Ein gwaith ar atal gwyngalchu arian

Y cyfnod adrodd hyd at fis Mawrth 2021

English Cymraeg

Rhagair gan Anna Bradley

Drwy wyngalchu arian, mae rhai o'r troseddau gwaethaf mewn cymdeithas yn gallu dod yn broffidiol. Pe na byddai troseddwyr yn gallu troi eu henillion yn arian cyfreithlon, byddai nifer mawr o droseddau'n colli eu hapêl a byddai pawb yn elwa o hynny.

Yn ei hasesiad diweddaraf o fygythiadau, mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn amcangyfrif bod o leiaf 70,000 o bobl yn ymwneud â throseddu cyfundrefnol difrifol yn y DU a bod mwy na £12bn o arian parod yn deillio o hynny bob blwyddyn.

Fel y porthgeidwaid ar gyfer prynu eiddo, sefydlu cwmnïau, cynghori ar drethi a gweithgareddau allweddol eraill, mae'r cyfreithwyr a ffyrmiau a reoleiddir gennym yn cyflawni rôl hanfodol wrth sicrhau bod yr elw o droseddu'n cael ei gadw allan o'n heconomi. Nid oes amheuaeth, yn fy marn i, nad yw'r sector cyfreithiol yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr hon yn erbyn troseddu.

Rwyf yn gwybod o'n trafodaethau â chymdeithasau cyfreithwyr lleol eleni fod cyflawni eu rhwymedigaethau i atal gwyngalchu arian yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r proffesiwn. Mae'r mwyafrif llethol am wneud y peth iawn, ond mae cyfran fach ond sylweddol o ffyrmiau o hyd lle na wneir digon i atal gwyngalchu arian. Yn ogystal â chaniatáu i droseddwyr elwa o'u gweithredoedd, mae'r rhain yn tanseilio'r ymddiriedaeth sydd gan ddefnyddwyr yn y proffesiwn, gan leihau hyder yn rheolaeth y gyfraith ac yng ngweinyddiaeth cyfiawnder.

Mae ein rôl goruchwylio o ran atal gwyngalchu arian yn un bwysig iawn i ni, fel y mae'r adolygiad hwn o'n gwaith yn 2020/21 yn dangos. Yn 2019, roeddem wedi darparu mwy o adnoddau yn y maes hwn ac wedi sefydlu tîm atal gwyngalchu arian drwy ddod â staff sydd â rhan mewn atal gwyngalchu arian at ei gilydd. Mae'r tîm hwn yn cynnwys arbenigwyr polisi, staff ymchwilio a thîm goruchwylio rhagweithiol. Yn ogystal â hyn, mae gennym swyddog a dirprwy swyddog dynodedig sy'n adrodd ar wyngalchu arian er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau i nodi ac adrodd ar amheuon am wyngalchu arian i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

O ganlyniad i ddarparu adnoddau ychwanegol, rydym wedi gallu cynyddu ein goruchwyliaeth yn y maes hwn er mwyn ymwneud yn uniongyrchol â rhagor o ffyrmiau drwy 85 o ymweliadau a 168 o adolygiadau desg. Drwy ymwneud yn fwy helaeth fel hyn, roeddem yn gallu cael gwell dealltwriaeth o'r ffordd y mae ffyrmiau sydd o dan ein goruchwyliaeth yn gweithio i atal gwyngalchu arian ac felly sicrhau bod mwy o ffyrmiau'n cydymffurfio â'r gofynion. O'r 85 o ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw, roedd 45 nad oeddent ond yn cydymffurfio'n rhannol. Roeddem wedi gweithio gyda'r ffyrmiau hyn, wedi adolygu rhagor o ddogfennau, a'u helpu i gydymffurfio'n llawn. O'r 168 o ffyrmiau a oedd yn destun adolygiad desg, roedd 79 yn cydymffurfio'n rhannol ac roeddem wedi gallu sicrhau bod y ffyrmiau hynny'n cydymffurfio'n llwyr. Yn y cyfnod hwn, gwnaethom 39 o adroddiadau am weithgarwch amheus i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol gan adrodd ar gyfanswm o £180 miliwn a allai ddeillio o droseddu ac rydym wedi sicrhau 29 o ganlyniadau gorfodi. Rydym wedi cynnal adolygiad thematig pellach, ym maes cynghori ar drethi y tro hwn, ac wedi cyhoeddi canllawiau buddiol ychwanegol ar gydymffurfio â'r rheoliadau gwyngalchu arian.

Mae llawer i'w wneud yn rhagor wrth gwrs. Yn ogystal â bwrw ymlaen â'n goruchwyliaeth ragweithiol ar ffyrmiau drwy ymweld â'u safleoedd, rydym eisoes wedi dechrau ar adolygiad thematig o rôl swyddogion cydymffurfio a swyddogion adrodd gwyngalchu arian, byddwn yn chwarae ein rhan yn nyfodol y rheoliadau gwyngalchu arian ac, wrth gwrs, yn parhau â'n gwaith gorfodi lle y bo angen.

Yn bwysicaf oll, mae ein hymroddiad i roi terfyn ar wyngalchu arian yn un clir ac rwyf felly'n annog pob ffyrm a phob cyfreithiwr i gymryd y camau sydd eu hangen i gwrdd â'u rhwymedigaethau.

Anna Bradley
Hydref 2021

Open all

Gwyngalchu arian yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd troseddwyr yn 'glanhau' yr elw (enillion ariannol) o droseddu. Mae troseddwyr yn troi elw yn asedau, fel tai neu fusnesau, neu'n arian o fath arall sy'n ymddangos yn gyfreithlon, er enghraifft, arian mewn cyfrif banc. Mewn rhai achosion, defnyddir arian a wyngalchwyd i ariannu terfysgaeth.

Drwy wyngalchu arian, mae'r elw hwn yn ymddangos fel ffynonellau incwm dilys, y gall troseddwyr eu gwario wedyn yn ddirwystr a heb godi amheuaeth. Yn aml, bydd troseddwyr o'r fath yn gwneud eu harian o ganlyniad i droseddu difrifol fel twyll, neu fasnachu pobl, bywyd gwyllt neu gyffuriau.

Mae troseddu cyfundrefnol yn costio mwy na £100bn bob blwyddyn i economi'r DU, ac mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn credu bod 4,500 o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gweithredu yn y DU. Hyn, ynghyd â'r cynnydd mewn ymosodiadau terfysgol yn y 10 mlynedd diwethaf, yw'r rheswm bod atal gwyngalchu arian yn flaenoriaeth ar lefel ryngwladol ac yn y DU, a bod deddfwriaeth ar hyn yn y DU.

Mae'r wybodaeth isod yn manylu ar ein gwaith yn y maes hwn ac yn nodi:

Dylid nodi ein bod yn gweithio yn ôl y flwyddyn gyfreithiol, rhwng 1 Tachwedd 2019 a 31 Hydref 2020, a bod y wybodaeth am hynny wedi'i chynnwys ar hyn o bryd yn ein hadroddiadau corfforaethol. Rydym yn cynnwys ein holl waith ar atal gwyngalchu arian yn ein hadroddiadau corfforaethol yn rhan o'n hymrwymiad i fod yn dryloyw ynghylch pob agwedd ar ein gwaith. Ar gyfer ein holl adroddiadau corfforaethol, rydym yn ceisio diweddaru'r rhifau'n rheolaidd fel y bydd pawb yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf. Rydym hefyd yn adrodd yn flynyddol i'r Trysorlys am ein gwaith ar atal gwyngalchu arian.

Rydym yn cynhyrchu'r adroddiad ychwanegol hwn yn rhan o'n cyfrifoldeb fel goruchwyliwr atal gwyngalchu arian a'n dyletswydd i adrodd am wybodaeth i'r Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol o dan reoliad 46A o'r rheoliadau. I'r diben hwn, rydym yn adrodd ar y flwyddyn gyllidol (6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021).

Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yw'r corff sy'n rheoleiddio cyfreithwyr a ffyrmiau cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithio i warchod aelodau o'r cyhoedd a chynnal rheolaeth y gyfraith a gweinyddiaeth cyfiawnder. Gwnawn hyn drwy oruchwylio'r holl ofynion am addysg a hyfforddiant sydd eu hangen i ymarfer fel cyfreithiwr, drwy drwyddedu unigolion a ffyrmiau i ymarfer, drwy osod safonau'r proffesiwn a thrwy reoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau hyn. Ni yw'r corff mwyaf sy'n rheoleiddio gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys tua 90% o'r farchnad a reoleiddir. Rydym yn goruchwylio oddeutu 158,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer a thua 10,000 o ffyrmiau cyfreithwyr. Rydym yn goruchwylio 6,516 o ffyrmiau i gwrdd â gofynion o ran atal gwyngalchu arian.

Mae'r rheoliadau a orfodir gennym ar atal gwyngalchu arian yn deillio o'r corff rhyngwladol sy'n gosod safonau, sef y Tasglu Gweithredu Ariannol, ac o gyfarwyddebau'r UE – er enghraifft, y Bedwaredd Gyfarwyddeb ar Wyngalchu Arian a'r Bumed Gyfarwyddeb ar Wyngalchu Arian (5MLD). Roedd y cyfarwyddebau hyn wedi'u cynnwys yn neddfwriaeth y DU drwy Reoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 (fel y'u diwygiwyd) (y rheoliadau). Yn y dyfodol, yn dilyn ein hymadawiad â'r UE, bydd deddfwriaeth newydd yn y DU yn fwy tebygol o ddeillio o argymhellion a wneir gan y Tasglu Gweithredu Ariannol a'r llywodraeth.

Mae'r rheoliadau'n pennu'r mathau o fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau a allai gael eu targedu gan wyngalchwyr arian. Mae'r rhain yn cynnwys banciau, gwerthwyr tai a rhai gwasanaethau cyfreithiol.

Gwyngalchu arian drwy'r sector cyfreithiol

Mae cyfreithwyr a ffyrmiau cyfreithwyr yn ddeniadol i droseddwyr am eu bod yn prosesu symiau mawr o arian, am eu bod yn ddibynadwy, ac am eu bod yn gallu peri bod trosglwyddo arian neu asedau'n ymddangos yn gyfreithlon. Mae'r rhan fwyaf o ffyrmiau cyfreithwyr yn gweithio'n galed i ganfod ac atal gwyngalchu arian ac yn cymryd y camau sy'n angenrheidiol, ond mae rhai'n cael eu tynnu i mewn yn ddiarwybod iddynt. Mae'n bosibl bod nifer bach ohonynt hyd yn oed yn cydweithredu'n fwriadol neu'n cydweithio â throseddwyr i wyngalchu arian.

Rhai o'r ffyrdd y bydd ffyrmiau a chyfreithwyr yn cael eu tynnu i mewn i wyngalchu arian, yn ddiarwybod iddynt neu fel arall, yw:

  • Trawsgludo – troseddwyr yn defnyddio'r elw o droseddu i brynu tai i fyw ynddynt, eu gosod ar rent neu eu gwerthu.
  • Sefydlu cwmnïau neu ymddiriedolaethau coeg – mae cyfreithwyr a ffyrmiau cyfreithwyr yn hanfodol mewn trafodiadau o'r fath.
  • Camddefnyddio cyfrifon cleientiaid – bydd troseddwyr yn ceisio camddefnyddio'r cyfrifon sydd gan gleientiaid ffyrmiau cyfreithwyr i 'lanhau' arian a wyngalchwyd.
  • Methu â chyflawni diwydrwydd dyladwy yn briodol – gall arian gael ei wyngalchu os na fydd ffyrmiau a chyfreithwyr yn gwneud digon i gadarnhau beth yw ffynonellau ariannol y cleientiaid.
  • Methu â hyfforddi staff – fel na fyddant yn gwybod sut i ganfod y posibilrwydd bod arian yn cael ei wyngalchu na phwy i'w hysbysu amdano.

