Peilot SQE1 yn Gymraeg

11 Ionawr 2024

English Cymraeg

Cefndir

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw'r asesiad cadarn sengl i bob darpar gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi'i gynllunio i sicrhau safonau cyson ac uchel ar gyfer pob cyfreithiwr sy'n cymhwyso.

Mae Cymru a Lloegr yn un awdurdodaeth gyfreithiol, sy'n cynnwys dwy wlad a dwy iaith swyddogol. Rydyn ni o blaid mynediad at wasanaethau cyfreithiol yn y ddwy iaith swyddogol ac rydym wedi ymrwymo i gynnig yr SQE yn Gymraeg erbyn mis Medi 2024. Mae'r ymgeiswyr yn cael dewis cymryd SQE2 yn Gymraeg eisoes, a'r cam olaf fydd SQE1 yn Gymraeg.

Cynhaliwyd peilot ym mis Mehefin 2023 i archwilio ymarferoldeb cynnal asesiad SQE1 yn Gymraeg, gan gynnwys y broses ar gyfer cyfieithu. Mae'r canfyddiadau wedi'u crynhoi isod.

Cynhaliwyd peilot SQE2 hefyd, a hynny ym mis Medi 2021.

Yr asesiadau

Mae'r SQE yn cynnwys SQE1, sy'n profi gwybodaeth gyfreithiol weithredol yr ymgeiswyr ac SQE2, sy'n profi sgiliau cyfreithiol ymarferol yr ymgeiswyr.

Mae i SQE1 ddwy ran: Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 1 (FLK1) a Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 2 (FLK2). Mae'r rhain yn cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod heb fod yn olynol, ac mae FLK1 ac FLK2 yn brofion amlddewis sy'n chwilio am un ateb gorau.

Mae SQE2 yn asesu sgiliau cyfreithiol ymarferol. Mae i hwn hefyd ddwy ran: asesiadau llafar dros ddau hanner diwrnod yn olynol ac asesiadau ysgrifenedig dros dri hanner diwrnod yn olynol.

Darllenwch ragor ar wefan asesiadau'r SQE.

Amcanion peilot SQE1 yn Gymraeg

Nod cynllun peilot SQE1 yn Gymraeg oedd profi agweddau penodol ar gynnal asesiad SQE1 yn Gymraeg. Yn benodol, roedd yn anelu at y canlynol:

  1. Profwch effeithiolrwydd y broses o gyfieithu cwestiynau.
  2. Sicrhau adborth yr ymgeiswyr ar opsiynau amgen ar gyfer cyflwyno'r cwestiynau.
  3. Dod i gasgliad ar ddefnyddio geirfa benodol ar gyfer yr asesiad a / neu gyhoeddi geirfa fwy cyffredinol a ddefnyddir at ddibenion cyfieithu.
  4. Asesu pa wybodaeth y byddai'r ymgeiswyr yn ei chael yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus a ddylid gwneud SQE1 yn Gymraeg ai peidio.
  5. Sicrhau adborth yr ymgeiswyr ar y profiad cyffredinol o sefyll asesiad SQE1 yn Gymraeg.
  6. Mesur agweddau ar gywerthedd wrth sefyll yr asesiad SQE1 yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Doedd y rhychwant ddim yn cynnwys profi dilysrwydd yr arholiad gan fod hyn wedi'i brofi yn ddau beilot blaenorol Kaplan ar gyfer SQE1 a'r SQE2.

Datblygu'r peilot

Cafodd 90 cwestiwn sampl SQE1 eu cyfieithu i'r Gymraeg a'u defnyddio ar gyfer y peilot.

Cafodd y peilot ei hybu trwy wefan yr SQE, bwletin SQE Update a sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol. Dosbarthwyd gwybodaeth am y peilot hefyd trwy rwydweithiau'r rhanddeiliaid.

Roedd gofyn bod gan yr ymgeiswyr lefel benodol o brofiad cyfreithiol (naill ai drwy ymarfer neu drwy addysg) ond nid oeddent yn sefyll yr asesiad SQE1 go iawn, ac ni chafodd unrhyw ganlyniadau eu rhoi iddyn nhw. Cymerodd 29 o ymgeiswyr ran yn y peilot ar draws pum lleoliad yng Nghymru ac un lleoliad yn Lloegr.

Casglwyd adborth yr ymgeiswyr drwy arolwg ar ôl y peilot a dau grŵp ffocws.

Cyfieithu'r cwestiynau

Dechreuwyd cynllunio ar gyfer cyfieithu'r cwestiynau yn 2021 pan gynhaliodd aelodau o Kaplan SQE gyfarfodydd gyda phanel o gyfreithwyr Cymraeg eu hiaith i drafod yr heriau a allai fod ynghlwm wrth gyfieithu'r cwestiynau i'r Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys yr anhawster o ran dod o hyd i un term a dderbynnir ar gyfer termau ac ymadroddion cyfreithiol Saesneg penodol a rhai agweddau eraill ar y Gymraeg. Cynhaliwyd sgyrsiau gyda rhanddeiliaid eraill i drafod yr heriau hyn.

