Cynnal Safonau Proffesiynol 2021/22 – Monitro Amrywiaeth, Adroddiad Ategol

Cyhoeddwyd 1 Medi 2023

Cyflwyniad

Dyma'r bedwaredd flwyddyn lle rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau ar nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi. Mae adroddiadau blaenorol ar gael ar gyfer:

Byddwn yn parhau i adrodd ar ein canfyddiadau bob blwyddyn.

Mae monitro amrywiaeth y bobl yn ein prosesau gorfodi a chymryd camau ar sail y canfyddiadau yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith a wnawn. Rydym nid yn unig yn gwneud hyn oherwydd bod gennym ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb a Gwasanaethau Cyfreithiol, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi a'n Safonau a'n Rheoliadau.

Rydym wedi defnyddio'r un dull ag o'r blaen, ac mae'r manylion ar gael yn yr adran nesaf, cwmpas ein dadansoddiad. Mae hyn wedi caniatáu i ni wneud cymariaethau ac edrych ar dueddiadau dros y pedair blynedd diwethaf, fel y nodir yn yr adran canfyddiadau allweddol. Rydym hefyd wedi nodi'r cyfyngiadau yn y data rydym yn ei gadw neu y gallwn ei gyhoeddi, a'r anawsterau o ran dod i gasgliadau ystyrlon o'r niferoedd bach iawn yn ystod camau olaf y broses orfodi.

Rydym yn parhau i weld gormod o gynrychiolaeth o ddynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn pryderon a godwyd gyda ni a'r rheini rydym yn ymchwilio iddynt. Ar y ddau gam hyn yn y prosesau gorfodi, mae'r gwahaniaethau'n ystadegol arwyddocaol ac yn adlewyrchu'r patrymau a welir ar draws llawer o broffesiynau a rheoleiddwyr. Er mwyn ein helpu ni, ac eraill, i fynd i'r afael â'r materion hyn, yn benodol, ar gyfer cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, rydym wedi adeiladu ar adolygiadau cynharach drwy gomisiynu ymchwil annibynnol gan brifysgolion Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd, a fydd yn rhoi cipolwg ar y ffactorau sy'n sbarduno gorgynrychiolaeth ar y camau hyn yn y broses.

Rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd gan y prifysgolion. Ychydig iawn o ymchwil sy'n cael ei wneud gan arbenigwyr sy'n edrych yn benodol ar y sector cyfreithiol. Ond fe wnaethant nodi nifer o themâu cyffredin o sectorau eraill a allai olygu bod y rheini o gefndiroedd ethnig penodol yn fwy tebygol o gael eu hadrodd i'w rheoleiddiwr. Roedd y rhain yn ymwneud â'r canlynol:

  • Canfyddiadau neu ddisgwyliadau ymwybodol ac anymwybodol, ymysg y rhai sy'n gwneud y cwynion, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o gwyno am unigolyn.
  • Bod yn fwy agored i amgylcheddau gwaith, mathau o waith neu amgylchiadau eraill sy'n gysylltiedig ag achosion sydd, yn ôl eu natur, yn arwain at fwy o gwynion.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth, mae'r prifysgolion yn cynnal dadansoddiad gwrthrychol a manwl o setiau data SRA. Byddant hefyd yn archwilio profiadau cyfreithwyr ac ymddygiad ymysg defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Disgwylir y bydd adroddiad terfynol ar yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.

Open all

Gwnaethom edrych ar gynrychiolaeth rhyw, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle'r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar gamau canlynol ein proses orfodi rhwng 1 Tachwedd 2021 a 31 Hydref 2022:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad
  • cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4 – yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gan y SDT (llwybr B).

Mae'n bwysig nodi:

  • Mae'r unigolion a enwyd ar bryderon a gyflwynwyd ar gyfer ymchwiliad (cam 2) yn is-set o'r unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1).
  • Yng nghamau 3 a 4 (llwybrau A a B, yn y drefn honno), rydym yn edrych ar yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn 2021/22, y rheini a gafodd sancsiwn mewnol a'r rheini a gafodd eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 3, nid yw'n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a'u datrys yn yr un flwyddyn.
  • Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod fel arfer yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a dod â mater i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Sut rydym wedi dadansoddi'r data

Gan ddechrau gyda dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma'r gyfran ar gyfer dynion:

  • 47% o'r boblogaeth wrth ei gwaith
  • 63% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 70% o'r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 74% o'r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 75% o'r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (cam 4, llwybr B)

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o'r broses, gan ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2021/22 cafodd:

  • 6,991 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,350 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 267 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 84 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4).

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg a Grŵp ethnig arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Pan fydd y niferoedd yn mynd yn rhy fach (yng nghamau 3 a 4), byddwn yn cymharu'r grŵp Gwyn (sy'n cynnwys grwpiau Gwyn lleiafrifol) â'r pedwar grŵp arall, y cyfeiriwn atynt fel y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nid ydym yn defnyddio'r acronym 'BAME' mwyach i gyfeirio at y grŵp hwn.

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn amrywio ar bob cam o'r broses, ond pan fyddwn yn edrych ar y boblogaeth wrth ei gwaith, mae gennym wybodaeth am y canlynol:

  • 88% o ryw unigolion
  • 99.9% o oedran unigolion (dangosir bod hyn yn 100% oherwydd talgrynnu)
  • 72% o ethnigrwydd unigolion.

Rydym yn defnyddio'r data am y boblogaeth wrth ei gwaith sydd gennym yn ein systemau mySRA fel man cychwyn ar gyfer ein dadansoddiad. Mae rhagor o wybodaeth am y dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith ar gael yn yr atodiad.

Oherwydd y ffordd rydym wedi casglu data anabledd yn y gorffennol, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Nid ydym yn gallu gwahaniaethu, gyda sicrwydd, rhwng pobl sydd wedi datgan yn weithredol nad oes ganddynt anabledd a'r rheini nad ydynt wedi ateb y cwestiwn. Rydym yn amau bod data anabledd yn cael ei dan-adrodd yn sylweddol yn y set ddata hon.

Ceir set lawn o'r siartiau sy'n dangos y data ym mhob un o'r camau yn yr adroddiad hwn. Rydym hefyd wedi edrych ar sut mae'r achosion yn y Tribiwnlys wedi cael eu cwblhau, yn benodol, a oes gwahaniaeth yn ôl nodwedd amrywiaeth wrth ddefnyddio canlyniadau y cytunwyd arnynt.

Yn yr adran hon, rydym wedi rhoi trosolwg o'r prif ganfyddiadau ar gyfer rhyw ac ethnigrwydd ym mhob un o bedwar cam y broses orfodi (lle'r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Mae gennym y data o flynyddoedd cynharach er mwyn i ni allu tynnu sylw at unrhyw dueddiadau.

