Datganiad tryloywder

English Cymraeg

Rhagfyr 2019

Trosolwg

Byddwn mor agored â phosibl am waith ein Bwrdd ac yn sicrhau bod nifer y trafodaethau a phapurau cyfrinachol cyn lleied â phosibl. Isod rydym yn cyflwyno trosolwg o’r pwyntiau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Datganiad Tryloywder manwl isod.

Yr hyn y gallwn ac na allwn ei gyhoeddi

Byddwn yn cyhoeddi’r canlynol am ein Bwrdd:

  • Agendâu, papurau a chofnodion cyfarfodydd. Byddwn yn cyhoeddi’r rhain cyn gynted â phosibl ar ôl pob cyfarfod, o fewn pythefnos fel arfer.
  • Adroddiadau perfformiad allweddol. Bydd hefyd adroddiadau blynyddol i’r Bwrdd ar feysydd allwedd o’n gwaith a diweddariadau rheolaidd ar ein cynllun busnes.
  • Newyddion am waith ein Bwrdd, gan gynnwys fideos, blogiau a gweddarllediadau.
  • Datganiad Atebolrwydd, sy’n egluro o ble daw ein pwerau cyfreithiol, i bwy rydym yn atebol, ein goruchwyliaeth a’n hadrodd ffurfiol. Mae’n cynnwys fframwaith gwneud penderfyniadau sy’n dangos y mathau o bethau mae’r Bwrdd yn meddwl amdanynt pan fydd yn gwneud penderfyniadau.

Ar adegau ni fydd yn briodol i gyhoeddi rhai o bapurau’r Bwrdd, neu rannau ohonynt, oherwydd ystyriaethau cyfreithiol neu am eu bod yn sensitif am resymau eraill. Ni fyddwn yn gwneud hyn oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

Rydym eisiau bod mor agored â phosibl am waith ein Bwrdd gan sicrhau bod cyn lleied â phosibl o drafodaethau a phapurau sy’n gyfrinachol.

Byddwn yn cyhoeddi agendâu, papurau a chofnodion drafft llawn o’n cyfarfodydd cyn gynted a phosibl ar ôl y cyfarfod, gan anelu at wneud hynny o fewn pythefnos ar ôl y cyfarfod.

Mae papurau’r Bwrdd yn cynnwys gwybodaeth allweddol am faterion pwysig y bydd yn rhaid i’r Bwrdd eu hystyried wrth wneud ei benderfyniadau fel Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, barn ein rhanddeiliaid a chysylltiad y materion â’n Strategaeth Gorfforaethol.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiadau perfformiad allweddol, gan ddefnyddio dull cerdyn sgorio cytbwys gydag adroddiadau naratif ac eithrio cysylltiedig. Mae hyn yn ychwanegol at adroddiadau blynyddol i’r Bwrdd ar feysydd allweddol o’n gwaith, adroddiadau ariannol a diweddariadau rheolaidd i’r Bwrdd ar ein cynllun busnes.

Rydym yn cyhoeddi ein papurau ar dudalennau gwe’r Bwrdd (dolen i ddilyn). Mae’r adran hon o’n gwefan yn cynnwys deunydd hygyrch ar waith y Bwrdd, gan gynnwys cynnwys fideo, blog a phodlediadau.

Mae tudalennau gwe’r Bwrdd yn cynnwys fframwaith gwneud penderfyniadau. Mae’r fframwaith yn disgrifio’r hyn mae’r Bwrdd yn ei ystyried pan fydd yn gwneud ei benderfyniadau.

Rydyn hefyd yn cyhoeddi Datganiad Atebolrwydd clir. Mae’r Datganiad yn egluro o ble daw ein pwerau, i bwy rydym yn atebol, gan gynnwys y cyhoedd a’r proffesiwn a’n hadroddiadau goruchwylio ffurfiol, a sut yr ydym yn cyflawni’r gofynion hynny. Mae’r Datganiad yn cysylltu ag ystod eang o’n dogfennaeth gorfforaethol fel bod pawb yn gallu dod o hyd i bopeth mewn un lle.

Yr hyn y gallwn ac na allwn ei gyhoeddi

Mae’n bosibl na fydd yn briodol i gyhoeddi rhai o Bapurau’r Bwrdd am eu bod:

  1. yn ymdrin â strategaeth neu bolisi arfaethedig
  2. yn sensitif yn fasnachol
  3. yn cynnwys data personol neu faterion yn ymwneud ag unigolyn a enwir, unigolyn y gellid ei adnabod neu sydd â disgwyliad rhesymol y byddai’r mater yn cael ei gadw’n gyfrinachol
  4. yn cynnwys trafodaeth ar risg a allai gael ei dwysau drwy gyhoeddi
  5. yn cynnwys cyngor cyfreithiol neu broffesiynol ar faterion sensitif neu gyfrinachol.

Os bydd eitem gwbl gyfrinachol yn ymddangos ar agenda gall gael ei rhestru fel ‘eitem gyfrinachol’ yn unig, heb ddim rhagor o wybodaeth.

O bryd i’w gilydd gall gwybodaeth gyfrinachol gael ei golygu neu ei hepgor o’r cofnod neu bapur a gyhoeddir, er y byddwn yn ymdrechu i wneud cyn lleied â phosibl o hyn. Mewn rhai achosion, gall papur y Bwrdd gynnwys gwybodaeth gyfrinachol mewn atodiad – er enghraifft manylion sy’n sensitif yn fasnachol – ac ni fydd yr atodiad hwnnw’n cael ei gyhoeddi.

Yn ychwanegol at ein cyfarfodydd Bwrdd ffurfiol, gall y Bwrdd gwrdd mewn sesiynau seminar neu weithdai, neu gynnal derbyniad neu ginio ar gyfer rhanddeiliaid. Ni chedwir cofnodion o’r sesiynau hyn ond gall y drafodaeth gael ei chynnwys mewn cofnod o gyfarfod ffurfiol o’r Bwrdd drwy adroddiad y Cadeirydd a chael sylw mewn cyhoeddiad cysylltiedig, fel blog y Cadeirydd ar ddiwrnod y cyfarfod.