Adolygiad o'r drefn Amddiffyn Cleientiaid 2018/1

Ionawr 2021

Ein ffordd o Amddiffyn Cleientiaid

Os gwyddom fod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu fod angen inni, am reswm arall, warchod buddiannau cleientiaid, gallwn gymryd camau i gau cwmni neu bractis cyfreithiwr i lawr. Galwn hyn yn ymyrraeth.

Pan rydym yn ymyrryd, rydym yn meddiannu holl arian a ffeiliau'r cleientiaid ac yn cymryd camau i'w dychwelyd i'w perchnogion. Nid yw'r cwmni wedyn yn gallu gweithredu mwyach.

Pam ein bod yn ymyrryd

Ceir sawl rheswm pam byddem yn ymyrryd mewn cwmni. Er enghraifft, os yw'r cwmni yn wynebu ansolfedd neu'n mynd yn fethdalwr, neu os rhoddwyd y gorau i'r cwmni.

Y rhesymau mwyaf cyffredin am ymyrryd yw oherwydd:

  • ein bod yn amau bod rhywun yn y cwmni wedi bod yn anonest
  • y cafwyd achos difrifol o dorri ein rheolau
  • mae arnom angen amddiffyn cleientiaid presennol y cwmni, ei gyn neu ei ddarpar gleientiaid.

Os gwyddom fod cyfreithwyr wedi bod yn anonest, rydym yn debygol iawn o ymyrryd yn eu practis. Mae cyfreithwyr anonest yn peri risg ddifrifol i'w cleientiaid, i'r llysoedd a'r cyhoedd.

Ymyraethau yn y degawd diwethaf

Fe wnaeth nifer yr ymyraethau gyrraedd penllanw yn dilyn dirwasgiad 2008, pan fu inni ymyrryd mewn llawer o gwmnïau a oedd yn ddibynnol ar drawsgludo tai preswyl. Roedd hwn yn un faes gwaith a deimlodd effaith y dirywiad economaidd yn arw. Yn dilyn cwymp yn y ffigurau yn 2010/11, mae nifer yr ymyraethau wedi setlo ar gyfradd eithaf gyson am yr wyth mlynedd diwethaf, gyda ffigur cyfartalog o 43 bob blwyddyn.

Ymyraethau yn y degawd diwethaf

Fe wnaeth nifer yr ymyraethau gyrraedd penllanw yn dilyn dirwasgiad 2008, pan fu inni ymyrryd mewn llawer o gwmnïau a oedd yn ddibynnol ar drawsgludo tai preswyl. Roedd hwn yn un faes gwaith a deimlodd effaith y dirywiad economaidd yn arw. Yn dilyn cwymp yn y ffigurau yn 2010/11, mae nifer yr ymyraethau wedi setlo ar gyfradd eithaf gyson am yr wyth mlynedd diwethaf, gyda ffigur cyfartalog o 43 bob blwyddyn.

2009/10 2010/11 2011/12 2012/13 2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19
74 56 42 50 51 40 37 50 33 37

Rhesymau am ymyrryd

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, y rheswm am ymyrryd yn oddeutu hanner yr achosion yn 2018/19 oedd oherwydd ein bod yn amau bod rhywun yn y cwmni yn anonest neu er mwyn amddiffyn buddiannau cleientiaid.

Traddodi i garchar
Rhesymau am 50 o ymyraethau yn 2016/17 Rhesymau am 33 o ymyraethau yn 2017/18 Rhesymau am 37 o ymyraethau yn 2018/19
Tramgwyddo ein rheolau 29 Amheuaeth o anonestrwydd 19 Amheuaeth o anonestrwydd 20
Amheuaeth o anonestrwydd 29 Tramgwyddo ein rheolau 17 Buddiannau cleientiaid 18
Tramgwyddo ein Rheolau ar gyfer Cyfrifon 27 Amddiffyn buddiannau cleientiaid 15 Tramgwyddo ein rheolau 12
Amddiffyn buddiannau cleientiaid 26 Tramgwyddo ein Rheolau ar gyfer Cyfrifon 11 Tramgwyddo ein Rheolau ar gyfer Cyfrifon 7
Tramgwyddo Rheolau Yswiriant Indemniad Cyfreithwyr 14 Rhoddwyd y gorau i'r cwmni 1 Methdalu 2
Methdalu 2 Ansolfedd yr LLP 1 Rhoddwyd y gorau i'r cwmni 1
Atal neu ddiarddel 2 Wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod 1
Anghymwyso 1 Atal neu ddiarddel 1
Traddodi i garcharc 1

