Ein Bwrdd – cyfrifoldebau

English Cymraeg

Mae rheolaeth weithredol yr SRA yn cael ei dirprwyo i’n Prif Weithredwr a’r tîm Gweithredol, ond ein Bwrdd sydd, yn y pen draw, yn gyfrifol am bopeth rydym yn ei wneud.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ein diben, ein hamcanion a’n strategaeth
  • ein perfformiad yn weithredol ac yn erbyn ein cynlluniau corfforaethol a busnes
  • ein gwerthoedd a’n henw da
  • sut yr ydym yn cyflawni ein hamcanion statudol
  • sut yr ydym yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol
  • perfformiad ein gweithrediaeth
  • ein safonau llywodraethu.

Mae ein bwrdd yn rhoi sylw penodol i’r canlynol:

  • gwneud yn siŵr ein bod yn gweithredu’n annibynnol ac er budd y cyhoedd
  • ein heffaith a’n heffeithiolrwydd
  • canfod a rheoli risgiau yn y sector
  • gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein cronfeydd yn briodol
  • gwneud yn siŵr ein bod yn gweithredu’u deg
  • gweithredu’n gyfrifol ac mewn ffordd dryloyw
  • gwneud yn siŵr ein bod yn ymddwyn yn foesegol

Mae’r Bwrdd yn dilyn rheolau Cymdeithas y Cyfreithwyr a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol.