Adroddiad Blynyddol 2015/16

Darllenwch y fersiwn Saesneg

Mae ein Hadolygiad Blynyddol 2015/16 yn trafod ein perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn ein Strategaeth Gorfforaethol a gweithgareddau rheoleiddiol allweddol o'r flwyddyn a adroddwyd.

Lawrlwythwch (PDF 27 tudalen, 8MB)

Cyhoeddwyd: Awst 2017

Rhagair

Enid RowlandsCroeso i Adolygiad Blynyddol 2015/16. Adolygiad yw hwn sy’n dangos beth rydym wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn yn yr holl feysydd sy’n bwysig i’n gwaith, yn ogystal ag edrych ar rai o’r prif themâu ac ar sut y mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 2015/16 yn gyfnod prysur inni ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud cynnydd da. Nid yn unig y mae ein rhaglen ar gyfer newid yn parhau i wella’n ffordd o weithio, ond mae’n golygu hefyd ein bod yn symleiddio ac yn diweddaru ein model wrth reoleiddio.

Nod ein rhaglen graidd i ddiwygio ein gwaith rheoleiddio – Edrych i’r Dyfodol – yw cymryd camau pellach i ddatblygu marchnad gyfreithiol gystadleuol a modern, a hynny gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd. Mae lleihau biwrocratiaeth, cael gwared ar gyfyngiadau diangen, canolbwyntio ar safonau proffesiynol ac annog arloesi yn golygu y gall cwmnïau cyfreithiol gynnig mwy o wasanaethau mewn ffyrdd newydd.

Mae hynny'n sicr o annog twf mewn gwasanaethau fforddiadwy, hygyrch i'r cyhoedd ac i fusnesau.

Yn amlwg, mae’n bwysig bod cyfreithwyr yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd da, ac mae hynny’n golygu bod angen safonau uchel cyn y gall pobl ddechrau gweithio yn y proffesiwn. Yn 2015/16, cymerwyd camau o bwys wrth inni agor y drws i’r proffesiwn drwy ffyrdd newydd o roi hyfforddiant sy’n galluogi pobl i ennill cyflog wrth ddysgu, ac wrth gyflwyno un arholiad i’r holl ddarpar gyfreithwyr

Cam arall oedd gwella'r modd y gall pobl fynd ati i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithwyr, a hynny drwy lansio, yn gynharach yn y flwyddyn, ein system boblogaidd ar-lein i chwilio am gwmnïau cyfreithiol. Mae’r system hon eisoes yn cael ei defnyddio’n helaeth, ac mae’n wasanaeth sy’n helpu’r cyhoedd i weld y wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn gwneud dewis da wrth fynd at gyfreithiwr. Ym mis Hydref, cyhoeddwyd papur trafod ynghylch rhannu gwybodaeth am gyfreithwyr. Roedd hyn yn datblygu’r gwaith hwn ymhellach ac yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu ein gwasanaethau yn y blynyddoedd nesaf.

Mae miloedd o bobl wedi ein helpu i ddatblygu ein rhaglenni diwygio eleni, ac i mi, mae hynny’n hynod bwysig. Nid gwrando ar farn pobl yn unig a wnaethom, ond yn go bwysig, rydym wedi gwrando ar sut y gallwn roi gwasanaethau gwell i gwsmeriaid a gwella sut a pha bryd y gwnawn ein gwaith. Rydym wedi ymdrechu’n galed i geisio barn rhanddeiliaid, boed drwy ein hymgyrch Mater o Ymddiriedaeth (gan ofyn i gyfreithwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd eu barn am yr hyn y dylai ddigwydd pan aiff pethau o chwith), ein digwyddiadau o bob math a’n gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cyrraedd mwy a mwy o bobl yn gynyddol. Fy hun, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n achub ar bob cyfle i siarad â’r cyhoedd a’r proffesiwn – a dyna’n union a wnaethom. Rydym yn gwneud hyn er mwyn ateb anghenion pawb y mae angen gwasanaethau cyfreithiwr arnynt, y rheini sy’n pryderu am yr hyn y mae cyfreithwyr wedi’i wneud, ac yn wir y cyfreithwyr eu hunain.

Mae gennym fwy o lawer o hyd i’w wneud. Ond yn 2015/16 fe osodwyd y sylfeini ar gyfer parhau i wneud cynnydd a diwygio pethau yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bu’n flwyddyn dda, ond fel erioed, mae gennym fwy o lawer o hyd i’w wneud.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, fe allwch chi ddarganfod mwy am sut yr ydym yn gweithio ac am ein blaenoriaethau ar ein gwefan a thrwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf wastad yn awyddus i glywed sylwadau pobl, felly cysylltwch ar bob cyfrif.

Enid Rowlands
Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Amdanom ni

Mae’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr yn rheoleiddio 170,000 o gyfreithwyr a 10,400 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio er budd y cyhoedd, gan ddiogelu defnyddwyr a gosod a gorfodi safonau proffesiynol da. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol fforddiadwy ar gael, ac yn cefnogi rheol gyfreithiol a’r gwaith o weinyddu cyfiawnder.

Gosod safonau proffesiynol da

Rydym yn sicrhau bod y rheini sy’n dechrau gweithio yn y proffesiwn yn addas i wneud hynny a’u bod yn cyrraedd y safonau proffesiynol da y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl. Fe wnawn hyn drwy oruchwylio addysg a hyfforddiant proffesiynol, drwy osod y safonau ar gyfer dechrau gweithio, a thrwy sicrhau bod gan bawb sy’n gwneud cais i weithio gymeriad addas cyn caniatáu iddynt ddod yn gyfreithwyr.

Yn yr un modd, rydym yn asesu cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o gwmnïau er mwyn gofalu eu bod yn addas i gynnig gwasanaethau cyfreithiol, cyn caniatáu iddynt wneud hynny. Unwaith y mae’r unigolion a’r cwmnïau hyn wedi dechrau gweithio, rydym yn rhoi arweiniad a rheolau iddynt, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus, er mwyn sicrhau bod y safonau hynny’n cael eu cynnal.

Gwybodaeth ac arweiniad

Rydym yn rhoi gwybodaeth am gyfreithwyr, am eu gwaith, ac am y safonau y gall y cyhoedd ddisgwyl eu gweld. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ac amserol ar gael i ddefnyddwyr, i’w helpu i wneud dewisiadau da wrth dalu am wasanaeth cyfreithiol.

Diogelu defnyddwyr

Rydym yn sicrhau bod y cyhoedd wedi'u diogelu, a hynny drwy gymryd camau pan aiff pethau o chwith. Rydym yn gosod y gofynion o ran cael yswiriant indemniad, ac yn monitro hynny. Mae gennym hefyd gynllun iawndal. Mae’r gronfa hon yn bodoli er mwyn ad-dalu pobl sydd wedi colli arian yn sgil anonestrwydd neu ddiffyg gallu ar ran yr unigolion neu’r cwmnïau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio.

Camau disgyblu

Rydym yn monitro ac yn goruchwylio ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau yn unol â'r safonau yr ydym wedi’u gosod. Os na fydd cyfreithwyr neu gwmnïau yn cyrraedd y safonau hyn, rydym yn ymchwilio i’w harferion ac i’r modd y maent yn cydymffurfio â’n rheolau, ac os bydd galw, gallwn gymryd camau rheoleiddio fel rhoi dirwyon neu geryddu cyfreithwyr. Os bydd gennym bryderon difrifol am ymddygiad cyfreithiwr neu gwmni, byddwn yn eu herlyn drwy’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, sy’n dribiwnlys annibynnol. Pan fydd galw, gallwn feddiannu ffeiliau ac arian cwmni er mwyn diogelu cleientiaid a'r cyhoedd yn ehangach, gan ddychwelyd y papurau a'r arian i'w perchnogion.

Gwasanaethau cyfreithiol fforddiadwy a hygyrch

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl na busnesau bach yn defnyddio gwasanaethau cyfreithiol pan fyddant yn wynebu problem gyfreithiol. Gwyddom fod pobl yn ystyried bod gwasanaethau cyfreithiol yn ddrud ac yn anodd i’w defnyddio, ac felly rydym yn gweithio i greu marchnad agored, fodern a chystadleuol, a honno’n rhoi gwasanaethau mwy fforddiadwy a hygyrch. Er mwyn gwneud hyn, rydym wrthi'n adolygu ein gofynion rheoleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur. Rydym hefyd yn cymryd camau i leihau biwrocratiaeth ddiangen, fel y gall cyfreithwyr a chwmnïau gynnal busnes yn haws a chynnig gwasanaethau newydd, gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.

Cyllid

Pwy sy’n ariannu ein gwaith

Bob blwyddyn, rydym yn casglu ffioedd gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy’n gweithio ym maes cyfraith Cymru a Lloegr dramor.

Rydym yn ceisio adfer rhywfaint o’r arian neu’r holl arian a wariwn wrth ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol neu wrth gymryd camau disgyblu yn erbyn y rheini sy'n cael eu rheoleiddio gennym. Rydym hefyd yn creu incwm drwy awdurdodi busnesau sydd â strwythurau gwahanol i gynnig gwasanaethau cyfreithiol o dan ein system reoleiddio, a thrwy roi tystysgrifau am enw da, ymhlith pethau eraill.

Mae gennym hefyd Gronfa Iawndal. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu ardoll flynyddol tuag at y gronfa, a ninnau wedyn sydd yn gwneud unrhyw daliadau ohoni.

Faint y mae cyfreithwyr a chwmnïau yn ei dalu

Mae’r ffi yr ydym yn ei chasglu yn cael ei gosod er mwyn ariannu neu ariannu’n rhannol bum sefydliad, gan gynnwys ni. Yn 2015/16, roedd pob cyfreithiwr yn talu £320 er mwyn gweithio, a chasglwyd £62.7m gan gwmnïau, gyda'r swm y mae pob cwmni'n ei dalu yn amrywio yn dibynnu ar faint a throsiant y cwmni hwnnw. Yn 2015/16, casglwyd cyfanswm o £105.8m.

Rhoi gwerth am arian

Dylai ein dull o reoleiddio fod yn gost-effeithiol, yn fforddiadwy ac yn gymesur, a dyna pam ein bod yn monitro faint y mae cwmnïau a chyfreithwyr yn ei dalu bob blwyddyn tuag at y gwaith rheoleiddio hwnnw.

Yn sail i’n polisi ffioedd y mae egwyddorion sy’n cynnwys bod yn deg â’r rheini sy’n talu ffioedd a sicrhau sefydlogrwydd wrth bennu faint y mae’r rheini sy’n cael eu rheoleiddio yn ei dalu o flwyddyn i flwyddyn.

Er ein bod wedi gweld cyfradd chwyddiant o 4.7% dros y pedair blynedd ddiwethaf, rydym wedi talu am y costau cynyddol hyn ein hunain, ac mae’r cyfanswm y mae unigolion a chwmnïau yn ei dalu i’r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr wedi aros yn gyson dros y pedair blynedd ddiwethaf.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17
£53.6m £52.9m £54.1m £53.5m

Sut y mae’r ffi yn cael ei rhannu

Mae’r ffi yn cael ei rhannu rhwng y canlynol:

  • Cymdeithas y Cyfreithwyr, sef y corff sy'n cynrychioli cyfreithwyr (rydym yn rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr)
  • Ombwdsmon y Gyfraith, sef y sefydliad sy’n ymdrin â chwynion am gyfreithwyr pan fydd y cwynion yn gysylltiedig â’r gwasanaeth y maent yn ei roi
  • y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, sef y corff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r broses o reoleiddio cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys, er enghraifft, cyfreithwyr, bargyfreithwyr a'r rheini sydd wedi’u trwyddedu i wneud gwaith trawsgludo)
  • y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, sef tribiwnlys statudol annibynnol sy’n delio ag erlyniadau a gaiff eu dwyn yn erbyn cyfreithwyr
  • yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr , sy’n rheoleiddio cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ombwdsmon y Gyfraith a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol hefyd yn cael cyllid gan rannau eraill o'r proffesiwn cyfreithiol.

2015/16

Yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr 51%
Cymdeithas y Gyfraith 33%
Ombwdsmon y Gyfraith a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol 13%
Y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 3%

Sut yr ydym yn gwario ein harian

Costau staff 43%
Ffioedd cyfreithiol mewn achosion disgyblu 11%
Camau ymyrryd 8%
Costau eraill, fel treuliau swyddfa a rhaglenni ymchwil 21%
Y gwasanaethau yr ydym yn eu rhannu â Chymdeithas y Gyfraith, er enghraifft adnoddau dynol a’r adran gyllid 11%
Prosiectau fel adnewyddu tystysgrifau blynyddol ar gyfer cyfreithwyr 6%

Strwythur y Sefydliad

Y Bwrdd

Enid Rowlands, Cadeirydd

15 o aelodau sy’n goruchwylio holl waith yr Awdurdod.

Mae saith yn gyfreithwyr ac wyth yn aelodau lleyg, gan gynnwys y Cadeirydd.


