Cynnal Safonau Proffesiynol 2019/20 – Monitro Amrywiaeth, Adroddiad Ategol

Cyflwyniad

Fe wnaethom gyhoeddi canfyddiadau ar nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi yn ein hadroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol 2018/19, ynghyd ag adroddiad ategol manwl, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ers Adolygiad Achos Cymharol Annibynnol 2014 ar broffil cyfreithwyr yn ein gwaith gorfodi, a gynhaliwyd gan yr Athro Gus John. Mae adolygu ein systemau a’n prosesau i sicrhau eu bod yn rhydd o ragfarn ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd bod gennym ni ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, ond rydyn ni’n ei wneud hefyd gan mai dyma’r peth iawn i’w wneud. 

Dyma’r ail flwyddyn i ni gyhoeddi’r wybodaeth hon, a byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar y canfyddiadau hyn. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi, ein Safonau a’n Rheoliadau a gyflwynwyd yn 2019.

Rydyn ni wedi defnyddio’r un dull gweithredu ag yn 2018/19 (nodir manylion am y dull hwn yn yr adran nesaf, cwmpas ein dadansoddiad). Mae hyn yn ein galluogi i ddechrau llunio cymariaethau ac adnabod tueddiadau o un flwyddyn i'r llall. Yn yr adran canfyddiadau allweddol, rydyn ni wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng y data yn 2018/19 a 2019/20. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar gyfyngiadau yn y data sydd gennym a’r anawsterau o ran gwneud unrhyw ddadansoddiad ystyrlon o’r niferoedd bach iawn yng nghyfnodau diweddarach y broses orfodi. 

Yn yr adran gwaith pellach ac ymchwil, rydyn ni wedi nodi pa gamau rydyn ni’n eu cymryd i ddeall yn well pam mae rhai grwpiau’n cael eu gorgynrychioli yn ein prosesau gorfodi. Rydyn ni hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith rydyn ni’n ei wneud i sicrhau nad oes rhagfarn yn ein prosesau, fel y nodwyd yn adroddiad 2018/19.

Rydyn ni’n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli ers tro mewn pryderon sy’n cael eu codi gyda ni a’r rheini rydyn ni’n yn ymchwilio iddynt, ac mae hyn adlewyrchu’r patrwm sydd i’w weld ar draws llawer o broffesiynau a rheoleiddwyr.

Rydyn ni wedi comisiynu sawl adolygiad allanol i edrych ar y materion hyn, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2006 cyn i ni gael ein sefydlu. Ni ddaeth yr un adolygiad o hyd i unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu, ond roedd pob adolygiad yn tynnu sylw at orgynrychiolaeth o grwpiau penodol ac yn cynnig argymhellion i ni ac eraill, sydd wedi helpu i lywio ein dull gorfodi.

Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran amrywiaeth ar ein gwefan.

Open all

Fe wnaethom edrych ar y gynrychiolaeth o ryw, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle’r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar y camau canlynol o'n proses orfodi ar gyfer y flwyddyn 2019/20:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad
  • cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a’r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4 – yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a’r mathau o sancsiynau a osodwyd gan y SDT (llwybr B).

Mae’r diagram isod yn dangos y camau a’r llwybrau hyn. Maent yn cyd-fynd â’r camau allweddol wrth ystyried diagram pryder yn yr adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol.

Mae’r unigolion a gyfrifwyd yng ngham 2 (unigolion a enwyd ar bryderon a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2019/20) yn is-set o gam 1 (yr unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni yn 2019/20).

Yng nghamau 3 a 4, rydyn ni’n cyfrif yr unigolion a enwyd ar achosion a dderbyniodd sancsiwn mewnol neu a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT yn 2019/20. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy’n gysylltiedig â chamau 1 a 2 a’r rheini sy’n gysylltiedig â cham 3 yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2019/20, nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a’u datrys yn yr un flwyddyn. Yn yr un modd, mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy’n gysylltiedig â cham 1 a 2 a’r rheini sy’n gysylltiedig â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Gan ddechrau gyda dadansoddiad o’r boblogaeth wrth ei gwaith, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma’r gyfran ar gyfer dynion:

  • 48% o’r boblogaeth wrth ei gwaith
  • 65% o’r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 75% o’r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 73% o’r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 80% o’r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT (cam 4, llwybr B)

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o’r broses, gan ei gwneud yn anodd llunio casgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2019/20 cafodd:

  • 6,293 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,647 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 275 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 129 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT (cam 4).

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Ar gyfer rhyw ac oedran, mae gennym wybodaeth ar gyfer 93% a 99.9% o’r boblogaeth wrth ei gwaith, yn y drefn honno, a 73% ar gyfer ethnigrwydd. Oherwydd y ffordd rydyn ni wedi casglu data am anabledd yn y gorffennol1, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o’r boblogaeth wrth ei gwaith.

O’r adran Proffil amrywiaeth: Camau 1 a 2 ymlaen, mae set lawn o’r siartiau sy’n dangos y data ar gyfer pob cam. Rydyn ni hefyd wedi edrych ar sut mae’r achosion yn y SDT wedi’u cwblhau, yn benodol, a oes gwahaniaeth yn ôl nodweddion amrywiaeth yn y defnydd o ganlyniadau y cytunwyd arnynt. Rydyn ni wedi darparu’r cyfraddau datgan amrywiaeth ym mhob cam.

Yn yr adran hon, rydyn ni wedi rhoi trosolwg o’r canfyddiadau allweddol ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth ym mhedwar cam y broses gorfodi ar gyfer 2019/20 (lle’r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Er mwyn gallu cymharu, rydyn ni wedi cynnwys y siartiau ar gyfer 2018/19 ac wedi nodi lle mae’r canfyddiadau’n wahanol.

Nodir dadansoddiad manylach o’r data ym mhob cam o’n prosesau yn nes ymlaen yn yr adroddiad, gan ddechrau o’r adran Proffil amrywiaeth: Camau 1 a 2. Yn yr adrannau sy’n edrych ar gamau 3 a 4, lle gwnaethon ni neu’r SDT osod sancsiwn, rydyn ni hefyd wedi dadansoddi canlyniadau’r unigolion. Ac yn yr adran Proffil amrywiaeth: canlyniadau y cytunwyd arnynt, rydyn ni’n edrych ar unigolion yng ngham 4 lle daeth eu hachosion i ben yn y SDT naill ai drwy wrandawiad neu drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Ym mhob un o’r adrannau hyn, rydyn ni wedi llunio cymariaethau â chanfyddiadau 2018/19. Mae set lawn o dablau data 2018/19 a gwybodaeth ar gael yn Cynnal Safonau Proffesiynol – Monitro Amrywiaeth, Adroddiad Ategol 2018/19.

Rydyn ni’n defnyddio’r data sydd gennym ni am y boblogaeth wrth ei gwaith yn ein systemau fel y man cychwyn ar gyfer dadansoddi sut mae proffil pobl yn newid drwy ein prosesau gorfodi. Mae mwy o wybodaeth am y dadansoddiad o’r boblogaeth sy’n ymarfer a ffynhonnell y data hwn yn yr atodiad.

Niferoedd isel yng nghamau 3 a 4

Oherwydd y niferoedd isel sy’n gysylltiedig â chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a yw’r newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Y rheswm am hyn yw bod y niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd yng nghamau 3 a 4 yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn ni’n cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu a byddwn yn parhau i fonitro’r maes hwn er mwyn i ni allu adnabod patrymau dros amser.

Rhyw

Dadansoddiad o ryw y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Blwyddyn Rhyw Y boblogaeth wrth ei gwaith

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni

Cam 2: Ymchwiliad

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT

2018/19 Gwryw 49% 67% 73% 70% 85%
Benyw 51% 33% 27% 30% 15%
2019/20 Gwryw 48% 65% 75% 73% 80%
Benyw 52% 35% 25% 27% 20%

Mae gormod o ddynion yn cael eu cynrychioli drwy gydol ein proses orfodi, ac mae’n bosib cymharu’r dadansoddiad cyffredinol ym mhob cam gyda data 2018/19. Mae dynion yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy’n cael eu hadrodd i ni, ac mae’r gorgynrychiolaeth hwn yn cynyddu ym mhob cam o’n proses orfodi.

O’i gymharu â phoblogaeth wrth ei gwaith o 48:52, dynion i fenywod, mae cyfran y dynion yng nghamau 1 i 3 yn amrywio o 65% i 75% gyda gostyngiad cyfatebol ymysg menywod.

