Dadansoddiad o amrywiaeth gweithlu ffyrmiau cyfraith Cymru

English Cymraeg

Mae'r trosolwg hwn yn ymdrin â chyfreithwyr a gweithwyr eraill sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith a reoleiddir gan yr SRA ac sydd â'u prif swyddfa yng Nghymru. Mae wedi’i seilio ar ddata a gasglwyd gan y ffyrmiau yn haf 2023. Nid yw'n cynnwys swyddfeydd cangen sydd wedi'u lleoli yng Nghymru os yw'r brif swyddfa yn Lloegr.

Mae'r data wedi’i gymryd o'n teclyn data amrywiaeth ffyrmiau sy'n caniatáu ichi weld dadansoddiad amrywiaeth pobl mewn gwahanol gategorïau rôl.

Cafodd y categorïau hyn eu diweddaru yn 2023 trwy rannu'r grŵp partneriaid yn 'bartneriaid sy’n gyfreithiwr ecwiti llawn' a 'phartneriaid sy’n gyfreithiwr â chyflog neu ecwiti rhannol'. Er hwylustod, byddwn yn cyfeirio at y grwpiau hyn fel partneriaid ‘ecwiti llawn' a phartneriaid 'cyflogedig'. Rydym yn edrych ar y categori partner yn ei gyfanrwydd pan geir tueddiadau nodedig dros amser.

Mae modd hidlo'r teclyn data amrywiaeth ffyrmiau i weld y data yn ôl nodweddion penodol, gan gynnwys maint y ffyrm, ei lleoliad a’i math o waith. Dim ond un hidlydd a all gael ei ddewis ar y tro felly does dim modd hidlo data Cymru yn ôl maint y ffyrm. Gweler ein trosolwg o boblogaeth gyfan y ffyrmiau i gael diffiniad o'r categorïau rôl.

Open all

Mae cyfran y cyfreithwyr benywaidd mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn fwy na chyfran y dynion, ac mae'n dal i godi:

  • Mae 57% o'r cyfreithwyr yn fenywod, dim newid ers 2021
  • Mae 40% o'r cyfreithwyr yn ddynion, i lawr o 41% yn 2021
  • Roedd yn well gan 0.2% o'r cyfreithwyr ddisgrifiad arall, i fyny o 0.1% yn 2021.

Gan hepgor yr ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', menywod yw 59% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu â 48% o boblogaeth gweithlu Cymru yn 2023.

Mae’r gwahaniaethau'n dod yn fwy amlwg wrth edrych ar y swyddi uwch:

  • Mae 35% o'r partneriaid ecwiti llawn yn fenywod
  • Mae 54% o'r partneriaid cyflogedig yn fenywod
  • Mae 68% o'r cyfreithwyr yn fenywod.

O edrych ar dueddiadau dros amser ar gyfer pob partner (gan mai dim ond ar gyfer 2023 y mae'r rhaniad rhwng partner ecwiti llawn a phartner cyflogedig gennyn ni), cyfran y menywod ar lefel partner yw 41%, i fyny o 33% yn 2015. Roedd yn well gan 4% o'r partneriaid beidio â dweud (i fyny o 2% yn 2021) ac roedd yn well gan 2% o'r cyfreithwyr beidio â dweud (i fyny o 1% yn 2021).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, roedd cyfran lawer uwch o fenywod (83%) na dynion (16%), ac roedd yn well gan 2% beidio â dweud.

Roedd cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyfrif am 5% o'r holl gyfreithwyr sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Dyma'r dadansoddiad ar gyfer y grŵp hwn:

  • 3% Asiaidd
  • 0% Du (wedi'i dalgrynnu o 0.49%)
  • 2% Lluosog/Cymysg
  • 0% o Grwpiau ethnig eraill (wedi'i dalgrynnu o 0.2%).

Gan hepgor yr ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', roedd cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn 6%, yr un gyfran â phoblogaeth Cymru yn 2021.

Y dadansoddiad ar gyfer y grŵp hwn yw:

  • 3.1% Asiaidd (o'i gymharu â 2.9% o boblogaeth Cymru)
  • 0.5% Du (o'i gymharu â 0.9% o boblogaeth Cymru)
  • 1.8% Lluosog/Cymysg (o'i gymharu ag 1.6% o boblogaeth Cymru)
  • 0.2% o Grwpiau ethnig eraill (o'i gymharu â 0.9% o boblogaeth Cymru).