Niferoedd isel yng nghamau 3 a 4

Oherwydd y niferoedd isel dan sylw, ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r dadansoddiadau amrywiaeth a welwyd yng nghamau 3 a 4 yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad i siawns. Y rheswm am hyn yw bod y niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Rhyw

Dadansoddiad yn ôl rhyw'r boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Rhyw 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith Dynion 49% (74,657) 48%(71,933) 48%(70,928) 47%(69,512)
Menywod 51%(77,539) 52%(77,769) 52%(78,011) 53%(76,987)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Dynion 67%(4,440) 65%(3,959) 62% (3,913) 63% (3,894)
Menywod 33% (2,161) 35% (2,088) 38% (2,365) 37%(2,336)
Cam 2: Ymchwiliad Dynion 73% (1,800) 75% (1,166) 68% (820) 70% (804)
Menywod 27% (661) 25% (380) 32% (393) 30% (352)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Dynion 70% (159) 73% (144) 66% (105) 74% (139)
Menywod 30% (67) 27% (53) 34% (55) 26% (49)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dynion 85% (119) 80% (99) 73% (75) 75% (61)
Menywod 15% (21) 20% (25) 27% (28) 25% (20)

Am y pedair blynedd, mae dynion yn cael eu gorgynrychioli'n sylweddol yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae hyn yn cynyddu ymhellach yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w dwyn ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Wrth edrych ar yr hyn sy'n digwydd i adroddiadau a dderbyniwyd am ddynion, cafodd 21% o'r adroddiadau eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad o'i gymharu â 15% o rai am fenywod.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfran y dynion mewn achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn cynyddu o'i gymharu â'r cam ymchwilio. Dynion yw 70% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt yn 2021/22, a 75% o'r rheini y daeth eu hachosion i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn fewnol, mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfran y dynion wedi gostwng o'i gymharu â'r cam ymchwilio. Fodd bynnag, yn 2021/22, roedd dynion yn cyfrif am 70% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt a 74% o'r rheini yr ymchwiliwyd i'w hachosion yn fewnol.

Sylwch, mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymateb hunan- gofnodedig i'r cwestiwn canlynol: 'Beth yw eich rhyw: gwryw, benyw, disgrifiad arall a ffefrir neu mae'n well gennych beidio â dweud'. Nid oes yn rhaid i gyfreithwyr sy'n ateb y cwestiwn hwn ateb yn unol â'u rhyw cyfreithiol.

Ethnigrwydd

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Os yw'r niferoedd yn rhy fach, er na fydd y profiad o bobl yn ffurfio'r grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gyda'i gilydd, ochr yn ochr â'r grŵp Gwyn.

Yn yr adran hon, rydym wedi nodi data ar gyfer y grwpiau Gwyn a'r grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam. Gellir gweld dadansoddiad manylach ar draws pob un o'r pum grŵp ethnig yn yr adran sy'n ymdrin â chamau 1 a 2. Nid yw'r dull hwn yn bosibl ar gyfer camau 3 a 4 oherwydd y nifer fach o bobl sy'n gysylltiedig.

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Ethnigrwydd 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith Gwyn 82% (99,098) 82% (96,835) 82% (99,078) 81% (97,326)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% (21,085) 18% (20,930) 18% (22,223) 19% (22,266)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Gwyn 74% (4,273) 74% (3,864) 75% (4,138) 76% (4,172)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 26% (1,486) 26% (1,327) 25% (1,376) 24% (1,307)
Cam 2: Ymchwiliad Gwyn 68% (1,441) 65%
(870)
67%
(722)
71%
(727)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 32% (691) 35% (460) 33% (356) 29% (295)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwyn 65% (129) 71% (114) 64% (90) 69% (116)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 35% (68) 29% (46) 36% (51) 31% (52)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwyn 65% (81) 72% (81) 66% (59) 64% (47)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 35% (43) 28% (31) 34% (31) 36% (26)

Am y pedair blynedd, mae pobl o darddiad Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli yn y pryderon a gawn (cam 1) o'u cymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae maint y gorgynrychiolaeth hon wedi gostwng rhywfaint rhwng 2018/19 a 2021/22.

Yn 2021/22, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oedd 19% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 24% o'r adroddiadau a gafwyd – gwahaniaeth o bum pwynt canran. Yn 2018/19, roeddent yn cynrychioli 18% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o'r adroddiadau a dderbyniwyd – gwahaniaeth o wyth pwynt canran. Byddwn yn parhau i fonitro'r gostyngiad hwn i weld a yw'n arwydd o duedd.

Mae'r gorgynrychiolaeth yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Dyma'r patrwm a welwyd ar gyfer y pedair blynedd, er mai graddfa'r orgynrychiolaeth yw'r isaf rydym wedi'i weld yn ystod y pedair blynedd rydym wedi rhoi gwybod am yr wybodaeth hon. Mae'r grŵp hwn yn cynrychioli 24% o'r rheini a adroddwyd i ni a 29% o'r rheini a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2021/22. Ac ystyried nifer yr unigolion ar hyn o bryd, mae hwn yn ostyngiad ystadegol arwyddocaol. Fodd bynnag, fel gyda'r gostyngiad mewn gorgynrychiolaeth yn nifer yr adroddiadau a ddaw i law, bydd angen i ni fonitro i weld a yw'r niferoedd hyn yn arwydd o duedd barhaus.

Wrth edrych ar yr hyn sy'n digwydd i adroddiadau a gafwyd am bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cafodd 23% o'r adroddiadau eu symud ymlaen i'w hymchwilio o'i gymharu â 17% o rai pobl Wyn. Mae grwpiau Asiaidd a Du yn cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau a dderbynnir, ac mae'r gyfradd maent yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn debyg (23% ar gyfer y grŵp Asiaidd a 22% ar gyfer y grŵp Du). Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod, ond yn hytrach cânt eu cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddo o'r cyfanswm a adroddwyd. Mae'r rhifau i'w gweld yn adran camau 1 a 2.

O edrych ar gyfran y bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn achosion a gadarnhawyd, o'i gymharu â'r gyfran yr ymchwiliwyd i'w hachosion, mae'r gyfran yn uwch yn 2018/19, 2020/21 a 2021/22 ar gyfer y ddau achos a ddaeth i ben yn fewnol ac ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Mae'r grŵp hwn yn cyfrif am 29% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt yn 2021/22, 31% o achosion mewnol wedi dod i ben a 36% o achosion wedi dod i ben yn y Tribiwnlys. Roedd y sefyllfa yn wahanol yn 2019/20, lle'r oedd cyfran y bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn canlyniadau mewnol a'r Tribiwnlys yn is nag yn y cam ymchwilio. Mae'n werth cofio, fodd bynnag, bod nifer yr achosion a glywir yn y Tribiwnlys, yn benodol, yn eithaf isel bob blwyddyn. Felly, gall newidiadau bach mewn niferoedd arwain at newidiadau mwy mewn ffigurau canran, ac felly rhaid bod yn ofalus wrth eu hystyried.

Oedran

Oherwydd niferoedd isel, rydym wedi cyfuno'r ddau grŵp oedran ieuengaf, gan ddangos data ar bob cam ar gyfer pobl rhwng 16 a 34 oed.

