gofyn 16 awr wedi arwain at ddirywiad yn ansawdd eu gwaith. Teimlai bron 40% o'r ymatebwyr fod ein newidiadau wedi gwella cymhwysedd cyfreithwyr.

Fodd bynnag, canfuom hefyd fod cyfreithwyr a chwmnïau yn dal i'w chael yn anodd gweithredu ein cynllun, megis arferion cadw cofnodion da. Hefyd, dywedodd nifer fechan o gyfreithwyr a oedd wedi dychwelyd datganiad negyddol yn gyson nad oeddent wedi myfyrio na rhoi sylw i'w hanghenion dysgu.

Yn dilyn y gwaith hwn, byddwn yn cymryd camau i roi rhagor o gefnogaeth i gyfreithwyr a thynnu sylw at yr adnoddau yr ydym eisoes wedi'u paratoi. Byddwn yn parhau i fonitro ein data a mynd ar drywydd y nifer fechan o ddatganiadau negyddol. Gwneir hyn i sicrhau bod pob cyfreithiwr yn gwybod bod ganddynt rwymedigaeth i fyfyrio ar eu hanghenion dysgu a datblygu a rhoi sylw i unrhyw fylchau.

Byddwn yn cynnal adolygiad strategol o'n dull o reoleiddio cymhwysedd parhaol cyfreithwyr, ac mae hon yn debygol o fod yn rhaglen waith a fydd yn parhau am flynyddoedd lawer.

Yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr yn 2018/19

I sicrhau bod yr holl gyfreithwyr yn cael eu profi i'r un safon uchel, ni waeth ar hyd pa lwybr y dônt i mewn i'r proffesiwn, rydyn ni'n cyflwyno'r SQE. Bydd pobl yn gwybod bod sgiliau a gwybodaeth graidd cyfreithwyr wedi cael eu hasesu yn erbyn safon gyson.

Yn ystod 2018/19, fe wnaethom gadarnhau dyddiad lansio'r SQE a chynnal peilot SQE1, gan addasu rhan gyntaf yr asesiad ar sail ei ganlyniadau. Fe wnaethom hefyd benodi adolygydd i archwilio'r SQE yn annibynnol. Ym mis Rhagfyr 2019, fe wnaethom gadarnhau pa wybodaeth gyfreithiol a fyddai'n cael ei phrofi yn SQE1 a chynhaliwyd y peilot ar gyfer SQE2.

Mae rhagor o wybodaeth am yr SQE a'i ddyluniad i'w cael ar ein gwefan. Mae rhagor o wybodaeth hefyd i'w chael yn ein brîff ar yr SQE.

Gyrfa yn y Gyfraith

Ym mis Hydref 2018, fe wnaethom lansio Career in Law, sy'n dudalen Facebook a fwriedir i helpu myfyrwyr a darpar gyfreithwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am fod yn gyfreithiwr.

Mae'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gymhwyso fel cyfreithiwr yn awr ac i'r dyfodol. Mae ganddo wybodaeth am beth fydd yr SQE newydd yn ei asesu o fis Medi 2021 ymlaen, beth mae profiad gwaith cymhwyso yn ei olygu a thestunau defnyddiol eraill. Yr oll mae angen i ddarpar gyfreithwyr ei wneud ydy dilyn y dudalen Facebook i gael diweddariadau rheolaidd.

Yn 2018/19, cafodd postiadau ar Career in Law dros 80,000 o argraffiadau. Y postiadau mwyaf poblogaidd oedd fideos ar ddysgu'r prif ffeithiau am yr SQE a'r pedwar peth y mae ar ddarpar gyfreithwyr ei angen i gymhwyso ar ôl 2021. Ar Hydref 2020, roedd bron 3,000 wedi hoffi'r dudalen.

Yn dilyn y llwyddiant ar Facebook, fe wnaethom lansio tudalen instagram Career in Law ym mis Hydref  2020, i gyflwyno gwybodaeth am yr SQE a'r broses o'i gyflwyno i ragor o ddarpar gyfreithwyr.