Ein gwaith fel goruchwyliwr atal gwyngalchu arian

Mae'r rheoliadau'n enwi cyrff proffesiynol sydd â chyfrifoldebau dros oruchwylio gwaith i atal gwyngalchu arian. Cymdeithas y Cyfreithwyr yw'r goruchwyliwr sydd wedi'i enwi ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr ac mae'n dirprwyo gweithgareddau rheoleiddio i'r SRA. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni fonitro'n effeithiol y ffyrmiau sydd o dan ein goruchwyliaeth a chymryd mesurau angenrheidiol, yn cynnwys:

  • sicrhau bod y ffyrmiau a oruchwyliwn yn cydymffurfio â'r rheoliadau, ac yn cael y cymeradwyaethau angenrheidiol i'w perchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol gennym ni
  • mabwysiadu dull o weithredu seiliedig ar risg a seilio amlder a manylder ein goruchwyliaeth ar ein hasesiadau risg o ffyrmiau
  • annog y ffyrmiau o dan ein goruchwyliaeth i roi gwybod am doriadau gwirioneddol neu ddichonol ar y rheoliadau. Gwnawn hyn drwy'r canlynol:
    • gofyniad i adrodd ym mharagraff 3.9 o God Ymddygiad yr SRA i Ffyrmiau
    • darparu sianel gyfathrebu ddiogel ar gyfer hysbysu, llinell Red Alert.

Rhaid i ni gymryd mesurau priodol i adolygu:

  • yr asesiadau risg a gyflawnir gan ffyrmiau (o dan reoliad 18)
  • digonolrwydd y polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau sydd gan ffyrmiau (o dan reoliad 19 i 21 a 24), a'r ffordd y mae'r rhain wedi'u gweithredu.

Rydym yn gorfodi'r rheoliadau ar wyngalchu arian a enwyd uchod ac yn cyflawni ein gwaith fel goruchwyliwr atal gwyngalchu arian drwy'r canlynol:

  • rhannu a derbyn gwybodaeth i atal gwyngalchu arian â goruchwylwyr eraill ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith
  • cyhoeddi canllawiau ar y rheoliadau
  • goruchwylio rhagweithiol
  • ymchwilio i doriadau posibl ar y rheoliadau.

Offer goruchwylio

Defnyddiwn nifer o offer i oruchwylio ffyrmiau a gwella cydymffurfiaeth. Isod mae'r mathau o gamau a gymerwn ynghyd ag esboniad, yn cynnwys y ffordd rydym yn diffinio lefel y gydymffurfiaeth mewn ffyrm. Defnyddir y rhain ym mhob rhan o'r adroddiad.

Camau a gymerir Lefel y gydymffurfiaeth yn y ffyrm Beth mae hyn yn ei olygu
Rhoi canllawiau Cydymffurfio Y safon sy'n ofynnol yn y rheoliadau wedi'i chyrraedd, yn cynnwys achosion lle mae angen newidiadau bach a'n bod ni'n rhoi canllawiau neu'n rhannu'r arferion gorau.
Ymgysylltu Cydymffurfio'n rhannol – lle mae angen gwella rhai elfennau yn rheolaethau'r ffyrm, ond bod rhai arferion da a'r ffyrm yn gwneud yn dda at ei gilydd i atal gwyngalchu arian.

Rydym yn ymgysylltu â rhai ffyrmiau i'w helpu i wella eu prosesau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llwyr.
Wrth sôn am ein proses ymgysylltu â ffyrm benodol, rydym yn golygu proses lle mae angen cymryd camau cywiro mewn un neu ragor o feysydd ond lle nad yw'r angen mor gyffredinol fel bod galw am gynllun cydymffurfio. Yn ôl graddau'r camau sydd eu hangen, byddwn yn gofyn am dystiolaeth neu gadarnhad gan y ffyrm fod y mater wedi'i gywiro cyn i ni orffen yr ymgysylltu. Ar ôl anfon llythyr ymgysylltu, byddwn yn disgwyl i'r ffyrm ddatrys y mater a nodwyd a rhoi tystiolaeth i ni fod hyn wedi'i wneud. Gallwn atgyfeirio ffyrmiau i gael ymchwiliad disgyblu os byddant yn methu â gweithredu ar sail ein llythyr ymgysylltu.

Cynllun cydymffurfio Cydymffurfio'n rhannol – mewn nifer o feysydd neu lle mae lefel uchel o ddiffyg cydymffurfio. Bydd y cynllun cydymffurfio yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu y bydd angen i ffyrmiau eu cymryd, ac erbyn pa bryd, i ddod i gydymffurfio â'r rheoliadau. Byddwn yn monitro'r ffyrm i sicrhau ei bod wedi cymryd yr holl gamau a nodwyd. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth i ddangos bod camau wedi'u cymryd. Gallwn atgyfeirio ffyrmiau i gael ymchwiliad os byddant yn methu â dilyn y cynllun.
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad Diffyg cydymffurfio – enghreifftiau o hyn yw methu â chyflawni Diwydrwydd Dyladwy ynghylch Cwsmer, bod asesiad risg heb ei wneud ar gyfer y ffyrm gyfan, polisïau sydd wedi dyddio neu fethu â hyfforddi staff ar y rheoliadau. Byddwn yn cychwyn ymchwiliad i'r ffyrm, a all arwain at osod sancsiwn. Lle y bo angen, byddwn hefyd yn paratoi cynllun cydymffurfio.

Yn yr adroddiad hwn rydym wedi disgrifio rhai canfyddiadau o'n gwaith goruchwylio ar sail themâu, fel diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid, a'r camau rydym wedi'u cymryd. Yn aml, byddwn yn nodi mwy nag un mater yn y ffyrm, felly mae rhai ffyrmiau wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer nifer o themâu mewn gwahanol rannau o'r adroddiad. Mae hyn yn berthnasol iawn ar gyfer materion sydd wedi'u hatgyfeirio am ymchwiliadau disgyblu lle mae ffyrmiau wedi'u hatgyfeirio'n fynych i gael ymchwiliad o ganlyniad i nifer o doriadau.

Wrth benderfynu a fyddwn yn ymgysylltu â ffyrm neu'n ei hatgyfeirio, byddwn yn ystyried nifer o ffactorau, fel:

  • Graddau'r toriadau ac a ydynt i'w gweld mewn nifer o ffeiliau.
  • Effaith y toriad, er enghraifft, lle mae methu ag asesu ffeiliau o ran risg wedi arwain at waith annigonol ar ddiwydrwydd dyladwy, neu lle methwyd â nodi bod person yn unigolyn sy'n agored i'r risg o lygredd oherwydd ei le amlwg mewn bywyd cyhoeddus (PEP).
  • A oes diffyg cydymffurfio systematig, er enghraifft, ffyrm sydd heb bolisïau, rheolaethau a gweithdrefnau digonol ac sy'n methu â chydymffurfio â nifer mawr o reoliadau.

Ffyrmiau ac unigolion a reoleiddir gennym sydd o fewn cwmpas y rheoliadau

Mae ychydig mwy na chwe mil a hanner o ffyrmiau (6,516 ar 5 Ebrill 2021) yn dod o fewn cwmpas y rheoliadau ar wyngalchu arian, sef tua dwy ran o dair o'r holl ffyrmiau rydym yn eu hawdurdodi (9,947). Fel goruchwyliwr cyrff proffesiynol, rydym o dan ddyletswydd i sicrhau bod y ffyrmiau a oruchwylir gennym yn cydymffurfio â'r rheoliadau a bod rheolaethau priodol ar waith ganddynt i atal gwyngalchu arian.

Rydym wedi gwahanu nifer y ffyrmiau sydd o fewn cwmpas y rheoliadau yn y tabl isod am ei bod yn ofynnol i ni nodi a rhoi gwybod i Drysorlys EM ac i'n goruchwyliwr arolygu, y Swyddfa Goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian ar gyfer Cyrff Proffesiynol (OPBAS), am nifer y ffyrmiau a oruchwylir gennym i atal gwyngalchu arian sydd yn unigolion. Mae hyn yn wahanol i'n diffiniad o unig ymarferydd, lle y gall fod yn un sy'n cyflogi staff neu'n cydweithio ag eraill.

Ffyrmiau sy'n dod o dan y rheoliadau 2020/21

Nifer y ffyrmiau lle mae mwy nag un cyfreithiwr/Cyfreithiwr Ewropeaidd Cofrestredig (REL) yn ymarfer yn y ffyrm

5,222

Nifer y ffyrmiau lle mae un cyfreithiwr/REL yn unig yn ymarfer yn y ffyrm

1,294

Nifer yr holl ffyrmiau a reoleiddir gennym sydd o fewn cwmpas y rheoliadau

6,516

Ffyrmiau yn ôl risg

O dan y rheoliadau, mae'n ofynnol i ni greu proffiliau risg ar gyfer yr holl ffyrmiau a reoleiddir gennym. Gwneir hyn er mwyn canfod a blaenoriaethu risg. Defnyddir methodoleg sy'n edrych ar nifer o wahanol ffactorau i bennu risg, yn cynnwys hanes rheoleiddio a maint. Lle y bo'n briodol, edrychir hefyd ar fesurau lliniaru fel rheolaethau atal gwyngalchu arian. Byddwn yn arolygu ffyrmiau ar bob lefel risg drwy adolygiadau desg, prosiectau thematig, ac ymweliadau, gan roi blaenoriaeth i ffyrmiau sy'n wynebu risg fwy yn ein gwaith rhagweithiol, yn rhan o'n dull gweithredu seiliedig ar risg.

Nifer y perchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol

O dan y rheoliadau, mae'n ofynnol i berchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol gael eu cymeradwyo gennym ni. Rhaid iddynt gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'i gyflwyno i ni wrth ddod yn berchennog, swyddog neu reolwr llesiannol am y tro cyntaf neu wrth ymgymryd â rôl newydd. Mae'r tabl isod yn dangos nifer y perchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol a reoleiddir gennym fel yr oedd ar 5 Ebrill 2021.

2021
Nifer y perchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol 23,430

Sylwer bod y ffigurau isod ar gyfer 2017–2020 yn dilyn ein blwyddyn ariannol (1 Tachwedd i 31 Hydref) ac mae'r rhain ar gael hefyd yn ein set o adroddiadau corfforaethol ochr yn ochr ag adroddiadau am agweddau eraill ar ein gwaith. Mae'r ffigur ar gyfer 2020/21 yn dilyn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), felly mae rhywfaint o orgyffwrdd yn y rhifau a ddangosir yn y flwyddyn 2019/20 a'r flwyddyn 2020/21. Roeddem wedi newid ein dull o weithredu ar gyfer yr adroddiad hwn er mwyn dilyn y flwyddyn gyllidol, yn unol â'n dyletswydd o dan reoliad 46A o'r rheoliadau a chanllawiau a luniwyd wedyn gan OPBAS. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd ar nifer yr adroddiadau a gawn a'r mathau o achosion gorfodi a welwn. Yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn cysondeb, byddwn yn parhau i adrodd ar y flwyddyn dreth yn yr adroddiad hwn.

Nifer yr adroddiadau a gafwyd yn ymwneud â gwyngalchu arian

Rydym yn cael adroddiadau gan y proffesiwn a chan ddefnyddwyr am doriadau posibl ar y rheoliadau ac am weithgarwch gwyngalchu arian. Rydym yn monitro cyfryngau ac adroddiadau eraill am doriadau posibl, ac rydym hefyd yn cael cudd-wybodaeth gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a chyrff eraill sy'n gorfodi'r gyfraith. Mae nifer yr adroddiadau'n cynnwys rhai lle rydym wedi nodi toriad posibl ar y rheoliadau ein hunain, er enghraifft, drwy ymweld â ffyrm.

Rydym yn ymchwilio i achosion lle'r amheuir bod y rheoliadau gwyngalchu arian wedi'u torri ac achosion lle'r amheuir bod arian wedi'i wyngalchu.

