Adroddiad Blynyddol 2017/18

Darllenwch y fersiwn Saesneg

Mae ein Hadolygiad Blynyddol yn trafod ein perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn ein Strategaeth Gorfforaethol a gweithgareddau rheoleiddiol allweddol o'r flwyddyn a adroddwyd.

Lawrlwythwch (PDF 55 tudalen, 12MB)

Amdanom ni

Mae’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn rheoleiddio cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn diogelu’r cyhoedd ac yn cynnal y drefn gyfreithiol a’r gwaith o weinyddu’r gyfraith.

Rydym yn gwneud hyn drwy oruchwylio’r holl ofynion addysg a hyfforddiant sy’n ofynnol i weithredu fel cyfreithiwr, gan drwyddedu unigolion a chwmnïau i weithio, gan bennu safonau’r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth yn erbyn y safonau hyn.

Ni yw’r mwyaf o’r rheoleiddwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, gydag oddeutu 80% o’r farchnad a reoleiddir. Rydym yn goruchwylio tua 192,000 o gyfreithwyr a mwy na 10,400 o gwmnïau cyfreithiol.

Gosod safonau proffesiynol uchel

Rydym yn sicrhau bod y rheini sy’n dechrau gweithio yn y proffesiwn yn addas i wneud hynny a’u bod yn cyrraedd y safonau proffesiynol da y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl. Fe wnawn hyn drwy oruchwylio addysg a hyfforddiant proffesiynol, drwy osod y safonau ar gyfer dechrau gweithio, a thrwy sicrhau bod gan bawb sy’n gwneud cais i weithio gymeriad addas cyn caniatáu iddynt fod yn gyfreithwyr.

Yn yr un modd, rydym yn asesu cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o gwmnïau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas i gynnig gwasanaethau cyfreithiol, cyn caniatáu iddynt i wneud hynny. Unwaith y mae’r unigolion a’r cwmnïau hyn wedi dechrau gweithio, rydym yn rhoi arweiniad a rheolau iddynt, fel gwneud datblygu proffesiynol parhaus yn ofynnol, er mwyn sicrhau bod y safonau hynny’n cael eu cynnal.

Gwybodaeth ac arweiniad

Rydym yn darparu gwybodaeth am gyfreithwyr, am eu gwaith, ac am y safonau y gall y cyhoedd eu disgwyl. Rydym yn gweithio i gynyddu argaeledd gwybodaeth berthnasol ac amserol, i helpu pobl i wneud dewisiadau da wrth brynu gwasanaeth cyfreithiol.

Diogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol

Rydym yn sicrhau bod y cyhoedd wedi'u diogelu drwy gymryd camau pan aiff pethau o chwith. Rydym yn pennu ac yn monitro gofynion yswiriant indemniad ac rydym yn rhedeg cynllun iawndal. Bydd y gronfa ddewisol, mewn rhai amgylchiadau, yn gwneud taliadau i’r cyhoedd a busnesau bach i ad-dalu arian a gymerwyd neu a ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr.

Camau disgyblu

Rydym yn monitro ac yn goruchwylio ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau’n unol â'r safonau rydym wedi’u gosod. Os na fydd cyfreithwyr neu’r cwmnïau’n cyrraedd y safonau hyn, rydym yn ymchwilio i’w harferion gweithio ac i’r modd maent yn cydymffurfio â’n rheolau ac, os bydd angen, gallwn gymryd camau rheoleiddio fel dirwyo neu geryddu cyfreithwyr. Os bydd gennym bryderon difrifol am ymddygiad cyfreithiwr neu gwmni, byddwn yn eu herlyn drwy’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Pan fydd angen, gallwn feddiannu ffeiliau ac arian cwmni er mwyn diogelu cleientiaid a'r cyhoedd yn gyffredinol, a dychwelyd y papurau a'r arian i'w perchnogion.

Gwasanaethau cyfreithiol hygyrch a fforddiadwy

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl na busnesau bach yn defnyddio gwasanaethau cyfreithiol pan fydd ganddynt broblem gyfreithiol. Gwyddom fod pobl yn teimlo bod gwasanaethau cyfreithiol yn ddrud ac yn anodd ei defnyddio, ac felly rydym yn gweithio i greu marchnad gyfreithiol agored, fodern a chystadleuol, sy’n darparu gwasanaethau mwy fforddiadwy a hygyrch. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi adolygu ein gofynion rheoleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur. Rydym hefyd yn cymryd camau i leihau biwrocratiaeth ddiangen, fel y bydd yn haws i gyfreithwyr a chwmnïau i gynnal eu busnes ac i gynnig gwasanaethau newydd, gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.

Open all

Gosod sylfaeni ar gyfer y dyfodol

Fel Cadeirydd newydd yr Awdurdod, mae’n bleser cael ysgrifennu’r rhagair hwn i’n trydydd Adolygiad Blynyddol. Mae’r rhan fwyaf ohono’n ymdrin â’n gwaith yn 2017/18, ac rwyf yn gobeithio ei fod yn gymaint o galondid i chi ag yw i mi bod yr SRA wedi gwneud gwaith da i gyflawni ei amcanion. Ni allaf hawlio dim o’r clod am hynny, felly mi hoffwn ddiolch yn arbennig i gydweithwyr ym mhob rhan o’r sefydliad am eu gwaith caled a’u hymroddiad, ac, wrth gwrs, i fy rhagflaenydd Enid Rowlands.

Mae’r sefydliad wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy ddatblygu a meithrin ei ffordd o weithio er budd y cyhoedd a sefydlu ei hunaniaeth. Mae’r Adolygiad Blynyddol hwn yn ymdrin â chyfnod pwysig, lle buom wrthi’n gosod sylfeini ar gyfer y dyfodol.

Yn bwysicach na dim, rydym wedi cwblhau ein rhaglen waith dymor hir gan roi pwyslais o’r newydd ar ein gwaith i reoleiddio’r hyn sy’n bwysig - y safonau proffesiynol uchel sy’n sail i hyder y cyhoedd. Rydym yn gobeithio cyfrannu at wella mynediad at gyfiawnder a chan gadarnhau mesurau i warchod y cyhoedd yr un pryd. Dyma fydd canlyniad y gwaith rydym wedi’i wneud i gael gwared ar lawer o gyfyngiadau hen-ffasiwn ar arferion cyfreithiol modern. Rydym yn credu y bydd cyfreithwyr mewn gwell sefyllfa’n awr i gynnig gwasanaethau newydd mewn ffyrdd newydd.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl eisiau gweld prisiau a manylion eraill gwasanaethau allweddol i’w helpu i benderfynu pa bryd i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol ac i ddewis yr un sydd orau iddynt. Rydym wedi ymateb drwy nodi pa wybodaeth yr ydym yn disgwyl i gwmnïau ei chyhoeddi ar gyfer cleientiaid a darpar gleientiaid.

Mae hyder y cyhoedd mewn cyfreithwyr yn seiliedig hefyd ar eu gwybodaeth a’u hyfforddiant arbenigol. Rydym wedi cymryd camau pwysig i gyflwyno arholiad cymhwyso newydd a fydd yn sicrhau safonau cyson ar draws y proffesiwn. Bydd hefyd yn cynnig y potensial ar gyfer llwybrau newydd i gymhwyso fel cyfreithiwr, gan arwain at fwy o amrywiaeth yn y proffesiwn. Mae ein Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) newydd yn weddnewidiad unwaith mewn cenhedlaeth i’r ffordd y bydd cyfreithwyr y dyfodol yn cymhwyso.

Bydd pob darpar gyfreithiwr yn sefyll yr arholiadau newydd – gan gynnwys y rhai sy’n dilyn y llwybr “ennill wrth ddysgu”. Mae’r rheolau sydd eu hangen i gyflwyno’r SQE wedi eu cymeradwyo. Rydym wedi penodi darparwr i fod yn gyfrifol amdanynt a byddwn yn cyflwyno’r arholiad newydd yn 2021.

Mae gwyngalchu arian yn broblem fyd-eang ac rydym wedi ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau newydd yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Rydym wedi datblygu dull sy’n asesu meysydd risg cwmnïau ac ymarfer, sy’n codi ymwybyddiaeth ac a fydd yn cael ei weithredu os na fydd cwmnïau’n cyrraedd y safonau disgwyliedig. Mae rhagor i’w wneud, wrth gwrs, ond rydym yn falch o gael adborth positif ac adeiladol ar ein gwaith gan y Tasglu Gweithredu Ariannol a’r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol. Gallwch ddarllen rhagor am yr hyn mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud ac am ein gwaith atal gwyngalchu arian.

Rwyf yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein gwaith i greu sector cyfreithiol modern, agored a chystadleuol a fydd yn cynnig gwasanaethau fforddiadwy a hygyrch i’r sawl sydd eu hangen. Yn y cyfnod nesaf, byddwn yn gweld Safonau a Rheoliadau newydd yr Awdurdod yn rhyddhau cyfreithwyr i gynnig gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n addas i’w cleientiaid. Byddwn yn helpu pobl i ddeall pa fesurau diogelu sydd ar gael iddynt, drwy ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni’n arddangos bathodyn digidol yr Awdurdod. Hefyd, byddwn yn gweithredu ein rheolau ar gyhoeddi gwybodaeth am wasanaethau a phrisiau cwmnïau cyfreithiol. Ac, fel y cyd-reoleiddwyr bydd y wefan Legal Choices yn darparu mwy o wybodaeth ac offer defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl gael help. Yn ystod 2018/19 byddwn hefyd yn datblygu manylion am yr asesiad SQE, lle byddwn yn gweithio â’r proffesiwn ac academyddion, yn ogystal â gwneud mwy o waith i atal gwyngalchu arian. Byddwn hefyd yn gwneud newidiadau gweithrediadol wrth i ni ddatblygu systemau TG newydd i helpu i ddarparu’r gwasanaeth yr hoffem ei gynnig i gwsmeriaid.

Byddwn yn diweddaru pawb ynglŷn â’r newidiadau hyn ac, fel arfer, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ac i rannu eich barn.

Rwyf yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen yr Adolygiad Blynyddol hwn, ac y bydd yn fuddiol i chi.

Anna Bradley

CADEIRYDD BWRDD YR AWDURDOD RHEOLEIDDIO CYFREITHWYR

Pwy sy’n ariannu ei gwaith?1

Bob blwyddyn, rydym yn casglu ffioedd ymarfer gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy’n gweithio ym maes cyfraith Cymru a Lloegr dramor.

Bydd cyfran o’r arian hwn yn mynd tuag at ein hariannu ni. Mae’r gweddill yn mynd i ariannu pump o sefydliadau eraill (gweler yma).

Rydym yn rhedeg Cronfa Iawndal. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu ardoll flynyddol tuag at y gronfa, ac rydym yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud taliadau. Gall dalu iawndal i’r cyhoedd a busnesau bach sydd wedi dioddef colledion ariannol o ganlyniad i anonestrwydd cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr neu eu methiant i ddychwelyd arian cleientiaid. Mae’r swm rydym yn ei godi ar y proffesiwn drwy’r Gronfa Iawndal i’w weld drosodd.

I ariannu ein costau gweinyddol, rydym hefyd yn codi tâl am rai o’n gwasanaethau. Er enghraifft, awdurdodi strwythurau busnes amgen i gynnig gwasanaethau cyfreithiol o dan ein system reoleiddio a chyhoeddi tystysgrifau am enw da.

Rydym yn ceisio adennill peth neu’r holl arian a werir gennym ar ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol ac ar gymryd camau disgyblu yn erbyn y rhai sy'n cael eu rheoleiddio gennym.

Rhoi gwerth am arian

Dylai ein dull o reoleiddio fod yn gost-effeithiol, yn fforddiadwy ac yn gymesur, ac rydym yn monitro faint y mae cwmnïau a chyfreithwyr yn ei dalu bob blwyddyn tuag at y gwaith rheoleiddio hwnnw. Mae ein polisi ffioedd yn seiliedig ar egwyddorion, sy’n cynnwys bod yn deg â’r rheini sy’n talu ffioedd a sicrhau sefydlogrwydd wrth bennu faint mae’r cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy’n cael eu rheoleiddio gennym yn ei dalu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn adolygu’r polisi hwn yn barhaus ac ni fu newid i lefel y ffioedd yn 2017/18.

Yn 2017/18, penderfynwyd lleihau £0.9m yn lefel ein hincwm a fyddai’n cael ei gynhyrchu drwy ffi’r dystysgrif gweithio. Ar yr un pryd, fe amsugnwyd costau o ganlyniad i chwyddiant. Yn 2018/19, disgwylir y bydd lefel ein hincwm a gynhyrchir drwy ffi’r dystysgrif gweithio yn aros yn £52.6m.

Y swm a dalwyd gan y proffesiwn tuag at ein costau 2014—2018

2014/152015/162016/172017/182018/19
£52.9m£54.1m£53.5m£52.6m£52.6m

Sut y gwariwyd ein harian yn 2017/18

Costau staff40%
Prosiectau, fel y rhaglen sydd ar waith i foderneiddio ein TG20%
Y gwasanaethau yr ydym yn eu rhannu â Chymdeithas y Cyfreithwyr, er enghraifft Adnoddau Dynol a Chyllid12%
Costau eraill, fel rhaglenni ymchwil a digwyddiadau9%
Ffioedd cyfreithiol mewn achosion disgyblu7%
Ymyriadau7%
Costau cyfleusterau ac eiddo5%

Ffigurau ardoll y Gronfa Iawndal

Rydym wedi cynyddu’r cyfraniadau y mae’n rhaid i gyfreithwyr a chwmnïau eu gwneud tuag at y gronfa yng ngoleuni’r risgiau a ragwelir yn y sector. Mae ein Bwrdd yn ystyried y pwysau ar y gronfa a ragwelir ac yn pennu’r ardoll ar sail hynny. Rydym wedi cynyddu’r cyfraniadau ar gyfer 2017/18 a 2018/19. Gallwch ddarllen rhagor am y Gronfa Iawndal yma.

2014/152015/162016/172017/182018/19
UnigCwmniUnigCwmniUnigCwmniUnigCwmniUnigCwmni
£32£548£32£548£32£548£40£778£90£1,680

Faint mae cyfreithwyr a chwmnïau’n ei dalu

Mae’r ffi ymarfer yr ydym yn ei chasglu yn ariannu chwe sefydliad, yn llawn neu’n rhannol, gan ein cynnwys ni. Yn 2017/18, casglwyd cyfanswm o £98.6m. Roedd y swm roedd pob cyfreithiwr yn ei dalu i ymarfer yn 2017/18 yr un faint ag oedd yn 2016/17 – £278. Hefyd, casglwyd £59.2m gan gwmnïau, o’i gymharu â £59.9m yn 2016/17. Mae’r swm mae pob cwmni’n ei dalu’n amrywio, yn ôl eu maint a’u trosiant.

Sut mae’r ffi yn cael ei rhannu

Mae’r ffi ymarfer yn cael ei rhannu rhwng:

  • • Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, sy’n rheoleiddio cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
  • • Cymdeithas y Cyfreithwyr, y corff sy'n cynrychioli cyfreithwyr. Rydym yn rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr.
  • • Ombwdsmon y Gyfraith, y sefydliad sy’n ymdrin â chwynion am wasanaethau a ddarperir gan gyfreithwyr
  • • Y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r broses o reoleiddio cyfreithwyr (gan gynnwys, er enghraifft, cyfreithwyr, bargyfreithwyr a'r rheini sydd wedi’u trwyddedu i wneud gwaith trawsgludo) yng Nghymru a Lloegr
  • • Y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, sef tribiwnlys statudol annibynnol sy’n delio ag erlyniadau a gaiff eu dwyn gennym yn erbyn cyfreithwyr
  • • Y Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS), cangen o’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y rheolydd gwasanaethau ariannol. Mae’r OPBAS yn cael ei hariannu hefyd gan reoleiddwyr cyfreithiol a chyrff proffesiynol eraill yn y sector cyfrifyddu ac ariannol. Mae’r arian yn cael ei wario i atal gwyngalchu arian. Mae rhagor o wybodaeth am ei gwaith atal gwyngalchu arian yma.

Mae’r LeO a’r LSB hefyd yn cael arian o rannau eraill o’r proffesiwn cyfreithiol.

SRA53.4%
TLS31%
LeO and the LSB12.9%
SDT2.4%
OPBAS0.3%

Y Bwrdd 2017/18

Mae Bwrdd yr Awdurdod yn goruchwylio ein trefniadau rheoli a’n perfformiad. Mae’n pennu ein strategaeth ac yn cefnogi, herio a dwyn y tîm rheolwyr gweithredol i gyfrif o ran ein cyfeiriad a’n gweithrediadau.

Mae’r isod yn dangos y Bwrdd fel yr oedd ar ddiwedd 2017/18. Heblaw pan fydd sedd wag dros dro (fel yr oedd ar ddiwedd 2017/18), rhaid iddo fod â mwyafrif o aelodau lleyg a chadeirydd bob amser.

Enid Rowlands, Cadeirydd 2014—2018

Roedd Enid yn aelod o fwrdd y Cyngor Meddygol Cyffredinol am wyth mlynedd, ac mae wedi llenwi rolau â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. Mae hefyd wedi gweithredu fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth y Tywysog ac roedd yn Gadeirydd Cymorth i Ddioddefwyr yn y DU. Ar ddiwedd 2018, ymddiswyddodd Enid fel y cadeirydd lleyg cyntaf, ar ôl gwasanaethu am yr uchafswm o bedair blynedd a chyfanswm o chwech ar y Bwrdd.


Yr Athro Julia Black

Mae Julia yn ddirprwy gyfarwyddwr ymchwil ac athro’r gyfraith yn y London School of Economics and Political Science. Mae Julia wedi cynghori llunwyr polisi, cyrff defnyddwyr a rheoleiddwyr ar bolisi rheoleiddio yn y DU a thramor. Ddiwedd 2018, ymddiswyddodd Julia ar ôl gwasanaethu ar y Bwrdd am bum mlynedd. Am dair blynedd, roedd hefyd yn gadeirydd ein Pwyllgor Polisi.


Sharon Darcy

Sharon yw cyfarwyddwr y felin drafod Sustainability First ac mae’n aelod o Banel Cynghori Arbenigol Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU. Roedd yn un o’r aelodau lleyg cyntaf i gael ei phenodi ar Bwyllgor Safonau Tŷ’r Arglwyddi. Mae Sharon yn aelod o gyngor Which?


David Heath

Roedd David yn aelod seneddol Somerton and Frome rhwng 1997 a 2015 a bu’n weinidog gwladol yn ystod y llywodraeth glymblaid. Yn ystod ei gyfnod yn y senedd, bu David yn gweithredu fel arglwydd ganghellor yr wrthblaid ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder. David yw’r Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ar y Bwrdd.


Paul Loft

Mae gan Paul brofiad helaeth mewn nifer o fusnesau manwerthu, gan gynnwys fel rheolwr gyfarwyddwr Homebase a Habitat, ac fel Cyfarwyddwr Cyllid Argos, Debenhams a Burton Menswear. Ers 2013, mae Paul wedi cadeirio pwyllgor archwilio a risg Peabody, cymdeithas tai yn Llundain, ac mae hefyd yn aelod o’i phwyllgorau cyllid ac enwebiadau.


Barry Matthews

Mae Barry yn gweithio’n fewnol fel cyfarwyddwr materion cyfreithiol a gwerthiant trydydd parti gydag ITV. Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Clearcast Limited a’r Pwyllgor Darlledu ar Arferion Hysbysebu rhwng 2013 a 2016. Yn 2018, sefydlodd y Social Mobility Business Partnership, sy’n helpu myfyrwyr o gefndir incwm isel i ddilyn gyrfa yn y proffesiynau.


Geoff Nicholas

Mae Geoff wedi bod yn bartner yn y grŵp datrys anghydfodau Freshfields Bruckhaus Deringer am dros 20 mlynedd. Mae’n gyd-bennaeth grŵp ymchwiliadau byd-eang y cwmni ac mae’n bartner marchnadoedd byd-eang. Mae Geoff yn cynghori cleientiaid rhyngwladol ar risgiau rheoliadol ac mae’n delio ag ymchwiliadau mewnol ac allanol.


Y Fonesig Denise Platt DBE

Mae Denise yn aelod o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac mae’n gyn gadeirydd y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol. Mae ei swyddi yn y gorffennol wedi cynnwys ymddiriedolwr yr NSPCC, ymddiriedolwr Sefydliad Banc Lloyds yng Nghymru a Lloegr, a llywodraethwr Prifysgol Bedfordshire (lle mae’n gymrawd anrhydeddus). Denise yw cadeirydd ein Pwyllgor Strategaeth Pobl.


Chris Randall

Mae Chris yn bartner yn Mayo Wynne Baxter ac mae wedi bod yn brif weithredwr er 2007. Ei brif arbenigedd yw ymgyfreitha mewn achosion anafiadau personol, er mai ei rôl bresennol yw rheolwr llawn amser. Cyn cychwyn ar ei yrfa yn y gyfraith, roedd Chris yn swyddog prawf yn Llundain.


Elaine Williams

Elaine yw cyfarwyddwr cyfreithiol ac ysgrifennydd y cwmni yn Eddie Stobart plc. Cyn hynny roedd yn gwnsler cyffredinol ac ysgrifennydd y cwmni gyda British Land a chyn bartner yn Freshfields Bruckhaus Deringer yn Llundain ac Asia. Cyn hynny, roedd ganddi rôl fel dirprwy ysgrifennydd cwmni’r grŵp gyda HSBC ac fel dirprwy ysgrifennydd y cwmni, rôl lle cafodd brofiad helaeth o lywodraethu corfforaethol ac ymarfer gorau ysgrifenyddiaeth cwmnïau.


Tony Williams

Tony Williams yw pennaeth Jomati Consultants LLP, ymgynghorwyr rheoli cyfreithiol rhyngwladol. Mae gwasanaethau Jomati yn cynorthwyo cwmnïau cyfreithiol, siambrau bargyfreithwyr ac adrannau cyfreithiol mewnol ag amrywiaeth o faterion strategol a rheoli. Mae Tony yn gyfreithiwr cymwysedig ac yn gyn bartner byd-eang gyda Clifford Chance.


David Willis

Mae David yn gyn cyd-brif weithredwr Herbert Smith Freehills. Mae ganddo sawl rôl ar hyn o bryd ag elusennau a sefydliadau addysgol. Un o’i rolau yw is-gadeirydd United Response, elusen sy’n gweithio ag oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu a chorfforol ac anghenion iechyd meddwl. David yw cadeirydd ein Pwyllgor Cyllid ac Archwilio.


Anna Bradley, Cadeirydd (Ionawr 2019 - )

Daw Anna Bradley â chyfoeth o brofiad rheoleiddio, polisi a phrofiad y cwsmer i’r sefydliad. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol annibynnol a chadeirydd Pwyllgor Cynghori Defnyddwyr Terfynol Pay.UK (y system taliadau manwerthu sy’n gyfrifol am £75tn o daliadau yn y DU). Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Age UK. Cyn hynny roedd yn gadeirydd Healthwatch England a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig, ymhlith eraill. Mae wedi ei phenodi am dair blynedd yn y lle cyntaf.

Ein gweithlu

Rydym yn cyflogi mwy na 600 o staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, ac mae’r mwyafrif wedi’u lleoli yn ein swyddfa yng nghanol dinas Birmingham, The Cube. Mae gennym hefyd staff wedi’u lleoli yn ein swyddfa yn Llundain ac oddi ar ein safleoedd.

Rydym wedi ymrwymo i fod â gweithlu talentog ac amrywiol i gynnal ein gwaith fel rheolydd sy’n gweithio er budd y cyhoedd.

Ein pobl yw ein hased mwyaf. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar gael y diwylliant a’r arweinyddiaeth gywir ac ar fabwysiadu’r dulliau gorau posibl wrth recriwtio, hyfforddi, datblygu a gwobrwyo ein staff. Dim ond gyda’u hymroddiad hwy y gallwn wasanaethu’r cyhoedd yn effeithiol a chyflawni ein hamcanion strategol.

Sefydliad amrywiol

Rydym yn gwerthfawrogi, yn parchu ac yn dathlu gwahaniaethau ac yn mwynhau’r buddiannau i’n diwylliant a’n perfformiad yn sgil amrywiaeth.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod ein staff yn adlewyrchu’r gymuned ehangach sy’n cael ei gwasanaethu gennym. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn amrywiol a chynhwysol, rydym yn recriwtio mewn ffordd hygyrch ac yn creu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.

Mae gennym achrediad Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn rhan o’r rhwydwaith Midlands Accessibility. Rydym hefyd yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac yn cyflwyno gwybodaeth i Fynegai Cyflogwyr Stonewall. Eleni, roeddem yn ymddangos yn safle 123 ar y rhestr, a oedd yn cynnwys 445 o sefydliadau. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi symud i fyny 48 lle ar y rhestr, ac ers dechrau cyflwyno gwybodaeth i’r mynegai dair blynedd yn ôl rydym wedi symud i fyny fwy na 100 o safleoedd.

Ein gwerthoedd

Mae ein holl weithgarwch yn cael ei ategu gan ein pump o werthoedd craidd, a ddatblygwyd gan ein staff. Rydym yn hyrwyddo ein gwerthoedd drwy gynlluniau diolch a gwobrwyo, a thrwy gyfleoedd i drafod a dysgu gyda’n gilydd. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn i ddathlu pob un o’n gwerthoedd. Mae staff yn cael eu hannog i feddwl sut y gallant weithredu ein gwerthoedd neu eu dangos yn eu gwaith pob dydd.

Teg

Rydym yn trin pobl yn gyfartal; heb ffafriaeth a heb wahaniaethu

Annibynnol

Rydym yn gweithredu’n amhleidiol, gan wneud penderfyniadau gwrthrychol y gallwn eu cyfiawnhau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Cynhwysol

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, gan werthfawrogi gwahaniaethau, i gyflawni nodau cyffredin

Proffesiynol

Mae gennym yr wybodaeth a’r sgiliau i gyrraedd safonau uchel, gan anelu at ragoriaeth

Blaengar

Rydym yn gwrando, yn ymateb ac yn datblygu ac yn gwella ein ffodd o weithio’n rhagweithiol

Ein gwaith elusennol

Mae ein staff yn pleidleisio i ddewis ein helusen bob dwy flynedd. Yn 2017/18, buom yn cefnogi St Basils, o Orllewin Canolbarth Lloegr am yr ail flwyddyn. Mae’n gweithio â phobl ifanc 16 - 25 oed sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac mae’n helpu dros 5,000 o bobl ifanc bob blwyddyn. Y nod yw eu helpu i dorri cylch digartrefedd, fel y gallant fynd ymlaen i brofi dyfodol disglair, llwyddiannus ac i beidio â dychwelyd eto i gyflwr lle maent mewn perygl o fod yn ddigartref.

Cyrhaeddwyd ein targed i godi £10,000 i St Basils yn ystod y ddwy flynedd drwy gymryd rhan yn y St Basils Big Brum Sleepout, y Great Birmingham Run, heriau ffitrwydd a chael dyddiau gwisg anffurfiol a gwerthu cacennau. Bu staff hefyd yn cyfrannu eitemau at becynnau dechreuwyr St Basils sy’n helpu pobl ifanc i gael cychwyn da pan fyddant yn symud i’w cartrefi eu hunain.

"Mae ein partneriaeth elusennol â’r Awdurdod dros y ddwy flynedd wedi bod yn rhyfeddol,” meddai Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu St Basils, Barrie Hodge. “Mae ymroddiad yr Awdurdod i’n hachos wedi bod yn hynod o bwysig i ni er mwyn gallu parhau â’r gwaith rydym yn ei wneud. Mae’r arian a godwyd ganddynt wedi ei wario ar ein tîm dysgu sgiliau a gwaith, sydd wedi galluogi pobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd i ddysgu’r sgiliau sydd ei hagen i fyw’n annibynnol. Mae hynny’n golygu bod arian yr Awdurdod wedi cael effaith barhaol ar fywydau pobl ifanc yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac rydym yn ddiolchgar dros ben i chi am hynny."

Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu St Basils, Barrie Hodge

Yn ogystal â chefnogi St Basils, rydym wedi gweithio hefyd ag elusennau eraill fel y Social Mobility Business Partnership, Mosaic, Ymddiriedolaeth Albert Kennedy, Birmingham LGBT ac rydym wedi cymryd rhan yn nheithiau cerdded codi arian y Legal Support Trust.

Ein rhwydweithiau staff

Mae rhwydweithiau staff yn ein helpu i greu gweithle gwirioneddol gynhwysol ac i gynnig cymorth uniongyrchol i aelodau drwy hyfforddiant a chyngor. Maent yn datgelu profiadau cydweithwyr, ac maent wedi cynnal ein cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Access Ability Network

Mae rhwydweithiau staff yn ein helpu i greu gweithle gwirioneddol gynhwysol ac i gynnig cymorth uniongyrchol i aelodau drwy hyfforddiant a chyngor. Maent yn datgelu profiadau cydweithwyr, ac maent wedi cynnal ein cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Eleni, mae’r rhwydwaith wedi bod yn gweithio i gynyddu ei aelodaeth. Mae ganddo gymuned newydd ar ein mewnrwyd ac mae wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl. Mae hyn wedi cynnwys hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i’n staff gan gymhorthyddion cyntaf iechyd meddwl. Mae hefyd wedi bod yn cydweithio’n agos â Midlands Ability, rhwydwaith newydd sy’n gweithio i helpu cyflogeion anabl yn yr ardal ac i rannu arferion gorau.

Rhwydwaith BAME

Ar gyfer staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), mae’r rhwydwaith hwn yn cynnig cyfleodd rhwydweithio a chymorth. Mae’n agored i bob aelod o staff, ac mae’n codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar ein staff BAME, a chydraddoldeb hiliol yn fwy cyffredinol.

Eleni, mae’r rhwydwaith wedi parhau i feithrin cysylltiadau â grwpiau a mudiadau allanol fel Rhwydwaith y Cyfreithwyr Croenddu, Cymdeithas y Cyfreithwyr Asiaidd a’r British Nigerian Law Forum. I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, cynhaliodd y rhwydwaith ddigwyddiadau panel a thrafodaethau, a oedd yn cynnwys yr heriau mae menywod BAME yn eu profi yn eu gyrfaoedd, yr anawsterau mae cenhedlaeth y Windrush wedi’u hwynebu, a phroblemau’r gymuned LGBTQ+ BAME wrth ddod allan. Mae hefyd wedi bod yn edrych ar y ffordd orau o fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth BAME ar lefelau uchaf y sector cyfreithiol, mewn partneriaeth â’r cwmni cyfreithiol Eversheds Sutherland.

Y Rhwydwaith Cristnogol

Mae’r Rhwydwaith Cristnogol yn cynnwys cydweithwyr sy’n Gristnogion neu sy’n ymddiddori yn y ffydd Gristnogol. Mae’r rhwydwaith yn helpu staff i fyw yn ôl eu ffydd yn eu gwaith, ac mae’n ymdrechu i helpu pobl i hyrwyddo ac i fyw yn ôl eu gwerthoedd.

Yn 2017/18, cynhaliodd y rhwydwaith ddigwyddiadau ar wir ystyr y Nadolig a’r Pasg a bu’n hyrwyddo gwasanaethau carolau ar gyfer y gymuned fusnes ym Mirmingham. Mae’r rhwydwaith hefyd wedi dechrau cydweithio’n agos â rhwydweithiau eraill sydd â diddordebau cyffredin, er enghraifft, helpu aelodau BAME sydd hefyd yn Gristnogion.

Y Rhwydwaith iCare

iCare yw’r diweddaraf o’n rhwydweithiau staff. Mae’n gweithredu fel fforwm i rannu pryderon, profiadau a syniadau ac mae’n cynnig help i bobl â chyfrifoldebau gofal. Gall y cyfrifoldebau hyn fod yn amrywiol gan gynnwys: gofalu am berthnasau oedrannus sy’n profi dirywiad corfforol neu feddyliol; perthnasau (o blant i oedolion) sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anableddau corfforol; a delio â digwyddiadau annisgwyl, fel damweiniau difrifol, diagnosis iechyd neu farwolaeth.

Mae aelodau’r rhwydwaith iCare wedi cyhoeddi blog am eu storïau personol ac wedi rhannu profiadau ymarferol o helpu rhai â dementia. Ymhlith digwyddiadau eraill, mae’r rhwydwaith wedi trefnu cyflwyniad gan gwmni o gyfreithwyr lleol ar werth a phwysigrwydd atwrneiaeth arhosol.

SRA Nexus – y Rhwydwaith Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd

Mae SRA Nexus yn rhwydwaith cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i gyflogeion. Fe’i sefydlwyd i hybu cyfleoedd cyfartal i aelodau staff LGBTQ+. Mae’n cynnig cymorth proffesiynol a chyfrinachol, ac mae’n codi ymwybyddiaeth o faterion LGBTQ+ yn gyffredinol.

Eleni, bu’r rhwydwaith yn cydweithio’n glos â’n tîm Adnoddau Dynol i hyrwyddo ein cais i Stonewall, bu’n cynnal digwyddiad yn fewnol i godi ymwybyddiaeth o’r niferoedd anghymesur o uchel o bobl LGBTQ+ sy’n ddigartref a bu cynrychiolaeth yn Pride Caerdydd am y tro cyntaf. Digwyddodd hyn ochr yn ochr â’n presenoldeb cryf yn Pride Birmingham a Llundain ac mewn partneriaeth â rheoleiddwyr a chwmnïau cyfreithiol lleol eraill. Mae’r aelodau hefyd wedi parhau i ehangu SRA Allies, sy’n gyfle i bob aelod o staff i ddangos eu hymrwymiad i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

NOW – y Rhwydwaith Menywod

Mae’r rhwydwaith hwn yn canolbwyntio ar hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chefnogi menywod. Mae’r rhwydwaith yn galluogi ein staff i rannu profiadau, cyfleoedd a gwybodaeth, i gynnig cymorth ac i drafod materion sy’n bwysig iddynt.

Eleni, mae’r rhwydwaith wedi rhoi pwyslais ar godi ymwybyddiaeth o’r menopos a sut mae’n effeithio ar fenywod yn y gweithle. Bu llawer o staff mewn cyflwyniadau ac yn trafod symptomau, cyngor meddygol, yr help sydd ar gael a rheoli yn y gweithle. Mae’r rhwydwaith hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan ddathlu gyrfaoedd siaradwyr gwadd benywaidd, a thrafod yr hyn mae angen ei wneud i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fel gweithio gwirioneddol hyblyg a llwybrau gyrfaol mwy amrywiol.

Proffil o’r gweithle

Cyflog yn ôl y rhywiau

Fel sefydliad gyda dros 250 o staff, rydym wedi cyhoeddi manylion am ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau am yr ail flwyddyn. Rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau hyn fel rhan o Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr. Cyhoeddodd y Grŵp ei fwlch cyflog yn anghywir yn 2017 am fod aberth cyflog wedi’i gynnwys. Mae’r Grŵp bellach wedi cywiro ac ail gyhoeddi ffigurau 2017.

O’i gymharu â chyfartaledd y DU o 17.9% (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2018), mae’r bwlch cyflog canolrifol 2018 rhwng y rhywiau ar draws Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr, llawn amser a rhan amser wedi’i gyfuno, yn 9%. Mae hyn yn unol â’n bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’i gywiro am 2017, a oedd yn 8.7%.

Rydym wedi ymrwymo i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys:

  • ar chwiliad cyflog cyfartal a gwblhawyd yn 2018, ac a ddaeth i’r casgliad nad oes gwahaniaethu systematig yn erbyn y naill ryw na’r llall
  • adolygiad parhaus i’r modd yr ydym yn recriwtio, yn cadw ac yn dyrchafu menywod i rolau ar bob lefel
  • adolygiad parhaus o’n strategaeth wobrwyo sy’n ymdrechu i roi sylw i unrhyw ragfarn ar sail rhyw ac unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill.
Rhywedd ein staff
  • Menywod – 59%
  • Dynion – 41%
Ethnicity
  • Gwyn/ gwyn Prydeinig: 66%
  • Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: 17%
  • Gwrthod dweud/heb ddatgan: 11%
  • Du/du Prydeinig: 3%
  • Cymysg: 3%
Gwelliannau o ran recriwtio BAME

43% o’r ymgeiswyr allanol llwyddiannus yn BAME.

31% o’r ymgeiswyr mewnol llwyddiannus yn Asiaidd/Asiaidd Prydeinig.

Dadansoddiad yn ôl oedran a graddfa
Oedran16-2425-3435-4445-5455-64Over 65
Cyfanswm y gweithlu4%28%31%26%10%0.7%

Dadansoddiad yn ôl graddfa

Oedran16-2425-3435-4445-5455-64Over 65
Rolau heblaw rheolwyr16%39%18%19%7%2%
Rolau arbenigol a rheolwyr2%28%33%27%9%0.4%
Penaethiaid unedau busnes a chyfarwyddwyr0%4%39%38%20%0%
Cyfeiriadedd rhywiol

Dywedodd 2.5% o staff wrthym eu bod yn hoyw neu ddeurywiol.

Dewisodd 11% o staff beidio â datgan eu cyfeiriadedd rhywiol.

Yn 2018, roedd y sefydliad yn ymddangos ar Fynegai Cydraddoldeb Gweithleoedd Stonewall am yr ail flwyddyn, gan symud 71 safle i fyny i safle 171. Mae’r mynegai yn cynnwys dros 400 o sefydliadau.

Anabledd

Dywedodd 6% o staff fod ganddynt anabledd, yr un fath â’r flwyddyn flaenorol, ac mae’r aelodau staff hyn wedi’u gwasgaru ar draws pob graddfa gyflog.

Dewisodd 3% o staff beidio â dweud a oedd ganddynt anabledd, ac mae’r ffigur hwn yr un fath ag yn y tair blynedd diwethaf.

RGrwpiau crefyddol a gynrychiolir

Ni fydd y canrannau o reidrwydd yn gwneud cyfanswm o 100% oherwydd talgrynnu.

  • Cristnogol: 39%
  • Sikh: 8%
  • Mwslim: 6%
  • Hindŵ: 2%
  • Arall: 0.7%
  • Bwdhaidd: 0.5%
  • Iddewig: 0.5%
  • Dim crefydd: 31%
  • Heb ddatgan: 15%
Digwyddiadau ffydd

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithle cwbl gynhwysol, rydym wedi dal ati i drefnu ein digwyddiadau ffydd poblogaidd i staff yn ystod 2017/18. Mae’r rhain yn annog staff o bob crefydd a chefndir i ddod at ei gilydd a dathlu fel un.

Ebrill

Vaisakhi a Gŵyl y Bara Croyw

Gorffennaf

Eid

Tachwedd

Diwali

Rhagfyr

Y Nadolig

Daw’r holl wybodaeth o’n Hadroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth ar gyfer 2018. Mae’r adroddiad yn cynnwys y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2018.

Y Bwrdd

Yn ystod 2017/18, roedd 12 o aelodau ar ein Bwrdd, ac roedd yn goruchwylio holl waith yr Awdurdod. Roedd chwech ohonynt yn gyfreithwyr ac roedd chwech yn aelodau lleyg, gan gynnwys y cadeirydd.

Prif Weithredwr

Mae’n arwain cyfeiriad strategol yr Awdurdod

Paul Philip


Materion Allanol a Chorfforaethol

Yn rheoli gwaith ymgysylltu mewnol ac allanol

Cyfarwyddwr Gweithredol, Jane Malcolm

  • Cwynion Corfforaethol

    Yn delio â chwynion gan y cyhoedd a’r proffesiwn am ein gwasanaeth

  • Cyfathrebu Digidol

    Yn rheoli ein presenoldeb ar-lein a’n cyfraniad tuag at legalchoices.org.uk ac iclr.net

  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

    Yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y sector, ac yn ymgorffori a hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith ni ein hunain

  • Cyfathrebu Allanol

    Yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol drwy’r cyfryngau a digwyddiadau

  • Llywodraethu

    Yn ategu llywodraethu corfforaethol

  • Cyfathrebu Mewnol

    Diweddaru staff a'u cynnwys yn ein gwaith

  • Cysylltiadau Cyhoeddus

    Yn gweithio â Seneddwyr ac eraill


Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddyd ynghylch Achosion Cyfreithiol

Yn canfod ac yn cywiro materion cyfreithiol ac yn cynnig arweiniad ar gyfarwyddyd ynghylch achosion

Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Gweithredol, Juliet Oliver

  • Cyfarwyddyd ynghylch Achosion

    Yn goruchwylio prosesau penderfynu rheoliadol mewn achosion ar draws y sefydliad ac yn darparu hyfforddiant ac arweiniad

  • Llywodraethu a Chydymffurfiaeth:

    Yn cynghori’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd i sicrhau ein bod yn defnyddio ein pwerau mewn ffordd sy’n gyfreithlon ac yn gallu gwrthsefyll heriau

  • Polisi Cyfreithiol

    Yn cynorthwyo â’r gwaith o ddiwygio er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern, a hynny drwy lunio a rhoi cyngor cyfreithiol


Achosion Pwysig

Rhoi cyngor ar gyfarwyddo gwaith ymgyfreithio ac erlyn cymhleth â phroffil uchel

Cyfarwyddwr Gweithredol, David Middleton (yn gadael fis Awst 2019)

  • Cyfarwyddyd ynghylch Achosion mewn Achosion Pwysig

    Rhoi cyfarwyddyd ar achosion pwysig a chymhleth

  • Dyfarnu

    Yn gwneud penderfyniadau rheoliadol ffurfiol ar achosion sy’n destun anghydfod, achosion proffil uchel neu gymhleth


Gweithrediadau a Pherfformiad

Yn rheoli gweithrediadau ac yn monitro eu heffeithiolrwydd

Cyfarwyddwr Gweithredol, Robert Loughlin

  • Awdurdodi

    Yn awdurdodi unigolion a chwmnïau i ymuno â’r proffesiwn a monitro eu haddasrwydd

  • Gwella Busnes a Sicrhau Ansawdd

    Yn sicrhau ansawdd, rheoli gwybodaeth a diwallu anghenion hyfforddi.

  • Diogelu Cleientiaid

    Yn gweinyddu’r Gronfa Ansawdd ac yn ymyrryd mewn cwmnïau cyfreithiol yn ôl yr angen.

  • Canolfan Gyswllt

    Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd a’r proffesiwn

  • Canllawiau Moeseg

    Rhoi arweiniad ar ein Cod a’n llawlyfr i’r sawl sy’n cael eu rheoleiddio gennym

  • Cyfreithiol a Gorfodi

    Yn paratoi achosion i’w dwyn gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr


Polisi ac Adnoddau

Hyrwyddo newidiadau i bolisi a rheoleiddio o fewn y sector cyfreithiol, gweithredu ein strategaeth a rheoli ein swyddogaethau allweddol

Cyfarwyddwr Gweithredol, Richard Collins (tan ddiwedd Chwefror 2019)

  • Newid Busnes

    Hyrwyddo a chyflawni newid a gwelliannau drwy gydweithredu

  • Cyllid, Adnoddau a Swyddogaethau Cymorth

    Yn rheoli ein cyllid, delio â chysylltiadau â gweithwyr ac adnoddau, ac yn trefnu rhaglenni risg a pharhad

  • TG a’r Seilwaith

    Datblygu a rheoli ein hanghenion TG

  • Polisi Rheoleiddio

    Rhoi diwygiadau ar waith er mwyn rheoleiddio mewn ffordd fodern a sicrhau safonau proffesiynol uchel


Goruchwyliaeth ac Addysg

Yn goruchwylio ymchwiliadau i gyfreithwyr a chwmnïau, adolygu risgiau yn y sector a bod yn gyfrifol am bolisi sy’n gysylltiedig ag addysg

Cyfarwyddwr Gweithredol, Crispin Passmore (tan ddiwedd 2018)

  • Addysg a Hyfforddiant

    Datblygu polisi ar addysgu a hyfforddi cyfreithwyr

  • Ymchwilio a Goruchwylio

    Yn asesu risgiau, ac yn dadansoddi ac yn ymchwilio i adroddiadau a wnaed am gyfreithwyr

  • Ymchwil a Dadansoddi

    Gwneud ymchwil a pharatoi data i ategu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

  • Rheoli Rheoleiddio

    Ymgysylltu’n rhagweithiol â chwmnïau ar ystod o faterion a chynnal ymchwil thematig i’r sector cyfreithiol

Ein perfformiad

Roedd 2017/18 yn nodi cychwyn ein Strategaeth Gorfforaethol dair blynedd newydd. Mae’n rhoi pwyslais ar safonau proffesiynol uchel, hyrwyddo dewis i ddefnyddwyr yn y farchnad a’n cydweithio i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl.

Mae hefyd yn ategu ein gwaith i weithredu diwygiadau pwysig i’n trefniadau rheoleiddio ac yn ystyried trefniadau rheoleiddio newydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r adran hon yn egluro sut yr ydym wedi perfformio yn erbyn pob un o’r amcanion yn y flwyddyn gyntaf.

Amcan un

Byddwn yn pennu ac yn gweithredu safonau proffesiynol uchel yn gyson ar gyfer yr unigolion a’r cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn briodol i wynebu heriau heddiw a’r dyfodol.

Eiriolaeth droseddol

Buom yn gweithio â rheolydd y bargyfreithwyr, Bwrdd Safonau’r Bar, i holi’r farnwriaeth am eu barn am eiriolaeth droseddol. Er bod barnwyr o’r farn bod yr eiriolaeth yn dda ar y cyfan, roedd meysydd lle’r oeddent yn credu y gellid ei gwella. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried sut y gallwn gefnogi eiriolaeth cyfreithwyr troseddol a sifil.

Gwneud polisïau ar sail tystiolaeth

Rydym yn gwneud newidiadau i bolisïau ar sail tystiolaeth, ac eleni rydym wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ymchwil i helpu i ddiwygio ein rheoliadau, fel ein rhaglen Gwybodaeth Well (gweler o dan amcan tri). Rydym hefyd wedi gweithio â mwy na 5,000 o bobl i ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen ar bobl pan fyddant yn chwilio am drawsgludwr i symud tŷ. Mae canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn wedi ein galluogi i gyflwyno rheoliadau newydd ynglŷn â lleiafswm yr wybodaeth y mae’n rhaid i gwmnïau cyfreithiol ei chynnwys ar eu gwefan, i helpu pobl sy’n siopa am wasanaethau cyfreithiol.

Buom yn edrych hefyd sut mae busnesau bach yn mynd ati i brynu gwasanaethau cyfreithiol, er mwyn i ni allu sicrhau bod cwmnïau cyfreithiol yn cyhoeddi gwybodaeth fuddiol. Dangosodd yr ymchwil i ni fod cyfran bosibl cwmnïau cyfreithiol o’r farchnad yn debygol o gynyddu pan fyddant yn cyhoeddi eu prisiau, hyd yn oed pan fydd pob darpar ddarparwr yn cyhoeddi gwybodaeth am eu prisiau.

Edrych i’r Dyfodol

Cwblhawyd diwygiadau pwysig i’n rheoliadau ym Mehefin 2018. Roedd y rhain wedi’u llunio i roi mwy o hyblygrwydd i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol ynglŷn â sut maent yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol a ble mae cyfreithwyr yn gweithio, gan wneud gwasanaethau cyfreithiol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Rydym wedi cyflwyno newidiadau yn dilyn pedwar ymgynghoriad cyhoeddus eang dros gyfnod o bedair blynedd, gan ymgysylltu â mwy na 35,000 o’r cyhoedd, y proffesiwn a rhanddeiliaid eraill. Mae’r diwygiadau hyn yn cael eu hategu gan set o Egwyddorion, Codau a rheolau ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy’n symlach ac yn haws i’w deall, ond sy’n dal i roi pwyslais ar safonau proffesiynol uchel.

Ym mis Tachwedd 2018, cymeradwyodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (LSB) ein cynlluniau i symleiddio ein rheolau. Byddant yn dod i rym ym mis Tachwedd 2019.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Mae’r Arholiad yn asesiad annibynnol sy’n sicrhau bod pob cyfreithiwr yn cyrraedd safonau uchel a chyson ym mhob pwynt mynediad o’r proffesiwn. Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd a chwmnïau cyfreithiol fod yn gwbl hyderus bod pob cyfreithiwr newydd yn cyrraedd yr un safonau uchel cyson, sut bynnag maent wedi cymhwyso.

Ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, ysgolion y gyfraith, cwmnïau cyfreithiol, grwpiau cynrychioliadol a rheoleiddwyr eraill, ym mis Tachwedd 2017 cymeradwyodd ein Bwrdd y rheoliadau sydd eu hangen i weithredu’r SQE. Y pedair elfen sydd eu hangen i gymhwyso yw: gradd neu gymhwyster cyfatebol, pasio’r ddau arholiad sy’n ffurfio’r SQE, dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwyso addas, a gallu arddangos cymeriad ac addasrwydd boddhaol.

Ym mis Mai 2018, cymeradwyodd y LSB ein cynlluniau i gyflwyno’r SQE. Yna penodwyd y darparwyr gwasanaethau addysgol Kaplan fel y sefydliad asesu i ddatblygu a rhedeg yr arholiad yn 2018, yn dilyn proses dendro drylwyr, blwyddyn o hyd. Byddwn, ochr yn ochr â Kaplan, yn parhau i weithio â rhanddeiliaid o’r sectorau cyfreithiol ac addysgol i ddatblygu a rhoi prawf ar SQE. Bydd Kaplan wedyn yn rhedeg y SQE ar ein rhan, gan ei gyflwyno ym mis Medi 2021. Darllenwch fwy am y SQE.

Amcan dau

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein gofynion rheoleiddio’n gymesur, yn rhoi hyblygrwydd i gyfreithwyr a chwmnïau i arloesi ac i ddiwallu anghenion y cyhoedd a busnesau’n well, tra’n cynnal camau priodol i ddiogelu’r cyhoedd.

Camau gorfodi

Rydym wedi diweddaru ein strategaeth yn dilyn ymgynghori eang ar ein rhaglen Edrych i’r Dyfodol, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â phobl ynglŷn â’r safonau maent yn eu disgwyl gan gyfreithiwr. Mae’r strategaeth newydd yn datgan yn glir sut a phryd y byddwn yn gweithredu yn erbyn cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr, yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud defnydd effeithiol o’n hadnoddau. Gwneir hyn drwy eu targedu at y troseddau mwyaf difrifol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, pan fydd cyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol wedi torri ein rheolau droeon neu’n fwriadol neu os ydynt ymhell o gyrraedd y safonau y mae’r cyhoedd a ni ein hunain yn eu disgwyl.

Daethpwyd â 134 o achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2017/18. Bu sawl achos proffil uchel yn ystod y flwyddyn a rhai apeliadau arwyddocaol. Mae achosion apêl yn brawf pwysig ar ein dull ac mae’r gwersi a ddysgir yn helpu ein gwaith. Yn benodol, gwrthododd yr Uchel Lys ein hapêl ar ôl i ni erlyn Leigh Day a thri o’u cyfreithwyr a oedd yn gysylltiedig ag Ymchwiliad Al-Sweady. Oherwydd lefel y diddordeb yn yr hyn a oedd yn achos cymhleth, penderfynwyd cyhoeddi manylion ein costau yn yr achos, a oedd tua £4.1m.

Yn 2018/19 byddwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein gwaith gorfodi, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ein prosesau a’n canlyniadau.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

I wneud yn siŵr bod y proffesiwn yn adlewyrchu’r cyhoedd y mae’n ei wasanaethu, ei fod yn annog pobl o bob cymuned i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol a’i fod yn elwa ar feddwl eang, rhaid iddo fod yn wirioneddol amrywiol. Rydym yn parhau i gefnogi a hyrwyddo amrywiaeth yn y proffesiwn drwy gasglu a chyhoeddi data ar fanylion y bobl sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol. Rydym hefyd yn cydweithio’n glos â grwpiau ar draws y sector i annog amrywiaeth ac i rannu arferion da. Eleni, roedd ein hadroddiad ‘Business case for diversity’ yn dangos bod cwmnïau cyhoeddus yn y chwarter uchaf o ran amrywiaeth ethnig 35% yn fwy tebygol o gael enillion ariannol sy’n uwch na’r cyfartaledd yn eu diwydiant.

Diogelu pobl sy’n prynu gwasanaethau cyfreithiol

Ym mis Mehefin, dechreuwyd ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r gofynion yswiriant indemniad proffesiynol (PII) rydym yn eu gosod ar gwmnïau, yn ogystal â newidiadau i’r Gronfa Iawndal. Mae’r mesurau diogelu hyn yn golygu bod lefel uchel o warchodaeth ar gael yn y sector cyfreithiol, ond gall lefel gyfredol y PII fod yn gostus ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i’w adolygu. Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y Gronfa Iawndal yn ateb gofynion y bobl fwyaf agored i niwed, a’i fod yn parhau i wneud hynny.

Amcan tri

Byddwn yn cynyddu argaeledd gwybodaeth berthnasol ac amserol i helpu pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol.

Gwell gwybodaeth a mwy o ddewis i’r cyhoedd

Rydym wedi ymgysylltu â dros 21,000 o bobl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pan oeddem yn datblygu ein cynigion i gyflwyno mwy o dryloywder ynghylch gwasanaethau cyfreithiol. Mae gwell gwybodaeth yn chwarae rhan allweddol i helpu’r cyhoedd i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth dda am y darparwr gwasanaethau cyfreithiol a allai fod ei angen arnynt ar gyfer eu problem gyfreithiol. Mewn ymchwil ar y cyd ag Economic Insight, gwelwyd fod 85% o bobl am iddi fod yn haws i gael gwybodaeth am ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol, yn enwedig gwybodaeth am bris, ansawdd a mesurau diogelu’r cleient.

Ers Rhagfyr 2018, mae’r cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gennym wedi dechrau cyhoeddi gwybodaeth am y prisiau a godir ganddynt am wasanaethau mewn nifer o feysydd cyffredin a’r hyn sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’r gwasanaethau hyn. Mae’r meysydd yn cynnwys, er enghraifft, trawsgludo a phrofiant, yn ogystal â gwasanaethau allweddol i fusnesau bach.

Rydym hefyd wedi gweithio â’r cyhoedd i ddatblygu bathodyn digidol ar gyfer cwmnïau cyfreithiol sy’n cael eu rheoleiddio, fel y bydd yn hawdd i bobl weld pa fesurau diogelu sydd gan y cwmni ar waith. Datblygwyd y bathodyn newydd hwn yn hydref 2018 a chafodd ei gyflwyno’n wirfoddol fis Rhagfyr 2018. Bydd yn orfodol yn ddim cynharach na haf 2019.

Legal Choices

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r wefan Legal Choices, sy’n cynnig gwybodaeth wrthrychol ac awdurdodol i bobl sydd â phroblem sy’n golygu y bydd angen gwasanaeth cyfreithiol arnynt. Rydym yn rheoli’r wefan ar ran y rheoleiddwyr cyfreithiol ar y cyd. Gwelwyd cynnydd o 38% yn nifer y tudalennau yr edrychir arnynt ar y safle, a’r tudalennau ‘Got a legal problem?’ a ‘Types of lawyer’ yw’r mwyaf poblogaidd.