Dadansoddiad yn ôl oedran y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Age 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith 16-34 25% (39,593) 24% (39,016) 24% (38,927) 23% (38,997)
35-44 32% (50,885) 33% (52,124) 33% (53,371) 33% (54,372)
45-54 24% (38,033) 24% (39,146) 24% (39,788) 25% (41,220)
55-64 14% (21,378) 14% (22,284) 14% (22,787) 14% (23,698)
65+ 5% (7,280) 5% (7,736) 5% (8,001) 5% (8,485)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 16-34 12% (826) 13% (799) 14% (911) 14% (954)
35-44 26% (1,776) 27%(1,680) 26% (1,766) 26% (1,794)
45-54 30%
(1,992)
28%
(1,754)
28%
(1,915)
27%
(1,864)
55-64 22%
(!,501)
22%
(1,403)
21%
(1,420)
21%
(1,439)
65+ 10% (250) 10% (616) 11% (717) 13% (867)
Cam 2: Ymchwiliad 16-34 11% (283) 12% (190) 10% (137) 12% (165)
35-44 26% (659) 29% (479) 25% (335) 26% (337)
45-54 30% (751) 28% (447) 29% (386) 27% (349)
55-64 23% (567) 22% (358) 23% (304) 21% (275)
65+ 10% (250) 9% (150) 12% (162) 12% (187)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 16-34 13% (34) 14% (34) 19% (44) 12% (28)
35-44 25% (64) 28% (66) 26% (60) 22% (51)
45-54 27% (69) 24% (56) 25% (58) 32% (73)
55-64 22% (55) 20% (48) 18% (43) 16% (36)
65+ 13% (33) 14% (34) 13% (30) 18% (41)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 16-34 9% (13) 5% (6) 7% (8) 2% (2)
35-44 27% (38) 25% (31) 19% (21) 23% (19)
45-54 31% (44) 30% (38) 31% (34) 33% (28)
55-64 20% (28) 25% (31) 28% (31) 24% (20)
65+ 13% (18) 16% (20) 14% (15) 18% (15)

Sylwch, efallai na fydd y rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Ar gyfer y pedair blynedd, mae tangynrychiolaeth o'r ddau gategori oedran iau (pobl 44 oed ac iau) mewn pryderon a adroddwyd i ni o'u cymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau oedran hŷn (45 oed a hŷn) sy'n cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu hadrodd i ni o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r orgynrychiolaeth hon yn dod yn fwy amlwg wrth i'r oedran gynyddu.

Wrth edrych ar achosion sy'n ymwneud ag unigolion sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, o'i gymharu â'r gyfran a gafodd eu hadrodd, mae patrwm tebyg ar gyfer 2018/19, 2020/21 a 2021/22. Mae'n dangos bod y gyfradd yr oedd pobl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn cynyddu gydag oedran. Yn 2021/22, ymchwiliwyd i 17% o'r rheini a ddywedodd eu bod yn 16-34 oed, 19% o'r tri chategori nesaf a 22% o'r rhai 65 oed a hŷn. Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod, ond yn hytrach cânt eu cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddo o'r cyfanswm a adroddwyd.

Mae'n anodd nodi unrhyw batrymau clir yn yr achosion a ddaeth i ben yn fewnol neu yn y Tribiwnlys dros y pedair blynedd oherwydd y niferoedd bach dan sylw.

Anabledd

Oherwydd y niferoedd bach iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwn ei adrodd – mae'r tabl wedi'i farcio â seren lle mae'r niferoedd yn rhy fach i adrodd amdanynt ar gyfer y flwyddyn honno.

Oherwydd y niferoedd bach iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwn ei adrodd – mae'r tabl wedi'i farcio â seren lle mae'r niferoedd yn rhy fach i adrodd amdanynt ar gyfer y flwyddyn honno.

Dadansoddiad yn ôl anabledd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Anabledd 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

 

Poblogaeth wrth ei gwaith
Dim anabledd wedi'i gofnodi 99%
(155,686) 
99% (158,835) 99% (160,662) 99% (164,480)
Anabledd wedi'i gofnodi 1%(1,673) 1%
(1,663)
1% (2,293) 1% (2,362)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% (6,719) 98% (6,187) 99% (6,622) 98% (6,842)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (141) 2% (106) 1% (181) 2% (149)
Cam 2: Ymchwiliad Dim anabledd wedi'i gofnodi 98% (2,517) 98% (1,609) 97% (1,320) 97% (1,316)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (62) 2% (38) 3% (37) 3% (34)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Dim anabledd wedi'i gofnodi * * 97% (251) 98% (262)
Anabledd wedi'i gofnodi * * 3% (7) 2% (5)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dim anabledd wedi'i gofnodi * 95% (123) * *
Anabledd wedi'i gofnodi * 5% (6) * *

Er bod y niferoedd yn rhy fach i ddod i unrhyw gasgliadau pendant, mae pobl anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau a wneir i ni, yn ystod y cam ymchwilio ac mewn achosion sydd â chanlyniad mewnol ar gyfer 2021/22. Yn 2021/22, cafodd 23% o bobl anabl yr adroddwyd wrthym eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras â nifer y pryderon y gwnaethom eu symud ymlaen fel canran o'r rhai a adroddwyd i ni (19%). Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod nifer yr unigolion anabl rydym yn eu cyfeirio ar gyfer ymchwiliad yn isel, a gallai unrhyw newid bach mewn niferoedd arwain at fwy o newid mewn canran.

Gwaith pellach ac ymchwil

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2018/19 ym mis Rhagfyr 2020, ac mae'r canfyddiadau wedi bod yn debyg yn y blynyddoedd dilynol, rydym wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith i ddeall yn well pam rydym yn gweld gorgynrychiolaeth rhai grwpiau yn ein prosesau gorfodi.

Mae'r isod yn nodi beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

Ymrwymiad

Byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol i'r ffactorau sy'n llywio'r broses o adrodd ar bryderon am gyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ni, er mwyn canfod beth allwn ei wneud am hyn a lle y gallwn weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth.

Bydd yr ymchwil hwn yn cynnwys adolygiad o'r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar lle gwneir y penderfyniad i gyfeirio mater i'w ymchwilio (y cyfeirir ato fel cam 2 yn yr adroddiad hwn).

Camau a gymerwyd

Rydym wedi comisiynu Prifysgol Efrog, Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Caerdydd i fwrw ymlaen â'r ymchwil hon ac maent yn gwneud cynnydd da. Rydym wedi cyhoeddi eu hadolygiad o lenyddiaeth sy'n tynnu sylw at amrywiaeth o ffactorau o'r ymchwil bresennol a allai egluro pam mae cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu riportio i ni. Mae'r ymchwil yn parhau a byddwn yn cyhoeddi'r canfyddiadau yng ngwanwyn 2024.

Ymrwymiad

Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer yr unigolion sy'n datgelu gwybodaeth am eu nodweddion amrywiaeth i ni.

Camau a gymerwyd

Rydym yn uwchraddio'r platfform sy'n cynnal ein holiadur amrywiaeth unigol ar mySRA i wella ei ymarferoldeb a byddwn yn ailgydio yn ein hymgyrch i annog datgelu yn nes ymlaen eleni. Yn y cyfamser, rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyfathrebu'n uniongyrchol â darpar gyfreithwyr wrth iddynt fynd drwy'r broses awdurdodi. Bydd hyn yn tynnu eu sylw at y cwestiynau amrywiaeth, yn egluro sut mae'r data'n eu helpu nhw a'r proffesiwn ac yn annog datgelu.

Ymrwymiad

Byddwn yn gwerthuso'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud drwy ein rhaglen diwygio rheoleiddiol, gyda deall yr effeithiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan allweddol o'r gwaith.

Camau a gymerwyd

Mae gennym raglen waith i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi newydd a'r Safonau a'r Rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019. Cyhoeddwyd ein gwerthusiad blwyddyn un o'n Safonau a'n Rheoliadau ym mis Rhagfyr 2021 ac maer gwaith yn parhau.

Bydd ein hadolygiad tair blynedd o'n Safonau a'n Rheoliadau yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2023, a byddwn yn edrych ar unrhyw effeithiau EDI fel rhan o'r adolygiad hwn.

