Rhyddhad newydd

Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn penodi dau aelod newydd o'r Bwrdd

Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) wedi lansio ymgyrch i recriwtio dau gyfreithiwr newydd yn aelodau o'r Bwrdd.

Dylai'r rheini sydd â diddordeb yn y swyddi fod â hanes o gyflawni mewn sefydliadau cymhleth, dylent allu meddwl yn strategol a bydd ganddynt brofiad o weithio gyda bwrdd neu dystiolaeth o'r gallu i wneud hynny. Er mwyn gwella'r ystod o arbenigedd sydd ar y bwrdd, mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn arbennig o awyddus i glywed gan unigolion sydd â phrofiad yn o leiaf un o'r meysydd canlynol:

  • profiad o fod yn uwch reolwr mewn cwmni cyfreithiol yn y Ddinas neu gwmni mawr arall
  • darparu gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru
  • darparu gwasanaethau cyfreithiol drwy fodelau busnes llai traddodiadol, fel ABS neu ddarparwr gwasanaethau digidol

Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ei Fwrdd mor amrywiol â phosibl er mwyn i'r aelodau adlewyrchu'r cymunedau mae'r cyfreithwyr yn eu gwasanaethu ac amrywiaeth gynyddol yn y proffesiwn ei hun.

Dywedodd Anne Bradley, Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: “Mae arnom eisiau clywed gan gyfreithwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mewn tirwedd gyfreithiol gymhleth sy'n newid yn gyflym. Os oes gennych chi'r profiad iawn, mae arnom eisiau clywed gennych chi beth bynnag fo'ch cefndir; rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n gallu dod ag amrywiaeth go iawn i'n ffordd o feddwl, boed hynny'n amrywiaeth o ran hil, rhywedd, neu ffordd o feddwl a diwylliant.

‘Mae gennym raglen waith gyffrous yn yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, boed hynny'n golygu gwireddu'r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr, gwreiddio ein diwygiadau ehangach, neu gefnogi'r sector i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg. Bydd ymuno â'r Bwrdd yn rhoi cyfle i chi gyfrannu'n uniongyrchol at y gwaith hwn.'

Rôl Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yw goruchwylio ei waith yn rheoleiddio dros 158,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer a 10,000 o gwmnïau ar draws Cymru a Lloegr. Mae cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd yn cynnwys pennu cyfeiriad strategol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, gwneud yn siŵr bod materion yn cael eu pwyso a'u mesur o amrywiaeth o safbwyntiau a dal y sefydliad i gyfrif am ei berfformiad.

Wrth iddo barhau i gyflawni ei Strategaeth Gorfforaethol, bydd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn adeiladu ar ei raglen diwygio fawr - ar ôl trawsnewid y ffordd mae cyfreithwyr yn cymhwyso yn barod - gan sicrhau ei fod ef a'r sector yn gallu ymateb yn effeithiol i newid a gweithio i gynyddu manteision arloesedd a thechnoleg i ddefnyddwyr ac i gwmnïau cyfreithiol.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi ar gyfer y penodiadau hyn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut mae gwneud cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio'r cyfeirnod QAFAY. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost at belinda.beck@saxbam.com neu ffonio 020 7227 0880 (yn ystod oriau swyddfa). Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ar 7 Hydref.

Use www.sra.org.uk/yr-awdurdod-rheoleiddio-cyfreithwyr-yn-penodi-dau-aelod-newydd-or-bwrdd to link to this page.