Ymhlith pynciau eraill, roedd ein gwaith yn 2017/18 yn canolbwyntio ar agweddau defnyddwyr, y teulu a mewnfudo ar y gyfraith. Mae’r rhain yn agweddau, a gwyddom hynny drwy waith ymchwil, lle mae angen cyfreithiol sydd heb ei ddiwallu, neu lle nad oes digon o wybodaeth ar gael i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth pan fyddant yn prynu gwasanaeth cyfreithiol.

Rydym hefyd wedi cyrraedd hanner ffordd drwy brosiect pwysig i wella dyluniad a defnyddioldeb y safle. Bydd hyn yn darparu cynnwys newydd, rhyngweithiol i’r carfanau hynny o’r gymuned sydd â’r angen mwyaf am wybodaeth wrthrychol, o ansawdd uchel ar wasanaethau cyfreithiol.

Amcan pedwar

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein trefniadau rheoliadol yn gweithio mor effeithiol â phosibl i’r cyhoedd, i fusnesau, cyfreithwyr a chwmnïau yng nghyd-destun datblygiadau cyfansoddiadol yn y DU ac unrhyw berthynas newydd â’r UE.

Y Gronfa Iawndal

I wneud yn siŵr bod defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu diogelu pan fydd pethau’n mynd o chwith, rydym wedi bod yn edrych ar ddata hawliadau hanesyddol i wella ein dealltwriaeth o lefel bosibl y rhwymedigaethau y gallai’r Gronfa Iawndal ei hwynebu yn y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2018, buom yn ymgysylltu wyneb yn wyneb â dros 400 o bobl yn ystod ein hymgynghoriad ar wneud newidiadau i geisiadau i’r Gronfa Iawndal. Mae ein cynigion wedi’u datblygu i wneud yn siŵr bod y cymorth ariannol y gallwn ei gynnig yn canolbwyntio ar y rhai â’r angen mwyaf. Cawsom dros 150 o ymatebion i’n cynigion. Ar ôl i ni ddadansoddi’r ymatebion, byddwn yn ystyried ein camau nesaf.

Ymadael â’r UE

Rydym wedi parhau i weithio’n glos ag adrannau’r llywodraeth i wneud yn siŵr bod gan y sector yr wybodaeth sydd ei hangen arni am ymadawiad y DU o’r UE. Ym mis Hydref, ymatebwyd i hysbysiad technegol y llywodraeth ar oblygiadau ymadael ‘heb gytundeb’ i’r sector cyfreithiol, gan ddarparu gwybodaeth allweddol i gwmnïau a chyfreithwyr wedi’u cofrestru yn Ewrop. Buom yn edrych hefyd ar y goblygiadau i gyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio ac rydym wedi rhannu ein canfyddiadau. Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer unrhyw newidiadau i’r rheolau.

Gwyngalchu arian

Yn 2017/18, gweithredwyd y rheolau newydd fel maent wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cyllid (Gwybodaeth am y Talwr). Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi:

  • casglu gwybodaeth gan gwmnïau rydym yn eu rheoleiddio a oedd yn gofyn a oedd y gwasanaethau a gynigir ganddynt yn cael eu gweld fel meysydd risg uchel ar gyfer gweithgarwch gwyngalchu arian (mae’r meysydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, eiddo a gwasanaethau asiantaethau eiddo a chysylltiad cyfreithwyr ag ymddiriedolaethau a gwaith corfforaethol)
  • gofyn i bobl sydd â rheolaeth sylweddol dros y ffordd mae cwmni’n cael ei redeg, fel rheolwyr a pherchnogion llesiannol cwmnïau, i gael cymeradwyaeth gennym ni i barhau i gynnig gwasanaethau cyfreithiol
  • cyhoeddi asesiad risg i helpu cwmnïau i ganfod a ydynt yn ymarfer mewn maes â’r risg uchaf o wyngalchu arian – mae dros 4,000 o bobl wedi edrych ar yr wybodaeth hon ar-lein
  • pennu sgôr risg i gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau sy’n dod o fewn y rheoliadau.

Rydym hefyd wedi cael adborth positif ac adeiladol ar ein harferion gweithio a’n prosesau gan y Tasglu Gweithlu Ariannol a’r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol.

Rhagolwg Risgiau

Byddwn yn parhau i ddiweddaru a chyhoeddi gwybodaeth ar risgiau yn y farchnad gyfreithiol drwy ein Rhagolwg Risgiau. Roedd ein chweched Rhagolwg unwaith eto’n tynnu sylw at gysylltiad cyfreithiwr â chynlluniau buddsoddi amheus fel risg allweddol sy’n cael blaenoriaeth. Roedd hefyd yn rhoi sylw i fygythiad gwyngalchu arian a rheoli hawliadau’n amhriodol, ac maent ill dau’n feysydd lle bydd cyfrifoldebau cyfreithwyr wedi newid yn dilyn cyflwyno rheolau neu reoliadau newydd.

Mae seibrdroseddau’n parhau i fod yn risg yn y sector ac mewn diwydiannau ehangach, yn yr un modd â diffyg amrywiaeth. I fynd i’r afael â’r mater hwn sy’n flaenoriaeth, rydym wedi bod yn hyrwyddo buddiannau amrywiaeth yn ein hadroddiad ‘The business case for diversity’. Mae’n amlygu enillion ariannol gwell i sefydliadau mwy amrywiol, yn ogystal â mwy o alluoedd creadigol, arloesi a datrys problemau. Rydym hefyd wedi cyhoeddi papur pwnc Rhagolwg Risgiau o’r enw ‘Balancing duties in litigation’, a oedd yn ymdrin â meysydd fel y defnydd o gytundebau dim datgelu (NDA).

Cymru

Fel y rheoleiddiwr ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau yng Nghymru a Lloegr, rydym eisoes wedi cynyddu ein gweithgarwch yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyhoeddiadau a thystysgrifau gweithio yn Gymraeg.

Cyfarfu’r Bwrdd yng Nghymru eto ym mis Mawrth 2018 ac am y tro cyntaf buom yn hyrwyddo amrywiaeth yn y proffesiwn yn sgil ein presenoldeb yn Pride Cymru. Rydym wedi parhau i gydweithio’n glos â sefydliadau allweddol yng Nghymru cyn cyflwyno’r SQE yn 2021.

Rhybuddion

Rydym yn cyhoeddi rhybuddion i’r proffesiwn ac yn rhybuddio’r cyhoedd am risgiau ac ymarfer gwael. Yn 2017/18, cyhoeddwyd rhybuddion mewn chwe maes:

  • defnyddio cyfrif client fel cyfleuster bancio, rhywbeth nad yw’n cael ei ganiatáu o dan ein rheolau
  • defnydd anghywir neu amhriodol o NDA
  • hawliadau yswiriant diogelu taliadau, pan ydym yn pryderu nad yw cwmnïau a chyfreithwyr yn gweithredu’n briodol, er enghraifft, drwy weithredu mewn materion heb ymchwilio’n gyntaf a oes hawliad dilys
  • hawliadau salwch ar wyliau, lle nad yw cyfreithwyr wedi gweithredu’n briodol wrth ddelio â hawliadau o’r fath, er enghraifft, drwy beidio â chynghori cleientiaid yn briodol am yr hyn a ddisgwylir ganddynt pan fyddant yn gwneud hawliad
  • hwyluso gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth a pha bryd y dylai cyfreithwyr roi gwybod am drafodion amheus
  • atgyfeiriadau anafiadau personol, sydd wedi’u gwahardd ers 2013, a delio’n wael â hawliadau anafiadau personol

Gweithio â rheoleiddwyr ar draws y byd

I gynyddu ac i hybu cysylltiadau gweithio â rheoleiddwyr cyfreithiol o wledydd eraill, rydym yn rhedeg gwefan y Gynhadledd Ryngwladol o Reoleiddwyr Cyfreithiol (ICLR). Mae ganddi 170 o aelodau o 60 o sefydliadau mewn 25 o awdurdodaethau, ac rydym yn cyhoeddi erthyglau rheolaidd ar reoleiddio cyfreithiol. Mae hyn yn dod â gwybodaeth arbenigol o bob cwr o’r byd at ei gilydd mewn un lle. Eleni, gwelwyd cynnydd o 35% yn nifer y tudalennau a ddarllenwyd yn ystod 2017/18. Buom hefyd yn siarad yn nigwyddiad blynyddol yr ICLR ar ystod o faterion rheoleiddio perthnasol.

Amcan pump

Byddwn yn gweithio’n well â’n gilydd, ac ag eraill, i wella ein heffeithiolrwydd, ein hymatebolrwydd cyffredinol a’r modd yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau.

Diogelu data

I baratoi ar gyfer cyflwyno’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, a ddaeth i rym ym mis Mai 2018, buom yn darparu hyfforddiant gorfodol i’n holl staff ar ddelio â data personol o dan y rheolau newydd, effaith cam-drafod data a sut i roi gwybod os yw’r rheolau’n cael eu torri. Buom hefyd yn diwygio ein polisïau a’n prosesau sy’n gysylltiedig â data a chwblhawyd hunanasesiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar barodrwydd, a chawsom sgôr gwyrdd. Rydym yn parhau â’r gwaith o gydymffurfio ag amrywiaeth o reolau ac rydym yn defnyddio dull preifatrwydd o’r cychwyn wrth adeiladau ein systemau TG newydd.

Ymgysylltu wyneb yn wyneb ac ar-lein

Cyfarfu aelodau’r bwrdd, y cyfarwyddwyr gweithredol a staff â’r cyhoedd a’r proffesiwn mewn 142 o ddigwyddiadau, gyda 40 ohonynt yn cael eu trefnu gennym ni. Roedd y rhain yn amrywio o ddigwyddiadau lle buom yn trafod materion a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoleiddio â rhanddeiliaid, fel ein Cynhadledd ar Gydymffurfio, sesiynau bord gron AQE, a gweithdai ar gydymffurfio â chwmnïau bach, a hefyd digwyddiadau mwy cyffredinol, lle’r ydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fater penodol. Er enghraifft, roeddem yn bresennol yng ngorymdeithiau Pride Birmingham, Llundain a Chaerdydd, a threfnwyd digwyddiad gydag Eversheds Sutherland yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon i edrych ar y ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth o blith pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar lefelau uwch y sector cyfreithiol.

Gwelwyd cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau â thudalennau ein gwefan yn 2017/18, i 10.5 miliwn ac, yn dilyn ail-ddylunio ein gwefan, bu cynnydd o 11% mewn ymwelwyr unigryw. Rydym wedi ymestyn ein cyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol a gwnaethpwyd 7.2 miliwn o argraffiadau ar bob platfform – cynnydd o 18%.

Moderneiddio TG

Rydym wedi parhau i weithio ar ein rhaglen fawr i foderneiddio ac i ddiogelu ein system TG ar gyfer y dyfodol ac, ers lansio’r rhaglen yn 2016, rydym wedi cynnal 136 o weithdai i ymgysylltu â’r cyhoedd a’r proffesiwn i ddeall eu hanghenion. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen, ac rydym wedi ymrwymo i ddyluniad sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer. Rydym wedi cyflwyno ein gweithle digidol newydd fel y bydd gan staff ddefnydd o’r meddalwedd diweddaraf, mewnrwyd newydd a phorth adnabod. Hefyd, cafodd ein gwefan ar ei newydd wedd ei lansio yn 2018 ar ôl gweithio â’r proffesiwn a’r cyhoedd i wella gwelywio a defnyddioldeb y safle. Bu cynnydd o 14% yn nifer yr ymwelwyr â’r safle, mae ymweliadau unigryw wedi cynyddu 11% a bu gostyngiad o 11% yn y gyfradd ymadael, lle mae pobl yn gadael gwefan ar ôl edrych ar un dudalen yn unig.

Siarter ymgysylltu â’r cyhoedd

Rydym yn siarad ac yn gweithio â’r cyhoedd bob dydd, felly mae’n bwysig eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl gennym. Yn 2017/18, dechreuwyd ar y gwaith o lunio siarter ymgysylltu â’r cyhoedd i helpu pobl i ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnynt mewn un lle. Tua diwedd 2017/18, buom yn cynnal arolygon, cyfres o sesiynau bord gron â’r cyhoedd, ac yn trefnu cyfarfodydd â rhanddeiliaid, gan ofyn iddynt am adborth ar ein siarter drafft. Byddwn yn defnyddio hyn, a’r adborth o ymgynghoriad sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2019, i gwblhau’r gwaith.

Tryloywder ynghylch ein gwaith

Cyhoeddwyd ein hail Adolygiad Blynyddol, ar ei ffurf newydd yn 2018, gan ddwyn ynghyd ein holl ddata rheoleiddio a manylion ar sut yr oeddem wedi perfformio yn erbyn ein hamcanion ar gyfer 2016/17. Cafodd ei gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg, a buom yn gweithio â sefydliad arbenigol i gyhoeddi fersiwn hawdd ei darllen, i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn hygyrch i bawb.

Rydym hefyd yn gweithredu cod tryloywder gwirfoddol. Mae hwn yn cael ei weithredu mewn ffordd debyg i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nad yw’n gymwys i ni. Rydym yn dilyn ein cod ein hunain am ein bod yn credu mewn bod mor agored â phosibl am yr hyn rydym yn ei wneud. Ein hegwyddor graidd yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael oni bai bod rheswm da dros beidio ei rhyddhau.

Ers i ni ddechrau cofnodi data ym mis Ionawr 2018 hyd ddiwedd ein blwyddyn ariannol ym mis Hydref, roeddem wedi delio â 147 o geisiadau o dan ein cod. Roeddem yn gallu datgelu gwybodaeth, naill ai’n llawn neu’n rhannol, yn achos bron i ddau draean o’r holl geisiadau. Mewn rhai achosion lle nad oeddem wedi datgelu’r wybodaeth, roedd hynny oherwydd ei bod eisoes ar ein gwefan neu yn ein Hadolygiad Blynyddol. Mewn achosion eraill, nid oeddem wedi rhyddhau’r wybodaeth gan y byddai’n peryglu ein gwaith rheoliadol neu am y byddai’n golygu ein bod yn rhyddhau gwybodaeth bersonol.

Gweithio’n well gyda’n gilydd

Os ydym am gynhyrchu’n gwaith gorau, mi wyddom fod yn rhaid i ni greu amgylchedd gwaith positif ar gyfer ein staff. Elfen allweddol o hyn yw ein sianelau cyfathrebu â staff. Rydym wedi gwella a datblygu’r rhain ymhellach yn 2017/18, gan ganolbwyntio ar:

  • mewnrwyd newydd sy’n dod â’n negeseuon mewnol i staff, ein polisïau a gwybodaeth arall at ei gilydd ac sy’n rhoi cyfle i’n staff i ffurfio cymunedau ar-lein sy’n seiliedig ar brosiectau, timau a rhwydweithiau staff
  • ein rhwydweithiau staff a’n cyfres o ddigwyddiadau ffydd blynyddol, sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant drwy gydol y flwyddyn
  • ein gwerthoedd corfforaethol, sy’n cael eu hyrwyddo a’u dathlu drwy ddigwyddiadau ac amryw o gynlluniau ar gyfer staff.

Y cwmnïau a’r unigolion rydym yn eu rheoleiddio

    Cyfreithwyr sy’n gweithio: 146,625
  • Cwmnïau cyfreithiol: 10,407
  • Cwmnïau cyfreithiol sydd wedi mabwysiadu trwydded strwythur busnes amgen: 791
  • Unigolion nad ydynt yn gweithio fel cyfreithwyr sydd ar y gofrestr o gyfreithwyr: 45,496
  • Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig: 689
  • Cyfreithwyr tramor cofrestredig: 2,491
  • Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio: 3,203

Cofnodwyd y ffigurau hyn ym mis Hydref 2018. Darllenwch ragor am y mathau o gwmnïau cyfreithiol sy’n cael eu rheoleiddio gennym yma.

Canllawiau Moeseg

Mae ein tîm Canllawiau Moeseg yn rhoi arweiniad a chymorth i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol ar yr holl faterion sy'n ymwneud â moeseg sy'n effeithio ar eu gwaith. Cawsom 34,000 o alwadau a 2,000 o ymholiadau drwy ein cyfleuster sgyrsiau gwe yn 2017/18. Roedd pobl yn bryderus am y meysydd canlynol:

  • cyfrinachedd a datgelu gwybodaeth
  • y Rheolau Cyfrifyddu
  • dilysrwydd a therfynu tystysgrifau gweithio
  • cytundebau cadw â chleientiaid
  • gwrthdro buddiannau.

Ymholiadau i’r Ganolfan Gyswllt

Cawsom 171,000 o alwadau i’n Canolfan Gyswllt yn ystod 2017/18. Hefyd, cafodd y Ganolfan Gyswllt 45,000 o negeseuon e-bost. Roeddent gan neu ynghylch:

Y cyhoedd

  • 77,000 o alwadau
  • 25,000 o negeseuon e-bost

Buom yn helpu pobl i wirio manylion cyfreithwyr i sicrhau mai hwy yw’r sawl maent yn ei honni, i adennill ffeiliau pobl o gwmnïau a oedd wedi cau ac yn delio â chwynion am gyfreithwyr.

Cwmnïau a chyfreithwyr

  • 61,000 o alwadau
  • 12,000 o negeseuon e-bost

Buom yn delio â galwadau am geisiadau am dystysgrifau i weithio, yn cynghori ar fabwysiadu modelau busnes newydd, ac yn helpu ag ymholiadau ynglŷn â chyfrifon MySRA.

Education and training

  • 33,000 o alwadau
  • 8,000 o negeseuon e-bost

Buom yn ateb cwestiynau cyffredin am y gyfundrefn cymhwysedd parhaus newydd a ffyrdd eraill o gymhwyso.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Gwell gwybodaeth, mwy o ddewis

Ein gwaith i wneud gwasanaethau cyfreithiol yn fwy tryloyw i’r cyhoedd

  • Cafwyd 80 o ymatebion i’n ymgynghoriad yn cynnig bod mwy o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd
  • 4,000 o ymweliadau â chynnwys cysylltiedig ar y we
  • Ymgysylltu â 15,000 o’r cyhoedd a chynrychiolwyr grwpiau defnyddwyr drwy ddigwyddiadau a pholau piniwn ar-lein

Moderneiddio TG

Rhaglen i fuddsoddi yn ein TG i’w gwneud yn barod am y dyfodol ac yn rhwydd i’w defnyddio. Ers ei lansio yn 2016 –

  • mae 717 o bobl yn rhan o’n grŵp cyfeirio rhithwir
  • 122 o weithdai a grwpiau ffocws wedi’u cynnal â’r cyhoedd a’r proffesiwn
  • 70 o sefydliadau wedi bod yn gysylltiedig ag ymchwil

Edrych i’r Dyfodol, diwygio’r Llawlyfr

Cynigion i symleiddio ein rheolau

  • 77 o ymatebion i’n ymgynghoriad ar ddiwygio ein rheolau
  • 400 tudalen i 130 tudalen
    • 270 o dudalennau wedi’u tynnu wrth ddiwygio ein rheolau a’u symleiddio
  • Ymgysylltu â 3,500 o bobl ar drefniadau i orfodi ein rheolau newydd

Y Gynhadledd ar Gydymffurfio 2018

Digwyddiad blynyddol sy’n helpu cwmnïau a chyfreithwyr i reoli risg

  • Dywedodd 94% o’r cynrychiolwyr y byddent yn dod i ddigwyddiad tebyg eto
  • 450 o bostiadau #colpcofa yn gwneud bron i 5 miliwn o argraffiadau
  • 1,300 o gynrychiolwyr a 273 o wylwyr ar-lein, ein grŵp mwyaf o gynrychiolwyr yn y gynhadledd hyd yma

Diogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol

Cynigion i gyflwyno newidiadau i’n Cronfa Iawndal a’r rheolau indemniad

  • 150+ o ymatebion i’n ymgynghoriad
  • 33 o ddigwyddiadau gyda’r proffesiwn, y cyhoedd ac yswirwyr
  • Dros 2 filiwn o argraffiadau ar gyfryngau cymdeithasol

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Y cymhwyster newydd fydd ei angen i fod yn gyfreithiwr

  • 100 o bobl yn ein cynhadledd SQE ar gyfer darparwyr addysg
  • 43,000 o ymwelwyr â chynnwys cysylltiedig ar y we
  • Wedi ymweld â 5 o ddinasoedd a dros 150 o bobl wedi ymgysylltu â’n sesiynau bord gron SQE

Presenoldeb ar-lein

  • 153,926 wedi gweld rhybuddion am gwmnïau ffug a sgamiau
  • 50,000+ wedi gweld gwybodaeth am ein rhybuddion
  • Bu cynnydd o 38% yn nifer yr ymweliadau â Legal Choices
    • 9,000+ wedi ymweld â’r dudalen ‘Got a legal issue?’
    • 8,000+ wedi ymweld â’r dudalen ‘Types of lawyer’
  • 433,104 o bobl wedi defnyddio ein cyfleuster Chwilio am Gwmnïau Cyfreithiol
  • 114,175 wedi gweld ein Rhagolygon Risg a chynnwys cysylltiedig
  • Bu cynnydd o 9% i 10.5 miliwn yn nifer y tudalennau a welwyd ar sra.org.uk
    • Cynnydd o 11% yn nifer yr ymwelwyr newydd ers ail-ddylunio’r safle
    • Cynnydd o 39% mewn ymwelwyr â rhannau o’r wefan sy’n canolbwyntio ar faterion defnyddwyr
  • 689,461 o bobl wedi defnyddio ein cyfleuster ar-lein i archwilio record cyfreithwyr

Gwerthfawrogi a hybu amrywiaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i annog amrywiaeth yn y proffesiwn ac yn ein sefydliad, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ystod 2017/18.

Hydref | Mis Hanes Pobl Dduon, Leeds

Cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad Mis Pobl Dduom yn Eversheds ym mis Hydref. Buom yn rhannu profiadau am hybu amrywiaeth ar bob lefel ac yn trafod arferion gorau a heriau i gwmnïau.

Mai | Tasglu Llesiant y Proffesiynau Cyfreithiol, Llundain

Cymerwyd rhan yn sesiwn ford gron arbennig gyntaf Tasglu Llesiant y Proffesiynau Cyfreithiol cyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Ochr yn ochr â rheoleiddwyr a sefydliadau cyfreithiol eraill, buom yn trafod sut y gall y proffesiwn cyfreithiol hybu llesiant meddyliol cyfreithwyr yn well.

Mai Mehefin Awst | Pride, Birmingham, Llundain a Chaerdydd

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, buom yn cefnogi gorymdeithiau Pride Birmingham a Llundain ym Mai a Mehefin yn y drefn honno, gan ddathlu’r gymuned LGBTQ+ ehangach a’r rôl mae’n ei chwarae mewn proffesiwn cyfreithiol amrywiol a modern. Am y tro cyntaf, aethom hefyd i’r orymdaith Pride yng Nghaerdydd. Yn y digwyddiadau hyn cawsom gwmni sefydliadau a rheoleiddwyr eraill o’r sector cyfreithiol.

Awst | Social Mobility Business Partnership, Birmingham

Cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad â’r Social Mobility Partnership. Mae’n gweithio â phobl ifanc sy’n rhan o’r genhedlaeth gyntaf yn eu teulu agos i fynd i brifysgol neu sydd, neu wedi bod, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ei nod yw ehangu mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol a datblygu sgiliau allweddol darpar gyfreithwyr.

Cwrdd â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru a Lloegr

Y Gynhadledd ar Gydymffurfio, Birmingham

Bellach yn ei chweched blwyddyn, daeth â dros 1,300 o weithwyr proffesiynol cydymffurfio at ei gilydd i drafod seibrdroseddau, cynlluniau buddsoddi amheus, gwyngalchu arian a phynciau eraill. Croesawyd Ombwdsmon y Gyfraith, Cofrestrfa Dir EM a siaradwyr o sefydliadau allanol eraill i siarad ochr yn ochr â ni.

Helpu cwmnïau bach, Wrecsam

Buom yn cwrdd â chwmnïau ac yn trafod y camau ymarferol y gallant eu cymryd i frwydro yn erbyn seibrdroseddau a gwyngalchu arian. Buom hefyd yn diweddaru cwmnïau ar ein rhaglen i ddiwygio rheoleiddio.

Sioe Deithiol Innovate, Swydd Gaergrawnt, Bryste, Newcastle

Digwyddiadau a gynhaliwyd gennym i hyrwyddo’r gwasanaethau arloesol mae cwmnïau cyfreithiol yn eu cynnig.

Grwpiau ffocws Moderneiddio TG, Abertawe a Llundain

Buom yn cwrdd â’r cyhoedd a’r proffesiwn i ddysgu sut y gall gwelliannau i’n system TG eu helpu i ddefnyddio ein gwasanaethau’n well.

Sesiynau bord gron SQE, Llundain, Leeds, Caerdydd, Birmingham a Manceinion

Gyda Kaplan, buom yn cwrdd ag academyddion a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol i ateb eu cwestiynau am y SQE.

Siarter ymgysylltu â’r cyhoedd, Llundain a Birmingham

Buom yn cwrdd â’r cyhoedd i ofyn am eu hadborth ar ein siarter drafft ar ymgysylltu â’r cyhoedd.

Codi proffil risgiau

Amlygodd ein Rhagolwg Risgiau diweddaraf 10 risg sy’n haeddu blaenoriaeth:

  • seibrddiogelwch
  • amrywiaeth yn y proffesiwn
  • diogelwch gwybodaeth
  • uniondeb a moeseg
  • cynlluniau buddsoddi
  • diffyg mynediad at wasanaethau cyfreithiol
  • rheoli hawliadau
  • gwyngalchu arian
  • diogelu arian cleientiaid
  • safonau gwasanaeth.

217 o rybuddion am sgamiau

Cyhoeddwyd 217 o rybuddion am sgamiau i hysbysu’r cyhoedd am seibrdroseddau. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd twyllwyr yn cymryd arnynt eu bod yn gyfreithwyr er mwyn rhoi’r argraff bod y twyll yn ddilys.

The website "www․terryandtreadwellsolicitors․com" was operating, falsely claiming to be the website for a law firm in London

Cyhoeddwyd chwe rhybudd yn ymwneud ag arferion gweithio

  • delio’n amhriodol â hawliadau salwch ar wyliau
  • cwmnïau cyfreithiol yn defnyddio eu cyfrif cleientiaid fel cyfleuster bancio
  • delio’n amhriodol â hawliadau yswiriant diogelu taliadau
  • defnydd amhriodol o gytundebau peidio datgelu
  • cwmnïau cyfreithiol heb systemau ar waith i ganfod gwyngalchu arian
  • delio’n amhriodol â hawliadau anafiadau personol.

Canlyniadau gwaith goruchwylio 2017/18

Ceir rhagor o wybodaeth am y camau disgyblu rydym yn eu cymryd, a’r diffiniad o gytundeb setliad rheoleiddio yma.

Noder, gall un ffeil arwain at fwy nag un penderfyniad

2017/18
Achosion lle cafodd honiadau eu cadarnhau neu lle cymerwyd camau251
Canlyniad penderfyniadauCanlyniadau y cytunwyd arnynt drwy Gytundeb Setliad Rheoleiddio (RSA)
Llythyr cynghori 132-
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd65
Cystwyo neu gerydd3922
Dirwy2117
Amodau a osodwyd ar unigolyn neu gwmni 183
Gorchymyn adran 43 376

Mae gorchymyn adran 43 yn golygu ein bod yn rhwystro unigolion nad ydynt yn gyfreithwyr, e.e. rheolwyr a gweithwyr eraill, rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.

Gwrandawiadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 2017/18

Cafodd 134 o achosion eu dwyn gerbron y Tribiwnlys gennym yn 2017/18 ac arweiniodd hynny at y penderfyniadau canlynol. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys canlyniadau a wnaethpwyd drwy ganlyniadau y cytunwyd arnynt.

Noder fod un gwrandawiad yn gallu arwain at fwy nag un penderfyniad. Gall Arall olygu, er enghraifft, gerydd neu orchymyn adran 43.