Prentisiaethau cyfreithwyr 2016–2019

Rydym yn falch o weld bod nifer y prentisiaethau cyfreithwyr yn dal i gynyddu ers eu cyflwyno yn 2016.

2016 2017 2018 2019
25 75 133 228

Drwy gymhwyso drwy'r llwybr prentisiaethau cyfreithwyr gall unigolion ddechrau neu newid eu gyrfa heb y gost sy'n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae'n annog pobl o bob mathau o gefndiroedd i fod yn gyfreithwyr. Fe wnaethom ddatblygu'r brentisiaeth Trailblazer yn y gyfraith gyda chyflogwyr i sicrhau ei bod yn darparu'r hyfforddiant maent ei angen a'i eisiau.

Ymuno â'r proffesiwn

Mae cyfreithwyr ar hyn o bryd yn ymuno â'r proffesiwn drwy amrywiol lwybrau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymryd gradd draddodiadol yn y gyfraith neu radd mewn pwnc heblaw'r gyfraith a'r CPE, ac yna'r LPC
  • cymhwyso fel cyfreithiwr dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)
  • cymhwyso fel Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig, ac yna mynd ymlaen i gymryd yr LPC. 

Mae'r tabl a'r siart isod yn dangos nifer yr unigolion a ymunodd â'r proffesiwn ar hyd pob llwybr o 2016 i 2019. Sylwer fod y ffigurau hyn yn gywir ym mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf. Mae diffiniad o'r termau i'w weld yn yr eirfa.

2016/17 2017/18 2018/19
Total joining the profession 6,599 6,785 7,003
 

Gall arall olygu, er enghraifft, rhywun sy'n cymhwyso o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, rhai RELs a Chlercod Ynadon.

Ymuno â'r proffesiwn 2018/19

Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn dal i ymuno â'r proffesiwn yn yr hydref. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod rhaglenni hyfforddiant dwy flynedd cwmnïau cyfreithiol fel arfer yn dilyn y flwyddyn academaidd, ac yn gorffen ar ddiwedd yr haf. Gwelwn hefyd ymchwydd bychan yn nifer y cyfreithwyr a dderbyniwn ym mis Mawrth, oherwydd bod gan rai darparwyr hyfforddiant ail gylch ar gyfer derbyn hyfforddeion y pryd hwnnw

Cyfanswm a dderbyniwyd: 7,003.

 

Awdurdodi sefydliadau i gynnal cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig

Fe wnaethom awdurdodi 5,877 o sefydliadau i ddarparu PRT, sef y rhan o'r hyfforddiant cyfreithwyr sy'n seiliedig ar waith, yn 2018/19. Cwmnïau cyfreithiol yw oddeutu tri chwarter o'r rhain, ac mae'r gweddill yn ganolfannau cyfreithiol neu'n dimau cyfreithiol mewnol.

Dulliau cyfatebol

Yn 2014, cyflwynom ddulliau cyfatebol. Mae'n caniatáu i unigolion ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cyfnod penodol o hyfforddiant drwy ddangos eu bod yn meddu ar brofiad cyfatebol. Er enghraifft, byddwn yn caniatáu i gyfreithwyr gymhwyso os oes ganddynt brofiad sy'n cyfateb i PRT, hyd yn oed os nad ydynt wedi cwblhau PRT dwy flynedd â chwmni cyfreithiol.

Rydyn ni'n dal i weld pobl yn mynd ar drywydd dulliau cyfatebol fel ffordd o fodloni ein gofynion.

2015/16 2016/17 2017/18 2018/19
63 70 85 88

Hawl uwch i ymddangos

Sifil Troseddol Y ddau Cyfanswm
2016/17 2,131 (31%) 3,272 (48%) 1,464 (21%) 6,867
2017/18 2,279 (33%) 3,200 (46%) 1,437 (21%) 6,916
2018/19 2,439 (35%) 3,153 (45%) 1,417 (20%) 7,009

Sylwer, bod y ffigurau hyn yn gywir ym mis Hydref yn y flwyddyn olaf.