Sylwer, fe ellir bod mwy nag un rheswm am ymyrryd ym mhob achos.

Astudiaeth achos: Ymyrraeth ar waith

Y llynedd, fe wnaethom gau cwmni a oedd yn cynnig gwasanaethau ym maes cyfraith teulu, trawsgludo, profiant ac adennill dyledion. Canfu ein hymchwiliadau fforensig fod un o bartneriaid y cwmni wedi bod yn trosglwyddo arian o gyfrif banc y cleient i dalu costau rhedeg y cwmni. Honnai'r partner fod yr arian hwn yn ddyledus i'r cwmni fel taliad am ei wasanaethau. Nid oedd hyn yn wir. Roedd y partner wedi codi gormod ar gleientiaid ac wedi camarwain ein hymchwilydd ar y safle am y ffioedd. Yn un o'r achosion, codwyd £23,500 ar gleient pan ddyfynnwyd ffi gychwynnol am y gwaith o ychydig dan £1,000. Gwelsom brinder o o leiaf £105,000 yn y cyfrif cleientiaid.

Fe wnaethom ymyrryd ar y sail bod gennym reswm i amau bod un o bartneriaid y cwmni yn bod yn anonest a'u bod nhw, a'r partner arall yn y cwmni, wedi tramgwyddo ein rheoliadau a'n Rheolau ar gyfer Cyfrifon.

Fe wnaethom adennill dros £540,000 o gyfrif cleientiaid y cwmni a'i ddychwelyd i'w berchnogion. Fe wnaethom hefyd ddyfarnu cyfanswm o £435,000 o grantiau o'r gronfa iawndal i gleientiaid na lwyddom i adennill eu harian iddynt. Roedd hwn yn cynnwys grantiau a wnaed i nifer o gleientiaid agored i niwed y codwyd ffioedd gormodol arnynt.

Cyfeiriwyd y ddau bartner at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Cafodd un ei ddiarddel a chafodd y llall ei atal am flwyddyn. Gorchmynnwyd y cyntaf i dalu costau o £34,800 a'r ail £14,900.

Sut mae'r gronfa iawndal yn gweithio

Gall y gronfa wneud taliadau i'r cyhoedd ac i fusnesau bach yn lle arian y mae eu cyfreithiwr wedi'i gymryd neu ei ddefnyddio'n amhriodol

Fel arfer, mae pobl yn gwneud hawliad i'r gronfa ar ôl inni ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol yr oeddent yn ei ddefnyddio. Ni sy'n rhedeg y gronfa ac mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu i mewn iddi drwy gyfrwng ardoll flynyddol.

Oherwydd y risgiau disgwyliedig yn y sector cyfreithiol, fe wnaethom gynyddu'r ardoll yn 2018/19 gan gasglu £90 gan bob cyfreithiwr a £1,680 gan bob cwmni cyfreithiol. Fodd bynnag, pan welsom nifer a chymhlethdod yr ymyraethau'n syrthio, aethom ymlaen i ostwng yr ardoll i £60 i bob cyfreithiwr a £1,150 i bob cwmni ar gyfer 2019/20.

Gwneud hawliad

Gall pobl wneud hawliadau ar y gronfa drwy ein gwefan, a byddwn yn cyfeirio pobl ati pan fyddwn yn ymyrryd mewn cwmni. Ar ôl inni gael hawliad, rydym yn asesu i weld a all y gronfa helpu. Mae pobl sy'n gwneud hawliad yn aml yn mynd drwy amser anodd neu ofidus, felly rydyn ni'n gweithio mor gyflym ac mewn ffordd mor gefnogol ag y gallwn.

