Addysg a hyfforddiant

24 Medi 2021

Rydyn ni'n gosod safonau addysg a hyfforddiant ar gyfer cyfreithwyr er mwyn sicrhau bod y bobl rydyn ni'n eu caniatáu yn y proffesiwn yn gymwys. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn cael gwasanaeth o safon gan eu cyfreithwyr.

Rydyn ni am i bawb sy'n ymuno â'r proffesiwn gyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel. Ym mis Medi 2021, bydd un asesiad trylwyr yn cael ei gyflwyno, sef Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE). Bydd yr asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio yn lle'r llwybrau presennol at gymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd yn rhoi hyder i'r cyhoedd a'r proffesiwn mewn gwasanaethau cyfreithiol ac yn annog mwy o hyblygrwydd a dewis mewn hyfforddiant. Bydd yr hyblygrwydd, a fydd yn cynnwys opsiynau 'ennill wrth ddysgu', yn helpu i annog proffesiwn amrywiol, gan ddenu'r goreuon a'r mwyaf disglair o bob cymuned.

Mae'r siartiau isod yn rhoi manylion am ein gwaith o ran addysg a hyfforddiant ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol. Mae rhestr o'r termau ar gael ar waelod y dudalen hon. 

Sylwch, mae ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn ar gyfer mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2019/20 yn gywir fel ar 31 Hydref 2020.

Open all

Mae cyfreithwyr yn ymuno â’r proffesiwn ar hyn o bryd drwy amrywiaeth o lwybrau. Y rhain yw:

  • Dilyn gradd draddodiadol yn y gyfraith neu radd nad yw'n gysylltiedig â'r gyfraith a'r arholiad proffesiynol cyffredin, wedi'i ddilyn gan y cwrs ymarfer cyfreithiol (LPC) ac yna cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT).
  • Cymhwyso fel cyfreithiwr dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS).
  • Ymgeisio fel cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (mae amodau'n berthnasol). Ar ôl i'r DU adael yr UE yn 2020, dim ond cyfreithwyr o'r Swistir sydd wedi gallu cymhwyso drwy'r llwybr hwn ers mis Ionawr 2021.
  • Ymgeisio fel cyfreithiwr sydd wedi'i dderbyn yn barod yng Ngogledd Iwerddon neu yn Iwerddon.
  • Cymhwyso fel Swyddog Cyfreithiol Siartredig ac yna mynd ymlaen i wneud y cwrs ymarfer cyfreithiol.
  • Ymgeisio fel clerc ynadon cynorthwyol (mae amodau'n berthnasol).
  • Dull cyfatebol. Mae hyn yn caniatáu i unigolion gymhwyso drwy ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam hyfforddi penodol drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.

Mae'r siart a'r tabl isod yn dangos nifer yr unigolion a ymunodd â'r proffesiwn o bob llwybr rhwng 2013 a 2020. Mae cyfanswm y cyfreithwyr newydd sydd wedi ymuno â'r proffesiwn wedi aros yn gyson dros y saith mlynedd diwethaf, sef tua 6,500 y flwyddyn.

  2013/14  2014/15  2015/16  2016/17  2017/18  2018/19  2019/20 
LPC yna PRT 5,320 5,304 5,501 5,513 5,575 5,744 5,475
QLTS   251 346 421 541 603 521 606
CILEX a chlerc yr ynadon cynorthwyol 137 204 240 251 323 343 323
Gweriniaeth Iwerddon 158 134 148 136 131 188 124
Gogledd Iwerddon 27 32 31 17 28 35 31
EQM (o 2014/15) - 8 66 71 85 88 99
REL  20 32 29 53 34 76 60
QLTT  498 51 24 24 7 8 5
Arall - -  - 1 - - 0
 Cyfanswm 6,411 6,111 6,460 6,607 6,786 7,003 6,723
  • Roedd y Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT) yn rhagflaenydd i'r QLTS ond mae bellach wedi cael ei ddiddymu'n raddol a'i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â'r proffesiwn drwy'r llwybr hwn.
  • Gall 'arall' olygu bod yr unigolyn wedi cael ei dderbyn drwy gais eithriad Morgenbesser (ar gyfer y rheini sy'n rhannol gymwys o dan un o gymwysterau'r UE).
  • Mae rhai o'r ffigurau hyn yn wahanol i'r hyn rydyn ni wedi'i adrodd mewn blynyddoedd blaenorol. Rydyn ni nawr yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd newydd ac rydyn ni wedi adolygu data blaenorol. Mae'r dull newydd hwn yn rhoi mwy o eglurder ynghylch pa lwybr mae ymgeisydd wedi'i ddilyn, gyda mwy o lwybrau wedi'u nodi yn y siart uchod, ac rydyn ni wedi cywiro unrhyw wallau data yn y gorffennol.

