Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) 2014/15 i 2016/17
EnglishCymraeg
Cyhoeddwyd ar 20 Tachwedd 2014
Cyflwyniad a chrynodeb
- 1.1
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu cyfeiriad strategol yr SRA am dair blynedd, o fis Tachwedd 2014 hyd at Hydref 2017. Ein hamcanion dros y cyfnod hwn yw:
- diwygio ein rheolei er mwyn galluogi twf ac arloesi yn y farchnad a sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng lleihau beichiau rheolei a sicrhau diogelwch defnyddwyr;
- gweithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i godi safonau a chynnal egwyddorion proffesiynol craidd;
- gwella ein perfformiad gweithredol a gwneud penderfyniadau teg a chyfiawnadwy yn brydlon, yn effeithiol ac yn effeithlon;
- gweithio gyda'n rhanddeiliaid i wella ansawdd ein gwasanaethau a'r profiad wrth eu defnyddio.
- 1.2
Byddwn yn trosglwyddo'r rhaglen hon yn ystod cyfnod o newid cyflym o fewn y farchnad. Mae'r newid hwnnw yn dod â chyfleoedd newydd i gyfreithwyr, cwmnïau a defnyddwyr i drosglwyddo a derbyn gwasanaethau newydd a mwy cystadleuol o ran pris drwy gyfrwng ystod ehangach o ddulliau. Mae'n dod â chyfleoedd i gyfreithwyr a chwmnïau i weithio mewn amrywiaeth ehangach o strwythurau, gyda dewisiadau a wneir ar sail yr hyn sy'n gwasanaethu eu busnesau a chwsmeriaid orau yn hytrach nag ar sail gofynion rheoliadol darfodedig.
- 1.3
Bydd newid hefyd yn dod â heriau yn ei sgil, ynghyd â pheryglon newydd y bydd angen i ni a chwmnïau fynd i'r afael â nhw. Bydd creu marchnad fwy deinamig ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol nid yn unig yn denu pobl newydd, bydd cwmnïau hefyd yn gadael y farchnad. Felly, drwy gydol y cyfnod hwn o newid byddwn yn sicrhau bod peryglon yn cael eu nodi a'u trin, a bod lefelau priodol o ddiogelwch i ddefnyddwyr yn parhau i fodoli.
- 1.4
Bydd manylion ein rhaglenni ar gyfer cyflawni ein hamcanion strategol, a'r adnoddau y byddwn yn eu defnyddio i'w cyflawni, yn cael eu cyhoeddi yn ein Cynlluniau Busnes blynyddol. Byddwn yn manylu ar ein perfformiad a chyflawniad ein hamcanion strategol yn ein Hadroddiadau Blynyddol.
Ynglŷn â'r SRA
- 2.1
Rydym yn rheolei ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol er mwyn diogelu defnyddwyr a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddiad cyfiawnder.
- 2.2
Rydym yn rhan o Gymdeithas y Gyfraith, y corff proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr, ond mae gennym annibyniaeth weithredol llawn ac mae ein holl benderfyniadau rheolei yn cael eu gwneud yn annibynnol er budd y cyhoedd.
- 2.3
Rydym yn gweithio y tu mewn i fframwaith statudol ar gyfer rheolei a ddarperir gan Ddeddf Cyfreithwyr 1974, Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1985 ac, yn bennaf, gan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007. Rydym hefyd yn gweithio o fewn fframwaith a ddarperir gan reolau llywodraethu mewnol sy'n gwarantu ein hannibyniaeth oddi wrth Gymdeithas y Cyfreithwyr, a hefyd gan ganllawiau ffurfiol a ddarparwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, y corff goruchwylio ar gyfer holl reolyddion gwasanaethau cyfreithiol.
- 2.4
Mae hon yn fframwaith gymhleth, ond rydym yn ceisio rheoli'r cymhlethdodau hyn mewn ffordd sy'n gwneud ein swyddogaeth a'r gwaith yr ydym yn ei gyflawni mor glir a syml â phosibl ar gyfer y rhai rydym yn eu rheolei ac i ddefnyddwyr.
