Adolygiad o Awdurdodi 2018/19

Ionawr 2021

English Cymraeg

Awdurdodi - trosolwg

Awdurdodi yw'r pwynt allweddol pan rydym yn sicrhau bod unigolion a busnesau yn cyrraedd y safonau proffesiynol uchel yr ydyn ni a'r cyhoedd yn eu disgwyl pan ymunant â'r proffesiwn. Mae ein tîm Awdurdodi yn gwneud hyn drwy wneud archwiliadau o gefndir, ac archwiliadau o gymeriad ac addasrwydd, a drwy sicrhau bod ymgeiswyr yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau iawn. Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad oes dim risg i'r cyhoedd wrth ganiatáu i unigolion neu gwmnïau ymuno â'r proffesiwn. Rydyn ni hefyd yn ceisio gwneud i'r broses hon weithio mor effeithlon ac mor llyfn â phosibl.

Pwy ydyn ni'n eu hawdurdodi a'u rheoleiddio

  • Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr 
  • Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor
  • Cwmnïau cyfreithiol a mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol eraill
  • RELs RFLs, ac EELs (gweler yr eirfa)
  • Rhôl cyfreithwyr

Rhestr gyfeirio i archwilio cefndir a chymeriad ac addasrwydd

Rydyn ni'n gofyn am amrywiol wybodaeth gan bobl sydd eisiau bod yn gyfreithwyr neu gan gwmnïau sydd eisiau ymuno â'r farchnad gyfreithiol. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu a yw'n ddiogel caniatáu iddynt gynnig gwasanaethau cyfreithiol i'r cyhoedd. Mae arnom angen sicrhau y bydd pobl sy'n ymuno â'r proffesiwn yn gweithredu ag uniondeb a bod y cyhoedd yn gallu ymddiried ynddynt. Yn y rhestr gyfeirio isod fe welwch rai o'r cwestiynau a ofynnwn.

Cyfreithwyr Cwmnïau
A oes gennych gofnod troseddol? Pwy yw'r rheolwyr corfforaethol a'r perchnogion?
A gawsoch chi erioed rybudd gan yr heddlu? A oes gan unrhyw rai o'ch rheolwyr, eich perchnogion neu'ch swyddogion gofnod troseddol?
A fuoch chi erioed yn fethdalwr? A oes gan y cwmni yswiriant indemniad proffesiynol?
A yw'r llys sirol erioed wedi dyfarnu yn eich erbyn? Os cafodd y cwmni gyllid i gychwyn neu am unrhyw reswm arall, o ble daeth yr arian?
A oes unrhyw gorff rheoleiddio arall wedi cymryd camau yn eich erbyn? A oes unrhyw gorff rheoleiddio arall erioed wedi gwrthod rheoleiddio'r cwmni neu wedi gwyrdroi ei benderfyniad i'w reoleiddio?
A ydych erioed wedi camddefnyddio swydd gyfrifol er budd ariannol? Pwy fydd y swyddog cydymffurfiaeth a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cwmni yn dilyn ein rheolau?
A ydych erioed wedi llên-ladrata neu dwyllo yn ystod eich addysg? A fydd eich cwmni yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol sy'n rhwym wrth reoliadau gwyngalchu arian, ac, os felly, pa rai?
Pwy fydd y swyddog cydymffurfiaeth ar gyfer gwyngalchu arian a'r swyddog adrodd ar weithgaredd gwyngalchu arian, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cwmni yn dilyn y rheoliadau atal gwyngalchu arian?
Os oes gennych berchennog, swyddog neu reolwr newydd sy'n fuddiolwr yn ymuno â'r cwmni neu'n newid cwmni, a ydynt wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac wedi ei gyflwyno inni? Gofynnwn am hyn er mwyn inni allu eu hawdurdodi i gyflawni eu rôl newydd.
Open all

Strwythur busnes amgen (ABS)