Ymchwil i eiriolaeth

Yn 2019, cyhoeddom ymchwil i eiriolaeth ym mhroffesiwn cyfreithwyr. Fe wnaethom arolygu 2,830 o gyfreithwyr unigol ac 851 o gwmnïau i gael gwell syniad o pwy sy'n darparu gwasanaethau eiriolaeth, pa fathau o eiriolaeth y maent yn ei darparu, a'r mathau o lysoedd y maent yn ymarfer ynddynt. Dyma'r prif ganfyddiadau o'r ymchwil:

  • Mae un o bob tri chwmni cyfreithwyr (32%) yn cynnig eiriolaeth droseddol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar wrandawiadau dedfrydu a phleon o euogrwydd. Mae bron 60% o gwmnïau'n darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer achosion sifil, 47% ym meysydd cyfraith teulu, a 32% mewn tribiwnlysoedd.
  • Mae bron 7,000 o gyfreithwyr ar draws Cymru a Lloegr yn dal y cymhwyster hawl uwch i ymddangos. Canfu'r arolwg nad oedd bron chwarter o'r rheini a holwyd erioed wedi gwneud gwaith eiriol mewn uchel lys.
  • Yn gyffredinol, teimlai'r rhan fwyaf o gwmnïau a chyfreithwyr fod safonau eiriolaeth cyfreithwyr wedi gwella neu wedi aros yr un fath i raddau helaeth dros y 10 mlynedd diwethaf, ond fe wnaethant fynegi pryder ynglŷn â faint o hyfforddiant sydd ar gael yn y maes hwn a'r gost.

Ymgynghoriad ar eiriolaeth

Defnyddiom yr ymchwil hwn i lywio ein hymgynghoriad ym mis Awst 2019, Sicrhau Safonau Eiriolaeth. Ynddo, fe wnaethom gynnig newidiadau yn yr asesiad o eiriolwyr cyfreithwyr a'r gofynion cymhwyso ar gyfer darparu gwasanaeth eiriolaeth mewn achosion mwy difrifol yn y llys ieuenctid. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfreithwyr sy'n ymarfer eiriolaeth droseddol a sifil yn cyrraedd y safonau uchel yr ydyn ni a'r cyhoedd yn eu disgwyl.

Cawsom 61 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y farnwriaeth, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Just for Kids Law a Chyngor ar Bopeth, i gael gwybod eu safbwyntiau. Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddom fesurau newydd gyda'r nod o gynnal a sicrhau safonau eiriolaeth uchel ymysg cyfreithwyr. Daw'r rhain i rym yn 2021. Dyma rai o'r argymhellion:

  • safonau hawl uwch i ymddangos diwygiedig
  • asesiadau hawl uwch i ymddangos na ellir eu cymryd cyn cael eich derbyn
  • penodi un darparwr asesiadau hawl uwch i ymddangos (a wneir yn ystod haf 2022 fan gynharaf)

Ar ôl adolygu'r adborth, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â chynnig y dylai cyfreithwyr sy'n gweithredu mewn achosion difrifol yn y llys ieuenctid fod â chymhwyster hawl uwch pe byddai hawl o'r fath yn angenrheidiol pe gwrandewid yr achos yn mewn llys oedolion. Yn hytrach, byddwn yn adeiladu ar ein gwaith diweddar i ddarparu adnoddau ar gyfer ymarferwyr y llys ieuenctid, ac ar gyfer pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn hefyd yn samplo cofnodion dysgu a datblygu ymarferwyr ar hap, er mwyn cael sicrhad a dealltwriaeth o sut maent yn cynnal eu cymhwysedd.

Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ein hymchwil blaenorol i amgyffredion y farnwriaeth o ansawdd eiriolaeth droseddol ac ein hadolygiad thematig o eiriolaeth droseddol, a gyhoeddwyd yn 2018. Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth i Adolygiad Jeffrey y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a edrychai i sut caiff diffynyddion troseddol gynrychiolaeth gyfreithiol annibynnol yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr

Byddwn yn parhau i weithio â rhanddeiliaid allweddol, y proffesiwn, academyddion a darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu'r SQE cyn ei gyflwyno yn hydref 2021. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer cynnal yr asesiadau cyntaf. Eisteddir arholiad cyntaf yr SQE1 ym mis Tachwedd 2021, ac arholiad cyntaf SQE2 ym mis Ebrill 2022.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio â Kaplan ar gyflwyno'r SQE yn Gymraeg, fesul cam, gan helpu i fodloni anghenion y proffesiwn a'r cyhoedd yng Nghymru.

Cymhwyster parhaol

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd safonau uchel adeg ymuno â'r proffesiwn, ond hefyd gydol ymarfer cyfreithwyr dros flynyddoedd lawer. Byddwn yn cynnal adolygiad strategol o'n dull o reoleiddio cymhwysedd parhaol cyfreithwyr, gan adeiladu ar y gwaith a wnaethom yn 2019. Mae hon yn debygol o fod yn rhaglen a fydd yn parhau am flynyddoedd lawer.

Safonau eiriolaeth

Mae ansawdd eiriolaeth ac ymarfer troseddol yn faes sy'n effeithio'n benodol ar bobl agored i niwed mewn cymdeithas. Bwriadwn adolygu'r cynllun hwn yn rheolaidd yng ngoleuni'r canfyddiadau o'n hymgynghoriad ar Sicrhau Safonau Eiriolaeth. Rhan o hyn yw edrych ar yr hyn y gallwn ei gynhyrchu i gefnogi'r proffesiwn, gan adeiladu ar ein gwaith i gefnogi cyfreithwyr sy'n gweithio yn y system cyfiawnder ieuenctid, a gyda'r bobl ifanc cysylltiedig.

Ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2020—23

Mae Tachwedd 2020 yn nodi dechrau ein Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd newydd. Yr amcan cyntaf o dri yw gosod a chynnal safonau proffesiynol uchel i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol fel y byddai'r cyhoedd yn ei ddisgwyl a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gweithredol ar lefel yr un mor uchel. Mae addysg a hyfforddiant a sicrhau safonau uchel adeg derbyn cyfreithwyr ac wrth iddynt barhau i ymarfer, wrth gwrs, yn ganolog i hyn. 

Cynrychiolaeth mewn gorsafoedd heddlu

Mae mynediad i gyngor cymwys mewn gorsaf heddlu yn amddiffyniad pwysig yn y system cyfiawnder troseddol, yn enwedig i rai agored i niwed. Rydym yn awdurdodi darparwyr cymhwyster y Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd Heddlu ac rydym eisiau gwella ein trefniadau sicrhau ansawdd ar gyfer y cymhwyster hwn drwy adolygu'r trefniadau presennol eleni a gwneud unrhyw newidiadau sy'n ofynnol yn 2021/22. Gan edrych i'r dyfodol, mae'n bosibl y byddwn hefyd eisiau ystyried cyfres o gymwysterau i roi sylw i heriau a chyfleoedd wrth i'r farchnad gyfreithiol a'r proffesiwn ddatblygu.

Deall patrymau cyrhaeddiad

Mae ein trydydd amcan yn y Strategaeth Gorfforaethol 2020–23 yn ymwneud â meithrin ein dealltwriaeth o gyfleoedd a sialensiau datblygol i ddefnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a'r sector cyfreithiol, a'n rôl ninnau yn ei reoleiddio'n effeithiol.

Dylai'r proffesiwn cyfreithiol adlewyrchu'r gymdeithas a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, os yw am fodloni anghenion yr holl ddefnyddwyr a denu cronfa eang o ddoniau a syniadau a phrofiadau amrywiol.

