Ein hymagwedd at addasiadau rhesymol
English Cymraeg
22 Mehefin 2023
Ystyried pawb
Mae'n bwysig bod pawb yn cael yr un cyfle i ddefnyddio ein hadnoddau gwybodaeth, ein gwasanaethau a'n swyddfeydd a bod pobl yn gallu cyfathrebu â ni yn rhwydd. Mae ein ffordd o weithio yn cynnwys pawb, ac rydym yn cydnabod bod pob un ohonom yn wahanol a bod gennym anghenion gwahanol. Mae hyn yn gymwys i bawb, gan gynnwys y bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio.
Os oes gennych chi anabledd, problem iechyd neu broblem iechyd meddwl, gallwn eich helpu drwy addasu rhai pethau i leihau neu gael gwared ar unrhyw rwystrau rydych chi’n eu hwynebu.
Rydyn ni o dan ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond fe fyddwn ni hefyd yn ystyried addasiadau i bobl sy ddim yn bodloni diffiniad y gyfraith o anabledd.
Rhowch wybod inni cyn gynted â phosib os oes angen inni addasu unrhyw beth i chi, a sut gallwn ni helpu.
Sut mae gofyn am help?
Gallwch ofyn inni addasu rhywbeth drwy gysylltu ag un o'r canlynol:
- y person rydych chi’n delio â nhw yn barod yn yr SRA, neu
- ein canolfan gyswllt
Byddwn yn delio â'ch cais yn sensitif, ac yn trafod gyda chi beth yw’r ffordd orau inni eich helpu.
I'n helpu i ddeall pa addasiadau sydd arnoch eu hangen, llenwch ffurflen gais am Addasiadau Rhesymol hefyd. Gallwch chi wneud hyn hefyd gyda’ch cyswllt yn yr SRA neu gyda help y ganolfan gyswllt.
Pa addasiadau allwn ni eu gwneud?
Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o leihau neu gael gwared ar unrhyw anfantais rydych chi’n ei hwynebu oherwydd eich anabledd, eich problem iechyd neu’ch problem iechyd meddwl.
Bydd natur ein haddasiadau yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol chi, a'ch rheswm dros gysylltu â ni.
Dyma enghreifftiau o'r addasiadau y gallwn eu gwneud ar gyfer y rhai rydyn ni'n eu rheoleiddio:
- Caniatáu mwy o amser pan fyddwch chi’n gwneud cais inni neu'n ymateb i’n hymholiadau (os na fydd modd inni ymestyn terfyn amser sydd wedi’i osod gan y gyfraith, byddwn yn rhoi gwybod ichi).
- Cytuno ichi gael rhywun gyda chi yn ystod cyfweliad neu ymweliad â’r ffyrm.
- Darparu un person i reoli’ch cyfathrebu â ni os bydd sawl adran yn rhan o'r broses.
Dyma enghreifftiau o'r addasiadau y gallwn eu gwneud os ydych chi'n gwneud cwyn am gyfreithiwr, neu'n cysylltu â ni am reswm arall:
- Gwrando ar eich cwyn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi dros y ffôn, os yw hynny'n ateb eich anghenion yn well.
- Darparu gwybodaeth mewn fformat sy'n haws ichi ei ddarllen.
- Sicrhau bod eich anghenion o ran mynediad yn cael eu hateb os ydych chi'n dod i un o’n digwyddiadau.
Sut byddwn yn penderfynu beth sy’n rhesymol?
Ran amlaf, gallwn wneud trefniadau ar eich cyfer yn gymharol rwydd. Mewn rhai achosion, bydd angen inni gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch chi cyn gallu gwneud trefniadau addas. Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol, gan gymryd eich amgylchiadau a manylion eich achos i ystyriaeth.
Drwy ddweud wrthon ni beth sydd ei angen arnoch, gallwn gytuno ar ffordd effeithiol i'ch helpu, gan ystyried y canlynol:
- pa mor ymarferol yw gwneud yr addasiad.
- yr adnoddau y bydd eu hangen i wneud yr addasiad rydych chi wedi gofyn amdano.
- a fyddai'ch cais yn effeithio ar ein cyfrifoldebau tuag at bobl eraill.
Allwn ni ddim cytuno ar addasiad sy'n golygu newid hanfodol yn ein cyfrifoldebau neu’n pwerau ni fel rheoleiddiwr. Er enghraifft:
- O ran y bobl rydyn ni’n eu rheoleiddio, os bydd risg i aelod o'r cyhoedd yn y fan a'r lle mae'n annhebygol y byddwn yn gohirio unrhyw ymchwiliad brys i honiadau a wnaed amdanoch chi neu'ch ffyrm, ond gallwn wneud trefniadau i’ch helpu drwy’r broses.
- O ran pobl sydd wedi gwneud cwyn inni, fyddwn ni ddim yn gallu ymchwilio i'r gŵyn os nad yw’n dod o dan ein pwerau ni, ond byddwn yn cymryd amser i egluro’n penderfyniad a'ch cyfeirio at asiantaethau eraill a allai'ch helpu.
Pan fo addasiad wedi cael ei gytuno bydd hynny'n cael ei gofnodi ar ein systemau ni er mwyn inni ddarparu’r addasiad bob tro y byddwch chi’n cysylltu â ni.
Byddwn ni'n adolygu addasiadau rhesymol drwy'r amser er mwyn sicrhau bod yr addasiad yn dal yn angenrheidiol ac yn dal yn ateb eich anghenion.
Fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol?
Fydd dim angen inni weld tystiolaeth feddygol ran amlaf, ond fe fydd angen gwneud hynny ar adegau. Gallwch ddarllen am ein hymagwedd at dystiolaeth feddygol a materion iechyd y bobl rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw.
I gael yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni ar 0370 606 2555 neu siaradwch â’r person sy'n delio â'ch achos.