2017/18 (blwyddyn ariannol SRA) 2018/19 (blwyddyn ariannol SRA) 2019/20 (blwyddyn ariannol SRA) 2020/21 (blwyddyn dreth)
235 197 196 273

Mae'r ffigurau ar gyfer 2020/21 yn dangos effaith ein gwaith rhagweithiol. Er bod nifer yr atgyfeiriadau o ganlyniad i ymweliadau ac adolygiadau desg yn gymharol isel, yn ystod y cyfnod hwn cafwyd 63 o adroddiadau oherwydd diffyg cydweithredu â'n hymarfer datganiadau am asesiadau risg o ffyrmiau cyfan. Cynhaliwyd yr ymarfer hwn yn Rhagfyr 2019 lle y gofynnwyd i'r holl ffyrmiau a oruchwylir gennym gwblhau datganiad i ddweud a oeddent wedi gwneud asesiad risg ar gyfer y ffyrm gyfan yn unol â'r rheoliadau. Gwnaed y cais hwn o dan reoliad 66 o'r rheoliadau. Roedd 63 o ffyrmiau wedi methu ag ymateb er cysylltu â nhw droeon wedyn ac roeddem wedi adrodd ar y rhain drwy ein prosesau gorfodi.

Mathau o adroddiadau a gafwyd

Rydym yn cofnodi'r rhesymau dros wneud adroddiad. Yn 2020/21 cafwyd 273 o adroddiadau a oedd yn ymwneud â gwyngalchu arian, a 336 o resymau'n gysylltiedig â'r rhain. Yn aml, bydd adroddiadau'n cynnwys mwy nag un toriad a amheuir y bydd angen ymchwilio iddynt a gall y rhain newid yn ystod cyfnod yr ymchwiliad wrth i ni gael rhagor o wybodaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am ein prosesau gorfodi. Y rhain oedd y prif resymau dros wneud yr adroddiadau a gawsom am atal gwyngalchu arian:

Rheswm yn ymwneud â mater penodol Nifer
methu â chydweithredu a chydymffurfio â chais am wybodaeth o dan reoliad 66 63
methu â gwirio ffynonellau arian lle'r oedd angen gwneud hynny 38
methu â chyflawni/cwblhau diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid 32
methu ag enwi'r cleient 24
methu â mabwysiadu gweithdrefnau priodol i atal gwyngalchu arian 19
methu â chyflawni monitro parhaus 12

Nifer y materion cysylltiedig â gwyngalchu arian a arweiniodd at ganlyniad mewnol

Lle'r ydym wedi gweld bod ffyrmiau neu unigolion wedi methu â chydymffurfio â rheoliadau gwyngalchu arian, gallwn gymryd camau. Rydym yn cyfeirio'r materion mwy difrifol i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Ar gyfer materion llai difrifol, mae'r canlyniadau mewnol yn cynnwys llythyr cynghori neu geryddu, lle byddwn yn atgoffa'r unigolyn neu ffyrm am ei gyfrifoldebau o dan y rheoliadau, yn dirwyo ffyrm neu unigolyn, neu'n gosod amodau ar ei dystysgrif ymarfer, yn cyfyngu'r hyn y gall ei wneud yn ei rôl.

2017/18 (blwyddyn ariannol SRA) 2018/19 (blwyddyn ariannol SRA) 2019/20 (blwyddyn ariannol SRA) 2020/21 (blwyddyn dreth)
10 14 21 16

Yn ystod 2020/21, roeddem wedi gosod naw dirwy a oedd yn dod i gyfanswm o £95,900. Gwnaethom gyfanswm o 16 o benderfyniadau mewnol yn ymwneud â phryderon am wyngalchu arian. Mae dadansoddiad isod o'r mathau o ganlyniad:

Canlyniadau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr Nifer
Dirwy 9 (yn dod i gyfanswm o £95,900)
Amod 2
Ymyriad 2
Llythyr cynghori 1
Ceryddu 1
Gorchymyn yn erbyn unigolyn a oedd heb ei dderbyn (a43/a93) 1

Mae rhagor o wybodaeth am y mathau o benderfyniad y gallwn eu gwneud, eu pwrpas, a'n strategaeth gorfodi, ar gael yma.

Nifer yr achosion cysylltiedig â gwyngalchu arian a gafodd eu dwyn i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Ar gyfer materion mwy difrifol, byddwn yn erlyn ffyrm neu unigolyn yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae ganddo bwerau sydd heb fod gennym ni, yn cynnwys gosod dirwyon heb uchafswm, ac atal cyfreithwyr rhag ymarfer neu ddileu eu henwau oddi ar y rhôl.

2017/18 (blwyddyn ariannol SRA) 2018/19 (blwyddyn ariannol SRA) 2019/20 (blwyddyn ariannol SRA) 2020/21 (blwyddyn dreth)
10 14 13 13

Mae dadansoddiad isod o'r canlyniadau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ar gyfer 2020/21:

Penderfyniad y Tribiwnlys Nifer
Dirwy 5 (yn dod i gyfanswm o £67,500)
Dileu enw 3
Atal am gyfnod penodol 2
Atal am gyfnod amhenodol 1
Gorchymyn yn erbyn unigolyn a oedd heb ei dderbyn (a43) 1
Ceryddu 1

Themâu o gamau gorfodi

Cafwyd cyfanswm o 29 o ganlyniadau gorfodi mewn perthynas â gwyngalchu arian. Y maes lle y cafwyd y nifer mwyaf o ganlyniadau oedd torri'r rheoliadau mewn perthynas â phrynu a gwerthu eiddo; roedd 24 o'r canlyniadau'n ymwneud â'r maes gwaith hwn. Roedd diwydrwydd dyladwy annigonol mewn perthynas â chwsmeriaid yn elfen mewn 83% o'r 29 canlyniad hynny.

Roedd yr achosion yn amlygu problemau penodol mewn perthynas â diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid. Roedd saith canlyniad yn cynnwys methu â chynnal monitro parhaus, a phump yn cynnwys methu â chyflawni diwydrwydd dyladwy manylach lle'r oedd hynny'n ofynnol. Achos pryder hefyd mewn tua dwy ran o dair o'r canlyniadau (20), oedd bod ffyrmiau hefyd wedi methu â chadarnhau ffynhonnell arian lle'r oedd yn ofynnol iddynt wneud hynny.

Rydym wedi canfod tair prif thema y credwn eu bod wedi cyfrannu i'r toriadau hyn:

  • Goruchwyliaeth neu hyfforddiant annigonol i enillwyr ffioedd.
  • Polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau annigonol, fel systemau a phrosesau gwael sy'n caniatáu derbyn arian heb gynnal gwiriadau.
  • Methiant ar ran unigolion i ddilyn polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau sy'n unol â'r rheoliadau a oedd yn cael eu gweithredu gan y ffyrm.

Rydym yn cynnwys astudiaethau achos o'n camau gorfodi ar ddiwedd yr adroddiad hwn.

Byddwn yn cyflwyno adroddiad am weithgarwch amheus i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), os byddwn yn canfod amheuon am wyngalchu arian drwy ein gwaith.

2017/18 (blwyddyn ariannol SRA) 2018/19 (blwyddyn ariannol SRA) 2019/20 (blwyddyn ariannol SRA) 2020/21 (blwyddyn dreth)
11 19 26 39

Mae'r cynnydd yn nifer yr adroddiadau am weithgarwch amheus a gyflwynwyd gennym i'r NCA dros y pedair blynedd diwethaf yn adlewyrchu:

  • presenoldeb swyddog adrodd gwyngalchu arian (MLRO) dynodedig a thîm atal gwyngalchu arian o 2018
  • mwy o hyfforddiant i staff ynghylch pa bryd i gyflwyno adroddiad mewnol am weithgarwch amheus i'r MLRO i'w adolygu
  • mwy o oruchwyliaeth ragweithiol ar ffyrmiau sy'n cyflawni gwaith sy'n dod o dan y rheoliadau.

Roedd yr adroddiadau am weithgarwch amheus a gyflwynwyd yn ymwneud â'r canlynol: 

  • trawsgludo eiddo
  • twyll
  • efadu trethi
  • cynlluniau buddsoddi coeg
  • cleientiaid / arian o awdurdodaethau uchel eu risg
  • nwyddau uchel eu risg (metelau gwerthfawr a metelau sgrap)
  • trafodiadau eiddo a derfynwyd cyn pryd
  • dim budd neu bwrpas cyfreithiol yn sail i'r trafodiad
  • ymddiriedolaethau/strwythurau cwmni alltraeth cymhleth.

Byddwn yn rhybuddio'r proffesiwn a rhanddeiliaid allweddol lle y gwelwn dueddiadau mewn gweithgarwch troseddol. Mewn ymateb i gynnydd yn y wybodaeth a gawsom am dwyll dichonol ynghylch eiddo yn ystod y cyfnod, roeddem wedi cyhoeddi rhybudd ynghylch twyll wrth werthu tai er mwyn tynnu sylw at y mater ar y cyfle cyntaf a disgrifio'r arwyddion o berygl i bobl eraill.

Byddwn yn ymweld â ffyrmiau i fonitro eu cydymffurfiaeth â'r rheoliadau am nifer o resymau:

  • ymweliad rhagweithiol yn rhan o'n rhaglen dreigl
  • ymchwiliad ar y safle lle'r ydym wedi cael adroddiad am ffyrm
  • yn rhan o waith thematig, lle byddwn yn rhoi sylw ychwanegol i agweddau penodol ar weithgareddau ffyrmiau i atal gwyngalchu arian.

Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'n hymweliadau a'n hadolygiadau thematig.

Fel arfer, cynhelir ymweliadau ynghylch atal gwyngalchu arian ar safle'r ffyrm. Oherwydd COVID-19 roeddem wedi addasu ein dull o weithredu er mwyn cynnal ein hymweliadau o bell yn ystod y pandemig.

Cyn dechrau'r pandemig, roedd 27 o ymweliadau ynghylch atal gwyngalchu arian wedi cael eu hamserlennu hyd at ddechrau haf 2020. Yn dilyn cyhoeddi'r cyfnod clo cenedlaethol ym Mawrth 2020, penderfynwyd bwrw ymlaen â'n cyfweliadau â swyddogion cydymffurfio gwyngalchu arian a swyddogion adrodd gwyngalchu arian y ffyrmiau, a oedd eisoes wedi'u hamserlennu i'w cynnal o bell, a gohiriwyd yr adolygiadau o ffeiliau a chyfweliadau ag enillwyr ffioedd nes byddem yn gallu ailddechrau ymweld â safleoedd.

Erbyn diwedd yr haf, daeth yn glir y byddai'r cyfnod clo yn parhau am gryn amser a dechreuwyd defnyddio dulliau cyfathrebu o bell i gynnal yr adolygiadau o ffeiliau a chyfweliadau ag enillwyr ffioedd a oedd heb eu cynnal ar gyfer y 27 ffyrm hyn. Cwblhawyd y rhain erbyn diwedd yr hydref.

Gwyddom fod ffyrmiau wedi gweld amharu ar eu ffyrdd arferol o weithio ac, yn gyffredinol, gwelsom fod ffyrmiau wedi ymaddasu'n dda i'r newid mewn amgylchiadau. Rydym yn ddiolchgar i'r holl ffyrmiau roeddem wedi ymwneud â nhw am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ymweliadau â ffyrmiau 2017–2021

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
73 140 75 85

Mae'r nifer uwch o ymweliadau yn 2018/19 yn adlewyrchu'r cynnydd yn ein goruchwyliaeth dros ffyrmiau, yn dilyn cyflwyno'r rheoliadau newydd ar wyngalchu arian yn 2017/18.

