Diogelu cleientiaid, ymyriadau a'r gronfa iawndal

22 Medi 2021

Os ydym yn gwybod bod pobl mewn perygl odderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os oes angendiogelu buddiannau cleientiaid am unrhyw reswm arall, gallwn gymryd camau achau cwmni neu bractis cyfreithiwr. Rydyn ni'n galw hyn yn ymyriad. Pan fyddwnyn ymyrryd, byddwn yn cymryd meddiant o holl arian, ffeiliau a dogfennaucleientiaid ac yn cymryd camau i'w dychwelyd i'w perchnogion. Yna, nid yw'rcwmni'n gallu gweithredu mwyach.

Gall ein cronfa iawndal wneudtaliadau i aelodau'r cyhoedd a busnesau bach ar gyfer arian a gymerwyd neua ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr. Fel arfer, mae pobl yn gwneudhawliad ar y gronfa ar ôl i ni ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol roeddent yn eiddefnyddio. Rydyn ni'n rheoli'r gronfa ac mae cwmnïau cyfreithiol achyfreithwyr yn talu i mewn iddi drwy gyfraniad blynyddol.

Mae'r siartiau isod yn rhoi manylion am eingwaith yn y maes hwn ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol.

Sylwch, mae ein blwyddyn fusnesyn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn argyfer mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2019/20 yngywir fel ar 31 Hydref 2020.

Open all

Ymyriadau yn y 10 mlynedd diwethaf

Cofnodwyd y nifer mwyaf o ymyriadau ar ôl dirwasgiad 2008, pan oedden ni'n ymyrryd mewn nifer o gwmnïau a oedd yn dibynnu ar drawsgludo preswyl. Gwnaeth y dirywiad economaidd effeithio'n wael ar y maes gwaith hwn. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr ymyriadau wedi gostwng i gyfradd gymharol gyson.

Year Nifer yr ymyriadau 2010-2020
2010/11 56
2011/12 42
2012/13 50
2013/14 51
2014/15 40
2015/16 37
2016/17 50
2017/18 33
2018/19 37
2019/20 40

Dros y saith mlynedd diwethaf, y tri rheswmmwyaf cyffredin dros gynnal ymyriad oedd diogelu buddiannau cleientiaid, osoedden ni'n gweld bod ein rheolau wedi cael eu torri'n ddifrifol ac/neu osoedden ni'n amau bod rhywun yn y cwmni'n anonest.

Mae'r gronfa iawndal yn gronfa ddewisol panfydd popeth arall wedi methu. Gall wneud taliadau pan fydd arian wedi cael eigymryd neu ei golli gan rywun rydyn ni'n ei reoleiddio. Mewn rhai amgylchiadau,gall hefyd wneud taliadau lle dylai yswiriant indemniad cwmni fod wedi diogelucolled, ond nad oedd gan y cwmni yswiriant yn ei le.

Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talui mewn i'r gronfa iawndal drwy gyfraniad blynyddol. Bob blwyddyn, mae ein Bwrddyn ystyried ac yn pennu'r cyfraniad y mae'n rhaid i'r cwmnïau a'r unigolionrydyn ni'n eu rheoleiddio ei dalu i'r gronfa iawndal. Mae'r cyfraniadau'nariannu'r taliadau a wnaed, y cronfeydd wrth gefn rydyn ni'n eu neilltuo argyfer hawliadau yn y dyfodol, a chostau delio â'r hawliadau eu hunain. Mae hynyn cynnwys cost ymyrryd mewn cwmnïau lle mae arian a ffeiliau cleientiaid mewnperygl.

Ar gyfer 2020/21, roedden ni'n gallu lleihau'rcyfraniadau gan gyfreithwyr unigol o £60 i £50 ac o £1,150 i £950 ar gyfercyfraniadau gan gwmnïau.

2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Cyfraniad cyfreithiwr unigol £32 £32 £32 £40 £90 £60 £50
Cyfraniad cwmni £548 £548 £548 £778 £1,680 £1,150 £950

Bygythiad cynyddol cynlluniau buddsoddi amheus

Mae twyllwyr bob amser yn meddwl am ffyrdd o ennillymddiriedaeth pobl a manteisio arnynt. Maent yn aml yn cyflwyno cyfleoeddbuddsoddi sy'n cynnig enillion da fel ffordd o gymryd arian pobl – fel eupotiau pensiwn. Gall y cynlluniau hyn fod yn arbennig o ddeniadol yn economiheddiw.

Efallai y bydd cynlluniau yn ceisio defnyddiocwmnïau cyfreithiol go iawn fel canolwr i wneud i gynlluniau buddsoddi amheusymddangos yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddiogel. Mae ein hadolygiadthematig ar gyfer 2020 yn tynnu sylw at enghreifftiau o gynlluniau o'rfath.  

Er bod y mwyafrif helaeth o gyfreithwyr yngweithredu'n onest ac yn ddidwyll, mae nifer fechan yn camddefnyddio eu safle oymddiriedaeth neu'n cymryd risgiau drwy gynorthwyo mewn cynlluniau nad ydynt yneu deall neu gynlluniau nad ydynt yn gwybod eu bod yn amheus neu'n dwyllodrus.Mai rhai pobl wedi colli eu cynilion bywyd. Dros y blynyddoedd diwethaf, maecolledion rydyn ni wedi cael gwybod amdanynt sy'n gysylltiedig â chynlluniaubuddsoddi amheus yn werth cannoedd o filiynau.