Y Prif Weithredwr

Paul Philip

Yn arwain cyfeiriad strategol yr Awdurdod


Materion Allanol

Cyfarwyddwr Gweithredol, Jane Malcolm

Yn rheoli gwaith ymgysylltu mewnol ac allanol

  • Llywodraethu
    Yn delio â llywodraethu corfforaethol

  • Cwynion Corfforaethol
    Yn delio â chwynion gan y cyhoedd a’r proffesiwn am ein gwasanaeth

  • Cyfathrebu Digidol
    Yn rheoli presenoldeb y sefydliad ar-lein a’n cyfraniad tuag at legalchoices.org.uk ac iclr.net

  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
    Yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y sector, ac yn ymgorffori a chefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith ni'n hunain

  • Cyfathrebu Allanol
    Yn ymwneud â rhanddeiliaid allanol drwy’r cyfryngau a digwyddiadau

  • Cyfathrebu Mewnol
    Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i staff a'u cynnwys yn ein gwaith

  • Materion Cyhoeddus
    Yn gweithio gydag aelodau seneddol ac eraill


Y Cwnsler Cyffredinol

Cyfarwyddwr Gweithredol, Juliet Oliver

Yn canfod ac yn datrys materion cyfreithiol sy’n effeithio ar y sefydliad ac yn goruchwylio’r arferion cyfreithiol gorau a phroses effeithiol o wneud penderfyniadau

  • Polisi Cyfreithiol
    Yn cynorthwyo â’r gwaith o ddiwygio er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern, a hynny drwy ddrafftio a rhoi cyngor cyfreithiol

  • Llywodraethu a Chydymffurfio
    Yn cynghori’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd i sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio’i bwerau mewn ffordd sy’n gyfreithlon ac yn gallu gwrthsefyll her


Cyfarwyddyd ynghylch Achosion Cyfreithiol

Cyfarwyddwr Gweithredol, David Middleton
Yn rhoi arweiniad ar nifer o faterion ac achosion drwy’r sefydliad

  • Cyfarwyddyd ynghylch Achosion
    Yn cynghori unedau eraill drwy’r sefydliad

  • Dyfarniadau
    Yn gwneud penderfyniadau rheoleiddiol ffurfiol ynghylch achosion sy’n destun anghydfod, achosion amlwg neu achosion cymhleth


Gweithrediadau ac Ansawdd

Cyfarwyddwr Gweithredol, Robert Loughlin
Yn rheoli gweithrediadau ac yn monitro pa mor effeithiol ydynt

  • Awdurdodi
    Yn awdurdodi unigolion a chwmnïau i ddechrau gweithio yn proffesiwn ac yn monitro pa mor addas ydynt

  • Gwella Busnes a Sicrhau Ansawdd
    Yn sicrhau ansawdd, yn rheoli gwybodaeth ac yn cefnogi anghenion hyfforddiant

  • Canolfan Gyswllt
    Yn delio ag ymholiadau gan y cyhoedd a’r proffesiwn

  • Diogelu Cleientiaid
    Yn gweinyddu'r Gronfa Iawndal ac yn ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol pan fydd galw

  • Ymchwilio a Goruchwylio
    Yn asesu risgiau, yn dadansoddi ac yn ymchwilio i adroddiadau a wneir am gyfreithwyr bob blwyddyn

  • Cyfreithiol a Gorfodi
    Yn paratoi achosion i'w dwyn gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

  • Rheoli Rheoleiddio
    Yn ymwneud yn rhagweithiol â chwmnïau ynghylch nifer o faterion ac yn cynnal ymchwil thematig i'r sector cyfreithiol


Polisi

Cyfarwyddwr Gweithredol, Crispin Passmore
Yn hyrwyddo newidiadau i bolisi a rheoleiddio o fewn y sector cyfreithiol

  • Addysg a Hyfforddiant
    Yn datblygu polisi ynghylch addysgu a hyfforddi cyfreithwyr

  • Canllawiau Moeseg
    Yn rhoi arweiniad ynghylch ein Cod a’n Llawlyfr i'r rheini sy'n cael eu rheoleiddio gennym

  • Polisi Rheoleiddio
    Yn rhoi diwygiadau ar waith er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern ac yn sicrhau safonau proffesiynol da

  • Ymchwil a Dadansoddi
    Yn ymchwilio ac yn rhoi data i wneud polisïau ar sail tystiolaeth


Strategaeth ac Adnoddau

Cyfarwyddwr Gweithredol, Richard Collins

Yn datblygu ac yn rhoi strategaeth y sefydliad ar waith

  • Newid Busnes
    Yn sbarduno ac yn sicrhau newid a gwella drwy’r holl sefydliad, drwy gydweithio ag eraill

  • TG a’r Seilwaith
    Yn datblygu ac yn rheoli anghenion TG y sefydliad

  • Cyllid, Adnoddau a Chymorth
    Yn rheoli cyllid y sefydliad, yn delio â chysylltiadau â gweithwyr ac adnoddau, ac yn trefnu rhaglenni risg a pharhad

Strategaeth Gorfforaethol

Rydym bellach yn nhrydedd blwyddyn ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2014 i 2017, sef y strategaeth sy'n pennu ein pedwar prif amcan. Mae’r adran hon yn esbonio sut y bu inni berfformio yn unol â phob un o'r rhain yn ystod 2015/16.

Amcan un

Byddwn yn diwygio ein ffordd o reoleiddio er mwyn gallu sicrhau twf ac arloesi yn y farchnad a sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng baich rheoleiddio a diogelu defnyddwyr.

Edrych i’r Dyfodol: Er mwyn creu gwasanaethau cyfreithiol mwy hygyrch, fforddiadwy i’r cyhoedd, mae’r rhaglen hon yn symleiddio ein rheolau.

Mater o Ymddiriedaeth: Gofynnwyd i’r cyhoedd a’r proffesiwn beth oeddent yn ei ddisgwyl gan gyfreithwyr a beth ddylai ddigwydd pan fydd pethau’n mynd o chwith. Bydd yr ymchwil hwn yn dylanwadu ar strategaeth orfodi ddiwygiedig.

Arloesi yn yr Awdurdod: Mae’r cynllun hwn yn helpu cwmnïau sydd am roi gwasanaethau i’r cyhoedd mewn ffydd newydd ac arloesol.

Data am reoleiddio a dewis i ddefnyddwyr: Y cam cyntaf a gymerwyd gennym i greu cofrestr gyhoeddus oedd lansio peiriant ar-lein i chwilio am gwmnïau cyfreithiol, a hwnnw’n rhoi gwybodaeth am y 10,000 a mwy o gwmnïau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio. At hynny, mae papur trafod am y maes hwn yn cynnwys cynigion i gyhoeddi mwy o wybodaeth am gyfreithwyr a chwmnïau, gan helpu'r cyhoedd wrth iddynt benderfynu pa wasanaethau cyfreithiol i dalu amdanynt.

Gweithio gyda chwmnïau bach: Mae ein tîm pwrpasol yn helpu'r grŵp hwn o gwmnïau cyfreithiol, cwmnïau sy'n rhoi gwasanaethau pwysig i nifer o gwsmeriaid ar y stryd fawr.

Mynd i’r afael â gwyngalchu arian: Aethom ati i gynnal adolygiad o bwys o arferion dros 250 o gwmnïau er mwyn rhannu arferion da a helpu’r sector i fynd i’r afael ag achosion o wyngalchu arian.

Amcan dau

Byddwn yn gweithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i wella safonau a sicrhau eu bod yn glynu wrth egwyddorion proffesiynol craidd.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr: Er mwyn sicrhau bod pob cyfreithiwr yn cael ei brofi i’r un safon uchel, waeth pa lwybr a ddilynodd cyn dechrau gweithio yn y proffesiwn, aethom ati i ymgynghori ynghylch cynnal asesiad canolog ar gyfer cyfreithwyr.

Cymhwysedd parhaus: Cafodd ein dull newydd o sicrhau datblygiad proffesiynol – sef cymhwysedd parhaus – ei gyflwyno. Roedd hyn yn disodli’r dull blaenorol, sef ticio blychau wrth gyfrif oriau. Rydym bellach yn gofyn i gyfreithwyr sicrhau eu bod yn gymwys i weithio, gan fanteisio ar yr hyfforddiant perthnasol a chadarnhau wrthym eu bod wedi diweddaru eu gwybodaeth gyfreithiol.

Cyfreithwyr sy’n gweithio mewn Llysoedd Ieuenctid: Buom yn gweithio gyda’r System Cyfiawnder Troseddol ac eraill i sicrhau bod cyfreithwyr sy’n gweithio yn y Llys Ieuenctid yn gallu defnyddio’r dull newydd sydd wedi’i seilio ar gymhwysedd parhaus. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwasanaeth o ansawdd da.

Prentisiaethau cyfreithwyr: Cafodd y prentisiaethau ‘Trailblazer’ yn y gyfraith a ddatblygwyd gennym gyda chyflogwyr a CILEx Regulation eu cymeradwyo a’u cyhoeddi gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, fel oedd hi bryd hynny. Disgwyliwn i nifer y prentisiaethau cyfreithiol gynyddu, gan agor y drws i bobl allu dechrau gweithio yn y proffesiwn.

Y rhagolygon risg: Rydym yn tynnu sylw at risgiau yn y byd cyfreithiol – fel seiberdroseddu a diogelu arian cleientiaid – ac yn gwneud argymhellion ynghylch sut i fynd i’r afael â hyn drwy ein cyhoeddiadau ynghylch risg.

Rhybuddion: Yn 2015/16, fe gyhoeddwyd rhybuddion gennym mewn dau faes. Roedd y cyntaf yn ymwneud â’r rheini yr ydym yn eu rheoleiddio yn derbyn achosion a oedd yn ymwneud â gwaith ym maes anafiadau personol, a’r rheini wedi’u cyfeirio atynt gan drydydd partïon – sef rhywbeth a waharddwyd yn 2013. Roedd yr ail yn ymwneud â chwmnïau cyfreithiol yn ymwneud â chynlluniau buddsoddi sy’n defnyddio twyll i sicrhau elw mawr, rhywbeth sydd wedi costio dros £100m i’r cyhoedd.

Amcan tri

Byddwn yn gwella ein perfformiad wrth weithredu ac yn gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau yn gyflym, yn effeithiol ac yn effeithlon.

Datblygu’r modd y gweithredwn: Dyma’r gwelliannau o bwys a wnaed i’r modd yr ydym yn gweithredu dros y ddwy flynedd ddiwethaf (mis Medi 2014 tan fis Medi 2016):

  • cyfartaledd yr amser i awdurdodi ceisiadau gan gwmnïau wedi lleihau o 74 diwrnod i 30 diwrnod
  • cyfartaledd yr amser i gynnal ymchwiliad disgyblu wedi lleihau o 102 diwrnod i 86 diwrnod

Cafwyd gwelliant hefyd wrth roi tystysgrifau i ganiatáu cyfreithwyr i weithio, gan gwtogi dau ddiwrnod ar yr amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny.

Y rhaglen i foderneiddio TG: Datblygwyd a chytunwyd ar strategaeth TG newydd er mwyn disodli ein systemau craidd gyda systemau mwy modern a hyblyg, a rhai sydd â chostau gweithredu is yn y tymor hir.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Cryfhawyd ein prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau drwy roi hyfforddiant i staff ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, rhagfarn ddiarwybod ac urddas yn y gwaith. I gyd-fynd â’n strategaeth gorfforaethol, mae gennym strategaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Ein gwerthoedd: Aethom ati i gyflwyno pump o werthoedd craidd i’r staff:

  • Annibynnol
  • Proffesiynol
  • Teg
  • Blaengar
  • Chynhwysol.

Amcan pedwar

Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i wella ansawdd ein gwasanaethau a’u profiad wrth eu defnyddio.

Ymgysylltu wyneb yn wyneb: Rydym yn ceisio ymwneud â’r cyhoedd a’r proffesiwn ledled Cymru a Lloegr, ac roeddem yn bresennol mewn 175 o ddigwyddiadau y llynedd. Cynhaliwyd 12 o sesiynau Cwrdd â’r Bwrdd ar gyfer y proffesiwn a chymdeithasau cyfraith lleol.

Gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol: Bu cynnydd o 8% yn yr ymweliadau â’n gwefan, i 1.7 miliwn. Cynyddodd prysurdeb ein gwefan Legal Choices i’r cyhoedd, gyda’r ymweliadau yn cynyddu dros 80% i 40,000.

Grwpiau cyfeirio rhithiol: Mae gennym bump grŵp yr ydym yn eu defnyddio i ymwneud â phobl ar raglenni hirdymor ac i ddatblygu polisïau. Mae’r rhain yn delio â’r canlynol: yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig, yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, arloesi yn yr Awdurdod, cwmnïau bychain a phwysigrwydd amrywiaeth.

Gweithlu modern: Aethom ati i gasglu ein trydedd set o ddata am amrywiaeth mewn cwmnïau, gydag 88% o gwmnïau cyfreithiol yn rhoi eu data inni.

