Meddwl defnyddio gwasanaethau cyfreithiol?

Welsh version of "Thinking of using legal services? What to expect"

Back to list of community languages

Mae’r SRA yn rheolei mwy na 125,000 o unigolion a mwy na 10,000 o ffyrmiau a’u gweithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhaid i’r cyfreithwyr a’r ffyrmiau rydyn ni’n eu rheolei roi’r ymadrodd yma ar eu papur pennawd ac ar eu gwefan: ‘awdurdodwyd a rheoleiddiwyd gan yr Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr’.”

Beth yw'r Awdurdod Rheolei Cyfreithwyr (SRA)?

Rydyn ni’n rheoleiddiwr rheng-flaen ar gyfer 125,000 o unigolion a mwy na 10,000 o ffyrmiau cyfreithiol a’u gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pob cyfreithiwr a ffyrm sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol ac sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr
  • cyfreithwyr o Ewrop a gwledydd tramor sy’n cofrestru gyda ni er mwyn gweithio yng Nghymru a Lloegr a
  • phobl nad ydyn nhw’n gyfreithwyr ond sydd naill ai'n berchen ar ffyrm gyfreithiol neu sefydliad arall rydyn ni’n eu rheolei neu sy’n gweithio i ffyrm neu sefydliad o’r fath.

Mae’n rhaid i’r bobl hyn sicrhau’r canlyniad cywir i unrhyw un sy’n defnyddio’u gwasanaethau ac rydyn ni’n ceisio amddiffyn y cyhoedd drwy gymryd camau pan fydd risgiau’n cael eu gweld.

Mae’n pencadlys ni yn Birmingham, ac rydyn ni’n annibynnol ar Gymdeithas y Cyfreithwyr, sy’n cynrychioli cyfreithwyr.

Beth yw’n gwaith ni?

Mae pob person a busnes rydyn ni’n eu rheolei yn gorfod gweithio er lles gorau’r bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau, ac er lles ehangach y cyhoedd hefyd. Mae gennyn ni God Ymddygiad a set o Egwyddorion sy’n eu helpu i ddeall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud.

Rydyn ni’n edrych ar ymddygiad pawb rydyn ni’n eu rheolei ac ar y risgiau i’r cyhoedd y maen nhw’n eu creu. Wedyn rydyn ni’n cymryd camau i gadw pobl yn ddiogel, yn unol â pha mor ddifrifol yw’r risgiau hynny.

Rydyn ni’n gosod safonau sy’n gorfod cael eu cyrraedd gan y rhai rydyn ni’n eu rheolei”

Mae gennyn ni bwerau y gallwn eu defnyddio er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn dda. Mae’r rhain yn amrywio o roi rhybudd i rywun rydyn ni’n ei reoleiddio am ei ymddygiad, drwodd i ofyn i’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ystyried yr achosion mwyaf difrifol. Mae’r rhan fwyaf o’n penderfyniadau ni’n cael eu dangos ar ein gwefan.

Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod gan gyfreithwyr y cymwysterau cywir a bod y busnesau rydyn ni’n eu rheolei yn cael eu rhedeg yn dda a bod ganddyn nhw yswiriant priodol. Mae’n swyddogaethau allweddol ni’n cynnwys:

  • monitro perfformiad sefydliadau sy'n darparu cyrsiau hyfforddi i bobl sy’n dymuno bod yn gyfreithwyr
  • gosod safonau y mae angen i bobl eu cyrraedd er mwyn ennill cymhwyster i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr
  • asesu pa mor addas yw’r bobl y mae angen iddyn nhw gael eu rheolei gennyn ni
  • cadw’r gofrestr o gyfreithwyr
  • sicrhau bod cyfreithwyr o wledydd tramor yn cyrraedd ein safonau hyfforddi a’n safonau addasrwydd cyn iddyn nhw ymarfer fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Gallwn ddarparu gwybodaeth i’ch helpu i ddewis cyfreithiwr”

Allwch chi fy helpu i ddewis cyfreithiwr?