2017/18
Achosion a ddygwyd134
Diarddel78
Dirwy81
Gwahardd26
Dim gorchymyn – h.y. y Tribiwnlys yn penderfynu yn ein herbyn7
Penderfyniad arall13

Y Gronfa Iawndal

Talwyd £18.1m o’r Gronfa Iawndal i’r cyhoedd a busnesau a oedd wedi dioddef colledion ariannol o ganlyniad i anonestrwydd cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol neu fethiant i ddychwelyd arian cleientiaid.

TDyma’r ddau brif reswm dros dalu iawndal i bobl:

  1. ad-dalu etifeddiaeth pobl – £5.3m
  2. ad-dalu arian a oedd wedi’i fwriadu i dalu am flaendal am dy - £3.7m.

Roedd y taliad sengl mwyaf yn werth ychydig dros £820,000. Caewyd cwmni gennym pan oedd yn gweinyddu ystâd. Talwyd yr arian a oedd yn ddyledus i fuddiolwr ac yn ddiweddarach cafodd ei adennill o’r ystâd. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma. .

Rydym yn pennu’r safonau addysg a hyfforddiant ar gyfer cyfreithwyr i wneud yn siŵr bod y bobl rydym yn eu caniatáu i ymuno â’r proffesiwn yn gymwys. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yn cael gwasanaeth o safon briodol gan eu cyfreithiwr.

Rydym am sicrhau bod pawb sy’n ymuno â’r proffesiwn yn cyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel. Ym mis Medi Mae gen i radd gymwys yn y gyfraith, byddech yn cymryd y cwrs ymarfer cyfraith, yn cwblhau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig ac yn cymryd y cwrs sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Rwy’n weithredwr cyfreithiol siartredig, byddai angen ichi ddod yn gymrawd o CILEx, cwblhau’r arholiad proffesiynol cyffredin, cwrs ymarfer cyfraith a’r cwrs carlam mewn sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae gen i radd mewn pwnc heblaw’r gyfraith, cwblhewch yr arholiad proffesiynol cyffredin, cwrs ymarfer cyfraith, cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig a chymryd y cwrs sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr.021, byddwn yn cyflwyno arholiad newydd, sengl, yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) i gymryd lle’r llwybrau presennol i gymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd hyn yn rhoi hyder i’r cyhoedd a’r proffesiwn mewn gwasanaethau cyfreithiol, ac yn annog mwy o hyblygrwydd a dewis o ran hyfforddiant. Bydd yr hyblygrwydd hwn, a fydd yn cynnwys opsiynau “ennill wrth ddysgu” yn helpu i greu proffesiwn mwy amrywiol, a fydd yn denu’r gorau a’r mwyaf disglair o bob cymuned.

Prawf cymeriad ac addasrwydd

Rydym yn asesu a yw pob ymgeisydd sydd am gael ei dderbyn fel cyfreithiwr yn addas i ymuno â’r proffesiwn drwy gyfrwng ein prawf cymeriad ac addasrwydd. Mae’r cwestiynau a ofynnir gennym yn cynnwys a yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd, a ydynt wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi gan reoleiddiwr arall ac a ydynt wedi bod yn fethdalwyr erioed. Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth a roddir i ni gan yr ymgeiswyr ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i ddiwygio eu cymeriad. Ceir rhagor am ein prawf cymeriad ac addasrwydd yma.

Yn 2017/18, gwrthodwyd tri ymgeisydd gennym. Y rhesymau oedd bod un ymgeisydd wedi’i gael yn euog o drosedd, roedd un heb ddatgelu mater yn ymwneud â chymeriad ac addasrwydd, ac nid oedd un, a oedd yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig, yn cydymffurfio â’n gofynion i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Roedd hyn am nad oedd wedi gweithio yn y DU am dair blynedd. Mae nifer y ceisiadau a wrthodir bob blwyddyn yn isel am fod pobl nad ydynt yn cydymffurfio â’n gofynion yn tynnu eu cais yn ôl.

Y flwyddyn mewn addysg

Roedd ein hadroddiad diweddaraf ar Reoleiddio ac Addysg yn cyflwyno data gan ddarparwyr cyrsiau cyfreithiol ar berfformiad myfyrwyr ar y LPC, CPE a GDL. Y prif ganfyddiadau yn adroddiad 2016/17 oedd:

  • Roedd y cyfraddau cyffredinol ar gyfer cwblhau’r LPC a’r CPE yn weddol gyson yn achos myfyrwyr. Ond ymddengys fod gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau rhwng darparwyr cyrsiau.
  • Rydym yn dal i weld gwahaniaethau sylweddol rhwng darparwyr cyrsiau o ran nifer y myfyrwyr sy’n sicrhau graddau pasio, clod neu ragoriaeth.
  • Mae’r data’n dangos bod myfyrwyr o grwpiau ethnig heblaw gwyn yn llai tebygol o gwblhau’r cyrsiau CPE ac LPC yn llwyddiannus.
  • Mae’n ymddangos bod myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn perfformio gystal â'i gilydd ar y cyrsiau CPE ac LPC. Mae mwy o fenywod na dynion ar y ddau gwrs ac ar adeg derbyn.
  • Mae ein data ar darddiad ethnig y rhai sy’n dechrau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT) yn llai cynhwysfawr. Mae hyn am fod 92% o’r bobl sy’n dechrau eu PRT wedi cofnodi eu cefndir ethnig yn "anhysbys".

Dylai profi pob darpar gyfreithiwr drwy un arholiad, y SQE, helpu i sicrhau safonau cyson ac uchel pan fydd pobl yn ymuno â’r proffesiwn.

Addysg a Hyfforddiant | Geirfa

Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx)

Yn rhoi hyfforddiant i bobl ddod yn weithredwyr cyfreithiol, ac yn rheoleiddio gweithredwyr cyfreithiol

Yr Arholiad Proffesiynol Cyffredinol (CPE)

Cwrs cyfreithiol ôl-raddedig y bydd graddedigion mewn pynciau ar wahân i’r gyfraith yn ei ddilyn er mwyn dod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr yng Nghymru neu Loegr. Fe’i gelwir hefyd yn Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith (gweler isod).

Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL)

Gweler CPE.

Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC)

Cyfnod o hyfforddiant galwedigaethol cyn y Cyfnod o Hyfforddiant Cydnabyddedig (gweler isod). Mae’n cyfuno hyfforddiant academaidd ac ymarferol, i baratoi myfyrwyr i weithio â chwmni cyfreithiol.

Cyfnod o Hyfforddiant Cydnabyddedig (PRT)

Dysgu seiliedig ar waith, gyda chwmni cyfreithiol fel arfer, sy’n rhan o’r cyfnod galwedigaethol wrth gymhwyso fel cyfreithiwr.

Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)

Mae’r cynllun yn cynnwys asesiadau y mae’n rhaid i bobl eu cymryd os ydynt wedi cymhwyso eisoes fel cyfreithwyr awdurdodaeth arail ac yn dymuno cymhwyso fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.

Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT)

Mae’r prawf hwn yn cyflawni’r un rôl â’r QLTS. Mae wedi’i ddirwyn i ben i raddau helaeth ac wedi’i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fach o unigolion yn parhau i ymuno â’r proffesiwn drwy’r dull hwn.

Profiad Gwaith Cymhwyso (QWE)

Un o’r elfennau sydd eu hangen i basio’r SQE.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Arholiad y bydd yn rhaid i bob darpar gyfreithiwr ei sefyll i gymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd wedi’i rannu’n ddwy ran, SQE1 a SQE2, a bydd yn asesu gwybodaeth gyfreithiol a sgiliau cyfreithiol ymarferol

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn 2017/18

I wneud yn siŵr bod pob cyfreithiwr yn cael eu profi i’r un safon uchel, pa bynnag lwybr maent wedi’i ddilyn i’r proffesiwn, rydym yn cyflwyno Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Bydd pobl yn gwybod bod gwybodaeth a sgiliau craidd eu cyfreithiwr wedi cael eu hasesu yn erbyn safon gyson. Mae’r amserlen isod yn dangos sut yr ydym wedi datblygu’r SQE yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.

Tachwedd 2017

Cwblhau rheoliadau’r SQE

Yn dilyn tri mis o ymgynghori, rhwng Mai a Gorffennaf 2017, cafodd y rheoliadau drafft a fydd yn gweithredu’r SQE eu cadarnhau, ynghyd â’r pedair elfen hanfodol sydd eu hangen i gymhwyso fel cyfreithiwr. Y rhain yw: gradd neu gymhwyster cyfatebol, pasio dwy ran y SQE, dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwyso a chymeriad boddhaol ac addasrwydd. Cymeradwyodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (LSB) y rheoliadau ym mis Mawrth 2018. Bydd cais arall yn cael ei wneud i’r LSB i gymeradwyo manylion y SQE, sy’n debygol o gael ei wneud yn 2020.

Awst 2018

Penodi sefydliad asesu

Ar ôl proses dendro gystadleuol, penodwyd Kaplan fel y sefydliad asesu ar gyfer y SQE. Bydd Kaplan yn profi ac yn datblygu’r SQE ac yn rhedeg yr arholiad ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Mae gan Kaplan brofiad helaeth mewn addysgu, hyfforddi ac asesu mewn gwasanaethau proffesiynol, gan gynnwys y gyfraith, gwasanaethau ariannol, cyfrifyddu a bancio. Mae ganddo brofiad o asesu yn y sector cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac fel darparwr y QLTS. Ni fydd Kaplan yn cynnig hyfforddiant ar gyfer y SQE.

Tachwedd 2018

Cadarnhad ar gyflwyno a chostau

Mewn ymateb i adborth gan ddarparwyr cyrsiau a chwmnïau cyfreithiol, cadarnhawyd gennym y bydd y SQE yn cael ei gyflwyno yn 2021. Mae hyn yn rhoi mwy o amser iddynt i ddatblygu hyfforddiant ac i newid systemau a phrosesau mewnol.

Rydym wedi cadarnhau hefyd bod y ffi i ymgeiswyr yn debygol o fod rhwng £3,000 a £4,500, wedi’i ymestyn ar draws camau 1 a 2 y SQE. Mae’r costau hyn yn seiliedig ar amcangyfrif o 35 awr o asesu, sy’n cynnwys profion ysgrifenedig, asesiadau ar gyfrifiadur ac efelychiadau, fel cyfweliadau ffug â chleientiaid. Costau dangosol yw’r rhain, a gall y ffioedd yn y diwedd fod o fewn neu’r tu allan i’r cyfwng hwn.

Tachwedd 2018

Lansio Career in Law

Lansiwyd Career in Law, ymgyrch ar Facebook sydd â’r nod o helpu myfyrwyr a darpar gyfreithwyr i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am eu gyrfa. Mae’n cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y SQE. Yr unig beth y mae angen i ddarpar fyfyrwyr ei wneud yw dilyn y dudalen Facebook i gael diweddariadau rheolaidd.

Hydref 2018

Ymgysylltu a pheilot

Cynhaliwyd 10 sesiwn bord gron ar SQE gyda Kaplan ac ymgysylltwyd â 300 o bobl o gwmnïau cyfreithiol, prifysgolion a sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y SQE. Cynhaliwyd y sesiynau yn Llundain, Leeds, Caerdydd, Manceinion, Birmingham a Coventry. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i ofyn cwestiynau am y SQE, ac eglurodd Kaplan sut y bydd yn ysgrifennu cwestiynau amlddewis (a fydd yn rhan o gam o 1 SQE) a sut y byddwn yn pennu’r marc pasio.

Yn ystod hydref 2018, buom yn cydweithio’n glos â Kaplan i ddatblygu’r SQE, ac ym mis Tachwedd agorwyd y broses i recriwtio ymgeiswyr a fydd yn cymryd rhan ym mheilot cyntaf yr arholiad.

Beth nesaf?

Bydd peilot cam 1 SQE yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2019. Byddwn wedyn yn cyhoeddi manyleb asesu diwygiedig a chwestiynau sampl. Byddwn hefyd yn gweithio â Kaplan i ddatblygu cam 2 SQE, cyn y peilot, a bwriedir iddo gael ei gynnal yn ystod hydref 2019. Byddwn hefyd yn penodi adolygwyr allanol ar gyfer y SQE yn 2019, a fydd yn adrodd ar y SQE.

Llwybrau newydd posibl i gymhwyster

Cyfreithiwr cymwysedig, byddech yn cymryd SQE1, yn sicrhau profiad gwaith cymwys, yn cymryd SQE2 ac yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Prentisiaeth cyfreithiwr sy’n cynnwys paratoadau cyfnod 1 SQE, sgipio’r profiad gwaith cymwys, cymryd SQE 2 a gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Enghraifft raddedig 1 Gradd pedair blynedd yn y gyfraith gyda blwyddyn ar leoliad gwaith. Yn cynnwys paratoadau cyfnod 1 SQE. Byddech yn cymryd SQE1, yn sicrhau profiad gwaith cymwys, yn cymryd SQE2 ac yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Enghraifft raddedig 2 Gradd tair blynedd yn y gyfraith. Yn cynnwys paratoadau cyfnod 1 SQE. Byddech yn cymryd SQE 1, yn sicrhau profiad gwaith cymwys, yn cymryd SQE2 ac yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Enghraifft raddedig 3 Gradd tair blynedd yn y gyfraith, byddech yn cymryd SQE1, yn sicrhau profiad gwaith cymwys ac wedyn yn cymryd SQE2 ac yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Enghraifft raddedig 4 Gradd tair blynedd mewn pwnc heblaw’r gyfraith, byddech yn cymryd SQE1, yn sicrhau profiad gwaith cymwys, yn cymryd SQE2 ac yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr.

* Noder, mae'r uchod yn llwybrau enghreifftiol ac, felly, gellir cynnal QWE cyn neu ar ôl SQE1 neu SQE2

Prentisiaethau cyfreithwyr 2016—2018

Rydym yn falch o weld bod nifer y prentisiaethau cyfreithwyr yn dal i gynyddu ers eu cyflwyno yn 2016.

2016 2017 2018
25 75 133

Mae cymhwyso drwy’r llwybr prentisiaethau cyfreithwyr yn galluogi unigolion i gychwyn neu hyd yn oed newid eu gyrfa, heb y costau sy’n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae hyn yn annog pobl o bob math o gefndiroedd i fod yn gyfreithwyr. Rydym wedi datblygu’r cynllun prentisiaeth Trailblazer yn y gyfraith gyda chyflogwyr i wneud yn siŵr ei fod yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt a’r math maent am ei gael.

Mynediad i’r proffesiwn

Llwybrau Cyfredol i gymhwyster

Mae gen i radd gymwys yn y gyfraith, byddech yn cymryd y cwrs ymarfer cyfraith, yn cwblhau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig ac yn cymryd y cwrs sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Rwy’n weithredwr cyfreithiol siartredig, byddai angen ichi ddod yn gymrawd o CILEx, cwblhau’r arholiad proffesiynol cyffredin, cwrs ymarfer cyfraith a’r cwrs carlam mewn sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae gen i radd mewn pwnc heblaw’r gyfraith, cwblhewch yr arholiad proffesiynol cyffredin, cwrs ymarfer cyfraith, cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig a chymryd y cwrs sgiliau proffesiynol. Ar ôl llwyddo byddech yn gwneud cais am gymhwyso fel cyfreithiwr.

*Sylwer, gall ymgeiswyr fodloni'r gofynion a nodir ar gam hyfforddi penodol os ydynt yn dangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.

LPC QLTS CILEx Other QLTT Total
2015/16 5,580 541 237 67 27 6,452
2016/17 5,588 693 246 48 24 6,599
2017/18 5,652 769 321 35 8 6,785

Gall Arall olygu, er enghraifft, cymhwyso yng Ngogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon, rhai cyfreithwyr sydd wedi’u cofrestru yn Ewrop a Chlercod Ynadon.

Ymuno â’r proffesiwn 2017/18

Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn dal i ymuno â’r proffesiwn yn yr hydref. Y rheswm yw bod y rhan fwyaf o raglenni hyfforddi dwy flynedd cwmnïau cyfreithiol yn dilyn y flwyddyn academaidd, gan orffen ddiwedd yr haf. Rydym hefyd yn gweld cynnydd bychan yn nifer y cyfreithwyr a dderbynnir gennym ym mis Mawrth, gan fod rhai darparwyr hyfforddiant yn derbyn ail garfan o hyfforddeion yn y mis hwnnw. Mae rhai darparwyr hyfforddiant hefyd yn cwtogi cymaint â chwe mis ar y rhaglen hyfforddi dwy flynedd os oes gan yr unigolyn brofiad gwaith perthnasol.

Month Number admitted Refusals
Tach-17 371 0
Rhag-17 331 0
Ion-18 339 1
Chwe-18 278 0
Maw-18 895 0
Ebr-18 463 0
Mai-18 298 1
Meh-18 262 0
Gorff-18 314 1
Awst-18 332 0
Medi-18 2,389 0
Hyd-18 513 0
Cyfanswm 6,785 3

Awdurdodi sefydliadau i gynnal PRT

Rydym wedi awdurdodi 5,746 o sefydliadau i gynnal PRT, y rhan o hyfforddiant cyfreithwyr sy’n seiliedig ar waith, yn 2017/18. Mae tua thri chwarter y rhain yn gwmnïau cyfreithiol, ac mae’r gweddill yn dimau cyfreithiol mewnol neu ganolfannau cyfreithiol. Roedd y ffigur hwn yn gywir fis Hydref 2018.

Dull cyfatebol

Yn 2014, cafodd dull cyfatebol ei gyflwyno. Mae’n galluogi unigolion i ddangos eu bod wedi cyflawni ein gofynion ar gyfer cam penodol o hyfforddiant os gallant ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol. Er enghraifft, byddwn yn caniatáu i gyfreithwyr gymhwyso os oes ganddynt brofiad sy’n cyfateb i PRT, hyd yn oed os nad ydynt wedi cwblhau PRT dwy flynedd gyda chwmni cyfreithiol. Rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio dull cyfatebol fel ffordd o gyflawni ein gofynion.

Unigolion sydd wedi cymhwyso gyda rhan o’u hyfforddiant wedi’i fodloni drwy ddull cyfatebol
2014/15 2015/16 2016/17 2017/18
8 63 70 85

Hawliau uwch i wrandawiad

Mae cymhwyster hawl uwch i wrandawiad yn caniatáu i gyfreithwyr weithredu fel adfocad mewn llysoedd uwch. Y rhain yw Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr. Gellir gweld nifer y cyfreithwyr yr ydym yn eu rheoleiddio sydd â hawliau uwch i wrandawiad isod.

Sifil Troseddol Y Ddau Cyfanswm
2015/16 1,947 (29%) 3,305 (49%) 1,483 (22%) 6,735
2016/17 2,131 (31%) 3,272 (48%) 1,464 (21%) 6,867
2017/18 2,279 (33%) 3,200 (46%) 1,437 (21%) 6,916

Yn 2017/18, cynhaliwyd adolygiad thematig o eiriolaeth droseddol a chomisiynwyd Adroddiad Canfyddiadau Barnwrol ar y cyd gyda Bwrdd Safonau’r Bar, rheolydd y bargyfreithwyr. Roeddem am wybod mwy am ansawdd sgiliau eiriol cyfreithwyr adfocad a bargyfreithwyr, ac felly cysylltwyd â’r farnwriaeth i holi ei barn. Ar y cyfan, roedd barnwyr o’r farn fod yr eiriolaeth roeddent yn ei gweld yn dda. Ond roeddent yn teimlo bod rhai meysydd lle gellid gwella.

Nodwyd y materion canlynol:

  • yr angen am hyfforddiant parhaus
  • meysydd penodol lle’r oedd ymarfer adfocadau yn wael, fel paratoi achosion a delio â thystion
  • roedd rhai adfocadau yn cymryd achosion a oedd y tu hwnt i’w profiad
  • ansicrwydd ynglŷn â pha bryd y dylent roi gwybod i’r rheolydd am eiriolaeth wael

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried sut y gallwn wneud yn siŵr bod safonau uchel yn gyson ymhlith cyfreithwyr adfocad troseddol a sifil.

Mae adfocad da neu effeithiol yn rhywun sy’n hyrwyddo achos eu client yn eofn ac sy’n canfod y mater, yn ei grynhoi ac yna’n creu eu hachos ar sail hynny ac yn ei gyflwyno’n effeithiol, naill ai i farnwr neu i reithgor er mwyn eu darbwyllo o safbwynt eu cleient. Dylai popeth ganolbwyntio ar y cleient.”

Sylw un barnwr ynglŷn â sut y mae pwyslais pendant ar anghenion a disgwyliadau’r cleient yn nodwedd o eiriolaeth dda.

Gwaith eiriolaeth mewn llysoedd ieuenctid

Mae gan ddau draean o’r plant a’r bobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu sylweddol. Mae hyn yn golygu bod risg sylweddol na fyddant yn deall eu cyfreithiwr, sut mae’r llys yn gweithio, neu byddant yn cael anhawster wrth geisio cyfleu eu neges. Dyna pam yr oeddem wedi datblygu adnoddau yn 2016 ar gyfer cyfreithwyr sy’n gweithio yn y llys ieuenctid. Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu gweld fwy na 5,000 i weithiau ar-lein ers eu lansio. Maent yn cynnwys:

  • canllawiau ar sut i gyfathrebu’n effeithiol â phobl ifanc a chanfod a oes ganddynt unrhyw anawsterau neu anghenion dysgu
  • taflen ar yr hyn y dylai pobl ifanc ei ddisgwyl gan eu cyfreithiwr, a ddatblygwyd ar y cyd â sefydliadau eraill, fel Just For Kids Law
  • gwybodaeth ar sut y gall gweithio â sefydliadau eraill wneud yn siŵr bod cyfreithwyr yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w cleient
  • rhestr wirio ar y prif feysydd gwybodaeth y mae’n rhaid i gyfreithwyr sy’n gweithio yn y llys ieuenctid gyfarwyddo’u hunain â hwy’n rheolaidd.

Disgrifiodd Great Ormond Street Institute of Child Health UCL ein gwaith fel “cynllun y bydd angen mawr amdano ac sy’n gyflwyniad da i eiriolwyr ieuenctid sydd heb gael llawer o gefnogaeth i weithio â phlant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol.” Mae ein hadnoddau hefyd wedi cael cefnogaeth yr Arglwydd Carlile, Cymdeithas Rheolwyr Timau Troseddu Ieuenctid a’r Rhwydwaith Oedolion Priodol Cenedlaethol.

Dyma’r adeg allweddol pan fyddwn yn gwneud yn siŵr bod unigolion a busnesau’n cyrraedd y safonau proffesiynol uchel yr ydym ni a’r cyhoedd yn eu disgwyl pan fyddant yn ymuno â’r proffesiwn.

Mae ein tîm Awdurdodi’n gwneud hyn drwy gynnal gwiriadau cefndir, profion cymeriad ac addasrwydd, a thrwy wneud yn siŵr bod gan ymgeiswyr y sgiliau a’r cymwysterau cywir. Ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr nad oes dim perygl i’r cyhoedd drwy ganiatáu i unigolion neu gwmnïau ymuno â’r proffesiwn. Rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod y broses hon yn gweithio mor effeithlon ac esmwyth â phosibl.

Rhestr wirio cefndir a chymeriad ac addasrwydd

Rydym yn gofyn am amrywiaeth o wybodaeth gan bobl sydd eisiau bod yn gyfreithiwr neu gwmnïau sy’n dymuno ymuno â’r farchnad gyfreithiol. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu a yw’n ddiogel i ganiatáu iddynt i gynnig gwasanaethau cyfreithiol i’r cyhoedd. Rhaid i ni wneud yn siŵr y bydd pobl sy’n ymuno â’r proffesiwn yn ymddwyn yn onest ac y bydd y cyhoedd yn gallu ymddiried ynddynt.

CyfreithwyrCwmnïau
A oes gennych chi gofnod troseddol?Pwy yw’r rheolwyr corfforaethol a’r perchnogion?
A ydych chi erioed wedi cael rhybudd gan yr heddlu?A oes gan unrhyw rai o’r rheolwyr, y perchnogion neu swyddogion gofnod troseddol?
A ydych chi erioed wedi bod yn fethdalwrA oes gan y cwmni yswiriant indemniad proffesiynol?
A yw’r llys sirol erioed wedi cymryd camau yn eich erbyn?Os yw’r cwmni wedi cael arian i’w sefydlu neu am unrhyw reswm arall, o ble daeth yr arian hwnnw?
A oes unrhyw reoleiddiwr arall wedi cymryd camau yn eich erbyn?A oes unrhyw reoleiddiwr arall erioed wedi gwrthod rheoleiddio neu wedi gwyrdroi ei benderfyniad i reoleiddio’r cwmni?
A ydych chi erioed wedi camddefnyddio safle lle’r ymddiriedwyd ynoch er budd ariannol?Pwy fydd y swyddog cydymffurfiaeth, a fydd yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod y cwmni’n dilyn ein rheolau?
A ydych chi erioed wedi llen ladrata neu dwyllo yn ystod eich addysg?A fydd eich cwmni’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol sy’n destun rheoliadau gwyngalchu arian ac, os bydd, beth ydynt?

Awdurdodi

Y broses lle’r ydym yn ystyried ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion i ymuno â’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol.

Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio (EEL)

Cyfreithwyr sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr ar delerau nad ydynt yn barhaol ac sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr. Daw’r term o gyfarwyddeb yr UE

Cwmni corfforedig

Busnes a sefydlwyd gan un neu fwy o bobl. Mae cwmnïau corfforedig yn dilyn rheolau treth a llywodraethu gwahanol, a all fod yn atyniadol i’r perchnogion, yn ddibynnol ar eu hanghenion busnes. Mae rhwymedigaeth ariannol y perchnogion hefyd yn gyfyngedig.

Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

Strwythur busnes lle mae dau neu fwy o bartneriaid. Mae’n cyfyngu ar rwymedigaeth ariannol y partneriaid.

Practisau amlddisgyblaethol

Strwythur busnes amgen sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gwsmeriaid, fel cyfrifyddu a thirfesur.

Partneriaeth

Strwythur busnes lle mae dau neu fwy o bartneriaid. Gall partneriaethau fod yn haws i’w ffurfio, i’w rheoli a’u rhedeg. Yn wahanol i gwmni corfforedig neu LLP, nid oes yn rhaid i chi gyflwyno dogfennau i’r llywodraeth i wneud eich busnes yn bartneriaeth. Hefyd, nid oes yn rhaid i bartneriaethau baratoi a chyhoeddi eu cyfrifon.

Tystysgrif gweithio

Ddogfen a gyhoeddir gennym sy’n caniatáu i gyfreithwyr ymarfer y gyfraith. Rhaid i gyfreithwyr adnewyddu eu tystysgrif gweithio’n flynyddol.

Cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig (REL)

Cyfreithwyr sydd wedi cymhwyso yn yr UE sy’n cofrestru â ni i weithio yng nghyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.

Cyfreithwyr tramor cofrestredig (RFL)

Cyfreithwyr o’r tu allan i’r UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n cofrestru â ni i weithio yng nghyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.

Cofrestr o gyfreithwyr

Mae hon yn gofnod o gyfreithwyr sydd wedi’u hawdurdodi gennym i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.

Ymarferydd unigol

Cyfreithiwr sy’n rhedeg eu practis cyfreithiol eu hunain ar eu pen eu hunain.

Pwy rydym yn eu hawdurdodi ac yn eu rheoleiddio

  • Cyfreithwyr sy’n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr
  • Cyfreithwyr sy’n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor
  • Cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol
  • REL, RFL, ac EEL (gweler yr eirfa)
  • Y gofrestr o gyfreithwyr

Poblogaeth cyfreithwyr 2009 i 2018

Mae gweithio fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr yn cael ei weld fel gyrfa atyniadol, ac mae nifer y cyfreithwyr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y degawd diwethaf. Daw’r ffigurau hyn o fis Hydref pob blwyddyn. Nid ydynt yn cynnwys cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig na chyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi’u heithrio.