Presenoldeb rhyngwladol: Datblygwyd y wefan iclr.net gennym ar y cyd â rheoleiddwyr ym mhedwar ban byd, ac fe’i lansiwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol y Rheoleiddwyr Cyfreithiol. Mae’r wefan yn cefnogi’r gymuned fyd-eang o reoleiddwyr y sector cyfreithiol drwy rannu ymchwil, syniadau ac arferion gorau.

Gadael yr UE: Cyhoeddwyd Exiting the EU: An update for lawyers gennym, gan dynnu sylw at y goblygiadau posibl i gwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr.

Y flwyddyn mewn niferoedd

Y cwmnïau a’r unigolion yr ydym yn eu rheoleiddio

Cyfreithwyr sy’n gweithio 139,313
Cwmnïau cyfreithiol 10,415. Mae 550 wedi mabwysiadu trwydded strwythur busnes gwahanol
Unigolion nad ydynt yn gweithio fel cyfreithwyr sydd ar y gofrestr o gyfreithwyr 39,027
Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig 627
Cyfreithwyr tramor cofrestredig 2,337
Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio 2,827

Mae manylion llawn am y cwmnïau cyfreithiol yn ôl eu math

Canllawiau moeseg

Mae ein tîm sy'n rhoi canllawiau ar foeseg yn rhoi arweiniad a chymorth i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol ynghylch yr holl faterion sy'n ymwneud â moeseg sy'n effeithio ar eu gwaith. Cawsom dros 30,000 o ymholiadau yn 2015/16. Roedd y pryder mwyaf ynghylch y pum peth hyn:

  • cyfrinachedd a datgelu gwybodaeth
  • rheolau cyfrifyddu
  • tystysgrifau gweithio
  • gofalu am gleientiaid
  • gwrthdaro buddiannau.

Galwadau i’n Canolfan Gyswllt

Cawsom 195,000 o alwadau i’n Canolfan Gyswllt yn ystod 2015/16.

Cafwyd 82,000 o ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd. Roeddent yn cysylltu gan mwyaf i roi gwybod am rywbeth yr oedd cyfreithiwr wedi'i wneud, i ofyn inni ddilysu cyfreithiwr, neu i ofyn sut y gallent gael gafael ar eu ffeiliau wedi i gwmni gau. (Mae’r data sy’n esbonio pam fod defnyddwyr neu gyfreithwyr wedi galw ar gyfer y )

Cafwyd 73,000 o ymholiadau gan y proffesiwn. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn amrywio ond yn ymwneud gan amlaf â cheisiadau am dystysgrifau gweithio neu’n gofyn am gyngor ynghylch mabwysiadu model busnes newydd, er enghraifft strwythur busnes gwahanol. Roedd ymholiadau eraill yn gofyn sut i ddatgloi, ysgogi neu wneud newidiadau i’w cyfrif mySRA..

Roedd 40,000 o ymholiadau yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant. Ymhlith y cwestiynau cyffredin roedd y rheini am y gyfundrefn cymhwysedd parhaus newydd a ffyrdd eraill o gymhwyso.

At hynny, cawsom 27,000 o negeseuon e-bost gan y proffesiwn:

  • roedd 13,500 o negeseuon e-bost gan ddefnyddwyr
  • roedd 13,500 o negeseuon e-bost yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant.

Ymwneud â rhanddeiliaid

Buom yn ymwneud â rhanddeiliaid mewn 175 o ddigwyddiadau, a ni'n hunain yn cynnal 78 o'r rheini.

Daeth dros 800 o weithwyr cydymffurfio proffesiynol ynghyd yn ein cynhadledd flynyddol ar gydymffurfio, a hynny i drafod pynciau fel mynd i’r afael â gwyngalchu arian, Brexit a seiberdroseddu.

Cynhaliwyd 12 o sesiynau Cwrdd â’r Bwrdd ar gyfer aelodau'r proffesiwn, a'r rheini'n cael eu cynnal ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Lerpwl a Bournemouth.

Prysurdeb y wefan

Dyma’r prif ffigurau ar gyfer www.sra.org.uk:

  • Edrych ar y tudalennau 10 miliwn o weithiau
  • Edrych ar benderfyniadau rheoleiddio a disgyblu 1 miliwn o weithiau ar ein tudalennau i wirio cyfreithwyr
  • Edrych ar y canllawiau ar gymhwysedd parhaus 300,000 o weithiau
  • Edrych ar rybuddion am gwmnïau ffug a thwyll 100,000 o weithiau
  • Edrych ar ein cynnwys ynghylch risgiau a chynnwys cysylltiedig 100,000 o weithiau
  • 250,000 o chwiliadau am gwmnïau cyfreithiol.

Risgiau yn y sector

Roedd ein rhagolwg diweddaraf o’r risgiau yn dangos bod 7 o risgiau o bwys yn y sector:

  • pobl yn methu â chael gafael ar wasanaethau cyfreithiol
  • ansawdd gwasanaethau a chleientiaid sy’n agored i niwed
  • diogelwch gwybodaeth
  • annibyniaeth a gonestrwydd
  • diogelu arian cleientiaid
  • gwyngalchu arian
  • amrywiaeth yn y proffesiwn.

Rhoesom 217 o rybuddion am dwyll drwy seiberdroseddu i’r cyhoedd a’r proffesiwn. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd twyllwyr yn esgus bod yn gyfreithwyr er mwyn ceisio awgrymu bod y twyll yn ddilys. Un o’r mathau mwyaf cyffredin o dwyll yw ymdrechion i ddenu sylw’r cyhoedd drwy ddweud wrthynt fod ganddynt hawl i ran o etifeddiaeth.

Canlyniadau gwaith goruchwylio yn 2015/16

Nifer yr honiadau a gadarnhawyd/camau a gymerwyd 377 Nifer y canlyniadau Canlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori 236 -
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd 19 1
Cystwyo neu gerydd 65 12
Dirwy 42 7
Gosod amodau 23 0
Gorchymyn adran 43 42 1

Mae gorchymyn adran 43 yn golygu ein bod yn rhwystro unigolion (y rheini nad ydynt yn gyfreithwyr, e.e. rheolwyr a gweithwyr eraill) rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.

Mae rhagor o wybodaeth am y camau disgyblu y byddwn yn eu cymryd, a’r diffiniad o Gytundeb Setliad Rheoleiddio.

Gwrandawiadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 2015/16

Cafodd 129 o achosion eu dwyn gennym yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2015/16, a’r rheini’n arwain at y penderfyniadau canlynol:

Diarddel 75
Dirwy 52
Gwahardd 17
Dim gorchymyn 3
Penderfyniad arall 14

Nodwch y gall un gwrandawiad arwain at fwy nag un penderfyniad.

Y Gronfa Iawndal

Rhoesom £10.3m o’r Gronfa Iawndal i aelodau’r cyhoedd a busnesau a ddioddefodd golled ariannol yn sgil anonestrwydd neu ddiffyg gallu ar ran cyfreithiwr.

Dyma’r ddau brif reswm dros roi iawndal i ddefnyddwyr:

  • ad-daliad am etifeddiaeth a gamddefnyddiwyd - £4m
  • ad-daliad am gyllid a gafodd ei ddwyn a hwnnw wedi’i roi ar gyfer blaendal am dŷ – £1m.

Roedd y taliad sengl mwyaf yn werth £488,155. Yn yr achos hwn, camddefnyddiodd cyfreithiwr arian cleient at ei ddefnydd ei hun.

Awdurdodi

Wrth iddynt ddechrau gweithio yn y proffesiwn, dyna’r adeg pwysicaf pan fyddwn yn sicrhau bod unigolion a busnesau yn cyrraedd y safonau proffesiynol da y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl gan eu cyfreithiwr neu eu cwmni cyfreithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal gwiriadau i edrych ar gymeriad ac addasrwydd pobl, yn ogystal â thrwy sicrhau eu bod yn ateb ein gofynion o ran hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau bod y broses o awdurdodi cwmnïau ac unigolion mor effeithlon a dirwystr â phosibl.

Awdurdodi – geirfa

Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio: Rydym yn awdurdodi ac yn rheoleiddio cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio a hwythau’n rheolwyr yn y cwmnïau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio. Mae’r disgrifiad o gyfreithwyr Ewropeaidd wedi’u heithrio i’w gael yn un o gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig: Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi'u cofrestru â ni a ninnau'n rheoleiddio eu practis yng Nghymru a Lloegr.

Cyfreithwyr tramor cofrestredig: Cyfreithwyr o’r tu allan i Ewrop sydd wedi'u cofrestru â ni a ninnau'n rheoleiddio eu practis yng Nghymru a Lloegr fel practis cyfreithwyr tramor cofrestredig.

Pwy yr ydym yn eu hawdurdodi a’u rheoleiddio

  • Rydym yn awdurdodi ac yn rhoi tystysgrifau gweithio i gyfreithwyr sy’n delio â chyfraith Cymru a Lloegr, a’r rhan helaethaf o ddigon ohonynt yn gweithio yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedyn yn rheoleiddio’r cyfreithwyr hyn.
  • Rydyn yn awdurdodi ac wedyn yn rheoleiddio cyfreithwyr sy’n delio â chyfraith Cymru a Lloegr dramor.
  • Rydym yn awdurdodi ac wedyn yn rheoleiddio cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.
  • Rydym yn awdurdodi ac yn rheoleiddio cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig a chyfreithwyr tramor cofrestredig.
  • Rydym yn awdurdodi ac wedyn yn rheoleiddio cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio.
  • Rydym yn rheoleiddio’r rheini yr ydym yn eu derbyn ar y gofrestr o gyfreithwyr. Rhestr o gyfreithwyr yr ydym wedi eu derbyn i’r proffesiwn yw hon. Rydym wedyn yn cynnal y gofrestr o gyfreithwyr ac yn sicrhau ei bod yn gywir.

Y prif ffigurau yn 2015/16

Dyma nifer y ceisiadau unigol a dderbyniwyd i’r proffesiwn yn 2015/16. Mae manylion am y llwybrau a gafodd eu dilyn i’r proffesiwn.

Mis Y cyfanswm a dderbyniwyd
Tach 2015 292
Rhag 2015 253
Ion 2016 300
Chwe 2016 324
Maw 2016 821
Ebr 2016 405
Mai 2016 276
Meh 2016 288
Gorff 2016 391
Awst 2016 371
Med 2016 2,182
Hyd 2016 549
Cyfanswm 6,452

Mae unigolion yn asesu a ydynt yn addas i weithio yn y proffesiwn yn unol â’n prawf cymeriad ac addasrwydd, a byddant yn rhoi’r gorau i’r broses ymgeisio os na fyddant yn ateb ein gofynion. Yn 2015/16, cafodd tri chais eu gwrthod gennym. Roedd hyn gan fod yr unigolion hynny naill ai wedi eu disgrifio’u hunain fel cyfreithwyr er nad oeddent yn gyfreithwyr, neu gan fod ganddynt euogfarnau am yfed a gyrru.

Mae’r mwyafrif o gyfreithwyr yn dal i ymuno â’r proffesiwn yn ystod yr hydref. Mae hyn gan fod rhaglenni hyfforddiant dwy flynedd cwmnïau cyfreithiol fel arfer yn dilyn y flwyddyn academaidd, gan ddod i ben ar ddiwedd yr haf. Unwaith y bydd yr Solicitors Qualifying Examination wedi’i gyflwyno, ac wrth i fwy o unigolion ddechrau yn y proffesiwn drwy’r llwybr prentisiaeth, disgwyliwn i’r duedd hon newid, ond ni fydd hynny am nifer o flynyddoedd.

Rydym hefyd yn gweld mymryn mwy o gyfreithwyr yn cael eu derbyn yn ystod mis Mawrth. Mae hyn gan y gall darparwyr hyfforddiant gwtogi hyd at chwe mis ar y rhaglen hyfforddiant ddwy flynedd os oes gan unigolyn brofiad gwaith blaenorol perthnasol yn y maes.

Nifer y cyfreithwyr sydd â thystysgrif gweithio a’r nifer ar y gofrestr rhwng 2013 a 2016

  Y nifer sydd â thystysgrifau gweithio Y nifer ar y gofrestr o gyfreithwyr
Hydref 2014 133,327 164,133
Hydref 2015 136,294 171,464
Hydref 2016 139,313 178,340

Natur cwmnïau cyfreithiol rhwng 2013 a 2016

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy’n dewis gwneud cais am drwydded strwythur busnes gwahanol yn parhau i gynyddu, ac mae’n ddewis arbennig o boblogaidd ymhlith cwmnïau corfforedig. Mae cyfanswm nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi parhau'n gymharol sefydlog. Nodwch fod y ffigurau hyn o fis Hydref ym mhob blwyddyn.