Fodd bynnag, mae cyfran y dynion yn cynyddu i 80% wrth edrych ar gam 4, achosion sy’n dod i ben yn y SDT, gyda gostyngiad cyfatebol ymysg menywod.

Ethnigrwydd

Rydyn ni’n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os yw’r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Os yw’r niferoedd yn rhy fach, er na fydd profiad y bobl yn y grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gyda’i gilydd, ochr yn ochr â’r grŵp Gwyn. Byddwn yn cyfeirio at y grŵp hwn fel y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac yn wahanol i’r adroddiad ar gyfer 2018/19, ni fyddwn yn defnyddio’r acronym ‘BAME’. Dyma pam, yn y siart trosolwg isod, mai dim ond y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r grŵp Gwyn a ddangosir. Nodir dadansoddiad manylach o dan y Proffil amrywiaeth: Camau 1 a 2, Ethnigrwydd.2

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Blwyddyn Y boblogaeth wrth ei gwaith

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni

Cam 2: Ymchwiliad

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT

2018/19 Gwyn 82% 74% 68% 65% 65%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% 26% 32% 35% 35%
2019/20 Gwyn 82% 74% 65% 71% 72%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% 26% 35% 29% 28%

Mae’r grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ei gyfanrwydd, yn cynrychioli 18% o’r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o’r unigolion a gafodd eu hadrodd i ni. Mae unigolion o gefndiroedd Du ac Asiaidd yn cynrychioli 12% a 3% o’r boblogaeth wrth ei gwaith, yn y drefn honno, ond maent yn cael eu gorgynrychioli wrth edrych ar nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd i ni (cam 1), sef 18% a 4%. Nid yw hyn wedi newid o’i gymharu â chamau 1 a 2 yng nghanfyddiadau 2018/19. 

Mae cyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cynyddu o 26% i 35% ar gyfer y rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad yng ngham 2, cynnydd ychydig yn fwy na’r hyn a welwyd yn 2018/19.

Mae’r niferoedd bach y tu hwnt i gam 2 yn golygu nad ydym yn gwybod a oes unrhyw newidiadau ystyrlon – rhwng camau neu dros amser. Mae cyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng ngham 3 a 4 (29% a 28% yn y drefn honno) yn is o’i gymharu â’r cam ymchwilio (35%). Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau 2018/19, lle’r oedd, oherwydd yr anhawster gyda niferoedd bach, cynnydd ymddangosiadol yng nghyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghanlyniadau camau 3 a 4 (35% ar gyfer y ddau), o’i gymharu â’r cam ymchwilio (32%). 

Nid ydym yn gwybod a yw hyn yn newid go iawn neu oherwydd amrywiadau mewn grŵp bach. Byddwn yn edrych ar y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud (i gyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad) yng ngham 2 ein proses fel rhan o’r ymchwil annibynnol rydyn ni’n ei chomisiynu ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Mae mwy o wybodaeth am hyn yn yr adran gwaith pellach ac ymchwil.

Oedran

Yn y siart hwn, rydyn ni wedi grwpio’r categorïau 16–24 oed a 25–34 oed gyda’i gilydd. Y rheswm am hyn yw bod nifer y bobl ifanc 16–24 oed a enwyd yng nghamau 1 i 3 yn nominal, ac nid oedd unrhyw bobl ifanc rhwng 16–24 oed wedi’u henwi ar achosion wedi’u cwblhau yn y SDT.

Dadansoddiad o oedran y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

2018/19

16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth wrth ei gwaith 25% 32% 24% 14% 5%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni 12% 26% 30% 22% 10%
Cam 2: Ymchwiliad 11% 26 30% 23% 10%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 13% 25 27% 22% 13%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 9% 27 31% 20% 13%
2019/20
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth wrth ei gwaith 24% 33% 24% 14% 5%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni 13% 27% 28% 22% 10%
Cam 2: Ymchwiliad 12% 29% 28% 22% 9%
Cam 3: (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 14% 28% 24% 20% 14%
Cam 4: (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 5% 25% 30% 25% 16%

Sylwch, mae data cam 4 ar gyfer 2019/20 yn dod i 101%. Mae hyn oherwydd talgrynnu.

Mae cynrychiolaeth pob grŵp oedran drwy gydol ein proses orfodi yr un fath i raddau helaeth ag yr oedd yn 2018/19. Nid oes digon o gynrychiolaeth o bobl yn y categorïau oedran iau (44 ac iau) a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni o’i gymharu â chyfran eu poblogaeth wrth ei gwaith. Mae’r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau hŷn (55 a hŷn) sy’n cael eu gorgynrychioli o’u cymharu â’r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae’r grŵp oedran 45-54 a gynrychiolir yng ngham 1 yn gymesur i raddau helaeth â’r boblogaeth wrth ei gwaith.

Wrth edrych ar achosion sy’n cynnwys unigolion a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, nid oes fawr o wahaniaeth ar gyfer unrhyw un o’r grwpiau oedran. Ar gyfer pob grŵp oedran, mae canran yr unigolion a enwyd ar achosion a gafodd eu cwblhau’n fewnol yng ngham 3 yn gymesur i raddau helaeth â’r rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2), ar wahân i’r grŵp oedran 65+, lle mae’r gynrychiolaeth ychydig yn uwch.

Ar gyfer pob grŵp oedran, mae canran y rhai y daeth eu hachosion i ben yn yr SDT (cam 4) yn gymesur i raddau helaeth â’r rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2), gyda gwahaniaethau bach ar gyfer y grwpiau ieuengaf a hynaf. Roedd y rheini o dan 34 yn cyfrif am 12% o’r achosion a gafodd eu hymchwilio a 5% o’r rheini a ddaeth i ben yn y SDT. Roedd y rhai 65 oed a throsodd yn cyfrif am 9% o’r pryderon a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio ac 16% o’r achosion a ddaeth i ben yn y SDT.

Anabledd

Oherwydd y niferoedd bach iawn dan sylw, dim ond ar gamau 1 2 a 4 y gallwn adrodd am nifer y bobl anabl sy’n ymwneud â’n prosesau gorfodi. Am yr un rheswm, roedden ni ond yn gallu adrodd ar y nifer o bobl anabl sy’n rhan o’n prosesau gorfodi ar gamau 1 a 2 yn 2018/19.

Anabledd a gofnodwyd ymysg y boblogaeth wrth ei gwaith ac yn ein proses orfodi

2018/19

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Dim anabledd wedi’i gofnodi 99% 98% 98%
Anabledd wedi’i gofnodi 1% 2% 2%
2019/2020
Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT

Dim anabledd wedi’i gofnodi 99% 98% 98% 95%
Anabledd wedi’i gofnodi 1% 2% 2% 5%

Fel y llynedd, mae unigolion anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy’n cael eu hadrodd i ni o’u cymharu â’r boblogaeth wrth ei gwaith. Roedd 106 o unigolion anabl wedi’u henwi ar y pryderon a gawsom (2% o’r cyfanswm) o’i gymharu ag 1% o’r boblogaeth wrth ei gwaith.

O’r rhai a gafodd eu henwi ar y pryderon a adroddwyd i ni, cafodd achosion 38 o bobl anabl eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (2% o gyfanswm yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt).

Yng ngham 4, cafodd chwe unigolyn ei enwi ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT (5%).

Mae angen i gyfraddau datgan ar gyfer anabledd wella cyn y gallwn ddod i unrhyw gasgliadau ystyrlon am y data.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2018/19 ym mis Rhagfyr 2020, rydyn ni wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith i ddeall yn well pam bod rhai grwpiau’n cael eu gorgynrychioli yn ein prosesau gorfodi. Mae canfyddiadau ein hadroddiad ar gyfer 2019/20 yn eithaf tebyg i adroddiad y llynedd, felly mae’r gwaith roedden ni wedi ymrwymo iddo yn adroddiad y llynedd dal yn berthnasol heddiw a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r ddau adroddiad.

Mae’r tabl isod yn nodi’r gwaith rydyn ni wedi ymrwymo iddo a’r camau rydyn ni wedi’u cymryd ers hynny.

Gwaith rydyn ni wedi ymrwymo iddo Camau a gymerwyd

Byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol i’r ffactorau sy’n llywio’r broses o adrodd ar bryderon am gyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ni, er mwyn canfod beth allwn ei wneud am hyn a lle y gallwn weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth.

Dechreuodd y broses gaffael ym mis Mawrth gyda gwahoddiad agored i sefydliadau allanol ddangos diddordeb mewn gwneud y gwaith hwn. Rydyn ni’n cynnal tendr ffurfiol yn yr haf, gyda’r bwriad o ddechrau’r ymchwil yn ystod hydref 2021.