Wrth edrych ar y swyddi uwch:

  • Mae cyfran y partneriaid ecwiti llawn sy’n Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn 4% o'i gymharu â 5% o’r partneriaid cyflogedig.
  • Mae cyfran y partneriaid Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru wedi cynyddu tri phwynt canran ers 2015 (2% i 5%).

Roedd cyfran fwy o bartneriaid ecwiti llawn y byddai'n well ganddynt beidio â dweud eu hethnigrwydd (6%), o'i gymharu â phartneriaid cyflogedig (3%). Wrth edrych ar bartneriaid yn gyffredinol, roedd yn well gan 5% beidio â dweud (i fyny o 4% yn 2021) o'i gymharu â 3% o’r cyfreithwyr (i fyny o 2% yn 2021).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, roedd cyfran y bobl o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn 6%, gyda 2% yn dewis 'gwell gen i beidio â dweud' (dim newid ers 2021).

Datganodd 7% o'r cyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru anabledd, o'i gymharu ag 16% o weithlu'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae hyn yn gynnydd o 3% yn 2015. Yn 2023, dywedodd 6% fod eu gweithgareddau ychydig yn gyfyngedig, ac 1% eu bod yn gyfyngedig iawn.

O ddadansoddi hyn yn ôl y swyddi uwch:

  • Datganodd cyfran fwy o bartneriaid ecwiti llawn anabledd (5%) na phartneriaid cyflogedig (3%).
  • Dywedodd 5% o'r partneriaid ecwiti llawn fod eu gweithgareddau ychydig yn gyfyngedig, 2% eu bod yn gyfyngedig iawn. Dywedodd 6% o'r partneriaid cyflogedig fod eu gweithgareddau ychydig yn gyfyngedig, 0% eu bod yn gyfyngedig iawn.
  • Roedd yn well gan gyfran fwy o bartneriaid ecwiti llawn beidio â dweud a oedd ganddynt anabledd (5%), o'i gymharu â'r partneriaid cyflogedig (3%).

(Sylwch y gallai rhai canrannau ymddangos fel sero oherwydd talgrynnu.)

Wrth edrych ar bartneriaid yn eu cyfanrwydd, datganodd 5% anabledd (dim newid ers 2021), o'i gymharu ag 8% o'r cyfreithwyr (i fyny o 6% yn 2021).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, datganodd 8% anabledd gyda 4% yn ffafrio peidio â dweud.

Galwedigaeth y rhieni

Rydym wedi adrodd am alwedigaeth y rhieni yn unol â'r dull cenedlaethol, gan ddefnyddio tri chategori i nodi cefndir economaidd-gymdeithasol:

  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol proffesiynol (uwch) yn cynnwys galwedigaethau proffesiynol modern a thraddodiadol a rheolwyr neu weinyddwyr uwch, canol neu is.
  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol canolradd yn cynnwys galwedigaethau clerigol a chanolradd a pherchnogion busnesau bach sy'n cyflogi llai na 25 o bobl.
  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol is (dosbarth gweithiol) yn cynnwys galwedigaethau technegol a chrefftau a phobl ddi-waith hirdymor.

Gan hepgor yr ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', mae 57% o'r cyfreithwyr sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru o gefndir proffesiynol. Mae hyn yn cymharu â 37% ar draws y Deyrnas Unedig yn genedlaethol.

Gan gynnwys yr ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', dyma gefndir economaidd-gymdeithasol y cyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru:

  • 52% o gefndir proffesiynol
  • 15% o gefndir canolradd
  • 23% o gefndir economaidd-gymdeithasol is
  • 2% arall
  • Roedd yn well gan 8% beidio â dweud.

Pan fyddwn yn torri hyn i lawr yn ôl y swyddi uwch:

  • Mae cyfran fwy o bartneriaid cyflogedig o gefndir proffesiynol (59%) na phartneriaid ecwiti llawn (53%).
  • Dim ond 17% o'r partneriaid ecwiti llawn sy'n dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is o'i gymharu â'r partneriaid cyflogedig (20%).
  • Roedd yn well gan gyfran fwy o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud (12%), o'i gymharu â'r partneriaid cyflogedig (6%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, mae'r gyfran sydd o gefndir proffesiynol (37%) yn debyg i'r gyfran sydd o gefndir economaidd-gymdeithasol is (36%).