BlwyddynDeiliaid tystysgrif gweithioAr y gofrestr cyfreithwyr
2009119,305149,885
2010121,630155,144
2011125,011162,818
2012127,353169,338
2013130,643162,367
2014133,327164,133
2015136,294171,464
2016139,313178,340
2017143,072185,240
2018146,625192,121

Proffil cwmnïau cyfreithiol 2015 i 2018

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy’n dewis gwneud cais am drwydded strwythur busnes amgen (ABS) yn parhau i gynyddu, ac mae’n ddewis arbennig o boblogaidd ymhlith cwmnïau corfforedig. Mae cyfanswm nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi parhau'n gymharol sefydlog, er y gwyddom fod y proffesiwn cyfreithiol yn tyfu (gweler y ffigurau uchod). Noder y daw’r ffigurau hyn o fis Hydref ym mhob blwyddyn.

2015/16Is-set Strwythur busnes amgen 2015/162016/17Is-set Strwythur busnes amgen 2016/172017/18Is-set Strwythur busnes amgen 2017/18
Cyfanswm10,41555010,42068110,407791
Cwmni corfforedig4,2053694,5374774,788559
Ymarferydd unigol2,627-2,489-2,367-
Partneriaeth 1,978281,799301,67341
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig1,5591521,5571721,542189
Arall (mae cyfyngedig drwy warant wedi’i gynnwys yma)461382372

Hawlildiadau a’r Gofod Arloesi

Rydym am weld cwmnïau’n arloesi a thyfu mewn marchnad gyfreithiol fodern, yn gweithio mewn ffyrdd newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r gwasanaeth cyfreithiol sydd ei angen arnynt.

Rydym yn deall y gall ein rheolau fod yn dramgwydd i gwmnïau a chyfreithwyr sy’n dymuno cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae ein polisi hawlildio a’r Gofod Arloesi yn caniatáu i gwmnïau, cyfreithwyr a newydd-ddyfodiaid i’r farchnad edrych ar ffyrdd newydd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol. Mae’r Gofod Arloesi yn faes prawf sy’n cael ei reoli ar gyfer syniadau sy’n debygol o fod o fudd i’r cyhoedd.

Mathau o hawlildiadau a ganiatawyd gennym yn 2017/182

Hawlildiad a ganiatawydYr hyn mae’n ei olygu Y nifer a ganiatawyd
Rheolau AwdurdodiGallwn hawlildio rhai o’n Rheolau Awdurdodi os ydynt yn faich i gwmni eu dilyn. Er enghraifft, byddwn yn caniatáu i gwmni benodi rheolwr ar fyr rybudd ac yna gofyn i ni eu hawdurdodi. Rhaid i ni awdurdodi pob rheolwr yn y cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gennym cyn eu bod yn cael eu penodi i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y safonau a bennir gennym, a byddwn fel arfer yn gwneud hyn cyn iddynt ddechrau yn eu swydd. Mae caniatáu i gwmnïau wneud hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt yn y ffordd maent yn rhedeg eu busnes.19
Rheolau Fframwaith YmarferPan fyddwn yn hawlildio ein rheolau ar sut a ble gall cyfreithwyr a phobl eraill sy’n cael eu rheoleiddio gennym weithio. Byddwn yn caniatáu hyn os gallwn weld budd i’r cyhoedd. Er enghraifft, o dan ein rheolau, rhaid i gyfreithiwr sy’n dymuno sefydlu eu cwmni cyfreithiol eu hunain gael eu rheoli gan rywun â thair blynedd neu ragor o brofiad. Byddwn yn hawlildio’r rheol hon os yw’r cyfreithiwr sy’n dymuno sefydlu eu practis eu hunain fel ymarferydd unigol a bod ganddynt dair blynedd o brofiad. 38
Mynediad i gyfreithwyr drwy’r ‘Gofod Arloesi’Mae hwn yn ofod diogel i gwmnïau hen a newydd i dreialu syniadau sydd o fudd i’r cyhoedd. Er mwyn gwneud yn siŵr bod y syniadau’n cael eu treialu mewn ffordd ddiogel ac i ddiogelu’r cyhoedd, rhaid i gwmnïau gael yswiriant sy’n cydymffurfio â’n telerau ac amodau sylfaenol. Mae’r mathau o hawlildiadau a ganiateir gennym yn ein Gofod Arloesi wedi galluogi cyfreithwyr i weithio mewn cwmnïau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gennym ac nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan reoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol arall. Rydym yn gwneud hyn am ein bod yn credu y byddai o fudd i gleientiaid y busnes i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiwr. Ni fyddwn yn hawlildio’r rheol hon oni bai ein bod yn credu na fyddai dim niwed i’r cyhoedd, ac na chaniateir i’r cyfreithiwr drafod arian cleientiaid. Fel rhan o Safonau a Rheoliadau newydd yr Awdurdod a fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd 2019, ni fydd yn rhaid i gwmnïau bellach wneud cais am y math hwn o hawlildiad, gan y bydd yn cael ei ganiatáu o dan ein rheolau cyffredin. Darllenwch yr astudiaeth achos yma i weld hyn ar waith.3
Gofynion yswiriant indemniad proffesiynol (PII) Lle nad oes yn rhaid i gwmnïau gael isafswm telerau’r yswiriant indemniad proffesiynol sydd fel arfer yn ofynnol o dan ein rheolau. Rydym yn gwneud hyn mewn achosion lle mae gan y cwmni bolisi yswiriant arall sydd â thelerau cyfatebol neu well nag ein un ni. 6
Cyflwyno Adroddiadau CyfrifyddionPan fyddwn yn caniatáu i gwmnïau beidio ag anfon adroddiad blynyddol o’u cyfrifon atom os ydynt yn dirwyn eu busnes i ben. Er enghraifft, rydym yn hawlildio’r rheol hon os gallwn weld bod nifer y trafodion cleientiaid yr ymdriniwyd â hwy dros gyfnod o amser yn fychan iawn.6
Ffi’r Gronfa IawndalPan na fydd yn rhaid i gwmnïau gyfrannu tuag at y Gronfa Iawndal. Byddwn yn gwneud hyn pan fydd cwmni wedi bod yn dal swm bach iawn o arian cleientiaid am gyfnod byr iawn, ac nad oes siawns y byddai eu cleientiaid yn gwneud cais i’r gronfa.2

Astudiaeth achos | Which? Legal

Y busnes

Which? yw’r corff defnyddwyr annibynnol mwyaf yn y DU, gyda dros 1.3 miliwn o aelodau a chefnogwyr. Ers 1957, mae Which? wedi bod yn profi nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â chyhoeddi’r canlyniadau ac ymgyrchu dros hawliau defnyddwyr. Mae Which? hefyd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol i’w aelodau mewn rhai meysydd o’r gyfraith drwy Which? Legal. Nid ydym yn rheoleiddio Which? Legal ac nid oes yr un o’r rheoleiddwyr eraill yn gwneud hynny ychwaith.

Y mater

Mae ein rheolau cyfredol yn gosod cyfyngiadau ar y ffordd y gall cyfreithwyr ymarfer mewn busnesau heb eu rheoleiddio. Ar y cyfan, ni chaniateir iddynt gynnig gwasanaethau cyfreithiol ac, os caniateir hynny, bydd cyfyngiadau arnynt. Oherwydd hyn, dim ond cyngor cyfyngedig dros y ffôn roedd y cyfreithwyr a oedd yn cael eu cyflogi gan Which? yn gallu ei gynnig i’w aelodau. Roedd Which? yn awyddus i’w gyfreithwyr gael darparu gwasanaeth llawnach, mwy di-dor. Byddai aelodau’n elwa ar hyn gan y byddai’n llai tameidiog ac, er enghraifft, byddai’n galluogi’r cyfreithwyr i ohebu ag aelodau drwy e-bost a pharatoi a drafftio dogfennau neu ysgrifennu llythyrau ar eu rhan. Byddai hyn yn arbennig o fanteisiol i bobl nad oedd yn deall eu problem gyfreithiol i ddechrau neu os nad oedd Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Yr ateb

Buom yn ystyried yr hawlildiad hwn yn ein Gofod Arloesi. Penderfynwyd caniatáu’r hawlildiad hwn i alluogi’r cyfreithwyr a gyflogir gan Which? i gynnig ystod ehangach o wasanaethau i aelodau mewn rhai meysydd o’r gyfraith. Roeddem o’r farn bod hyn er budd y cyhoedd gan ei fod yn hwyluso mynediad at gyngor cyfreithiol cost effeithiol gan weithwyr cyfreithiol cymwysedig. Roeddem yn fodlon bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei gynnal.

Astudiaeth achos | Gwasanaeth Cyfreithiol Heddlu’r East Midlands

Y busnes

Roedd Gwasanaeth Cyfreithiol Heddlu’r East Midlands (EMPLS), y tîm mewnol yn Heddlu Swydd Derby, eisoes yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol i brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu ledled Dwyrain Canolbarth Lloegr o ganlyniad i hawlildiad a ganiatawyd gennym eisoes. Mae’r mathau o wasanaethau a gynigir gan y tîm mewnol yn eang ac maent yn cynnwys cyngor ar gyfraith cyflogaeth, cyfraith hawliau dynol ac ymgyfreithio sifil, fel hawliadau am arestio a charcharu ar gam.

Y mater

Roedd EMPLS am gynnig ei wasanaethau cyfreithiol i Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Northampton. Fel rhan o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017, rhaid i wasanaethau brys weithio’n well â’i gilydd a chydweithio mwy. Bydd hyn yn helpu gwasanaethau llywodraeth leol i weithio’n fwy effeithlon ac i rannu arbenigeddau. Ni chaniateir i gyfreithwyr mewnol gynnig gwasanaethau cyfreithiol i neb y tu allan i’r busnes, neu yn yr achos hwn, y corff cyhoeddus lle maent yn gweithio.

Yr ateb

Caniatawyd hawlildiad a oedd yn caniatáu i EMPLS i gynnig gwasanaethau cyfreithiol i Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Northampton. Nid oeddem yn credu bod unrhyw berygl i’r cyhoedd yn sgil caniatáu’r hawlildiad, ac y byddai’n ehangu mynediad at wasanaethau cyfreithiol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant

Gwyddom fod sector cyfreithiol amrywiol, modern, gyda chyfreithwyr o bob cefndir, yn diwallu anghenion cyfreithiol y cyhoedd yn well.

Rydym yn casglu ac yn cyhoeddi data amrywiaeth ar y bobl sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol bob yn ail flwyddyn i ddeall ac i rannu dealltwriaeth o’r bobl rydym yn eu rheoleiddio. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â’r proffesiwn a grwpiau rhanddeiliaid i hybu ac i gefnogi amrywiaeth, ac rydym yn cyhoeddi ymchwil i ddangos lle mae angen gwneud mwy ac i ddangos buddiannau amrywiaeth.

Menywod

Gan fod menywod yn cyfrif am ychydig dros hanner y cyfreithwyr ond dim ond traean y partneriaid, rydym am annog cwmnïau i edrych ar fwy o ffyrdd i ddyrchafu menywod i rolau uwch reolwyr. Rydym wedi tynnu sylw at rai o’r camau allweddol y gall cwmnïau eu cymryd yn ein hadolygiad thematig ‘Unlocking the benefits of diversity’, a oedd yn cynnwys:

  • cynnig absenoldeb digonol a hyblyg i rieni
  • sicrhau bod arferion recriwtio’n deg ac yn dryloyw
  • gwneud yn siŵr bod uwch arweinyddion yn ymrwymo i gyflwyno newidiadau
  • datblygu llwybrau gyrfa amgen a hyblyg.

Buom yn trafod y materion hyn a heriau eraill mae menywod yn dal i’w hwynebu, mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, fel y grŵp Women Lawyers and Mothers yn y digwyddiad ‘Gender Equality and Parental leave - is there a solution?’ a drefnwyd gan y cwmni cyfreithiol Bird and Bird yng Ngorffennaf 2018. Hefyd, rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag ac yn cefnogi Women in the Law UK. Rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth o effaith ‘rhyng-garfanau’(intersectionality) - term sy’n disgrifio menywod (ac eraill) sy’n dod o fewn dau neu fwy o grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio.

Hefyd, bu ein Rhwydwaith o Fenywod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau mewnol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan ddathlu gyrfaoedd siaradwyr gwadd benywaidd, a thrafodaethau ar yr hyn y mae angen ei wneud o hyd i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae’r rhwydwaith wedi gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i godi ymwybyddiaeth o symptomau ac effeithiau’r menopos.

Rydym hefyd wedi cydweithio â sefydliadau fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Bwrdd Safonau’r Bar a’r City of London Law Society i drafod sut y gellir hybu arferion da yn y sector cyfreithiol ar aflonyddu rhywiol a’r defnydd o NDA (darllenwch ragor am NDAau yma).

Ethnigrwydd

Roedd ein hadolygiad thematig, ‘Unlocking the benefits of diversity’, yn dangos sut y gall cwmnïau cyfreithiol annog cyfleoedd i gadw, camu ymlaen a dyrchafu mewn gyrfa, nid yn unig i staff benywaidd, ond hefyd i staff croenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Gwyddom yn sgil ein hymchwil ‘Mapping advantages and disadvantages: Diversity in the legal profession in England and Wales’, am y problemau a all effeithio ar bobl sy’n dod o fewn dau neu fwy o grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio, fel menywod BAME. Roedd y syniadau a amlygwyd yn yr adroddiad ‘Unlocking the benefits of diversity’ yn cynnwys:

  • gwneud yn siŵr bod menywod BAME mewn rolau uwch yn y sefydliad i weithredu fel delfrydau ymddwyn
  • monitro llwybrau dyrchafu a chynnydd menywod BAME o’u cymharu â gweddill y gweithlu, i helpu i ganfod tueddiadau
  • annog mwy o fenywod BAME i fentora, ac i gynnig menywod BAME fel mentor benywaidd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r problemau hyn ymhlith cwmnïau cyfreithiol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithdai. Rydym wedi dosbarthu copïau o’n hymchwil ymhlith grwpiau cydraddoldeb yn y sector cyfreithiol, ASau ac aelodau o’n grŵp cyfeirio rhithwir Diversity Matters.

Rydym yn cydweithio’n glos â grwpiau cymorth fel y Rhwydwaith Cyfreithwyr Du, Cymdeithas y Cyfreithwyr Asiaidd a’r British Nigerian Law Forum i hybu amrywiaeth yn y proffesiwn. Ym mis Hydref 2018, bu aelod o’n bwrdd Elaine Williams yn cadeirio trafodaeth banel gydag aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon yn Leeds ynghyd â grwpiau rhanddeiliaid allweddol i drafod ffyrdd o annog cydraddoldeb hiliol mewn cwmnïau. Arweiniodd hyn at ddiddordeb mewn ffyrdd o annog arferion gorau, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn ystod trafodaeth banel arall yn 2019.

Anabledd

Mae ein hymgyrch, Eich Iechyd, Eich Gyrfa, a lansiwyd yn 2016, yn annog cyfreithwyr i ofyn am help yn gynnar ac mae’n dangos sut y gallwn gynnig arweiniad i gyfreithwyr sy’n teimlo bod eu gwaith yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Rydym yn gwneud addasiadau rhesymol i gyfreithwyr, ac mae ein holl staff wedi cael hyfforddiant ar sut i helpu cyfreithwyr sydd ag anabledd, ac mae hynny’n cynnwys iechyd meddwl.

Rydym yn aelod o Dasglu Llesiant y Proffesiynau Cyfreithiol, sy’n cael ei gadeirio gan yr elusen LawCare. Gyda chyd-aelodau, rydym yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio, i rannu arferion da ac i roi sylw i rai o’r rhesymau pam nad yw cyfreithwyr yn chwilio am help yn ddigon cynnar.

Rydym wedi gweithio hefyd ag Adran Cyfreithwyr Iau (JLD) Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ystod 2018 a buom yn annerch aelodau yn eu cynhadledd flynyddol am bwysigrwydd cael help yn gynnar os ydynt yn teimlo eu bod yn mynd trwy amser anodd yn y gweithle. Roeddem yn bresennol mewn digwyddiad bord gron a drefnwyd gan y JLD i drafod canllaw a gyhoeddwyd ganddynt ar sut i fynd i’r afael â’r lefelau uchel o straen negyddol yn y proffesiwn cyfreithiol.

Rydym yn ymgysylltu hefyd â’r Adran Cyfreithwyr ag Anableddau i edrych ar rai o’r heriau mae cyfreithwyr anabl yn eu hwynebu. Yn 2019, byddwn yn datblygu ymgyrch i hybu cydraddoldeb anabledd yn y proffesiwn cyfreithiol gyda’r nod o amlygu arferion gorau a darparu adnoddau i helpu cwmnïau.

Hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol

Mae annog pobl LGBTQ+ i ymuno â’r proffesiwn ac i fod yn agored ynglŷn â phwy ydynt yn y gwaith yn flaenoriaeth i ni. Yn 2018, buom yn gweithio mewn partneriaeth â Bryan Cave Leighton Paisner, Stonewall a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar brosiect newydd lle mae 11 o gwmnïau cyfreithiol yn 100 uchaf Stonewall ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn mentora cwmnïau heb ddim neu fawr ddim profiad o ymgorffori cynhwysiant LGBTQ+ yn eu sefydliadau. Ein rôl yw helpu i gydlynu’r cynllun ac i recriwtio cwmnïau i gael eu mentora. Byddwn yn rhoi gwybod i’n rhanddeiliaid beth fydd canlyniad a buddiannau’r cynllun pan ddaw i ben yn 2020.

Rydym hefyd wedi parhau i gyfleu neges gref i’r proffesiwn cyfreithiol a’r boblogaeth ehangach yng Nghymru a Lloegr bod cynhwysiant LGBTQ+ yn bwysig. Roeddem yn bresennol yng ngorymdeithiau Pride Birmingham, Llundain a Chaerdydd yn 2018, fel partneriaid â chwmnïau cyfreithiol, Cymdeithas y Cyfreithwyr, rheoleiddwyr cyfreithiol ac eraill. Byddwn yn parhau i weithio â Chymdeithas y Cyfreithwyr, Ombwdsmon y Gyfraith, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol ac eraill i weld pa waith arall y gallwn ei wneud.

Rydym hefyd wedi hyfforddi staff ar gynhwysiant pobl draws, i’w helpu wrth ymgysylltu â’r bobl sy’n cael ei rheoleiddio gennym ac â’r cyhoedd. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd ardderchog ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn 2018/19. Roeddem yn ymddangos yn safle 123 ar y mynegai, gan godi 48 safle mewn blwyddyn ac rydym wedi codi mwy na 100 safle ers ein cais yn 2016.

Symudedd cymdeithasol

Rydym am wneud yn siŵr nad oes dim un maes o’r gyfraith sy’n cyfyngu ar unrhyw ddarpar gyfreithiwr o unrhyw gefndir. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cydweithio â chwmnïau cyfreithiol ac eraill ar sawl prosiect i hybu symudedd cymdeithasol. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym wedi gweithio â’r Social Mobility Business Partnership (SMBP), cynllun cenedlaethol sy’n cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr o gefndiroedd llai cyfoethog sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y gyfraith neu faes cyllid. Buom yn cwrdd â myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn ein swyddfeydd ym Mirmingham a buom yn cynnal sesiynau ar ein hymchwiliadau rheoliadol, yn cyfleu negeseuon allweddol ac ymchwiliadau cyfrifyddu fforensig. Rydym hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â CILEx Regulation a Bwrdd Safonau’r Bar i gynllunio sesiwn ar y cyd ar yrfaoedd yn y gyfraith ar gyfer myfyrwyr SMBP o bob cwr o’r wlad.

Rheoleiddio yng Nghymru

Mae tua 3,885 o gyfreithwyr yn gweithio yng Nghymru a 443 o brif swyddfeydd, yng Nghaerdydd yn bennaf (mae’r ffigur hwn yn amcangyfrif o ganlyniad i weithio ar draws ffiniau).

Mae tua 4% o brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol wedi’u lleoli yng Nghymru, a dywed 1,172 o gyfreithwyr sy’n gweithio eu bod yn siarad Cymraeg. Cyhoeddwyd tua 777 o dystysgrifau gweithio yn Gymraeg y llynedd, gan helpu cwmnïau cyfreithiol i ddarparu gwasanaeth i bobl sy’n siarad Cymraeg.

Mae busnes cwmnïau cyfreithiol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru’n parhau i ffynnu. Roedd eu trosiant yn £410m yn 2017/18, bron i £30m yn uwch na thair blynedd yn ôl.

Deiliaid tystysgrifau gweithio wedi’u lleoli yng NghymruPrif swyddfeydd wedi’u lleoli yng NghymruCanran o gwmnïau cyfreithiol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru Deiliaid tystysgrifau gweithio sy’n dweud eu bod yn siarad CymraegTystysgrifau gweithio a gyhoeddwyd yn GymraegTrosiant
2015/163,7004504%1,081737£380m
2016/173,7704404%1,140737£397m
2017/183,8854434%1,172777£410m

"Mae’n gyfnod cyffrous i gyfreithwyr yng Nghymru sy’n dod yn fwy a mwy cyfarwydd â gwisgo dwy het. Rydym yn cynghori’r rhan fwyaf o’n cleientiaid lleol a chenedlaethol ar ddeddfwriaeth San Steffan, ond rydym yn gweld bod cyfran gynyddol o’n llwyth gwaith yn cael ei neilltuo i ystyried cyfreithiau sydd wedi’u pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

"Gallai popeth newid yn fuan. Bu ymgynghoriad yn ddiweddar ar godeiddio cyfraith Cymru – a fyddai’n golygu bod pob cyfraith sy’n berthnasol i Gymru’n symud i un lle ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n brosiect uchelgeisiol ond yn un sydd â noddwyr pwysig ac â photensial enfawr

"Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’r darlun hwn hefyd. Yn ogystal â bod yr iaith yn elwa ar statws cyfreithiol gwarchodedig yng Nghymru, mae rhywbeth personol a chyfarwydd iawn wrth ddarparu a derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i’r sawl sy’n ei siarad – mae llawer o gleientiaid (a chyfreithwyr) yn fwy cyfforddus wrth ddelio â phobl yn eu mamiaith."

Tod Davies, Cyfreithiwr gyda Capital Law

"Mae achos busnes dros gynnig gwasanaethau yn Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn dal i ffynnu. Mae canfyddiadau diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod un o bob pum oedolyn yng Nghymru’n siarad Cymraeg, gan gynyddu i un o bob pedwar yn y grŵp oedran 16 - 24 oed. Mewn rhai rhannau o Gymru - ym Môn a Gwynedd, mae dros 60% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg ac yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin mae rhwng 40 a 60% yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gynaf.

"Ac mae tystiolaeth gynyddol i ddangos bod nifer cynyddol o bobl yng Nghymru’n ymfalchïo yn eu hiaith a’u treftadaeth – mae 86% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono ac mi hoffai 62% o’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg pe baent yn ei medru. Hefyd, mae llawer o’r siopau mwyaf wedi sylweddoli bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu at werth cynnyrch neu wasanaeth."

Clive Thomas, Partner Rheoli Watkins and Gunn a Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr y bydd ein trefniadau rheoliadol yn gweithio mor effeithiol â phosibl pan fyddwn yn gadael yr UE. Mae hyn yn flaenoriaeth uchel o hyd ac mae wedi’i hymgorffori yn amcan pedwar o’n Strategaeth Gorfforaethol 2017-2020. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio’n glos â’r llywodraeth i ddeall effaith ymadael â’r UE ar sut yr ydym yn rheoleiddio cyfreithwyr, REL, EEL a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Gadael gyda chytundeb

Mae’r llywodraeth yn paratoi ar gyfer sawl senario. Un opsiwn yw bod y llywodraeth yn dod i gytundeb â’r UE. Er bod trafodaethau’n parhau, mae’r cytundeb ymadael drafft yn cynnig cyfnod pontio (tan 31 Rhagfyr 2020). Mae hyn yn gydnabyddiaeth gan y ddwy ochr o gymwysterau proffesiynol yn ogystal â chynlluniau ar gyfer fframwaith symudedd (a fydd yn disodli rhyddid i symud) ar gyfer gweithwyr proffesiynol y DU a’r UE.

Gadael heb gytundeb

Un o’r prif oblygiadau i’r bobl rydym yn eu rheoleiddio mewn senario ‘dim cytundeb’ fydd diwedd y gyfundrefn REL, yn amodol ar gyfnod pontio a fydd yn para tan ddiwedd Rhagfyr 2020. Mae’r gyfundrefn REL yn caniatáu cyfreithwyr o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) i gofrestru â ni ac i gynnig yr ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio eu teitl cartref. Rydym ar hyn o bryd yn rheoleiddio tua 700 REL.

Ym mis Rhagfyr 2018, buom yn holi barn ar y dull rydym yn ei argymell ynglŷn â sut y dylai pob cyfreithiwr cymwysedig o’r tu allan i’r DU gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr pe ceid Brexit heb gytundeb. Mae cyfreithwyr yr EEA, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn cymhwyso drwy’r QLTS, ond mae ganddynt hawl i gael eu heithrio os gallant ddangos bod ganddynt gymwysterau neu brofiad sy’n dangos gwybodaeth gyfatebol o gyfraith ac ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid iddynt sefyll bob rhan ohono.

Un cwestiwn a ofynnwyd gennym fel rhan o’r ymgynghoriad hwn oedd a ddylem ymestyn yr eithriadau hyn i bob awdurdodaeth heblaw’r DU lle ceir profiad neu wybodaeth gyfatebol. Byddai hyn yn sicrhau safonau uchel wrth ddilyn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, sy’n gwahardd gwladwriaethau rhag rhoi triniaeth ffafriol i wladwriaethau penodol. Yn 2019, cyhoeddwyd yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac mae i’w weld ar ein gwefan, ac rydym yn barod i weithredu’r newid i’r rheol os bydd angen.

Ymchwilio a goruchwylio

Pob blwyddyn byddwn yn cael tua 12,000 o adroddiadau sy’n datgan pryder am y cyfreithwyr a’r busnesau cyfreithiol yr ydym yn eu rheoleiddio. Daw’r rhain yn uniongyrchol gan y proffesiwn, fel cyfreithwyr neu’r swyddogion cydymffurfio sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol, yn ogystal â chan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a’r llysoedd.

Pan fydd ein tîm Ymchwilio a Goruchwylio’n edrych ar y pryderon hyn, bydd yn ystyried:

  • y dystiolaeth a gyflwynwyd a’i ffynhonnell
  • hanes rheoliadol y cwmni neu’r unigolyn
  • effaith bosibl y camymddwyn neu’r broblem honedig

Mae’r tîm yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a ddylid cymryd camau pellach neu beidio.

Mae diogelu arian cleientiaid yn ystod ymchwiliad i gwmni yn hollbwysig. Rydym yn gweithio i sicrhau nad yw arian pobl mewn perygl o ganlyniad i unrhyw gamymddwyn neu reoli gwael ar ran rhywun sy’n cael ei reoleiddio gennym. Ac, os bydd unrhyw gwmnïau’n cau o ganlyniad i’n ymchwiliad neu am reswm arall, mae’n bwysig bod hynny’n digwydd yn y ffordd iawn, fel bod gwaith papur ac arian eu cleientiaid yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymyriadau a sut maent yn diogelu’r cyhoedd.

Y broses ymchwilio

Yn ystod ymchwiliad, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’r sawl a gyflwynodd yr adroddiad inni. Os byddwn yn penderfynu na fyddwn yn ymchwilio ymhellach, byddwn yn egluro’r rhesymau wrthynt. Byddwn yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl am ein penderfyniad. Gellir gweld manylion am ganlyniadau ein hymchwiliadau.

