Awdurdodi’r proffesiwn 2020-2021

English Cymraeg

Mae'r broses awdurdodi yn allweddol. Rydyn ni’n defnyddio'r broses i sicrhau bod unigolion a busnesau yn cyrraedd y safonau proffesiynol uchel rydyn ni a'r cyhoedd yn eu disgwyl pan fyddant yn ymuno â'r proffesiwn.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gynnal archwiliadau cefndir, gan gynnwys sicrhau nad oes unrhyw broblemau o ran cymeriad ac addasrwydd, a thrwy sicrhau bod yr ymgeiswyr yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau priodol.  Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad oes dim risg i'r cyhoedd wrth ganiatáu i unigolion neu gwmnïau ymuno â’r proffesiwn. Rydyn ni hefyd yn ceisio gwneud i'r broses hon weithio mor effeithlon a didrafferth â phosibl.

Mae'r siartiau isod yn rhoi manylion am ein gwaith yn y maes hwn ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol. Mae rhestr o'r termau ar gael ar waelod y dudalen hon.

Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn ar gyfer mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2020/21 yn gywir fel ar 31 Hydref 2021.

Open all
  • Cyfreithwyr sy’n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
  • Cyfreithwyr sy’n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.
  • Cyfreithwyr nad ydynt yn ymarfer sydd ar y gofrestr cyfreithwyr (gweler yr eirfa).
  • Y rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol a rhai mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.
  • Cyfreithwyr tramor cofrestredig (RFLs) a chyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig (RELs).

Proffil o gwmnïau cyfreithiol

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy'n dewis gwneud cais am strwythur busnes amgen (sydd ar gael i'r rheini nad ydynt yn gyfreithwyr sydd â rheolaeth neu berchnogaeth) yn parhau i gynyddu ac mae'n ddewis arbennig o boblogaidd i gwmnïau corfforedig – mae eu niferoedd hwythau'n cynyddu. Mae cyfanswm y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng ychydig dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Roedd y niferoedd yn gymharol sefydlog rhwng 2013 a 2019 cyn gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd bod llai o gwmnïau newydd wedi'u sefydlu yn ystod pandemig Covid-19 o bosibl. Mae hyn yn wahanol i nifer y cyfreithwyr sy'n ymarfer, sy'n parhau i gynyddu o un flwyddyn i’r llall (gweler proffil o'r boblogaeth cyfreithwyr).

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Cyfanswm y cwmnïau cyfreithiol 10,444 10,336 10,415 10,420 10,407 10,341 10,107 9,860
Cwmnïau â thrwydded ABS 325 424 550 681 791 877 945 1,040

Dadansoddiad o’r mathau o gwmnïau cyfreithiol

Dadansoddiad o’r mathau o gwmnïau cyfreithiol gydag is-set strwythur busnes amgen (ABS)

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Cwmni corfforedig 3,509 3,813 4,205 4,537 4,778 4,952 5,015 5,093
Cwmni corfforedig â thrwydded ABS (is-set) 86 268 369 477 559 629 687 773
Ymarferydd unigol 2,856 2,725 2,627 2,489 2,367 2,217 2,060 1,878
Partneriaeth 2,419 2,203 1,978 1,799 1,673 1,584 1,470 1,352
Partneriaeth â thrwydded ABS (is-set) 23 25 28 30 41 46 47 46
Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig 1,577 1,550 1,559 1,557 1,542 1,549 1,526 1,503
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig â thrwydded ABS (is-set) 116 130 152 172 189 199 208 218
Arall 83 45 46 38 37 39 36 34
Arall â thrwydded ABS (is-set) 1 1 2 2 3 3 3

Sylwch, oherwydd natur eu busnes, nid yw ymarferwyr unigol yn gallu cael trwyddedau strwythur busnes amgen. Rhaid i rywun nad yw'n gyfreithiwr fod yn rhan o'r gwaith o redeg strwythur busnes amgen.

Mae nifer y cyfreithwyr sy’n ymarfer wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Hydref 2021, gan ddangos bod gweithio fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr yn dal i fod yn ddewis gyrfa deniadol.

