Cynnal Safonau Proffesiynol 2019/20

24 Medi 2021

English Cymraeg

Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yw rheoleiddiwr cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Rydyn ni'n gweithio i ddiogelu aelodau'r cyhoedd a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy oruchwylio'r holl ofynion o ran addysg a hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ymarfer fel cyfreithiwr, trwyddedu unigolion a chwmnïau i ymarfer, pennu safonau'r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau hyn.

Ni yw'r rheoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys tua 80% o'r farchnad a reoleiddir. Rydyn ni'n goruchwylio tua 206,000 o gyfreithwyr a 10,100 o gwmnïau cyfreithiol.

Open all

Croeso i'r adroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol 2019/20. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o'r cyfreithwyr a'r cwmnïau rydyn ni'n eu rheoleiddio yn gwneud gwaith da, yn darparu gwasanaethau cyfreithiol o safon uchel i'r cyhoedd, ac yn bodloni'r safonau rydyn ni'n eu gosod.

Ond, pan nad yw'r safonau hynny'n cael eu bodloni a phan fydd pethau'n mynd o chwith, gallwn gamu i mewn i weithredu a sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hamddiffyn a bod hyder yn y proffesiwn o hyd. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'n gwaith yn gwneud hynny.

Mae'r trydydd adroddiad hwn yn edrych eto ar bethau fel: y meysydd allweddol rydyn ni'n eu gweld yn ein gwaith gorfodi, nifer y pryderon a ddaw i law, a'r math o gamau gorfodi a gymerwyd gennym yn ystod y flwyddyn.

Mae'r themâu rydyn ni'n dal i'w gweld yn gryf yn cynnwys: aflonyddu rhywiol, gwyngalchu arian, a chynlluniau buddsoddi amheus. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth, amlwg iawn yn ein gwaith, ac mae gennym dimau arbenigol ar waith i ymchwilio i bryderon sy'n cael eu mynegi i ni. Mae themâu newydd wedi dod i'r amlwg eleni hefyd, fel bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, a chydymffurfiaeth cwmnïau cyfreithiol â chyhoeddi gwybodaeth i ddefnyddwyr ar wefannau, ar ôl cyflwyno ein Rheolau Tryloywder.

Rwy'n gobeithio, fel bob amser, y bydd yr adroddiad hwn yn taflu goleuni ar y maes hwn sy'n hollbwysig, sy'n gymhleth ac sy'n aml yn heriol yn ein gwaith.

Anna Bradley

Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Ein gwaith gorfodi

Ein rôl

  • Cynnal a chadw safonau cymhwysedd ac ymddygiad moesegol.
  • Diogelu cleientiaid a'r cyhoedd – rydyn ni'n rheoli neu'n cyfyngu ar y risg o niwed drwy sicrhau nad yw unigolion a chwmnïau'n gallu troseddu eto neu'n cael eu rhwystro rhag gwneud hynny yn y dyfodol.
  • Anfon neges i'r bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio'n ehangach gyda'r nod o atal ymddygiad tebyg gan eraill.
  • Cynnal hyder y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir.

Ein Strategaeth Gorfodi

Mae ein Strategaeth Gorfodi, fel y'i diwygiwyd ym mis Chwefror 2019, yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan nad yw busnes neu unigolyn rydyn ni'n ei reoleiddio wedi cyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl. Mae'n rhoi eglurder ynghylch sut rydyn ni'n penderfynu a ddylem weithredu mewn amgylchiadau penodol, a'r hyn rydyn ni'n ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y camymddwyn a'r camau i'w cymryd.

Ein pwerau

Ychydig o bwerau sydd gennym ni i osod sancsiynau. Er enghraifft, mae ein pwerau dirwyo ar gyfer cyfreithwyr unigol wedi'u cyfyngu i £2,000, ac nid ydyn ni'n gallu dileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr. Os byddwn yn credu bod angen cymryd y math hwn o gam gweithredu, rhaid i ni fynd â'r achos at Dribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn osod cyfyngiadau ar ymarfer cyfreithiwr neu ar y bobl sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol ond nad ydynt yn gyfreithwyr.

Mae gennym bwerau mwy cadarn mewn perthynas â strwythur busnes amgen (ABS), a elwir hefyd yn gorff trwyddedig, lle nad cyfreithwyr sy'n rheoli nac yn berchen ar y busnes. Gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar y cwmni a hyd at £50m ar ei reolwyr a'i weithwyr. Mae hyn yn wahanol i gwmnïau mwy traddodiadol, fel partneriaethau neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig - dim ond Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr all roi dirwy ddiderfyn ar y mathau hyn o gwmnïau.

Mae tabl o'r sancsiynau rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu gosod ar gael yn atodiad 1.

Helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wneud pethau'n iawn

Er mwyn helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wybod pa bryd y gallent fod fwyaf mewn perygl o fethu â chyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl, neu o beidio â chydymffurfio â'n rheolau, rydyn ni'n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyhoeddiadau, fel:

  • ein llinell gymorth a'n gwasanaeth sgwrsio ar y we ynghylch Moeseg Broffesiynol, wrth law i ateb cwestiynau am ein rheolau a'n rheoliadau
  • canllawiau i helpu cwmnïau i ddeall sut mae ein rheolau a'n rheoliadau'n gweithio
  • ein cyhoeddiad Rhagolwg Risg blynyddol, sy'n tynnu sylw at y risgiau mwyaf yn y sector a sut gall cwmnïau a chyfreithwyr fynd i'r afael â nhw
  • adolygiadau thematig o feysydd allweddol yn y sector cyfreithiol, yn tynnu sylw at risgiau ac yn codi ymwybyddiaeth o beth sy'n ymarfer da ac yn ymarfer drwg.

Rydyn ni'n rheoleiddio tua 153,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer a chawsom tua 9,600 o adroddiadau am bryderon yn 2019/20.

Mae nifer yr adroddiadau sy'n arwain at ryw fath o gosb yn isel, sy'n dangos bod y mwyafrif llethol o gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn gwneud gwaith da ac yn haeddu ein hymddiriedaeth.

Mae rhai o'r materion y cawn wybod amdanynt yn ymwneud â phryderon a godir yn rheolaidd, er enghraifft, materion cyfrinachedd, camarwain y llys, neu fanteisio ar drydydd parti. Rydyn ni hefyd yn derbyn pryderon am feysydd o'r gyfraith a ddefnyddir yn gyffredin, fel trawsgludo a phrofiant.

Mae pob achos yn wahanol, fodd bynnag, ac mae llawer yn gymhleth, gyda chymysgedd o achosion posib o dorri ein rheoliadau. Ac, er bod amrywiaeth, rydyn ni'n monitro adroddiadau i ganfod unrhyw broblemau penodol sy'n dod i'r amlwg o un flwyddyn i'r llall.

Mae gwaith cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn aml yn gysylltiedig â meysydd sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, defnyddio rhai cymalau mewn cytundebau peidio â datgelu, gwyngalchu arian a materion sy'n ymwneud â lesddaliadau i gyd wedi bod yn amserol. Gall hyn arwain at gynnydd yn nifer yr adroddiadau cysylltiedig sy'n cael eu cyflwyno i ni. Os yw'n briodol, rydyn ni'n cymryd camau i atgoffa'r proffesiwn o'i gyfrifoldebau, er enghraifft, drwy hysbysiadau rhybuddio.

Mae materion amserol o'r fath yn aml yn uchel eu proffil ac yn ennyn diddordeb y cyhoedd – ac felly, diddordeb y wasg a'r senedd. Gall ein gwaith i gynnal safonau proffesiynol chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ochr yn ochr â gweithgarwch arall, efallai gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu drwy ddiwygio deddfwriaethol.