Efallai y byddwn yn penderfynu y byddai Ombwdsmon y Gyfraith (LeO) yn fwy priodol i ddelio â rhai achosion. Mae’n delio â chwynion am wasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydym yn cydweithio’n glos â’r Ombwdsmon a bydd yn cysylltu â ni os, yn ystod ei ymchwiliadau, bydd ganddo amheuon bod cyfreithiwr wedi torri ein rheolau.

Pan fyddwn yn ymchwilio i gyfreithiwr neu gwmni, byddwn yn gofyn am wybodaeth gan y bobl dan sylw, fel y cyfreithiwr, y sawl sydd wedi ein hysbysu o’r pryderon, a thrydydd partïon perthnasol eraill. Os bydd angen, gallwn gymryd datganiadau gan dystion, ymweld yn bersonol â chwmnïau a dadansoddi tystiolaeth, fel cyfrifon banc, datganiadau ariannol a dogfennau eraill. Bydd llawer o achosion wedi’u cwblhau o fewn tri mis, ac mae’r rhan fwyaf wedi’u cau o fewn 12 mis. Fodd bynnag, gall achosion eraill gymryd mwy o amser.

Adroddiadau 2017/18

Adroddiadau a gafwyd rhwng 1 Tachwedd 2017 a 31 Hydref 2018

  • Cyfanswm nifer yr adroddiadau am ymddygiad cyfreithwyr neu gwmnïau: 11,508
    • Ymchwiliadau i ymddygiad: 6,027
    • Nid oedd yn haeddu ymchwiliad ond defnyddir yr wybodaeth fel rhan o’n proffiliau risg: 4,405
    • Atgyfeiriwyd yn fewnol neu anfonwyd at Ombwdsmon y Gyfraith: 911
    • Ni chymerwyd camau pellach, er enghraifft am nad yw’n dod o fewn ein hawdurdodaeth i ymchwilio neu nid yw’n ymwneud â chwmnïau neu bobl rydym yn eu rheoleiddio: 165

Natur y problemau y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt 2017/18

Noder fod y problemau y mae pobl sy’n cael eu rheoleiddio gennym wedi ein hysbysu yn eu cylch yn is-set o’r problemau y cawsom ein hysbysu yn eu cylch yn gyffredinol.

Y deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt yn gyffredinolY nifer a gafwydY deg prif broblem y rhoddwyd gwybod amdanynt gan y rheini yr ydym yn eu rheoleiddioY nifer a gafwyd
1Manteisio’n annheg ar drydydd parti, er enghraifft, person yn cynrychioli eu hunain mewn achos1,783Dwyn manylion adnabod unigolyn neu endid sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio)421
2Gofal annigonol i gleientiaid1,043Torri cyfrinachedd246
3Twyll ac anonestrwydd627Twyll ac anonestrwydd184
4Dwyn manylion adnabod unigolyn neu endid sy’n cael ei reoleiddio (hefyd yn cynnwys gwefannau a gaiff eu clonio)589Torri ein rheolau cyfrifyddu: gwneud iawn am ddiffyg yng nghyfrif cleient159
5Torri cyfrinachedd545Torri ymgymeriad129
6Camarwain y llys524Manteisio’n annheg ar drydydd parti, er enghraifft, person yn cynrychioli eu hunain mewn achos112
7Gofalu am gleientiaid gan ddangos diffyg gallu neu esgeulustra neu gan achosi oedi523Camarwain trydydd parti’n fwriadol93
8Camarwain trydydd parti’n fwriadol412Unigolyn yn honni eu bod yn gyfreithiwr er nad ydynt80
9Gofal annigonol i gleientiaid – diffyg cymhwysedd402Anawsterau ariannol difrifol77
10Gwrthdrawiad buddiannau personol384Gwrthdrawiad buddiannau personol72

Astudiaeth achos – Rhybuddion | Cytundebau dim datgelu (NDAau)

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddwyd rhybuddion i’r cyhoedd a’r proffesiwn ynglŷn â’r defnydd o NDAau. Mewn NDA, mae un neu fwy o’r partïon wedi cytuno i beidio datgelu gwybodaeth gyfrinachol i neb arall.

Os ydynt yn cael eu defnyddio’n briodol, gall NDA ddiogelu buddiannau masnachol, cyfrinachedd ac enw da. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r ymgyrch #MeToo, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am aflonyddu rhywiol a wnaed i’r heddlu ac awdurdodau eraill, mae pryderon bod cytundebau o’r fath yn cael eu defnyddio i gelu datgeliadau troseddau posibl.

Rydym wedi atgoffa cwmnïau cyfreithiol na ddylai NDAau gael eu defnyddio i:

  • rhoi un o’r partïon mewn sefyllfa lle maent yn teimlo na allant ddweud wrth yr heddlu neu awdurdod arall, am drosedd neu ddrygioni arall posibl
  • rhoi’r argraff i rywun sy’n cael eu rheoleiddio gennym na ddylent ddweud wrthym os ydynt wedi torri ein rheolau
  • dweud wrth rywun nad oes ganddynt yr hawl i ddweud rhywbeth wrth yr awdurdodau pan maent yn gwneud hynny.

Mae’r cyhoedd a’r proffesiwn yn disgwyl bod cyfreithwyr yn ymddwyn yn onest ac yn parchu’r gyfraith. Rydym hefyd yn disgwyl cael ein hysbysu am unrhyw gamymddwyn proffesiynol gan unigolyn neu gwmni sy’n cael eu rheoleiddio gennym. Os byddwn yn darganfod nad yw hyn yn digwydd, byddwn yn ymchwilio a gallwn gymryd camau gorfodi.

Cyfreithiol a gorfodi

Mae gan y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a’r proffesiwn yr hawl i ddisgwyl y byddwn yn cymryd camau pan fydd cyfreithwyr neu gwmnïau cyfreithiol yn methu â chyrraedd y safonau yr ydym wedi’u gosod. Mae ein Tîm Cyfreithiol a Gorfodi yn gweithio i orfodi ein rheolau mewn ffordd deg, gan gymryd camau cadarn pan fydd galw am hynny. Nod ein gwaith gorfodi yw:

  • diogelu cleientiaid, cyfreithwyr a’r cyhoedd – gallai hyn fod drwy reoli neu gyfyngu ar y risg o niwed, sicrhau nad yw unigolyn neu gwmni’n gallu ymddwyn yn yr un ffordd eto, neu geisio rhwystro’r peth rhag digwydd
  • cyfleu neges wrth y rheini rydym yn eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg
  • cynnal a gwarchod safonau cymhwysedd a safonau ar gyfer ymddygiad moesegol
  • cynnal ffydd y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol sy'n cael eu darparu.

Mae’r pwerau sydd gennym ni’n weddol gyfyngedig oni bai ein bod yn delio â chyrff trwyddedig (gweler isod am ragor o wybodaeth am gosbi ac erlyn). A phan fyddwn yn cymryd camau rheoleiddio neu ddisgyblu’n fewnol, rydym yn defnyddio’r safon prawf sifil. Mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu pa mor debygol yw hi, ar ôl pwyso a mesur, bod unrhyw honiadau yn wir, gan wneud yn siŵr mai diogelu’r cyhoedd yw ein blaenoriaeth. Rydym yn erlyn materion difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Mae’n annibynnol ac mae ganddo ystod eang o gosbau y gall eu gorfodi.

Cyhoeddodd y Tribiwnlys ym mis Ebrill 2019 y bydd yn newid o ddefnyddio’r safon prawf sifil i’r safon prawf troseddol pan fydd yn ystyried achosion, gyda’r newid yn debygol o ddod i rym diwedd 2019. Rydym yn croesawu’r newid hwn, a fydd yn golygu pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, gall y cyhoedd fod yn fwy hyderus mai eu buddiannau hwy fydd yn dod gyntaf.

Pa bryd fyddwn ni’n cymryd camau?

Pan fydd mân achosion o dorri rheolau, a’r rheini’n achosion neilltuedig, efallai y byddwn yn ysgrifennu at y cwmni neu’r unigolyn i’w hatgoffa am ein gofynion a’r safonau y mae’n rhaid eu cyrraedd. Os bydd achos o dorri rheolau’n un mwy difrifol, gallwn ddirwyo’r cwmni neu unigolyn, neu osod amodau ar eu tystysgrif gweithio. Byddwn yn mynd â’r achosion mwyaf difrifol gerbron y Tribiwnlys (SDT).

Cosbi ac erlyn

Mae cyfyngiadau ar y mathau o gosbau y gallwn eu rhoi. Er enghraifft, mae ein pwerau i ddirwyo unigolion wedi’u cyfyngu i £2,000, ac nid oes modd inni ddiarddel cyfreithiwr. Fodd bynnag, gallwn osod dirwy o hyd at £250m ar gorff trwyddedig a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion mewn corff trwyddedig.

Astudiaeth achos | Dirwyo cyfreithwyr

Rhoddwyd dirwy o £2,000 i gyfreithiwr ac yna fe’u ceryddwyd am fethiant i gydymffurfio ag ymgymeriad. Mae ymgymeriad yn addewid a wneir gan gyfreithwyr i wneud, neu i beidio â gwneud, rhywbeth. Bydd yn aml yn chwarae rhan allweddol mewn mater cyfreithiol a bydd yn weithred benodol a phwysig.

Yn yr achos hwn, roedd y client wedi gofyn i’w gyfreithiwr ei helpu i gael benthyciad ar gyfer eiddo newydd, gan ddefnyddio eiddo arall fel sicrwydd. Gwnaeth y cyfreithiwr y trefniadau angenrheidiol â rhoddwr y benthyciad. Roedd hyn yn cynnwys ymgymeriad â rhoddwr y benthyciad. Roedd yn dweud y byddai’r cyfreithiwr yn cofrestru’r taliad i sicrhau’r benthyciad â’r Gofrestrfa Dir o fewn saith niwrnod ar ôl cwblhau’r benthyciad. Mae hyn yn golygu i bob pwrpas y byddai’r cyfreithiwr yn dweud wrth y Gofrestrfa Dir bod gan roddwr y benthyciad gyfran yn yr eiddo.

Ar ôl cael yr ymgymeriad, gwnaeth roddwr y benthyciad y benthyciad. Trosglwyddodd rhoddwr y benthyciad yr arian i gyfrif client y cyfreithiwr, a oedd wedyn yn trosglwyddo’r arian i gyfrif banc personol y client.

Fodd bynnag, cymerodd y cyfreithiwr fwy na saith niwrnod i gofrestru’r taliad â’r Gofrestrfa Dir. Roedd wedi ceisio cofrestru’r taliad 16 diwrnod ar ôl cwblhau’r benthyciad. Gwrthododd y Gofrestrfa Dir â chofrestru’r taliad am fod ganddo amheuon a oedd yn drafodiad dilys. Cymerodd rhoddwr y benthyciad gamau cyfreithiol yn erbyn y cyfreithiwr am nad oedd y benthyciad wedi’i sicrhau.

Nid oedd y cyfreithiwr wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad. Daethom i’r casgliad fod yr ymddygiad yn fwriadol neu’n ddi-hid, a’i fod wedi achosi neu roedd ganddo’r potensial i achosi colled neu anghyfleustra i roddwr y benthyciad. O ystyried hyn, roeddem o’r farn ei bod yn briodol i gyhoeddi dirwy neu gerydd. Nid oedd gennym ddim tystiolaeth y byddai’r cyfreithiwr yn ymddwyn fel hyn eto ac, am y rheswm hwnnw, roeddem o’r farn bod canlyniad rheoleiddio mewnol yn ddigonol. Byddem wedi atgyfeirio’r achos at y Tribiwnlys pe bai’r cyfreithiwr wedi ymddwyn mewn modd anonest.

Bydd unrhyw ddirwy a gyhoeddir gennym fel arfer wedi’i chysylltu ag un arall o’n canlyniadau rheoleiddio, fel cerydd neu osod amodau ar dystysgrif gweithio cwmni neu gyfreithiwr.

Camau rydym yn eu cymryd ac mae’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd

Camau a gymerwyd ac ym mha amgylchiadauLefel y camymddwynEin cosbCosb gan y Tribiwnlys
Llythyr cynghori: rydym yn atgoffa’r unigolyn neu’r cwmni, yn ysgrifenedig, o’u cyfrifoldebau rheoliadol.Mân neu mae mater wedi cael ei reoli mewn modd cadarn a phriodol
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd: ar gyfer camymddwyn o bwys, ond achos neilltuedig. Gellir rhoi ystyriaeth i’r canfyddiad/canfyddiad a rhybudd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.Canolig
Cystwyo: Rydym yn cystwyo unigolyn neu gwmni pan fu achos cymharol ddifrifol o weithredu’n groes i’n gofynion neu ein safonau.Canolig
Dirwy: Pan fu achos difrifol o weithredu’n groes i’n gofynion neu ein safonau a phan fydd, er enghraifft, gallai’r unigolyn neu’r cwmni sy’n cael ei reoleiddio fod wedi elwa’n ariannol o’r camymddwyn, a’i bod yn briodol diddymu neu leihau’r elw ariannol a wnaed.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol✔ Hyd at £2,000 (fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen).✔ Digyfyngiad
Gosod amodau gweithio ar unigolyn: rydym yn cyfyngu neu’n rhwystro unigolyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu rhag ymwneud â threfniadau/cysylltiadau busnes penodol neu drefniadau gweithio.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a pham y mae angen delio â’r risg sy’n deillio o hyn✔ Cyfeirir at hyn fel "gorchymyn cyfyngu"
Gosod amodau gweithio ar gwmni: byddwn yn cyfyngu neu’n rhwystro cwmni, neu un o’i reolwyr, gweithwyr neu rywun sydd â budd, rhag gwneud gweithgareddau penodol. Gall hyn hefyd ein helpu i fonitro’r cwmni neu unigolyn yn effeithiol drwy gael adroddiadau rheolaidd.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hyn o fudd i’r cyhoedd✔ Cyfeirir at hyn fel "gorchymyn cyfyngu".
Cerydd: y Tribiwnlys yn cosbi'r sawl sy'n cael ei reoleiddio am weithredu’n groes i’n gofynion ac/neu ein safonau. Mae cerydd gan y Tribiwnlys yn cyfateb i gystwyo gennym ni.Cymharol ddifrifol, neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn gymharol ddifrifol.
Gorchymyn adran 43 (ar gyfer y rheini nad ydynt yn gyfreithwyr sy’n gweithio yn y proffesiwn, e.e. rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol): rydym yn cyfyngu unigolion rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Gwaharddiad neu ddiddymu’r hyn sy’n awdurdodi/cydnabod cwmni: rydym yn rhoi’r gorau i awdurdodi cwmni naill ai’n barhaol neu dros dro. Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Gwaharddiad: y Tribiwnlys yn gwahardd cyfreithiwr rhag gweithio naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys hefyd roi gwaharddiad wedi’i ohirio, cyn belled ag y bydd gorchymyn cyfyngu yn dal yn berthnasol.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol.
Diarddel: y Tribiwnlys yn rhwystro cyfreithiwr rhag gweithio’n gyfan gwbl. Caiff enw’r cyfreithiwr ei dynnu oddi ar y gofrestr o gyfreithwyr.Difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd ynghyd yn ddifrifol

Ein dull gorfodi newydd

Rydym yn awr yn gweithio’n unol â’n strategaeth gorfodi newydd, ar ôl i ni ddechrau ei phrofi a’i mireinio, a hyfforddi ein staff i gyfarwyddo â hi yn ystod 2017/18. Cafodd wedyn ein diwygio a’i chyhoeddi ym mis Chwefror 2019. Wrth ddatblygu’r strategaeth buom yn siarad â mwy na 5,400 o’r cyhoedd ac aelodau’r proffesiwn fel rhan o’n hymgyrch Question of Trust. Gofynnwyd iddynt am eu barn am yr hyn a ddylai ddigwydd os na fydd cwmnïau a chyfreithwyr yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gennym ni a’r cyhoedd. Mae’r strategaeth newydd yn ystyried eu barn ac yn cynnig mwy o eglurder ynghylch:

  • sut yr ydym penderfynu a ddylem weithredu mewn amgylchiadau penodol
  • y ffactorau yr ydym yn eu hystyried wrth asesu difrifoldeb camymddwyn
  • sut yr ydym yn penderfynu ar y cam sy’n briodol i’w gymryd.

Mae hefyd yn gydnaws â’n rheolau a’n Codau Ymddygiad diwygiedig ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau. Maent yn canolbwyntio ar y safonau uchel y dylai cwmnïau a chyfreithwyr eu cyrraedd, yn hytrach na rheolau rhagnodol y dylent eu dilyn.

Rydym yn disgwyl y bydd ein dull newydd yn ein helpu i ganolbwyntio ar y materion pwysicaf ac i fod yn eglur ynglŷn â pha bryd y bydd yn briodol i gosbi neu i atgyfeirio mater at y Tribiwnlys. Byddwn yn monitro effeithiau’r strategaeth gorfodi newydd yn fanwl yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Astudiaeth achos | Cyfreithiwr anonest

Gweithredu mewn modd anonest

Mae’n hanfodol bod cyfreithwyr yn gweithredu mewn ffordd onest gan fod yn rhaid i’w cleientiaid, eu cydweithwyr, y llysoedd a’r heddlu allu ymddiried ynddynt. Mae cyfreithwyr yn trafod symiau mawr o arian ac maent yn helpu pobl mewn sefyllfaoedd anodd a thrallodus, fel delio â materion cystodaeth plant. Maent yn amddiffyn achosion troseddol ac yn gweithredu ar faterion eraill yn y llysoedd. Mae cyfreithwyr yn rhan bwysig o’n system gyfreithiol ac mae colli hyder sy’n dod yn sgil anonestrwydd yn gallu tanseilio hyder yn y rhan allweddol hon o gymdeithas. Os caiff ei brofi, mae cyfreithwyr sy’n anonest yn wynebu cosbau llym, sy’n cynnwys eu diarddel.

Yn 2018, buom yn llwyddiannus yn ein hapêl mewn tri achos lle’r oedd y Tribiwnlys wedi canfod anonestrwydd ond heb ddiarddel y cyfreithwyr, ar ôl penderfynu bod yr amgylchiadau’n rhai eithriadol, yn rhannol oherwydd ystyriaethau iechyd.

Canfu’r Uchel Lys fod yn rhaid i unrhyw amgylchiadau eithriadol fod yn gysylltiedig â’r ymddygiad anonest ei hun. Ym mhob un o’r tri achos, nid oedd yr anonestrwydd yn ariannol nac yn unigryw, ac ym mhob achos roedd yr anonestrwydd wedi achosi niwed. Penderfynodd y llys na all pwysau gwaith nac amodau gweithio gyfiawnhau anonestrwydd cyfreithiwr. Cafodd pob un o’r tri chyfreithiwr eu diarddel gan yr Uchel Lys.

Canlyniadau 2017/18

Ni fydd yr holl ganlyniadau ar y tudalennau hyn i gyd yn cyfeirio at bryderon y tynnwyd ein sylw atynt yn 2017/18.

Y rheswm am hyn yw nad yw pob achos yn cael ei ddatrys o fewn blwyddyn, er bod y rhan fwyaf o ymchwiliadau mewnol yn cael eu datrys o fewn cyfnod o 12 mis. Fodd bynnag, os bydd mater yn cael ei gyfeirio at y Tribiwnlys, gall gymryd mwy o amser i’w gwblhau.

Canlyniadau gwaith goruchwylio 2017/18

Cafodd y cytundebau setliad rheoleiddio (RSAau) isod eu cytuno fel rhan o’r broses ymchwilio. Mae’r Cytundebau hyn yn ein galluogi i ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy ddod ag achosion i ben yn gyflym, yn effeithiol ac am gost sy’n gymesur.

Noder, gall un ffeil arwain at sawl canlyniad.

2017/18
Ffeiliau lle cafodd honiadau eu cadarnhau/lle cymerwyd camau251
Canlyniad penderfyniadauCytunwyd drwy RSA
Llythyr cynghori132-
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd65
Cerydd neu gystwyo3922
Dirwy2117
Gosod amodau ar ymarfer cwmni neu unigolyn183
Gorchymyn adran 43376

Mae gorchymyn adran 43 yn golygu ein bod yn cyfyngu ar rai nad ydynt yn gyfreithwyr, e.e. rheolwyr a chyflogeion eraill, rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.

Cytundebau Setliad Rheoleiddio (RSAau) 2017/18

Pan fyddwn atgyfeirio achos at ein tîm Cyfreithiol a Gorfodi ar gyfer gweithredu pellach, gall arwain o hyd at RSA, yn hytrach na chael ei atgyfeirio at y Tribiwnlys.

Cafodd yr RSAau a ddangosir isod eu gwneud yn ystod y cam hwn o’r broses ddisgyblu. Rydym yn gwneud ein penderfyniad gyda sawl ffactor mewn golwg, gan gynnwys a yw ein pwerau i gosbi’n ddigon i ddisgyblu’r cwmni neu’r cyfreithiwr, ac a yw er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r achos at y Tribiwnlys nu beidio.

Noder, gall ffeil ag RSA arwain at sawl canlyniad.

2017/18
Ffeiliau ag RSA20
Dirwy 9
Cerydd neu gystwyo8
Gorchymyn adran 43 1
Adran 47 (2) (g)5
Arall9

Mae gorchymyn 47 (2) (g) yn golygu bod cyn gyfreithiwr wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr ac ni ellir ei adfer oni bai bod y Tribiwnlys yn caniatáu hynny.

Gall Arall olygu, er enghraifft, bod y cyfreithiwr yn cytuno i dynnu eu hunain oddi ar y gofrestr a thalu ein costau.

Achosion gyda’r Tribiwnlys

Cafodd 134 o achosion eu hatgyfeirio gennym at y Tribiwnlys yn 2017/18 ac arweiniodd hynny at y canlyniadau canlynol. Mae’r tabl hwn hefyd yn cynnwys canlyniadau a wnaethpwyd drwy ganlyniadau y cytunwyd arnynt.

Noder, gall gwrandawiad arwain at sawl canlyniad.

2017/18
Nifer yr achosion a ddygwyd134
Diarddel78
Dirwy81
Gwahardd26
Dim gorchymyn7
Penderfyniad arall13

Gall Dim gorchymyn olygu bod y Tribiwnlys yn dyfarnu o’n plaid ni ond yn penderfynu nad yw’n angenrheidiol nac yn briodol i gyhoeddi cosb na rheolaeth. Gall hefyd olygu nad yw’n dyfarnu o’n plaid.

Gall Arall olygu, er enghraifft, gystwyo neu orchymyn adran 43.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt yn y Tribiwnlys (Is-set o atgyfeiriadau’r Tribiwnlys)

Os byddwn yn atgyfeirio mater at y Tribiwnlys a’i fod yn barnu bod achos i’w ateb, a bod y cwmni neu’r unigolyn yn cyfaddef yr honiadau yn eu herbyn, gall fod yn briodol i ddod â’r mater i ben gyda chanlyniad y cytunwyd arno. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r ymatebwr yn cyfaddef a byddwn yn cytuno ar set o ffeithiau, cosb a chostau. Bydd y Tribiwnlys yn penderfynu a yw’r canlyniad y cytunwyd arno’n briodol.

Fel RSAau, mae canlyniadau y cytunwyd arnynt, pan yn briodol, yn ffordd gost effeithiol, gyflym a chymesur o ddatrys mater.

Nodwr, gall ffeil â chanlyniad y cytunwyd arno fod â mwy nag un canlyniad.

2017/18
Achosion â chanlyniadau y cytunwyd arnynt37
Diarddel15
Gwahardd6
Dirwy43
Cerydd neu gystwyo0
Gorchymyn adran 43 1
Adran 47 (2) (g)0

Astudiaeth achos | Ymddwyn mewn ffordd sy’n cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd

Rôl hanfodol

Mae gan gyfreithwyr rôl hanfodol i wneud yn siŵr bod y gyfraith yn cael ei chynnal a bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu’n briodol. Oherwydd hyn, mae disgwyl i gyfreithwyr gadw at safonau uwch a rhaid iddynt ymddwyn mewn ffordd sy’n ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwasanaethau cyfreithiol. Os gwelwn nad yw cyfreithwyr yn gwneud hyn, byddwn yn gweithredu.

Achos o ymosod

Ym mis Ebrill 2018, cymerwyd camau gennym yn erbyn cyfreithiwr a oedd wedi’i gael yn euog o ymosod. Roedd y cyfreithiwr wedi penio ac anafu gwrthwynebydd, ymgyfreithiwr drosto’i hun, yn ddifrifol yn dilyn achos llys. Cafodd y cyfreithiwr ei ddiarddel gan y Tribiwnlys a’u gorchymyn i dalu costau o £4,611.

Sylwadau sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol

Yng Ngorffennaf 2018, cymerwyd camau yn erbyn cyfreithiwr a oedd wedi gwneud sylwadau sarhaus, gwahaniaethol a chwbl amhriodol ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd y cyfreithiwr wedi defnyddio’u cyfrif Twitter i wneud y sylwadau, a oedd yn dangos i’r cyhoedd eu bod wedi’u gwneud gan gyfreithiwr Roedd y sylwadau’n mynegi atgasedd tuag at nifer o grefyddau ac yn erbyn unigolyn trawsryweddol. Cafodd y cyfreithiwr ei wahardd rhag ymarfer am 18 mis a’i orchymyn i dalu ein costau o £11,000.

Ymosodiad gwaethygedig rhywiol a hiliol

Ym mis Ionawr 2018, cymerwyd camau gennym yn erbyn cyfreithiwr a oedd wedi’i gael yn euog o ymosodiad gwaethygedig rhywiol a hiliol. Cafodd y cyfreithiwr ei wahardd gan y Tribiwnlys rhag ymarfer am gyfnod o 12 mis i ddechrau, ac yna cafodd ei ymestyn i bedair blynedd, ar ôl i ni apelio yn erbyn y ddedfryd. Bu’n rhaid i’r cyfreithiwr hefyd dalu ein costau o £11,484.

Os gwyddom fod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os oes angen, am ryw reswm arall, diogelu buddiannau cleientiaid, gallwn weithredu’n gyflym a chau cwmni neu bractis cyfreithiwr. Gelwir hyn yn ymyriad.

Pan fyddwn yn ymyrryd, rydym yn meddiannu holl arian a ffeiliau’r cleient, ac yn cymryd camau i’w dychwelyd i’w perchnogion. Ni fydd modd wedyn i’r cwmni weithredu.

Pam yr ydym yn ymyrryd

Mae llawer o resymau pam y gallwn ymyrryd mewn cwmni, er enghraifft, os bydd yn ansolfent neu’n fethdalwr, neu os yw wedi’i gau.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ein hymyriad mewn cwmnïau yw:

  • ein bod yn amau bod rhywun yn y cwmni wedi bod yn anonest
  • bod achos difrifol o dorri ein rheolau
  • mae angen i ni ddiogelu cleientiaid presennol a dyfodol y cwmni, yn ogystal â chyn gleientiaid.

Os ydym yn gwybod bod cyfreithwyr wedi bod yn anonest, rydym yn debygol iawn o ymyrryd yn eu practis. Mae cyfreithwyr anonest yn risg sylweddol i’w cleientiaid, i’r llysoedd ac i’r cyhoedd.

Rhesymau dros ymyrryd 2015–2018

Noder, gall pob ymyriad fod â mwy nag un rheswm dros ymyrryd.