Strwythur sy’n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt.
Awdurdodi
Pan ydym yn ystyried ceisiadau gan unigolion a chwmnïau i ymuno â’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol.
Cyfreithiwr Ewropeaidd eithriedig (EEL)
Cyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a Lloegr yn amharhaol ac a leolir yn tu allan i Gymru a Lloegr. Mae’r term yn deillio o gyfarwyddeb yr UE.
Cwmni corfforedig
Busnes sydd wedi’i sefydlu gan un neu ragor o unigolion. Mae cwmnïau corfforedig yn rhwym wrth reolau llywodraethu a threth gwahanol; gall hyn fod yn atyniadol i’r perchnogion, yn ddibynnol ar anghenion eu busnes. Mae atebolrwydd ariannol y perchnogion hefyd yn gyfyngedig.
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)
Strwythur busnes lle ceir dau neu ragor o bartneriaid. Mae’n cyfyngu ar atebolrwydd ariannol y partneriaid.
Ymarfer aml-ddisgyblaeth
Strwythur busnes sy’n cynnig i gwsmeriaid wasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill, fel cyfrifyddu neu dirfesur.
Partneriaeth
Strwythur busnes lle ceir dau neu ragor o bartneriaid. Gall partneriaethau fod yn haws eu ffurfio, eu rheoli a’u rhedeg. Yn wahanol i gwmni corfforedig neu LLP, nid oes angen ichi ffeilio unrhyw ddogfennau gyda’r llywodraeth i wneud eich busnes yn bartneriaeth. Hefyd, nid oes angen i bartneriaethau baratoi a chyhoeddi eu cyfrifon.
Tystysgrif ymarfer
Dogfen a gyhoeddwn sy’n caniatáu i gyfreithwyr ymarfer y gyfraith. Rhaid i gyfreithwyr adnewyddu eu tystysgrif ymarfer bob blwyddyn.
Cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (REL)
Cyfreithiwr sydd wedi cymhwyso yn yr UE sy’n cofrestru â ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
Cyfreithiwr tramor cofrestredig (RFL)
Cyfreithiwr o’r tu allan i’r UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n cofrestru â ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
Cofrestr cyfreithwyr
Cofnod o’r cyfreithwyr sydd wedi cael eu hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yw hwn. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn gweithredu fel cyfreithiwr ar y pryd.
Ymarferydd unigol
Cyfreithiwr sy’n rhedeg ei bractis cyfreithiol ei hun ar ei ben ei hun.

Proffil o gwmnïau cyfreithiol

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy'n dewis ymgeisio am drwydded ABS yn dal i gynyddu ac mae'n ddewis poblogaidd iawn i gwmnïau corfforedig.Proffil o’r farchnad Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr at ei gilydd wedi aros yn gymharol sefydlog, ond gwyddom fod y proffesiwn cyfreithiol yn tyfu (gweler Proffil o'r boblogaeth cyfreithwyr).

2016/17 2017/18 2018/19
Cyfanswm y cwmnïau cyfreithiol 10,420 10,407 10,341
Cwmnïau â thrwydded ABS 681 791 877
 

Sylwer, mae ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Mae’r ffigurau hyn yn gywir fel ar ddiwedd Hydref bob blwyddyn.

Proffil o’r boblogaeth cyfreithwyr

Cynyddodd nifer y cyfreithwyr gweithredol eto yn 2018/19, gan gyrraedd ffigur uwch nag erioed ym mis Hydref 2019, sy’n dangos bod gweithio fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr yn dal i fod yn ddewis gyrfaol atyniadol. Mae’r boblogaeth cyfreithwyr wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall dros y degawd diwethaf, gyda’r niferoedd yn cynyddu tua 2,000 i 6,000 bob blwyddyn.

 

Sylwer, nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys RELs, RFLs nac EELs a dangosant y niferoedd ym mis Hydref y flwyddyn diwethaf.

Rydyn ni’n awyddus i weld cwmnïau yn arloesi a thyfu mewn marchnad gyfreithiol fodern, gan weithio mewn ffyrdd newydd i’w cwsmeriaid, a’i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r gwasanaeth cyfreithiol y mae arnynt ei angen.