Rydym yn ystyried pob hawliad yn ofalus ac ni fyddwn ond yn gwneud taliad os yw'r hawliadau'n syrthio o fewn ein rheolau a bod yr aelod o'r cyhoedd neu'r busnes bach dan sylw wedi cael colled ariannol.

Dyma'r ddau reswm mwyaf cyffredin dros wneud taliadau:

  • mewn achosion profiant, pan fo cyfreithwyr anonest yn mynd ag etifeddiant rhywun
  • mewn achosion trawsgludo, pan fo cyfreithwyr anonest yn cymryd neu'n colli blaendaliadau, benthyciadau morgeisi neu elw o werthiannau.

Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn debygol o wrthod hawliad. Er enghraifft:

  • os dylai cwmni yswiriant cwmni ddelio â'r hawliad
  • os daw'r hawliad oddi wrth fusnes sydd â throsiant o £2m neu ragor y flwyddyn*
  • os yw'r hawliad yn gysylltiedig â cholledion a ddigwyddodd oherwydd gweithgaredd nad yw'n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr
  • os gwneir yr hawliad y tu allan i'r terfynau amser
  • os yw'r hawliad yn codi oherwydd nad yw'r cleient wedi cymryd gofal priodol o'i arian.

Rydym yn monitro faint o arian a delir allan o'r gronfa iawndal bob blwyddyn a'r math o hawliadau a ddaw i law, gan gadw golwg ar y risgiau datblygol i'r cyhoedd a'u harian.

Yn yr ymgynghoriad ar gyfer ein Cynllun Busnes 2020/21, fe wnaethom ymgynghori ar yr egwyddorion arfaethedig y bydd ein Bwrdd yn eu hystyried wrth bennu lefel y cyfraniadau i'r gronfa iawndal i'r dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod y cyfraniadau i'r gronfa mor gyraeddadwy â phosibl i'r bobl a'r cwmnïau'r ydym yn eu rheoleiddio a bod yn dryloyw ynglŷn â sut caiff y gronfa ei rheoli. Yr egwyddor bwysicaf fydd cynnal hyfywedd y gronfa. Cawsom gefnogaeth gyffredinol i'n hegwyddorion arfaethedig ac i'n hymrwymiad i gadw'r gronfa'n hyfyw, a bydd ein Bwrdd yn ystyried yr egwyddorion hyn pan bennant y cyfraniadau yn 2021. Fel rhan o'n gwaith parhaus i weithio i adolygu ei sefydlogrwydd a'r galwadau a fydd arni i'r dyfodol, byddwn yn rhoi ystyriaeth i'r holl adborth a gawsom yn ystod y broses ymgynghori.

*Ym mis Gorffennaf 2020, fe gyhoeddom newidiadau yn y gronfa iawndal a fydd yn arwain at gwtogiad o £500,000, yn amodol ar gael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (LSB). Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn yr adran gwaith i'r dyfodol.  

Grantiau'r gronfa iawndal yn y pum mlynedd diwethaf

Mae'r taliadau a wnawn bob blwyddyn yn cyfateb i nifer a natur yr ymyraethau a wnaethom; gallai rhai o'r ymyraethau hyn fod wedi digwydd yn ystod y flwyddyn fusnes flaenorol. Bydd hyn hefyd yn dibynnu ar werth hawliadau unigol.

Roedd cyfanswm y taliadau a wnaed yn 2018/19 yn £7.5m. Er mai hwn yw'r swm lleiaf yr ydym wedi'i dalu allan yn y pum mlynedd diwethaf, mae'n dilyn dwy flynedd lle mae'r taliadau o'r gronfa iawndal wedi cynyddu, felly mae'n rhy fuan gwybod a yw hyn yn arwydd o dueddiad.