Aflonyddu rhywiol

Yn ystod 2019/20, fe wnaethom barhau i ymchwilio i faterion newydd y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt, 83 i gyd, ynghylch aflonyddu ac ymddygiad rhywiol amhriodol mewn amgylcheddau sy'n gysylltiedig â gwaith. Ym mis Chwefror 2021, roedd gennym dros 130 o ymchwiliadau yn agored. Gall honiadau o aflonyddu rhywiol gynnwys anfon negeseuon amhriodol, gwneud sylwadau amhriodol, cyswllt corfforol heb ganiatâd ac ymosodiad rhywiol.

Hon yw'r drydedd flwyddyn lle mae aflonyddu rhywiol wedi bod yn thema allweddol yn ein gwaith gorfodi, yn dilyn cynnydd ymgyrch #MeToo yn 2017. Rydyn ni wedi cyhoeddi a diweddaru hysbysiadau rhybuddio ac wedi rhoi arweiniad ar rwymedigaethau adrodd i arwain cwmnïau ar sut i wella eu harferion a'u diwylliannau yn y gweithle.

Mae'r rhain yn faterion anodd a sensitif, ac mae gennym dîm ymroddedig i ymchwilio i'r pryderon a godwyd. Rydyn ni'n dymuno gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i'r bobl sy'n rhan o'n hachosion.

Yn 2019/20, arweiniodd tri achos yr oeddem wedi'u cyfeirio at Dribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr lle cafwyd honiadau yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, at ddirwy o rhwng £10,000 a £21,000 yr un ar gyfer y cyfreithwyr dan sylw.

Mewn apêl proffil uchel a ddygwyd gan yr atebydd mewn un achos, gwrthdrodd yr Uchel Lys ganfyddiad y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr o fethiant i weithredu'n ddidwyll mewn achos lle'r oedd honiadau o aflonyddu rhywiol. Hefyd, gwrthdrodd yr Uchel Lys y ddirwy o £35,000 a roddodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr i'r cyfreithiwr dan sylw.

Yn dilyn yr achos hwn, rydyn ni wedi bod yn gweithio i sicrhau ein bod yn datblygu ein dull o wneud penderfyniadau yn y maes cymhleth a sensitif hwn. Roedden ni'n croesawu cadarnhad pendant yr Uchel Lys yn yr achos hwn bod gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod staff iau ac aelodau o'r proffesiwn yn cael eu trin gyda pharch gan uwch gydweithwyr. Ni ddylai cyfreithwyr, fel y pwysleisiodd yr Uchel Lys: 'gymryd mantais annheg o bobl eraill', boed hynny'n broffesiynol neu'n bersonol.

Mae honiadau o gamymddwyn rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn faterion rydyn ni'n eu cymryd o ddifrif a byddwn yn parhau i weithredu arnynt.

Cytundebau peidio â datgelu

Mae defnyddio cytundebau peidio â datgelu (NDAs) i atal datgelu drwgweithredu, ynddo'i hun, yn fater proffil uchel, o ystyried ei berthynas â materion fel #MeToo. Mae gan achosion eraill y potensial i fod yn uchel eu proffil oherwydd pwnc yr anghydfod neu'r partïon dan sylw, a gellir cuddio'r ddau drwy ddefnyddio cytundeb peidio â datgelu.

Ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethom ddiweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar gytundebau peidio â datgelu, gan atgoffa'r proffesiwn o'i rwymedigaethau wrth eu drafftio. Ym mis Chwefror 2021, roedd gennym 11 ymchwiliad agored yn ymwneud â'u defnyddio'n amhriodol. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â defnyddio cytundebau peidio â datgelu mewn anghydfodau masnachol.