Rydym wedi ymrwymo i helpu darparwyr presennol gwasanaethau cyfreithiol i ddatblygu eu busnesau mewn ffyrdd newydd a chynorthwyo mathau newydd o sefydliadau sy’n ystyried darparu gwasanaethau cyfreithiol am y tro cyntaf.

Gall ein rheolau, weithiau, rwystro cwmnïau a chyfreithwyr rhag cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae ein Polisi hawlildio ac ein Gofod Arloesi (a gyflwynwyd yn 2016) yn caniatáu i gwmnïau, cyfreithwyr a dechreuwyr yn y farchnad archwilio ffyrdd newydd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol. Ardal sy'n cael ei rheoli ar gyfer profi syniadau sy'n debygol o fod o fudd i'r cyhoedd yw'r Gofod Arloesi. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn bwriadu hybu arloesi yn y flwyddyn nesaf i'w gweld yn y bennod Gwaith i'r Dyfodol

Ers cyflwyno ein Safonau a’n Rheoliadau newydd ar 25 Tachwedd 2019, ni fyddwn bellach yn caniatáu rhai o’r mathau o hawlildiadau a welir yn y tabl isod. Mae hyn oherwydd bod ein rheolau yn awr yn fwy hyblyg ac yn llai caeth, sy’n golygu nad oes angen cynnig ffordd osgoi.

Mathau o hawlildiadau a ganiatawyd 2017—2019

Hawlildiad a ganiatawyd Beth mae'n ei olygu Nifer a ganiatawyd yn 2017/18 Nifer a ganiatawyd yn 2018/19
Rheolau Awdurdodi Gallwn ildio rhai o'n Rheolau Awdurdodi os ydynt yn feichus i gwmni eu dilyn. Er enghraifft, fe wnawn ganiatáu i gwmni benodi rheolwr ar fyr rybudd ac yna gofyn inni eu hawdurdodi. Rhaid inni awdurdodi pob rheolwr yn y cwmnïau a reoleiddiwn cyn eu penodi i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau a bennir gennym, ac rydym fel arfer yn gwneud hyn cyn iddynt ddechrau yn eu swydd. Mae caniatáu i gwmnïau wneud hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt i redeg eu busnesau. 19 28
Rheolau'r Fframwaith Ymarfer Gallwn ildio ein rheolau ar sut ac ymhle gall cyfreithwyr a phobl eraill yr ydym yn eu rheoleiddio weithio. Byddwn yn caniatáu hyn os gallwn weld bod hyn er budd i'r cyhoedd. Er enghraifft, dan ein rheolau ni, rhaid i gyfreithiwr sydd eisiau sefydlu ei gwmni cyfreithiol ei hun gael ei reoli gan rywun sydd â thair blynedd neu ragor o brofiad. Fe wnawn ildio'r rheol hon os oes cyfreithiwr eisiau sefydlu ei bractis ei hun fel ymarferydd unigol a'i fod ef/hi ei hun yn meddu ar dair blynedd o brofiad. 38 33
Mynediad i gyfreithwyr drwy'r 'Gofod Arloesi' Mae hwn yn fan diogel lle gall cwmnïau newydd a chwmnïau sy'n bodoli eisoes dreialu syniadau newydd sydd o fudd i'r cyhoedd. I sicrhau bod y syniadau'n cael eu treialu mewn ffordd ddiogel ac i warchod y cyhoedd, rhaid i gwmnïau drefnu yswiriant sy'n bodloni ein telerau ac amodau gofynnol. Mae'r hawlildiadau'r ydym wedi'u caniatáu yn ein Gofod Arloesi cyn belled, er enghraifft, wedi caniatáu i gyfreithwyr weithio mewn cwmnïau nad ydym yn eu rheoleiddio ac na chânt eu rheoleiddio gan gyrff rheoleiddio eraill y gwasanaethau cyfreithiol, cyn belled â nad ydynt yn delio ag arian cleientiaid. Gwnaethom hyn oherwydd ein bod yn credu ei fod o fantais i gleientiaid busnesau gael mynediad i wasanaethau cyfreithiwr. Nid ydym ond yn ildio rheol pan allwn weld na fydd yn achosi dim niwed i'r cyhoedd. Dan y Safonau a'r Rheoliadau newydd a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2019, nid oes raid i gwmnïau wneud cais am yr hawlildiad penodol hwn mwyach, gan fod y trefniant hwn yn cael ei ganiatáu yn awr. 3 2
Gofynion yswiriant indemniad proffesiynol (PII) Pan rydym yn cytuno nad oes raid i gwmnïau gael y PII â'r telerau a'r amodau gofynnol y mae'n rhaid iddynt ei gael fel arfer dan ein rheolau. Gwnawn hyn mewn achosion lle mae gan y cwmni bolisi yswiriant amgen sydd â thelerau cyfatebol neu well nag un ni. 6 4
Cyflwyno Adroddiadau Cyfrifydd Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau anfon adroddiad blynyddol o'u cyfrifon atom os ydynt yn cau i lawr. Er enghraifft, rydym yn ildio'r rheol hon os gallwn weld mai nifer fechan iawn o drafodion cleientiaid y mae'r cwmni wedi ymdrin â nhw dros gyfnod o amser. 6 9
Ffi'r Gronfa Iawndal Gallwn gytuno nad yw cwmnïau'n cyfrannu at y Gronfa Iawndal. Fe wnawn hyn os yw cwmni ond wedi dal swm bychan iawn o arian cleientiaid am gyfnod byr iawn, ac nad oes dim risg i'w cleientiaid wneud hawliad i'r gronfa. 2 3