Compensation fund payments 2014-2019 Number of interventions
2014/15 £17.8m 40
2015/16 £10.3m 37
2016/17 £15.2m 50
2017/18 £18.1m 33
2018/19 £7.5m 37

Dyma'r prif ffigurau ar gyfer 2018/19:

  • Gwnaed 1,425 o hawliadau
  • Caewyd 1,553 o hawliadau*
  • Arweiniodd 488 o hawliadau at daliad
  • roedd cyfanswm y taliadau a wnaed £7.5m.
  • y grant mwyaf o'r gronfa iawndal oedd £794,000.

*Sylwer, nid yr un grŵp o hawliadau â'r rhai a wnaed yn 2018/19 fydd pob un o'r rhain, gan nad ymdrinnir â'r holl hawliadau a wnaed ac a gaewyd yn yr un cyfnod 12 mis.

Ymdrin ag arian cleientiaid, eu ffeiliau a'u hawliadau i'r gronfa iawndal

Pan ydym yn ymyrryd mewn cwmni, rydym yn mynd â'r holl ffeiliau o'i swyddfeydd ac yn cysylltu â'r cleientiaid i egluro beth sydd wedi digwydd. Rydym yn gweithio â'n hasiantau ymyrryd i gymryd cyfrifoldeb dros arian cleientiaid sydd yng nghyfrifon cwmni a dros ffeiliau cleientiaid.

Bydd ein hasiant, sy'n gwmni cyfreithiol, yn delio â materion brys y cleientiaid. Bydd hefyd yn canfod i bwy mae'r ffeiliau'n perthyn, er mwyn inni allu cysylltu â'r cleientiaid a rhoi gwybod iddynt ein bod wedi cau'r cwmni. Mae'r asiant hefyd yn cynghori'r cleientiaid ynglŷn â'r hyn y dylent ei wneud nesaf.

Os nad yw ffeil cleient eisiau sylw brys neu os yw'n segur, byddwn yn ei harchifo yn ein cyfleusterau yn Coventry neu Darlington. Capita sy'n gyfrifol am ein harchifau. Mae'n delio â'r holl geisiadau gan gleientiaid am eu papurau.

Rydym yn dadansoddi ac yn ail-greu'r cofnodion cyfrifo ar gyfer y cwmni ac yn gweithio i ddychwelyd arian cleientiaid i'w perchnogion. Mae arian yn aml ar goll o'r cyfrif cleientiaid. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gall cleientiaid nad ydynt wedi cael eu harian wneud hawliad i gwmni yswiriant y cwmni neu i'r gronfa iawndal.

Dal arian ar ymddiriedolaeth ac adennill costau

Os nad ydym yn llwyddo i ddychwelyd arian cleientiaid i'w berchennog yn fuan ar ôl cau cwmni, rydym yn ei gadw mewn ymddiriedolaeth statudol. Rydym yn cymryd camau i chwilio am y perchennog, a bydd hynny'n dibynnu ar faint o wybodaeth sydd gennym am yr unigolyn, a faint o arian sydd dan sylw. Gyda symiau mawr, rydyn ni'n ymdrechu'n galed i ddod o hyd i bobl, gan gynnwys hurio asiantau ymchwilio ac ymweld â thai pobl i gyflwyno sieciau. Weithiau, mae'r bobl rydym yn chwilio amdanynt dramor, felly rydym yn cyfarwyddo asiantau ymchwilio tramor.

Rydym yn ceisio adennill y costau ymyrryd, y taliadau a wnawn o'r gronfa iawndal, a chostau'r llys a'r ymchwiliad mewnol oddi wrth y cwmni dan sylw. Daw ein cyllid oddi wrth y cwmnïau cyfreithiol a'r cyfreithwyr yr ydym yn eu rheoleiddio, felly mae adennill costau'n bwysig oherwydd, yn y pendraw, caiff ein costau eu pasio ymlaen i'r cyhoedd sy'n prynu gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn dilyn pob trywydd i adennill costau, gan gynnwys gweithredu yn erbyn y cyfreithwyr neu'r rheolwyr yr ydym yn ymyrryd ynddynt, cwmni yswiriant y cwmni ac, mewn rhai achosion, cyn bartneriaid a chyfarwyddwyr y cwmni.