  2015/16 Strwythur busnes gwahanol 15/16
Cwmni corfforedig 4,205 369
Ymarferydd unigol 2,627 -
Partneriaeth 1,978 28
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 1,559 152
Arall 46 1
Cyfanswm 10,415 550
  2014/15 Strwythur busnes gwahanol 14/15
Cwmni corfforedig 3,813 268
Ymarferydd unigol 2,725 -
Partneriaeth 2,203 25
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 1,550 130
Arall 45 1
Cyfanswm 10,336 424
  2013/14 Strwythur busnes gwahanol 13/14
Cwmni corfforedig 3,509 186
Ymarferydd unigol 2,856 -
Partneriaeth 2,419 23
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 1,577 116
Arall 83 -
Cyfanswm 10,444 325

Y tirlun rheoleiddio yng Nghymru

  • Ceir tua 3,700 o gyfreithwyr yn gweithio yng Nghymru a 450 o brif swyddfeydd, yn bennaf yng Nghaerdydd. (Ffigur wedi’i amcangyfrif yn sgil gweithio ar draws y ffin)
  • Mae 4% o brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, ond mae prif swyddfeydd llai na 1% o'r rheini sydd â strwythur busnes gwahanol yng Nghymru.
  • Rhoddwyd tua 737 o dystysgrifau gweithio yn Gymraeg y llynedd, gan helpu cwmnïau cyfreithiol i roi gwasanaeth i bobl sy’n siarad Cymraeg.
  • Roedd gan gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru drosiant o £380m yn 2015/16, cynnydd o £10m ers y flwyddyn flaenorol.

Y rheini sy’n gweithio’n fewnol i sefydliadau

  • Mae un o bob pum cyfreithiwr yn gweithio'n fewnol i sefydliadau.
  • Mae 67% o’r cyfreithwyr sy’n gweithio’n fewnol i sefydliadau yn gwneud hynny yn y sector preifat, 26% yn y sector cyhoeddus a 7% yn y trydydd sector, sy’n cynnwys canolfannau cynghori ac elusennau cofrestredig.
  • Mae 57% yn fenywod, sy’n sylweddol uwch nag mewn cwmnïau cyfreithiol.
  • Mae 17% o gefndiroedd pobl dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, fel y sector yn ehangach.
  • Dim ond 1.4% sy’n anabl. Mae’r grŵp hwn wedi’i dangynrychioli’n sylweddol o’i gymharu â chyfreithwyr mewn cwmnïau cyfreithiol (3%) a’r boblogaeth oedran gweithio ehangach (10%).

Amrywiaeth mewn cwmnïau cyfreithiol

Rydym yn cydnabod bod marchnad amrywiol, a chyfreithwyr o gefndiroedd amrywiol yn gweithio ynddi, yn ateb anghenion cyfreithiol y cyhoedd yn well. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall pa mor amrywiol yw cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr, aethom ati yn 2014 ac eto yn 2016 i gasglu a rhannu data am amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gweithio yn y cwmnïau yr ydym yn eu rheoleiddio.

Casglodd ein gwaith yn 2016 wybodaeth gan dros 9,000 o gwmnïau cyfreithiol a’r 170,000 o bobl (cyfreithwyr ac eraill) sy’n gweithio iddynt. Mae’r hyn a ganfuwyd o’r data diweddaraf yn dangos bod amrywiaeth yn gwella rhyw fymryn, ond mae mwy o lawer o hyd i’w wneud.

Menywod: Mae hanner yr holl gyfreithwyr (47%) yn fenywod. Fodd bynnag, dim ond traean y rhain sy'n bartneriaid. Nid yw hyn wedi newid dros y ddwy flynedd diwethaf.

Symudedd cymdeithasol: O’i gymharu â 7% o’r boblogaeth yn gyffredinol, mae 22% o gyfreithwyr yn cael eu haddysgu’n breifat. Mae dros hanner y proffesiwn (53%) yn unigolion sy’n perthyn i’r genhedlaeth gyntaf o’u teulu i fynd i’r brifysgol.

Ethnigrwydd: Mae cyfreithwyr o gefndiroedd pobl dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’u cynrychioli’n dda yn y sector (18%), ond mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau ethnig. Nid yw nifer y partneriaid o gefndiroedd pobl dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi newid. Cynrychiolaeth y cyfreithwyr o gefndiroedd pobl dduon, pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn 2014 oedd 16%. Y ffigur oedd 17% yn 2015.

Cyfeiriadedd rhywiol: Roedd tua 3% o gyfreithwyr yn 2014 a 2015 yn eu hystyried eu hunain yn lesbaidd, hoyw neu ddeurywiol, o’i gymharu ag amcangyfrif Stonewall o rhwng 5% a 7% ymhlith y boblogaeth ehangach. Ni fu dim newid rhwng 2014 a 2016.

Anabledd: Mae’n ymddangos bod pobl anabl wedi’u tangynrychioli mewn cwmnïau cyfreithiol o’i gymharu â’r boblogaeth ehangach. Dim ond 3% o’r holl gyfreithwyr a 4% o weddill y staff sy'n dweud bod ganddynt anabledd. Fodd bynnag, mae dadansoddiadau o arolwg y Llywodraeth o’r llafurlu yn dangos bod 10% o oedolion oedran gweithio sydd mewn gwaith yn anabl. Ym mis Mai 2016, fe lansiwyd ymgyrch gennym – Eich Iechyd Chi, Eich Gyrfa Chi – er mwyn annog cyfreithwyr i gysylltu â ni os ydynt yn teimlo bod anabledd neu broblem iechyd yn achosi anawsterau iddynt.

Awdurdodi strwythurau busnes gwahanol

Mae strwythurau busnes gwahanol yn caniatáu i'r rheini nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt, gan wneud marchnad a oedd yn gaeedig cynt yn fwy agored. Fe’u cyflwynwyd i’r sector cyfreithiol am y tro cyntaf drwy Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, a chawsant eu hawdurdodi gennym am y tro cyntaf yn gynnar yn 2011. Mae'r cwmnïau sy'n dewis mabwysiadu strwythur busnes gwahanol yn amrywio'n fawr o ran maint (e.e. nifer y partneriaid a'r staff) a'r trosiant – ac felly ni cheir fyth ddau gwmni sy'n union yr un fath.

Awdurdodi’n gynt

Rydym wedi gwella o ran yr amser y mae’n ei gymryd i gymeradwyo ceisiadau gan gwmnïau i gael strwythurau busnes gwahanol:

2013/14 2014/15 2015/16
111 diwrnod 76 diwrnod 69 diwrnod

Astudiaeth achos | Helpu cwmnïau i wneud y dewis iawn

Rydym yn rhoi cymorth i gwmnïau a chyfreithwyr sy’n ystyried mabwysiadu strwythur newydd neu sy’n ystyried sefydlu busnes newydd sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.

Y cwmni: Yn y flwyddyn ddiwethaf, buom yn siarad â dau gyfreithiwr a oedd am greu cwmni a fyddai'n cynnig atebion technolegol i gwmnïau cyfreithiol eraill.

Y mater dan sylw: Er mwyn denu’r gweithwyr iawn, roeddent am allu cynnig cyfranddaliadau yn y cwmni i staff. Roeddent yn gwybod na fyddai modd iddynt wneud hyn mewn corff cydnabyddedig, ac roeddent yn credu y byddai'n rhaid iddynt adael y gofrestr. Nid oeddent am wneud hyn gan eu bod am gadw eu statws fel cyfreithwyr.

Ein hateb ni: Ein hawgrym ni oedd eu bod yn ffurfio corff trwyddedig gan gymeradwyo corff corfforaethol i fod yn berchennog ar y cwmni. Roedd hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael strwythur busnes gwahanol a thyfu’r cwmni yn y dyfodol.

Awdurdodi practisau aml-ddisgyblaethol

Math o fusnes a chanddo strwythur busnes gwahanol yw practisau aml-ddisgyblaethol, ac maent yn rhoi gwasanaethau cyfreithiol ochr yn ochr â gwasanaethau proffesiynol eraill, fel cyfrifyddu neu wasanaethau tirfesur. Awdurdodwyd practisau aml-ddisgyblaethol gennym am y tro cyntaf yn 2014. Mae practisau o’r fath yn galluogi’r cyhoedd a busnesau i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gyd o dan yr un to. Bydd rheoleiddwyr proffesiynol o sectorau eraill hefyd yn goruchwylio pob practis aml-ddisgyblaethol. Rydym wedi ymrwymo i beidio â dyblygu'r gwaith rheoleiddio hwnnw.

Ffeithiau am bractisau aml-ddisgyblaethol

Mae model practis aml-ddisgyblaethol yn galluogi cwmnïau i wneud y canlynol:

  • cyfuno sgiliau ac arbenigedd cyfreithwyr gyda sgiliau pobl o gefndiroedd proffesiynol gwahanol
  • gwneud gwaith cyfreithiol penodol iawn
  • cynnig gwasanaethau cyfreithiol ochr yn ochr â gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau eraill, fel gwasanaethau cyfrifyddu
  • osgoi dyblygu gwaith rheoleiddio
  • Mae practisau aml-ddisgyblaethol wedi tyfu i gynrychioli tua £100m o drosiant gwasanaethau cyfreithiol.

Addysg a Hyfforddiant

Mae pennu safonau addysg a hyfforddiant cyfreithwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion cymwys sy’n cael dechrau gweithio yn y proffesiwn. Diben hyn yw gofalu bod defnyddwyr yn cael gwasanaeth o ansawdd da gan eu cyfreithwyr. Rydym wrthi’n diwygio’r maes hwn. Yn hytrach na rhagnodi sut y caiff cyfreithwyr eu haddysgu, rydym yn canolbwyntio ar osod ac asesu safonau proffesiynol da ac yn rhoi rhagor o hyblygrwydd wrth hyfforddi. Mae hyn yn golygu y gallwn barhau i dyfu’r farchnad gyfreithiol a chynnal ffydd y cyhoedd mewn cyfreithwyr.

Y prif ffigurau yn 2015/16

Mae cyfreithwyr ar hyn o bryd yn dechrau gweithio yn y proffesiwn ar ôl dilyn llwybrau amrywiol iawn, fel gradd draddodiadol yn y gyfraith a chontract hyfforddiant, gwaith arbenigol, neu brofiad o weithio mewn awdurdodaethau dramor. Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr unigolion a gafodd eu derbyn drwy bob llwybr rhwng 2013 a 2016. Mae diffiniad o’r termau i’w weld yn yr eirfa.

  • Awdurdodwyd 5,253 o sefydliadau gennym i roi cyfnodau o hyfforddant cydnabyddedig.
  • Roedd gan 6,735 o gyfreithwyr hawliau uwch i wrandawiad, sef mymryn o gynnydd o tua 3% ers 2014, pan oedd gan 6,541 o gyfreithwyr yr hawliau hynny.

Derbyn yn ôl llwybr rhwng 2013 a 2016

Llwybr 2015/16 2014/15 2013/14
LPC 5,580 5,347 5,334
QLTT 27 53 505
QLTS 541 485 437
CILEx 237 186 114
Arall 67 37 21
Cyfanswm 6,452 6,108 6,411

Er enghraifft, rhai’n cymhwyso o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, rhai cyfreithwyr sydd wedi’u cofrestru’n Ewrop a Chlercod Ynadon.

Y prif ganfyddiadau ym mlwyddyn addysgol 2015/16

Roedd ein hadroddiad diweddaraf ar reoleiddio ac addysg, awdurdodi a monitro yn cyflwyno data gan ddarparwyr cyrsiau cyfreithiol ynghylch demograffeg y rheini a basiodd eu cyrsiau LPC, CPE neu GDL. Dyma’r prif ganfyddiadau yn yr adroddiad ar y cyfnod hwn:

  • Nid oedd cyfran y myfyrwyr a basiodd eu cwrs LPC wedi newid llawer, sef 70% yn 2014/15 a 69% yn 2013/14.
  • Mae’n ymddangos bod myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn perfformio yr un mor dda â'i gilydd ar y cyrsiau CPE ac LPC.
  • Mae mwy fenywod na gwrywod yn dilyn y cyrsiau LPC a CPE ac yn cael eu derbyn.
  • Mae’r data’n dangos bod myfyrwyr o grwpiau ethnig yn llai tebygol o gwblhau’r cyrsiau CPE ac LPC.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar reoleiddio.

Addysg a Hyfforddiant – geirfa

CILEx: Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol – yn rhoi hyfforddiant i bobl ddod yn weithredwyr cyfreithiol, ac yn rheoleiddio gweithredwyr cyfreithiol

CPE: Yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol – cwrs cyfreithiol ôl-raddedig y bydd graddedigion mewn pynciau ar wahân i’r gyfraith yn ei ddilyn er mwyn dod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr yng Nghymru neu Loegr. Fe’i gelwir hefyd yn GDL (gweler isod).

GDL: Diploma Graddedig yn y Gyfraith – gweler CPE.

HRAs: Hawliau uwch i wrandawiad – Rhaid i gyfreithwyr fod wedi’u hawdurdodi gennym er mwyn bod â hawliau uwch i wrandawiad yn y llysoedd uwch. Y rhain yw Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr.

LPC:Ymarfer y Gyfraith – cyfnod o hyfforddiant galwedigaethol cyn y PRT.

PRT: Cyfnod o Hyfforddiant Cydnabyddedig – dysgu seiliedig ar waith sy’n rhan o’r cyfnod galwedigaethol wrth gymhwyso fel cyfreithiwr.