Ymweliadau â ffyrmiau yn ôl math 2020/21

Rhaglen dreigl o ymweliadau â ffyrmiau Yn rhan o ymchwiliad ar y safle Gwaith thematig
69 6 10

Rhaglen dreigl o ymweliadau â ffyrmiau

Ein dull o weithredu

Mae'r ymweliadau'n cynnwys cyfweliadau â'r swyddog cydymffurfio gwyngalchu arian, y swyddog adrodd gwyngalchu arian a dau enillydd ffioedd (os yw hynny'n gymwys i faint a natur y practis) wedi'u seilio ar ein holiadur atal gwyngalchu arian.

Yn gyfan gwbl, yn ystod y flwyddyn adrodd (2020/2021), cyfwelwyd 86 o unigolion a oedd yn cyflawni rolau swyddog cydymffurfio a swyddog adrodd gwyngalchu arian a 137 o enillwyr ffioedd mewn 69 o ffyrmiau. Ar gyfartaledd, roeddem yn treulio rhwng tair a phum awr yn cyf-weld yr unigolion ym mhob ffyrm.

Adolygwyd rhwng pedair ac wyth o ffeiliau ar gyfer pob ffyrm yn ôl maint a natur y ffyrm, gan archwilio cyfanswm o 349 o ffeiliau yn ystod y cyfnod.

Cynhaliwyd 27 o'n 69 o ymweliadau ynghylch atal gwyngalchu arian cyn gwneud y gwelliannau sydd wedi'u hamlinellu isod, ac roedd 42 o ymweliadau wedi'u cynnal drwy ein dull amgen o weithredu.

Gwella ein dull o weithio

Er mwyn parhau â'n dull manwl ac effeithiol o oruchwylio, roeddem wedi gwella ein dull o gynnal ymweliadau ar safleoedd yn hydref 2020, yn dilyn canfyddiadau ein Hymweliadau Atal Gwyngalchu Arian yn 2019–2020. Rhai o'r prif newidiadau oedd:

  • Creu holiadur i'w lenwi gan ffyrmiau cyn ein hadolygiad, fel y gallwn addasu ein hymweliad yn ôl natur gwaith y ffyrm.
  • Gwneud cais i'r ffyrm am ei dogfennau atal gwyngalchu arian a'u hadolygu cyn yr ymweliad ar gyfer y cwestiynau yn ein cyfweliadau.
  • Gofyn mwy o gwestiynau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o broffil risg y ffyrm a'r cysylltiad rhyngddo ac asesiad risg y ffyrm gyfan.
  • Gofyn mwy o gwestiynau am ddiwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid a'r ffordd y mae'r ffyrm yn monitro materion yn barhaus.
  • Adolygu mwy o ffeiliau ac adolygu cyfriflyfrau materion i gael gwell dealltwriaeth o drafodiadau a ffyrdd priodol o dderbyn arian.
  • Ailedrych ar fformat ein cyfweliadau ag enillwyr ffioedd er mwyn cael dealltwriaeth o'r hyn y mae'r enillydd ffioedd yn ei wybod am bolisïau, rheolaethau a gweithdrefnau'r ffyrm.

O ganlyniad i'r newidiadau hyn, mae ein goruchwyliaeth dros y ffyrm ei hun yn fwy trylwyr, ac rydym hefyd mewn lle gwell i ddeall themâu yn yr holl ffyrmiau a oruchwylir. bsp;

Canfyddiadau o ymweliadau a chamau dilynol a gymerwyd

Drwy ein hymweliadau, cafwyd bod y lefelau cydymffurfiaeth canlynol yn y 69 o ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw yn ystod ein rhaglen adolygiadau dreigl:

Cydymffurfio Cydymffurfio'n rhannol Heb gydymffurfio
16 45 8

Roeddem wedi cymryd y camau canlynol gyda ffyrmiau ar ôl ein hymweliadau:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Guidance issued 16
Letter of engagement 30
Compliance plan 15
Referred for investigation 8

Ymchwiliadau ar safleoedd

Roeddem wedi cynnal chwe adolygiad atal gwyngalchu arian ochr yn ochr ag arolygiadau mwy cyffredinol ar safleoedd gan ein tîm ymchwilio fforensig. Yn yr adolygiadau hyn, byddwn yn gweithredu yn yr un ffordd ag yn yr ymweliadau treigl â ffyrmiau. Y canlyniadau i'r ymchwiliadau hyn oedd:

Dim camau pellach/dim camau pellach ond rhoi canllawiau Ymchwiliad yn parhau
4 2

Ein canfyddiadau o ymweliadau

Mae'r prif ganfyddiadau o'n hymweliadau'n perthyn i'r categorïau canlynol:

  • diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid (DDC)
    • adnabod a gwirio
    • asesiadau risg o gleientiaid a materion
    • gwiriadau o ffynonellau arian
    • monitro parhaus
  • polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau
  • archwilio annibynnol
  • sgrinio a hyfforddi.

Gwelsom rai diffygion o ran DDC ac rydym wedi rhannu hyn yn ofynion penodol sy'n rhan o DDC, fel asesiadau risg o faterion a gwiriadau o ffynonellau arian. Rydym wedi ymdrin ar wahân â'r elfennau hyn mewn DDC a darparu ystadegau isod am yr hyn rydym yn ei weld.

Rydym yn parhau i weld bod ffyrmiau'n ei chael yn anodd cwrdd â gofynion o ran sgrinio ac archwilio annibynnol ac roedd 49 o blith 69 o ffyrmiau heb gynnal archwiliad annibynnol, a'r un nifer lle'r oedd angen cymryd camau gan y tîm atal gwyngalchu arian i sicrhau cydymffurfiaeth gan ffyrmiau. Yn ogystal â hyn, roedd 60% o bolisïau, rheolaethau a gweithdrefnau a adolygwyd drwy ein proses newydd yn rhai a oedd heb gydymffurfio neu ond wedi cydymffurfio'n rhannol. Mae rhagor o fanylion isod am y meysydd hyn.

Diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid

Er mwyn sicrhau bod ffyrmiau'n cyflawni DDC, rydym yn adolygu ffeiliau cleientiaid. Oni nodir fel arall, mae'r canfyddiadau manwl sydd yma yn ymwneud â'r 42 o ymweliadau a gynhaliwyd drwy ein proses ddiwygiedig, lle'r oeddem wedi gofyn mwy o gwestiynau, adolygu mwy o ffeiliau ac edrych yn fwy manwl ar y problemau sy'n gysylltiedig â DDC. Roedd y canfyddiadau o weddill yr ymweliadau wedi'u cofnodi yn ein hadroddiad am ymweliadau blaenorol.

Mae DDC yn cynnwys nifer o elfennau:

  • Adnabod a gwirio: cadarnhau mai'r cleient yw'r un y mae'n dweud ei fod, neu yn achos cwmni, pwy sy'n ei reoli.
  • Asesiadau risg o gleientiaid a materion: deall y trafodiad/mater a phennu'r risg sy'n deillio o'r cleient a'i drafodiad.
  • Gwiriadau o ffynonellau arian: cadarnhau o ble mae'r arian am y trafodiad yn dod.
  • Monitro parhaus: sicrhau bod y wybodaeth yn parhau'n gywir, bod y ffyrm yn parhau i allu goddef lefel y risg, ac asesu a oes angen cynnal gwiriadau pellach.

Er mwyn monitro cydymffurfiaeth yn y ffyrm gyfan, byddwn yn samplu cymysgedd o ffeiliau, rhai agored a rhai wedi'u cau, ac amrywiaeth o gleientiaid sy'n cwmpasu unigolion, ymddiriedolaethau a chwmnïau. Byddwn hefyd yn dewis ffeiliau o'r gwahanol feysydd ymarfer sydd o fewn cwmpas y rheoliadau er mwyn cael golwg ehangach ar gydymffurfiaeth yng ngwahanol adrannau'r ffyrm.

Yn 2020/21, roeddem wedi adolygu 241 o ffeiliau drwy ein proses ddiwygiedig, ac mae'r canfyddiadau o hyn wedi'u disgrifio isod.

Adnabod a gwirio

Cawsom fod ffyrmiau'n cyflawni'r agwedd hon ar DDC yn dda at ei gilydd. O'r 241 o ffeiliau a archwiliwyd, roedd gwiriadau a dogfennau priodol mewn 180 ohonynt. Cawsom 50 o ffeiliau a oedd heb gofnodion priodol am adnabod a gwirio, yn cynnwys rhai am y rhesymau canlynol:

  • Dim dogfennau DDC o gwbl.
  • Dim ond am un unigolyn o blith nifer o unigolion a oedd yn gysylltiedig â'r trafodiad y cafwyd cadarnhad o bwy oedd.
  • Nid oedd y ffyrm wedi cael gwybodaeth am berchennog llesiannol olaf y cwmni.

Roedd polisi da ar gyfer adnabod a gwirio gan fwyafrif helaeth y ffyrmiau (pob ffyrm heblaw un) ond, lle'r oeddem wedi canfod problemau, nid oedd y broses wedi'i dilyn.

Asesiadau risg o gleientiaid a materion

Roeddem wedi adolygu 241 o ffeiliau; roedd 33% heb asesiad risg, neu nid oedd yr asesiad wedi'i gwblhau ac nid oedd lefel y risg wedi'i phennu. Yn achos y 42 o ffeiliau lle na phennwyd lefel y risg, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd proses y ffyrm yn unol â'r rheoliadau neu nid oedd wedi'i dilyn.

Daeth thema debyg i'r golwg yn achos y 37 o ffeiliau a oedd heb asesiad risg o gwbl. Y prif reswm am hyn oedd methu â chydymffurfio â phrosesau'r ffyrm yn hytrach na bod y ffyrm heb brosesau ar waith i asesu risgiau sy'n deillio o'r cleient a'r mater.

Yn gyffredinol, roeddem wedi darparu adborth i fwy nag un rhan o dair (37%) o'r ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw am eu proses asesu risg ar gyfer cleientiaid a materion:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Rhoi canllawiau 5
Llythyr ymgysylltu 11
Cynllun cydymffurfio 6
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 5

Gwiriadau o ffynonellau arian

Mae hwn yn faes lle y gwelwyd nifer o broblemau. Rhaid i ffyrmiau fabwysiadu polisïau ar wiriadau o ffynonellau arian a ffynonellau cyfoeth, gan fod rhai meysydd lle mae'r rheoliadau'n gofyn am y gwiriadau hyn a rhai meysydd lle maent yn ddibynnol ar risg. Mae'n hollbwysig cynnwys y wybodaeth hon fel bod staff yn glir ynghylch pa bryd ac ym mha ffordd y dylid cynnal y gwiriadau.

Mae'n bwysig bod ffyrmiau, wrth weithredu ar sail risg, yn deall yn glir beth yw'r risg sy'n codi mewn achos penodol, a'r risg a wynebir os na wneir y gwiriadau hyn. O dan y rheoliadau, mae'n ofynnol bod ffyrmiau'n deall y mater sydd mewn llaw, a gall hyn fod yn anodd os nad ydych yn deall beth yw ffynhonnell yr arian. Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl am y gofynion ac am arferion da a gwael yn ein hadroddiad am ymweliadau blaenorol.

Roedd bron chwarter y ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw heb gynnwys gwybodaeth am wiriadau o ffynonellau arian a ffynonellau cyfoeth yn eu polisïau.

O blith 241 o ffeiliau, roedd 76 yn cynnwys gwiriadau priodol o ffynonellau arian, ond roedd 103 o ffeiliau heb eu cynnwys. Mewn 62 o ffeiliau, nid oedd gwiriadau o ffynonellau arian yn ofynnol neu roedd y trafodiad wedi methu (er y gallai hyn fod wedi digwydd ar unrhyw gam yn y broses).