Mae modd defnyddio cytundeb peidio â datgelu yn gyfreithlon ac nid yw cytundebau o'r fath yn anghyfreithlon nac yn anfoesegol ynddynt eu hunain. Yr hyn sy'n bwysig i ni yw'r cytundebau peidio â datgelu hynny sy'n ceisio cyfyngu ar ddatgelu camymddwyn i reoleiddiwr, neu adrodd am drosedd i'r heddlu, er nad oes modd eu gorfodi. Rydyn ni am wneud yn siŵr nad yw'r rheini rydyn ni'n eu rheoleiddio yn manteisio'n annheg ar y parti sy'n eu gwrthwynebu wrth lunio cytundeb peidio â datgelu. Mae'n bosib iawn y bydd cyfreithwyr sy'n llunio cytundebau o'r fath yn methu â gweithredu'n onest a chynnal rheolaeth y gyfraith. Gellid canfod eu bod wedi methu â chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn cyfreithiol.

Gwyngalchu arian

Mae'r sector cyfreithiol yn ddeniadol i droseddwyr oherwydd gall wneud i'r broses o ddal neu'r weithred o drosglwyddo arian a gafwyd yn sgil gweithgarwch troseddol ymddangos yn fusnes cyfreithlon. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn aml yn dal symiau mawr o arian yng nghyfrifon eu cleientiaid ac yn gallu trosglwyddo arian drwy eiddo neu drafodion eraill.

Fel rhan o'n rôl yng Ngrŵp Cyswllt y Sector Cyfreithiol (Legal Sector Affinity Group), sy'n cynnwys sefydliadau sy'n goruchwylio ymdrechion i atal gwyngalchu arian a chyrff cynrychioliadol yn y sector gwasanaethau cyfreithiol, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar yr hyn y gall cwmnïau ei wneud i helpu i fynd i'r afael â gwyngalchu arian. Mae hyn yn erbyn cefndir o reoliadau gwyngalchu arian newydd a diwygiedig, yn ogystal â'r risgiau cynyddol a'r risgiau sy'n dod i'r amlwg yn y sector.

Er mwyn monitro risgiau a gwirio cydymffurfiaeth, mae gennym raglen barhaus i adolygu dulliau gweithredu cwmnïau ar gyfer atal gwyngalchu arian ac fe wnaethom gynnal 74 o ymweliadau yn 2019/20. Er bod y cwmnïau y buom yn ymweld â hwy, ar y cyfan, yn gweithio i atal gwyngalchu arian, roedd angen gwella rhai o'r meysydd allweddol a nodwyd gennym. Y rhain oedd: cynnal archwiliad annibynnol ar systemau, gwiriadau a phrosesau atal gwyngalchu arian; sgrinio gweithwyr newydd; cynnal asesiadau risg; a gwirio ffynhonnell arian cleientiaid. Fe wnaethom ymgysylltu â rhai cwmnïau i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â'n rheolau gwyngalchu arian a'r rheoliadau, a chyfeiriwyd naw gennym at ddibenion ymchwilio.

Fe wnaethom agor cyfanswm o 153 o ymchwiliadau newydd a oedd yn ymwneud â gwyngalchu arian yn 2019/20. Roedden ni wedi defnyddio ein pwerau ein hunain i weithredu ac wedi ceryddu neu roi dirwy i gwmnïau lle daethom o hyd i achosion o dorri'r rheoliadau gwyngalchu arian. Roedd y materion yn cynnwys methu â chyflawni'r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol ar gyfer cleientiaid, methu â chanfod ffynhonnell arian cleient, a methu â hyfforddi staff ar y rheoliadau perthnasol.

Roedden ni hefyd wedi dwyn achosion lle'r oedd y materion yn fwy difrifol, gan gynnwys dau lle'r oedd y cyfreithwyr dan sylw wedi'u cael yn euog am droseddau gwyngalchu arian. Cafodd y ddau eu dileu oddi ar y gofrestr. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi mynd â 125 o gyfreithwyr i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gyda bron i 70 yn colli eu hawl i ymarfer naill ai drwy gael eu gwahardd neu eu dileu oddi ar y gofrestr. Rhoddodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr werth £1.4m o ddirwyon hefyd.

Yn 2020/21, roedden ni hefyd wedi dechrau cymryd camau yn erbyn cwmnïau a oedd wedi methu â datgan bod ganddynt asesiad risg atal gwyngalchu arian ar waith ar draws y cwmni.