QLTS: Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig – yn galluogi’r rheini sydd eisoes yn gyfreithwyr cymwysedig mewn awdurdodaethau eraill i gymhwyso fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.

QLTT: Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig – mae hwn bellach wedi dod i ben ac wedi’i ddisodli gan y GLTS sy’n llai biwrocrataidd.

Referral: Pan fydd y myfyriwr wedi methu un modiwl neu ragor.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

Rydym yn cynnig cyflwyno asesiad canolog cyn i bobl ddechrau gweithio yn y proffesiwn, sef yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Byddai’n rhaid i unrhyw un sydd am gael ei dderbyn fel cyfreithiwr basio’r arholiad hwn i fod yn gymwys.

Byddai hyn yn mynd i'r afael â'r anghysondebau yn y farchnad addysg gyfreithiol ar hyn o bryd, wrth i gyrsiau ac arholiadau gael eu darparu gan dros 100 o ddarparwyr, a'r cyfraddau pasio ar y GDL a'r LPC yn amrywio rhwng 50% a 100%.

Yn hytrach, byddai’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn profi darpar gyfreithwyr yn ôl yr un safon, boed y rheini yn raddedigion, yn brentisiaid, neu’n weithredwyr cyfreithiol. Byddai’r arholiad yn sicrhau safonau proffesiynol da drwy’r holl broffesiwn.

Dylai rhagor o ddewis a ffyrdd mwy cost-effeithiol o hyfforddi arwain at greu proffesiwn mwy amrywiol. Unwaith y byddwn wedi cyflwyno’r arholiad hwn, byddwn yn monitro proffil y rheini sy’n dechrau gweithio yn y proffesiwn yn ofalus, i weld sut y mae’n newid.

Dulliau cyfatebol

Yn 2014, cyflwynwyd llwybr gwahanol i gymhwyso gennym, a hwnnw’n galluogi unigolion i symud yn eu blaenau os gallant ddangos eu bod wedi ateb ein gofynion ar gyfer cyfnod penodol o hyfforddiant drwy ddulliau cyfatebol.

Er enghraifft, gall cyfreithwyr gymhwyso hyd yn oed os nad ydynt wedi cwblhau contract hyfforddi dwy flynedd gyda chwmni cyfreithiol. Os gall darpar gyfreithiwr ddangos fod ganddo brofiad sy’n cyfateb i gontract hyfforddi, byddwn yn derbyn y person hwnnw i’r proffesiwn.

 

“Mae llawer o bobl na allant gael eu derbyn fel cyfreithwyr, nid gan nad oes ganddynt y talent, ond gan na allant gael contract hyfforddi,” meddai Julie Brannan, y Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant Cyfreithiol.
“Mae rhai ohonynt yn gweithio fel paragyfreithwyr gan wneud gwaith sy’n cyfateb i waith hyfforddai – neu hyd yn oed gyfreithiwr cymwysedig. Mae’r llwybr dulliau cyfatebol yn enghraifft ohonom yn edrych ar y modd yr ydym yn rheoleiddio, gan gael gwared ar y pethau hynny sy’n rhwystro pobl rhag cymhwyso ond nad ydynt mewn gwirionedd yn sicrhau safonau da.”
Julie Brannan, Director of Legal Education and Training.

 

Mae creu’r llwybr gwahanol hwn ar gyfer gweithio yn y proffesiwn yn rhan o’n cynllun Hyfforddi at Yfory, sy'n ceisio, ymhlith pethau eraill, annog myfyrwyr o bob cefndir i ddilyn gyrfa yn y gyfraith.

Mae nifer y cyfreithwyr sy’n cael eu derbyn drwy ddulliau cyfatebol yn cynyddu:

2014/15 2015/16
8 63

Cynnal safonau - Ymchwilio a goruchwylio

Bob blwyddyn byddwn yn cael tua 11,000 o adroddiadau yn mynegi pryderon am y cyfreithwyr a’r busnesau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio. Gall yr adroddiadau hyn gael eu hanfon gan y proffesiwn ei hun, er enghraifft gan gyfreithwyr neu swyddogion cydymffurfio, yn ogystal â chan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a’r llysoedd.

Mae ein Tîm Ymchwilio a Goruchwylio yn bwrw golwg ar y pryderon hyn. Caiff y ffactorau canlynol wedyn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymchwilio ymhellach ai peidio:

  • Pa dystiolaeth a roddwyd a ffynhonnell y dystiolaeth honno.
  • Hanes rheoleiddiol y cwmni neu’r unigolyn.
  • Yr effaith y gallai’r camymddwyn neu’r broblem honedig ei chael.

Mae diogelu arian cleientiaid wrth ymchwilio neu oruchwylio cwmni yn hollbwysig. Rydym yn gweithio i sicrhau nad yw arian pobl mewn perygl yn sgil unrhyw gamymddwyn neu reoli gwael. Ac mae’n bwysig bod unrhyw gwmnïau sy’n cau yn gwneud hynny yn y ffordd iawn, fel bod gwaith papur ac arian eu cleientiaid yn ddiogel.

Y math o broblemau y rhoddwyd gwybod inni amdanynt yn 2015/16

Y deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt yn gyffredinol

  1. Gofalu am gleientiaid gan ddangos ddiffyg gallu neu esgeulustra neu gan achosi oedi
  2. Manteisio’n annheg ar rywun nad yw’n gleient (trydydd parti).
  3. Camarwain y llys yn fwriadol.
  4. Dwyn manylion adnabod unigolyn neu endid sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio).
  5. Torri rheolau cyfrinachedd.
  6. Twyll ac anonestrwydd.
  7. Torri ein rheolau cyfrifyddu: methu â chyfrif am arian cleientiaid.
  8. Camarwain unigolyn yn fwriadol.
  9. Gwrthdaro buddiannau personol.
  10. • Gofalu am gleientiaid: ymddygiad amhriodol neu wrthod cyfarwyddiadau. • Ymddygiad ymosodol: yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Y deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt gan y rheini yr ydym yn eu rheoleiddio

  1. Dwyn manylion adnabod unigolyn neu endid sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio).
  2. Torri rheolau cyfrinachedd.
  3. Torri ein rheolau cyfrifyddu: gwneud iawn am ddiffyg yng nghyfrif cleient.
  4. Gweithio heb dystysgrif neu heb gofrestru.
  5. Gofalu am gleientiaid gan ddangos diffyg gallu neu esgeulustra neu gan achosi oedi.
  6. Achos mân o dorri ein rheolau cyfrifyddu.
  7. Torri ein rheolau cyfrifyddu: methu â gwneud iawn am ddiffyg yng nghyfrif cleient.
  8. Twyll ac anonestrwydd.
  9. Rhywun yr ydym yn ei reoleiddio wedi’i gyhuddo ac/neu ei roi ar fechnïaeth.
  10. Torri ein rheolau cyfrifyddu: methu â chyfrifyddu mewn perthynas â chleient neu eraill.

Gwaith ein Tîm Canllawiau Moeseg

Er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd ymddiried yn y proffesiwn, rhaid i gyfreithwyr weithredu gyda gonestrwydd a gwneud penderfyniadau egwyddorol. Mae’r cyhoedd yn disgwyl safonau moeseg uchel, ac mae hynny’n rhan hanfodol o fod yn gyfreithiwr. Os bydd rhywun yr ydym yn ei reoleiddio yn pryderu bod rhywbeth a wneir neu ymddygiad rhywun yn anfoesegol, neu os bydd rhywun yn credu ei fod o bosibl wedi gweithredu’n groes i’n rheolau, rydym yn annog y person hwnnw i gysylltu â’n Tîm Canllawiau Moeseg, a fydd yn gallu rhoi cyngor ynghylch y peth gorau i’w wneud. Yn 2015/16, cysylltodd dros 30,000 o bobl â ni drwy ein llinell gymorth benodol a thrwy sgwrsio dros y we i gadarnhau eu bod yn gweithredu yn unol â’n rheolau. Dyma oedd achos y pum pryder mwyaf:

  • cyfrinachedd a datgelu gwybodaeth
  • rheolau cyfrifyddu
  • tystysgrifau gweithio
  • gofalu am gleientiaid
  • gwrthdaro buddiannau.

Adroddiadau 2015/16

Canlyniadau adroddiadau a ddaeth i law rhwng 1 Tachwedd 2015 a 31 Hydref 2016:

Adroddiadau am ymddygiad cyfreithwyr neu gwmnïau 11,236
Cyfeiriwyd at yr adran oruchwylio er mwyn ymchwilio i’r ymddygiad 5,548
Anfonwyd at yr adran oruchwylio ond dim angen ymchwiliad. Y wybodaeth yn cael ei storio fel rhan o’n gwaith ar risg 4,096
Cyfeiriwyd at Ombwdsmon y Gyfraith 1,079
Cyfeiriwyd at adran arall yn yr Awdurdod, gan ei fod mewn gwirionedd yn ymwneud â hawliad i'r Gronfa Iawndal neu'n fater i'r adran awdurdodi 296
Dim camau wedi’u cymryd gan yr Awdurdod, er enghraifft, gan nad yw o fewn ein hawdurdodaeth i ymchwilio 271

Pan fydd mân achosion o dorri rheolau, a’r rheini’n achosion neilltuedig, efallai y byddwn yn ysgrifennu at y cwmni neu’r unigolyn i’w hatgoffa am ein gofynion a’r safonau y mae’n rhaid eu cyrraedd.

Yn ystod y broses ymchwilio a goruchwylio, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’r sawl a gyflwynodd yr adroddiad inni. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, byddwn yn rhoi gwybod iddynt pam ein bod wedi penderfynu dechrau neu beidio â dechrau ymchwiliad i’r unigolyn neu’r cwmni y rhoddwyd gwybod inni amdanynt. Byddwn wastad yn ceisio rhoi cymaint o fanylion â phosibl ynglŷn â’n penderfyniad. Mae manylion o'r hyn a ddaeth o'n gwaith goruchwylio i'w weld isod.

Gall adroddiadau eraill sy’n mynegi pryderon gael eu trosglwyddo i Ombwdsmon y Gyfraith, sy’n delio â chwynion am faterion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth sy’n cael ei roi. Yn yr un modd, os bydd Ombwdsmon y Gyfraith yn cael cwynion neu'n canfod drwy ei ymchwiliad y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau ar gyfer ymddygiad proffesiynol, bydd yn cysylltu â ni. Mewn achosion mwy difrifol, gallwn roi dirwy i gwmni neu unigolyn, gosod amodau ar eu tystysgrif gweithio, a hyd yn oed ymyrryd mewn practis.

Byddwn yn erlyn yn yr achosion mwyaf difrifol. Mae rhagor o wybodaeth am y modd y byddwn yn ymyrryd ac yn diogelu’r cyhoedd.

Cynnal safonau - Cyfreithiol a gorfodi

Mae gan y cyhoedd, defnyddwyr a’r proffesiwn yr hawl i ddisgwyl y byddwn yn cymryd camau pan fydd cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol yn methu â chyrraedd y safonau yr ydym wedi’u gosod. Mae ein Tîm Cyfreithiol a Gorfodi yn gweithio i orfodi ein rheolau mewn ffordd deg, gan gymryd camau cadarn pan fydd galw am hynny. Nod ein gwaith gorfodi yw:

  • diogelu cleientiaid, cyfreithwyr a’r cyhoedd – gallai hyn fod drwy reoli neu gyfyngu ar y risg o niwed, sicrhau nad yw unigolyn neu gwmni’n gallu ymddwyn yn yr un ffordd eto, neu geisio rhwystro’r peth rhag digwydd
  • cyfleu neges wrth y rheini yr ydym yn eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg
  • cynnal a gwarchod safonau cymhwysedd a safonau ar gyfer ymddygiad moesegol
  • cynnal ffydd y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol sy'n cael eu darparu.

Pan fyddwn yn cymryd camau rheoleiddio neu ddisgyblu yn fewnol, rydym yn defnyddio’r safon prawf sifil. Mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu ar sail pa mor debygol o fod yn wir yw unrhyw honiadau ynghylch achosion o dorri ein rheoliadau.

Mae cyfyngiadau ar y mathau o gosbau y gallwn eu rhoi. Er enghraifft, mae ein pwerau i ddirwyo unigolion wedi’u cyfyngu i £2,000 ac nid oes modd inni ddiarddel cyfreithiwr. Fodd bynnag, fe allwn roi dirwy o hyd at £250m i gwmni sydd â thrwydded strwythur busnes gwahanol, a dirwy o hyd at £50m i reolwyr a gweithwyr cwmnïau sydd â thrwydded strwythur busnes gwahanol. Pan fydd honiadau difrifol o gamymddwyn, anonestrwydd, troseddu neu dorri ein rheolau yn dod i law, a phan fyddwn yn gweld y gallai hynny effeithio ar fudd y cyhoedd, rydym yn cyfeirio’r achos at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Erlyn unigolion a chwmnïau

Tribiwnlys annibynnol yw’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ac mae amryw o gosbau y gall eu rhoi. Nid oes cyfyngiad ar ei bwerau dirwyo, a gall wahardd neu ddiarddel cyfreithwyr. Mae’r Tribiwnlys yn defnyddio’r safon prawf troseddol, sy’n golygu bod yn rhaid profi materion y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Gall tua 25% o achosion arwain at Gytundeb Setliad Rheoleiddio. Cytundebau yw’r rhain sy’n cael eu cytuno â chyfreithwyr ac/neu gwmnïau yn ystod y broses oruchwylio, neu tra bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y Tribiwnlys. Mae’r Cytundebau yn ffordd ymarferol o ddiogelu’r cyhoedd heb arwain at ragor o gostau.