Yn gyffredinol, roedd angen cymryd camau gyda 25 o'r 69 o ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw, ac atgyfeiriwyd saith o'r rhain ar gyfer ymchwiliad lle'r oedd diffygion o ran gwirio ffynonellau arian yn un o'r rhesymau dros yr atgyfeiriad:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Llythyr ymgysylltu 13
Cynllun cydymffurfio 5
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 7

Yn gyffredinol, gwelsom fod prinder o ran gwybodaeth a thystiolaeth am ffynonellau arian ar ffeiliau. Mae'n hollbwysig deall beth yw ffynhonnell arian er mwyn deall lefel y risg sydd ynglŷn â'r trafodiad. Er bod nifer o ffyrmiau'n gallu cynnig esboniad o'r ymholiadau roeddent wedi'u gwneud, ar gyfran fawr o'r ffeiliau nid oedd trywydd archwilio.

Mae canllawiau'r Grŵp Perthynol i'r Sector Cyfreithiol wedi'u diweddaru ac maent bellach yn darparu rhagor o fanylion am wybodaeth a thystiolaeth am ffynonellau arian. Byddwn yn parhau i dynnu'r canllawiau hyn i sylw ffyrmiau. Byddwn hefyd yn parhau i atgoffa ffyrmiau am eu rhwymedigaethau parhaus i fonitro trafodiadau a chraffu ar ffynonellau arian lle y bo angen.

Yn Ebrill 2021 roeddem wedi cymryd camau pellach i ddiwygio ein proses ar gyfer arolygu cydymffurfiaeth â gofynion am fonitro ffynonellau arian er mwyn canfod y math o wybodaeth y mae ffyrmiau'n ei gofnodi ar ffeiliau. Bydd hyn yn ein helpu i gynnal dadansoddiad manwl o'r math o wybodaeth a gesglir gan ffyrmiau o hyn ymlaen.

Monitro parhaus

Pan fyddwn yn asesu'r monitro parhaus gan ffyrmiau, byddwn yn ystyried:

  • Sut mae ffyrmiau'n sicrhau bod y DDC a geir yn parhau'n briodol i lefel y risg.
  • A oes angen newid lefel y risg ac a yw hynny'n peri bod angen gwneud gwiriadau ychwanegol.
  • A oes proses ragweithiol ar gael os bydd rhywbeth yn newid gan beri bod angen ail-wneud y DDC. Gallai hyn ddigwydd os bydd y cyfarwyddyd gan y cleient yn newid, neu os bydd gwybodaeth newydd yn dod i'r golwg am y rheini sy'n gysylltiedig â thrafodiad.
  • Sut mae'r DDC yn cael ei ddiweddaru a'i ail-wneud os bydd y dogfennau'n peidio â bod yn briodol neu'n ddilys.

Gwelsom ddarlun cymysg o ran monitro parhaus. Roeddem wedi cymryd camau ar fonitro parhaus (sydd wedi'u disgrifio isod) gydag 16 o blith 42 o ffyrmiau. Roedd hyn yn cynnwys achosion lle nad oedd eu polisïau'n darparu gwybodaeth ddigonol ynghylch pa bryd y dylid cynnal monitro parhaus a pha wiriadau y dylid eu gwneud, ac achosion lle'r oeddem wedi canfod problemau ar ffeiliau. Cymerwyd y camau canlynol:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Rhoi canllawiau 2
Llythyr ymgysylltu 5
Cynllun cydymffurfio 5
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 5

Roedd ychydig llai na hanner y ffyrmiau wedi mabwysiadu polisi ynghylch pa bryd neu sut y dylid ail-wneud DDC (22 o blith 42). Mewn perthynas â'r ffyrmiau a oedd heb nodi yn eu polisi pa bryd y dylid ail-wneud DDC, roeddem wedi cymryd y camau canlynol:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Rhoi canllawiau 3
Llythyr ymgysylltu 7
Cynllun cydymffurfio 4
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 6

Polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau

Gwelsom fod angen cymryd camau mewn perthynas â 55 y cant o'r polisïau a adolygwyd gennym. Ar ôl gweithredu rheoliadau diwygio 2019, gwelsom fod bron hanner y polisïau a adolygwyd (29) heb gael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a oedd wedi dod yn ofynnol.

Y testun pryder mwyaf oedd lle nad oedd y ffeiliau a adolygwyd yn adlewyrchu'r gofynion ym mholisïau, rheolaethau a gweithdrefnau (PRhGau) y ffyrm ei hun a'r hyn roedd y swyddog cydymffurfio gwyngalchu arian wedi'i ddweud wrthym am y broses y dylid ei dilyn. Gwelsom hyn mewn 22 o'r 69 o ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw yn ystod y cyfnod. Roedd hyn yn awgrymu nad oedd PRhGau y ffyrm yn cael eu dilyn.

Roedd adolygiad o'r polisïau o dan ein proses ddiwygiedig (42 o ffyrmiau) yn dangos y lefelau canlynol o gydymffurfio a diffyg cydymffurfio:

Cydymffurfio (rhoi canllawiau) Cydymffurfio'n rhannol (ymgysylltu neu gynllun cydymffurfio) Heb gydymffurfio (atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad)
17 17 8

Gwelsom fod meysydd yn cael eu gadael allan yn aml yn y polisïau er eu bod yn ofynnol o dan reoliad 19. Mae rhestr isod o'r bylchau mwyaf cyffredin.

Maes sy'n ofynnol o dan reoliad 19 sydd heb ei gynnwys yn y polisi Nifer
Dim gwybodaeth am drydydd gwledydd uchel eu risg 15
Dim gwybodaeth am y mesurau ychwanegol, lle y bo'n briodol i atal y defnydd o gynhyrchion a thrafodiadau a allai ffafrio anhysbysrwydd ar gyfer gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth 14
Dim gwybodaeth am safbwynt y ffyrm ar ymddiried 13
Dim gwybodaeth am ddulliau diwydrwydd dyladwy symlach ac a yw'r rhain i'w caniatáu 10
Dim gwybodaeth am ofynion manylach am ddiwydrwydd dyladwy 9

Hyd yn oed os nad yw ffyrmiau'n caniatáu ymddiriedaeth neu ddiwydrwydd dyladwy symlach (DDS), rhaid datgan hynny'n benodol yn eu polisïau. Yn ogystal â'r ffaith bod hwn yn ofyniad cyfreithiol, os yw'r polisi'n fud ar y meysydd hyn, gall y rheini sy'n cynnal DDC benderfynu ymgymryd â DDS neu ddibynnu ar DDC rhywun arall pan nad yw'n briodol gwneud hynny, ac felly peidio â chwrdd â'r gofynion manwl mewn perthynas â'r rhain sydd yn y rheoliadau. Os nad yw'r ffyrm yn caniatáu DDS neu ymddiriedaeth, rhaid iddi sicrhau bod ei pholisi'n amlinellu ei phroses, a'r dogfennau a'r wybodaeth y mae angen eu cael, a'i fod yn unol â'r gofynion yn y rheoliadau.

Monitro cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolaethau a gweithdrefnau

Ers i ni ddiwygio ein proses ar gyfer ymweliadau, rydym bellach yn ystyried sut mae ffyrmiau'n monitro cydymffurfiaeth â'u PRhGau. Cawsom fod 29 o'r 42 o ffyrmiau'n cynnal adolygiadau o ffeiliau i fonitro cydymffurfiaeth â'u PRhGau a chydymffurfiaeth â'r rheoliadau a'u bod yn cadw cofnodion o'r adolygiadau o ffeiliau y maent yn eu cynnal.

Ar gyfer y ffyrmiau hynny lle nad oedd cofnodion am fonitro cydymffurfiaeth, rydym yn eu hatgoffa o'u rhwymedigaeth o dan reoliad 19(3)(e) o'r rheoliadau i fonitro a rheoli cydymffurfiaeth â PRhGau. Mae'r gofyniad hwn yn gymwys i'r holl ffyrmiau sydd o fewn cwmpas y rheoliadau, ac nid yw'n dibynnu ar eu maint na'u natur.

Archwilio annibynnol

Mae nifer y ffyrmiau sy'n methu â chyflawni swyddogaeth archwilio annibynnol yn parhau'n uchel (49 o blith 69 o ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw yn y cyfnod). Rydym yn parhau i ymgysylltu â ffyrmiau lle mae archwilio'n ofynnol oherwydd eu maint a'u natur, i sicrhau eu bod yn cyflawni swyddogaeth archwilio annibynnol a'u bod yn adolygu'r canlyniadau unwaith y bydd wedi'i chyflawni.

Mae'r swyddogaeth archwilio annibynnol yn bwysig gan ei bod yn gallu helpu ffyrmiau i weld pa mor ddigonol ac effeithiol yw eu PRhGau, ac a oes angen unrhyw newidiadau ynddynt.

Roedd dadansoddiad o'n data diweddaraf am ymweliadau â ffyrmiau yn dangos bod yr holl ffyrmiau a gafodd gynllun cydymffurfio neu a atgyfeiriwyd ar gyfer ymchwiliad yn rhai a oedd heb gyflawni swyddogaeth archwilio annibynnol. Mae cyflawni swyddogaeth archwilio annibynnol yn helpu i ddangos gwendidau yng ngweithdrefnau'r ffyrm a sicrhau eu bod yn cael eu cywiro.

Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl am y gofyniad hwn, yn cynnwys arferion da a gwael, yn ein hadroddiad am ymweliadau blaenorol.

O ran y canfyddiadau diweddaraf yn y maes hwn, rydym wedi gweld, lle'r oedd archwiliad wedi'i gynnal, fod rhai achosion lle nad oedd yn cwrdd â gofynion rheoliad 21:

Diffyg cydymffurfio â gofynion am archwilio annibynnol Nifer
Roedd adolygiadau wedi'u cynnal ond nid oeddent yn ddigon dibynadwy neu nid oeddent yn rhai ffurfiol 15
Methu ag ystyried a gwerthuso polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau'r ffyrm o ran eu heffeithiolrwydd (heb elfen o brofi drwy adolygu ffeiliau) 10
Methu ag ystyried a gwerthuso polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau'r ffyrm o ran eu digonolrwydd (dim adolygiad trwyadl o bolisïau ar sail y gofynion ac anghenion y ffyrm) 5
Diffyg annibyniaeth (wedi'i gyflawni gan bersonau a oedd yn gysylltiedig â llunio'r polisïau) 3

Sgrinio

Roedd 49 o blith 69 o ffyrmiau wedi cael adborth am fesurau sgrinio. Roedd y rhan fwyaf o ffyrmiau'n arfer sgrinio cyflogeion newydd wrth eu penodi.

Roedd dadansoddiad o'r gwiriadau sgrinio a gwblhawyd ar gyfer cyflogeion newydd yn dangos bod y canlynol wedi'u cyflawni:

Gwiriadau a gyflawnwyd ar gyfer cyflogeion newydd Nifer
Cymwysterau 61
Tystlythyrau 67
Hanes rheoleiddio 45
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd 51

Mewn perthynas â chyflogeion presennol, gwelwn o hyd fod ffyrmiau'n methu â chynnal gwiriadau sgrinio cyson yn unol â'r rheoliadau. Dim ond naw o'r 69 o ffyrmiau a oedd wedi gwirio hanes rheoleiddio cyflogeion presennol.

Gellir gwirio hanes rheoleiddio cyflogeion ar yr offeryn Cofrestr Cyfreithwyr ar ein gwefan, neu drwy ffonio neu anfon e-bost i'n canolfan gyswllt. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim ac rydym yn annog ffyrmiau i ddefnyddio'r offeryn hwn wrth benodi ac yn rheolaidd ar sail risg.

Fodd bynnag, ers i ni ddiwygio ein proses ymweliadau, calonogol yw gweld mewn perthynas ag asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cyflogeion presennol fod:

  • 34 o'r 42 o ffyrmiau'n cynnal arfarniadau
  • 28 o'r 42 o ffyrmiau'n cynnal adolygiadau o ffeiliau.

