Cynllun peilot SQE2 yn Gymraeg

English Cymraeg

Cefndir

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw'r asesiad cadarn unigol ar gyfer pob darpar gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi’i gynllunio i sicrhau safonau cyson, uchel ar gyfer pob cyfreithiwr cymwys.

Mae Cymru a Lloegr yn un awdurdodaeth gyfreithiol, sy'n cynnwys dwy wlad a dwy iaith swyddogol. Rydym yn cefnogi mynediad at wasanaethau cyfreithiol yn y ddwy iaith swyddogol. Bydd Kaplan yn cyflwyno'r SQE yn Gymraeg yn raddol, gan arwain at gydraddoldeb llawn rhwng Cymraeg a Saesneg yn yr asesiadau erbyn 2024.

Cynhaliwyd cynllun peilot ym mis Medi 2021 i ystyried materion ymarferol cynnal asesiadau SQE2 drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y broses cyfieithu. At ei gilydd, roedd y systemau a'r prosesau a brofwyd gennym yn gadarn, yn amodol ar argymhellion penodol mewn rhai meysydd lle nodwyd gwelliannau y gellid eu gwneud.

Yr asesiadau

Mae'r SQE yn cynnwys SQE1 sy'n profi gwybodaeth gyfreithiol weithredol yr ymgeiswyr ac SQE2 sy'n profi sgiliau cyfreithiol ymarferol yr ymgeiswyr.

Mae i SQE1 ddwy ran – Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 1 (FLK1) a Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 2 (FLK2). Mae'r rhain yn digwydd dros ddau ddiwrnod heb fod yn olynol, ac mae FLK1 ac FLK2 ill dau’n brofion amlddewis sy’n chwilio am yr ateb sengl gorau. Rhaid i’r ddau asesiad gael eu sefyll yn yr un ffenestr (oni bai bod eithriad yn gymwys neu os bydd rhywun yn ailsefyll un asesiad yn unig).

Mae SQE2 yn asesu sgiliau cyfreithiol ymarferol. Mae iddo yntau ddwy ran hefyd – asesiadau llafar dros ddau hanner diwrnod yn olynol ac asesiadau ysgrifenedig dros dri hanner diwrnod yn olynol.

Darllenwch ragor ar wefan asesu’r SQE.

Amserlenni cyflwyno arholiadau

Bydd yr SQE yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddilyn trefn gyflwyno fesul cam rhwng 2022 a 2024:

  • O gyfnod cyntaf asesu SQE2 ym mis Ebrill 2022 ymlaen, caiff yr ymgeiswyr ddewis rhoi eu hatebion ysgrifenedig yn Gymraeg.
  • O fis Hydref 2022 ymlaen, derbynnir ymatebion llafar SQE2 yn Gymraeg.
  • O fis Hydref 2023 ymlaen, bydd cwestiynau SQE2 yn cael eu darparu i ymgeiswyr yn Gymraeg.
  • Yn olaf, o fis Hydref 2024 ymlaen, bydd yr arholiad SQE1 hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygiadau’r peilot

Bu’r cynllun peilot hwn yn canolbwyntio'n benodol ar brofi'r prosesau ar gyfer cyfieithu cwestiynau arholiad. Roedd hyn yn cynnwys marcio'r ymatebion ysgrifenedig ac asesu'r ymatebion llafar a roddwyd gan yr ymgeiswyr.

Doedd y rhychwant ddim yn cynnwys profi dilysrwydd yr arholiad, gan fod hynny wedi'i brofi yn y ddau gynllun peilot blaenorol gan Kaplan ar gyfer SQE1 ac SQE2. Defnyddiwyd y peilot hefyd fel ymarfer gweithredol ar gyfer lleoliad y ganolfan profion lafar yng Nghaerdydd.

Bwriedir cynnal cynllun peilot arall yn targedu SQE1 drwy gyfrwng y Gymraeg cyn mis Hydref 2024, ond nid yw'r rhychwant llawn a'r union amserau wedi'u cadarnhau eto.

Roedd cynllun peilot SQE2 yn cynnwys:

  • Dau asesiad ysgrifenedig (drafftio cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol), a gwblhawyd gan yr ymgeiswyr yng nghanolfan brofi Pearson VUE yng Nghaerdydd. Cafodd ymatebion ysgrifenedig yr ymgeiswyr eu marcio gan gyfreithwyr Cymraeg eu hiaith.
  • Un asesiad llafar eiriolaeth ac un asesiad o gyfweliad llafar gyda chleient (gyda nodyn presenoldeb ysgrifenedig cysylltiedig). Cynhaliwyd yr asesiadau llafar gan aseswyr Cymraeg eu hiaith yng Ngwesty’r Mercure yng Nghaerdydd, sef canolfan profion llafar yr SQE yng Nghymru.