Ymrwymiad

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn a'n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach.

Camau a gymerwyd

Cyhoeddwyd adolygiad o'n gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021/22 ym mis Ionawr 2023, gan gynnwys ein gwaith i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach, drwy gyfres o weithdai ac adnoddau wedi'u targedu.

Ymrwymiad

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn a'n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach.

Camau a gymerwyd

Cyhoeddwyd adolygiad o'n gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021/22 ym mis Ionawr 2023, gan gynnwys ein gwaith i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach, drwy gyfres o weithdai ac adnoddau wedi'u targedu.

Mae'r adran hon yn ymwneud â phroffil yr unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1) a'r pryderon rydyn ni'n bwrw ymlaen i ymchwilio iddynt (cam 2), wedi'u gosod yn erbyn dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith. Rydym yn canolbwyntio ar y data ar gyfer 2021/22 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau ystyrlon dros y pedair blynedd diwethaf yng nghamau 1 a 2 wedi'u hamlygu yn yr adran canfyddiadau allweddol uchod.

Gwybodaeth am y data

Yn 2021/22, cafodd 10,121 o bryderon eu hadrodd i ni. O'r rhain, roedd 5,975 (59%) wedi enwi un neu fwy o unigolion. Fe wnaethom gyfrif unigolyn bob tro roedd yn ymddangos ar bryder a adroddwyd i ni, felly efallai y bydd rhai unigolion yn cael eu hadrodd fwy nag unwaith. Mae'r dadansoddiad yn yr adran hon yn seiliedig ar y 6,991 o unigolion a enwyd ar y pryderon hyn. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, mae pryderon sy'n ymwneud â chwmnïau wedi cael eu heithrio.

O'r 6,991 o unigolion a enwyd ar y pryderon a gawsom (cam 1), cafodd 1,350 o unigolion eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) – mae hyn yn gyfradd o 19%.

Wedi'u rhannu yn ôl pedair nodwedd amrywiaeth (ethnigrwydd, rhyw, oedran ac anabledd), mae'r tablau yn yr adran hon yn dangos:

  • y boblogaeth wrth ei gwaith
  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn 2021/22
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2021/22 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Mae gormod o ddynion yn cael eu henwi ar y pryderon rydyn ni'n eu cael (63%) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith (47%). Mae hyn yn cynyddu pan fyddwn yn edrych ar yr unigolion lle gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, lle mae 70% yn ddynion. Y gyfradd y mae menywod yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yw 15% (352 o fenywod yr ymchwiliwyd iddynt allan o 2,336 yr adroddwyd amdanynt) o'i gymharu â 21% ar gyfer dynion (804 o ddynion yr ymchwiliwyd iddynt o 3,894).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad yn ôl rhyw

Dynion Menywod
Poblogaeth wrth ei gwaith 47% (69,512) 53% (76,987)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (3,894) 37% (2,336)
Cam 2: Ymchwiliad 70% (804) 30% (352)

Sylwch, mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymateb hunan- gofnodedig i'r cwestiwn canlynol: 'Beth yw eich rhyw: gwryw, benyw, disgrifiad arall a ffefrir neu mae'n well gennych beidio â dweud'. Nid oes yn rhaid i gyfreithwyr sy'n ateb y cwestiwn hwn ateb yn unol â'u rhyw cyfreithiol.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 146,499 o'r 166,842 o boblogaeth wrth ei gwaith (88%).
  • Cam 1 – roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 6,230 o'r 6,991 o unigolion a enwyd ar bryderon a gawsom (89%).
  • Cam 2 – roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 1,156 o'r 1,350 o unigolion a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (86%).

Ethnigrwydd

Mae nifer yr unigolion sy'n cael eu cyfrif yng nghamau 1 a 2 y broses yn ddigon mawr i ni ddangos pob un o'r pum grŵp ethnig ar wahân. Nid yw hyn yn wir ar gyfer camau 3 a 4 lle mae'r niferoedd yn rhy fach, felly rydym hefyd wedi dangos y cyfanswm ar gyfer y grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y tabl isod, er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam o'n prosesau.

O edrych ar y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ei gyfanrwydd, mae gorgynrychiolaeth o unigolion o'r grwpiau hyn sy'n adrodd i ni (24%) ac yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (29%) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith (19%). Mae'r patrymau ar gyfer y grwpiau Asiaidd a Du yn debyg er bod maint y ddau grŵp yn wahanol:

  • Mae 12% o'r boblogaeth wrth ei gwaith yn Asiaidd, mae 17% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn Asiaidd, ac mae 21% o'r unigolion yn y cam ymchwilio yn Asiaidd.
  • Mae 3% o'r boblogaeth wrth ei gwaith yn Ddu, mae 3% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn Ddu, ac mae 4% o'r unigolion yn y cam ymchwilio yn Ddu.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y grŵp Gwyn. Mae tangynrychiolaeth o unigolion Gwyn a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (76%) o'i gymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith (81%). Mae hyn yn lleihau wrth edrych ar unigolion Gwyn sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (71%).

Y gyfradd y mae pobl Asiaidd yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yw 23% (217 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 945 yr adroddwyd amdanynt). Ar gyfer pobl Ddu mae'n 22% (41 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 185 yr adroddwyd amdanynt). Ac, ar gyfer y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gyffredinol, mae 23% (295 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 1,307 yr adroddwyd amdanynt). Mae hyn yn uwch na'r grŵp Gwyn, sef 17%, (727 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 4,172 yr adroddwyd amdanynt).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ethnigrwydd

  Gwyn Asiaidd Du Cymysg Arall
Poblogaeth wrth ei gwaith 81% (97,326) 12% 3% 2% 2%
19% (22266) Cyfanswm Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76% (4172) 17% 3% 1% 2%
24% (1307) Cyfanswm Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
Cam 2: Ymchwiliad 71% (727) 21% 4% 1% 3%
29% (295) Cyfanswm Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Sylwch, efallai na fydd y rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 119,592 o'r 166,842 o boblogaeth wrth ei gwaith (72%).
  • Cam 1 – roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 5,479 o'r 6,991 o unigolion a enwyd ar bryderon a gawsom (78%).
  • Cam 2 – roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 1,022 o'r 1,350 o unigolion a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (76%).

Oedran

Gan fod nifer yr unigolion 16-25 oed yn rhy fach i'w dangos ar wahân, maent wedi cael eu grwpio gyda'r grŵp 25-34 oed.

Mae pobl yn y grŵp hwn (16-34) yn cael eu tangynrychioli yn y pryderon a adroddwyd i ni (14%) o'i gymharu â'u cyfran o'r boblogaeth wrth ei gwaith (23%). Gwelir y patrwm hwn hefyd ar gyfer y rhai yn y categori oedran 35-44, ond i raddau llai. Mae'r grŵp hwn yn cynrychioli 33% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o adroddiadau i ni.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau oedran hŷn sy'n cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r gwahaniaeth mwyaf amlwg ar gyfer y rheini sy'n 65 oed a hŷn, sy'n cyfrif am 13% o'r adroddiadau, ond dim ond 5% o'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r rheini rhwng 55 a 65 oed yn cyfrif am 21% o'r adroddiadau a 14% o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Mae'r gyfran o bobl sy'n cael eu riportio a'r gyfran sy'n cael eu hymchwilio yn debyg ar gyfer y categorïau oedran hŷn (35 a hŷn). Ar gyfer y grŵp iau (16-34) mae mwy o wahaniaeth – maent yn cynrychioli 14% o'r adroddiadau a dderbyniwyd a 12% o'r rhai a gyflwynwyd ar gyfer ymchwiliad.