Cynlluniau buddsoddi amheus

Yn 2019/20, roedden ni wedi ymchwilio i 15 o faterion newydd yn ymwneud â chyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi amheus neu beryglus. Ar adeg lle mae cyfraddau llog yn isel, ac yn sgil pandemig Covid-19 a'i effaith ar yr economi, efallai y bydd llawer o bobl yn teimlo bod cynlluniau buddsoddi sy'n cynnig enillion uchel yn ddeniadol.

Mewn rhai achosion, maent yn colli symiau sylweddol o arian. Mewn adolygiad thematig a gynhaliwyd gennym yn 2020, gwelsom fod colledion fel arfer yn fwy na £1m y cynllun.

Mewn sawl achos, nid yw rhan cwmni cyfreithiol mewn cynllun buddsoddi amheus yn rhan o fusnes arferol cwmni neu gyfreithiwr. Gall hyn fod yn rheswm allweddol pam na all ein cronfa iawndal (ac yn aml yswiriant y cwmni) helpu i adfer yr arian y mae pobl wedi'i golli.

Ond, rydyn ni'n ymchwilio i'r cyfreithwyr dan sylw, ac rydyn ni'n cymryd camau pan fyddwn yn dod o hyd i achosion o gamymddwyn. Mewn un achos yn 2020, rhoddodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddirwy o £20,000 i un partner a £7,500 i un arall am, ymysg pethau eraill, dorri ein rheolau, caniatáu i arian sy'n ymwneud â chynllun buddsoddi fynd drwy gyfrif ei gleient. Roedd hyn er nad oedd unrhyw drafodion cyfreithiol sylfaenol yn digwydd. Ni chaniateir hyn o dan ein rheolau.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi mynd â 50 o unigolion a thri chwmni i'r tribiwnlys am gymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi. Roedd hyn yn golygu bod 20 o unigolion wedi rhoi'r gorau i ymarfer drwy gael eu dileu oddi ar y gofrestr neu eu gwahardd, gyda'r tribiwnlys yn rhoi dirwyon gwerth £967,000.

Ym mis Awst 2020, fe wnaethom ddiweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar gyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi amheus yng ngoleuni ein canfyddiadau yn yr adolygiad thematig. Fe wnaethom atgoffa cyfreithwyr o'r arwyddion rhybudd ynghylch pryd y gallent fod yn rhan o rywbeth fel hyn ac o'r effaith ar y cyhoedd ac ar enw da'r proffesiwn.

Iechyd ymatebwyr a lles cyfreithwyr

Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn ein sector yn gallu mynd yn wael fel y maent mewn unrhyw sector, a bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen. Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain at gamau gweithredu ac ymgysylltu rheoleiddiol, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a'r help cywir. Er mwyn cefnogi cyfreithwyr sy'n wael, rydyn ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau ac rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau, fel LawCare, sy'n gallu helpu'r rheini sydd angen cymorth.

Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion lle mae ymatebwyr wedi dweud bod y materion sydd wedi dod â nhw i'n prosesau yn gysylltiedig â phwysau gwaith, yn ogystal â'r materion aflonyddu a bwlio sy'n cael sylw isod. Rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd mewn tystiolaeth feddygol mewn achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr sy'n ymwneud ag addasrwydd cyfreithwyr i gymryd rhan yn ein hachosion.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod y broses ymchwilio yn gallu achosi straen a'i bod yn gallu gwaethygu neu achosi problemau iechyd. Os byddwn yn gweld mai dyma'r achos, ac yn dibynnu ar y mater iechyd a'r dystiolaeth sydd ar gael, byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw addasiadau rhesymol neu gyfarwyddiadau rheoli achos a allai fod o gymorth. Gallwn ystyried a fyddai'n fwy priodol datrys materion drwy amodau ymarfer, neu ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na gwrandawiad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Gall ein canllawiau helpu pobl i ddeall y ffordd rydyn ni'n ymdrin â materion iechyd sy'n cael eu codi gan y rheini rydyn ni'n ymchwilio iddynt a'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano o ran tystiolaeth feddygol.