Cafodd yr holl gwestiynau peilot eu dewis o gronfa bresennol o gwestiynau hanesyddol a'u cyfieithu. Ni chafodd unrhyw waith datblygu ychwanegol ei wneud ar y cwestiynau hyn yn benodol ar gyfer y peilot. Y nod oedd deall y broses a'r amserlen ar gyfer cyfieithu'r cwestiynau.

Cafodd yr holl gyfreithwyr a'r actorion Cymraeg eu hiaith a fu’n ymwneud â marcio ac asesu yr un hyfforddiant ag a fydd yn cael ei roi i'r rhai sy'n asesu fersiwn Saesneg yr asesiad.

Hysbysebwyd ar gyfer ymgeiswyr drwy wefan asesu’r SQE, ein bwletin SQE Update a'n sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl cael 28 o geisiadau cychwynnol, cytunodd 15 i gymryd rhan a chafodd y peilot ei gwblhau gan ddeg o ymgeiswyr.

Casglwyd adborth yr ymgeiswyr drwy arolwg a thrwy drafod gyda'r cyfreithwyr a'r actorion Cymraeg eu hiaith a gymerodd ran.

Crynodeb o'r canfyddiadau

Cyfieithu asesiadau

Cafodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd yn y peilot eu cyfieithu gan gwmni cyfieithu Cymraeg. Ar gyfer hyn defnyddiwyd cwmni CYMEN, aelod llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ogystal â Chymdeithas y Cwmnïau Cyfieithu.

Cyfieithwyd yn gyntaf o'r Saesneg i'r Gymraeg ac yna o'r Gymraeg yn ôl i'r Saesneg. Ar bob cam yn y gwaith cyfieithu, cynhaliwyd adolygiad o'r cynnwys gan y cwmni cyfieithu i gadarnhau ei fod wedi'i wneud yn briodol.

Cafwyd trafodaethau ar ôl y peilot gyda'r cyfreithwyr a’r actorion Cymraeg eu hiaith, Prifysgol Bangor, a CBAC. Amlygodd y rhain faterion cynnil ynglŷn ag iaith a her cyflwyno cwestiynau wedi’u cyfieithu ar lefel briodol fel y gallai cynifer o ymgeiswyr â phosibl eu deall.

Amlygwyd pwysigrwydd cynnwys cyfreithwyr sy'n siarad Cymraeg, yn ogystal â chyfieithwyr sydd wedi’u hyfforddi, yn y broses. Rydym wrthi’n gwneud rhagor o waith i brofi gwahanol opsiynau ynghylch y ffordd orau i gyfreithwyr Cymraeg ryngweithio â chyfieithwyr ac arbenigwyr pwnc cyfreithiol KSQE (Penaethiaid Pwnc).

Bydd yr argymhellion ychwanegol hyn yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cwestiynau:

  • Defnyddio termau ffurfiol ac anffurfiol yn briodol mewn gwahanol rannau o gwestiynau, yn unol â pherthnasedd y cwestiwn a sut mae'r cwestiwn yn cael ei eirio.
  • Bydd cwestiynau'n cael eu cyfieithu i sicrhau eu bod yn rhesymegol ac yn briodol ar gyfer strwythur y cwestiynau.
  • ● Bydd gan y rhai sy'n ymgymryd â datblygu a chyfieithu'r cwestiynau Cymraeg fynediad i'r safleoedd cyfieithu ar gyfer terminoleg gyfreithiol megis termau.cymru, Geiriadur Newydd y Gyfraith / New Legal Dictionary, Robyn Lewis (editor) Lewis (golygydd) a gyhoeddwyd yn 2003 a gwefan cyfeiriadau iaith Llywodraeth Cymru).

Cyflwyno'r asesiadau

Mynegodd rhai o’r ymgeiswyr syndod na allen nhw weld fersiwn Saesneg o'r arholiad ochr yn ochr â'r fersiwn Cymraeg. Yn ôl ymchwil a wnaed ar ôl y digwyddiad, gan gynnwys trafod gyda CBAC, er bod hyn yn gyffredin mewn arholiadau Lefel 2 a Lefel 3, mae’n llai cyffredin ar gyfer arholiadau proffesiynol.

O ran y dechnoleg bresennol a ddefnyddir ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig, byddai ei darparu mewn dwy iaith yn rhoi'r ymgeiswyr hynny sy'n dymuno sefyll yr arholiad yn Gymraeg dan anfantais. Byddai'r profiad wrth lywio o neidio rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn arafu'r ymgeisydd wrth ateb cwestiynau. Gallai hyn ei atal rhag cwblhau'r arholiad o fewn yr amser a neilltuwyd. Gan hynny, ni fyddai cyflwyno dau fersiwn ar gyfer elfennau cyfrifiadurol SQE2 yn rhoi profiad derbyniol i’r ymgeiswyr.