Yn fras, mae'r gyfradd yr oedd pobl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn cynyddu gydag oedran:

  • 16–34 – 17% (165 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 954 yr adroddwyd amdanynt)
  • 35-44 – 19% (337 o blith 1,794)
  • 45-54 – 19% (349 o blith 1,864)
  • 55-64 – 19% (275 o blith 1,439)
  • 65+ – 22% (187 o blith 867).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o oedran

16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Poblogaeth wrth ei gwaith 23%
(38,997)
33%
(54,372)
25% (41,220) 14% (23,698) 5% (8,485)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 14% (954) 26%
(1,794)
27% (1,864) 21% (1,439) 13% (867)
Cam 2: Ymchwiliad 12% (165) 26% (337) 27% (349) 21% (275) 14% (187)

Sylwch, efallai na fydd y rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – roedd oedran yn hysbys ar gyfer 166,772 o'r 166,842 o boblogaeth wrth ei gwaith (99.9%).
  • Cam 1 – roedd oedran yn hysbys ar gyfer 6,918 o'r 6,991 o unigolion a enwyd ar bryderon a gawsom (99%).
  • Cam 2 – roedd oedran yn hysbys ar gyfer 1,313 o'r 1,350 o unigolion a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (97%).

Anabledd

Nid ydym yn gallu dod i unrhyw gasgliadau dibynadwy yng nghyswllt anabledd gan fod y niferoedd mor fach.

Rydym wedi cyhoeddi'r dadansoddiad yng nghamau 1 a 2 er mwyn bod yn gyflawn, sy'n dangos bod gormod o unigolion anabl wedi'u henwi ar bryderon a gawsom (2%) ac wedi symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (3%), o'i gymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith (1%).

Y gyfradd y mae pobl anabl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yw 23% (34 yr ymchwiliwyd iddynt o blith 149 yr adroddwyd amdanynt).

Camau 1 a 2: Anabledd wedi'i gofnodi

Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi
Poblogaeth wrth ei gwaith 99% (164.480) 1% (2,362)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 98% (6,842) 2% (149)
Cam 2: Ymchwiliad 97% (1,316) 3% (34)

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth wrth ei gwaith – o'r 166,842 o unigolion yn y boblogaeth wrth ei gwaith, cofnodir bod 2,362 (1.4%) yn anabl.
  • Cam 1 – o'r 6,991 o unigolion a enwyd ar y pryderon a dderbyniwyd, cofnodir bod 149 (2%) yn anabl.
  • Cam 2 – o'r 1,350 o unigolion yr ymchwiliwyd iddynt, cofnodir bod 34 (3%) yn anabl.

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi A, sy'n golygu'r adroddiadau sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) ac sy'n arwain at gosb fewnol (cam 3).

Mae ein dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar weithgarwch gorfodi o fewn blwyddyn benodol, felly er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 3, mae'n annhebygol o fod yn arwyddocaol. Bydd llawer o'r achosion a ddaeth i ben gyda sancsiwn mewnol (cam 3) yn 2021/22 wedi cael eu derbyn yn y flwyddyn flaenorol.

Rydym yn canolbwyntio ar y data ar gyfer 2021/22 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau ystyrlon dros y pedair blynedd diwethaf yng ngham 3 wedi'u hamlygu yn yr adran canfyddiadau allweddol.

Gwybodaeth am y data

Dylid nodi bod y data yn yr adran hon yn ymdrin â sancsiynau y gallwn eu gosod a chanlyniadau a adlewyrchir mewn cytundebau setlo rheoleiddiol a wnaethpwyd yn 2021/22. Defnyddir cytundebau setlo rheoleiddiol pan fydd unigolyn yn derbyn cyfrifoldeb am rai neu'r cyfan o'r honiadau yr ymchwiliwyd iddynt a phan gytunir ar y canlyniad rhyngom ni a'r unigolyn.

Cynhaliwyd 301 o ymchwiliadau yn 2021/22 a arweiniodd at gymryd camau gorfodi mewnol a chyhoeddi sancsiwn. O'r rhain, roedd 241 o achosion yn ymwneud ag un neu fwy o unigolion, a chafodd 267 o unigolion eu henwi yn yr achosion hyn.

Mae dau dabl ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r cyntaf yn dangos proffil yr unigolion ym mhob un o'r camau canlynol:

  • Cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni ar gyfer 2021/22.
  • Cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2021/22 y gwnaethom eu symud ymlaen i'w hymchwilio.
  • Cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion a arweiniodd at sancsiwn SRA ar gyfer 2021/22.

Mae'r ail dabl yn dangos dadansoddiad o amrywiaeth unigolion yn ôl y math o ganlyniad (neu sancsiwn) a roddwyd. Efallai y bydd gan rai unigolion fwy nag un canlyniad ac felly byddant yn ymddangos fwy nag unwaith yn y dadansoddiad. Am y rheswm hwn, ni fydd y rhifau yn y tabl cyntaf yr un fath â'r rhai yn yr ail dabl. Dylid nodi hefyd bod y data canlyniadau yn cynnwys llythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion, ceryddon a dirwyon, ond nid yw'n cynnwys penderfyniadau i ymyrryd, penderfyniadau i gyfeirio achos at y Tribiwnlys, neu achosion lle cytunodd unigolyn i gael ei dynnu oddi ar gofrestr cyfreithwyr drwy RSA. Y rheswm am hyn yw bod y penderfyniadau hyn yn mynd â'r canlyniad y tu allan i gwmpas llwybr A at ddibenion y dadansoddiad hwn.

Cyfyngiadau yn y data y gallwn adrodd arnynt

Mae'r penderfyniadau mewnol rydym yn eu gwneud yn cael eu cyhoeddi'n gyffredinol ac, oherwydd bod y niferoedd yn fach ar hyn o bryd, byddai adrodd yn fanylach yn peryglu datgelu pwy yw rhywun. O ganlyniad, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydym wedi gallu adrodd yn ei gylch yn yr adran hon:

  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad o anabledd o gwbl.
  • Nid ydym wedi gallu adrodd ar wahân ar y grwpiau sy'n ffurfio'r categori Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Rydym wedi grwpio'r categorïau oedran 16–24 a 25–34 gyda'i gilydd.
  • Rydym wedi eithrio rhai canlyniadau o'r dadansoddiad oherwydd bod y niferoedd yn rhy fach – roedd 1 amod wedi'i osod ar dystysgrif ymarfer unigolyn ac 14 gorchymyn adran 99. Mae gorchmynion adran 99 yn ymwneud ag anghymhwyso pobl nad ydynt wedi'u hawdurdodi rhag bod yn weithwyr mewn gwasanaethau cyfreithiol neu eu hatal rhag ymgymryd â swyddi penodol, megis pennaeth cyllid a gweinyddu pennaeth ymarfer cyfreithiol.
  • Rydym hefyd wedi eithrio 46 o orchmynion adran 43, oherwydd bod y math hwn o sancsiwn yn cael ei roi i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y cwmnïau cyfreithiol a'r busnesau rydym yn eu rheoleiddio, ac nid ydym yn cadw data amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn fel rydym yn ei wneud ar gyfer y boblogaeth wrth ei gwaith.
  • Mae gorchmynion adran 47(2)(g) (pan fo'r Tribiwnlys yn atal cyn gyfreithiwr sydd wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr rhag cael ei adfer heb ei ganiatâd) hefyd wedi cael eu heithrio. Yn 2021/22, roedd tri.
  • Rydym wedi cyflwyno'r mathau o ganlyniadau mewn dau grŵp, y sancsiynau mwy difrifol (gohirio a dirwyon) a'r sancsiynau llai difrifol (llythyrau cyngor a chanfyddiadau a rhybuddion).