Bwlio ac aflonyddu yn y gweithle

Rydyn ni'n derbyn nifer gynyddol o bryderon lle mae unigolion wedi dweud wrthym fod bwlio yn y gweithle yn ffactor wrth iddynt dorri ein Safonau a'n Rheoliadau. Yn yr achosion rydyn ni wedi'u gweld, mae unigolion, er enghraifft, wedi celu camgymeriadau drwy gamarwain cleientiaid, ffugio cofnodi amser a chelu terfynau amser a fethwyd. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ymchwilio i bron i 140 o faterion o'r fath lle ceir cysylltiadau â honiadau o fwlio ac aflonyddu, a byddwn yn ceisio cymryd camau gorfodi lle bo hynny'n briodol.

Rydyn ni wrthi'n datblygu canllawiau ar ddiwylliant y gweithle ac amgylchedd gwaith iach i gwmnïau. Mae'n canolbwyntio ar yr angen i gael polisïau, systemau a rheolaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r risg y bydd y math hwn o sefyllfa'n codi. Disgwylir i hyn gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Rydyn ni hefyd wedi dechrau gweithio ar adolygiad thematig i ddeall yn well y materion a'r ymarfer da a'r ymarfer gwael sy'n digwydd mewn cwmnïau.

Cyhoeddi gwybodaeth allweddol i ddefnyddwyr ar wefannau cwmnïau cyfreithiol

Cyflwynwyd ein rheolau tryloywder ym mis Rhagfyr 2018. Mae'n golygu y dylai cwmnïau sydd â gwefan gyhoeddi gwybodaeth sylfaenol, ddangosol am bris gwasanaethau penodol, manylion ynghylch pwy allai wneud y gwaith, a'r ffyrdd o gwyno. Dylent hefyd ddangos ein logo mae modd clicio arno, a oedd yn orfodol ym mis Rhagfyr 2019, i helpu i egluro'r amddiffyniadau mae'r cyhoedd yn eu cael wrth ddefnyddio cwmni cyfreithiol a reoleiddir.

Mae ein hymchwil yn dangos ers cyflwyno'r rheolau, mae rhagor o ddarpar gleientiaid yn credu bod cyfreithwyr yn fforddiadwy, a byddai cwmnïau'n argymell y manteision busnes sy'n dod yn sgil mwy o dryloywder ynghylch prisiau. Fodd bynnag, mae nifer fach o gwmnïau'n brin o'r wybodaeth rydyn ni'n disgwyl iddynt ei chyhoeddi. Rydyn ni'n adolygu gwefannau cwmnïau cyfreithiol yn rheolaidd i wirio cydymffurfiaeth. Dim ond yn rhannol y mae rhai cwmnïau'n cydymffurfio, ac eraill ddim yn cydymffurfio o gwbl.

Rydyn ni wedi darparu cymorth i gwmnïau i wneud hyn yn iawn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ond, lle nad yw cwmnïau'n darparu'r math o wybodaeth y mae'r cyhoedd yn ei disgwyl ac a nodir yn ein rheolau, rydyn ni'n cymryd camau gorfodi.

Rydyn ni wedi cosbi naw cwmni am dorri'r rheolau ar ôl ymchwiliadau yn 2019/20, ac mae camau gweithredu wedi cynnwys ceryddu neu ddirwyo cwmnïau. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod cwmnïau'n cydymffurfio â'r rheolau ac yn cymryd camau gorfodi pan fydd angen.

Gweithredu yng nghyswllt hawliadau iawndal

Yn 2019/20, fe wnaethom agor 16 ymchwiliad i honiadau a oedd yn cael eu dwyn yn amhriodol yn erbyn cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog, gosodwyr inswleiddiad waliau ceudod a, lle'r oedd y mater yn ymwneud â chynhyrchion morgais wedi'u camwerthu, darparwyr morgeisi a broceriaid.