Y camau yr ydym ni’n eu cymryd, a’r camau y mae’r Tribiwnlys yn eu cymryd

Camau a gymerwyd a’r amgylchiadau Lefel y camymddwyn (achos mân i achos difrifol) Cosb gan yr Awdurdod Cosb gan y Tribiwnlys
Llythyr cynghori: rydym yn atgoffa’r unigolyn neu’r cwmni, yn ysgrifenedig, o’u cyfrifoldebau rheoleiddiol. Mân
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd: ar gyfer camymddwyn o bwys, ond achos neilltuedig. Gellir rhoi ystyriaeth i’r canfyddiad/canfyddiad a rhybudd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Canolig.
Cystwyo: Rydym yn cystwyo unigolyn neu gwmni pan fu achos cymharol ddifrifol o weithredu’n groes i’n gofynion neu ein safonau. Canolig.
Dirwy: Pan fu achos difrifol o weithredu’n groes i’n gofynion neu ein safonau a phan fydd, er enghraifft, y sawl neu’r cwmni sy’n cael ei reoleiddio wedi elwa’n ariannol o’r camymddwyn, a’i bod yn briodol diddymu neu leihau’r elw ariannol a wnaed. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol. ✔Hyd at £2,000 (gweler troednodyn 1). ✔Digyfyngiad. (Nodwch y bydd gallu’r Tribiwnlys i gymryd camau yn erbyn cwmnïau yn dibynnu ar y math o gwmni yw hwnnw. Er enghraifft, nid oes gan y Tribiwnlys awdurdodaeth dros gwmnïau sydd â thrwydded strwythur busnes gwahanol.)
Gosod amodau gweithio ar unigolyn: rydym yn cyfyngu neu’n rhwystro unigolyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu rhag ymwneud â threfniadau/cysylltiadau busnes penodol neu drefniadau gweithio. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a pham y mae angen delio â’r risg sy’n deillio o hyn. ✔Cyfeirir at hyn fel “gorchymyn cyfyngu”.
Gosod amodau gweithio ar gwmni: byddwn yn cyfyngu neu’n rhwystro cwmni, neu un o’i reolwyr, gweithwyr neu rywun sydd â budd, rhag gwneud gweithgareddau penodol. Gall cymryd cam fel hwn helpu i fonitro’r cwmni’n effeithiol drwy gael adroddiadau rheolaidd. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hyn o fudd i’r cyhoedd. ✔Cyfeirir at hyn fel “gorchymyn cyfyngu”.
Cerydd: y Tribiwnlys yn cosbi'r sawl sy'n cael ei reoleiddio am weithredu’n groes i’n gofynion ac/neu ein safonau. Mae cerydd gan y Tribiwnlys yn cyfateb i gystwyo gennym ni. Cymharol ddifrifol, neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn gymharol ddifrifol.
Gorchymyn adran 43 (ar gyfer y rheini nad ydynt yn gyfreithwyr sy’n gweithio yn y proffesiwn, e.e. rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol): rydym yn rhwystro’r unigolion hyn rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Gwaharddiad neu ddiddymu’r hyn sy’n awdurdodi/cydnabod cwmni: rydym yn rhoi’r gorau i awdurdodi cwmni naill ai’n barhaol neu dros dro. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Gwaharddiad: y Tribiwnlys yn gwahardd cyfreithiwr rhag gweithio naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys hefyd roi gwaharddiad wedi’i ohirio, cyn belled ag y bydd gorchymyn cyfyngu yn dal yn berthnasol. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Diarddel: y Tribiwnlys yn rhwystro cyfreithiwr rhag gweithio’n gyfan gwbl. Caiff enw’r cyfreithiwr ei dynnu oddi ar y gofrestr o gyfreithwyr. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.

Canlyniadau gwaith goruchwylio rhwng 2013 a 2016

Cafodd y Cytundebau Setliad Rheoleiddio sy’n cael eu disgrifio yn y tabl isod eu cytuno fel rhan o’r broses oruchwylio. Mae’r Cytundebau hyn yn ein galluogi i ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy ddod ag achosion i ben yn gyflym, yn effeithiol ac am gost sy’n gymesur.

Sylwer y gall fod mwy nag un canlyniad i bob ffeil.

2015/16

Ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau/lle cymerwyd camau 377

  Nifer y canlyniadau Canlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori 236 -
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd 91 1
Cerydd neu gystwyo 65 12
Dirwy 47 7
Gosod amodau ar gwmni neu unigolyn 23 0
Gorchymyn adran 43 42 1

Ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau/lle cymerwyd camau 265

  Nifer y canlyniadau Canlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori 118 -
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd 32 0
Cerydd neu gystwyo 37 2
Dirwy 15 3
Gosod amodau ar gwmni neu unigolyn 28 0
Gorchymyn adran 43 39 0

Ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau/lle cymerwyd camau 451

  Nifer y canlyniadau Canlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio
Llythyr cynghori 213 -
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd 116 0
Cerydd neu gystwyo 35 4
Dirwy 18 4
Gosod amodau ar gwmni neu unigolyn 12 1
Gorchymyn adran 43 12 0

Cytundebau setliad rheoleiddio rhwng 2013 a 2016

Cytunwyd ar y Cytundebau Setliad Rheoleiddio isod ar ôl inni orffen goruchwylio’r cwmni, ond cyn i'r achos gyrraedd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Nodwch y gall fod mwy nag un canlyniad ynghlwm wrth ffeil a arweiniodd at Gytundeb Setliad Rheoleiddio.

  2015/16 2014/15 2013/14
Ffeiliau a arweiniodd at Gytundeb Setliad Rheoleiddio 23 9 6
Dirwy 16 6 2
Cystwyo neu gerydd 9 3 3
Gorchymyn adran 43 2 0 0
Adran 47 (2) (g) 1 1 0
Arall 0 0 3

Mae gorchymyn adran 47(2)(g) yn golygu na all cyfreithiwr y mae ei enw wedi’i dynnu o’r gofrestr ailymuno â’r gofrestr oni bai bod y Tribiwnlys yn caniatáu hynny.

Er enghraifft, mae’r cyfreithiwr yn cytuno i dynnu’i enw o’r gofrestr a thalu ein costau.

Gwrandawiadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 2015/16

gadarnhau bod camymddwyn wedi digwydd neu at roi cosb.

Arweiniodd yr achosion a gafodd eu dwyn gennym gerbron y Tribiwnlys rhwng 2013 a 2016 at y penderfyniadau a ganlyn (nodwch y gall un gwrandawiad arwain at fwy nag un penderfyniad):

  2015/16 2014/15 2013/14
Nifer yr achosion a gafodd eu dwyn 129 96 97
Diarddel 75 53 56
Dirwy 52 30 27
SGwahardd 17 17 14
Dim Gorchymyn - h.y. y Tribiwnlys yn penderfynu yn ein herbyn
3 7 3
Penderfyniad arall 14 10 18

Er enghraifft, cerydd neu orchymyn adran 43.

Nid yw’r cynnydd o 34% yn nifer yr achosion a gafodd eu dwyn gennym gerbron y Tribiwnlys yn 2015/16 yn golygu y bu cynnydd yn y pryderon a ddaeth i law yn y flwyddyn, ond mae’n ganlyniad i adolygiad llawn o’r achosion.

Astudiaeth achos | Camau a gymerwyd yn erbyn cyfreithiwr a’r cwmni

Y cyfreithiwr: Cymerwyd camau gennym yn erbyn cyfreithiwr a oedd newydd gymhwyso ar ôl cael adroddiad gan y cwmni ym Manceinion lle’r oedd y cyfreithiwr yn bennaeth ar yr adran cyfraith cyflogaeth. Rhoddodd y cwmni wybod inni bod sawl gorchymyn wedi’u gwneud yn erbyn y gweithiwr gan nad oedd wedi bod yn delio ag achosion cyflogaeth yn iawn, ac roedd wedi ffugio deunyddiau.

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio, roedd y cyfreithiwr wedi methu â chwblhau nifer o bethau mewn pryd i’r llys – a hynny wedi arwain at ddod ag achosion i ben. Roedd hefyd wedi methu â bod yn bresennol mewn gwrandawiad cyfryngu barnwrol, lle bydd barnwr yn gweithredu fel cyfryngwr mewn achosion cyflogaeth, ac roedd wedi ceisio camarwain ei gyflogwr. Am hyn, canfuwyd ei fod wedi bod yn anonest, a chafodd ei ddiarddel o'r gofrestr o gyfreithwyr.

Y cwmni: Prin iawn oedd profiad y cwmni o gyfraith cyflogaeth, a daeth yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad ei fod wedi methu â goruchwylio gwaith y cyfreithiwr a oedd newydd gymhwyso, a hwnnw heb gymhwyso'n ddigonol i gyflawni’r math o waith yr oedd yn ei wneud.

Yn ogystal â chymryd camau yn erbyn y cyfreithiwr am ei anonestrwydd, penderfynwyd y byddem yn cymryd camau yn erbyn y cwmni am fethu â goruchwylio’r gweithiwr. Roedd yn amlwg nad oedd gan y cwmni drefniadau digon da yn hyn o beth, a chafodd ddirwy o £7,500 gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Diogelu Cleientiaid - Ymyrryd ac iawndal

Mae ein tîm Diogelu Cleientiaid yn ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol er mwyn diogelu'r cyhoedd rhag defnyddio gwasanaethau cyfreithwyr anonest neu gyfreithwyr sy’n dangos diffyg gallu. Wrth ymyrryd mewn cwmni, byddwn yn meddiannu holl arian a ffeiliau cleientiaid ac yn dychwelyd popeth i’w perchnogion. I bob pwrpas, caiff y practis wedyn ei gau ac ni fydd modd iddo weithredu.

Rydym yn ymyrryd mewn practis:

Rydym yn gweithio ag asiantau ymyrryd trydydd parti er mwyn gofalu am arian cleientiaid yng nghyfrifon cwmni ac am unrhyw ffeiliau cleientiaid. Byddwn yn meddiannu'r holl ffeiliau o swyddfa cwmni ac yn cysylltu â'r cleientiaid i esbonio'r hyn sydd wedi digwydd. Bydd ein hasiant, sef cwmni cyfreithiol fel arfer, yn delio â materion brys ar ran cleientiaid. Bydd yr asiant hefyd yn dod o hyd i’r ffeiliau perthnasol er mwyn inni allu cysylltu â'r cleientiaid i roi gwybod iddynt ein bod wedi cau’r cwmni. Bydd yr asiant hefyd yn rhoi cyngor i gleientiaid y cwmni ynghylch yr hyn y dylent ei wneud nesaf.

Os na fydd ffeil cleient yn ymwneud ag achos brys, neu os bydd yr achos yn segur, byddwn yn archifo’r ffeil yn ein cyfleusterau yn Coventry neu Darlington. Capita sy’n gyfrifol am yr archif, ac mae’n delio â cheisiadau gan gleientiaid am eu papurau. Byddwn yn dadansoddi ac yn ail-greu’r cofnodion cyfrifyddu, gan geisio dychwelyd yr arian i’r perchnogion. Bydd arian yn aml ar goll o gyfrif y cleient. Yn y sefyllfa hon, gall cleientiaid nad ydynt wedi cael eu harian wneud hawliad i yswirwyr y cwmni neu i'r Gronfa Iawndal.

Ymyrryd – y niferoedd

Yn ystod y dirwasgiad yn 2008 ac yn syth wedi hynny, bu cynnydd mawr yn yr achosion lle bu'n rhaid inni ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol a oedd yn gwneud gwaith trawsgludo, sef maes gwaith yr effeithiodd y dirywiad economaidd yn drwm arno.

Wrth i’r economi wella, lleihaodd nifer yr achosion lle bu’n rhaid ymyrryd oherwydd hyn, a’r rheini’n aml wedi ymwneud â nifer fawr o ffeiliau cleientiaid a symiau mawr o arian yn sgil prynu a gwerthu tai. Cafodd hyn ddylanwad ar gyfanswm nifer yr achosion lle bu’n rhaid inni ymyrryd.

Blwyddyn Nifer yr achosion o ymyrryd
2004/05 58
2005/06 55
2006/07 47
2007/08 66
2008/09 89
2009/10 74
2010/11 40
2011/12 42
2012/13 50
2013/14 51
2014/15 40
2015/16 37

Y sail dros ymyrryd yn 2015/16

Amau anonestrwydd 21
Torri rheolau gweithio cyfreithwyr 18
Diogelu budd cleientiaid 16
Torri rheolau cyfrifyddu cyfreithwyr 15
Methdaliad 5
ARhoi’r gorau i weithio 1
Diarddel neu wahardd 1
Anfon i garchar 1

Nodwch y gall fod mwy nag un rheswm dros ymyrryd bob tro.