Pam ein bod ni'n rheolei
- 2.5
Pwrpas rheolei cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yw diogelu defnyddwyr a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddiaeth cyfiawnder. I gyflawni'r amcan hwn rydym yn canolbwyntio ar gyfres o egwyddorion proffesiynol craidd y mae'n rhaid i'r rhai rydym yn eu rheolei eu cyflawni. Rhaid i'r cyfreithwyr a'r cwmnïau yr ydym yn eu rheolei felly gyflawni'r canlynol:
- Ymddwyn yn annibynnol ac yn gywir.
- Cynnal safonau gwaith priodol.
- Ymddwyn er lles pennaf cleientiaid.
- Cydymffurfio â'u dyletswydd i'r llys i weithredu'n annibynnol ac yn gywir.
- Cadw materion cleientiaid yn gyfrinachol.
Mae'r egwyddorion hyn, a rheolei i sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo, yn ganolbwynt i'n gweithgareddau.
- 2.6
Mae ein penderfyniadau ynglŷn â sut i reoleiddio a'r hyn rydym yn canolbwyntio arno yn deillio o'r fframwaith statudol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddi a gan ein gwerthoedd ni fel sefydliad.
Gofynion rheolei gwasanaethau cyfreithiol
- 2.7
Mae Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 yn darparu fframwaith cyffredin, a set o amcanion, ar gyfer pob un o'r rheolyddion gwasanaethau cyfreithiol ac ar gyfer ein rheolyddion goruchwyliaeth, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol. Wrth benderfynu sut i reoleiddio rhaid i ni roi sylw i'r amcanion hyn, gan gynnwys yr angen i:
- ddiogelu a hyrwyddo lles y cyhoedd;
- gefnogi'r egwyddor gyfansoddiadol o reolaeth y gyfraith;
- wella mynediad at gyfiawnder;
- ddiogelu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr;
- hyrwyddo cystadleuaeth wrth ddarparu gwasanaethau;
- annog proffesiwn cyfreithiol annibynnol, cryf, amrywiol ac effeithiol;
- ac i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau a dyletswyddau cyfreithiol dinasyddion.
- 2.8
Rydym yn ystyried yr amcanion hyn yn neilltuol wrth osod y rheolau a ddefnyddiwn i reoli ymddygiad y bobl a'r cwmnïau a reoleiddiwn. Er enghraifft, mae gennym ni gyfres o reolau i ddiogelu arian ac asedau eraill defnyddwyr a gaiff eu rhoi yng ngofal cyfreithwyr. Wrth osod y rheolau hyn mae'n rhaid i ni ystyried nid yn unig a ydynt yn diogelu defnyddwyr, ond hefyd effaith y rheolau hynny ar gystadleuaeth yn y farchnad ac ar fynediad at wasanaethau cyfreithiol.
- 2.9
Mae'n rhaid i ni sefydlu barn gyffredinol, gan ystyried yr holl ffactorau hyn, a dod i benderfyniad y gallwn ei gyfiawnhau.
Gwell gofynion rheolei
- 2.10
Mae Deddf 2007 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw i arferion rheolei gorau ac egwyddorion rheolei gwell. Rhaid felly i ni fod yn:
- dryloyw,
- atebol,
- cymesur,
- cyson,
- a thrachywir.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r amcanion hyn ac i'r angen i fod yn effeithiol ac mor effeithlon â phosibl ym mhopeth a wnawn.
Ein fframwaith ar gyfer rheolei
- 2.11
Mae ein pwrpas rheolei, y gofynion arnom fel rheolyddion gwasanaethau cyfreithiol a'r egwyddorion rheolei gwell yn darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer ein gwaith. Dangosir hyn isod.
Diben ein rheolei Rydym yn rheolei ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol i ddiogelu defnyddwyr a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddiaeth cyfiawnder Y rhai rydym yn eu rheolei Y rhai rydym yn eu rheolei Rydym yn darparu rheolei ymarfer da - Gweithredu'n annibynnol ac yn gywir
- Cynnal safonau gwaith priodol
- Gweithredu er lles pennaf cleientiaid
- Cydymffurfio â'u dyletswydd i'r llys i weithredu'n annibynnol ac yn gywir
- Cadw materion cleientiaid yn gyfrinachol
- Diogelu a hyrwyddo lles y cyhoedd
- Cefnogi'r egwyddor gyfansoddiadol o reolaeth y gyfraith
- Gwella hygyrchedd cyfiawnder
- Diogelu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr
- Hybu cystadleuaeth yn narpariaeth gwasanaethau
- Annog proffesiwn cyfreithiol annibynnol, cryf, amrywiol ac effeithiol
- Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r hawliau a dyletswyddau cyfreithiol dinasyddion
- Tryloyw
- Atebol
- Cymesur
- Cyson
- Trachywir
- Effeithlon
- Effeithiol
- 2.12
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein swyddogaeth a'n hagwedd at reoleiddio yn ein datganiad polisi Dynesiad at Reoleiddio a'i ddiwygiad.