Yn 2018/19, fe wnaethom adennill £2.5m mewn costau ymyrryd a thaliadau o'r gronfa iawndal.

Astudiaeth achos: Grant mwyaf y gronfa iawndal

Cafodd y cwmni waith trawsgludo ac fe wnaeth y sawl a oedd yn honni bod yn gyfreithiwr weithredu yng ngwerthiant eiddo gwerth £930,000. Ddau ddiwrnod ar ôl cwblhau, fe wnaeth ffugio dogfennau'r Gofrestrfa Dir a datganiad cwblhau i gamarwain perchennog y cwmni i dalu arian y gwerthiant i drydydd partïon anghysylltiedig. Dechreuom ymchwilio ar ôl i reolwr y cwmni ddweud wrthym am ymddygiad y sawl a oedd yn honni bod yn gyfreithiwr.

Fe wnaethom ymyrryd yn y cwmni ar y sail bod rheolwr y cwmni wedi tramgwyddo ein rheolau, a'i bod yn angenrheidiol amddiffyn buddiannau cleientiaid y cwmni.

Fe wnaethom gyfeirio'r achos i'r SDT, a chafodd rheolwr y cwmni ei ddiarddel a'i orchymyn i dalu costau o £15,000. Er na wnaeth yr SDT ei gael yn anonest, canfu mai'r unig gosb briodol a chymesur oedd ei ddiarddel, ‘ac ystyried lefel y diofalwch a'r diffyg uniondeb a arddangosodd', meddai.

Gwnaed y grant o £794,000 o'r gronfa iawndal i un o bedwar o bobl a oedd yn gysylltiedig â'r trafodiad trawsgludo hwn a ddioddefodd golled oherwydd gweithredoedd y cyfreithiwr honedig. Cafodd y lleill hefyd grantiau o'r gronfa iawndal am eu harian colledig.

Rydyn ni'n gweithio'n rheolaidd ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac awdurdodau eraill os gwelwn weithgaredd troseddol posibl. Mae'n bwysig inni ein bod yn cymryd yr holl gamau y gallwn i amddiffyn defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Bygythiad cynyddol cynlluniau buddsoddi amheus

Mae twyllwyr wastad yn ceisio meddwl am ffyrdd o feithrin ymddiriedaeth pobl a chymryd mantais ohonynt. Maent yn aml yn cyflwyno cynigion buddsoddi a fydd yn sicrhau enillion ardderchog fel ffordd o gymryd arian pobl – megis eu cronfa bensiwn. Gall y cynlluniau hyn fod yn atyniadol iawn yn economi'r dydd sydd ohoni.

Gallai'r cynlluniau geisio defnyddio cwmnïau cyfreithiol go iawn i fod yn ganolwyr i wneud i gynlluniau buddsoddi amheus ymddangos yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddiogel.

Er bod y mwyafrif helaeth o gyfreithwyr yn gweithredu â gonestrwydd ac uniondeb, mae nifer fechan yn camddefnyddio eu swydd gyfrifol neu'n cymryd risgiau drwy gynorthwyo mewn cynlluniau nad ydynt yn eu deall. Mae rhai pobl wedi colli eu cynilion oes. Mae'r colledion sy'n gysylltiedig â chynlluniau buddsoddi amheus y dywedwyd wrthyn ni amdanynt yn y blynyddoedd diwethaf yn gannoedd o filiynau o bunnau.