Ymyrryd ar waith

Bu’n rhaid inni ymyrryd mewn cwmni sy’n gweithio’n genedlaethol y llynedd gan ein bod yn amau anonestrwydd ar ran yr unig gyfarwyddwr ac eraill yn y cwmni. Daeth honiadau i law ar ôl i un o gyrff y llywodraeth gynnal archwiliad o ffeiliau’r cwmni, gan anfon eu canfyddiadau atom.

Cawsom adroddiadau hefyd na allai cleientiaid gysylltu gydag aelodau’r cwmni, ac nad oeddent yn cael eu cynrychioli mewn gwrandawiadau.

Penderfynwyd bod angen inni ymyrryd er mwyn diogelu budd cleientiaid y cwmni. Penodwyd nifer o asiantau gennym i ymyrryd gan fod y cwmni’n gweithio drwy’r wlad. Cafodd y cyfrifon eu rhewi a chafwyd gafael ar holl ffeiliau a chofnodion y cwmni.

Roedd gan y cwmni gleientiaid amrywiol iawn, ac nid oedd llawer yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Er mwyn sicrhau bod modd inni helpu cynifer o bobl â phosibl, cyfieithwyd y wybodaeth bwysicaf am y broses ymyrryd i 13 iaith, gan gynnwys Hindi, Urdu, Mandarin a Phwyleg. Cafodd yr holl gleientiaid eu hannog i’n galw neu i anfon e-bost atom, ac roedd gennym gyfieithwyr wrth law yn barod i helpu.

Diogelu Cleientiaid

Mae’r Gronfa Iawndal yn bodoli er mwyn rhoi iawndal i aelodau’r cyhoedd a busnesau bach sy’n dioddef colled ariannol o ganlyniad i gyfreithiwr anonest neu gyfreithiwr sy’n dangos diffyg gallu. Cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy'n ariannu'r gronfa drwy ardoll flynyddol, a ni sy'n ei gweinyddu.

Casglwyd £32 gan bob cyfreithiwr a £548 gan bob cwmni cyfreithiol gennym yn 2015/16. Rydym yn cadw arian wrth gefn yn y Gronfa er mwyn sicrhau bod y cyhoedd wedi'u diogelu bob amser rhag unrhyw fygythiadau newydd yn y sector cyfreithiol. Gallwn amrywio'r ardoll yn sgil y risgiau a welwn sy'n datblygu yn y sector cyfreithiol.

Gall pobl wneud hawliadau i’r Gronfa drwy ffurflen ar ein gwefan, ac rydym yn mynd ati’n bwrpasol i gyfeirio pobl at y Gronfa pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni. Unwaith y daw hawliad i law, rydym yn asesu a all y Gronfa helpu ai peidio. Mae pobl sy’n gwneud hawliad yn aml yn wynebu amgylchiadau anodd neu ofid mawr, felly rydym yn gweithio mor gyflym ac yn bod mor gefnogol ag y gallwn.

Rydym yn rhoi iawndal os bydd yr hawliadau’n ddilys o dan ein rheolau, ac os bydd aelod o’r cyhoedd neu’r busnes bach dan sylw wedi dioddef colled ariannol oherwydd y cyfreithiwr neu’r cwmni yr ydym yn ei reoleiddio.

Dyma’r ddau reswm mwyaf cyffredin pam y byddwn yn gwneud taliadau:

  • Profeb: Pan fydd cyfreithwyr yn camddefnyddio etifeddiaeth rhywun
  • Trawsgludo: Pan fydd cyfreithwyr anonest neu gyfreithwyr sy’n dangos diffyg gallu yn dwyn neu’n colli blaendaliadau, blaendaliadau morgais neu elw o werthiant.

Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gwrthod hawliad. Er enghraifft:

  • os dylid cyfeirio’r hawliad at yswiriwr y cwmni
  • os daw’r hawliad gan fusnes sydd â throsiant o dros £2 filiwn y flwyddyn
  • os yw’r hawliad am log yr oedd y sawl sy’n cael ei reoleiddio wedi cytuno i dalu’r cleient.

Rydym yn monitro faint yr ydym yn ei dalu o'r Gronfa Iawndal bob blwyddyn a'r math o hawliadau a ddaw i law. Mae’r gostyngiad yn nifer yr ymyriadau a’r hawliadau llwyddiannus sy’n ymwneud â thrawsgludo ers i’r rheini gyrraedd penllanw yn dilyn dirwasgiad 2008 yn golygu bod llai o arian wedi’i dalu o’r Gronfa yn ddiweddar. Serch hynny, rydym hefyd yn monitro'r risgiau newydd i ddefnyddwyr a'u harian. Er enghraifft, mae cynlluniau buddsoddi ffug sy’n ymwneud â chwmnïau cyfreithiol eisoes wedi costio dros £100m i'r cyhoedd.

Y prif ffigurau

Gwnaed 1,504 o hawliadau i’r Gronfa Iawndal yn 2015/16. Cafodd 1,516 o hawliadau eu cau yn y un cyfnod*. O blith y rhain, arweiniodd 604 o hawliadau at wneud taliad (40%), ac roedd y rhain yn werth £10.3m.

Yr hawliadau a wnaed yn 2015/16 1,504
Yr hawliadau a gafodd eu cau yn 2015/16 1,516*
Nifer yr hawliadau a arweiniodd at wneud taliad 604
Faint oedd gwerth yr hawliadau a arweiniodd at wneud taliad £10.3m

* Mae’r hawliadau hyn yn wahanol i’r hawliadau a wnaed yn 2015/16.

Y pum prif reswm dros wneud taliadau rhwng 2013 a 2016:

2015/16
Y rheswm am yr hawliad Taliad
1 Profeb – balans yn sgil ystad £3.9m
2 Elw o werthiant £1m
3 Dwyn arian cleientiaid £1m
4 Dychwelyd blaendal £700K
5 Twyll - trawsgludo £700K
2014/15
Y rheswm am yr hawliad Taliad
1 Dychwelyd blaendal £3.5m
2 Profeb – balans yn sgil ystad £3.4m
3 Dychwelyd costau a dalwyd i gyfrif £2.2m
4 Codi llawer gormod £1.8m
5 Twyll morgais/camddefnyddio blaendal morgais £1.8m
2013/14
Y rheswm am yr hawliad Taliad
1 Profeb – balans yn sgil ystade £4.8m
2 Morgais heb ei dalu £2.6m
3 Twyll - trawsgludo £2.4m
4 Elw o werthiant £2.3m
5 Methu â thalu treth dir y dreth stamp/ffioedd y Gofrestrfa Tir £2m

Gweler isod am eirfa sy’n esbonio’r rhesymau dros yr hawliadau.

Archifo ffeiliau cleientiaid

Rydym wedi casglu miliynau o ffeiliau o gwmnïau cyfreithiol ar ôl ymyrryd yn y cwmnïau hynny, a’n tasg ni yw rhoi trefn ar ffeiliau cleientiaid os nad yw’r achos yn un brys, neu ffeiliau “segur” fel ewyllysiau a gweithredoedd. Unwaith y byddwn wedi’u mynegeio, rydym yn storio’r ffeiliau a’r dogfennau, gan ddychwelyd y ffeiliau i gleientiaid pan gawn gais i wneud hynny.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw dogfennau hanesyddol er budd y cyhoedd, ac wrth inni wneud y gwaith hwn rydym yn gofalu cadw golwg am eitemau a fyddai o ddiddordeb hanesyddol. Yn 2014, cafodd ein proses ar gyfer canfod ffeiliau hanesyddol ei gwella, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Cofnodion Prydain, sy’n rhoi arweiniad inni ac yn ein helpu gyda’r gwaith hwn. Rydym yn rhoi unrhyw beth sy’n dyddio o’r cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i’r naill ochr er mwyn bwrw golwg arno cyn ei archifo.

Wrth wneud ein gwaith, rydym wedi canfod nifer o hen weithredoedd sy’n gysylltiedig ag adeiladau a thir hanesyddol - er enghraifft, gweithredoedd yn ymwneud â William Paget o gyfnod Harri VIII a’r gweithredoedd gwreiddiol i White Hart Lane, cartref Tottenham Hotspur. Roeddem yn falch o allu eu dychwelyd i’r clwb pêl-droed.

Astudiaeth achos | CY Gronfa Iawndal ar waith

Blaendal am dŷ wedi’i ddwyn: Roedd cwpl ifanc yn prynu eu tŷ cyntaf ac wedi talu £25,000 fel blaendal i’w cyfreithiwr. Cafodd y contractau eu cyfnewid ac roedd y broses i’w chwblhau wythnos yn ddiweddarach. Rhoddodd y cwpl hysbysiad eu bod yn gadael y fflat yr oeddent yn ei rhentu, ac roedd y tenantiaid newydd yn barod i symud i mewn.

Yn fuan wedi iddynt gyfenwid, bu inni ddechrau ymyrryd yn y cwmni. Roedd cyfrifon y cwmni’n hynod anhrefnus ac nid oedd modd inni ddweud i ble’r aeth y blaendal – roedd hi’n ymddangos bod y cyfreithiwr wedi’i gymryd. Bu inni ffonio’r cwpl i esbonio beth oedd yn digwydd. Roeddent wedi cynhyrfu ac yn gofidio’n arw. Drwy lwc, roedd modd inni wneud taliad brys iddynt o’r Gronfa Iawndal mewn 48 awr, er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen a chwblhau’r pryniant.

Y swm a dalwyd bob blwyddyn o’r Gronfa Iawndal rhwng 2013 a 2016:

Blwyddyn Cyfanswm a dalwyd mewn grantiau
2013/14 £23.6m
2014/15 £17.8m
2015/16 £10.3m

Mae cysylltiad rhwng y taliadau yr ydym yn eu gwneud bob blwyddyn a nifer yr achosion lle byddwn yn ymyrryd. Mae’r gostyngiad yn nifer y grantiau rhwng 2013 a 2016 yn adlewyrchu tuedd lle mae nifer yr achosion o ymyrryd hefyd wedi lleihau yn yr un cyfnod.

Rhesymau dros hawliadau - geirfa

Methu â thalu treth dir y dreth stamp/ffioedd y Gofrestrfa Tir: Wrth drawsgludo, mae’r cyfreithiwr wedi methu â throsglwyddo’r arian a dalodd y cleient ar gyfer treth dir y dreth stamp neu ffioedd y Gofrestrfa Tir.

Twyll – trawsgludo: “Twyll prynhawn Gwener" yw’r enw ar lawr gwlad am hyn. Mae troseddwyr yn targedu cwmnïau trawsgludo, sydd fel arfer yn cwblhau’r broses o werthu tai ar brynhawniau Gwener. Maent yn darbwyllo cyfreithwyr i drosglwyddo blaendaliadau tai iddynt drwy esgus bod yn rhywun o’r banc.

Codi llawer gormod: Mae’r cyfreithiwr neu’r cwmni wedi codi llawer gormod ar y cleient am wasanaethau, a hynny gan wybod eu bod yn gwneud hynny.

Twyll morgais/camddefnyddio blaendal morgais: Gall hyn gynnwys rhoi gormod o werth ar eiddo, gwneud trafodiadau yn syth ar ôl ei gilydd a dwyn arian morgais.

Profeb – balans yn sgil ystad: Y cyfreithiwr neu’r cwmni yn camddefnyddio etifeddiaeth sy’n ddyledus i gleient.

Dychwelyd blaendal:Cleient yn talu costau i gwmni cyfreithiol, ond y gwaith heb gael ei wneud.

Dychwelyd costau a dalwyd i gyfrif: A client pays costs to a law firm, but the work has not been done.

Elw o werthiant: Hawliad am arian a gafodd cwmni cyfreithiol wrth werthu eiddo.

Dwyn arian cleientiaid: Y cyfreithiwr neu’r cwmni wedi dwyn arian cleient.

Morgais heb ei dalu: Cwmni cyfreithiol sy’n delio â gwerthu eiddo yn methu â thalu'r morgais sy’n ddyledus ar yr eiddo hwnnw.

Edrych Ymlaen

Wrth i’n Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2014 i 2017 ddod i ben, rydym wedi dangos sut y byddwn yn parhau i weithio tuag at gyflawni ein pedwar prif amcan yn 2016/17. Byddwn yn datblygu ac yn ymgynghori ar strategaeth dair blynedd newydd yn haf 2017.

Amcan un

Byddwn yn diwygio ein ffordd o reoleiddio er mwyn gallu sicrhau twf ac arloesi yn y farchnad a sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng baich rheoleiddio a diogelu defnyddwyr.

Y rhaglen i ddiwygio ein gwaith rheoleiddio: Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau rhwystrau diangen i arloesi a thwf.

Edrych i’r Dyfodol: Byddwn yn pennu’r camau nesaf ar ôl ein hymgynghoriadau yn 2015/16 er mwyn symleiddio ein rheolau, creu Codau Ymddygiad clir a rhyddhau cyfreithwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau nad yw’r Awdurdod yn eu rheoleiddio.