Sut rydym ni'n gweithio
- 2.13
Er mwyn cyflawni ein swyddogaeth rydym yn canolbwyntio ar nifer o brif feysydd gweithgarwch. Y meysydd hyn yw:
Gosod safonau -- rydym yn gosod y safonau ar gyfer unigolion a chwmnïau:
- y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn dod yn gyfreithwyr neu i gael eu
- hawdurdodi gennym ni; y mae'n rhaid eu cyflawni o ran dulliau gwaith; ac
- ynglŷn â sut rydym yn mynnu cydymffurfiad â'n gofynion pan fo ymddygiad yn ddiffygiol a'n safonau heb eu cwrdd.
Darparu arweiniad a chefnogaeth — rydym yn darparu canllawiau a gwybodaeth i'r rhai rydym yn eu rheolei i'w helpu i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n bodloni ein gofynion, gan gynnwys i godi eu hymwybyddiaeth o'r peryglon cydymffurfio maent yn eu hwynebu. Rydym yn darparu cymorth a gwybodaeth i ddefnyddwyr.
Awdurdodi — rydym yn awdurdodi unigolion i fod yn gyfreithwyr a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i'r cyhoedd.
Goruchwylio — rydym yn goruchwylio'r gwaith a gyflawnir gan gyfreithwyr a chwmnïau yn rhagweithiol ac mewn ymateb i adroddiadau a dderbyniwn ynglŷn â methiannau i gwrdd â'n gofynion. Weithiau gall y gwaith hwn gynnwys ymchwiliadau manwl i drafodion cymhleth.
Disgyblaeth a gorfodi — rydym yn sicrhau, lle bo ymddygiad yn is na'r safonau a osodwn, fod cyfreithwyr a chwmnïau unigol yn cael eu dwyn i gyfrif. Gall hyn gynnwys cau cwmnïau er mwyn diogelu defnyddwyr.
Rhoi iawndal — rydym yn cynnal cronfa iawndal i ddiogelu defnyddwyr os nad yw cyfreithiwr neu gwmni yn dychwelyd yr arian sy'n ddyledus iddynt.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- 2.14
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac sy'n gweithio mewn ffordd gynhwysol, gan fanteisio ar gyfraniad pob aelod o'r gymdeithas i'n llwyddiant. Yn yr un modd, rydym yn ceisio rheolei mewn dull teg ac i gydweithio gyda'r rhai rydym yn eu rheolei er mwyn meithrin proffesiwn cryf ac amrywiol y gall pawb lwyddo ynddo. Mae ein gwaith ar amrywiaeth a chynhwysiant felly'n cynnwys tair elfen:
- canolbwyntio ar greu sefydliad amrywiol a'r ffordd rydym yn cydweithio;
- canolbwyntio ar y ffordd rydym yn gweithredu, ein rheolau a'r penderfyniadau a wnawn, yr effaith y mae hynny yn ei gael ar y rhai rydym yn eu rheolei, a helpu cwmnïau ac unigolion i ddeall a chydymffurfio â'n gofynion; a
- chanolbwyntio ar weithio gyda'r rhai rydym yn eu rheolei i'w cefnogi wrth geisio sicrhau proffesiwn mwy amrywiol a chynhwysol.
- 2.15
Rydym yn cydnabod fod yn rhaid i bob un o'r elfennau hyn fod yn gyson a chyd-gefnogol i'w gwireddu, a rhaid i'r gwaith fod yn ganolog i bopeth a wnawn, yn drwyadl, ac yn rhan hanfodol o'n holl raglenni gwaith. Rydym wedi cyhoeddi ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sy'n nodi sut y byddwn yn mynd â'n gwaith yn ei flaen, gan gynnwys y camau rydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â materion a nodwyd gan yr Athro Gus John yn yr Adolygiad Achosion Cymharol Annibynnol a gyhoeddwyd gennym yn 2014.