Mae cyrhaeddiad gwahaniaethol y mae cryn dystiolaeth iddo yn effeithio ar fyfyrwyr BAME ar bob lefel o addysg a hyfforddiant ac asesiadau proffesiynol mewn amryfal sectorau. Fe wnaeth ein hadroddiad diweddaraf ar Reoleiddio ac Addysg ddangos hyn, fel y gwnaeth mewn blynyddoedd blaenorol. Mae astudiaethau ar draws nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys er enghraifft, fferylliaeth, meddygaeth ac addysg uwch drwyddo draw, hefyd yn dangos hyn.

Credwn y gallwn gynnig asesiad tecach a mwy cyson drwy arferion dylunio, gosod cwestiynau a marcio da, ynghyd â threfniadau sicrhau ansawdd a monitro agos unwaith bydd yr SQE yn weithredol. Bydd yr SQE yn caniatáu inni hoelio ein sylw ar y mater hwn ac adnabod a rhannu ymarfer hyfforddi da. Mae'n bwysig nodi, tra ein bod yn meddwl y gall SQE helpu, mae'n debygol y bydd y bwlch cyrhaeddiad yn parhau, fel y gwna mewn meysydd eraill, gan fod y rhesymau am hyn, i bob golwg, yn rhai cymhleth ac wedi'u gwreiddio mewn materion ehangach yn y gymdeithas.

Bwriadwn rannu ein data, comisiynu ymchwil a gweithio ag eraill i gynyddu ein dealltwriaeth o'r materion anodd hyn, gan gynnwys sut mae nodweddion gwarchodedig a symudedd cymdeithasol yn croestorri, pa achosion cymdeithasol a allai fod i gyfrif am y tangyflawni a welsom a beth gellid ei wneud. Dyma ddechrau prosiect sy'n debygol o bara nifer o flynyddoedd.

Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol (CILEx)
Yn darparu hyfforddiant i fod yn swyddog gweithredol cyfreithiol ac yn rheoleiddio swyddogion gweithredol cyfreithiol.
Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE)
Cwrs gradd i raddedigion nad oes ganddynt radd yn y gyfraith sydd eisiau bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru neu yn Lloegr. Fe'i gelwir hefyd yn Ddiploma yn y Gyfraith i Raddedigion.
Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL)
Gweler CPE.
Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC)
Cyfnod galwedigaethol yr hyfforddiant yn union cyn cyfnod yr hyfforddiant cydnabyddedig (gweler isod). Mae'n cyfuno hyfforddiant academaidd a hyfforddiant ymarferol, i baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith mewn cwmni cyfreithiol.
Cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)
Dysgu seiliedig ar waith, mewn cwmni cyfreithiol fel arfer, sy'n rhan o'r cyfnod galwedigaethol ar y llwybr at gymhwyso fel cyfreithiwr.
Cwrs Sgiliau Proffesiynol (PSC)
Cam terfynol yr hyfforddiant cyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, megis cyfathrebu a gofalu am gwsmeriaid.
Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)
Mae'r cynllun yn cynnwys asesiadau y mae'n rhaid i bobl eu cymryd os ydynt eisoes wedi cymhwyso fel cyfreithiwr mewn awdurdodaeth arall a'u bod eisiau cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT)
Mae'r prawf hwn yn cyflawni'r un rôl â'r QLTS. Mae wedi cael ei raddol ddileu i raddau helaeth a'i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fechan o unigolion yn dal i ymuno â'r proffesiwn ar hyd y llwybr hwn.
Profiad gwaith cymhwyso (QWE)
Un o'r elfennau sy'n angenrheidiol i basio'r SQE.
Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE)
Arholiad y bydd angen i bob darpar gyfreithiwr ei gymryd i gymhwyso fel cyfreithiwr. Caiff ei rannu yn ddau gam, SQE1 ac SQE2, a bydd yn asesu gwybodaeth gyfreithiol a sgiliau cyfreithiol ymarferol.