Cyfyngiadau ar y casgliadau y gallwn eu llunio

Oherwydd y niferoedd isel sy'n gysylltiedig â cham 3 (267 o unigolion), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol, neu'n ganlyniad i siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Ac oherwydd bod dadansoddiad o'r canrannau'n gallu bod yn gamarweiniol gyda grwpiau bach, rydym hefyd wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Cyfran y dynion a enwyd ar achosion a arweiniodd at gosb fewnol yng ngham 3 yw 74%. Caiff hyn ei gymharu â 70% o ddynion a enwyd yng ngham 2. Mae'r niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, ac felly mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon.

Dynion Menywod
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (3,894) 37% (2,336)
Cam 2: Ymchwiliad 70% (804) 30% (352)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 74% (139) 26% (49)

O'r 267 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol yng ngham 3, roedd rhyw yn hysbys am 188 (70%) ohonynt.

Canlyniadau – rhyw

Wrth edrych ar gyfran y dynion yng ngham 3 (74%), mae cyfran uwch o ddynion a gafodd sancsiwn mwy difrifol (cerydd neu ddirwy) ar 80%, o'i gymharu â sancsiwn llai difrifol (llythyr cyngor neu ganfyddiad a rhybudd) ar 67%. Mae'r gwrthwyneb yn wir am fenywod, sy'n cynrychioli 20% o'r rheini sy'n cael sancsiwn mwy difrifol a 33% o'r rheini sy'n cael sancsiwn llai difrifol o'i gymharu â'u cyfran o'r cyfanswm yng ngham 3 (26%).

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad yn ôl rhyw
Dynion Menywod
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 74% (139) 26% (49)
Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd 67% (62) 33% (30)
Cerydd neu ddirwy 80% (55) 20% (14)

Roedd rhyw yn hysbys ar gyfer:

  • 92 o 114 llythyr cynghori neu ganfyddiadau a rhybuddion (81%)
  • 69 o 77 o geryddon a dirwyon (90%).

Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae cyfran yr unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd ar achosion yng ngham 3 (31%) yn uwch na'r rhai a gynrychiolir yng ngham 2 (29%). Ar gyfer unigolion Gwyn, mae cyfran y rhai a enwyd ar achosion yng ngham 3 (69%) yn is na'r rhai a gynrychiolir yng ngham 2 (71%).

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76% (4172) 24% (1307)
Cam 2: Ymchwiliad 71% (727) 29% (295)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 69% (116) 69% (116)

O'r 267 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol yng ngham 3, roedd ethnigrwydd yn hysbys am 168 (63%) ohonynt.

Canlyniadau – ethnigrwydd

O'i gymharu â chyfran yr unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir yng ngham 3 (31%), y gyfran a gynrychiolir yn y canlyniadau llai difrifol (llythyrau cyngor neu ganfyddiadau a rhybuddion) yw 25%. Y gyfran a gynrychiolir yn y mathau mwy difrifol o sancsiynau (tramgwyddau neu ddirwyon) yw 29%.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 69% (116) 31% (52)
Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd 75% (62) 25% (21)
Cerydd neu ddirwy 71% (44) 71% (44) 29% (18)

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd y canlynol:

  • 83 o 114 o lythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion (73%)
  • 62 o 77 o geryddon a dirwyon (81%).

Grŵp oedran

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae rhai gwahaniaethau ar draws y grwpiau oedran.

Ar gyfer y grŵp oedran ieuengaf, mae'r canrannau'n weddol gymesur rhwng camau 2 a 3. Ar gyfer y grwpiau oedran 35-44 a 55-64, mae gostyngiad yn y cyfrannau yng ngham 3 o'i gymharu â cham 2. Ar gyfer y grwpiau oedran 45-44 a 65 oed a hŷn, mae cynnydd yn y cyfrannau yng ngham 3 o'i gymharu â cham 2.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o oedran
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 14% (954) 26% (1,794) 27% (1,864) 21% (1,439) 13% (867)
Cam 2: Ymchwiliad 12% (165) 26% (337) 27% (349) 21% (275) 14% (187)
Cam 3: Achosion gyda sancsiwn mewnol 13% (28) 22% (51) 32% (73) 16% (36) 18% (41)

O'r 267 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol, roeddem yn gwybod oedran 229 o unigolion (86%).

Canlyniadau – oedran

O edrych ar fathau o sancsiynau mewnol ac allanol ar draws categorïau oedran, nid oes patrwm clir ac mae'r niferoedd yn rhy fach i ddod i unrhyw gasgliadau ystyrlon o'r canfyddiadau.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o oedran
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Cam 3: Achosion gyda sancsiwn mewnol 13% (28) 22% (51) 32% (73) 16% (36) 18% (41)
Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd 13% (13) 23% (24) 27% (28) 15% (15) 22% (23)
Cerydd neu ddirwy 9% (7) 16% (12) 39% (30) 18% (14) 17% (13)

Sylwch, nid yw'r rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Roeddem yn gwybod oedran y canlynol:

  • 103 o'r 114 o unigolion a gafodd lythyr cynghori a/neu ganfyddiad a rhybudd (90%)
  • 76 o'r 77 o unigolion a gafodd gerydd a/neu ddirwy (99%).

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi B: hynny yw, y pryderon a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Rydym yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys. Y Tribiwnlys sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr achosion y cyfeirir atynt yn yr adran hon. Mae'n annibynnol arnom a gall osod ystod ehangach o sancsiynau nag y gallwn ni.

Mae ein dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar weithgarwch gorfodi o fewn blwyddyn benodol. Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod fel arfer yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a dod â mater i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Rydym yn canolbwyntio ar y data ar gyfer 2021/22 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau ystyrlon dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng ngham 4 wedi'u hamlygu yn yr adran canfyddiadau allweddol.

Gwybodaeth am y data

Dylid nodi bod y data yn yr adran hon yn cynnwys achosion sy'n dod i ben drwy benderfyniad a wnaethpwyd gan y Tribiwnlys a'r rheini a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Mae'r rhain yn gytundebau i setlo achos a gyrhaeddwyd rhyngom ni a'r unigolyn, sy'n cael eu cymeradwyo gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Rydym wedi edrych ar ddadansoddiad amrywiaeth y rheini y mae eu hachosion yn cael eu cwblhau drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn yr adran nesaf.

Daeth 76 o achosion i ben yn y Tribiwnlys, a oedd yn cynnwys 84 o unigolion ac a arweiniodd at 84 o ganlyniadau yn 2021/22. Mae'r dadansoddiad yn yr adran hon yn seiliedig ar yr 84 o unigolion hyn. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, mae achosion sy'n ymwneud â chwmnïau wedi cael eu heithrio.