Yr amgylchedd ar gyfer ein gwaith
- 3.1
Rydym yn rheolei'r gyfran fwyaf o'r farchnad ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl nifer yr unigolion a'r cwmnïau a reoleiddir, gwerth y trafodion, a nifer y defnyddwyr. Llynedd, enillwyd £28.5 biliwn gyda gwasanaethau cyfreithiol rheoledig yng Nghymru a Lloegr, sef tua 1.5 y cant o CMC y DU. Daeth £20.8bn o'r incwm hwnnw, neu 73 y cant, o gwmnïau a gaiff eu rheolei gan yr SRA. Marchnad gwasanaethau cyfreithiol y DU yw'r fwyaf yn Ewrop, gan gynrychioli 7 y cant o'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol fyd-eang. Gan gynhyrchu gwarged masnach mawr a chyflogi dros 316,000 o bobl, mae gwasanaethau cyfreithiol yn gwneud cyfraniad mawr a chynyddol i economi Prydain. Mae'r unigolion a'r cwmnïau rydym yn eu rheolei yn darparu ystod ehangach o wasanaethau na'r rhai sy'n cael eu rheolei gan eraill, ac yn gwneud hynny ar raddfa fyd-eang.
- 3.2
Mae'r materion y mae angen i ni eu hystyried wrth reoleiddio'n effeithiol, ac wrth benderfynu sut i ddatblygu a gwella ein dull rheolei, yn niferus ac yn gymhleth. Yn y rhan hon rydym yn mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sydd yn ein barn ni'n dylanwadu'n arbennig ar ein blaen-strategaeth.
Marchnad sy'n newid
- 3.3
Cyn Deddf 2007 dim ond cyfreithwyr unigol a chwmnïau a oedd yn eiddo i gyfreithwyr oeddem ni yn eu rheolei. Roedd cyfreithwyr unigol naill ai yn ymarfer mewn cwmnïau a oedd yn cael eu rheolei gan yr SRA neu fel cyfreithwyr cyflogedig a oedd yn darparu gwasanaethau i'w cyflogwyr.
- 3.4
Nid dyna'r farchnad a reoleiddir gennym bellach, a bydd y farchnad yn gynyddol rannu. Rydym bellach yn rheolei ystod ehangach o fusnesau, ac mae cyfreithwyr unigol yn ymarfer a darparu gwasanaethau i'r cyhoedd drwy ystod llawer ehangach o fusnesau. Mae rhai o'r busnesau hyn yn cael eu rheolei gan reolyddion eraill, a gydag eraill heb eu rheolei o gwbl. Bydd cyflymder y newid hwn yn cynyddu wrth i reolyddion gwasanaethau cyfreithiol eraill ehangu'r ystod o weithgareddau maent yn eu cwmpasu ac fel cyfran gynyddol o'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol sy'n gweithredu y tu allan i reoleiddio yn gyfan gwbl. Mae llawer o'r newid hwn wedi'i alluogi gan Ddeddf 2007 ond mae llawer hefyd wedi dilyn o arloesi yn y sector, gan gynnwys, er enghraifft, mwy o ddefnydd o dechnoleg.
Yr angen am reoleiddio mwy cymesur a llai beichus
- 3.5
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud newidiadau pwysig i'n gofynion rheolei. Er enghraifft, cyflwyno trwyddedu ABS a Chod Ymddygiad sy'n seiliedig ar egwyddorion a chanlyniadau.
- 3.6
Mae'r llywodraeth wedi herio'r holl reolyddion i ddileu rheolei diangen a lleihau'r baich ar fusnesau. Yn y sector gwasanaethau cyfreithiol, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol wedi pwysleisio'r flaenoriaeth hon.
- 3.7
Yn 2013, cynhaliwyd ymgyrch i geisio nodi a dileu mân-reolau, ac yn Mai 2014 lansiwyd ymgyrch diwygio rheolei eang i ehangu a chyflymu'r gwaith hwn. Ond mae mwy o waith i'w gyflawni.
- 3.8
Yn union fel y mae angen mynd i'r afael â beichiau anuniongyrchol rheolei, mae angen hefyd mynd i'r afael â baich cost anuniongyrchol rheolei, sy'n deillio o'r ffioedd sy'n cael eu codi ar y rhai sy'n cael eu rheolei. Mae tua hanner y ffioedd hyn yn talu am reoleiddio gan yr SRA. Mae'r gweddill yn talu am gynrychiolaeth gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, costau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ombwdsmon y Gyfraith. Yn 2015 byddwn yn gostwng ein cyllideb weithredol rhyw 10 y cant, ond rydym wedi ymrwymo i leihau maint y cyllid sydd ei angen arnom dros amser, drwy effeithlonrwydd uwch a gweithgaredd mwy manwl-gywir.