Rydyn ni’n sefydlu grŵp o randdeiliaid allanol i gefnogi’r gwaith hwn. Ei rôl fydd helpu i lywio’r ymchwil a darparu arbenigedd a gwybodaeth i gefnogi’r ymchwilwyr drwy gydol oes y prosiect.      

Ochr yn ochr â’n gwaith parhaus i sefydlu tîm sicrhau ansawdd ‘hyd braich’ mewnol, byddwn yn cynnal adolygiad ymlaen llaw o’r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar, lle gwneir y penderfyniad i gyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad.

Bydd yr adolygiad o’r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar yn cael ei gynnal gan asiantaeth allanol fel rhan o’r ymchwil annibynnol a amlinellir uchod.

Mae ein tîm sicrhau ansawdd ‘hyd braich’ mewnol wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, a bydd yn dechrau datblygu a threialu ei ddull i sicrhau ansawdd yn ystod y misoedd nesaf, gan ychwanegu gwerth at ein trefniadau sicrhau ansawdd presennol.

Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer yr unigolion sy’n datgelu gwybodaeth am eu nodweddion amrywiaeth i ni.

Fe wnaethom ddiweddaru’r cwestiynau amrywiaeth sydd ar ein systemau ar gyfer cyfreithwyr ac, ym mis Mai 2021, fe wnaethom lansio ymgyrch i annog unigolion i adolygu a diweddaru eu data amrywiaeth.

Roedd hyn yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau uniongyrchol i bob un o’r 10,100 o gwmnïau a grwpiau cyfreithiol lle rydyn ni’n gwybod bod y cyfraddau datgan yn isel. Rydyn ni wedi gweld cyfradd ymateb gychwynnol dda ar ddiwedd cam un yr ymgyrch hon a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r proffesiwn i annog unigolion i ddarparu eu data amrywiaeth.

Mae Cymdeithas y Gyfraith a’r grwpiau amrywiaeth rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn y proffesiwn yn ein cefnogi gyda’r ymgyrch hon.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o annog pobl i ddarparu eu gwybodaeth amrywiaeth pan fyddant yn ymuno â’r proffesiwn am y tro cyntaf. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad 2018/193, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfreithwyr sydd newydd gofrestru sy’n darparu eu gwybodaeth amrywiaeth i ni, ar ôl i ni symud i broses dderbyn ar-lein. Mae hyn wedi gostwng o un flwyddyn i’r llall ac mae’n egluro’r gostyngiad yn y cyfraddau datgan a welir yn yr atodiad.

Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar broffil pobl yn ein prosesau gorfodi ac yn cynnwys dadansoddiadau croestoriadol lle gallwn.

Dyma’r ail flwyddyn i ni adrodd ar y wybodaeth hon. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn dechrau dadansoddi’r data ac yn archwilio rhyngblethedd lle bo hynny’n bosibl, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael.

Byddwn yn gwerthuso’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud drwy ein rhaglen diwygio rheoleiddiol, gyda deall yr effeithiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan allweddol o’r gwaith.

Rydyn ni’n gwerthuso effaith ein Strategaeth Orfodi newydd a’r Safonau a’r Rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019. Roedd canfyddiadau 2018/19 yn llinell sylfaen i ni ar gyfer monitro yn y dyfodol a bydd, gyda’r data diweddaraf, yn cyfrannu at y gwaith gwerthuso hwn.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn a’n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach.

Mewn adolygiad o’n Cynlluniau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2019/20, gwnaethom nodi amrywiaeth o waith i fwrw ymlaen ag ef yn 2020/21, gan gynnwys y canlynol:

  • Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach, mae ein rhaglen o weithdai sydd wedi’u targedu at gwmnïau llai yn dal i fynd rhagddi. Er enghraifft, fe wnaethom gynnal gweithdy ar atal gwyngalchu arian gyda Chymdeithas Cyfreithwyr Prydeinig Bangladeshaidd ym mis Chwefror, ac mae mwy i ddod ar gyfer grwpiau a rhwydweithiau amrywiaeth eraill.
  • Mewn enghraifft arall, fe wnaethom gynnal gweminar i gwmnïau bach ar sut mae bodloni gofynion ein Rheolau Tryloywder. Rydyn ni wedi rhannu’r gweminar hwn gyda’r Grŵp Ymarferwyr Unigol a grwpiau amrywiaeth eraill sydd â nifer uchel o gyfreithwyr mewn cwmnïau bach a rhwydweithiau eraill.
  • Fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant newydd ar ragfarn ddiarwybod i’r holl staff ym mis Mawrth ac rydyn ni’n rhoi rhagor o wybodaeth am hyn drwy weithdai pwrpasol.

Fel rhan o’n gwaith ehangach i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y proffesiwn, rydyn ni’n datblygu adnoddau newydd ar gyfer cwmnïau mewn meysydd allweddol, gan gynnwys symudedd cymdeithasol, creu gweithleoedd iach a beichiogrwydd a mamolaeth. Byddwn hefyd yn ychwanegu at ein hadnoddau presennol i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, cynhwysiant anabledd, llesiant a chynhwysiant LGBTQ+.

Mae’r adran hon yn ymwneud â phroffil yr unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1) a’r pryderon rydyn ni’n bwrw ymlaen i ymchwilio iddynt (cam 2), wedi’u gosod yn erbyn dadansoddiad o’r boblogaeth wrth ei gwaith.

Niferoedd yn y camau hyn

Yn 2019/20, cafodd 9,642 o bryderon eu hadrodd i ni. O’r rhain, roedd 5,555 – 58% o’r holl bryderon – yn ymwneud ag un unigolyn neu fwy. Mae’r data yn yr adran hon yn ymwneud â’r 6,293 o unigolion a gafodd eu henwi ar y pryderon hynny. Fe wnaethom gyfrif unigolyn bob tro roedd yn ymddangos ar bryder a adroddwyd i ni, felly efallai y bydd rhai unigolion yn cael eu hadrodd fwy nag unwaith. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, nid yw pryderon sy'n ymwneud â chwmnïau wedi'u cynnwys. 

O'r 6,293 o unigolion a enwyd ar y pryderon a gawsom, fe wnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio i 1,647 o unigolion. 

Wedi'u rhannu gan bedair nodwedd amrywiaeth (ethnigrwydd, rhyw, oedran ac anabledd), mae'r siartiau yn yr adran hon yn dangos: 

  • y boblogaeth wrth ei gwaith
  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2019/20
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2019/20 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt.

Cyfraddau datgelu

Mae'r siartiau yn yr adran hon yn cynrychioli dadansoddiad o boblogaethau ac unigolion y gwyddom amdanynt yn unig – mae hynny'n golygu'r unigolion y mae gennym ddata amrywiaeth ar eu cyfer. Mae cyfran yr unigolion y mae gennym ddata amrywiaeth ar eu cyfer yn amrywiol ac wedi'i nodi ar gyfer pob nodwedd.  

Rhyw

Mae gormod o ddynion yn cael eu henwi ar y pryderon rydyn ni’n eu cael (65%) o’i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith (48%). Mae hyn yn cynyddu pan fyddwn yn edrych ar yr unigolion lle gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, lle mae 75% yn ddynion. 

Mae’r patrymau hyn yn debyg iawn i’r rheini a gafwyd yn 2018/19, lle’r oedd dynion yn cynrychioli 49% o’r boblogaeth wrth ei gwaith, 67% o’r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni a 73% o unigolion a gafodd eu hymchwilio.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ryw

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Gwryw 48% 65% 75%
Benyw 52% 35% 25%

Dylid ystyried y cyfrannau yn y siartiau ochr yn ochr yn ochr â’r cyd-destun canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roeddem yn gwybod rhyw 149,702 o'r 160,498 o’r boblogaeth wrth ei gwaith (93%) ar 1 Tachwedd 2020.
  • Cam 1 – o'r 6,293 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem yn gwybod rhyw 6,047 ohonynt (96%).
  • Cam 2 – o'r 1,647 o unigolion y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, roeddem yn gwybod rhyw 1,546 o unigolion (94%).

Ethnigrwydd

Yn yr adran hon, rydyn ni wedi gallu rhannu’r grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oherwydd bod y pedwar grŵp a gaiff eu cynrychioli yn y siartiau yn ddigon mawr i beidio â datgelu unigolion. Mewn adrannau diweddarach, sy'n edrych ar ganlyniadau achosion, mae'r poblogaethau'n mynd yn llawer llai. Oherwydd hyn, dim ond ar gyfer y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ehangach y gallwn gyflwyno data. Er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam o'r broses orfodi, rydyn ni hefyd wedi nodi'r siartiau sy'n dangos y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel un.