Yn gyffredinol, mae ein dadansoddiad yn dangos bod ffyrmiau'n well o ran sgrinio cyflogeion newydd, ond eu bod yn syrthio'n fyr o hyd mewn perthynas â mesurau sgrinio parhaus ar gyfer cyflogeion presennol. Rydym yn dechrau gweld gwelliant yn y maes hwn a thrwy ein dull gweithredu diwygiedig gallwn gael gwell dealltwriaeth o'r mathau a wiriadau a wneir. Mae hefyd yn galonogol gweld bod ffyrmiau'n delio ar sail risg â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: er enghraifft, mae nifer ohonynt yn cynnwys y gwiriadau hynny wrth benodi (51 o ffyrmiau) ac ar gyfer staff presennol (38 o ffyrmiau). 

Rydym yn parhau i atgoffa ffyrmiau am gynnal gwiriadau o hanes rheoleiddio ar gyfer cyflogeion presennol lle y bo angen.

Hyfforddi

Yn gyffredinol, gwelsom rai arferion da yn y maes hwn, ac roedd 50 o ffyrmiau wedi cynnal eu hyfforddiant diweddaraf o fewn y flwyddyn ddiwethaf. Cawsom wybod hefyd fod 62 o swyddogion cydymffurfio gwyngalchu arian wedi cael hyfforddiant ychwanegol ar atal gwyngalchu arian.

Er hynny, roeddem wedi nodi pryderon mewn perthynas â chofnodion hyfforddi fel a ganlyn:

Problem o ran cofnodion hyfforddi Nifer
Methu â darparu cofnodion hyfforddi neu dystiolaeth bod hyfforddiant wedi digwydd 8
Nid oedd y cofnod yn dangos pwy oedd wedi cwblhau'r hyfforddiant 6
Nid oedd y cofnod yn dangos pa bryd roedd yr hyfforddiant wedi digwydd 2
Nid oedd y cofnod yn dangos pa hyfforddiant oedd wedi'i ddarparu 2

Mae'n bwysig bod ffyrmiau'n gallu dangos cofnodion yn unol â gofynion y rheoliadau er mwyn dangos pwy sydd wedi cael hyfforddiant, pa bryd y digwyddodd a beth oedd ei gynnwys. Os na chedwir cofnod, mae'n anodd monitro'ch cydymffurfiaeth eich hun â'r rheoliadau a dangos tystiolaeth i ni fod yr hyfforddiant wedi digwydd.

Dylai ffyrmiau ystyried pa lefel o hyfforddiant sydd ei hangen ar eu staff, yn ôl eu rôl, ac a yw'r hyfforddiant yn ddigon perthnasol i'w prosesau a gweithdrefnau a'u parodrwydd i dderbyn risg. Mae'n bwysig hefyd fod ffyrmiau'n ystyried y wybodaeth a'r sgiliau sydd gan y person sy'n darparu'r hyfforddiant ac a yw'r hyfforddiant yn gyson â'r gyfraith ddiweddaraf.

Adolygiadau desg yw un o'r prif ddulliau a ddefnyddiwn i adolygu ac asesu polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau ffyrmiau ac asesiadau risg o ffyrmiau cyfan i weld a ydynt yn ddigonol.

Mae ein hadolygiadau un ai'n:

  • Adolygiadau o asesiadau risg ffyrmiau cyfan – i asesu'r gydymffurfiaeth gan ffyrmiau â rheoliad 18 o'r rheoliadau, neu'n
  • Adolygiadau desg llawn – mae hyn yn cynnwys adolygu asesiad risg y ffyrm gyfan, polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau'r ffyrm ar atal gwyngalchu arian, yr asesiadau risg o gleientiaid a materion a sampl o ffeiliau'r ffyrm er mwyn asesu cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolaethau a gweithdrefnau'r ffyrm ar atal gwyngalchu arian a hefyd â'r rheoliadau.

Roeddem wedi cynnal 168 o adolygiadau yn 2020/21: 98 o adolygiadau o asesiadau risg ffyrmiau cyfan a 70 o adolygiadau desg.

Adolygiadau o asesiadau risg ffyrmiau cyfan

Er mwyn penderfynu a oedd asesiad risg o ffyrm gyfan yn cydymffurfio â'r rheoliadau, roeddem wedi ystyried a oedd yn rhoi sylw i feysydd allweddol sy'n ofynnol yn y rheoliadau:

  • Yr asesiad risg cenedlaethol. 
  • Ein hasesiad risg sectoraidd.
  • Pob un o'r pum maes risg allweddol sydd yn rheoliad 18.

Roeddem hefyd wedi ystyried a oedd yr asesiad risg ar gyfer y ffyrm gyfan yn un addas i'r ffyrm a'r risgiau penodol y mae'n eu hwynebu wrth atal gwyngalchu arian.

Canfyddiadau o adolygiadau risg o ffyrmiau cyfan a chamau a gymerwyd

Gwelwyd y lefelau canlynol o gydymffurfiaeth yn ein hadolygiadau:

Cydymffurfio Cydymffurfio'n rhannol Heb gydymffurfio
38 50 10

Roeddem wedi cymryd y camau canlynol gyda ffyrmiau yn dilyn ein hadolygiad o'u hasesiad risg ar gyfer y ffyrm gyfan:

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Rhoi canllawiau 38
Ymgysylltu 40
Cynllun cydymffurfio 8
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 12 (roeddem hefyd wedi cynnal adolygiad desg llawn wedyn ar ddwy ffyrm)

Adolygiadau desg

Mae ein hadolygiadau desg yn cynnwys dadansoddi manwl o'r asesiad risg ar gyfer y ffyrm gyfan a'i pholisïau, rheolaethau a gweithdrefnau ar gyfer atal gwyngalchu arian. Drwy wneud hyn, gallwn asesu a yw'r asesiad risg yn gyson â'r asesiadau risg o gleientiaid a materion ac a yw'r polisïau ar atal gwyngalchu arian yn effeithiol ac yn cael eu dilyn.

Rydym yn adolygu rhwng pedair ac wyth o ffeiliau ar gyfer pob ffyrm, yn dibynnu ar faint y ffyrm, y math o waith y mae'n ei wneud a natur ei chleientiaid. Ar gyfer ffyrmiau mwy, neu'r rheini sy'n gwneud llawer o waith a reoleiddir, byddwn yn debygol o adolygu wyth ffeil. Weithiau, gallwn ofyn hefyd am weld rhagor o ffeiliau, os nad ydym wedi gallu cwblhau ein hasesiad ar sail y rhai a ddarparwyd, neu os oes angen i ni gael golwg ehangach ar yr hyn sy'n digwydd, er enghraifft, os oeddem wedi dewis ffeiliau lle'r oedd y trafodiad wedi methu. O'r 70 o adolygiadau desg a ddechreuwyd yn 2020/21, mae 45 wedi'u cwblhau ac mae 25 yn parhau.

Canfyddiadau o adolygiadau desg a chamau a gymerwyd

Cafwyd y lefelau canlynol o gydymffurfiaeth yn ein hadolygiadau:

Cydymffurfio Cydymffurfio'n rhannol Cydymffurfio'n rhannol Adolygiad yn parhau Cymryd camau oherwydd diffyg cydweithredu
10 29 6 25 1

Roeddem wedi cymryd y camau canlynol gyda 46 o ffyrmiau yn dilyn yr adolygiadau (mae'r ffigurau hyn yn cynnwys ffyrm a oedd heb gydweithredu â'n cais a gafodd ei hatgyfeirio wedyn):

Camau a gymerwyd Nifer y ffyrmiau
Rhoi canllawiau 10
Ymgysylltu 22
Cynllun cydymffurfio 7
Atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 7

Roeddem wedi canfod themâu tebyg i'r rheini a welwyd yn yr ymweliadau â ffyrmiau mewn perthynas â meysydd diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid sydd wedi'u categoreiddio uchod.

Polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau

Gwelsom themâu tebyg hefyd mewn perthynas â materion a oedd heb eu cynnwys mewn polisïau a aseswyd yn ystod adolygiadau desg, fel a ganlyn:

Diffygion mewn polisïau Nifer
Heb gael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau o ganlyniad i reoliadau diwygio 2019 28
Dim gwybodaeth am y mesurau ychwanegol, lle y bo'n briodol i atal y defnydd o gynhyrchion a thrafodiadau a allai ffafrio anhysbysrwydd ar gyfer gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth 23
Dim gwybodaeth am drydydd gwledydd uchel eu risg 20
Dim gwybodaeth am ddulliau diwydrwydd dyladwy symlach ac a yw'r rhain i'w caniatáu 17
Dim gwybodaeth am safbwynt y ffyrm ar ymddiried 14
Dim gwybodaeth am ofynion manylach am ddiwydrwydd dyladwy 9

Asesiadau risg o'r ffyrm gyfan

Roeddem wedi adolygu 45 asesiad risg o'r ffyrm gyfan (ARFfG) yn rhan o'n hadolygiadau desg manwl. Roedd yr ARFfGau yn dangos y lefelau cydymffurfiaeth a ganlyn.

Cydymffurfio Cydymffurfio'n rhannol Heb gydymffurfio
22 17 6

Roedd dadansoddiad o'r ARFfGau yn dangos mewn rhai achosion nad oedd pob un o'r pum ffactor risg sy'n ofynnol o dan reoliad 18 wedi cael ei drafod yn llawn. Mae dadansoddiad isod o nifer y ffyrmiau a oedd wedi hepgor y meysydd risg gofynnol yn ein hadolygiadau o ARFfGau a'n hadolygiadau desg:

Ffactor risg gofynnol Nifer y ffyrmiau a oedd wedi'i hepgor yn yr ARFfG

Risg drafodiadol

Nid oedd ffyrmiau wedi edrych yn ddigon manwl ar risg drafodiadol, fel nifer y trafodiadau uchel eu gwerth y mae ffyrmiau'n delio â nhw, maint a gwerth nodweddiadol y trafodiad, a yw trafodiadau'n fawr neu'n gymhleth, a'r math o daliadau a dderbynnir, er enghraifft, taliadau arian parod neu daliadau gan drydydd partïon.
26

Risg sianel ddarparu

Nid oedd ffyrmiau wedi asesu eu dull o ddarparu gwasanaethau ac a yw'n debygol bod y risg hon wedi newid o ganlyniad i COVID-19. Roedd yn anodd canfod ar sail yr asesiadau risg a aseswyd a yw ffyrmiau'n cwrdd â'u cleientiaid, a ydynt yn cynnig gwasanaethau heblaw rhai wyneb yn wyneb ac, os ydynt, sut maent yn darparu'r gwasanaethau hynny, er enghraifft, drwy'r e-bost neu gyfarfodydd fideo. 
17

Risg ddaearyddol

Roedd diffyg manylion ynghylch lleoliadau cleientiaid a thrafodiadau'r ffyrm ac a oes cysylltiadau â gwledydd tramor gan unrhyw gleientiaid i'r ffyrm. Roedd y rhan fwyaf o'r asesiadau risg yn canolbwyntio'n llwyr ar amlinellu'r tebygolrwydd o ddelio â chleient o awdurdodaeth uchel ei risg ac wedi methu â rhoi sylw i'r lleoliadau daearyddol y mae'r ffyrm yn delio â nhw ac a yw'r rhain yn lleol neu'n genedlaethol.
12

Risg cleientiaid

Roedd ffyrmiau wedi methu â nodi'r mathau o gleientiaid y maent yn delio â nhw. Er enghraifft, a yw'r cleientiaid hyn yn unigolion neu'n gwmnïau, a oes strwythurau cymhleth gan unrhyw gwmnïau, a yw'r rhan fwyaf o'r cleientiaid yn rhai newydd neu hirsefydlog, a oes unrhyw gleientiaid sy'n peri risg fwy fel personau sy'n agored i'r risg o lygredd oherwydd eu lle amlwg mewn bywyd cyhoeddus.
7

Risg cynhyrchion a gwasanaethau

Mae nifer o ffyrmiau'n methu â rhestru'r holl wasanaethau a ddarperir ganddynt sydd o fewn cwmpas y rheoliadau. Mae croeswiriad rhwng gwefan y ffyrm a'r wybodaeth a gasglwn yn ystod ein hymarfer adnewyddu tystysgrif ymarfer yn dangos bod anghysondeb rhwng yr ARFfG a'r cynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir.
6

Er bod yr holl ffyrmiau yr ymwelwyd â nhw wedi cwblhau ARFfG, cawsom fod camddealltwriaeth gyffredinol ymysg y rhai a reoleiddir gennym ynghylch pa wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn ARFfG. Rydym yn parhau i weld yr angen i ymgysylltu â ffyrmiau i ddiweddaru eu ARFfG er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n well y risgiau y mae'r ffyrm yn eu hwynebu o ran cael ei defnyddio i wyngalchu arian.