Arloesi
- 3.9
I gystadlu, ffynnu a gwella gwasanaethau i ddefnyddwyr, mae angen i gwmnïau yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol ddatblygu ac arloesi. Rydym wedi gweld arloesi sylweddol yn y sector yn ddiweddar ac rydym yn disgwyl i gyflymder a maint yr arloesi hwn gynyddu. Mae angen i ni sicrhau nad yw ein gofynion rheolei a'n dynesiad yn rhwystr diangen i'r newidiadau cadarnhaol hyn yn y farchnad. Rhaid i'n hymagwedd reoleiddio fod yn ystwyth a chymwys gyda'r datblygiadau yn y farchnad.
Mae angen i'r rheolei weithio ar gyfer pob math o gwmni.
- 3.10
Mae'r farchnad a'r amrywiaeth o gwmnïau a reoleiddiwn yn dod yn fwyfwy amrywiol. Rydym yn rheolei cwmnïau sy'n amrywio o ran maint o gyfreithwyr sengl i gwmnïau byd-eang gyda throsiant blynyddol o £1 biliwn. Mae'r amrywiaeth hon yn bwysig i ddefnyddwyr, ar gyfer iechyd y farchnad gwasanaethau cyfreithiol ac ar gyfer yr economi yn ei chyfanrwydd. Rhaid i'n rheolei ganiatáu i'r ddarpariaeth amrywiol honno barhau a ffynnu. Rhaid iddi fod mor drachywir a pherthnasol ar gyfer cyfreithwyr unigol ag ar gyfer cewri byd-eang. Er bod ein hagwedd ni at reoleiddio wedi dod yn fwy hyblyg a manwl yn ddiweddar, mae mwy o waith i'w gyflawni o ran sicrhau bod ein rheolau a'r ymagwedd at reoleiddio ar gyfer pob math o gwmni yn dryloyw a chlir ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.
Gwella amrywiaeth a sicrhau cyfle cyfartal yn y farchnad
- 3.11
Mae ein cymdeithas wedi dod yn fwy amrywiol, yn union fel y proffesiwn a reoleiddir gennym. Mae llawer o gwmnïau wedi cymryd camau sylweddol o ran adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli ar bob lefel yn eu sefydliadau. Fodd bynnag, erys heriau sylweddol, yn enwedig i gyfreithwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), menywod a phobl ag anableddau o ran gweithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ar draws pob sector a phob math o gwmni yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol.
- 3.12
Rydym wedi gweithio gydag arbenigwyr a gyda'r rhai rydym yn eu rheolei i archwilio effaith ein rheolei ni, ac mewn nifer o feysydd pwysig gallwn weld bod canlyniadau ein rheolei'n cael effaith anghyfartal ar gyfreithwyr BAME a'u cwmnïau.
- 3.13
Mae'r ddau fater hyn yn cyflwyno heriau gwirioneddol o ran rheolei'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol, ac er bod gwelliant cadarnhaol wedi'i sicrhau, mae llawer mwy i'w gyflawni.
Defnyddwyr a mynediad at wasanaethau
- 3.14
Er bod y farchnad gwasanaethau cyfreithiol wedi tyfu a nifer ac ystod y darparwyr wedi cynyddu, mae'r ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol yn dangos nad oes gan lawer o unigolion a busnesau fynediad at y gwasanaethau cyfreithiol sydd eu hangen arnynt. Nid yw'r farchnad yn gweithio ar gyfer yr holl ddefnyddwyr, ac mae angen i reolyddion ystyried camau i alluogi cwmnïau i ddarparu gwasanaethau mwy hygyrch sy'n diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr ac sy'n fwy fforddiadwy.