Nid oes digon o gynrychiolaeth o unigolion gwyn ar bryderon a adroddwyd i ni o’i gymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae hyn yn lleihau wrth edrych ar unigolion gwyn a enwyd ar bryderon y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt. Mae'r gwrthwyneb yn wir am unigolion yn y grwpiau Asiaidd a Du.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Gwyn 82% 74% 65%
Asiaidd 12% 18% 26%
Du 3% 4% 6%
Cymysg 2% 1% 1%
Grŵp ethnig arall 2% 1% 2%

Sylwch, mae’r boblogaeth wrth ei gwaith yn 101% ac mae data cam 1 yn 98% oherwydd talgrynnu.


Yn gyffredinol, mae unigolion o'r grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli 18% o'r boblogaeth wrth ei gwaith, 26% o'r rhai a gafodd eu henwi yn y pryderon a adroddwyd i ni, a 35% o’r unigolion y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt.

Mae’r patrymau’n debyg iawn i’r rheini a welwyd yn 2018/19, lle’r oedd unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hefyd yn cynrychioli 18% o’r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o’r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni. Roedd cyfran y cyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt yn 32% yn 2018/19 ac mae wedi codi ychydig i 35% eleni.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ethnigrwydd (Gwyn a BAME)

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Gwyn 82% 74% 65%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% 26% 35%

Dylid ystyried y cyfrannau yn y siartiau ochr yn ochr yn ochr â’r cyd-destun canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roeddem yn gwybod ethnigrwydd 117,765 o'r 160,498 o’r boblogaeth wrth ei gwaith (73%) ar 1 Tachwedd 2020.
  • Cam 1 – o'r 6,293 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem yn gwybod ethnigrwydd 5,191 ohonynt (82%).
  • Cam 2 – o'r 1,647 o unigolion y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, roeddem yn gwybod ethnigrwydd 1,330 ohonynt (81%).

Oedran

Nid oes digon o gynrychiolaeth o bobl yn y categorïau oedran iau (16–34) yn y pryderon a adroddwyd i ni o’i gymharu â'u cyfran yn y boblogaeth wrth ei gwaith.  Mae’r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau hŷn (55 a hŷn) sy’n cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau o’u cymharu â’r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae nifer y bobl 35–44 a 45–54 oed a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn gymesur i raddau helaeth â’r boblogaeth sydd wrth ei gwaith. Nid oes llawer o wahaniaeth ar gyfer unrhyw un o'r categorïau oedran o ran y gyfradd rydyn ni’n bwrw ymlaen i ymchwilio i bryderon sy'n ymwneud ag unigolion.  

Mae’r patrymau’n debyg iawn i’r rheini yn 2018/19, ac eithrio bod cyfran y rheini yn y categori 45-54 a gafodd eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni eleni (28%) ychydig yn fwy na’r boblogaeth wrth ei gwaith, sef 24% am y ddwy flynedd. Yn 2018/19 roedd unigolion 45–54 oed yn cynrychioli 30% o unigolion yng ngham 1.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o oedran

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
16-34 24% 13% 12%
35-44 33% 27% 29%
45-54 24% 28% 28%
55-64 14% 22% 22%
65+ 5% 10% 9%

Dylid ystyried y cyfrannau yn y siartiau ochr yn ochr â’r cyd-destun canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roeddem yn gwybod oed 160,306 o'r 160,498 o’r boblogaeth wrth ei gwaith (99.9%) ar 1 Tachwedd 2020.
  • Cam 1 – o'r 6,293 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem yn gwybod oed 6,252 ohonynt (99%).
  • Cam 2 – o'r 1,647 o unigolion y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, roeddem yn gwybod oed 1,624 o unigolion (99%).
  • Gan fod nifer yr unigolion 16–25 oed yn y boblogaeth wrth ei gwaith yn cynrychioli llai na 1%, maent wedi cael eu grwpio gyda’r grŵp oedran 25–34 oed. Roedd nifer y pryderon a gawsom ac y gwnaethom fwrw ymlaen â nhw o ran pobl ifanc 16–24 oed yn rhy fach i'w cynrychioli ar eu pen eu hunain.

Anabledd

Er bod y niferoedd yn fach, ac mae hwn yn faes lle mae nifer y datganiadau o ran anabledd yn debygol o fod yn isel, mae gormod o unigolion anabl wedi’u henwi ar bryderon a gawsom ac ar y pryderon hynny y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, o’i gymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith.  Mae’r cyfrannau yn y camau hyn yr un fath ag yn 2018/19.

Anabledd wedi’i gofnodi

Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Dim anabledd wedi’i gofnodi 99% 98% 98%
Anabledd wedi’i gofnodi 1% 2% 2%

Dylid ystyried y cyfrannau yn y siartiau ochr yn ochr â’r cyd-destun canlynol:

  • Y boblogaeth wrth ei gwaith – Nododd 1,663 o 160,498 (1%) fod ganddynt anabledd, ar 1 Tachwedd 2020. Rydym yn credu bod hyn yn cael ei dangynrychioli yng ngoleuni 20% o'r boblogaeth oed gweithio sy'n dweud eu bod yn anabl.4
  • Cam 1 – o'r 6,293 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roedd anabledd wedi'i nodi ar 106 ohonynt (2%).
  • Cam 2 – o'r 1,647 o unigolion y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, roedd gan 38 o unigolion (2%) anabledd.

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi A, sy'n golygu'r adroddiadau sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) ac sy'n arwain at gosb fewnol (cam 3).

Cafwyd 274 o ymchwiliadau yn 2019/20 a arweiniodd at gymryd camau gorfodi mewnol a chyhoeddi sancsiwn. O'r rhain, roedd 248 o achosion yn ymwneud ag un unigolyn neu fwy. Yn gyffredinol, cafodd 275 or unigolion a enwyd ar achosion sancsiwn mewnol.

Efallai fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion syn gysylltiedig â chamau 1 a 2 ar rheini syn gysylltiedig â cham 3 yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2019/20, er nid ywn debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn au datrys yn yr un flwyddyn. Mae ein dadansoddiad yn seiliedig ar weithgarwch yn ystod y flwyddyn 2019/20, nid y canlyniadau ar gyfer un grŵp o achosion.

Mae dau siart ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Maer cyntaf yn dangos proffil:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2019/20
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2019/20 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt.
  • cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion a arweiniodd at gosb SRA ar gyfer 2019/20.

Mae'r ail siart yn dangos dadansoddiad amrywiaeth unigolion a gafodd lythyr cynghori, canfyddiad a rhybudd, cerydd a dirwy, er bod rhai cyfyngiadau o ran adrodd ar y data hwn (mwy o wybodaeth isod).

Cyfyngiadau wrth adrodd data

Mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydyn nin gallu ei adrodd yn yr adran hon:

  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad o anabledd oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn rhy fach i'w cyflwyno ar eu pennau eu hunain felly byddem mewn perygl o ddatgelu manylion adnabod unigolyn. Am yr un rheswm, mae ethnigrwydd yn cael ei rannu'n ddau grŵp: Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a Gwyn. Rydym hefyd wedi grwpio'r grwpiau oedran 16–24 a 25–34 gydai gilydd wrth edrych ar y mathau o ganlyniadau, a dylid nodi bod nifer y bobl ifanc 16–24 oed a gafodd sancsiwn yn nominal.
  • Eto, oherwydd y niferoedd bach yn rhai o'r mathau unigol o ganlyniadau, a allai ddatgelu pwy yw rhywun, dim ond ar lythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion, ceryddon a dirwyon rydyn ni wedi gallu adrodd. Gan fod y niferoedd ym mhob un o'r grwpiau hyn yn rhy fach i gael eu cynrychioli ar eu pen eu hunain, rydyn ni wedi grwpio'r mathau o sancsiynau mewn parau: y sancsiynau mwy difrifol (ceryddon a dirwyon) a'r sancsiynau llai difrifol (llythyrau cynghori a chanfyddiadau a rhybuddion).
  • Rydyn ni hefyd wedi dileu mathau eraill o sancsiynau, megis amodau a osodir ar amodau gwaith a gorchmynion adran 47 (2)(g)5, gan fod y data yn y categori hwn yn rhy fach i gael ei gynrychioli ar ei ben ei hun.
  • Nid ydym wedi cynnwys gwybodaeth am orchmynion adran 43. Maer math hwn o sancsiwn yn berthnasol i'r rhai nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yng nghwmnïau a busnesaur gyfraith rydyn nin eu rheoleiddio, ac felly nid ydynt i raddau helaeth ar y gofrestr cyfreithwyr, nid oes ganddynt dystysgrif ymarfer ac nid oes ganddynt gyfrifon mySRA. O ganlyniad, nid oes gennym ddata amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Niferoedd isel yng ngham 3

Oherwydd y niferoedd isel syn gysylltiedig â chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a ywr newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd yng nghamau 3 a 4 yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn nin cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu fel bod ein gwybodaeth yn gallu cefnogi dadansoddiadaun well.