Her Mynediad Cyfreithiol

Yn ystod 2019, fe wnaethom gynnal Her Mynediad Cyfreithiol ynghyd â Heriau Nesta. Cawsom arian i gynnal yr her gan Gronfa Arloesi’r Cyrff Rheoleiddio, sy’n gynllun a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu i sicrhau bod cyrff rheoleiddio’n datblygu ar yr un cyflymder â datblygiadau technolegol.

Cafodd gwobr gychwynnol yr her sef £500,000, a neilltuwyd ar gyfer yr enillwyr, ac i dalu’r gost o redeg yr her, ei chynyddu £250,000 oherwydd bod cymaint o ddiddordeb. Cafwyd 117 o geisiadau, a oedd yn cwmpasu ystod eang o faterion a meysydd y gyfraith. Ym mis Medi 2019, cafodd yr wyth uchaf £50,000 yr un i ddatblygu eu syniadau a chynigiasom iddynt lu o gefnogaeth i’w helpu i fwrw ymlaen â’u syniadau. Dywedodd pob un ond un o’r buddugwyr fod yr her wedi helpu i roi hwb i’w gwaith o ddatblygu eu hateb.

Ym mis Ebrill 2020, rhoesom £50,000 arall i’r ddau ymgeisydd buddugol:

  • RCJ Advice a greodd blatfform technoleg sy'n helpu goroeswyr cam-drin domestig i amddiffyn eu hunain, drwy integreiddio technoleg â chyngor a chefnogaeth gan bobl.
  • Mencap ac Access Social Care a wnaeth ddatblygu 'chatbot' i gynorthwyo pobl, gan gynnwys rhai ag anableddau dysgu, i ddeall eu hawliau gofal cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn ein Hadroddiad ar yr Her Mynediad Cyfreithiol, casgliadau a'r camau nesaf.

Rheoleiddio yng Nghymru

Mae cryn 3,927 o gyfreithwyr ymarfer a 430 o brif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yng Nghaerdydd yn bennaf (ffigur amcanol yw hwn oherwydd y gwaith sy'n digwydd ar draws y ffin). Mae hyn yn oddeutu 4% o holl brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol.

Yn 2018/19 dywedodd 1,205 o gyfreithwyr ymarfer eu bod yn siarad Cymraeg. A, chafodd cryn 779 o dystysgrifau ymarfer eu cyhoeddi yn Gymraeg y llynedd, gan helpu i ddarparu gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg. Roedd cwmnïau cyfreithiol Cymreig yn dal i ffynnu yn 2018/19. Daeth eu trosiant i £430m yn 2017/18, i fyny £50m o'i gymharu â phedair blynedd yn ôl.