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: Byddwn yn adolygu adroddiad terfynol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyflenwi gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o blaid rhoi gwell gwybodaeth i ddefnyddwyr ac egwyddor annibyniaeth reoleiddiol.

Trefniadau diogelu ariannol: Rhaid inni sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng diogelu defnyddwyr a chreu marchnad arloesol a hygyrch ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn edrych i weld a yw’r gofynion ar gyfer yswiriant indemniad proffesiynol yn addas ar hyn o bryd, ac rydym wedi casglu data am hawliadau hanesyddol. Byddwn yn casglu rhagor o dystiolaeth wrth inni ddatblygu ein cynigion ar gyfer diwygio.

Ymgynghori ar bolisi hawlildio newydd: Rydym yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu polisi hawlildio newydd, gydag un gyfres symlach o feini prawf sy'n cyd-fynd ag amcanion ein gwaith rheoleiddio a’n datganiad polisi. Mae hyn yn gysylltiedig â datblygu’r cynllun Arloesi yn yr Awdurdod ymhellach.

Amcan dau

Byddwn yn gweithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i wella safonau a sicrhau eu bod yn glynu wrth egwyddorion proffesiynol craidd.

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr: Daeth yr ail ymgynghoriad ar yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr i ben ym mis Ionawr 2017, a hynny ar ôl ceisio barn yn eang ymhlith cyfreithwyr, cyrff cynrychioladol, y cyhoedd, academyddion, sefydliadau addysgol a myfyrwyr. Ym mis Ebrill 2017, penderfynodd y bwrdd gyflwyno’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Bydd hyn yn rhoi safon aur i ddefnyddwyr a fydd yn gwybod bod proses gyson wedi’i defnyddio i asesu sgiliau a gwybodaeth graidd cyfreithwyr.

Prentisiaethau cyfreithwyr: Byddwn yn parhau i gefnogi’r llwybr lle bydd cyfreithwyr yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan y bydd hynny’n help i ddatblygu proffesiwn amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Cymhwysedd parhaus: Bydd y dull newydd o sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn cynnal safonau drwy ofyn i bob cyfreithiwr wneud datganiad blynyddol eu bod yn gymwys ac yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwneud penderfyniadau: Yn 2015/16 aethom ati i adolygu ein meini prawf a’n canllawiau i helpu'r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i asesu’r miloedd o faterion a gaiff eu cyfeirio atom bob blwyddyn. Byddwn yn gwreiddio ac yn gwella’r canllawiau hyn yn y flwyddyn sydd i ddod.

Strategaeth Gorfodi: Ar ôl yr ymgyrch Mater o Ymddiriedaeth, byddwn yn diwygio ac yn cyhoeddi ein Strategaeth Gorfodi, gan sicrhau bod y camau a gymerwn yn erbyn cyfreithwyr a chwmnïau nad ydynt yn cyrraedd y safonau gofynnol yn glir, yn gymesur ac yn gyson. Byddwn yn ymgynghori ynghylch hyn fel rhan o'n rhaglen Edrych i'r Dyfodol.

Y rhagolygon risg: Byddwn yn cyhoeddi ein rhagolygon risg blynyddol sy'n ymwneud â phynciau penodol er mwyn diogelu'r cyhoedd, a hynny drwy helpu cwmnïau i ganfod a rheoli risgiau a phroblemau yn y sector cyfreithiol.

Amcan tri

Byddwn yn gwella ein perfformiad wrth weithredu ac yn gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau yn gyflym, yn effeithiol ac yn effeithlon.

Operational activities: Rydym am gynnig gwasanaethau o ansawdd da i’r cyhoedd ac i’r proffesiwn, a byddwn yn cyflwyno prosesau newydd a systemau TG gwell. Byddwn yn parhau i wella’n sylweddol y modd yr ydym yn gweithredu. Byddwn yn cyflwyno’r newidiadau hyn ochr yn ochr â gwaith i ganolbwyntio mwy ar sicrhau lefelau perfformiad da.

Y prif ddangosyddion perfformiad: Mae gwell perfformiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi'n galluogi i adolygu nifer o’n prif ddangosyddion perfformiad. Rydym wedi pennu prif ddangosyddion perfformiad newydd a mwy heriol ar gyfer 2016/17, er mwyn parhau i wella ein perfformiad a’n gwasanaeth.

Moderneiddio ein TG: : Mae systemau TG newydd yn cael eu datblygu i ddisodli meddalwedd sydd wedi dyddio, gan ei gwneud yn haws i bobl ymwneud â ni a gosod y sylfeini i wneud arbedion yn y tymor hir. Rydym yn sicrhau bod y defnyddwyr yn ganolog i’n rhaglen, a’r rheini'n cynnwys y cyhoedd, cwmnïau o bob maint a chyfreithwyr unigol. Byddwn yn profi unrhyw systemau newydd yn uniongyrchol ymhlith ein cwsmeriaid.

Amcan pedwar

Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i wella ansawdd ein gwasanaethau a’u profiad wrth eu defnyddio.

Digwyddiadau a sioeau teithiol: Mae cael sylwadau gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol i’n gwaith, a byddwn yn datblygu ein rhaglen o ddigwyddiadau, gan geisio adborth wrth inni ddatblygu ein dull o reoleiddio a chynyddu ymwybyddiaeth o'n gwaith. Drwy seminarau, grwpiau ffocws a chyfarfodydd y Bwrdd drwy Gymru a Lloegr, bydd y Bwrdd yn ymwneud â rhanddeiliaid pwysig mewn ffyrdd newydd.

Ysgrifennu yn yr Awdurdod: Byddwn yn gwneud mwy i wella’r modd yr ydym yn cyfathrebu gyda’r cyhoedd a’r rheini yr ydym yn eu rheoleiddio, fel bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio. Byddwn yn adolygu ein polisïau cyfieithu er mwyn helpu defnyddwyr o bob cymuned. Rydym yn rheoleiddio yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr, felly mae cyhoeddi mwy yn Gymraeg yn flaenoriaeth inni.

Y cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol: Mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd ein holl randdeiliaid yn y ffordd sy’n gweddu orau iddynt hwy. Yn ogystal â gwneud mwy ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn gwella ein gwefan ein hunain a Legal Choices, sef y wefan gyhoeddus yr ydym yn ei chynnal ar ran y rheoleiddwyr cyfreithiol i gyd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ar faterion fel y rheini sy’n berthnasol i bobl drawsrywiol a lles proffesiynol. Bydd hyn yn rhoi hwb i greu proffesiwn modern ac effeithiol. Byddwn yn casglu ac yn cyhoeddi data am amrywiaeth mewn cwmnïau yn 2017.

Bod yn dryloyw: Byddwn yn rhoi gwybodaeth mewn ffyrdd ystyrlon, er enghraifft, drwy’r Adolygiad Blynyddol newydd hwn a thrwy gyhoeddi’r holl ymatebion i’n hymgynghoriadau. Byddwn yn diwygio ein cyhoeddiadau a’n polisïau prosesu teg, fel y bydd pawb yn gwybod beth i'w ddisgwyl gennym. Byddwn hefyd yn cymryd rhagor o gamau i ddatblygu cofrestr rheoleiddio ar gyfer y cyhoedd.

Cwynion am ein gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddelio â phawb mewn ffordd deg a thryloyw. Rydym yn cydnabod y byddwn, weithiau, yn gwneud camgymeriadau a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau sy’n ymwneud â’n gwasanaeth yn ddiymdroi.

Gall cwynion corfforaethol fod am faterion fel pa mor hir y byddwn yn ei gymryd i ddelio ag achos, peidio ag esbonio pethau’n glir, neu beidio ag ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

Nid yn unig y mae'n bwysig unioni pethau ar gyfer y rheini sy'n cwyno, ond rhaid inni hefyd ddysgu o’u hadborth. Dyma’r prif feysydd lle byddwn yn parhau i wella dros y flwyddyn sydd i ddod:

Cyhoeddi gwell gwybodaeth ynghylch pryd y gallwn gymryd camau yn erbyn cyfreithwyr

Rydym yn cael nifer o gwynion am gyfreithwyr ond ni allwn helpu mewn rhai achosion. Weithiau bydd Ombwdsmon y Gyfraith mewn sefyllfa well i ddelio â’r pryder, neu bu achos mân iawn o dorri un o’n rheolau heb fod hynny’n galw am ymchwiliad llawn. Rydym yn ceisio gwella’r wybodaeth ar ein gwefan, yn ceisio creu cyfres o daflenni cyngor i gyfeirio pobl yn well at ffynonellau cymorth, ac yn ceisio cryfhau’r cyngor yr ydym yn ei roi i randdeiliaid pan fyddant yn ffonio ein Canolfan Gyswllt.

Cyfathrebu’n ysgrifenedig

Pan fyddwn yn delio â chwynion am gyfreithwyr, gwyddom fod yn rhaid inni fod yn glir ac yn dryloyw. Mae ein cynllun ar gyfer sut dôn sydd i’n llais, sy’n ymwneud â sut yr ydym yn ysgrifennu yn yr Awdurdod, wedi gwella’r modd yr ydym yn cyfathrebu’n ysgrifenedig, wrth inni geisio sicrhau bod ein gwaith ysgrifenedig yn hygyrch ac yn hawdd i’w ddeall. Mae ein data am gwynion eisoes yn awgrymu bod ein dull o ysgrifennu yn gwella ond byddwn yn gweithio'n galed ar hyn. Rydym eisoes wedi dechrau gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion sy’n cael eu cadarnhau wedi inni fethu ag esbonio pethau'n ddigon clir.

Gwasanaeth i gwsmeriaid

Eleni rydym yn bwriadu canolbwyntio ymhellach ar ragoriaeth wrth roi gwasanaeth i gwsmeriaid, gan ddatblygu ein safonau gwasanaeth craidd. Mae’r ystadegau o’r cwynion a gawn yn awgrymu bod y gwaith yr ydym wedi’i wneud hyd yma, drwy gyflwyno dangosyddion perfformiad pwysig a lefelau gwasanaeth, wedi gwneud cryn wahaniaeth. Drachefn, gwelsom ostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion sy'n cael eu cadarnhau oherwydd oedi ar ein rhan, ond gwyddom fod mwy gennym i’w wneud er mwyn ymateb i bethau’n fwy prydlon.

Adroddiad Annibynnol 2015/16 gan y Gwasanaethau Ombwdsmon, ein hadolygydd annibynnol: “Mae llawer i’w ganmol am yr Awdurdod wrth adolygu ansawdd ei ymatebion ysgrifenedig i'r rheini sy'n cwyno. Yn y mwyafrif llethol o achosion, teimlwn fod yr Awdurdod yn gwneud gwaith gwych wrth ddeall y materion y mae’r rheini sy’n cwyno wedi’u codi ac yna wrth ymateb iddynt”

Dolenni defnyddiol

Ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r rheolau cyfrifyddu

Adroddiad am fynd i'r afael â gwyngalchu arian

Astudiaeth o'r farchnad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Cynhadledd COLP a COFA 2016

Y Gronfa Iawndal

Cymhwysedd parhaus

Cwynion corfforaethol

Gwneud penderfyniadau

Rheolau'r weithdrefn ddisgyblu

Addysg a Hyfforddiant: Adroddiad ynghylch y gwaith awdurdodi a monitro rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2014

Y Strategaeth Gorfodi

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dulliau cyfatebol

Ymgynghoriad ynghylch hyblygrwydd a diogelu'r cyhoedd

Cynhadledd Ryngwladol y Rheoleiddwyr Cyfreithiol

Pecyn amrywiaeth i gwmnïau cyfreithiol

Chwilio am gwmni cyfreithiol

Legal Choices

Edrych i'r Dyfodol

Y dull newydd o sicrhau datblygu proffesiynol parhaus, yn dechrau ym mis Ebrill eleni

Cyfarfodydd cyhoeddus

Mater o Ymddiriedaeth

Data rheoleiddio a dewis i ddefnyddwyr mewn gwasanaethau cyfreithiol

Y rhaglen i ddiwygio ein gwaith rheoleiddio

Cytundeb ar gyfer Setliad Rheoleiddio

Golwg ar Risg

Golwg ar Risg: Diogelwch TG

Golwg ar Risg: Cyfreithwyr a Thwyll Buddsoddi

Golwg ar Risg: Gadael yr UE: Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyfreithwyr

Ystadegau poblogaeth wedi’u rheoleiddio

Cwmnïau bach

Cyfryngau Cymdeithasol yn yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr

Cynnig yng nghyswllt yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr: ymgynghoriad dau

Yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr : Arloesi

Prentisiaeth ar gyfer Cyfreithwyr Blaengar

Hyfforddiant ar gyfer y Dyfodol

Digwyddiadau i ddod

Gwerthoedd

Rhith-grwpiau cyfeirio (Edrych i’r Dyfodol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, Yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr : Arloesi, Cwmnïau Bach, Materion yng nghyswllt Amrywiaeth)

Hysbysiadau rhybudd

Eiriolaeth y llys ieuenctid

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau’r Ombwdsmon