Cyfreithwyr gyda thystysgrifau ymarfer Ar y gofrestr cyfreithwyr
2010/11 124,306 162,818
2011/12 127,353 169,338
2012/13 130,643 162,367
2013/14 133,327 164,598
2014/15 135,294 171,464
2015/16 139,313 178,340
2016/17 143,072 185,240
2017/18 146,625 192,121
2018/19 150,349 199,181
2019/20 153,082 205,688
2020/21 156,928 212,601

Sylwch fod y ffigurau hyn yn berthnasol i gyfreithwyr yn unig ac nid ydynt yn cynnwys cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig na chyfreithwyr tramor cofrestredig.

Rydyn ni am weld cwmnïau’n arloesi mewn marchnad gyfreithiol fodern, gan weithio mewn ffyrdd newydd ar gyfer eu cwsmeriaid a’i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r gwasanaeth cyfreithiol sydd ei angen arnynt.

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu darparwyr gwasanaethau cyfreithiol presennol i ddatblygu eu busnesau mewn ffyrdd newydd ac i gefnogi mathau newydd o sefydliadau sy’n ystyried darparu gwasanaethau cyfreithiol am y tro cyntaf.

Mae ein rheolau yno i ddiogelu’r cyhoedd, ond rydyn ni am sicrhau nad ydynt yn rhwystro cwmnïau a chyfreithwyr rhag cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae ein polisi hawlildiadau a Gofod Arloesi (a gyflwynwyd yn 2016) yn croesawu cwmnïau, cyfreithwyr ac ymgeiswyr newydd i’r farchnad i archwilio gwahanol ffyrdd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol, gan sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu’n briodol. Mae’r Gofod Arloesi yn faes prawf rheoledig ar gyfer syniadau sy’n debygol o fod o fudd i’r cyhoedd.

Ers cyflwyno ein Safonau a’n Rheoliadau newydd ym mis Tachwedd 2019, nid ydym yn caniatáu rhai o’r hawlildiadau a nodir yn y tabl isod mwyach. Y rheswm am hyn yw bod ein rheolau nawr yn fwy hyblyg ac yn llai rhagnodol, felly nid oes angen cynnig ateb.

Mathau o hawlildiadau a ganiatawyd

Hawlildiadau a ganiatawyd Beth mae’n ei olygu Nifer a ganiatawyd yn 2017/18 Nifer a ganiatawyd yn 2018/19 Nifer a ganiatawyd yn 2019/20 Nifer a ganiatawyd yn 2020/21
Rheolau Awdurdodi Efallai y byddwn yn hepgor rhai o’n Rheolau Awdurdodi os ydynt yn ormod o faich ar gwmni. 19 28 76 6
Rheolau Fframwaith Ymarfer Gallwn hepgor ein rheolau ynghylch sut a ble y gallai cyfreithwyr a phobl eraill rydyn ni’n eu rheoleiddio weithio. Rydyn ni’n caniatáu hyn os ydyn ni’n fodlon nad oes risg i’r cyhoedd wrth wneud hynny. Er enghraifft, rydyn ni wedi caniatáu i gyfreithwyr weithio mewn cwmnïau nad ydym yn eu rheoleiddio, ac nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan reoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol arall, ar yr amod nad ydynt yn delio ag arian cleientiaid. O dan y Safonau a'r Rheoliadau newydd, nid oes rhaid i gwmnïau wneud cais am yr hawlildiad penodol hwn gan fod y trefniant hwn bellach yn cael ei ganiatáu. 38 33 0 0
Gofynion yswiriant indemniad proffesiynol Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau gael y telerau a’r amodau sylfaenol ar gyfer yswiriant indemniad proffesiynol sy’n ofynnol fel arfer o dan ein rheolau. Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn achosion lle mae gan y cwmni bolisi yswiriant amgen sydd â thelerau tebyg neu well na’n rhai ni. 6 4 7 1
Cyflwyno adroddiadau cyfrifwyr Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau anfon adroddiad blynyddol o’u cyfrifon atom os ydynt yn cau. Er enghraifft, rydyn ni’n hepgor y rheol hon os rydyn ni’n gweld bod nifer fach iawn o drafodion cleientiaid wedi cael eu trin dros gyfnod o amser. 6 9 5 2
Ffi cronfa iawndal Gallwn gytuno nad oes rhaid i gwmnïau gyfrannu at y gronfa iawndal. Gallwn wneud hyn os yw cwmni ond wedi dal swm bach iawn o arian cleient am gyfnod byr iawn, ac nad oes risg y bydd ei gleient yn gwneud hawliad i’r gronfa. 2 3 2 0

Roedd nifer yr hawlildiadau awdurdodi wedi gostwng yn sylweddol eleni. Mae’r rheoliadau’n fwy rhagnodol er mwyn diogelu’r cyhoedd ac roeddem wedi rhoi llai o hawlildiadau oherwydd ein bod wedi mynnu bod prosesau adrodd cyfrifyddiaeth yn cyd-fynd yn llym â’n rheoliadau.