Ac, oherwydd bod y niferoedd yn y siartiau mathau o sancsiynau mor fach a bod dadansoddiadau o ganrannau yn gallu bod yn gamarweiniol, rydyn ni wedi darparu rhifau hefyd.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Fel y nodir uchod, er bod y niferoedd yn isel yng ngham 3, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon, nid oes fawr o wahaniaeth yng nghyfran y dynion a'r menywod a gafodd eu henwi ar ymchwiliadau ac achosion a arweiniodd at gosb fewnol. Ym mhob un or camau hyn, mae'r gyfran tua thri chwarter o ddynion a chwarter o fenywod.

Maer patrymaun debyg iawn ir rhai yn 2018/19, er bod y cynnydd o gam 1 (65%) i gam 2 (75%) ar gyfer dynion yn fwy nar llynedd. Yn 2018/19, roedd y cynnydd o 67% yng ngham 1 i 73% yng ngham 2.

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni

Cam 2: Ymchwiliad

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol

Gwryw 65% 3,959 75% 1,166 73% 114
Benyw 35%2,088 25% 380 27% 53

Or 275 o unigolion a enwyd ar achosion a arweiniodd at sancsiwn mewnol, maer siart yn cynrychioli 197 o unigolion lle roedden nin gwybod eu rhyw (72%).

Canlyniadau – rhyw

Maer gymhareb o 3:1 o ddynion i fenywod a gynrychiolir yng nghamau 2 a 3 iw gweld i raddau helaeth yn y mathau mwy difrifol o sancsiynau, syn cynnwys cerydd neu ddirwy. Fodd bynnag, maer gynrychiolaeth o ddynion wedi gostwng 5% wrth edrych ar y mathau llai difrifol o sancsiynau, llythyrau cynghori, canfyddiad neu rybudd, a chynnydd cyfatebol i fenywod.

Maer patrymaun debyg ir rheini yn 2018/19, pan oedd 70% or rheini yng ngham 3 yn ddynion a 74% or rheinin cael cerydd neu ddirwy.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ryw

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd Cerydd neu ddirwy
Gwryw 73% 144 68% 54 77% 64

Benyw

27% 53 32% 25 23% 19

Roeddem yn gwybod rhyw ar gyfer y canlynol:

  • 79 o 93 o lythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion (85%)
  • 83 o 101 o geryddon a dirwyon (82%).

Ethnigrwydd

Mae canran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd ar achosion yng ngham 3 yn is nar rhai a gynrychiolir yng ngham 2, gyda chynnydd cyfatebol ar gyfer unigolion Gwyn. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, maer niferoedd yn y cam hwn yn fach iawn, gan ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon o'r data.

Yn 2018/19 roedd cynnydd bach ar gyfer y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cynyddu o gam 2 (ymchwiliadau ar 32%) i gam 3 (cosbau mewnol ar 35%). Eto, roedd y niferoedd yn rhy fach i ddefnyddior fethodoleg ystadegol sydd ei hangen i ddeall a ywn ystyrlon neun ganlyniad siawns.

Ac, oherwydd y niferoedd bach, nid ywn bosibl ychwaith llunio cymariaethau o un flwyddyn ir llall.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol
Gwyn 74% 3,864 65% 870 71% 114
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 26% 1,327 35% 460 29% 46

Or 275 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol, roeddem yn gwybod ethnigrwydd 160 ohonynt (58%).

Canlyniadau – ethnigrwydd

O'i gymharu â'r dadansoddiad o unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (29%), mae cyfran ychydig yn is yn y canlyniadau llai difrifol (llythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion) ar 23%, ac mae cyfran ychydig yn uwch yn y mathau o gosbau mwy difrifol (ceryddon a dirwyon) ar 34%.

Maer patrwm ychydig yn wahanol i 2018/19, ller oedd 35% or unigolion yng ngham 3 o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, roedd gan 33% ohonynt lythyr cynghori, canfyddiad neu rybudd ac roedd gan 30% geryddon neu ddirwyon. Eto, maer niferoedd bach yn atal unrhyw ddadansoddiad ystyrlon.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd Cerydd neu ddirwy
Gwyn 71% 144 77% 51 66% 42
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 29% 46 23% 15 34% 22

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd y canlynol:

  • 66 or 93 o unigolion a gafodd lythyr cynghori a/neu ganfyddiad a rhybudd (71%)
  • 64 or 101 o unigolion a gafodd gerydd a/neu ddirwy (63%).

Oedran

Eto, er bod y niferoedd yn isel yng ngham 3, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon, maer canrannaun weddol gymesur wrth gymharur rhai a enwyd ar achosion â sancsiwn mewnol (cam 3) âr rhai yr ymchwiliwyd iddynt (cam 2). Fodd bynnag, mae cynnydd bach ar gyfer y grŵp oedran 65 oed a hŷn, syn cynrychioli 9% yng ngham 2 a 14% yng ngham 3.

Mae rhai pethaun debyg ir patrymau a welwyd yn 2018/19: mae cynnydd bach yn y cyfrannau ar gyfer y grwpiau oedran ieuengaf (16–34) ar hynaf (65 oed a hŷn) rhwng camau 2 (ymchwiliad) a 3 (sancsiwn mewnol). Yn 2018/19, roedd y cynnydd o 11% i 13% ar gyfer y grŵp 16-34 oed ac o 10% i 13% ar gyfer y grŵp 65 oed a hŷn.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o oedran

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol
16-34 13% 799 12% 190 14% 34
35-44 27% 1,680 29% 479 28% 66
45-54 28% 1,754 28% 447 24% 56
55-64 22% 1,403 22% 358 20% 48
65+ 10% 616 9% 150 14% 34

Or 275 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol, roeddem yn gwybod oedran 238 o unigolion (87%).

Roedd nifer yr unigolion rhwng 16 a 24 oed a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol yn rhy fach iw cynrychioli ar eu pen eu hunain. Fel y nodir yn yr adran proffil amrywiaeth: unigolion a enwyd ar adroddiadau ac a gafodd eu cyfeirio ar gyfer ymchwiliad, mae nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed a enwyd ar adroddiadau yng nghamau 1 a 2 yn nominal.

Canlyniadau – oedran

O edrych ar fathau mewnol ac allanol o sancsiynau ar draws categorau oedran, nid oes patrwm clir ac mae'r niferoedd yn rhy fach i lunio unrhyw gasgliadau o'r canfyddiadau. Roedd nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed gyda sancsiwn yn nominal. Roedd hefyd yn anodd gweld patrwm clir or canfyddiadau yn 2018/19.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o oedran

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd

Cerydd neu ddirwy

16-34 14% 34 13% 11 16% 15
35-44 28% 66 21% 18 29% 27
45-54 24% 56 28% 24 21% 20
55-64 20% 48 26% 22 17% 16
65+ 14% 34 12% 10 17% 16

Roeddem yn gwybod oedran y canlynol:

  • 85 or 93 o unigolion a gafodd lythyr cynghori a/neu ganfyddiad a rhybudd (91%)
  • 94 or 101 o unigolion a gafodd gerydd a/neu ddirwy (93%).

Mae'r adran hon yn ymwneud 'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi B: hynny yw, y pryderon y gwnaethom fwrw ymlaen i'w harchwilio (cam 2) ac a ddaeth i ben yn yr SDT. Rydyn nin yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn yr SDT. Yr SDT sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr achosion y cyfeirir atynt yn yr adran hon. Mae'n annibynnol arnom ni a gall osod ystod ehangach o sancsiynau na ni.

Daeth 112 o achosion i ben yn y SDT yn 2019/20, gyda 129 o unigolion yn cael eu henwi ar yr achosion. Maer 112 achos yn cynnwys y rhai a gafodd eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (i gael rhagor o wybodaeth, ewch i: proffil amrywiaeth: canlyniadau y cytunwyd arnynt). Mae'r adran hon yn ymwneud 'r 144 o unigolion a'r sancsiynau a gyflwynodd yr SDT o ganlyniad i'r achosion hyn.

Gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn ar gyfer yr unigolyn dan sylw. Er enghraifft, os yw unigolyn wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr ac wedi cael dirwy, bydd yn cael ei gyfrif yn erbyn pob un. Fodd bynnag, nid oedd yr un or unigolion hyn a enwyd ar achosion eleni wedi cael mwy nag un canlyniad, gan arwain at 129 o ganlyniadau.

Maen annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion syn gysylltiedig cham 1 a 2 ar rheini syn gysylltiedig cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae ein dadansoddiad yn seiliedig ar weithgarwch yn ystod y flwyddyn waith, nid y canlyniadau ar gyfer un grŵp o achosion.

Mae dau siart ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Maer cyntaf yn dangos:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar adroddiadau a gyflwynwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2019/20
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar yr adroddiadau hynny yn 2019/20 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt
  • cam 4 – unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT yn 2019/20.

Maer ail siart yn dangos dadansoddiad o amrywiaeth yr unigolion a gafodd y gwahanol fathau o sancsiynau.

Cyfyngiadau wrth adrodd data

Mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydyn nin gallu ei adrodd yn yr adran hon:

  • Nid ydym wedi gallu rhannur grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn llai nar hyn a gyflwynir, gan y gallai gwneud hynny ddatgelu pwy yw rhywun. Dyma pam mae ethnigrwydd yn cael ei rannu'n ddau grŵp: Grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a Gwyn.
  • Maer nifer fach o bobl hefyd yn golygu nad ydym wedi gallu adrodd ar yr holl fathau o sancsiynau, gan y gallai gwneud hynny ddatgelu gwybodaeth am y bobl dan sylw. Oherwydd hyn, dim ond data am ddirwyon rydyn ni wedi gallu ei roi ar gyfer ethnigrwydd ac oedran. Am yr un rheswm, rydyn ni wedi grwpior grwpiau oedran 25–34 a 35–44 gydai gilydd.

Niferoedd isel yng ngham 4

Oherwydd y niferoedd isel syn gysylltiedig chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a ywr newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd yng nghamau 3 a 4 yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn nin cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu a byddwn yn parhau i fonitror maes hwn er mwyn i ni allu gwella dadansoddiadau dros amser.

Ac, oherwydd bod y niferoedd yn y siartiau mathau o ganlyniadau mor fach a bod dadansoddiadau o ganrannau yn gallu bod yn gamarweiniol, rydyn ni wedi darparu rhifau hefyd.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Er bod y niferoedd yn fach ar hyn o bryd, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon, mae gormod o ddynion ac nid oes digon o fenywod wediu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn yr SDT o'u cymharu 'r rhai a enwyd ar adroddiadau y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt. Mae cyfran y dynion yn cynyddu, o 75% i 80%, ac mae cyfran y menywod yn gostwng, o 25% i 20%.

Maer patrwm hwn, lle mae cyfran y dynion yn cynyddu yng ngham 2 a cham 4, yn debyg i ganfyddiadau 2018/19. Fodd bynnag, roedd y cynnydd yng nghyfran y dynion o gam 2 i gam 4 yn uwch yn 2018/19, gan gynyddu o 73% i 85% gyda gostyngiad cyfatebol i fenywod.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o ryw

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
Gwryw 65% 3,959 75% 1,166 80% 99
Benyw 35%2,088 25% 380 20% 25

Roeddem yn gwybod rhyw 124 or 129 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (96%).

Canlyniadau SDT – rhyw

Mae canran y dynion a'r menywod a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr ychydig yn llai cymesur oi gymharu r rhai a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT. Or unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr, mae cyfran y dynion yn gostwng o 80% i 75% ac mae cyfran y menywod yn cynyddu o 20% i 25%.

Maer patrwm hwn yn wahanol ir un a welwyd yn 2018/19, ller oedd 85% or rheini a enwyd ar achosion a gwblhawyd yn y SDT yn ddynion, ac fe gafodd 92% or rheini eu dileu oddi ar y gofrestr. Cafodd cyfran fwy o fenywod eu dileu oddi ar y gofrestr yn 2019/20 (25% or 14 o unigolion) oi gymharu ag 8% (neu 6 unigolyn) yn 2018/19 – ond maer niferoedd yn fach, syn ei gwneud yn anodd dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ryw

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT Dileu oddi ar y gofrestr

Gwryw

80% 99 75% 42
Benyw 20% 25 25% 14

Roeddem yn gwybod rhyw 56 or 57 o unigolion (98%) a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr.

Ethnigrwydd

Mae cyfran yr unigolion Gwyn a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn yr SDT (cam 4) wedi cynyddu ac mae gostyngiad cyfatebol yn nifer yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae cyfran yr unigolion Gwyn yn codi o 65% i 72% ac mae cyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gostwng o 35% i 28%. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, maer niferoedd yn y cam hwn yn isel, gan ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon.

Yn 2018/19, roedd cynnydd bach ar gyfer y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o gam 2 (ymchwiliadau ar 32%) i gam 4 (unigolion a enwyd mewn achosion a gwblhawyd yn y SDT ar 35%), eto gydar cafeat, gyda niferoedd mor fach, nad ydym yn gwybod a yw hyn yn ystyrlon.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
Gwyn 74% 3,864 65% 870 72% 81
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 26% 1,327 35% 460 28% 31

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 112 or 129 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (87%).

Canlyniadau SDT – ethnigrwydd

Mae rhywfaint o wahaniaeth yng nghyfran yr unigolion Gwyn a Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gafodd eu dirwyo (29%) neu eu dileu oddi ar y gofrestr (29% oi gymharu r dadansoddiad o unigolion a enwyd ar achosion a gwblhawyd yn y SDT (28%).

Roedd patrwm tebyg yn 2018/19, gyda dadansoddiad cymesur o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a Gwyn ar draws penderfyniadau a oedd yn ymwneud dirwy neu ddileu oddi ar y gofrestr.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT

Dirwy

Dileu oddi ar y gofrestr

Gwyn

72% 81 71% 24 71% 38
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 28% 31 29% 10 29% 15

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 34 or 36 o unigolion a gafodd ddirwy (94%) a 51 or 57 o unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr (89%).

Oedran

Eto, dylid nodi bod y niferoedd yn isel yng ngham 4, gan ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon. Ar gyfer pob grwpiau oedran 45–54 a 55–65, mae canran y rhai y daeth eu hachosion i ben yn yr SDT (cam 4) yn gymesur i raddau helaeth r rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2). Mae gwahaniaethau bach ar gyfer y grwpiau ieuengaf a hynaf. Roedd y rheini o dan 34 yn cyfrif am 12% or achosion a gafodd eu hymchwilio a 5% or rheini a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT. Mae gostyngiad tebyg iw weld yn y grŵp oedran 35–44, lle mae 29% yn cael eu cynrychioli yng ngham 2 a 25% yng ngham 4. Fodd bynnag, roedd y rhai 65 oed a hŷn yn cyfrif am 9% or achosion a gafodd eu hymchwilio a 16% or rheini a enwyd ar achosion ddaeth i ben yn y SDT.

Roedd patrwm tebyg yn 2018/19, gyda gostyngiad o gam 2 i gam 4 ar gyfer y grŵp ieuengaf a chynnydd ar gyfer y grŵp hynaf, er bod y newid yn llai amlwg ar gyfer y ddau grŵp. Ar gyfer y rheini rhwng 16 a 34 oed, roedd y gostyngiad o 11% i 9% yn 2018/19 ac ar gyfer y grŵp 65 oed a hŷn, roedd y cynnydd o 10% i 13%.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o oedran

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
16-34 13% 799 12% 190 5% 6
35-44 27% 1,680 29% 479 25% 31
45-54 28% 1,754 28% 447 30% 38
55-64 22% 1,403 22% 358 25% 31
65+ 10% 616 9% 150 16% 20

Canlyniadau SDT – oedran

Maer mathau o ganlyniadau ar draws pob categori oedran yn weddol gymesur ou cymharu r grwpiau oedran a gynrychiolir yng ngham 4. Yr unig eithriad ywr grŵp oedran 25–44, lle ceir cynnydd bach wrth edrych ar unigolion a enwyd ar achosion gyda dirwy (33%) oi gymharu ag unigolion a enwyd ar achosion. Fodd bynnag, mae nifer y dirwyon yn y grŵp hwn yn fach, gan ei gwneud yn anodd llunio unrhyw gasgliadau pendant.