Ysgol

Mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, aeth 9% o'r cyfreithwyr i ysgol annibynnol/ysgol sy'n codi ffioedd, ac aeth 2% i'r ysgol y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Aeth 83% o’r cyfreithwyr i ysgol wladol.

Gan hepgor yr ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', aeth 10% o'r cyfreithwyr i ysgol annibynnol/ysgol sy'n codi ffioedd o'i gymharu â 7.5% ar draws y Deyrnas Unedig yn genedlaethol.

Pan fyddwn yn torri hyn i lawr yn ôl y swyddi uwch:

  • Aeth 12% o'r partneriaid ecwiti llawn i ysgol annibynnol/ ysgol sy'n codi ffioedd, o'i gymharu â 10% o’r partneriaid cyflogedig
  • Aeth 77% o’r partneriaid ecwiti llawn i ysgol wladol, o'i gymharu â 86% o’r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan 10% o’r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud o'i gymharu â 3% o’r partneriaid cyflogedig.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, aeth 4% i ysgol annibynnol/ ysgol sy’n codi ffioedd, aeth 4% i ysgol y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac aeth 87% i ysgol wladol. Roedd yn well gan 5% o staff eraill beidio â dweud.

Mae'r gyfran fwyaf o'r cyfreithwyr yn ffyrmiau cyfraith Cymru yn y categori oedran 35-44 (28%), ac yna 25-34 (24%) a 45-54 (21%).

O’i gymharu â'r boblogaeth gyfan o gyfreithwyr, mae poblogaeth gynyddol o bartneriaid ecwiti llawn mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu patrwm gyrfa oedran arferol cyfreithwyr a phryd y gallent ddisgwyl cyflawni partneriaeth ecwiti llawn:

  • Mae'r gyfran fwyaf o bartneriaid ecwiti llawn yn 45-54 oed (31%), a'r gyfran fwyaf nesaf yw 55-64 oed (30%).
  • Mae 41% o'r partneriaid cyflogedig yn 35-44 oed a'r gyfran fwyaf nesaf yw 45-54 oed (28%).

O edrych ar bartneriaid yn gyffredinol, 45-54 oed (30%) yw'r gyfran fwyaf, o'i gymharu â chyfreithwyr lle mae'r gyfran fwyaf yn 25-34 oed (37%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, mae'r gwasgariad yn fwy cyson ar draws y categorïau oedran ac eithrio 65+, ond mae'r gyfran fwyaf yn 25-34 oed (26%).

Mae pob canran wedi'i thalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf. Mae hyn yn golygu bod rhai wedi'u talgrynnu i 0%.

Yng Nghyfrifiad 2021, dewisodd 6% o bobl Cymru beidio ag ateb y cwestiwn hwn, o'i gymharu â 10% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru sy'n ateb ei bod yn well ganddyn nhw beidio â dweud. Pan fyddwn yn dadansoddi'r holl grwpiau ffydd:

  • Mae 49% yn Gristnogion (o'i gymharu â 44% o boblogaeth Cymru)
  • Does gan 36% ddim crefydd neu gred (o'i gymharu â 47% o boblogaeth Cymru)
  • Mae 2% yn Fwslemiaid (o'i gymharu â 2% o boblogaeth Cymru)
  • Mae 1% yn Fwdhyddion (o'i gymharu â 0% o boblogaeth Cymru)
  • Mae gan 1% unrhyw grefydd neu gred arall (o'i gymharu â 0% o boblogaeth Cymru)
  • Mae 0% yn Hindwiaid, Iddewon neu Sikhiaid (o'i gymharu â 0% o boblogaeth Cymru)

O ddadansoddi'r boblogaeth o gyfreithiwr yn ôl y swyddi uwch:

  • Mae 54% o'r partneriaid ecwiti llawn a 57% o'r partneriaid cyflogedig yn Gristnogion
  • Mae 1% o'r partneriaid ecwiti llawn a'r partneriaid cyflogedig yn Fwslimiaid
  • Dywedodd 28% o'r partneriaid ecwiti llawn a 29% o'r partneriaid cyflogedig nad oedd ganddyn nhw grefydd neu gred
  • Roedd yn well gan 14% o'r partneriaid ecwiti llawn ac 11% o'r partneriaid cyflogedig beidio â dweud.