Cymhlethdod a pheryglon cynyddol
- 3.15
Yn union fel y mae'r cwmnïau rydym yn eu rheolei wedi dod yn fwy amrywiol o ran maint, strwythur, model busnes ac ystod gweithgareddau, mae'r peryglon y mae'n rhaid iddynt ei reoli hefyd wedi dod yn fwy cymhleth ac amrywiol. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y peryglon sy'n deillio o ddefnyddio technoleg a'r risg i gwmnïau cyfreithiol o gael eu targedu gan droseddwyr. Rhaid i'n gallu i weithio gyda'r rhai rydym yn eu rheolei er mwyn eu cynorthwyo i nodi a rheoli'r peryglon hyn barhau i wella i gwrdd â'r heriau hyn.
Cymhlethdod a diwygio'r fframwaith gwasanaethau cyfreithiol
- 3.16
Rydym eisoes wedi cyfeirio at gymhlethdod ein fframwaith statudol a rheoleil a'r her o ran rheoli'r cymhlethdod hwn a chyflwyno dynesiad rheolei clir a syml i ddefnyddwyr a'r rhai rydym yn eu rheolei.
- 3.17
Mae angen diwygio'r fframwaith ac mae'r llywodraeth, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, a llawer o sylwebyddion a chwmnïau yn credu'n gryf fod y fframwaith a grëwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 yn raddol rwystro'r diwygiadau rheolei pellach sydd eu hangen i ryddfrydoli'r farchnad ymhellach a lleihau beichiau rheolei.
- 3.18
Rydym yn wynebu'r her o geisio gwella ein rheolei oddi mewn i'r fframwaith presennol a chydweithio gydag eraill i nodi diwygiadau cadarnhaol i'r fframwaith rheolei.
Y galw am reoleiddio proffesiynol gyda lefelau gwasanaeth rhagorol
- 3.19
Mae defnyddwyr a'r rhai rydym yn eu rheolei yn disgwyl perfformiad a gwasanaeth cwsmer rhagorol gennym ni. Mae disgwyliadau gwasanaeth wedi cynyddu ar draws y sector ac yn parhau i wneud hynny. Mae'r SRA yn cael ei ariannu drwy ardollau ar y rhai rydym yn eu rheolei, ac mae cost ein rheolei yn y pen draw yn cael ei dalu gan ddefnyddwyr drwy'r ffioedd y maent yn talu i gwmnïau i dderbyn y gwasanaethau cyfreithiol sydd eu hangen arnynt.
- 3.20
Un elfen o ddisgwyliadau defnyddwyr a phroffesiynol cynyddol yw bod y rhai rydym yn eu rheolei a defnyddwyr eisiau cyfathrebiad ac ymgysylltiad agored a thryloyw. Yr ydym ni, fel eraill, yn gwybod fod angen inni fod yn fwy hygyrch ac ymatebol.
- 3.21
Mae'n ddyletswydd arnom i arddangos effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein gwaith, i gyfiawnhau'r defnydd o adnoddau ac i ddarparu gwasanaeth da.
Crynodeb
- 3.22
Mae'r ffactorau hyn, ynghyd a'r ystyriaeth o'n diben a'n gwerthoedd fel sefydliad, wedi bod yn sylfaen i'r dewisiadau a wnaed gennym ynglŷn â'r strategaeth y byddwn yn ei dilyn dros y tair blynedd nesaf.
Ein hamcanion strategol
- 4.1
Rydym wedi pennu pedwar amcan strategol ar gyfer cyfnod y cynllun hwn. Yn ein cynlluniau busnes blynyddol byddwn yn amlinellu'r rhaglenni gwaith fydd yn ein galluogi i gyflawni'r amcanion hyn.
Byddwn yn diwygio ein rheolei i alluogi twf ac arloesi yn y farchnad ac i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng lleihau beichiau rheolei a sicrhau diogelwch defnyddwyr.
- 4.2
Er mwyn cyflawni'r amcan hwn byddwn yn canolbwyntio ar fesurau i:
- gael gwared ar rwystrau a chyfyngiadau rheolei diangen a galluogi mwy o gystadleuaeth, arloesedd a thwf i wasanaethu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yn well;
- leihau beichiau rheolei diangen a'r gost i gwmnïau a reoleiddir;
- gynnal systemau cadarn, cymesur a thryloyw er mwyn sicrhau diogelwch y defnyddwyr hynny sydd angen diogelwch rheoleil;
- sicrhau bod rheolei'n cael ei dargedu'n briodol ac yn gymesur ar gyfer pob cyfreithiwr a busnes rheoledig, yn enwedig busnesau bach; a
- sicrhau bod ein rheolei yn parhau'n berthnasol mewn marchnad gwasanaethau cyfreithiol sydd â rheolyddion lluosog ac sy'n gynyddol cyfuno trosglwyddiad gwasanaethau cyfreithiol gyda throsglwyddiad gwasanaethau proffesiynol eraill.