Dydyn ni ddim yn cael rhoi cyngor cyfreithiol ichi na dweud pa gyfreithwyr y dylech eu defnyddio. Er hynny, rydyn ni’n gallu darparu gwybodaeth i'ch helpu i ddewis cyfreithiwr, gan gynnwys:

  • sut i ddod o hyd i gyfreithiwr neu ffyrm ar ein gwefan, www.sra.org.uk/use-solicitor
  • sut i gael y gorau o’r gwasanaethau cyfreithiol, a beth i'w ddisgwyl oddi wrth gyfreithiwr
  • manylion unrhyw gamau rheolei rydyn ni wedi’u cymryd, yn yr adran 'Check a Solicitor's Record' ar ein gwefan

Meddwl defnyddio gwasanaethau cyfreithiol?

Os byddwch yn defnyddio cyfreithiwr neu ffyrm sy’n cael eu rheolei gennyn ni:

  • dylech gael gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus am y gwasanaeth, a phwy ddylai ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i chi
  • dylech gael gwybod faint y bydd y gwasanaeth yn costio neu sut y caiff y gost ei chyfrifo, a chael esboniad clir o'r ffioedd ar ddiwedd y busnes neu ar unrhyw adeg y byddwch yn gofyn amdano
  • dylech gael lefel dda o wasanaeth gan bobl sydd wedi'u hyfforddi, sydd â'r cymwysterau cywir ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ac â'n gofynion ni
  • dylech gael cyngor a gwasanaethau gan bobl sy'n rhoi eich budd chi'n gyntaf ac sy’n parchu cyfrinachedd eich sefyllfa
  • dylai fod modd ichi gwyno os aiff pethau o chwith – i’r ffyrm ei hun neu i’r Ombwdsmon Cyfreithiol – a dylai’r gŵyn gael ei thrafod yn deg ac yn gyflym
  • dylech gael eich digolledu os gwelir bod pethau wedi mynd o chwith a bod gennych hawl i wneud hawliad – naill ai o adnoddau'r ffyrm ei hun neu gan yswiriwr y ffyrm
  • dylech allu dibynnu y bydd eich cyfreithiwr neu’r ffyrm yn eich cyfeirio at rywun sy'n iawn i wneud y gwaith; dylen nhw ddweud wrthoch chi os bydd y naill barti neu’r llall yn manteisio (yn ariannol neu mewn modd arall) yn sgil eich cyfeirio fel hyn (sylwch: o fis Ebrill 2013 ymlaen, mae’r gyfraith yn gwahardd cyfeiriadau mewn achosion anaf personol)
  • dylech deimlo'n hyderus bod yr SRA yn gallu cymryd camau pan welir nad yw pobl neu ffyrmiau sy’n cael eu rheolei gennyn ni wedi cyrraedd y safonau cywir

Beth os hoffwn fy nghyfreithiwr?

Mae gennych chi hawl i newid eich cyfreithiwr os ydych yn dymuno. Mae’ch cyfreithiwr yn cael cadw’ch ffeil o bapurau neu eitemau eraill nes eich bod wedi talu'r bil am unrhyw waith y maen nhw wedi’i gwblhau ichi’n barod. Os byddwch yn penderfynu ar ganol eich achos yr hoffech chi newid cyfreithiwr, does dim rhaid iddyn nhw roi’ch ffeiliau ichi nes eich bod chi wedi talu.

Beth os oes ar fy nghyfreithiwr arian i mi?

Os collwch chi arian am fod cyfreithiwr yn anonest neu am ei fod heb dalu arian sy'n perthyn i chi, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais i’n Cronfa Ddigolledu os yw’r swm yn llai na £2 miliwn. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ddigolledu ar gael ar ein gwefan.

Rydych chi wedi cau practis fy nghyfreithiwr i - beth ddylwn i'w wneud?