Roedd rhai or canfyddiadaun debyg i rai 2018/19: roedd y rhan fwyaf or grwpiau oedran yn cael eu cynrychiolin gymesur ar draws penderfyniadau a oedd yn ymwneud dileu unigolyn oddi ar y gofrestr, ac eithrio grŵp oedran 55–64.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o oedran

Cam 4 (llwybr B): Unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben mewn SDT

Dirwy

Dileu oddi ar y gofrestr

25-44 30% 37 33% 12 28% 16
45-54 30% 38 28% 10 28% 16
55-64 24% 31 22% 8 26% 15
65+ 16% 20 17% 6 18% 10

Roeddem yn gwybod oedran ar gyfer yr holl unigolion a dderbyniodd y sancsiynau uchod (36 dirwy a 57 diddymiad).

Anabledd

Er bod y canfyddiadau yng ngham 4 yn ymwneud dim ond chwe unigolyn, rydyn ni wedi cynnwys y canfyddiadau yn yr adroddiad eleni. Fodd bynnag, maer niferoedd isel syn gysylltiedig r cam hwn ar cyfraddau datgan isel syn ymwneud ag anabledd yn ei gwneud yn anodd dod i unrhyw gasgliad ystyrlon.

Maen ymddangos bod cyfran uwch o unigolion anabl yn cael eu henwi ar achosion a gwblhawyd yn y SDT ou cymharu r rhai syn cael eu henwi ar adroddiadau syn cael eu hymchwilio. Maer gyfran yn cynyddu, o 2% (yn cynrychioli 38 o unigolion) i 5% (yn cynrychioli 6 unigolyn), eto, gydar cyfyngiad bod niferoedd bach or fath yn atal unrhyw ddadansoddi ystyrlon.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o anabledd

Stage 1: Concerns reported to us Stage 2: Investigations Stage 4 (path B): Cases with an internal sanction
Dim anabledd wedii gofnodi 98% 6,187 inds 98% 1,609 inds 95% 123 inds
Anabledd wedii gofnodi 2% 106 inds 2% 38 inds 5% 6 inds

Canlyniadau SDT – anabledd

Mae cyfran yr unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr yn weddol gymesur r rheini a gynrychiolir yng ngham 4.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau - anabledd

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT

Dileu oddi ar y gofrestr

Dim anabledd wedii gofnodi 95% 12381 91% 6
Anabledd wedii gofnodi 91% 52 9% 5

Cafodd 57 o unigolion eu dileu oddi ar y gofrestr, roedd gan bump or rhain, neu 9% or cyfanswm, anabledd.

Nid ydym wedi gallu cymharu chanfyddiadau 2018/19 gan nad oedd digon o unigolion yn cael eu henwi ar achosion yn y cam hwn, a gallai adrodd ar y data hwn ddatgelu pwy ywr unigolion hynny.

Maen anodd dod i gasgliad ystyrlon or darn penodol hwn o ddata, gan ei fod yn set mor fach, a byddai ychwanegu neu dynnu un canlyniad yn unig yn newid y cyfrannaun sylweddol.

Maer canlyniadau y cytunwyd arnynt yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Ar ben hynny, roedd newidiadau i reolaur Tribiwnlys yn 2019 yn cynnwys rheol newydd syn caniatáu i ni neur ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunwyd arno. Mae hyn yn annog datrys rhagor o achosion drwy ganlyniad y cytunwyd arno ac rydyn nin debygol o weld mwy o achosion yn cael eu datrys yn y ffordd hon yn y dyfodol.

Maer siartiau yn yr adran hon yn cymharu dadansoddiad amrywiaeth yr unigolion hynny y daeth eu hachos i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno ar rhai y cafodd eu hachos ei gwblhau drwy wrandawiad. Or 112 o achosion a ddaeth i ben yn y SDT yn 2019/20, cafodd 42 eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno, gyda 49 o unigolion yn cael eu henwi ar yr achosion hynny. Daeth y 72 achos arall i ben yn dilyn gwrandawiad, gyda 80 o unigolion yn cael eu henwi ar yr achosion hynny. Mae nifer y canlyniadau y cytunwyd arnynt wedi cynyddu o 33 achos yn 2018/19 ac a oedd yn cynnwys 34 o unigolion.

Mae anghysondeb rhwng cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (112) pan fydd cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad (72) ar rhai a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (42) yn cael eu hadio at ei gilydd (114). Gall hyn ddigwydd pan fydd achos yn ymwneud mwy nag un unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu dod i ganlyniad y cytunir arno gydag un or unigolion yn yr achos, ond nad ydym yn gallu gwneud hynny gydar llall, felly bydd angen gwrandawiad llawn i ddatrys y mater. Yn 2019/20, roedd dau achos a ddaeth i ben fel hyn.

Cyfyngiadau wrth adrodd data

Maer cyfrannau o achosion syn cael eu cwblhau drwy ganlyniad y cytunwyd arnon cael eu dadansoddi yn ôl tair nodwedd amrywiaeth: ethnigrwydd, rhyw ac oedran. Oherwydd nifer yr achosion a ddatryswyd drwy ganlyniad y cytunwyd arno, nid ydym wedi gallu cyflwyno gwybodaeth am ganlyniadaur achosion hyn gan y gallai gwneud hynny ddatgelu gwybodaeth bersonol am y bobl dan sylw. Am yr un rheswm, mae ethnigrwydd yn cael ei rannu'n ddau grŵp: Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a Gwyn, ac nid ydym wedi gallu cyhoeddi unrhyw wybodaeth am anabledd.6 Am yr un rheswm, rydyn ni wedi grwpior grwpiau oedran 25–34 a 35–44 gydai gilydd.

Niferoedd isel

Oherwydd y niferoedd isel wrth edrych ar ganlyniadau y cytunwyd arnynt, ni allwn gadarnhau a ywr newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd syn ymwneud chanlyniadau y cytunwyd arnynt yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn nin cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu a byddwn yn parhau i fonitror maes hwn er mwyn i ni allu adnabod patrymau dros amser.

Rhyw

Er bod y niferoedd yn fach, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau ystyrlon or data, mae canran uwch o fenywod yn cael eu henwi ar achosion syn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (25% yn cynnwys 12 unigolyn) oi gymharu r rheini syn cael eu cwblhau drwy wrandawiad (17% yn cynnwys 13 unigolyn).

Yn 2018/19, doedd dim gwahaniaeth rhwng y dadansoddiad o ddynion a menywod a oedd wedi datrys eu hachos naill ai drwy ganlyniad y cytunwyd arno neu drwy wrandawiad (85% o ddynion a 15% o fenywod).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o ryw

Achos wedi dod i ben drwy wrandawiad mewn SDT 19/20

Achos wedi dod i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno mewn SDT 19/20

Gwryw 83% 63 75% 36
Benyw 17% 13 25% 12

Roeddem yn gwybod rhyw 48 or 49 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno (98%). Roeddem yn gwybod rhyw 76 or 80 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y SDT (95%).

Ethnigrwydd

Er bod y niferoedd yn fach, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau or data, mae canran llai o unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu henwi ar achosion syn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (23% yn cynnwys 10 unigolyn) oi gymharu r rheini syn cael eu cwblhau drwy wrandawiad (30% yn cynnwys 21 unigolyn).

Er ei bod yn ymddangos bod y bwlch wedi lleihau eleni, roedd patrwm tebyg yn 2018/19, gyda chyfran is o achosion unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd cael eu cwblhau drwy ganlyniad y cytunwyd arno oi gymharu gwrandawiad. Yn 2018/19, roedd y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli 17% (pum unigolyn) or rheini a oedd wedi cwblhau eu mater drwy ganlyniad y cytunwyd arno, oi gymharu 40% (38 o unigolion) or rheini a ddaeth r mater i ben drwy wrandawiad.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o ethnigrwydd

Achos wedi dod i ben drwy wrandawiad mewn SDT 19/20 Achos wedi dod i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno mewn SDT 19/20
Gwyn 70% 48 77% 33
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 30% 21 23% 10

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 43 or 49 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno (88%). Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 69 or 80 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y SDT (86%).

Oedran

Mae cyfran lai o unigolion rhwng 55 a 64 oed yn cael eu henwi ar achosion syn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno oi gymharu r rheini syn cael eu datrys drwy wrandawiad, gan ostwng o 27% i 21% – er bod y niferoedd yn fach (21 a 10 unigolyn, yn y drefn honno). Maer gwrthwyneb yn wir am unigolion 65 oed a hŷn, gan gynyddu o 14% i 19% (11 a 9 unigolyn, yn y drefn honno). Eto, dim ond nifer fach o unigolion sydd yn y grŵp hwn, syn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau pendant or data.