Enghreifftiau o rai o'r gwendidau a nodwyd yw:

  • Rydym yn parhau i weld defnyddio templed yr ARFfG heb ei addasu yn ôl anghenion y ffyrm a'r risgiau penodol y mae'n eu hwynebu.
  • Ffyrmiau'n trafod gwasanaethau nad ydynt yn eu darparu, ac yn methu â chynnwys yr holl wasanaethau y maent yn eu darparu sydd o fewn cwmpas y rheoliadau.

Rydym yn parhau i ymgysylltu â ffyrmiau a darparu adborth iddynt er mwyn sicrhau bod eu ARFfG yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Lle mae angen gwneud newidiadau mewn ARFfG, byddwn yn adolygu copi diwygiedig ohono cyn dod â'r ymgysylltu i ben. Lle nad yw asesiad risg yn cydymffurfio â'r rheoliadau, byddwn yn ystyried a yw'n briodol atgyfeirio'r mater i'r tîm ymchwilio. Rydym wedi llunio canllawiau manwl ar ARFfGau, a byddwn yn darparu gweminar ar y maes hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Risgiau sy'n dod i'r amlwg

Er na fu'r 12 mis diwethaf yn rhai sefydlog o bell ffordd oherwydd y pandemig, mae'r prif risgiau a meysydd mewn perthynas â gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth yn aros fel roeddent yn 2019/20 i raddau helaeth. Maent yn ymwneud yn bennaf â thrawsgludo eiddo, cynlluniau buddsoddi amheus a hwyluso gwyngalchu arian yn anfwriadol drwy reolaethau gwael mewn ffyrmiau.

Rydym yn asesu risgiau sy'n dod i'r amlwg drwy nifer o wahanol ffynonellau, gan gynnwys:

  • drwy ein gwaith ymchwilio
  • adroddiadau gan asiantaethau sy'n gorfodi'r gyfraith ac awdurdodau eraill
  • ein hymweliadau rhagweithiol â ffyrmiau.

Y ddau faes lle rydym yn parhau i weld y risgiau mwyaf mewn perthynas â gwyngalchu arian yw trawsgludo, yn cynnwys twyll gwerthu (lle mae twyllwyr yn ceisio gwerthu eiddo heb gydsyniad y perchennog neu'n ddiarwybod iddo) a chynlluniau buddsoddi amheus. Roeddem wedi diweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar gynlluniau buddsoddi yn Awst 2020. Roeddem hefyd wedi rhoi rhybudd ynghylch twyll gwerthu ym mis Tachwedd 2020.

Rheolaethau ar arian cyfred

Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r risgiau sy'n codi o ganlyniad i drosglwyddo arian cyfred i leoliadau alltraeth lle mae'r llywodraeth yn cyfyngu ar symud arian i mewn ac allan o'r wlad.

Yr enghraifft sy'n cael ei chrybwyll amlaf yw system bancio cysgodol 'Daigou' sy'n cael ei defnyddio i drosglwyddo cyfoeth i wledydd tramor o Tsieina, yn aml drwy gadwyni sy'n cynnwys arian parod a gynhyrchwyd drwy weithgarwch troseddol. Rydym wedi sylwi ar nifer o faterion yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys pryderon am ffynonellau arian, ond hefyd amheuaeth ddi-sail ynghylch grwpiau ethnig cyfan oherwydd y rheolaethau ar gyfalaf a geir mewn gwlad benodol.

Cynlluniau ffyrlo a benthyciadau adfer

Yng nghyd-destun twyll sy'n gysylltiedig â'r pandemig COVID, rydym wedi sylwi ar nifer bach o faterion mewn perthynas â chynlluniau ffyrlo a benthyciadau adfer, ond nid yw eu nifer mor fawr fel y byddem yn eu hystyried yn fygythiad sylweddol yn ein maes ni. Mae'n bosibl y bydd mwy o achosion yn codi unwaith y bydd benthyciadau adfer yn dod yn ad-daladwy neu unwaith y bydd llog yn dod yn daladwy ar ôl 12 mis.

Materion eraill

Un risg gysylltiedig sy'n fwy cyffredinol yw'r risg o danseilio ffyrm o gyfreithwyr gan droseddwyr drwy ddefnyddio gwasanaethau'r ffyrm i wyngalchu arian anghyfreithlon.

Er nad yw'n fater sy'n ymwneud yn benodol â gwyngalchu arian, rydym hefyd wedi gweld bod adroddiadau am dwyll yn parhau i godi'n gyson o'r farchnad anafiadau personol.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn amlinellu'r meysydd lle y credwn fod y risg fwyaf o wyngalchu arian yn ein hasesiad risg sectoraidd.

Meysydd sylw a'r flwyddyn sydd o'n blaen

Yn y flwyddyn gyllidol sydd i ddod, byddwn yn parhau i helpu ffyrmiau i roi rheolaethau cadarn ar waith i atal eu defnyddio gan droseddwyr, a byddwn yn cymryd camau cadarn lle mae ffyrmiau'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau o dan y rheoliadau.

Yn y flwyddyn gyllidol nesaf, gobeithiwn allu ailddechrau cynnal ymweliadau â safleoedd, yn hytrach nag ymweliadau rhithiol. Bydd hyn yn dibynnu, wrth gwrs, ar y graddau y bydd effeithiau'r pandemig yn lleihau.

Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gwella ein ffordd o asesu'r risgiau y mae ffyrmiau'n eu hwynebu: rydym am sicrhau dull mwy manwl ac amserol o asesu'r risg o ddefnyddio ffyrmiau gan wyngalchwyr arian.
  • Cynnal mwy o ymweliadau â ffyrmiau a mwy o adolygiadau desg, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r systemau, prosesau a gweithdrefnau sydd ar waith i atal gwyngalchu arian.
  • Ymchwilio i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio swyddogion adrodd a swyddogion cydymffurfio gwyngalchu arian mewn ffyrmiau drwy gynnal adolygiad thematig. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau i'r proffesiwn wedyn er mwyn rhannu arferion da a chanllawiau ymarferol ar gwrdd â'r gofynion ar gyfer deiliaid y rolau hyn. 
  • Parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn ffyrmiau sydd heb gwrdd â'u cyfrifoldebau o dan y rheoliadau.
  • Parhau i ddarparu canllawiau penodol ac amserol i ffyrmiau drwy raglen o weminarau amser cinio ar wahanol bynciau sy'n ymwneud ag atal gwyngalchu arian.
  • Monitro'r meysydd sydd wedi'u nodi uchod, o dan risgiau sy'n dod i'r amlwg, ac ystyried pa gamau y gallai fod angen i ni eu cymryd nesaf.

Canllawiau rydym wedi'u cyhoeddi yn y flwyddyn ddiwethaf:

Adroddiad am Ymweliadau Atal Gwyngalchu Arian 2019-2020:
Mae'n disgrifio'r tueddiadau a materion a welwyd wrth gynnal ein hymweliadau gorchwylio rhagweithiol â ffyrmiau ar gyfer atal gwyngalchu arian.

Canllawiau i Gynghorwyr Trethi:
Gwaith gwreiddiol sydd wedi'i seilio ar ein hadolygiad thematig o'r cynghorwyr trethi a oruchwylir gennym.

Canllawiau ar Atal Gwyngalchu Arian i Ddarparwyr Gwasanaethau i Gwmnïau neu Ymddiriedolaethau
Gwaith gwreiddiol sy'n amlinellu'r prif risgiau sydd ynglŷn â'r gwaith hwn a'r gwahaniaethau gweithredol yn y ffordd rydym yn goruchwylio'r ffyrmiau hyn.

Asesiad Risg Sectoraidd Diwygiedig

Diweddariad o'n hasesiad risg gwreiddiol sy'n rhoi sylw i dueddiadau newydd rydym wedi'u gweld.

Our other AML resources:

Rheoliadau gwyngalchu arian ac i bwy y maent yn gymwys

Beth mae angen i'm ffyrm ei wneud?

Sut rydym yn rheoleiddio gwyngalchu arian

Canllawiau eraill sy'n berthnasol i'r sector

Cyhoeddwyd gan y Grŵp Perthynol i'r Sector Cyfreithiol:

Canllawiau'r Grŵp Perthynol i'r Sector Cyfreithiol – Rhan 1
Y prif ganllawiau ar atal gwyngalchu arian i'r sector cyfreithiol.

Y Grŵp Perthynol i'r Sector Cyfreithiol – Rhan 2 (Bargyfreithwyr, Darparwyr Gwasanaethau i Gwmnïau neu Ymddiriedolaethau a Notarïaid)

Bargyfreithwyr – i'w ddarllen ar wahân i Ran 1

Darparwyr Gwasanaethau i Gwmnïau neu Ymddiriedolaethau – i'w ddarllen ar y cyd â Rhan 1

Notarïaid – i'w ddarllen ar y cyd â Rhan 1

COVID-19 ac Atal Gwyngalchu Arian/Ariannu Terfysgaeth mewn Practisiau Cyfreithiol
Nodyn byr sy'n amlinellu materion sy'n berthnasol i ffyrmiau mewn cysylltiad â'r pandemig, yn cynnwys pwysau economaidd a heriau sy'n codi wrth gwblhau diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid.

Cyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol:

Canllaw ar gyflwyno Adroddiadau am Weithgarwch Amheus o ansawdd gwell
Canllaw ar ffyrdd i sicrhau bod Adroddiad am Weithgarwch Amheus yn cael ei drafod yn effeithlon drwy sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Canllaw ar gyflwyno Adroddiadau am Weithgarwch Amheus ar-lein
Canllawiau i'r rheini sy'n cyflwyno Adroddiad am Weithgarwch Amheus ar-lein.

Cwestiynau cyffredin am Adroddiadau am Weithgarwch Amheus
Rhestr o gwestiynau cyffredin am y system Adroddiadau am Weithgarwch Amheus.

Codau Termau Adroddiadau am Weithgarwch Amheus
Y rhestr ddiweddaraf o'r holl godau termau i'w cynnwys mewn Adroddiad am Weithgarwch Amheus.

Lluniwyd gan Lywodraeth y DU:

Asesiad Risg Cenedlaethol y DU
Asesiad risg cenedlaethol ar gyfer atal gwyngalchu arian sy'n nodi materion mewn nifer o feysydd gwaith, yn cynnwys gwaith cyfreithiol a gwaith darparu gwasanaethau i gwmnïau neu ymddiriedolaethau.

Gweminarau'r SRA ar Atal Gwyngalchu Arian

Atal gwyngalchu arian: y gwersi a ddysgwyd o ymweliadau â ffyrmiau cyfreithwyr – 16 Mawrth 2021

Roeddem wedi ymweld â 74 o ffyrmiau i wirio eu systemau atal gwyngalchu arian. Dywedwyd wrth ddwy ran o dair ohonynt am wneud newidiadau yn eu ffordd o weithio. A fyddai'ch ffyrm chi'n cwrdd â'r gofynion?

Gwyliwch ein gweminar am ddim i gael cyngor ymarferol am ffyrdd i gadw'r elw o droseddu allan o wasanaethau cyfreithiol. Byddwch yn clywed am y mathau o faterion – ac arferion da – rydym wedi'u gweld ar ein hymweliadau i adolygu arferion mewn ffyrmiau cyfreithwyr.