Rhesymau am 37 o ymyriadau yn 2015/16Rhesymau am 50 o ymyriadau yn 2016/17Rhesymau am 33 o ymyriadau yn 2017/18
Amheuaeth o anonestrwydd21Torri ein rheolau 29Amheuaeth o anonestrwydd29
Torri rheolau gweithio cyfreithwyr18Amheuaeth o anonestrwydd29Torri rheolau gweithio cyfreithwyr17
Diogelu buddiannau cleientiaid16Torri ein Rheolau Cyfrifyddu 27Diogelu buddiannau cleientiaid15
Torri ein Rheolau Cyfrifyddu15Diogelu buddiannau cleientiaid26Torri ein Rheolau Cyfrifyddu11
Methdaliad 5Torri Rheolau Yswiriant Indemniad Cyfreithwyr 14Rhoi’r gorau i weithio 1
Rhoi’r gorau i weithio1Methdaliad2LLP ansolfent1
Diarddel neu wahardd1Diarddel neu wahardd2Methiant i gydymffurfio ag amod at dystysgrif gweithio1
Anfon i garchar1Analluog i weithio1Diarddel neu wahardd1
Anfon i garchar1

Astudiaeth achos | Ymyrraeth ar waith

Y llynedd, caewyd cwmni gennym a oedd yn gweithredu ar ran mewnfudwyr agored i niwed ledled y wlad. Roedd y rhan fwyaf o’r cleientiaid mewn perygl o gael eu hallgludo ac roeddent yn gwneud cais i gael aros yn y DU.

Penderfynwyd ymyrryd am ein bod yn amau anonestrwydd ar ran rheolwyr y cwmni. Roeddent yn camarwain cleientiaid i apelio yn erbyn penderfyniadau mewnfudo heb obaith y byddent yn llwyddo. Roeddent yn cymryd taliadau gan gannoedd o gleientiaid am gostau, a hynny heb roi derbynebau iddynt bob amser. Mewn rhai achosion, roedd pobl wedi talu rhwng £500 a £1,000, cyn darganfod bod yr arian wedi’i dalu i gyfrif banc personol un o’r rheolwyr.

Nid Saesneg oedd iaith gyntaf llawer o’r cleientiaid. Buom yn cyfieithu gwybodaeth allweddol ar eu cyfer, fel sut i wneud cais i’r Gronfa Iawndal. Buom yn delio â channoedd o geisiadau i’r gronfa o ganlyniad i’r ymyriad hwn.

Cipolwg: Ymyriadau yn y degawd diwethaf

Cyrhaeddodd nifer yr ymyriadau uchafbwynt yn dilyn dirwasgiad 2008, lle’r ymyrrwyd mewn nifer o gwmnïau a oedd yn ddibynnol ar drawsgludo preswyl. Roedd hwn yn faes yr effeithiwyd yn ddrwg arno yn ystod y dirywiad economaidd. Ar ôl gostyngiad sylweddol yn 2010/11, mae nifer yr ymyriadau wedi bod yn weddol debyg am bum mlynedd.

Er bod nifer yr ymyriadau a gynhaliwyd gennym yn 2017/18 wedi gostwng, ni allwn ddweud eto a yw hyn yn adlewyrchu tuedd am i lawr yn y sector.

BlwyddynNifer yr ymyriadau
2008/0989
2009/1074
2010/11563
2011/1242
2012/1350
2013/1451
2014/1540
2015/1637
2016/1750
2017/1833

Sut mae’r Gronfa Iawndal yn gweithio

Gall y gronfa wneud taliadau i’r cyhoedd ac i fusnesau bach i ad-dalu arian a gymerwyd neu a ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr.

Fel arfer, bydd pobl yn gwneud cais i’r gronfa ar ôl i ni ymyrryd yn y cwmni cyfreithiol roeddent yn ei ddefnyddio. Ni sy’n rheoli’r gronfa ac mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn cyfrannu ati drwy ardoll flynyddol.

Casglwyd £40 gan bob cyfreithiwr a £778 gan bob cwmni cyfreithiol yn 2017/18. Oherwydd y risgiau cynyddol yn y sector cyfreithiol, codwyd yr ardoll i £90 gan bob cyfreithiwr a £1,680 gan bob cwmni yn 2018/19.

Gall pobl wneud cais i’r gronfa drwy ein gwefan, a byddwn yn cyfeirio pobl at y gronfa pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni. Ar ôl i ni gael cais, byddwn yn ei asesu i benderfynu a all y gronfa helpu. Mae pobl sy’n gwneud cais yn aml mewn amgylchiadau anodd neu drallodus, felly byddwn yn gweithio mor gyflym ac mor gefnogol ag y gallwn.

Rydym yn ystyried pob cais yn ofalus ac ni fyddwn yn gwneud taliadau oni bai bod y ceisiadau’n dod o fewn ein rheolau a bod yr aelod o’r cyhoedd neu’r busnes bach dan sylw wedi profi colled ariannol.

Dyma’r ddau reswm mwyaf cyffredin pam y byddwn yn gwneud taliadau:

  • Profiant: Pan fydd cyfreithwyr yn camddefnyddio etifeddiaeth rhywun.
  • Trawsgludo: Pan fydd cyfreithwyr anonest yn cymryd neu’n colli blaendaliadau, blaendaliadau morgais neu elw o werthiant.

Mae rhai amgylchiadau lle’r ydym yn debygol o wrthod hawliad. Er enghraifft:

  • os mai yswiriwr y cwmni ddylai ddelio â’r hawliad
  • os daw’r cais gan fusnes sydd â throsiant dros £2 filiwn y flwyddyn
  • os yw’r cais am golledion yn deillio o weithgarwch nad yw’n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr
  • os yw wedi’i wneud y tu allan i’r terfyn amser
  • os yw’n ganlyniad i fethiant ar ran y client i edrych ar ôl eu harian yn ddigon gofalus.

Rydym yn monitro faint rydym yn ei dalu o'r Gronfa Iawndal bob blwyddyn a'r math o geisiadau a ddaw i law. Rydym hefyd yn cadw golwg ar risgiau sy’n amlygu eu hunain i’r cyhoedd a’u harian.

Cipolwg: Taliadau’r Gronfa Iawndal rhwng 2013 a 2016

Mae cydberthynas agos rhwng taliadau a wneir gennym bob blwyddyn a nifer yr ymyriadau a wneir gennym, er eu bod hefyd yn dibynnu ar werth y ceisiadau unigol. Er bod cynnydd wedi bod yn y swm rydym wedi’i dalu o’r gronfa, mae’n dal yn debyg i’r cyfartaledd hanesyddol am y pum mlynedd diwethaf.

BlwyddynCyfanswm y taliadau
2013/14£23.6m
2014/15£17.8m
2015/16£10.3m
2016/17£15.2m
2017/18£18.1m

Y prif ffigurau ar gyfer 2017/18

  • Ceisiadau a wnaethpwyd: 2,648
  • Ceisiadau a gaewyd: 3,127*
  • Ceisiadau a arweiniodd at daliad: 1,553
  • Cyfanswm gwerth y ceisiadau a gaewyd: £18.1m
  • Gwerth cyfartalog taliad: £11,500
  • *Noder, nid yw’r rhain o reidrwydd yn yr un grŵp o geisiadau â’r rhai a wnaethpwyd yn 2017/18.

Y pum prif reswm dros wneud taliadau rhwng 2015 a 2018

Rheswm am y cais 2015/16TaliadRheswm am y cais 2016/17TaliadRheswm am y cais 2017/18Taliad
1Profiant £3.9mElw o werthiant eiddo £4.0 mProfiant – gweddill yn ddyledus i ystâd £5.3 m
2Elw o werthiant eiddo£1mProfiant £3.3 mTwyll trawsgludo £3.7 m
3Arian cleientiaid yn gyffredinol£1mBlaendal (eiddo ac arall)£2.6 mElw gwerthiant £2.8 m
4Blaendal (eiddo ac arall)£700kIawndal (er enghraifft, am anaf personol)£0.8 mDychwelyd taliad o ganlyniad i gostau £1.7 m
5Twyll trawsgludo£700kTwyll morgais £0.8 mMorgais heb ei gyfnewid£1.4 m

Rheoli arian cleientiaid, ffeiliau a cheisiadau i’r Gronfa Iawndal

Pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni, byddwn yn cymryd yr holl ffeiliau o’i swyddfa ac yn cysylltu â chleientiaid i egluro’r hyn sydd wedi digwydd. Rydym yn gweithio â’n hasiantau ymyrryd i gymryd cyfrifoldeb am arian y cleientiaid sydd yng nghyfrifon y cwmni ac unrhyw ffeiliau cleientiaid.

Bydd ein hasiant, cwmni cyfreithiol fel arfer, yn delio ag unrhyw faterion brys sydd gan gleientiaid. Bydd yn ymchwilio i weld pa ffeiliau sy’n perthyn i bwy, fel y gallwn gysylltu â’r cleientiaid a rhoi gwybod iddynt ein bod wedi cau’r cwmni. Bydd yr asiant hefyd yn cynghori cleientiaid y cwmni ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Os nad yw ffeil y client yn un brys neu os yw’n segur, byddwn yn ei harchifo yn ein cyfleusterau yn Coventry neu Darlington. Mae’r archif yn cael ei rhedeg gan Capita. Mae’n delio â cheisiadau gan gleientiaid am eu papurau.

Rydym yn dadansoddi ac yn ail-greu cofnodion cyfrifyddu’r cwmni ac yn ceisio dychwelyd arian y cleientiaid iddynt. Yn aml bydd arian ar goll o gyfrifon cleientiaid. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall cleientiaid nad ydynt wedi cael eu harian yn ôl wneud cais i yswirwyr y cwmni neu i’r Gronfa Iawndal.

Ffeiliau yn ôl rhifau

282,076 Nifer y ffeiliau a gasglwyd gennym drwy ymyriadau yn 2017/18

345,000 Nifer cyfartalog y ffeiliau rydym yn eu casglu o gwmnïau rydym yn eu cau bob blwyddyn, yn seiliedig ar y pedair blynedd diwethaf

2014/15 Y flwyddyn lle casglwyd y nifer fwyaf o ffeiliau o gwmnïau yn y pedair blynedd diwethaf – ychydig dros 390,000

400,000 Nifer y bocsys sy’n cael eu storio gennym

£1.3m Cost y flwyddyn i storio’r ffeiliau

82,000 Nifer y bocsys a gafodd eu dinistrio yn 2017/18, fel rhan o’r broses ddinistrio sydd ar waith

0 Nifer y dogfennau gwreiddiol sy’n cael eu dinistrio gennym – maent yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol

1800s Y cyfnod y mae’r ddogfen hynaf a ddarganfuwyd gennym yn 2017/18 yn perthyn iddo

34,000 Nifer yr ewyllysiau a gasglwyd gan gwmnïau a gaewyd gennym

1 Nifer y cluniau artiffisial a ddarganfuwyd yn ystod ymyriad yn 2017/18

Dal arian ar ymddiriedolaeth ac adennill costau

Os na allwn ddychwelyd arian cleientiaid i’w berchennog yn fuan ar ôl cau cwmni, rydym yn ei ddal mewn ymddiriedolaeth statudol. Rydym yn cymryd camau i chwilio am y perchennog, a bydd hynny’n dibynnu ar faint o wybodaeth sydd gennym am yr unigolyn a faint o arian sydd dan sylw. Yn achos symiau mawr o arian rydym wedi gwneud ymdrechion mawr i ddod o hyd i bobl, gan gynnwys cyflogi asiantaeth ymchwilio a mynd i gartref pobl i gyflwyno siec iddynt. Weithiau, mae’r bobl rydym yn chwilio amdanynt yn byw dramor, felly byddwn wedyn yn cyfarwyddo asiant ymchwilio tramor.

Rydym yn ymdrechu i adennill y costau ymyrryd, y taliadau a delir o’r Gronfa Iawndal a chostau llys ac ymchwilio mewnol oddi wrth y cwmni dan sylw. Daw ein harian gan y cwmnïau cyfreithiol a’r cyfreithwyr sy’n cael eu rheoleiddio gennym, felly mae adennill costau’n bwysig gan eu bod yn y pen draw’n cael eu trosglwyddo i’r cyhoedd sy’n prynu gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn olrhain pob trywydd posibl i adennill costau, gan gynnwys cymryd camau yn erbyn y cyfreithwyr neu’r rheolwyr sy’n destun ymyriad, yswirwyr y cwmni ac, mewn rhai amgylchiadau, cyn bartneriaid a chyfarwyddwyr y cwmni.

  • £6.9m a adenillwyd mewn costau ymyrryd a thaliadau o ddyfarniadau’r Gronfa Iawndal yn 2017/18.

      ↑ 25% yn fwy nag yn 2016/17, pan oedd yn £5.5m

Astudiaeth achos | Y grant mwyaf o’r Gronfa Iawndal

Talwyd ein grant mwyaf o’r Gronfa Iawndal yn 2017/18 ac roedd am £820,000. Caewyd cwmni gennym a oedd yn cynnig nifer o wasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys profiant a rheoli ystadau. Roeddem yn amau’r cwmni o anonestrwydd ac o beidio â chydymffurfio â’n Rheolau Cyfrifyddu. Yn y diwedd gwelwyd fod diffyg o 20% yn y cyfrif cleientiaid.

Roedd y cwmni’n delio â gweinyddiad ystâd, gydag un o’r partneriaid yn ysgutor. Roedd y cwmni wedi gwneud rhywfaint o waith ar y mater ond nid oedd wedi gorffen talu’r buddiolwyr yr ystâd erbyn adeg yr ymyriad. Nid oedd digon o arian yng nghyfrif cleientiaid y cwmni i dalu’r hyn oedd yn ddyledus i’r buddiolwyr, felly gwnaethom daliad o’r Gronfa Iawndal i’w digolledu o’r arian y dylai’r cwmni fod yn ei ddal.

Fel rhan o’r canlyniad y cytunwyd arno, gorchmynnodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr y dylai dau unigolyn a oedd yn gweithio yn y cwmni fod yn destun amodau gweithio ac y dylent dalu dirwyon o £30,000. Cafodd y trydydd partner ei ddiarddel.

Bygythiad cynyddol cynlluniau buddsoddi amheus

Mae twyllwyr wrthi’n barhaus yn meddwl am ffyrdd o ennyn ymddiriedaeth pobl a chymryd mantais arnynt. Maent yn cynnig cyfleoedd buddsoddi sy’n cynhyrchu elw sylweddol fel ffordd o gymryd arian pobl, er enghraifft o’u cronfa bensiwn.

Byddant weithiau’n ceisio defnyddio cwmnïau cyfreithiol fel canolwyr mewn ymdrech i wneud i gynlluniau buddsoddi amheus ymddangos yn gredadwy a diogel.

Er bod mwyafrif helaeth y cyfreithwyr yn ymddwyn mewn ffordd gwbl onest, mae nifer fach yn cymryd mantais ar y ffordd mae pobl yn ymddiried ynddynt neu maent yn fodlon mentro drwy helpu cynlluniau nad ydynt yn eu deall. Mae rhai pobl wedi colli eu holl gynilon. Mewn rhai achosion rydym yn delio â hwy, dywed pobl eu bod, gyda’i gilydd, wedi colli dros £100m.

Astudiaeth achos | Cynlluniau buddsoddi amheus

Buddsoddwyr wedi colli dros £14.7m

Ym mis Mai 2018, daethpwyd i ganlyniad y cytunwyd arno gyda dau bartner cwmni a fu’n gysylltiedig â chynlluniau buddsoddi amheus. Cafodd un partner ddirwy o £30,000 a chafodd y llall ei wahardd am dair blynedd. Hefyd, bu’n rhaid i’r ddau bartner gyfrannu £135,000 tuag at ein costau.

Bu’r cwmni’n rhan o gynlluniau datblygu eiddo cymhleth mewn gwledydd tramor a oedd y tu hwnt i’w harbenigedd, eu gwybodaeth a’u profiad. Buddsoddodd y cwmni arian cleientiaid mewn cynlluniau eiddo, a aeth i ddwylo’r derbynnydd yn fuan wedyn. Collodd y buddsoddwyr fwy na £12.5m. Bu’r cwmni hefyd yn gysylltiedig â thrafodion credyd carbon ar ran cleientiaid (rhagor isod).

Bu’r cwmni’n rhan o gynlluniau datblygu eiddo cymhleth mewn gwledydd tramor a oedd y tu hwnt i’w harbenigedd, eu gwybodaeth a’u profiad. Buddsoddodd y cwmni arian cleientiaid mewn cynlluniau eiddo, a aeth i ddwylo’r derbynnydd yn fuan wedyn. Collodd y buddsoddwyr fwy na £12.5m. Bu’r cwmni hefyd yn gysylltiedig â thrafodion credyd carbon ar ran cleientiaid (rhagor isod).

Mathau o gynlluniau

Mae enghreifftiau o gynlluniau buddsoddi amheus yn cynnwys y canlynol:

  • Prydlesu neu brynu ystafelloedd mewn gwestai, gofod parcio, unedau storio a’u tebyg a thalu costau trawsgludo cysylltiedig. Ni allwn weld pam y byddai rhywun sy’n dymuno buddsoddi mewn busnes gwesty yn dewis prynu ystafell sy’n cynnwys trawsgludo costus, na pham y byddai cynllun o’r fath yn cynhyrchu elw mawr.
  • Bancio tir. Dyma pan fydd pobl yn prynu llain fechan o dir ar ôl cael eu perswadio y bydd ei werth yn codi’n sylweddol os ceir caniatâd cynllunio i’w ddatblygu. Yn yr achosion rydym ni wedi eu gweld, ni roddwyd caniatâd ac nid yw byth yn debygol o gael ei roi.
  • Masnachu mewn diemwntau, gwinoedd da, graphene a metelau daear prin. Gellir prynu a gwerthu nwyddau fel diemwntau a gwinoedd ond nid oes ffordd arbennig o wneud elw mawr.
  • Cynlluniau credyd carbon. Mae credyd carbon yn dystysgrif neu drwydded sy’n rhoi hawl i allyrru un dunnell o garbon deuocsid. Gellir masnachu credydau carbon am arian; fodd bynnag, dywed llawer o fuddsoddwyr na allant werthu na masnachu eu credydau carbon ac felly nid oes modd iddynt wneud elw. Er nad yw pob cynllun masnachu credydau carbon yn sgâm, nid yw’n farchnad yn un synhwyrol nac ymarferol i unigolion geisio buddsoddi ynddi.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ac mae mathau newydd o gynlluniau buddsoddi’n ymddangos drwy’r amser. Mae ein rhybuddion yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Gwyngalchu arian yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfaoedd pan fydd enillion troseddu’n cael ei drawsnewid yn asedau cyfreithlon, fel tai neu gwmnïau neu arian sy’n ymddangos fel arian gonest – er enghraifft, arian mewn cyfrif banc.

Mewn rhai achosion mae arian yn cael ei wyngalchu i ariannu terfysgaeth.

Mae troseddwyr yn gwneud eu harian drwy droseddau fel twyll, masnachu mewn pobl neu gyffuriau a masnachu mewnol. Gall y gweithgareddau hyn gynhyrchu elw neu arian mawr. Mae gwyngalchu arian yn gwneud i’r enillion hyn ymddangos fel incwm gonest, y gall troseddwyr wedyn ei wario fel y mynnent, heb godi amheuon.

Pam mae hyn yn ein poeni?

Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn atyniadol i droseddwyr gan eu bod yn prosesu symiau mawr o arian, am fod pobl yn ymddiried ynddynt a’u bod yn gallu trosglwyddo arian mewn ffordd sy’n ymddangos yn onest. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol yn gweithio’n galed i adnabod achosion o wyngalchu arian, ond mae llawer o gwmnïau’n cael eu tynnu i mewn iddo’n ddiarwybod iddynt.

I ni mae gwyngalchu arian yn fater difrifol iawn. Rydym yn ymchwilio i amheuon ac yn gweithredu pan fydd angen. Ac rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r risgiau ymhlith cwmnïau cyfreithiol a’r bygythiadau i bob un ohonom yn sgil gwyngalchu arian.

Y mathau o wyngalchu arian rydym yn eu gweld

Un enghraifft rydym yn ei weld yn y sector cyfreithiol yw pan mae troseddwyr yn defnyddio enillion troseddu i brynu tai i fyw ynddynt neu i’w gwerthu. Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn gwneud gwaith trawsgludo’n rheolaidd. Mae nifer y trafodion a natur risg uchel y gwaith – sy’n delio â symiau mawr iawn o arian - yn golygu bod yn rhaid bod yn ofalus i sylwi nad oes dim gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd.

Enghraifft arall yw sefydlu cwmni neu ymddiriedolaethau ffug. Mae troseddwyr yn cuddio eu harian yn y cwmnïau hyn, sy’n edrych fel rhai dilys.

Codi ymwybyddiaeth

Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddwyd ein hasesiad risg ar gyfer y sector. Gall cwmnïau ddefnyddio’r asesiad risg, ynghyd ag asesiad risg cenedlaethol y llywodraeth o wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth sy’n cynnwys gwasanaethau cyfreithiol, a’u gwybodaeth eu hunain am eu gwasanaethau a’u cleientiaid, i werthuso a all eu busnes fod yn atyniadol i’r sawl a hoffai wyngalchu arian. Rydym yn diweddaru’r asesiad risg i’w gadw’n gyfoes wrth i risgiau a thueddiadau newydd ddod i’r amlwg.

Yn ystod yr un cyfnod, cyhoeddwyd rhybudd gennym i dynnu sylw cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr at arwyddion posibl o wyngalchu arian neu weithgarwch troseddol. Gall arwyddion o’r fath gynnwys trafodion cyfrinachol, sy’n cynnwys symiau mawr o arian a chleientiaid sy’n gweithredu drwy drydydd partïon. Dylai cwmnïau hysbysu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol os oes ganddynt amheuon o wyngalchu arian a’n hysbysu ni o unrhyw achosion lle mae’r rheoliadau gwyngalchu arian yn cael eu torri.

Cyhoeddwyd rhybudd arall gennym fis Awst 2018 i atgoffa cwmnïau cyfreithiol na ddylent fod yn defnyddio eu cyfrifon cleientiaid fel cyfleuster bancio. Nid yw hyn yn cael ei ganiatáu o dan ein rheolau – yr unig arian ddylai cwmnïau cyfreithiol ei ganiatáu yn eu cyfrif cleientiaid yw arian sy’n gysylltiedig â thrafodion neu wasanaethau sy’n rhan o’u gweithgareddau arferol sy’n cael eu rheoleiddio. Gall defnyddio’r cyfrifon cleientiaid fel cyfleuster bancio hwyluso gwyngalchu arian, ymhlith risgiau eraill.

Rheolau a rheoliadau newydd

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithredu rheolau newydd a geir yn y Bedwaredd Gyfarwyddeb Gwyngalchu Arian. Nod y gyfarwyddeb yw atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth drwy gryfhau mesurau diogelu’r UE. Yn y DU, daeth hyn yn ddeddfwriaeth yn sgil Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017.

Fel rhan o’r rheoliadau newydd, rydym wedi casglu rhagor o wybodaeth am y cwmnïau, y cyfreithwyr ac am unigolion eraill sy’n cael eu rheoleiddio gennym. Gwyddom bellach fod tua saith o bob 10 cwmni’n cynnig gwasanaethau sy’n dod o dan y ddeddfwriaeth, fel eiddo a gwasanaethau asiantaethau eiddo a’u cysylltiad ag ymddiriedolaethau a gwasanaethau cwmnïau. Rhaid i’r bobl sydd â rheolaeth sylweddol dros y ffordd mae cwmni’n cael ei redeg (rheolwyr a pherchnogion llesiannol cwmnïau, er enghraifft) gael ein cymeradwyaeth ni i ddal swyddi o’r fath mewn cwmni sy’n cynnig gwasanaethau sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gesglir gennym a’r ffactorau risg, gan gynnwys y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau a sut maent yn eu darparu, rydym yn gallu targedu ein gwaith i atal gwyngalchu arian. Rydym hefyd yn gallu ystyried pa mor debygol yw cwmni o gael ei ddefnyddio i wyngalchu arian ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i atal ac i ganfod achosion o wyngalchu arian.

Atal gwyngalchu arian

Rydym wedi ymweld â 50 o gwmnïau i ddeall yn well pa systemau a phrosesau sydd ganddynt ar waith i leihau’r risg o wyngalchu arian fel rhan o adolygiad thematig a gyhoeddwyd fis Mawrth 2018.

Gwelsom fod y rhan fwyaf o gwmnïau wedi cymryd camau priodol i atal gwyngalchu arian. Gwelsom hefyd fod y cwmnïau’n mynd y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol mewn rhai meysydd, fel hyfforddiant a chydymffurfiad, a’u bod ar y cyfan yn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod eu cleientiaid yn briodol. Fodd bynnag, nodwyd hefyd nad oedd rhai cwmnïau wedi gwneud cynnydd o ran cael trefniadau asesu risg ar gyfer y cwmni cyfan. Roedd gan nifer fach o gwmnïau lawer o waith i’w wneud mewn prosesau ac arferion gweithio. Os oedd angen hynny, cafodd y cwmnïau hyn eu hatgyfeirio er mwyn cymryd camau disgyblu.

Gwyddom fod creu a rheoli ymddiriedolaethau a chwmnïau yn faes risg uchel. Yn 2018, cychwynnwyd ar ymchwil ychwanegol i ddysgu mwy am sut roedd cwmnïau cyfreithiol yn gweithredu’r rheolau newydd, Cynhaliwyd cyfweliadau â rheolwyr ac enillwyr ffioedd, ac adolygu ffeiliau. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i wella ein dealltwriaeth o risg yn y sector, i amlygu arferion da ac i fynegi pryderon yn y sector yn gyffredinol.

Beth yw ymarfer da?

  • Gwneud y siŵr bod cronfeydd cleientiaid yn dod o ffynhonnell gyfreithiol
  • Gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy ar gleientiaid a phartïon eraill sy’n rhan o drafodiad
  • Hyfforddiant priodol i staff
  • Bod yn ymwybodol o risgiau a chael polisïau, gweithdrefnau a phrosesau ar waith i leihau risg
  • Cadw cofnodion

Ymweliadau gan y Tasglu Gweithredu Ariannol (FATF) a’r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Ariannol ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS)

Yn 2018, bu’r Tasglu Gweithredu Ariannol (FATF) yn ymweld â’r DU fel rhan o’i werthusiad i weld beth mae’r DU yn ei wneud i atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth. Rhoddwyd tystiolaeth i’r FATF, sefydliad byd-eang sy’n pennu’r safonau rhyngwladol ar ffyrdd effeithiol o atal gwyngalchu arian, ac ar y gwaith rydym yn ei wneud.

Gan fod yr ymweliad yn rhan o asesiad ehangach o ddulliau’r DU o atal gwyngalchu arian, ni chawsom adborth uniongyrchol gan y FATF, ond roedd ei adroddiad cyffredinol, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2018, yn bositif am y camau y mae’r DU a’r sector cyfreithiol yn eu cymryd.

Cawsom hefyd ein hymweliad cyntaf gan ein goruchwyliwr ar gyfer gwyngalchu arian, Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Ariannol ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS). Mae’r OPBAS yn sefydliad newydd, wedi’i leoli yn y DU i oruchwylio gwaith atal gwyngalchu arian 22 o gyrff proffesiynol, sy’n ein cynnwys ni. Mae’n adolygu ansawdd ein gwaith ni a sefydliadau eraill. Ei nod yw gwneud yn siŵr bod y safonau cyson yn cael eu gweithredu gan yr holl sefydliadau.

Cynhaliodd yr OPBAS asesiad trylwyr o’n gwaith yn ystod Mehefin 2018. Bu’n adolygu mwy na 1,000 o dudalennau o ddogfennau a bu’n cynnal dros 32 awr o gyfweliadau. Rydym yn gweithio â’r OPBAS i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â gwyngalchu arian.

Astudiaeth achos | Cyfreithiwr yn galluogi gwyngalchu arian

Y llynedd, cafodd cyfreithiwr ei ddiarddel a cholli ei drwydded gweithio ar ôl eu cael yn euog o droseddau gwyngalchu arian. Roedd y cyfreithiwr eisoes wedi’i ddedfrydu i naw mis o garchar.