Mae hawliadau yn erbyn cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog bellach yn cael eu dwyn, gan fod rhai benthyciadau a werthwyd dros y 10 mlynedd diwethaf naill ai wedi cael eu gwerthu'n anghyfrifol neu eu cam-werthu i bobl nad oeddent yn gallu fforddio eu talu'n ôl. Mae'r cynnydd mewn adroddiadau sy'n ymwneud â gwaith inswleiddio waliau ceudod diffygiol yn dilyn cynllun gan y llywodraeth ar ddechrau 2010 er mwyn helpu cartrefi i arbed ynni. Mae rhai perchnogion tai bellach yn canfod bod inswleiddio waliau ceudod wedi arwain at damprwydd neu lwydni yn yr eiddo. Hefyd, mae rhai defnyddwyr wedi canfod bod cynnyrch morgais wedi'i gam-werthu iddynt, ac nad oeddent yn gallu ei fforddio neu eu bod wedi talu gormod o ffioedd i froceriaid.

Er bod mwyafrif helaeth yr hawliadau'n ddilys ac yn cael eu dwyn yn briodol, yn y materion rydyn ni'n ymchwilio iddynt, rydyn ni'n gweld tystiolaeth nad yw'r safonau a ddisgwyliwn gan gyfreithwyr yn cael eu bodloni. Mewn rhai achosion, nid yw cyfreithwyr yn ymchwilio i weld a yw'r hawliad yn ddilys ac nid ydynt yn cynghori cleientiaid ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt wrth wneud hawliad. Yn ogystal, rydyn ni hefyd wedi gweld hawliadau ffug yn cael eu cyflwyno yn y gobaith o gael setliad, hawliadau ffug yn cael eu cyflwyno heb gael cyfarwyddiadau gan y cleient a chodi costau afresymol am ychydig o waith.

Nid yw hawliadau sy'n cael eu dwyn yn amhriodol mewn meysydd sydd â chysylltiad agos â gweithgarwch defnyddwyr yn newydd. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweld materion tebyg yn ymwneud â salwch gwyliau a hawliadau yswiriant gwarchod taliadau. Byddwn yn parhau i fonitro'r adroddiadau a gawn am y tueddiadau newydd hyn, yn ymchwilio i faterion ac yn cymryd camau gorfodi lle bo angen.

Rhybudd risg

Rydyn ni'n bwrw golwg ar yr amgylchedd cyfreithiol i ganfod risgiau posib. Rydyn ni'n cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i godi ymwybyddiaeth a helpu'r proffesiwn i reoli problemau, gan helpu i amddiffyn defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Roedd ein cyhoeddiad Rhagolwg Risg 2020 unwaith eto yn tynnu sylw at y themâu a'r risgiau a nodwyd uchod, fel gwyngalchu arian a chyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi amheus a pheryglus, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig Covid-19. Bu'r Rhagolwg Risg hefyd yn trafod cadw arian cleientiaid yn ddiogel a safonau gwasanaeth gwael – sy'n risg barhaus – gan nad yw llawer o bobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan eu cyfreithiwr a beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.

Mae seiberdroseddu yn parhau i fod yn risg yn y sector cyfreithiol, fel mewn diwydiannau eraill, a chanfu ein Rhagolwg Risg diweddaraf fod cynnydd o 300% wedi bod yn nifer y sgamiau gwe-rwydo yn ystod dau fis cyntaf y cyfnod clo cyntaf yn 2020. Mae cwmnïau cyfreithiol yn darged penodol gan eu bod yn dal gwybodaeth hynod sensitif a symiau mawr o arian ar gyfer pobl a busnesau. Canfu adolygiad thematig yn 2020 o 40 ymosodiad seiber ar gwmnïau cyfreithiol fod £4m o arian pobl wedi cael ei golli, o ganlyniad i hynny. Rydyn ni'n parhau i annog cwmnïau cyfreithiol i roi gwybod i ni am ymosodiadau seiber ac achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd, er mwyn i ni allu rhybuddio'r proffesiwn ehangach am dactegau diweddaraf troseddwyr drwy ein rhybuddion a'n e-fwletinau.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ychwanegol i gwmnïau cyfreithiol ar seiberddiogelwch yng ngoleuni'r ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19. Ac mae ein Rhagolwg Risg diweddaraf yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am seiberdroseddu a risgiau eraill yn y sector cyfreithiol.