O edrych ar y partneriaid yn eu cyfanrwydd, mae 55% yn Gristnogion, 1% yn Fwslimiaid, a phob grŵp ffydd arall yn talgrynnu i 0%. O blith y cyfreithwyr, mae 45% yn Gristnogion, 2% yn Fwslimiaid, 1% yn Fwdhyddion neu Hindwiaid, a phob grŵp ffydd arall wedi'i dalgrynnu i lawr i 0%.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, dim crefydd neu gred yw'r grŵp mwyaf (49%), ac yna Cristnogion (37%), Mwslimiaid ac unrhyw grefydd neu gred arall (1%). Roedd yn well gan 8% o'r staff eraill beidio â dweud.

O blith y cyfreithwyr sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, mae gan 37% gyfrifoldebau gofalu am blant, ac mae gan 10% gyfrifoldebau gofalu am eraill.

Mae gan gyfran uwch o'r partneriaid cyflogedig gyfrifoldebau gofalu am blant (47%) na'r partneriaid ecwiti llawn (36%). Ond, mae gan gyfran ychydig yn fwy o'r partneriaid ecwiti llawn gyfrifoldebau gofalu eraill (11%) na'r partneriaid cyflogedig (10%).

O edrych ar y partneriaid yn gyffredinol, mae gan 40% (cynnydd o 34% yn 2015) o’r partneriaid gyfrifoldebau gofalu am blant o'i gymharu â 36% (cynnydd o 33% yn 2015) o'r cyfreithwyr. Mae gan 11% o'r partneriaid gyfrifoldebau gofalu eraill (i lawr o 19% yn 2015) o'i gymharu â 10% o'r cyfreithwyr (i lawr o 13% yn 2015).

O ran staff eraill mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, mae gan 23% gyfrifoldebau gofalu am blant, ac mae gan 11% gyfrifoldebau gofalu eraill.

Oherwydd y niferoedd bach, dangosir yr ystadegau hyn i 1 lle degol.

Yng nghyfrifiad 2021, nid atebodd 7.6% o boblogaeth Cymru y cwestiwn hwn, o'i gymharu â'n cyfradd ninnau lle mae’n well gan 7.9% beidio â dweud. Ar draws y boblogaeth o gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru:

  • Atebodd 1.9% eu bod yn hoyw neu'n lesbiaidd (o'i gymharu â 1.5% o boblogaeth Cymru)
  • Atebodd 0.9% eu bod yn ddeurywiol (o'i gymharu ag 1.2% o boblogaeth Cymru)
  • Roedd yn well gan 0.3% ddisgrifiad arall (yr un fath â phoblogaeth Cymru)

Wrth edrych ar y swyddi uwch:

  • Mae 2% o'r partneriaid ecwiti llawn yn nodi eu bod yn LHD, o'i gymharu â 2.7% o'r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan 13.4% o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud, o'i gymharu â 6% o'r partneriaid cyflogedig
  • O edrych ar bartneriaid yn gyffredinol, mae 2.2% yn nodi eu bod yn LHD, o'i gymharu â 3.2% o'r cyfreithwyr.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith Cymru, mae 4.9% yn nodi eu bod yn LHD ac mae'n well gan 0.6% ddisgrifiad arall.

Yn 2021, dewisodd 6.3% o boblogaeth Cymru beidio ag ateb y cwestiwn hwn, o'i gymharu â'n cyfradd ninnau lle mae'n well gan 3.1% beidio â dweud. Ar draws y boblogaeth o gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru:

  • Mae 0.9% o'r cyfreithwyr yn datgan bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw cofrestredig adeg eu genedigaeth (o'i gymharu â 0.4% o boblogaeth Cymru)
  • Mae hyn yn gynnydd o 0.3% ers 2021.

Wrth edrych ar y swyddi uwch:

  • Dywedodd 0.5% o'r partneriaid ecwiti llawn fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw cofrestredig adeg eu genedigaeth, o'i gymharu â 0.3% o’r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan 5.6% o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud, o'i gymharu â 2.7% o’r partneriaid cyflogedig
  • Wrth edrych ar y partneriaid yn gyffredinol, dywedodd 0.4% fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw cofrestredig adeg eu genedigaeth, o'i gymharu ag 1.2% o'r cyfreithwyr.

O ran staff eraill mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, dywedodd 1.2% fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw cofrestredig adeg eu genedigaeth. Cafwyd cynnydd o 0.5% ers 2021 yn yr ymatebion 'gwel