Roedd cyfieithu'r cwestiynau wedyn yn dibynnu ar bedwar prif gam:

  1. Cafodd y cwestiynau asesu eu cyfieithu i ddechrau gan gwmni cyfieithu Cymraeg sy'n aelod llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ogystal â Chymdeithas y Cwmnïau Cyfieithu.
  2. Yna rhannwyd y cwestiynau a gyfieithwyd (ynghyd â'r fersiynau Saesneg) yn feysydd pwnc a'u hadolygu gan banel o gyfreithwyr Cymraeg. Nod y cam hwn oedd helpu i ddelio â rhai o'r heriau a nodwyd uchod, yn benodol wrth gyfieithu termau cyfreithiol.
  3. Yna cynhaliodd y cyfreithwyr Cymraeg eu hiaith gyfarfodydd i drafod eu canfyddiadau gyda thîm academaidd Kaplan SQE i gytuno ar unrhyw welliannau y dylid eu gwneud i'r cwestiynau. Bu'r cyfarfodydd hefyd yn ystyried termau oedd yn arbennig o anodd eu cyfieithu.
  4. Yna, adolygwyd y 90 cwestiwn gan un cyfreithiwr Cymraeg ei iaith i helpu i sicrhau cysondeb wrth ddefnyddio terminoleg ar draws y cwestiynau.

Cyflwyniad y cwestiynau

Trwy gydol y broses o gynllunio a chyfieithu, rhoddwyd ystyriaeth i sut y gellid cyflwyno'r cwestiynau a'r defnydd posibl o restr termau yn yr asesiad. Penderfynwyd y byddai'r cwestiynau'n cael eu cyflwyno mewn dwy ffordd wahanol:

  1. Cafodd termau arbennig o heriol eu tanlinellu a chafwyd neidlen ar y sgrin i gynnig rhestr o dermau penodol ar gyfer yr asesiad.
  2. Cafodd termau arbennig o heriol eu tanlinellu a rhoddwyd y cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau o fewn y cwestiwn.

Crynodeb o'r canfyddiadau

Ystyriwyd adborth yr ymgeiswyr o'r arolwg a'r grwpiau ffocws yng nghyd-destun nodau'r peilot.

Effeithiolrwydd y broses cyfieithu cwestiynau

Cafwyd nifer o sylwadau ynglŷn â chyfieithu'r cwestiynau, yn benodol ynglŷn â defnyddio iaith lythrennol a ffurfiol a chyfieithu termau penodol o fewn y cwestiynau. Roedd yr ymgeiswyr hefyd o'r farn y dylai rhai termau ychwanegol fod wedi'u cynnig i gyd-fynd â'r cyfieithiad Saesneg/wedi'u cynnwys yn yr eirfa.

Dewisiadau amgen ar gyfer cyflwyno'r cwestiynau

Cadarnhaodd adborth yr ymgeiswyr ddewis clir o blaid cyflwyno'r cwestiynau gyda thermau penodol wedi'u tanlinellu, ynghyd â'r cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau. Canfu'r ymgeiswyr fod y dull cyflwyno arall, (drwy ddefnyddio geirfa ar y sgrin) yn torri ar draws llif darllen y cwestiynau ac yn cymryd amser ychwanegol.

Defnyddio geirfa benodol ar gyfer yr asesiad a/neu eirfa fwy cyffredinol a ddefnyddir at ddibenion cyfieithu

Er nad oedd yr ymgeiswyr o blaid defnyddio geirfa ar-lein sy'n benodol i'r asesiadau ar y sgrin, cadarnhaodd yr adborth y byddai mynediad at adnoddau i helpu'r ymgeiswyr i ddod yn gyfarwydd â therminoleg gyfreithiol Gymraeg, yn ddefnyddiol.

Asesu pa wybodaeth y byddai'r ymgeiswyr yn ei chael yn ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus a ddylid gwneud SQE1 yn Gymraeg ai peidio.

Cadarnhaodd yr ymgeiswyr y byddai'r canlynol yn ddefnyddiol:

  • Cwestiynau sampl wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg ac wedi'u cyflwyno fel y byddent yn yr asesiad.
  • Y cyfle i gymharu'r cwestiynau sampl Cymraeg â'r cwestiynau sampl Saesneg.
  • Canllawiau ar y broses a ddefnyddir wrth gyfieithu'r cwestiynau.
  • Cymorth i ymgyfarwyddo â therminoleg gyfreithiol Gymraeg, gan gynnwys darparu adnoddau penodol.
  • Canllawiau ar y rhuglder yn Gymraeg sydd ei angen.

Adborth ar y profiad cyffredinol o sefyll yr asesiad yn Gymraeg

Roedd dwy ran o dair o'r ymgeiswyr naill ai'n 'fodlon' neu'n 'fodlon iawn' ar eu profiad cyffredinol. Er hynny, fe wnaethant hefyd fwydo yn ôl fod yna broblemau ynglŷn â chyfieithu'r cwestiynau. Dywedodd ychydig dros draean o'r ymgeiswyr y bydden nhw'n dewis sefyll yr SQE1 yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg. Wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion y cyfeiriwyd atynt uchod, gobeithio y bydd mwy o ymgeiswyr yn teimlo'n gyffyrddus yn sefyll yr asesiad SQE1 yn Gymraeg.