- 4.3
Yn ogystal, byddwn yn gweithio gyda'r llywodraeth, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol a rheolyddion eraill i nodi a gweithredu gwelliannau o dan y fframwaith statudol presennol ar gyfer rheolei, ac i nodi newidiadau fyddai, gyda deddfwriaeth sylfaenol, yn galluogi gwelliannau sylweddol yn rheolei gwasanaethau cyfreithiol. Byddwn yn parhau i alw am ddiwygio mwy sylfaenol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol a'r strwythurau rheolei a sefydlwyd gan y Ddeddf honno, er mwyn galluogi rheolei mwy annibynnol, symlach a llai costus o'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol.
Byddwn yn cydweithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i godi safonau a chynnal egwyddorion proffesiynol craidd.
- 4.4
Er mwyn cyflawni'r amcan hwn byddwn yn canolbwyntio ar ein gwaith i foderneiddio'r systemau ar gyfer addysgu, derbyn, hyfforddi a datblygu cyfreithwyr, fel eu bod yn barod ar gyfer yr heriau presennol a dyfodol y gymdeithas fodern, anghenion defnyddwyr, ac anghenion marchnad gwasanaethau cyfreithiol sy'n datblygu ac yn newid yn gyflym.
- 4.5
Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru ein canllawiau ar safonau proffesiynol. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ymchwil i arferion cyfredol ac i beryglon sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyfreithwyr a chwmnïau i'w helpu i nodi a rheoli peryglon sy'n dod i'r amlwg a heriau rheoleil, gan roi enghreifftiau ymarferol o fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Byddwn yn gwella ein perfformiad gweithredol ac yn gwneud penderfyniadau teg a chyfiawnadwy yn brydlon, yn effeithiol ac yn effeithlon.
- 4.6
Er mwyn cyflawni'r amcan hwn byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- y diwylliant oddi mewn i'r sefydliad a galluoedd pawb sy'n gweithio yn yr SRA;
- a'n prosesau a’n systemau gweithredol.
- 4.7
Rydym yn anelu at gael sefydliad sy'n cefnogi pobl gyda'r hyfforddiant, prosesau, a'r systemau cywir ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi arweinyddiaeth er mwyn eu galluogi i berfformio'n well, yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon, ac i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd well.
- 4.8
Byddwn hefyd yn gweithredu cynllun newid proses a systemau sylweddol er mwyn cefnogi ein darpariaeth weithredol yn well. Bydd y newidiadau hyn yn ein galluogi i wella ansawdd a chysondeb ein penderfyniadau, i oruchwylio ac i adrodd ar ein perfformiad, ac i wella effeithlonrwydd. Bydd gwell penderfyniadau a gwell gwybodaeth reoli ynglŷn â chanlyniadau ein penderfyniadau yn hanfodol i'n gallu i ddeall a mynd i'r afael ag achosion canlyniadau anghymesur i gyfreithwyr BAME a chwmnïau.
- 4.9
Bydd newidiadau yn ein diwylliant, prosesau a systemau yn ein helpu i ddarparu gwell canlyniadau busnes yn fwy effeithiol a gwella gwerth am arian. Byddwn yn dod yn sefydliad mwy ystwyth, agored ac ymatebol, yn gallu ymateb yn gyflym i amgylchedd sy'n newid.
Byddwn yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i wella ansawdd ein gwasanaethau a'r profiad wrth eu defnyddio.
- 4.10
Er mwyn cyflawni'r amcan hwn byddwn yn gweithio gyda'n holl randdeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys y rhai rydym yn eu rheolei, y system gyfiawnder, rheolyddion eraill, defnyddwyr neu wasanaethau cyfreithiol, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddwn yn fwy tryloyw ynglŷn â'n blaenoriaethau a'n perfformiad o ran eu gwireddu ac yn gofyn am farn y cyhoedd ar hyn.
- 4.11
Byddwn yn cynnwys ac yn gweithio'n agos gyda'r cyfreithwyr a'r cwmnïau a reoleiddiwn yn natblygiad ein polisïau, dulliau a gwasanaethau rheolei, gan sicrhau ein bod yn ymatebol ac yn hygyrch.