Mae ychydig dros 4,000 o gyfreithwyr sy’n ymarfer a 400 o brif swyddfeydd wedi’u lleoli yng Nghymru (amcangyfrif yw hwn oherwydd gweithio trawsffiniol). Mae hyn oddeutu 4% o holl brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol. Mae oddeutu chwarter y cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a deiliaid tystysgrif ymarfer yng Nghaerdydd.

Roedd cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru wedi parhau i ffynnu. Roedd eu trosiant yn £442m yn 2020/21, cynnydd o £45m o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Yn 2020 ac fel rhan o’n rhaglen TG fawr, rydyn ni nawr yn cyhoeddi ein holl dystysgrifau ymarfer yn Gymraeg ac yn Saesneg fel mater o drefn, gan sicrhau ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal ac nad oes rhaid i gyfreithwyr ofyn am dystysgrif yn Gymraeg nac ateb cwestiwn ynghylch a ydynt yn siarad Cymraeg.

Rheoleiddio Cymru

Deiliaid tystysgrif ymarfer yng Nghymru Prif swyddfeydd yng Nghymru Canran y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru Deiliaid tystysgrif ymarfer sy’n nodi eu bod yn siarad Cymraeg Tystysgrifau ymarfer a gyhoeddwyd yng Nghymru Trosiant
2014/15 3,713 453 4% 1101 762 £370m
2015/16 3,700 450 4% 1,081 761 £380m
2016/17 3,770 440 4% 1,140 790 £397m
2017/18 3,885 443 4% 1,172 793 £410m
2018/19 3,927 431 4% 1,205 783 £428m
2019/20 4,003 420 4% 1,182 776 £435m
2020/21 4033 400 4% Ddim yn cael ei gasglu mwyach Pob tystysgrif ymarfer yn cael ei chyhoeddi yn y ddwy iaith bellach £442m
Awdurdodi Pan rydyn ni’n ystyried ceisiadau gan unigolion a chwmnïau i ymuno â’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol rheoledig.
Strwythur busnes amgen (ABS) Strwythur sy’n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt.
Cofrestr cyfreithwyr Dyma gofnod o’r cyfreithwyr rydyn ni wedi’u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.
Cwmni corfforedig Busnes sydd wedi’i sefydlu gan un person neu fwy. Mae gan gwmnïau corfforedig reolau treth a llywodraethu gwahanol, sy’n gallu bod yn ddeniadol i’r perchnogion, yn dibynnu ar anghenion eu busnes. Mae atebolrwydd ariannol y perchnogion hefyd yn gyfyngedig.
Cyfreithiwr Ewropeaidd Cofrestredig (REL) Cyfreithiwr sydd wedi cymhwyso yn yr UE ac sy’n cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
Cyfreithiwr tramor cofrestredig (RFL) Cyfreithiwr o’r tu allan i’r UE ac Ardal Economaidd Ewrop sy’n cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
Partneriaeth Strwythur busnes lle mae dau bartner neu fwy. Gall fod yn haws ffurfio, rheoli a rhedeg partneriaethau. Yn wahanol i gwmni corfforedig neu LLP, nid oes angen i chi ffeilio unrhyw ddogfennau gyda’r llywodraeth i wneud eich busnes yn bartneriaeth. Hefyd, nid oes angen i bartneriaethau baratoi a chyhoeddi eu cyfrifon.
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP) Strwythur busnes lle mae dau bartner neu fwy. Mae’n cyfyngu ar atebolrwydd ariannol y partneriaid.
Tystysgrif ymarfer Dogfen rydyn ni’n ei chyhoeddi sy’n caniatáu i gyfreithwyr ymarfer y gyfraith. Rhaid i gyfreithwyr adnewyddu eu tystysgrif ymarfer bob blwyddyn.
Ymarfer amlddisgyblaeth Strwythur busnes sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gwsmeriaid, fel cyfrifeg neu arolygu.
Ymarferydd unigol Cyfreithiwr sy’n rhedeg ei bractis cyfreithiol ei hun ar ei ben ei hun.