Sefydliadau'n cynnal cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)

Rydyn ni'n awdurdodi sefydliadau i ddarparu cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, sef rhan o hyfforddiant cyfreithiwr sy'n seiliedig ar waith. Mae oddeutu tri chwarter y rhain yn gwmnïau cyfreithiol, ac mae'r gweddill yn dimau cyfreithiol mewnol neu'n ganolfannau cyfraith.

Mae'r nifer cynyddol o sefydliadau cyfreithiol sydd wedi'u hawdurdodi i gynnal cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig yn dangos galw cynyddol gan gwmnïau i ddatblygu talent a hyfforddi darpar gyfreithwyr yn eu busnes eu hunain.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
4,482 4,881 5,163 5,497 5,746 5,877 6,219

Mae cymhwyso drwy brentisiaeth cyfreithiwr yn gyfle i ennill cyflog a dysgu wrth wneud y swydd, ac mae'n cael gwared ar gostau hyfforddiant a chost sefyll arholiadau. Mae'n annog pobl o bob math o gefndiroedd i ddod yn gyfreithwyr. Fe wnaethom ddatblygu'r brentisiaeth arloesi yn y gyfraith gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau ei bod yn darparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt.

Daw'r ffigurau isod o'r haf bob blwyddyn.

2016/17 2017/18 2018/2019 2019/20
30 107 170 242

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer y prentisiaethau i gyfreithwyr. Mae'r ffigurau isod yn gywir.

Rydyn ni'n asesu a yw ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu derbyn fel cyfreithwyr yn addas i ymuno â'r proffesiwn drwy ein prawf cymeriad ac addasrwydd. Mae'r cwestiynau rydyn ni'n eu gofyn yn cynnwys y canlynol: A yw'r ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd? A yw'n wynebu unrhyw gamau gorfodi gan reoleiddiwr arall? A yw erioed wedi'i ddatgan yn fethdalwr? Wrth wneud ein penderfyniadau, rydyn ni'n ystyried yr holl wybodaeth y mae ymgeiswyr yn ei rhoi i ni ac, os oes pryderon posibl ynghylch a ydynt yn addas, unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i wella eu cymeriad.

Unigolion na chafodd eu derbyn i'r proffesiwn 2013-2020

Bob blwyddyn, rydyn ni'n gwrthod llond llaw o ymgeiswyr. Yn gyffredinol, y rheswm am hyn yw bod yr ymgeisydd wedi methu â datgelu gwybodaeth bwysig sy'n ymwneud â'i gymeriad neu ei addasrwydd, neu ei fod wedi methu â bodloni ein gofynion. Mae'r nifer sy'n cael eu gwrthod bob blwyddyn yn gyfyngedig gan fod rhai pobl yn tynnu eu ceisiadau'n ôl pan na allant fodloni ein gofynion.

Roedd cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn cael eu gwrthod yn 2013/14 oherwydd bod nifer o unigolion yn ymgeisio dan y cynllun QLTT cyn iddo gael ei ddisodli gan y QLTS. Nid oedd llawer o unigolion yn gallu dangos bod ganddynt y profiad gwaith angenrheidiol i drosglwyddo dan y cynllun ac felly nid oeddent yn gymwys i ymgeisio.