- 4.12
Byddwn yn gweithio'n agosach gyda defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a'r cyhoedd, yn gwrando ar eu profiadau, yn esbonio'r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn rheolei ac yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael er mwyn cymryd penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'r gwasanaethau cyfreithiol sydd eu hangen arnynt.
- 4.13
Byddwn yn gweithio'n agos gydag unigolion, cwmnïau a chyrff cynrychioliadol i weithredu ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Byddwn yn annog ac yn gweithio gyda chwmnïau i wella eu hamrywiaeth a byddwn yn parhau i edrych ar y rhesymau dros anghymesuredd yn ein penderfyniadau a chymryd camau i fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol.
Ein hadnoddau
- 5.1
Mae mwyafrif y cyllid a dderbyniwn ar gyfer ein gwaith rheolei yn deillio o'r ffioedd tystysgrif ymarfer ac endid blynyddol yr ydym yn eu casglu ym mis Hydref bob blwyddyn. Daw'r gweddill o'n cyllid, ar wahân i'r swm a gesglir trwy ffioedd ymarfer, o, er enghraifft, ffioedd rheolei a delir ar gyfer gweithgareddau penodol (e.e. ffioedd am awdurdodi endidau newydd), adferiadau cost a'r Gronfa Iawndal, sy'n cwrdd â'r gost o weinyddu'r Gronfa ac ymyriadau. Mae Tabl 1 yn dangos sut gaiff ein cyllideb 2014/15 (mae ein blwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Tachwedd - 31 Hydref) ar gyfer ein costau uniongyrchol ei hariannu o'i gymharu â 2013/14.
Tabl 1
Crynodeb incwm SRA Cyllideb 2014/15
(£000,000)Cyllideb 2013/14
(£000,000)Ffioedd ymarfer unigol ac endid
30.9 1 30.9 Ffioedd rheolei (ceisiadau, ayyb)
3.3 5.4 Adenillion (gorchmynion cost, ayyb)
2.0 2.5 Cronfa Iawndal
11.3 14.0 Cyfanswm incwm SRA
47.5 52.8 - 5.2
Mae'r incwm hwn yn mynd tuag at ein cyllideb uniongyrchol. Fel yr esboniwyd ym mharagraff 2.2, uchod, rydym yn rhan o'r grŵp Cymdeithas y Gyfraith. Mae ein gwasanaethau cefnogi (megis systemau gwybodaeth, cyllid, adnoddau dynol, ayyb) yn cael eu darparu i ni gan swyddogaeth gwasanaethau cydranedig y Grŵp. Mae Tabl 2, isod, yn amlinellu ein cyllideb ar gyfer 2014/15, gan gynnwys ar gyfer yr elfennau gwasanaethau cydranedig.
Tabl 2
Crynodeb Gwariant SRA Cyllideb 2014/15
(£000,000)Cyllideb 2013/14
(£000,000)Cyllideb SRA a reolir yn uniongyrchol (heb gynnwys cost ymyriadau)
38.2 40.9 Cyllideb SRA uniongyrchol ar gyfer costau ymyriadau
9.3 11.9 Cost gwasanaethau cydranedig SRA
27.0 25.8 Cyfanswm
74.5 78.6 - 5.3
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd a lleihau cost ein rheolei yn ystod cyfnod y strategaeth hon, gyda chymorth ein systemau gwybodaeth newydd fydd ar waith yn 2015. Mae ein gallu i reoleiddio am gost lai, fodd bynnag, yn dibynnu'n sylweddol ar nifer y materion rheolei a gyfeirir atom ac sydd angen i ni eu hymchwilio. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n bwysig nodi i ni weld cynnydd o 52 y cant yn nifer y materion risg uchel a riportiwyd i ni neu a nodwyd gennym ni. Os bydd y duedd honno yn parhau bydd yn cyfyngu ar ein gallu i leihau ein costau.
1. O'r swm hwn, casglwyd £28.9m yn adnewyddiad Hydref 2014 a chafodd £2m ei ddwyn ymlaen o gronfeydd wrth gefn mewn perthynas â ffioedd a gasglwyd yn adnewyddiad Hydref 2013 ond heb fod eu hangen yn mlwyddyn ariannol 2013/14.