Er hynny, cydnabyddir y gall siaradwyr Cymraeg neidio rhwng termau Cymraeg a Saesneg mewn trafodaethau cyfreithiol felly mae'n bwysig ein bod yn darparu termau cyfreithiol Saesneg perthnasol lle bo hynny'n briodol.

Er nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd darparu cwestiynau yn y ddwy iaith i ymgeiswyr ar yr un pryd, ar sail y dylunio a’r dechnoleg, bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu.

Ar hyn o bryd fe fyddwn ni:

  • yn sicrhau bod y wefan yn amlinellu'r ffaith hon yn glir, er mwyn i’r ymgeiswyr wybod beth i'w ddisgwyl cyn dechrau'r arholiad.
  • yn darparu'r cyfieithiad Saesneg o derm yn yr asesiad (mewn cromfachau) lle gall fod dryswch neu lle gall yr ymgeiswyr fod yn anghyfarwydd â’r derminoleg.
  • yn cyhoeddi rhestr o dermau cyfreithiol wedi’i chyfieithu i'r Gymraeg ar wefan asesu’r SQE a fydd ar gael erbyn gwanwyn 2023. Bydd yn rhestr barhaol a chynyddol o dermau cyfreithiol y gall ymgeiswyr ei hadolygu i’w cynorthwyo i'w deall.
  • Ni fydd ymgeiswyr yn colli marciau os byddan nhw’n rhoi atebion Saesneg.

Agweddau gweithredol a chynnal yr asesiadau

Roedd cyflwyno'r peilot yn gyfle i brofi'r agweddau mwy cyffredinol ar asesiad llafar mewn lleoliad a oedd heb ei brofi o'r blaen. Mae'n gadarnhaol nodi bod y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr o'r farn bod y lleoliad yn amgylchedd asesu addas.

At ei gilydd, dangosodd y Tîm Gweithredol fod ganddynt ddealltwriaeth drylwyr o sut i weinyddu asesiad llafar SQE2 yn y lleoliad yng Nghaerdydd:

  • Rhedodd amserlen yr asesiadau yn brydlon.
  • Ni chododd unrhyw faterion gweinyddol o'r ffaith bod yr asesiadau'n cael eu cynnal yn Gymraeg.
  • Cafodd yr holl ddeunyddiau asesu eu prosesu'n effeithlon ac yn ddiogel.
  • Cadarnhaodd y peilot fod modd defnyddio lle mewn gwesty i ddarparu asesiadau llafar SQE2.

Cafodd amryw o argymhellion eu gwneud ac mae'r rhai allweddol y bydd Kaplan yn eu mabwysiadu yn cynnwys:

  • Bydd yr holl ddeunyddiau i ymgeiswyr, gan gynnwys y datganiad ffitrwydd i sefyll, cytundebau cyfrinachedd, cyfarwyddiadau a thaflenni ateb, yn cael eu cyfieithu a'u cyflwyno yn Gymraeg.
  • Defnyddir arwyddion dwyieithog.
  • Bydd pob agwedd weithredol ar brofiad yr ymgeisydd, er enghraifft, Gwasanaethau i Ymgeiswyr, blaen tŷ/cofrestru, cyfeirio/goruchwylio etc yn cael eu gwneud yn Saesneg i ddechrau. Bydd Kaplan yn gweithio tuag at recriwtio personél dwyieithog ar y safle priodol ar gyfer y ganolfan asesiadau llafar hon.
  • Bydd aseswyr ac actorion yn cael eu hyfforddi ar yr iaith i'w defnyddio cyn yr asesiad fel bod ganddynt ddealltwriaeth lawn o'r termau a gyfieithwyd.
  • Ceir trafodaethau addasu ychwanegol gyda'r holl aseswyr sy'n cynnal yr asesiadau Cymraeg, gan ganolbwyntio ar ganllawiau ar unrhyw bwyntiau ynglŷn â’r Gymraeg.

Y camau nesaf

Mae Kaplan eisoes wedi dechrau diweddaru gwefan asesu’r SQE gyda chynnwys ychwanegol gyda chanllawiau penodol i'r rhai sy'n dymuno sefyll yr SQE yn Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys nifer o bolisïau a chwestiynau sampl SQE2 yn Gymraeg, gyda chwestiynau sampl ychwanegol i ddilyn.

Bydd rhestr termau ddwyieithog yn cael ei datblygu a'i chyhoeddi dros y misoedd nesaf, gyda tharged o’i chyhoeddi erbyn gwanwyn 2023.

Bydd Kaplan yn parhau i fonitro ac adolygu technolegau newydd a allai helpu i gyflwyno'r arholiad.

Mae'r broses o recriwtio cyfreithwyr ac actorion priodol sy'n siarad Cymraeg eisoes wedi dechrau, gan baratoi ar gyfer yr asesiad SQE2 cyntaf ym mis Ebrill. Bydd rhagor o recriwtio yn parhau fel y bo'n briodol ac yn unol â’r galw.