Drwy ganolbwyntio ar enghreifftiau o broblemau y byddwch yn eu hwynebu bob dydd, mae'r weminar hon yn cynnig cymorth i sicrhau'ch bod yn gwneud y pethau iawn i gadw'ch ffyrm chi a'r cyhoedd yn ddiogel. Rhai o'r meysydd lle'r oeddem yn gweld yr angen mwyaf am waith oedd:

  • archwilio annibynnol
  • sgrinio cyflogeion
  • asesiadau risg o faterion
  • gwirio ffynonellau arian.
Atal gwyngalchu arian: beth mae angen i gynghorwyr trethi ei wybod – 16 Chwefror 2021

Y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd newid yn y rheoliadau ar wyngalchu arian, a newid hefyd yn y diffiniad o 'gynghorwyr trethi'.

Mae'r weminar hon yn edrych ar gyd-destun y newidiadau a'r canllawiau buddiol rydym wedi'u cyhoeddi i helpu ffyrmiau i ddeall eu rhwymedigaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar ffyrdd i ddarparu gwasanaethau cynghorwyr trethi yn y sector cyfreithiol yn dilyn ein hymweliadau â ffyrmiau i adolygu arferion atal gwyngalchu arian.

Cynhadledd Swyddogion Cydymffurfio

Atal gwyngalchu arian: beth mae angen i chi ei wybod – 23 Tachwedd 2020

Cyfle i ddysgu mwy am y sefyllfa bresennol o ran gwyngalchu arian, yn cynnwys:

  • beth rydym wedi'i weld mewn ymweliadau â ffyrmiau cyfreithwyr
  • meysydd sy'n achosi problemau'n aml i ffyrmiau
  • canllawiau'r Grŵp Perthynol i'r Sector Cyfreithiol
  • asesiad risg sectoraidd
  • rhagolwg ar y chweched gyfarwyddeb ar wyngalchu arian
  • y camau nesaf ar gyfer Adroddiadau am Weithgarwch Amheus.

Gallwch glywed sylwadau pwysig hefyd gan asiantaethau allanol.

Atal gwyngalchu arian: cynghorion ymarferol ar ddelio â risgiau o ran gwyngalchu arian – 25 Tachwedd 2020

Cyfle i ddysgu beth mae angen i ffyrmiau cyfreithwyr ei wneud i helpu i gadw'r elw o droseddu allan o wasanaethau cyfreithiol. Drwy ganolbwyntio ar enghreifftiau ymarferol o broblemau y bydd ffyrmiau cyfreithwyr yn eu hwynebu bob dydd, mae'r sesiwn hon yn cynnig cymorth i sicrhau'ch bod yn gwneud y pethau iawn i gadw'ch ffyrm chi a'r cyhoedd yn ddiogel.

Byddwch yn clywed hefyd am y mathau o broblemau – a'r arferion da – y mae'r SRA wedi'u gweld yn ei gylch diweddaraf o ymweliadau i adolygu arferion atal gwyngalchu arian mewn ffyrmiau cyfreithwyr.

Atal gwyngalchu arian: beth mae angen i chi ei wybod – 20 Mai 2020

Mae atal gwyngalchu arian yn flaenoriaeth allweddol i'r SRA ac mae'n elfen bwysig yn rhwymedigaethau proffesiynol cyfreithwyr. Mae'r weminar hon yn egluro pa ddeddfwriaeth sy'n gymwys i'ch ffyrm chi, yn cyflwyno'r gofynion sydd yn y rheoliadau ar wyngalchu arian, yn egluro adroddiadau am weithgarwch amheus a sut i weithredu ar sail risg er mwyn atal gwyngalchu arian.

Astudiaeth Achos 1: Ms Levinzon

Roeddem wedi asesu'r gydymffurfiaeth gan ffyrm Ms Levinzon â rheoliadau ar wyngalchu arian yn rhan o adolygiad thematig. Ms Levinzon oedd yr unig bartner a oedd ar ôl yn y ffyrm. Canfyddiadau cychwynnol yr adolygiad oedd:

  • bod diffyg dealltwriaeth o'r cysyniadau sylfaenol am atal gwyngalchu arian
  • nad oedd systemau na phrosesau ar gyfer atal gwyngalchu arian
  • bod arferion gwael o ran diwydrwydd dyladwy ynghylch cwsmeriaid, yn cynnwys dilysu ac adnabod cwsmeriaid, a gwiriadau am ffynonellau arian a ffynonellau cyfoeth
  • bod arferion gwael o ran cadw cofnodion.

Wedyn roeddem wedi cynnal arolygiad fforensig manwl o'r ffyrm, ei chydymffurfiaeth gyffredinol o ran atal gwyngalchu arian a materion penodol er mwyn asesu'r ffordd yr oedd dull annigonol o weithredu i atal gwyngalchu arian ar lefel y ffyrm wedi achosion methiannau a thoriadau mewn achosion penodol. Roedd y ffyrm wedi cau yn dilyn yr arolygiad.

Roedd Ms Levinzon wedi cydnabod wedyn yr honiadau ynghylch:

  • methu â bod ag asesiad risg o'r ffyrm gyfan (Rheoliad 18 RhGA 2017)
  • methu â bod â pholisi digonol ar atal gwyngalchu arian (Rheoliad 19 RhGA 2017)
  • methu â darparu ac ymgymryd â hyfforddiant atal gwyngalchu arian (Rheoliad 24 RhGA 2017)
  • methu ag adnabod personau sy'n agored i'r risg o lygredd oherwydd eu lle amlwg mewn bywyd cyhoeddus (Rheoliad 14(5) RhGA 2007)
  • methu ag ymgymryd â diwydrwydd dyladwy manwl ynghylch cwsmeriaid (Rheoliadau 14(1) a 14(4) RhGA 2007)
  • methu â chynnal monitro a chraffu parhaus ar drafodiadau yn cynnwys gwiriadau o ffynonellau arian (Rheoliad 8 RhGA 2007)
  • cadw cofnodion annigonol (Rheoliad 19 RhGA 2007)
  • defnyddio cyfrif cleientiaid y ffyrm fel cyfleuster bancio ynghyd â thoriadau cysylltiedig eraill ar Reolau Cyfrifon.

Ar 14 Gorffennaf 2020 roedd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi cymeradwyo canlyniad cytûn. Cafodd Ms Levinzon ei hatal rhag ymarfer fel cyfreithiwr am naw mis, ac am ddwy flynedd ar ôl hynny cytunodd i beidio â bod yn rheolwr neu'n berchennog ar ffyrm, i beidio â dal rôl cydymffurfio mewn ffyrm, ac i beidio â dal neu dderbyn arian cleientiaid. Roedd hefyd yn gorfod cwblhau hyfforddiant ar atal gwyngalchu arian ac ar ein Rheolau Cyfrifon.

Astudiaeth Achos 2: Mr Kinch

Cawsom adroddiad gan gwmni a oedd wedi darparu benthyciad corfforaethol o £830,000, yn amodol ar ymgymeriad gan gyfreithiwr, i gleientiaid i Mr Kinch a'i ffyrm SDK Law. Roedd y benthyciad heb gael ei dalu'n ôl am gyfnod o ddwy flynedd, er gwaethaf yr ymgymeriad a oedd yn datgan y dylai fod wedi'i dalu'n ôl o fewn pum niwrnod bancio ar gais.

Roeddem wedi cynnal arolygiad fforensig manwl o'r ffyrm ac o ganlyniad i hyn roedd y ffyrm wedi'i chau.

Roedd Mr Kinch wedi cydnabod wedyn yr honiadau ynghylch:

  • methu ag ymgymryd â diwydrwydd dyladwy digonol ynghylch cwsmeriaid a gwiriadau o ffynonellau arian (Rheoliadau 7 ac 8 RhGA 2007)
  • defnyddio cyfrif cleientiaid y ffyrm fel cyfleuster bancio
  • methu â chyflawni ymgymeriad
  • gweithredu mewn a/neu hwyluso cynlluniau a oedd yn dwyn nodweddion trafodiadau amheus a gwyngalchu arian dichonol.

Cydnabu Mr Kinch fod ei ymddygiad yn fyrbwyll.Ar 4 Awst 2020 roedd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi cymeradwyo canlyniad cytûn bod Mr Kinch i gael ei atal rhag ymarfer fel cyfreithiwr am 15 mis, ac am dair blynedd ar ôl hynny i beidio â bod yn unig reolwr neu berchennog ar ffyrm, na dal rôl cydymffurfio mewn ffyrm, na dal na derbyn arian cleientiaid.

Astudiaeth Achos 3: Mr Crabb

Cawsom wybodaeth am y posibilrwydd bod ffyrm Mr Crabb, Austin Ryder & Co, wedi gweithredu mewn nifer mawr o drafodiadau eiddo twyllodrus.

Roeddem wedi cynnal arolygiad fforensig manwl o'r ffyrm, a arweiniodd at gaffael y ffyrm gan ffyrm wahanol a oedd â rheolwyr newydd, lle'r oedd Mr Crabb yn cael ei gyflogi fel ymgynghorydd yn unig a lle nad oedd yn berchennog nac yn rheolwr.

Roedd Mr Crabb wedi cydnabod honiadau wedyn ynghylch:

  • methu â chynnal monitro a chraffu parhaus digonol ar drafodiadau yn cynnwys gwiriadau o ffynonellau arian (Rheoliad 8 RhGA 2007)
  • gweithredu'n groes i lawlyfr y Cyngor Benthycwyr Morgeisi
  • methu â chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ei ffyrm ei hun ar atal gwyngalchu arian.

Roedd Mr Crabb wedi derbyn cytundeb setlo rheoliadol, a gyhoeddwyd gennym ar 3 Tachwedd 2020. Derbyniodd Mr Crabb ddirwy o £2,000 a gwnaeth gais am ddileu ei enw oddi ar y Rhôl Cyfreithwyr, gydag ymgymeriad na fyddai'n gwneud cais am gael ei dderbyn yn ôl ar y Rhôl yn y dyfodol.

Astudiaeth Achos 4: Mr Grumbridge

Cawsom wybodaeth am y posibilrwydd bod ffyrm Mr Grumbridge, M C Grumbridge, wedi torri ein Rheolau Cyfrifon.

Roeddem wedi cynnal arolygiad fforensig manwl o'r ffyrm, a arweiniodd at gau'r ffyrm ac at ymddeoliad Mr Grumbridge.

Roedd Mr Grumbridge wedi cydnabod honiadau wedyn ynghylch:

  • methu â bod ag asesiad risg o'r ffyrm gyfan (Rheoliad 18 RhGA 2017)
  • methu â gweithredu polisïau, rheolaethau a gweithdrefnau mewnol ar atal gwyngalchu arian mewn ffordd briodol (Rheoliad 19 RhGA 2017)
  • methu â chynnal diwydrwydd dyladwy digonol ynghylch cwsmeriaid a diwydrwydd dyladwy manwl ynghylch cwsmeriaid ar faterion enghreifftiol (Rheoliadau 7 a 14 RhGA 2007 a Rheoliadau 27, 28 a 33 RhGA 2017)
  • methu â chynnal gwiriadau digonol o ffynonellau arian (Rheoliad 28 RhGA 2017)
  • defnyddio cyfrif cleientiaid y ffyrm fel cyfleuster bancio ynghyd â thoriadau cysylltiedig eraill ar Reolau Cyfrifon.

Roedd Mr Grumbridge wedi derbyn cytundeb setlo rheoliadol, a gyhoeddwyd gennym ar 11 Rhagfyr 2020. Derbyniodd Mr Grumbridge ddirwy o £2,000 a gwnaeth gais am ddileu ei enw oddi ar y Rhôl Cyfreithwyr, gydag ymgymeriad na fyddai'n gwneud cais am gael ei dderbyn yn ôl ar y Rhôl yn y dyfodol.