Mae dau siart ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r cyntaf yn dangos proffil unigolion ym mhob un o'r camau canlynol:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar adroddiadau a gyflwynwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2021/22
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar yr adroddiadau hynny yn 2021/22 y gwnaethom eu symud ymlaen i'w hymchwilio
  • cam 4 – unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y SDT yn 2021/22

Mae'r ail dabl yn dangos dadansoddiad o amrywiaeth unigolion yn ôl y math o ganlyniad (neu sancsiwn) a roddwyd gan y Tribiwnlys. Gall unigolion dderbyn mwy nag un canlyniad.

Cyfyngiadau yn y data y gallwn adrodd arnynt

Mae canlyniad achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys yn cael ei gyhoeddi'n gyffredinol ac oherwydd bod y niferoedd yn fach ar hyn o bryd, byddai adrodd yn fanylach yn arwain at risg o ddatgelu pwy yw rhywun. O ganlyniad, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydym wedi gallu adrodd yn ei gylch yn yr adran hon:

  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad o anabledd.
  • Nid ydym wedi gallu adrodd ar wahân ar y grwpiau sy'n ffurfio'r categori Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Oherwydd niferoedd isel, rydym wedi grwpio'r categorïau oedran 25–34 a 35-44 gyda'i gilydd. Nid oes unrhyw unigolion 16-24 oed ar hyn o bryd.
  • Rydym wedi eithrio rhai canlyniadau o'r dadansoddiad – 10 gohiriad, dau orchymyn arall ac un achos lle nad oedd gorchymyn.

Cyfyngiadau ar y casgliadau y gallwn eu llunio

Oherwydd y niferoedd isel sy'n gysylltiedig â cham 4 (84 o unigolion), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol, neu'n ganlyniad i siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Ac oherwydd bod dadansoddiad o'r canrannau'n gallu bod yn gamarweiniol gyda grwpiau bach, rydym hefyd wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae dynion yn cael eu gorgynrychioli a menywod yn cael eu tangynrychioli mewn achosion sy'n cael eu cwblhau yn y Tribiwnlys, o'u cymharu â'r rheini sy'n cael eu henwi ar adroddiadau sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Mae cyfran y dynion yn cynyddu, o 70% i 75%, ac mae cyfran y menywod yn gostwng, o 30% i 25%.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad yn ôl rhyw
Dynion Menywod
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (3,894) 37% (2,336)
Cam 2: Ymchwiliad 70% (804) 30% (352)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 75% (61) 25% (20)

Roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 81 o'r 84 unigolyn a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (96%).

Canlyniadau'r Tribiwnlys – rhyw

Mae cyfran y dynion sy'n cael eu dileu oddi ar y gofrestr (78%) ac a gafodd ddirwy (73%) yn gymesur ar y cyfan â'r dynion sy'n cael eu henwi ar achosion yn y Tribiwnlys (78%).

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad yn ôl rhyw
Dynion Menywod
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 75% (61) 25% (20)
Dirwy 73% (24) 27% (9)
Dileu oddi ar y gofrestr 78% (28) 22% (8)

Roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 33 o'r 35 o unigolion a gafodd ddirwy (94%) a 36 o'r 36 o unigolion (100%) a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr.

Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae cyfran yr unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (36%) yn uwch nag yn y cam ymchwilio (29%). Ar gyfer unigolion Gwyn, mae gostyngiad o 71% yn y cam ymchwilio i 64% yng ngham y Tribiwnlys.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o ethnigrwydd
Gwyn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76% (4172) 24% (1307)
Cam 2: Ymchwiliad 71% (727) 29% (295)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 64% (47) 36% (26)

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 73 o'r 84 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (87%).

Canlyniadau SDT – ethnigrwydd

O'i gymharu â'r dadansoddiad cyffredinol o unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd yng ngham 4 (36%), mae cyfran is yn y canlyniad llai difrifol (dirwyon), sef 29%. Mae cynnydd yng nghyfran yr unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr, sef 44%. I unigolion Gwyn, mae'r gwrthwyneb yn wir, gyda 64% o'r unigolion Gwyn wedi'u henwi yng ngham 4, gyda 56% wedi'u dileu oddi ar y gofrestr a 71% wedi'u dirwyo.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd
Gwyn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 64% (47) 36% (26)
Dirwy 71% (22) 29% (9)
Dileu oddi ar y gofrestr 56% (18) 44% (14)

Roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 31 o'r 35 o unigolion a gafodd ddirwy (89%) a 32 o'r 36 o unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr (89%).

Oedran

Mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd mae'r niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, ac nid oes unigolion o'r grŵp oedran 16-24 yn cael eu cynrychioli ar hyn o bryd.

Ar gyfer y ddau grŵp iau (25–44 a 45–54) mae gostyngiad yng nghyfran yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (13% a 4%, yn y drefn honno), o'i gymharu â'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt yng ngham 2 (10% a 25%, yn y drefn honno).

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y grwpiau hŷn, lle mae cynnydd yng ngham 4 o'i gymharu â cham 2. Mae hyn yn fwyaf arwyddocaol i'r grŵp 55-64, sy'n cynrychioli 21% yn ystod y cam ymchwilio a 33% o ganlyniadau'r Tribiwnlys.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o oedran
25–44 45–54 55–64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 39% (2709) 27% (1864) 21% (1439) 13% (867)
Cam 2: Ymchwiliad 38% (496) 27% (349) 21% (275) 14% (187)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 25% (21) 33% (28) 24% (20) 18% (15)

Sylwch, oherwydd talgrynnu ac oherwydd nad yw'r grŵp oedran 16-24 yn cael ei ddangos, nid yw'r niferoedd yn cyfateb i 100%.

Roeddem yn gwybod oed 84 o'r 84 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (100%).

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o oedran

Mae'r mathau o ganlyniadau ar draws pob categori oedran yn weddol gymesur o'u cymharu â'r grwpiau oedran a gynrychiolir yng ngham 4.

25–44 45–54 55–64 65+
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 25% (21) 33% (28) 24% (20) 18% (15)
Dirwy 29% (10) 31% (11) 23% (8) 17% (6)
Dileu oddi ar y gofrestr 25% (9) 31% (11) 25% (9) 19% (7)

Canlyniadau y cytunwyd arnynt yw cytundebau i setlo achos a gyrhaeddwyd rhyngom ni a'r unigolyn a gyhuddir o gamymddwyn (yr ymatebydd) sy'n cael eu cymeradwyo gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae rheolau'r Tribiwnlys yn caniatáu i ni neu'r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Mae hyn yn annog mwy o achosion i gael eu datrys fel hyn. Gall fod yn ffordd gymesur a chost-effeithiol o ddod â mater i ben.

Mae'r tablau yn yr adran hon yn cymharu dadansoddiad amrywiaeth yr unigolion hynny y daeth eu hachos i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno a'r rhai y daeth eu hachos i ben drwy wrandawiad. O'r 76 o achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2021/22, cafodd 39 eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno a oedd yn cynnwys 43 o unigolion a chafodd 38 o achosion eu cwblhau yn dilyn gwrandawiad, a oedd yn cynnwys 41 o unigolion.

Cyfyngiadau yn y data y gallwn adrodd arnynt

Mae canlyniad achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys, gan gynnwys drwy ganlyniadau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cyhoeddi yn y prif adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol. Oherwydd bod y niferoedd yn fach ar hyn o bryd, byddai adrodd yn fanylach yn peryglu datgelu pwy yw rhywun. O ganlyniad, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydym wedi gallu adrodd yn ei gylch yn yr adran hon:

Mae canlyniad achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys, gan gynnwys drwy ganlyniadau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cyhoeddi yn y prif adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol.