Maer patrwm yn 2019/20 yn fwy cymesur ar draws y categorïau oedran nag yr oedd yn 2018/19, ller oedd mwy o wahaniaethau ar gyfer y grwpiau 45-54 oed a 64 oed a hŷn nar rhai a welwyd eleni.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o oedran

Achos wedi dod i ben drwy wrandawiad mewn SDT 19/20 Achos wedi dod i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno mewn SDT 19/20
25-44 28% 22 31% 15
45-54 31% 24 29% 14
55-64 27% 21 21% 10
65+ 14% 11 19% 9

Rydyn ni wedi grwpior grwpiau oedran 25–34 a 35–44 gydai gilydd oherwydd y niferoedd bach dan sylw.

Roeddem yn gwybod oedran 48 or 49 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno (98%). Roeddem yn gwybod oedran 78 or 80 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y SDT (97%).

Maer siartiau yn yr atodiad hwn yn dangos dadansoddiad amrywiaeth or boblogaeth wrth ei gwaith, yn cynnwys:

  • unigolion ar y gofrestr sydd thystysgrif ymarfer gyfredol
  • cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig neu gyfreithwyr Ewropeaidd sydd wediu heithrio
  • yn dibynnu ar y rl, rhai nad ydynt yn gyfreithwyr, fel rheolwyr a swyddogion cydymffurfio.

Maer datan seiliedig ar gipolwg a gymerwyd ar 1 Tachwedd 2020 o ddata a ddarparwyd gan unigolion drwy eu cyfrifon mySRA. Y boblogaeth wrth ei gwaith ar y dyddiad hwn oedd 160,498.

Gan fod yr adroddiadau ar achosion syn cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn dod o 2019/20, dymar ffynhonnell data mwyaf priodol ar gyfer cymharu proffil amrywiaeth y bobl syn cael eu cynrychioli yn ein prosesau. Maer datan wahanol ir data a gesglir bob blwyddyn yn ein proses casglu data am amrywiaeth y cwmni, syn cynnwys cyfreithwyr, twrneiod eraill a staff eraill syn gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol, ac maen defnyddio model ystadegol i amcangyfrif y dadansoddiad amrywiaeth ar draws yr holl nodweddion.

Fodd bynnag, dylid nodi nad ywr holl unigolion syn mynd drwy ein proses orfodi ymysg y boblogaeth wrth ei gwaith a nodir isod. Mae gennym ddyletswydd i reoleiddio pawb syn gweithio mewn cwmni cyfreithiol, er mwyn i ni allu ymchwilio i bryderon am bobl nad ydynt yn gyfreithwyr. Mae hyn yn cynnwys, er engraifft, paragyfreithwyr ac ysgrifenyddion cyfreithiol a rhai rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr. Nid ydynt ar gofrestr y cyfreithwyr, nid oes ganddynt dystysgrif ymarfer ac nid oes ganddynt gyfrifon mySRA, felly nid oes gennym wybodaeth amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn.

Cyfraddau datgelu

Wrth edrych ar y boblogaeth wrth ei gwaith, maer boblogaeth ar gyfer y pedair nodwedd amrywiaeth yn amrywio o 73% (ar gyfer ethnigrwydd) i 99.9% (ar gyfer oedran). Dawr data amrywiaeth hwn o gyfrifon mySRA unigol, lle nad ywn orfodol i bobl ddatgan eu nodweddion amrywiaeth.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o annog pobl i ddarparu eu gwybodaeth amrywiaeth pan fyddant yn ymuno r proffesiwn am y tro cyntaf. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad 2018/19, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfreithwyr sydd newydd gofrestru syn darparu eu gwybodaeth amrywiaeth i ni, ar l i ni symud i broses dderbyn ar-lein. Mae hyn wedi gostwng o un flwyddyn ir llall ac maen egluror gostyngiad yn rhai or cyfraddau datgan a welir isod.

Rhyw

Maer siart isod yn dangos dadansoddiad o 149,702 or boblogaeth wrth ei gwaith lle roeddem yn gwybod eu rhyw. Maen cynrychioli 93% or boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2020. Mae cyfran y dynion wedi gostwng 1% ers 2019 ac mae gostyngiad o 4% wedi bod yn nata'r boblogaeth, a oedd yn 97% yn 2019.

Poblogaeth wrth ei gwaith – dadansoddiad o ryw

Gwryw 48%
Benyw 52%

Ethnigrwydd

Maer siart isod yn dangos dadansoddiad o 117,765 or boblogaeth wrth ei gwaith lle roeddem yn gwybod eu hethnigrwydd. Maen cynrychioli 73% or boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2020. Ni fu unrhyw newid yn y dadansoddiad or proffesiwn yn l ethnigrwydd ers 2019, ond mae gostyngiad o 3% wedi bod yn nata'r boblogaeth, a oedd yn 76% yn 2019.

Poblogaeth wrth ei gwaith – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn 82%
Asiaidd 12%
Du 3%
Cymysg 2%
Grŵp ethnig arall 2%

Sylwch fod datar boblogaeth wrth ei gwaith yn dod i 101% yma oherwydd talgrynnu.

Rydyn nin rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os ywr niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahn. Os ywr niferoedd yn rhy fach, er na fydd profiad y bobl yn y grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gydai gilydd, ochr yn ochr r grŵp Gwyn. Byddwn yn cyfeirio at y grŵp hwn fel y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac yn wahanol ir adroddiad ar gyfer 2018/19, ni fyddwn yn defnyddior acronym ‘BAME.

Oedran

Maer siart isod yn dangos dadansoddiad o 160,306 or boblogaeth wrth ei gwaith lle roeddem yn gwybod eu hoedran. Maen cynrychioli 99.9% or boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2020.

Cofnodwyd 359 o unigolion yn y grŵp oedran 16–24, syn cynrychioli llai na 1% or boblogaeth wrth ei gwaith. Oi gymharu 2018/19, maer grŵp oedran 16–24 a 25–34 cyfun wedi gostwng 1%. Maer grŵp oedran 35–44 wedi cynyddu 1%. Nid oedd unrhyw newid yn y tri grŵp a oedd yn cynrychiolir rheini dros 45 oed ers 2018/19.

Poblogaeth wrth ei gwaith – dadansoddiad o oedran

16-34 24%
35-44 33%
45-54 24%
55-64 14%
65+ 5%

Anabledd

Maer siart isod yn dangos y 1,663 o gyfreithwyr wrth ei gwaith sydd wedi datgan anabledd (o 160,498). Ni fu unrhyw newid ers 2018/19.

Rydyn nin gwybod nad yw statws anabledd yn cael ei gynrychiolin ddigonol ar draws cwmnïau cyfreithiol. Yn ystod ein hymarfer casglu data amrywiaeth cwmnïau yn 2019, dim ond 3% o gyfreithwyr ddywedodd fod ganddynt anabledd. Rydym yn credu bod hyn yn cael ei dangynrychioli yng ngoleuni 20% o'r boblogaeth oed gweithio sy'n dweud eu bod yn anabl.7

Poblogaeth wrth ei gwaith – dadansoddiad o anabledd

Dim anabledd wedii gofnodi 99%
Anabledd wedii gofnodi 1%
  1. Nid ydym bob amser wedi casglu data anabledd yn y ffordd rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu gwahaniaethu, yn sicr, rhwng pobl sydd wedi datgan yn dweud nad oes ganddynt anabledd a’r rheini sydd heb ateb y cwestiwn.
  2. Cyfeirnod mewnol: addasu wrth ei symud i’r prif adroddiad
  3. Cyfeirnod mewnol yn unig: tudalen 3
  4. Pobl anabl mewn cyflogaeth, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Senedd y DU, Ebrill 2021.
  5. Mae hyn yn golygu na ellir adfer cyn gyfreithiwr sydd wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr oni bai fod y SDT yn caniatáu hynny.
  6. Cyfeirnod mewnol yn unig: gallech ddangos rhywfaint o’r data hwn pe baech yn eu grwpio gyda’i gilydd, er enghraifft grwpiau oedran, ond byddai’r grwpiau oedran yn fawr iawn o hyd. Ar gyfer y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a rhyw, gallech ddatgelu data am ddirwyon ond nid am y rheini sy’n cael eu gwahardd neu eu dileu oddi ar y gofrestr. Felly mae perygl i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol pe byddech chi’n ei gyhoeddi, a phe byddech yn cyhoeddi’r hyn y gallech ei gyhoeddi, ni fyddai’n rhoi darlun digon clir i chi o’r canlyniadau er mwyn gallu deall yr hyn sy’n mynd ymlaen.
  7. Pobl anabl mewn cyflogaeth, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Senedd y DU, Ebrill 2021.