SQE Briffio - Cymraeg

Awst 2020

English Cymraeg

Cyflwyniad

Mae pobl yn defnyddio ac yn ymddiried ym mhroffesiwn cyfreithwyr yn ystod rhai o adegau anoddaf eu bywydau. Mae gwaith y proffesiwn yn allweddol wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol sy’n cefnogi’r rheol gyfreithiol ac yn sail i drafodion cymdeithasol ac economaidd ar draws sectorau ac awdurdodaethau gwahanol.

Rydym yn gosod y safonau ar gyfer y proffesiwn er lles y cyhoedd. Mae'n hanfodol bod pawb yn gallu bod yn hyderus bod pobl sy'n ymuno â'r proffesiwn i gyd yn cwrdd â'r un safonau uchel. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr bod mynediad i'r proffesiwn yn gyson, yn gyfredol ac yn addas at y diben.

Mae’r pecyn briffio hwn yn olrhain stori datblygiad y Solicitors Qualifying Examination (SQE) hyd yma, gan gwmpasu'r rhesymeg, yr amcan a manylion y gwaith sydd wedi'i wneud ar amrywiaeth o rannau pwysig o'r dull newydd hwn o gymhwyso. Byddwn yn diweddaru'r briff hwn yn rheolaidd.

Cymerwyd y camau cyntaf tuag at SQE yn 2011 pan gomisiynwyd yr Adolygiad o Addysg a Hyfforddiant Cyfreithiol. Mae’r gwaith sylweddol a wnaed yn ystod y blynyddoedd rhwng hynny wedi nodi problemau gyda'r system gymhwyso bresennol. Mae anghysondebau o ran sut mae llwybrau i'r proffesiwn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd, sy'n golygu na allwn fod yn hyderus bod pawb yn bodloni’r un safonau ar y pwynt mynediad. Mae'r system bresennol hefyd yn ddrud ac yn anhyblyg, sy'n creu anawsterau i nifer o ddarpar gyfreithwyr, yn enwedig y rheini o gefndiroedd llai cefnog ac amrywiol.

Mae ein cynigion wedi'u cynllunio i ddarparu un asesiad trylwyr i bawb sydd eisiau ymuno â'r proffesiwn.

Ein nod cyntaf yw sicrhau mwy o safonau cyson, uchel ar y pwynt mynediad.

Rydym hefyd yn awyddus i’r SQE arwain at ddatblygu llwybrau newydd ac amrywiol tuag at gymhwyso, sy'n ymateb i'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol cyfnewidiol a hyrwyddo proffesiwn amrywiol drwy gael gwared ar rwystrau artiffisial a rhwystrau na ellir eu cyfiawnhau.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ystod eang o randdeiliaid allweddol drwy gydol datblygiad y SQE, nid lleiaf drwy’r Grŵp Cyfeirio SQE. Mae’r aelodau’n cynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr, Is-adran y Cyfreithwyr Iau, Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol Ifanc, Cymdeithas Athrawon y Gyfraith, Cymdeithas Ysgolheigion y Gyfraith a Chymdeithas y Gyfraith Dinas Llundain.

Mae newid y ffordd y mae proffesiwn yn cymhwyso yn dasg gymhleth. Rydym wedi bod yn gwrando ac yn ymateb i'r pryderon y mae pobl wedi'u rhannu a byddwn yn parhau i wneud hynny.