Mathau o gynlluniau

Mae gwerthwyr cynlluniau buddsoddi amheus yn tueddu i newid natur y cynlluniau y maent yn rhan ohonynt yn achlysurol, er mwyn osgoi cael eu dal bid siŵr, fel yr amlygir yn einhysbysiad rhybuddio diweddaraf ac yn ein hadolygiad thematig.Canfuom y gellir categoreiddio'r mathau o gynlluniau buddsoddi amheus y mae cyfreithwyr yn fwy tebygol o fod yn rhan ohonynt, fel arfer, yn bedwar maes:

  • Datblygiadau ffracsiynol, megis ystafelloedd unigol, gofodau neu unedau mewn cynlluniau ehangach. Ni welwn ddim rheswm amlwg pam dylai rhywun sydd eisiau buddsoddi mewn busnes gwesty brynu ystafell drwy broses drawsgludo ddrud, na pham byddai cynllun o'r fath yn darparu enillion mawr.
  • Buddsoddiadau amgen, megis metelau gwerthfawr a gwinoedd cain. Gellir prynu a gwerthu cynhyrchion fel diemyntau a gwin, ond nid oes ffordd arbennig o gael enillion mawr.
  • Cynhyrchion ariannol cymhleth, megis benthyciadau, cyfranddaliadau a bondiau sy'n cynnig elwau mawr.
  • Prosiectau adnewyddu neu ddatblygu dan arweiniad prynwyr. Caiff y datblygiadau fel arfer eu gwerthu oddi wrth gynlluniau, gyda'r buddsoddwyr yn ariannu'r prosiect cyfan.  Nid yw'r cyfryw gynlluniau yn dwyllodrus yn eu hanfod, ond mae'r risg yn fawr a dylai'r cyfreithiwr eu trin â gofal.

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelsom gryn gynnydd mewn adroddiadau sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau ffracsiynol ac oddi wrth gynlluniau, a'r rheini wedi'u cysylltu'n arbennig â nifer o gynlluniau datblygu sydd wedi mynd i'r wal yng ngogledd orllewin Lloegr.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ac mae mathau newydd o gynlluniau buddsoddi amheus yn ymddangos drwy'r amser.

Astudiaeth achos: Cynlluniau buddsoddi amheus

Fe wnaethom erlyn cyfreithiwr yn yr SDT yn 2019 pan ganfuom ei fod wedi hwyluso cynlluniau buddsoddi amheus ac wedi caniatáu i'w gyfrif cleientiaid gael ei ddefnyddio fel cyfrif banc; ni chaniateir hyn dan ein rheolau ni. Ni ddylai cwmnïau cyfreithiol ond fod ag arian yn eu cyfrif cleientiaid sy'n ymwneud â thrafodiad cyfreithiol sylfaenol neu sy'n ffurfio rhan o weithgareddau rheoledig arferol y cwmni.

Y cynlluniau dan sylw oedd rhai oedd yn hybu cynhyrchion ariannol cymhleth. Mewn un cynllun yr oedd y cyfreithiwr yn gweithio arno, dywedwyd wrth un aelod o'r cyhoedd y gallai gael offeryn bancio (megis benthyciad neu gredyd) gwerth $50m pe gallai brofi bod ganddo £100,000, sef hefyd y gost o fwrw camau nesaf y cynllun ymlaen. Fe wnaeth pedwar cleient roi rhwng £47,000 a £200,000 yr un i'r cwmni tuag at y buddsoddiadau tybiedig.

Cyfaddefodd y cyfreithiwr iddo dramgwyddo'r rheoliadau gwyngalchu arian a gweithredu'n anonest. Roedd hyn yn ychwanegol at gyfaddef ei fod wedi hwyluso cynlluniau buddsoddi amheus a chaniatáu i'w gyfrif cleientiaid gael ei ddefnyddio fel cyfleuster bancio.

Fe wnaeth yr SDT ddiarddel y cyfreithiwr a gofyn iddo dalu ein costau o £24,000. Dywedodd fod y cyfreithiwr, yr oedd ei bractis mewn trafferthion ariannol, wedi bod yn 'darged perffaith' fel canolwr i hyrwyddo'r cynlluniau. Dywedodd hefyd fod y cyfreithiwr 'yn brofiadol ac y dylai felly fod wedi gwybod o'r dechrau bod yr hyn roedd yn ei wneud yn anghywir. Roedd [y cyfreithiwr] yn amlwg wedi bwriadu elwa'n ariannol o'r trefniadau.'