Mewn llawer o achosion, nid yw ein cronfaiawndal yn gallu gwneud taliadau i bobl sydd wedi colli arian oherwydd nad yw'rhawliad yn dod o dan ein rheolau (gwelermwy o dan hanes hawliadau'r gronfa iawndal). Fodd bynnag, rydyn ni weditalu allan symiau sylweddol. Ac mae'r risg o hawliadau pellach wedi arwain atomni'n cynyddu cyfraniad y proffesiwn i'r gronfa iawndal am sawl blwyddyn.

Fe wnaethom ddiweddaru einhysbysiad rhybuddio yn 2020 i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a'rproffesiwn ynghylch risgiau cynlluniau buddsoddi amheus.

Taliadau'r gronfa iawndal yn y saith mlynedd diwethaf

Mae cyfanswm y taliadau rydyn ni'n eu gwneud bob blwyddyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau: nifer a natur yr ymyriadau rydyn ni wedi'u cynnal, efallai fod rhai ohonynt wedi digwydd yn ystod y flwyddyn fusnes flaenorol, a gwerth hawliadau unigol.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
Nifer yr ymyriadau 51 40 37 50 33 37 40
Cyfanswm taliadau'r gronfa iawndal £24.2m £17.8m £10.3m £15.2m £18.1m £7.5m £10.4m

Hanes hawliadau'r gronfa iawndal

Bydd nifer yr hawliadau a wneir a'r rhai sy'narwain at daliad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel nifer yr ymyriadau awneir, nifer y cwmnïau cyfreithiol yr effeithir arnynt ac a ydym yn gallugwneud taliad.

Dim ond os yw'r hawliad yn dod o fewn ein rheolauy gallwn wneud taliadau. Ac mae rhai rheolau sy'n berthnasol i achosion llegallwn wrthod hawliad, er enghraifft dan yr amgylchiadau canlynol:

Hanes hawliadau'r gronfa iawndal – prif rifau

Nid ydym yn delio â phob hawliad sy'n cael ei wneud a'i gau o fewn yrun cyfnod o 12 mis. Dyma pam, mewn rhai blynyddoedd, cafodd mwy o hawliadau eucau o'i gymharu â'r rheini a gafodd eu creu.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
Hawliadau a wnaed 1,737 1,054 1,561 2,174 2,648 1,425 1,120
Hawliadau wedi'u cau 2,006 1,426 1,531 1,710 3,217 1,553 1,146
Hawliadau'n arwain at daliad 952 645 604 680 1,553 488 367
Amcangyfrif o werth cyfartalog hawliad llwyddiannus
£25,000 £28,000 £17,000 £22,000 £12,000 £15,000 £28,000

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer yr achosion a gafodd eu creu a'u cau yn ein Hadolygiad Blynyddol 2015/16. Mae'r ffigurau isod yn gywir.

Y tri phrif reswm dros wneud taliadau

Mae'r rhesymau mwyaf cyffredin pam ein bod yn gwneud taliadau'n ymwneud â meysydd ymarfer lle mae trafodion ariannol mawr yn digwydd, fel trawsgludo a phrofiant. Mae'r rhesymau wedi'u nodi yn y tabl isod.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
1 Profiant – £4.8m Dychwelyd blaendal – £3.5m Profiant – £3.9m Enillion ar werthiannau – £4.5m Profiant – £5.3m Profiant – £2.7m Enillion ar werthiannau – £2.9m
2 Morgais heb ei dalu – £3.6m Profiant – £3.4m Enillion ar werthiannau – £1m Profiant – £3.3m Twyll trawsgludo – £3.7m Twyll morgais – £0.9m Dychwelyd blaendal – £2.7m
3 Twyll trawsgludo – £2.4m Dychwelyd taliad ar sail costau – £2.2m Arian cyffredinol cleientiaid – £1m Dychwelyd blaendal – £2.6m Enillion ar werthiannau – £2.8m Dwyn arian cleientiaid – £0.8m Profiant – £2m

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd gwerth yr enillion ar werthiannau ar gyfer 2016/17 yn ein Hadolygiadau Blynyddol ar gyfer 2016/17 a 2017/18. Mae'r ffigurau isod yn gywir.

Rydyn ni'n ceisio adennill costau ymyrryd mewncwmni rydyn ni'n ei reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys:

  • costau defnyddio cwmni cyfreithiolallanol i'n helpu i ymyrryd
  • unrhyw daliadau y byddwn yn eugwneud o'r gronfa iawndal
  • unrhyw gostau llys ac ymchwiliadmewnol gan y cwmni dan sylw. 

Mae ein cyllid yn dod o'r cwmnïau cyfreithiola'r cyfreithwyr rydyn ni'n eu rheoleiddio, felly mae adennill costau'n bwysigoherwydd, yn y pen draw, mae ein costau'n cael eu trosglwyddo i'r cyhoedd sy'nprynu gwasanaethau cyfreithiol. Byddwn yn ystyried pob ffordd o adennillcostau, gan gynnwys cymryd camau yn erbyn y cyfreithwyr neu'r rheolwyr syddwedi camu i mewn, yswiriwr y cwmni ac, mewn rhai achosion, cyn bartneriaid achyfarwyddwyr y cwmni.

Mae'r tabl isod yn dangos costau ymyriadau athaliadau'r gronfa iawndal rydyn ni wedi'u hadennill dros y saith mlynedddiwethaf. Ar gyfartaledd, rydyn ni wedi adennill tua £3.2m y flwyddyn. 

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
£3.2m £3.7m £1.9m £3.5m £4.7m £2.5m £2.9m