Mesur agweddau ar gywerthedd wrth sefyll yr asesiad yn Gymraeg ac yn Saesneg

Dadansoddwyd rhai agweddau ar yr asesiad i fesur y cywerthedd rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg. O edrych ar gyfrif geiriau'r 90 cwestiwn sampl, cafwyd bod y ddwy fersiwn yn debyg iawn o ran hyd.

Cymharwyd yr amserau ymateb i gwestiynau ar gyfartaledd ar gyfer cwestiynau'r peilot Cymraeg â'r amserau ymateb cyfartalog ar gyfer y pedwar asesiad SQE1 Saesneg blaenorol. Datgelodd y dadansoddiad hwn fod yr amser ymateb ar gyfartaledd ychydig yn is i'r cwestiynau Cymraeg na'r cwestiynau Saesneg. Er hynny, gwerthfawrogir bod cymhariaeth uniongyrchol yn anodd o gofio bod yr asesiad Cymraeg yn cael ei gynnal fel peilot.

Ni soniwyd am unrhyw faterion o ran hyd cwestiynau nac amseru yn adborth yr ymgeiswyr.

Roedd yna hefyd nifer fach o sylwadau gan ymgeiswyr a fyddai'n hoffi cael gweld fersiwn Saesneg o'r arholiad ochr yn ochr â'r fersiwn Gymraeg. Dyma sut y cyflwynwyd eu harholiadau israddedig yn y gyfraith.

Cafodd y pwynt hwn ei ystyried hefyd yn dilyn cynllun peilot SQE2 yn Gymraeg ac fel rhan o drafodaethau gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru. Er bod hyn yn gyffredin mewn asesiadau Lefel 2 a Lefel 3, roedd y pwyllgor yn teimlo y byddai'n llai cyffredin mewn arholiadau proffesiynol.

Gallai cyflwyno'r cwestiynau fel hyn hefyd roi ymgeiswyr dan anfantais o gofio'r amser ychwanegol y byddai'n ei gymryd i adolygu dwy fersiwn o'r un asesiad o fewn yr amser a roddir. Mae dangos y Saesneg ochr yn ochr â'r fersiwn Gymraeg yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w archwilio, ond does dim cynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno'r asesiad fel hyn.

Y camau nesaf

Y broses gyfieithu

Erbyn hyn mae Kaplan yn cyflogi cyfieithydd Cymraeg proffesiynol mewnol sy'n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae disgwyl i ail gyfieithydd Cymraeg mewnol ddechrau ym mis Chwefror 2024.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ganddyn nhw nawr i adolygu a gwella'r broses gyfieithu, gan gynnwys defnyddio meddalwedd cof cyfieithu, er mwyn gwella cysondeb wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Bydd mewnbwn cyfreithwyr Cymraeg eu hiaith yn dal yn rhan o'r broses gyfieithu.

Bydd unrhyw dermau y ceir eu bod yn amwys yn Gymraeg yn cael eu cyfeirio at Ganolfan Bedwyr – Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Gymraeg Prifysgol Bangor. Wedyn byddai arbenigwyr y Ganolfan yn gwneud rhagor o ymchwil ac yn cadarnhau'r term i'w ddefnyddio, neu'n gwneud awgrymiadau yn ei gylch.

Cwestiynau sampl

Mae'r cwestiynau sampl SQE1 ar wefan yr SQE wrthi'n cael eu cyfieithu gan ddefnyddio'r broses gyfieithu well. Trefnir bod y rhain ar gael ar yr SQE1 newydd ar dudalennau gwe Cymraeg (gweler isod).

Cyflwynir y cwestiynau ar y ffurf y byddant yn ymddangos yn yr asesiad (termau wedi'u tanlinellu, ynghyd â'r cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau). Bydd yna wefan arddangos hefyd ar gyfer canolfan brofi Pearson Vue er mwyn i'r ymgeiswyr weld sut olwg fydd ar y cwestiynau ar lwyfan prawf.

Tudalen gwe SQE1 yn Gymraeg

Byddwn yn lansio tudalen gwe wedi'i neilltuo i ymgeiswyr sy'n ystyried cymryd SQE1 yn Gymraeg yng ngwanwyn 2024. Bydd yr holl adborth gan ymgeiswyr a ddaeth i law fel rhan o'r cynllun peilot hwn yn cael ei ystyried yn ofalus wrth ddatblygu'r tudalen hwn.

Bydd yn cynnwys y cwestiynau sampl wedi'u cyfieithu, gwefan arddangos Pearson Vue a chanllawiau pellach i helpu'r ymgeiswyr i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid cymryd SQE1 yn Gymraeg. Byddai hyn yn cynnwys mynediad at adnoddau i alluogi'r ymgeiswyr i ddod yn gyfarwydd â therminoleg gyfreithiol yn y Gymraeg.

Use www.sra.org.uk/peilot-sqe1-yn-gymraeg to link to this page.