Oherwydd bod y niferoedd yn fach ar hyn o bryd, byddai adrodd yn fanylach yn peryglu datgelu pwy yw rhywun. O ganlyniad, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydym wedi gallu adrodd yn ei gylch yn yr adran hon:

Cyfyngiadau ar y casgliadau y gallwn eu llunio

Oherwydd y niferoedd isel sy'n ymwneud â chanlyniadau y cytunwyd arnynt (43 unigolyn), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol, neu'n ganlyniad i siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Ac oherwydd bod dadansoddiad o'r canrannau'n gallu bod yn gamarweiniol gyda grwpiau bach, rydym hefyd wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar sail y newidiadau i'r data hwn dros y pedair blynedd diwethaf.

Rhyw

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae canran uwch o fenywod a enwyd ar achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (29% yn cynnwys 12 unigolyn) o'i gymharu â'r rheini a ddaeth i ben mewn gwrandawiad (20% yn cynnwys wyth unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad yn ôl rhyw

Roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 41 o 43 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (95%). Roeddem yn gwybod oedran 40 o'r 41 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y SDT (98%). Roedd cyfran uwch o fenywod wedi datrys eu hatgyfeiriad i'r Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno – 60% o fenywod o'i gymharu â 48% o ddynion.

Dynion Menywod
Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys 80% (32) 20% (8)
Achosion a ddaeth i ben gan ganlyniad Tribiwnlys y cytunwyd arno 71% (29) 29% (12)

Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae cyfran lai o unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a enwyd ar achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (26% yn cynnwys 10 unigolyn) o'i gymharu â'r rheini a ddaeth i ben mewn gwrandawiad (46% yn cynnwys 16 unigolyn). Roedd cyfran uwch o unigolion Gwyn wedi datrys eu hatgyfeiriad i'r Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno – 60% o unigolion Gwyn o'i gymharu â 38% o unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o ethnigrwydd

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd 38 o'r 43 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno (88%). Roeddem yn gwybod oedran 35 o'r 41 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y SDT (85%).

Dynion Menywod
Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys 54% (19) 46% (16)
Achosion a ddaeth i ben gan ganlyniad Tribiwnlys y cytunwyd arno 74% (28) 26% (10)

Oedran

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd sy'n rhan o'r cam hwn yn fach, mae cyfran lai o unigolion rhwng 45 a 54 oed wedi'u henwi ar achosion a gafodd eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno o'i gymharu â'r rhai a ddaeth i ben mewn gwrandawiad. Mae'r gwrthwyneb yn wir ar gyfer y grwpiau oedran eraill, lle ceir cyfran fwy o unigolion y datryswyd eu hachosion drwy ganlyniad y cytunwyd arno.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o oedran

Roedd oedran yn hysbys ar gyfer 43 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (100%). Roedd yn hysbys i'r 41 unigolyn lle cafodd achos ei gwblhau gan wrandawiad Tribiwnlys (100%).

25–44 45–54 55–64 65+
Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys 20% (8) 41% (17) 22% (9) 17% (7)
Achosion a ddaeth i ben gan ganlyniad Tribiwnlys y cytunwyd arno 30% (13) 26% (11) 26% (11) 19% (8)

Sylwch, efallai na fydd y rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Mae'r siartiau yn yr atodiad hwn yn dangos dadansoddiad amrywiaeth o'r boblogaeth wrth ei gwaith, yn cynnwys:

  • unigolion ar y gofrestr sydd â thystysgrif ymarfer gyfredol
  • cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig neu gyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi'u heithrio
  • yn dibynnu ar y rôl, rhai nad ydynt yn gyfreithwyr, fel rheolwyr a swyddogion cydymffurfio.

Mae'r data'n seiliedig ar 'giplun' a gymerwyd ar 1 Tachwedd 2022 o ddata a ddarparwyd gan unigolion drwy eu cyfrifon mySRA. Y boblogaeth wrth ei gwaith ar y dyddiad hwn oedd 166,842.

Gan fod yr adroddiadau a'r achosion sy'n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn dod o 2021/22, dyma'r ffynhonnell data mwyaf priodol ar gyfer cymharu proffil amrywiaeth y bobl sy'n cael eu cynrychioli yn ein prosesau. Mae'r data hwn yn wahanol i'r data a gesglir bob yn ail flwyddyn yn ein casgliad data amrywiaeth cwmnïau, sy'n cynnwys twrneiod, cyfreithwyr eraill a staff eraill sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.

Dylid nodi, fodd bynnag, na fydd yr holl unigolion sy'n pasio drwy ein proses orfodi ymysg y boblogaeth wrth ei gwaith a ddiffinnir uchod. Mae gennym ddyletswydd i reoleiddio pawb sy'n gweithio mewn cwmni cyfreithiol, er mwyn i ni allu ymchwilio i bryderon am bobl nad ydynt yn gyfreithwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, paragyfreithwyr ac ysgrifenyddion cyfreithiol a rhai rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr. Nid ydynt ar gofrestr y cyfreithwyr, nid oes ganddynt dystysgrif ymarfer ac nid oes ganddynt gyfrifon mySRA, felly nid oes gennym wybodaeth amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn.

Cyfraddau datgelu

Wrth edrych ar y boblogaeth wrth ei gwaith, mae'r boblogaeth ar gyfer y pedair nodwedd amrywiaeth yn amrywio o 72% (ar gyfer ethnigrwydd) i 100% (ar gyfer oedran). Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o'r boblogaeth wrth ei gwaith ond mae hyn yn cael ei ddangos fel 100% oherwydd talgrynnu. Ac eithrio data am oedran, cymerir data amrywiaeth o gyfrifon mySRA unigol, lle nad yw'n orfodol i bobl ddatgan eu nodweddion amrywiaeth.

Rhyw

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 146,499 o'r boblogaeth wrth ei gwaith lle'r oedd rhyw yn hysbys. Mae'n cynrychioli 88% o'r boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2022.

  Dynion Menywod
Poblogaeth wrth ei gwaith 47% (69512) 53% (76987)

Ethnigrwydd

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 119,592 o aelodau'r boblogaeth wrth ei gwaith lle'r oedd ethnigrwydd yn hysbys. Mae'n cynrychioli 72% o'r boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2022.

  Gwyn Asiaidd Du Cymysg Arall
Poblogaeth wrth ei gwaith 81% (97326) 12% (14587) 3% (3429) 2% (2310) 2% (1940)

Oedran

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 166,772 o aelodau'r boblogaeth wrth ei gwaith lle'r oedd oedran yn hysbys. Mae'n cynrychioli 100% o'r boblogaeth wrth ei gwaith ar 1 Tachwedd 2022. (Mae gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o'r boblogaeth wrth ei gwaith ond mae hyn yn cael ei ddangos fel 100% oherwydd talgrynnu.)

  16–24 25–34 35–44 45–54 55–64 65+
Poblogaeth wrth ei gwaith 0% (308) 23% (38689) 33% (54372) 25% (41220) 14% (23698) 5% (8485)
Anabledd

Mae'r tabl isod yn dangos y 2,362 o gyfreithwyr wrth eu gwaith ac sydd wedi datgan anabledd (o 166,842).

  Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi
Poblogaeth wrth ei gwaith 99% (164480) 1% (2362)