Rheoleiddio Cymru: Prif Ystadegau
  Deiliaid tystysgrifau ymarfer a leolir yng Nghymru Prif swyddfeydd a leolir yng Nghymru Canran y cwmnïau cyfreithiol a leolir yng Nghymru Deiliaid tystysgrif ymarfer sy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg Tystysgrifau ymarfer a gyhoeddwyd yn Gymraeg Trosiant
2016/17 3,770 440 4% 1,140 737 £397m
2017/18 3,885 443 4% 1,172 777 £410m
2018/19 3,927 431 4% 1,205 779 £428m

Ffocws ar Gymru

Presenoldeb ac ymgysylltiad

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cynyddu ein hymgysylltiad, ein presenoldeb a’n gweithgareddau yng Nghymru. Rydym wedi cynnal digwyddiadau ymgynghori rheolaidd i’r cyhoedd a’r proffesiwn, digwyddiadau i gwmnïau bach, grwpiau ffocws, cyfarfodydd Bwrdd a digwyddiadau a chyfarfodydd â sefydliadau allweddol. O 2021 ymlaen, rydym yn awyddus i gynyddu ein presenoldeb ymhellach drwy agor swyddfa yng Nghymru, yn amodol ar effaith Covid-19 ar ein cynlluniau a gwneud trefniadau addas.

Cyfathrebu yn Gymraeg

Er nad ydym wedi ein rhestru dan Fesur y Gymraeg 2011 (deddfwriaeth Gymreig i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg), ein nod yw bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol. Dyna pam ein bod yn cyhoeddi ystod eang o'n deunydd corfforaethol yn Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys ein Siarter Ymgysylltu Cyhoeddus, ein Datganiad atebolrwydd a'n Datganiadau tryloywder, ac ein tudalennau gwe ar riportio cyfreithwyr. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r Gymraeg yn ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn dal i gyflwyno llawer o'n negeseuon a'n deunyddiau allweddol yn Gymraeg, i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nod.

Cyflawni’r SQE yn Gymraeg

Bydd yr asesiad y mae'n rhaid i bob darpar gyfreithiwr ei gymryd cyn cymhwyso, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), yn cael ei gyflwyno yn ystod hydref 2021. Rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid Cymraeg wrth inni a Kaplan (darparwr yr asesiad ar gyfer yr SQE) ddatblygu'r arholiad. Roedd y rhanddeiliaid yn glir eu bod eisiau gweld y Saesneg a'r Gymraeg yn gwbl gydradd yn yr SQE, ac rydym yn sylweddoli pam bod hyn yn bwysig.

Caiff yr SQE ei gyflwyno'n raddol yn Gymraeg, gan arwain at gydraddoldeb llwyr ar ôl pedair blynedd. Dyma'r pedwar cam allweddol:

  • Cam 1: 2021 (o ddechrau'r SQE). Gall ymgeiswyr ddarparu eu hymatebion i asesiadau sgiliau ysgrifenedig SQE2 yn Gymraeg.
  • Cam 2: 202/23. Gall ymgeiswyr ddarparu eu hymatebion i asesiadau llafar SQE2 yn Gymraeg.
  • Cam 3: 2023/24. Caiff y cwestiynau ar gyfer asesiadau sgiliau ysgrifenedig a llafar eu cyfieithu i'r Gymraeg, a gall ymgeiswyr ymateb yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu cydraddoldeb llwyr ar gyfer SQE2.
  • Cam 4: 2024/25. Caiff cwestiynau ar wybodaeth gyfreithiol weithredol SQE1 eu cyfieithu i Gymraeg.  Mae hyn yn golygu cydraddoldeb llwyr ar gyfer SQE1 ac SQE2.

Mae rhagor o wybodaeth am yr SQE a'r gwaith o'i ddylunio i'w chael ar ein gwefan.