Gwaith i'r dyfodol

Egwyddorion pennu lefelau cyfraniadau

Fe wnaethom ymgynghori ar yr egwyddorion arfaethedig y bydd ein Bwrdd yn eu hystyried wrth bennu lefel y cyfraniadau i'r gronfa iawndal i'r dyfodol. Dyma'r egwyddorion:

  • Yr egwyddor bwysicaf fydd cynnal hyfywedd y gronfa.
  • Byddwn yn sicrhau bod y cyfraniadau proffesiynol i'r gronfa mor gyraeddadwy â phosibl i'r rhai'r ydym yn eu rheoleiddio.
  • Byddwn yn casglu'r cyfraniadau i'r gronfa mewn ffordd sy'n gyraeddadwy i'r rhai'r ydym yn eu rheoleiddio.
  • Byddwn yn dryloyw o safbwynt arian y gronfa a'r ffordd y caiff ei reoli.

Cawsom gefnogaeth gyffredinol i'n hegwyddorion arfaethedig ac, fel rhan o'n gwaith parhaus i adolygu sefydlogrwydd y gronfa a'r galwadau a fydd arni i'r dyfodol, byddwn yn rhoi ystyriaeth i'r holl adborth a gawsom yn ystod y broses ymgynghori. Bydd ein Bwrdd yn dechrau gweithredu'r egwyddorion hyn yn 2021, pan gaiff lefel nesaf y cyfraniadau i'r gronfa iawndal ei phennu.

Newidiadau yn y gronfa iawndal ac yn ein Strategaeth Gorfforaethol 2020–23

Mae Tachwedd 2020 yn nodi dechrau eich Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd newydd. Un o'r tri amcan fydd gosod a chynnal safonau proffesiynol uchel i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol fel y byddai'r cyhoedd yn ei ddisgwyl a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gweithredol ar yr un lefel uchel.

Ar ôl cynnal dau ymgynghoriad, un yn 2018/19 ac un yn 2019/20, byddwn yn gwneud newidiadau yn y ffordd y mae'r gronfa iawndal yn gweithredu i'r dyfodol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y gronfa yn gallu parhau i amddiffyn y cyhoedd a bod yn fforddiadwy i'r proffesiwn a'i gleientiaid ar yr un pryd.

Ymysg y prif newidiadau y mae dileu unrhyw brofion ariannol neu brofion o galedi i ymgeiswyr cymwys, fel nad oes angen i bobl sy'n ceisio grantiau mwyach brofi eu bod wedi dioddef oherwydd eu colled. Gwneir hyn oherwydd fe allai'r prawf cyfredol fod wedi atal cleientiaid rhag cael iawndal.

Yn ogystal, caiff yr uchafswm a ganiateir mewn un grant ei ostwng o £2m i £500,000. Dim ond 0.2% o'r holl daliadau dros y 15 mlynedd diwethaf oedd dros y swm hwn. Rydym, fodd bynnag, wedi cynnwys darpariaeth i dalu mwy na'r uchafswm newydd mewn amgylchiadau eithriadol.

Disgwylir i'r rheoleiddiwr goruchwylio, yr LSB, gymeradwyo'r newidiadau yn 2021.

Panel ymyrraeth newydd

Ym mis Hydref 2020, fe wnaethom wahodd cwmnïau i gyflwyno ceisiadau i fod yn rhan o'n panel ymyrraeth newydd. Pan rydym yn ymyrryd ac yn cau practis lawr, mae'r cwmnïau cyfreithiol ar ein panel yn delio â materion cleientiaid brys, yn gweithio i ganfod i bwy y mae'r ffeiliau'n perthyn ac yn cysylltu â'u perchnogion, ac yn cynghori cleientiaid ynglŷn â'r hyn y dylent ei wneud nesaf.

Byddwn yn cynnal ymarferiad tendro trylwyr a chaeth ac yn cyhoeddi'r panel newydd yn ystod gwanwyn 2021.