Os ydyn ni wedi cau’r ffyrm, rydyn ni’n penodi asiantau ymyrryd. Bydd y rheiny’n dychwelyd eich arian a’ch papurau os oes modd. Er hynny, mae'n bosibl y byddwn yn cadw’ch arian a’ch ffeiliau os nad yw’r asiant wedi llwyddo i ddarganfod i bwy maen nhw’n perthyn. Os ydych chi’n credu bod y ffyrm heb roi eglurhad ichi am yr arian rydych chi wedi’i roi iddyn nhw, neu os ydych chi’n ceisio cael gafael ar eich papurau, cysylltwch â ni.

Os oes gennych chi broblem, mae’n rhaid bob amser ichi gwyno i’ch cyfreithiwr neu’r ffyrm yn gyntaf”

Mae gen i broblem gyda fy nghyfreithiwr - beth ddylwn i ei wneud?

Yn gyntaf i gyd, dylech godi’r broblem gyda’ch cyfreithiwr neu’r ffyrm gyfreithiol. Efallai y bydd mynd ati’n anffurfiol yn datrys y broblem.

Ond os na fydd hyn yn tycio, mae'n bosibl y byddwch am gwyno iddyn nhw. Mae’n ofynnol i’r cyfreithiwr neu’r ffyrm gyfreithiol ddweud wrthoch chi sut maen nhw’n ymdrin â chwynion a pha bryd y byddan nhw’n ymateb. Mae’n rhaid iddyn nhw ddweud wrthoch chi hefyd am eich hawl i fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon Cyfreithiol os na allan nhw ddatrys y gŵyn i chi.

Rhowch gyfle i'ch cyfreithiwr ddatrys eich cwyn. Os oes arnoch angen help i ysgrifennu llythyr cwyno a chynghorion am amserlenni a sut i wneud cwyn, edrychwch ar wefan yr Ombwdsmon Cyfreithiol

Os bydd y cyfreithiwr neu ei ffyrm yn methu datrys eich cwyn er boddhad ichi, wedyn dylech gysylltu â'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Gallwch wneud hynny drwy ffonio 0300 555 0333 neu drwy anfon neges e-bost at enquiries@legalombudsman.org.uk.

Mae’r Ombwdsmon Cyfreithiol yn ymdrin â phob agwedd ar wasanaeth gwael, megis cyfathrebu araf neu aneglur, problemau ynglŷn â’ch ffioedd, neu golli dogfennau”

Riportio cyfreithiwr i'r SRA

Mae'r rhan fwyaf o gwynion am gyfreithwyr yn ymwneud â gwasanaeth gwael ac mae’r Ombwdsmon Cyfreithiol yno i’ch helpu. Os yw'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn credu bod eich achos yn ymwneud â thorri’n Hegwyddorion ni, bydd yn cyfeirio'ch achos aton ni. Does dim pwerau gennyn ni i ddigolledu pobl am wasanaeth gwael, nac i leihau neu ad-dalu ffioedd cyfreithiol rhywun. Ond, mae gennyn ni bwerau i ymchwilio i sefyllfaoedd a allai olygu bod rhywun rydyn ni’n ei reoleiddio heb gyrraedd y safonau cywir, ac i gymryd camau er mwyn datrys y sefyllfa os bydd angen gwneud hynny.

Mae gwybodaeth am ein Hegwyddorion ar gael ar ein gwefan

Os ydych yn credu bod ffyrm gyfreithiol neu unrhyw un sy’n cael ei reoleiddio gennyn ni wedi torri unrhyw un o’r Egwyddorion, ac nad ydych chi wedi cysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol eto, efallai yr hoffech chi anfon gwybodaeth yn uniongyrchol aton ni.

Mae sawl ffordd i wneud hyn:

Unrhyw gwestiynau?

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Sut i gysylltu â ni

Ebost

Gwefan: www.sra.org.uk/consumers

Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall, megis Braille, cysylltwch â ni. Mae’r daflen hon ar gael mewn amryw o ieithoedd cymunedol hefyd, sydd i’w gweld ar ein gwefan.

Mae cymorth a chyngor i ddefnyddwyr ynghylch gwasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys clipiau fideo, ar gael yn www.sra.org.uk/consumers.