Adolygu Safonau a Rheoliadau

Fe wnaethom gomisiynu ymchwil annibynnol ym mis Hydref 2020 i adolygu effaith ein Rheolau Tryloywder, a ddangosodd eu bod yn dechrau gwneud gwahaniaeth.  Mae'r rheolau, a gyflwynwyd i ddechrau ym mis Rhagfyr 2018, yn golygu bod angen i bob cwmni ddarparu gwybodaeth am eu trefn gwyno ac arddangos logo clicadwy'r SRA. Mae angen i rai cwmnïau hefyd ddarparu gwybodaeth am y math o wasanaethau cyfreithiol a gynigiant, a'r gost. Yn galonogol, mae 77% o'r cyhoedd yn cael y wybodaeth sy'n awr ar gael ar-lein yn ddefnyddiol i'w helpu i ganfod a dewis darparwyr cyfreithiol posibl.

Fe wnawn gynnal gwerthusiad blwyddyn un o'n Safonau a'n Rheoliadau newydd – y rheolau a'r rheoliadau diwygiedig a gyflwynom ym mis Tachwedd 2019. Ein nod oedd cael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen, a gwneud ein rheolau'n haws eu deall, a byddwn yn edrych ar sut maent yn gweithio'n ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cynnal adolygiad o sut mae'r Gofod Arloesi yn gweithio a byddwn yn defnyddio'r gwerthusiad i benderfynu sut orau i ddatblygu ei ffocws a'i weithrediad. Fel rhan o hyn byddwn yn ystyried sut gallwn helpu cwmnïau bach orau i ddatblygu eu gwasanaethau mewn ffyrdd arloesol.

Monitro effeithiau Covid-19

Buom yn gweithio’n agos â’r proffesiwn, gyda chyrff rheoleiddio cyfreithiol eraill, a grwpiau cynrychioliadol i ddeall beth yw effeithiau Covid-19 ar y sector yn awr a’r hyn a allant fod i’r dyfodol.

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn amser anodd i gyfreithwyr a chwmnïau, a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a helpu cyfreithwyr a chwmnïau – yn ogystal â'r cyhoedd – drwy gyhoeddi a diweddaru adnoddau a gwybodaeth.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Byddwn yn dal i fonitro sut mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE yn newid y ffordd y mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn gweithio. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y cyhoedd, o bob cymuned, yn gallu bod yn hyderus bod y safonau uchel yn cael eu cynnal mewn tirlun newidiol. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gweithio’n agos â’r llywodraeth ac ag asiantaethau eraill, gan gynnwys cyrff rheoleiddio’r UE ac yn rhyngwladol, i sicrhau ein bod yn gallu symud yn llyfn i unrhyw drefniadau newydd.

Ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2020—23

Mae Tachwedd 2020 yn nodi dechrau ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i hybu technoleg ac arloesi ymhellach ym maes y gyfraith fel rhan o'r strategaeth hon, oherwydd fe wyddom y bydd technoleg ac arloesi yn ailwampio edrychiad busnesau sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol ac fel mae hynny'n edrych i'n defnyddwyr.

Rydyn ni, fel eraill, angen ystyried sut gall arloesi a thechnoleg helpu pobl orau, gan gydnabod bod mynediad digidol yn amrywio a bod tlodi digidol yn bodoli. Mae'r ymchwil i dechnoleg gyfreithiol y bwriadwn ei gynnal yn ystod y flwyddyn nesaf yn debygol o ganolbwyntio ar sut gall technoleg helpu rhai sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad i wasanaethau digidol.

Gan ddatblygu oddi ar lwyddiant ein Her Mynediad Cyfreithiol 2019/20, byddwn yn edrych sut gall ail gylch Cronfa Arloesi'r Cyrff Rheoleiddio, a fydd yn darparu £10m o gyllid, gyfrannu ymhellach at gynyddu mynediad i gyfiawnder. Rydyn ni hefyd yn cyfranogi yng ngwaith Panel Cyflawni Lawtech i sicrhau cyllid gan y llywodraeth i gefnogi blwch tywod technoleg i'r sector cyfreithiol lle gall syniadau newydd gael eu profi.