 

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
31 13 2 5 4 3 3

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer yr unigolion a gafodd eu gwrthod yn ein Hadolygiad Blynyddol 2015/16 a'n Hadolygiad Blynyddol 2017/18. Mae'r ffigurau isod yn gywir.

Mae cymhwyster hawl i ymddangos mewn uwch lys yn caniatáu i gyfreithwyr weithredu fel eiriolwr yn yr uwch lysoedd. Y rhain yw Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a'r Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr. Mae nifer y cyfreithwyr rydyn ni'n eu rheoleiddio sydd â hawl i ymddangos mewn uwch lys i'w gweld isod.

Mae cynnydd graddol wedi bod yn nifer y cyfreithwyr sydd â chymhwyster hawl i ymddangos mewn uwch lys dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r cynnydd hwn yn deillio o gynnydd yn y rhai sydd â chymhwyster i ymddangos mewn achosion sifil, ond mae gostyngiad bach wedi bod yn y rheini sydd â hawliau ar gyfer achosion troseddol neu'r ddau.

Mae'r canrannau'n cynrychioli cyfran o nifer yr unigolion sydd â hawl i ymddangos mewn achosion sifil, achosion troseddol, neu'r ddau ar gyfer y flwyddyn a ddangosir ar y chwith.

  Sifil Troseddol Y ddau Cyfanswm
2013/14

1,444

(23%)

3,352

(53%)

1,575

(25%)

6,371

2014/15

1,613

(25%)

3,372

(52%)

1,556

(24%)

6,541

2015/16

1,797

(27%)

3,363

(50%)

1,528

(23%)

6,688

2016/17

1,947

(29%)

3,305

(49%)

1,483

(22%)

6,735

2017/18

2,131

(31%)

3,272

(48%)

1,464

(21%)

6,867

2018/19

2,279

(33%)

3,200

(46%)

1,437

(21%)

6,916

2019/20

2,439

(35%)

3,153

(45%)

1417

(20%)

7,009

Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx)
Darparu hyfforddiant i fod yn weithredwr cyfreithiol.
Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE)
Cwrs cyfraith ôl-radd sy'n cael ei ddilyn gan raddedigion nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n dymuno bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Fe'i gelwir hefyd yn Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
Dull cyfatebol (EQM)
Llwybr i unigolion gael eu derbyn fel cyfreithwyr sy'n caniatáu iddynt ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam hyfforddi penodol drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.
Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC)
Cwrs hyfforddiant galwedigaethol gorfodol a ddilynir fel arfer ychydig cyn y PRT. Mae'n cyfuno hyfforddiant academaidd ac ymarferol, er mwyn paratoi myfyrwyr i weithio mewn cwmni cyfreithiol.
Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)
Dysgu gorfodol sy'n seiliedig ar waith, fel arfer mewn cwmni cyfreithiol, sy'n rhan o'r cam galwedigaethol ar y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys asesiad y mae'n rhaid i bobl ei wneud os ydynt eisoes wedi cymhwyso fel cyfreithiwr mewn awdurdodaeth arall ac yn dymuno cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Bydd bargyfreithwyr sy'n ymarfer yng Nghymru a Lloegr ac sy'n dymuno croesgymhwyso fel cyfreithiwr hefyd yn cymhwyso drwy'r llwybr hwn.
Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT)
Mae pwrpas y prawf hwn yr un fath â'r QLTS. Mae wedi cael ei ddiddymu'n raddol a'i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â'r proffesiwn drwy'r llwybr hwn.
Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE)
Un asesiad trylwyr a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2021 y bydd angen i bob darpar gyfreithiwr ei wneud i gymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd yn cael ei rannu'n ddwy ran, sef SQE1 a SQE2, a bydd yn asesu gwybodaeth gyfreithiol ymarferol a sgiliau cyfreithiol ymarferol.