Roedd y cyfreithiwr wedi bod yn gwneud gwaith trawsgludo, ond nid oeddent wedi gwneud gwiriadau priodol i’r cleientiaid. Nid oeddent wedi cael prawf digonol o hunaniaeth eu cleientiaid mewn rhai achosion. Nid oedd dim cyfarwyddiadau gan, na thystiolaeth o ohebiaeth gan y bobl y tybiwyd oedd yn prynu’r eiddo. Dylai hyn fod wedi bod yn achos pryder, a dylai’r cyfreithiwr bod wedi gwneud adroddiad gweithgarwch amheus ond ni wnaeth hynny. Yn y diwedd, roedd y cyfreithiwr wedi helpu i wyngalchu £400,000 ar ran y client.

Roedd y cyfreithiwr hefyd wedi defnyddio cyfrif cleientiaid fel cyfleuster bancio a gwnaeth fenthyciad personol, heb sicrwydd, o £60,000 i gleient.

Yn ogystal â chael ei ddiarddel, cafodd y cyn gyfreithiwr ei orchymyn i dalu £6,000 tuag at ein costau.

Ffeithiau cyflym | Atal gwyngalchu arian

Mae £24bn yn cael ei wyngalchu yn y DU bob blwyddyn

Ymwelwyd â 50 o gwmnïau wrth gynnal ymchwil thematig

67% o gwmnïau’n dod o fewn cwmpas y rheolau newydd ar wyngalchu arian

Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn atyniadol i droseddwyr gan eu bod yn prosesu symiau mawr o arian a gallant wneud i drafodion ymddangos fel rhai cyfreithlon

235 Nifer yr adroddiadau a gawsom yn ymwneud ag atal gwyngalchu arian yn 2017/18

Mae 2018/19 yn nodi ail flwyddyn ein Strategaeth Gorfforaethol am 2017—2020. Mae’n rhoi pwyslais ar safonau uchel i gyfreithwyr a hyrwyddo dewis yn y farchnad i’r cyhoedd. Mae’r bennod hon yn fersiwn gryno o’n Cynllun Busnes 2018/19.

Amcan un

Byddwn yn pennu ac yn gweithredu safonau proffesiynol yn gyson i’r unigolion a’r cwmnïau hynny rydym yn eu rheoleiddio i wneud yn siŵr eu bod yn briodol i wynebu heriau heddiw a’r dyfodol.

Eiriolaeth droseddol

Byddwn yn parhau i adolygu ansawdd eiriolaeth ac ymarfer troseddol i wneud yn siŵr bod gan y cyhoedd, o bob cymuned, hyder yn y gwasanaethau hyn. Fel rhan o hyn, byddwn yn ystyried a oes angen gwneud mwy i sicrhau ansawdd eiriolaeth droseddol.

Rydym hefyd eisiau gwneud rhagor i helpu pobl ifanc agored i niwed yn y system cyfiawnder troseddol i ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnynt. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio ag elusennau, yr heddlu, a phobl ifanc i hyrwyddo ein gwybodaeth hygyrch newydd ar gyfer pobl ifanc at eu defnydd pan fyddant yn profi anawsterau.

Gwneud polisïau ar sail tystiolaeth

I ddeall pa wahaniaeth mae’r newid yn ein dulliau o weithredu’r rheoliadau yn ei wneud, rydym yn bwriadu cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a dadansoddiadau drwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i ddeall beth yw goblygiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i’r cyhoedd ac i’r proffesiwn.

Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen o brosiectau thematig sy’n rhoi sylw i risgiau cyfoes fel gwyngalchu arian, fel y gallwn rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd. Byddwn yn parhau i edrych ar faterion sy’n codi yn y sector cyfreithiol ac yn cyhoeddi ein Rhagolwg Risgiau a deunyddiau ategol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn 2018/19 byddwn yn adeiladu ar ein cynnydd hyd yma i wneud yn siŵr bod EDI yn elfen ganolog o’n gwaith gweithredol, polisi ac allgymorth. Byddwn yn monitro goblygiadau posibl EDI ac effeithiau ein gwaith diwygio rheoliadau a’r SQE newydd. Byddwn yn hybu amrywiaeth yn y proffesiwn drwy weithio â grwpiau allweddol yn y sector. Byddwn hefyd yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau Pride yn Llundain, Birmingham a Chaerdydd, yn rhannu arferion gorau a chanllawiau â’r proffesiwn, fel ein prosiect llesiant, ac ymgyrchoedd ar-lein.

Byddwn hefyd yn adolygu ac yn diweddaru ein holiadur casglu data amrywiaeth cyn casglu’r wybodaeth y tro nesaf yn 2019, a byddwn yn ei rhannu â’r proffesiwn.

Edrych i’r Dyfodol

Fel rhan o’r rhaglen Edrych i’r Dyfodol, daw ein Safonau a Rheoliadau SRA newydd i rym yn 2019. Bydd y rhain yn cymryd lle ein Llawlyfr presennol, a fydd yn cael gwared ar reoliadau diangen a beichus gan ganolbwyntio ar safonau proffesiynol uchel. Byddwn hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ategol i wneud yn siŵr bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethu cyfreithiol yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan gyfreithwyr a beth mae ein safonau’n ei olygu.

Bydd ein rheolau newydd yn galluogi cyfreithwyr i weithio’n llawrydd – yn yr un modd â llawer o weithwyr proffesiynol eraill – a chynnig ystod o wasanaethau cyfreithiol wrth weithio mewn busnesau nad ydym ni na rheoleiddwyr cyfreithiol eraill yn eu rheoleiddio.

Bydd hyn yn caniatáu i fwy o bobl i fanteisio ar arbenigedd o ansawdd uchel cyfreithwyr heb gost ychwanegol rheoleiddio sydd fel arfer yn cael ei throsglwyddo i’r defnyddiwr.

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â phawb sy’n gysylltiedig â hyfforddi’r proffesiwn yn y dyfodol, gan gynnwys academyddion, darparwyr a chyfreithwyr o bob rhan o’r proffesiwn, wrth i ni ddatblygu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) ar gyfer ei gyflwyno yn hydref 2021.

I hwyluso ei gyflwyno, byddwn yn parhau i reoli’r system sicrhau ansawdd ar gyfer y cymwysterau rydym yn eu rheoleiddio ac yn rhoi trefniadau ar waith i drosglwyddo i’r SQE. Bydd hyn yn ennyn hyder darparwyr a darpar gyfreithwyr yn yr hyn a fydd yn asesiad trylwyr. Byddwn yn hyrwyddo ein cynllun Facebook, Career in Law, sydd â’r nod o helpu pobl ifanc o bob cefndir sy’n ystyried y gyfraith fel gyrfa i ddewis y llwybr sydd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion.

Amcan dau

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein gofynion rheoleiddio yn gymesur, gan roi hyblygrwydd i gyfreithwyr a chwmnïau i arloesi ac i ddiwallu anghenion y cyhoedd a busnesau’n well, a chan gynnal mesurau priodol i ddiogelu’r cyhoedd.

Gwaith disgyblu

Ensuring public protection means taking action when things go wrong. We are keeping our disciplinary processes under review so that everyone, from every community, has confidence in our work to set and enforce standards. We will also publish more data about our disciplinary work, adding to the information in our Annual Review and other publications.

Diogelu pobl sy’n prynu gwasanaethau cyfreithiol

Y llynedd buom yn ymgynghori ar newidiadau i’r mesurau diogelu allweddol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol (yswiriant indemniad proffesiynol a’r Gronfa Iawndal). Rydym am wneud yn siŵr eu bod yn ateb y gofynion. Mae hyn yn golygu y dylent gynnig mesurau diogelu priodol i’r rhai yn yr angen mwyaf pan fydd pethau’n mynd o chwith, heb osod baich costau uchel ar gwmnïau, a fydd, yn eu tro, yn cynyddu’r gost i ddefnyddwyr. Byddwn yn adolygu’r holl ymatebion ac yn penderfynu ar ein camau nesaf.

Ymateb i risgiau

Fel rhan o’r gwaith o ddiweddaru pawb ar sut i gynnal y safonau yr ydym yn eu disgwyl, byddwn yn parhau i gyhoeddi rhybuddion a gwybodaeth berthnasol ar risgiau yn y sector cyfreithiol.

SRA Innovate

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r defnydd o’n gwasanaeth pwrpasol ar y we, SRA Innovate, ac i gyhoeddi gwybodaeth am yr hawlildiadau (eithriadau i’n rheolau) yr ydym yn eu caniatáu i helpu cwmnïau i edrych ar yr hyn a all fod yn bosibl. Rydym am roi’r rhyddid i gwmnïau cyfreithiol i roi cynnig ar ffyrdd newydd o wneud busnes, gan gynnig gwasanaethau a fydd yn helpu pobl, a hynny am gost y gallant ei fforddio. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn annog arloesi positif, ond hefyd yn rheoli unrhyw risgiau.

Rydym yn croesawu Cronfa Arloesi y Rheoleiddwyr newydd y llywodraeth, a sefydlwyd i helpu i wneud yn siŵr bod rheoleiddwyr yn dal i fyny â datblygiadau technolegol. Gwnaethpwyd cais llwyddiannus mewn partneriaeth â Nesta, sefydliad annibynnol a sefydlwyd i hybu ac i gefnogi arloesi. Sicrhawyd bron i £700,000 i helpu mentrau arloesol sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i drawsnewid y farchnad gwasanaethau cyfreithiol i fusnesau bach a defnyddwyr. Byddwn yn gweithio â Nesta yn y flwyddyn i ddod wrth i ni ddatblygu gwobr her, lle gall cyfranogwyr gyflwyno eu syniadau arloesol i gynnig am arian i helpu i wireddu eu syniad.

Amcan tri

Byddwn yn cynyddu argaeledd gwybodaeth berthnasol ac amserol i helpu pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol.

Tryloywder a mwy o ddewis i’r cyhoedd

Daeth ein Rheolau Tryloywder SRA newydd yn weithredol ym mis Rhagfyr 2018 ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol. O dan y rheolau hyn, bydd yn rhaid i gwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gennym gyhoeddi ystod o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am brisiau, os ydynt yn cynnig gwasanaethau mewn meysydd penodedig i helpu’r cyhoedd a busnesau i ddewis gwasanaeth sy’n addas ar eu cyfer, yn ogystal â gwneud gwasanaethau cyfreithiol yn fwy agored a dealladwy.

Bydd ein pwyslais ar helpu cwmnïau wrth iddynt gyhoeddi’r wybodaeth ehangach hon am yr hyn maent yn ei wneud a faint mae eu gwasanaethau’n gostio. Byddwn yn monitro rheolau tryloywder a byddwn yn gobeithio cynnal gwerthusiad cychwynnol mewn tua 12 mis. Rydym am weld a fydd y newidiadau hyn, yn ôl y disgwyl, yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu darparwyr gwasanaethau cyfreithiol ac i ddewis yr un sy’n diwallu eu hanghenion orau.

Bathodyn digidol

Mae ein bathodyn digidol newydd yn weithredol ers Rhagfyr 2018. Mae’n gadael i bobl wybod am y mesurau diogelu sy’n dod yn sgil defnyddio cwmni sy’n cael ei reoleiddio. Mae’r bathodyn wedi’i ymgorffori yng ngwefannau cwmnïau ac mae ar gael yn Gymraeg. Byddwn yn hyrwyddo argaeledd yr wybodaeth bwysig hon ymhlith y cyhoedd, busnesau a grwpiau defnyddwyr. Byddwn yn ei werthuso fel rhan o’n hadolygiad o’n rheolau tryloywder ymhen 12 mis. Mi fydd yn orfodol, fel ein Safonau a’n Rheoliadau.

Legal Choices

Byddwn yn parhau i ddatblygu Legal Choices, y wefan ar gyfer y cyhoedd a’n presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yr ydym yn ei rheoli ar ran wyth o reoleiddwyr cyfreithiol. Ar ôl sawl blwyddyn o ddatblygu Legal Choices, rydym wedi cychwyn ar gynllun uchelgeisiol i lansio cynnyrch rhyngweithiol newydd, sydd wedi’u dylunio ar gyfer y cyhoedd, i helpu pobl i benderfynu a oes angen gwasanaeth cyfreithiol arnynt ac i ganfod eu ffordd drwy’r byd cyfreithiol i ddod o hyd i’r gwasanaeth sydd orau iddynt.

Gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a chan weithio â phartneriaid a’n Panel Cynghori Legal Choices, sy’n cynnwys grwpiau defnyddwyr ac arbenigol, byddwn yn hyrwyddo’r wefan ar ei newydd wedd yn fwy eang.

Y gofrestr ddigidol

Fel rhan o’n gwaith i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol, rydym yn gweithio i gyflwyno cofrestr ddigidol newydd. Mae’n rhan allweddol o’n rhaglen Moderneiddio TG. Byddwn yn gweithio’n glos â’r cyhoedd i wneud y siŵr bod y gofrestr yn hwylus i ddefnyddwyr ac yn hygyrch. Bydd yn helpu pobl i gadarnhau statws cyfreithiwr neu gwmni os ydynt yn ystyried eu defnyddio, a dylai roi hwb i hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.

Amcan pedwar

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein trefniadau rheoleiddio’n gweithio mor effeithiol â phosibl i’r cyhoedd, busnesau, cyfreithwyr a chwmnïau yng nghyd-destun datblygiadau cyfansoddiadol yn y DU ac unrhyw berthynas newydd â’r UE.

Trefniadau capio ffioedd

Mewn ymateb i newidiadau’r llywodraeth byddwn, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn datblygu trefniadau rheoliadol i gyflwyno cap ffioedd newydd ar gyfreithwyr a chwmnïau awdurdodedig sy’n ymgymryd â gwaith rheoli hawliadau sy’n gysylltiedig â chynnyrch a gwasanaethau ariannol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl sydd am gyflwyno hawliadau am wasanaethau ariannol sydd wedi’u cam-werthu, er enghraifft, yn cael gwasanaeth da ac iawndal priodol.

Cynhadledd Ryngwladol y Rheoleiddwyr Cyfreithiol

Mae gwaith Cynhadledd Ryngwladol y Rheoleiddwyr Cyfreithiol (ICLR) yn hybu cyd-ddealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig mewn rheoleiddio gan annog cydweithredu. Rydym yn rhedeg y wefan ICLR.net a bydd yr aelodaeth yn dal i dyfu eleni yn ogystal â chyhoeddi e-fwletin misol, gan roi sylw i arferion da a gwybodaeth o bob rhan o’r byd.

Ymadael â’r UE

Rydym yn monitro sut y bydd ymadawiad y DU o’r UE yn newid ffordd cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol o weithio. Ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd safonau uchel yn cael eu cynnal wrth i’r maes cyfreithiol newid.

Gwyngalchu arian

Byddwn yn cymryd gwyngalchu arian o ddifrif drwy oruchwylio cwmnïau cyfreithiol yn ofalus, yn ogystal â helpu cwmnïau a chyfreithwyr i gyflawni eu hymrwymiadau i atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth. Byddwn yn gwneud hyn drwy adeiladu ar ein gwybodaeth gyfredol am weithdrefnau a phrosesau cwmnïau, cyhoeddi adolygiadau, darparu canllawiau, cynnal asesiadau risg o gwmnïau a chymryd camau pendant os na fyddant yn cyrraedd y safonau a osodwyd.

Cymru

Byddwn yn parhau i weithio â Llywodraeth Cymru ac eraill i wneud yn siŵr bod ein rheoliadau yn diwallu anghenion pobl Cymru. Fel rhan o ddatblygiad y SQE, a’n gwaith i ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, byddwn yn edrych ar ddarparu’r SQE yn Gymraeg.

Amcan pump

Byddwn yn gweithio’n well gyda’n gilydd, ac ag eraill, i wella ein heffeithiolrwydd, ein gallu i ymateb a sut yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio.

Adroddiadau blynyddol

Fel yr ydym wedi bod yn ei wneud am y tair blynedd diwethaf, byddwn yn adrodd ar ein gwaith drwy Adroddiad Blynyddol diddorol. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y gwaith rydym yn ei wneud fel sefydliad, a’n perfformiad yn erbyn ein cynlluniau a’n hamcanion, yn dryloyw. Byddwn yn defnyddio Cymraeg a Saesneg clir a fersiynau hawdd i’w darllen i wneud yr adolygiad mor hygyrch â phosibl i’r proffesiwn ac i’r cyhoedd. Bydd ein hadroddiad corfforaethol hefyd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Grŵp Cymdeithas y Cyfreithwyr ac adroddiad blynyddol newydd ar ein gwaith disgyblu.

Datblygu ein gweithlu

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein strategaethau cyflog, cydnabod, gwobrwyo a hyfforddi i gydnabod a datblygu ymddygiad priodol ymhlith ein staff. Byddwn hefyd yn parhau i hyrwyddo ein gwerthoedd sy’n sail i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.

Ymgysylltiad wyneb yn wyneb ac ar-lein

Bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau corfforaethol hygyrch sy’n parhau yn ein helpu i ymgysylltu â chymaint o bobl, ac â chymaint o safbwyntiau, â phosibl. Bydd hyn yn ein helpu i ffurfio’r hyn rydym yn ei wneud ac i gynorthwyo pawb rydym yn gweithio â hwy. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys ein Cynhadledd Flynyddol ar Gydymffurfio, cynhadledd SQE flynyddol a chyfres o weithdai a seminarau. Mae gennym bresenoldeb cryf hefyd yn LegalEx, cynadleddau blynyddol Cyngor ar Bopeth ac Advice UK, presenoldeb ymylol ar faterion perthnasol yng nghynadleddau’r pleidiau gwleidyddol a chyfres o ddigwyddiadau SRA Innovate.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi cynyddu ein presenoldeb ar-lein yn sylweddol. Byddwn yn adeiladu ar hyn ar yr holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr bod pobl yn gallu siarad â ni a dod o hyd i wybodaeth yn y ffordd sydd fwyaf addas iddynt.

Gweithio cynhwysol

Fel rhan o brif ffrydio ein gwaith EDI yn fewnol, byddwn yn ymgorffori ein gwerthoedd ymhellach mewn cod staff newydd ac i annog gweithle lle mae croeso i bawb. Mae EDI wrth galon yr hyn ydym yn ei wneud ac mae’n ein galluogi i weithio mewn ffordd gydweithredol ac i gyfathrebu’n briodol â’n gilydd. Byddwn yn parhau i ddatblygu a chyflwyno trefniadau cyfathrebu priodol â staff drwy ystod o gyfryngau a chynyddu buddiannau ein TG newydd i gyflawni hyn. Rydym yn parhau i roi pwyslais ar ddatblygu ac ehangu ein rhwydweithiau cymorth staff ac i adeiladu ar ein grŵp cynghreiriaid i weithio ar draws pob rhwydwaith.

Byddwn yn parhau hefyd â’n gwaith â’r grwpiau amrywiol niferus yn y proffesiwn sy’n cynrychioli menywod, cyfreithwyr anabl, grwpiau LGBTQ+, grwpiau ffydd, croenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Byddwn yn annog symudedd cymdeithasol yn y proffesiwn ac yn cefnogi cynlluniau i annog cynnydd a mynediad i ac o fewn y proffesiwn, fel y bydd y cyhoedd yn gweld eu cymunedau’n cael eu hadlewyrchu yn y sector cyfreithiol.

Diogelwch gwybodaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

Byddwn yn parhau i adolygu, gwella ac aeddfedu ein gweithgarwch diogelwch gwybodaeth ac amgylcheddol sefydliadol. Rydym yn gweithio i weithredu System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth sy’n gydnaws ag ISO 27001, a fydd yn gwella ein ffordd o reoli cofnodion, a byddwn yn parhau i ddatblygu ein gweithgarwch diogelu data. Byddwn yn adolygu ein prosesau a’n gweithdrefnau rheolaeth amgylcheddol i helpu i ail achredu’r sefydliad ag ISO 14001.

Moderneiddio TG

Rydym yn parhau i weithio i gyflwyno ein rhaglen newid a gwella, yn enwedig ein gwaith Moderneiddio TG. Gan ddefnyddio rhaglen sy’n cyrraedd safonau’r diwydiant a thechnegau rheoli prosiectau, rydym yn:

  • gwella ein technoleg graidd
  • hwyluso ein hamcanion rheoleiddio ehangach
  • gwneud yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n holl gwsmeriaid
  • gweithio â’n cwsmeriaid i gael ein dyluniad yn gywir

Siarter ymgysylltu â’r cyhoedd

Ar ôl cynnal gweithdai ar ein siarter drafft ar ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2018, byddwn yn ei chyhoeddi yn 2019. Bydd yn dangos yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl gennym a sut y byddwn yn cynnwys pobl i ddatblygu’r hyn rydym yn ei wneud.

Moderneiddio TG

O dan ein rhaglen Moderneiddio TG, rydym yn buddsoddi yn ein holl systemau TG i wneud yn siŵr eu bod yn gyfoes, yn canolbwyntio ar y defnyddiwr a’u bod yn hawdd i’w defnyddio, a’u bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid. I wneud hyn, rydym wedi a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n eang â’r cyhoedd, y proffesiwn, grwpiau eiriolaeth a’n staff ein hunain i ddeall pa fath o wasanaeth TG sydd ei angen arnynt.

Byddwn yn parhau i wneud addasiadau rhesymol i unrhyw gwsmeriaid sy’n teimlo bod ein systemau’n anodd i’w defnyddio.

Gwneud yn siŵr bod TG yn gweithio

Er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein systemau newydd yn addas i bawb, rydym wedi siarad â chwmnïau o bob maint, wedi cynnal grwpiau ffocws, gwneud cyflwyniadau ar y systemau newydd ac wedi cyfweld cyfreithwyr i holi beth maent yn credu fydd ei angen arnynt.

  • • 1,000+ o weithwyr cyfreithiol proffesiynol wedi’u cynnwys yn rheolaidd mewn arolygon
  • mae 70 o gwmnïau wedi cymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr
  • 96 o brofwyr wedi’u recriwtio o’r proffesiwn
    • "Diolch i chi am ein cynnwys yn gynnar"
    • "Rydym yn hoffi’r hyblygrwydd a ddaw yn sgil y dull newydd"
    • "Mae’n eithaf cyffrous a dweud y gwir a bydd yn arbed llawer o amser i ni"

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen TG newydd, lle mae gennym £34.5m i’w wario dros gyfnod o dair blynedd.

Beth nesaf?

Ar ôl cyflwyno ein gweithle digidol newydd, fel y bydd gan staff ddefnydd o feddalwedd cyfoes, mewnrwyd newydd a phorth adnabod, byddwn yn dechrau cyflwyno ein systemau newydd i’r proffesiwn a’r cyhoedd cyn gynted ag y byddwn yn hyderus y byddant yn gweithio’n iawn. Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb i adborth defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod ein systemau newydd yn diwallu anghenion ein defnyddwyr yn well – y cyhoedd a’r proffesiwn. Ein blaenoriaeth yw gwneud pethau’n iawn i’r bobl sy’n cyfrif. Mae gennym ragor i’w wneud ac rydym wedi neilltuo amser ac arian i sicrhau ein bod yn cyflawni nodau’r rhaglen yn effeithiol.

Cwynion am ein gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb, i drin pawb yn deg ac i weithredu’n dryloyw. Rydym yn cydnabod ein bod, weithiau, yn gwneud camgymeriadau a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau sy’n ymwneud â’n gwasanaeth yn ddiymdroi.

Mae cwynion corfforaethol yn ymwneud â’n gwasanaeth a gallant fod am bethau fel yr amser rydym yn ei gymryd i ddelio ag achos, nid ydym wedi egluro pethau’n ddigon clir, neu nid ydym wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

Mae'n bwysig ein bod yn unioni pethau sydd wedi mynd o chwith, a rhaid i ni ddysgu drwy adborth ein cwsmeriaid.

Galwadau i’n Canolfan Gyswllt

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn llunio strategaeth gofal cwsmeriaid newydd, sy’n rhoi pwyslais ar brofiad ein cwsmeriaid, safonau ansawdd uchel a gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf. O ganlyniad, rydym wedi gweld hyd cyfartalog ein galwadau’n cynyddu wrth i ni ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr, sy’n cynnwys mwy o wybodaeth ac sy’n rhoi mwy o bwyslais ar y cwsmer. Mae nifer y galwadau atom sy’n cael eu hailadrodd wedi lleihau ac mae nifer y galwadau i gwyno am ein Canolfan Gyswllt hefyd wedi lleihau.

Yn ystod mis Hydref, y mis pan fyddwn yn adnewyddu tystysgrifau gweithio mwy na 140,000 o gyfreithwyr, cafodd ein Canolfan Gyswllt bron i 30,000 o alwadau ond bron dim cwynion. Mae hyn yn dangos bod galwyr yn cael gwasanaeth sydd wedi gwella’n sylweddol a gwell gwybodaeth ar ein gwefan.

Yn 2018, enillodd Pennaeth y Ganolfan Gyswllt a Chymorth i Fusnesau, Sarah Wilson, wobr Rheolwr Gwella Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cenedlaethol y DU 2018 am weddnewid sut mae’r tîm yn gweithio ac am y gwasanaeth a ddarperir ganddo.

Safonau gofal i gwsmeriaid

Mae rhaglenni hyfforddi a gyflwynwyd yn 2017/18 i godi proffil gofal da i gwsmeriaid wedi cael effaith bositif ar ein gwaith. Ond, mi wyddom fod rhagor y gallwn ei wneud i wella sut yr ydym yn egluro ein penderfyniadau, dangos yn gliriach pa bryd y byddwn ac na fyddwn yn gweithredu ac yn cadw mewn cysylltiad â chyfreithwyr yn ystod ein hymchwiliadau.

O wanwyn 2019 ymlaen, byddwn yn datblygu ein safonau gofal i gwsmeriaid ymhellach yn unol â’n gwerthoedd a byddwn yn gweithio i’w gwreiddio ym mhob un o’n timau. Byddwn hefyd yn parhau i wella ieithwedd ein gohebiaeth a’n gwaith ysgrifenedig arall. Mae gan ein cynllun goslef llais, Writing the SRA Way, rôl allweddol yn hyn – gan wneud yn siŵr bod ein holl gwsmeriaid yn cael gwybodaeth eglur, sydd wedi’i chyflwyno mewn ffordd broffesiynol a sensitif.

Gweithio ag Ombwdsmon y Gyfraith

Rydym yn parhau i weithio ag Ombwdsmon y Gyfraith (LeO) ac yn atgyfeirio cwynion a gawn am wasanaeth cyffredinol cyfreithwyr at ei swyddfa. Mae’r LeO hefyd yn cael adroddiadau na all ymchwilio iddynt am eu bod yn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol cyfreithwyr – bydd yn atgyfeirio’r rhain atom ni. Byddwn yn parhau i weithio â’r LeO ar y materion hyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio â’r LeO hefyd i gynhyrchu taflen sy’n dweud wrth ddefnyddwyr pa sefydliad sydd yn sefyllfa orau i ddelio â’u cwynion neu eu pryderon am gyfreithwyr. Mae’r daflen ar gael mewn canolfannau Cyngor ar Bopeth lleol, gwasanaethau Age UK ac elusennau eraill. Mae’r daflen ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac rydym yn cael ceisiadau am gopïau gan y cyhoedd. Byddwn yn parhau i wella’r wybodaeth rydym yn ei darparu ynglŷn â phwy ydym mi a’r hyn rydym yn ei wneud, fel y bydd pobl yn gwybod â pha sefydliad i gysylltu os oes ganddynt broblem â chyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol.

  1. Noder, mae’r ffigurau yn y bennod hon yn cael eu harchwilio bob mis Ebrill ac mae’n bosibl y bydd amrywiadau bychain yn ein cyfrifon terfynol.