Mae ein rhybuddion sgam ar ein gwefan yn dal i gael eu defnyddio'n dda, gyda dros 169,000 o ymweliadau yn 2019/20. Eu nod yw rhoi gwybod i gwmnïau ac aelodau o'r cyhoedd am fusnesau sy'n camddefnyddio manylion cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau cyfreithiol ffug sy'n ceisio twyllo pobl.

Pwy sy'n rhoi gwybod i ni am bryderon?

Rydyn ni'n cael rhai adroddiadau am bryderon yn uniongyrchol gan y proffesiwn, er enghraifft gan gyfreithwyr neu'r swyddogion cydymffurfio sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.

Daw eraill gan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a'r llysoedd. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol (LeO), y sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael gan eu cyfreithiwr. Bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn cysylltu â ni os bydd ganddo bryderon, yn ystod un o'i ymchwiliadau, y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau. Fel pob rheoleiddiwr, rydyn ni hefyd yn monitro'r cyfryngau ac adroddiadau eraill.

Rydyn ni hefyd yn nodi pryderon wrth i ni ymgymryd ag agweddau eraill ar ein gwaith. Er enghraifft, rydyn ni'n cynnal adolygiadau thematig o fathau penodol o waith neu ofynion cyfreithiol, fel gweithdrefnau atal gwyngalchu arian.

Pwy sy'n adrodd i ni?

Y Cyhoedd Proffesiwn Atgyfeiriad mewnol SRA Dienw LeO Awdurdod arall Arall Anhysbys
61% 26% 4% 1% 2% 2% 3% (gall gynnwys, er enghraifft, yr heddlu, banc, y wasg neu erthygl yn y cyfryngau, hyfforddeion neu fyfyrwyr) 1%

Cyfanswm adroddiadau yr ymdriniwyd â nhw yn y flwyddyn 2019/20: 9375

Rhoi gwybod i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr am bryderon

Dros y pedair blynedd diwethaf, ar gyfartaledd, rydyn ni wedi derbyn 11,000 o adroddiadau bob blwyddyn yn mynegi pryderon am y cyfreithwyr a'r busnesau cyfreithiol rydyn ni'n eu rheoleiddio. Serch hynny, rydyn ni'n dechrau gweld y niferoedd yn gostwng (mae rhagor o fanylion o dan 'nifer y pryderon').

Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni i fynegi pryder, byddwn yn ystyried yr wybodaeth a anfonir atom yn ofalus ac yn penderfynu a oes angen i ni ymchwilio. Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau i'r partïon perthnasol er mwyn deall y materion yn well.

Mewn rhai achosion, gallwn ddatrys y pryderon drwy gysylltu'n syth â'r cwmni, gan wneud yn siŵr ei fod yn cywiro unrhyw ddiffygion. Lle bo angen, byddwn yn cymryd datganiadau tystion, yn ymweld â chwmnïau'n bersonol ac yn dadansoddi tystiolaeth, er enghraifft, cyfrifon banc, datganiadau ariannol a dogfennau eraill.

Ar ôl ystyried y mater yn ofalus a siarad â'r holl bartïon o dan sylw, byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf yn unol â'n Strategaeth Gorfodi.

Mewn achosion difrifol iawn, rydyn ni'n cyfeirio'r cwmni neu'r cyfreithiwr at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn annibynnol arnom ni ac mae ganddo bwerau nad oes gennym ni. Er enghraifft, gall wahardd cyfreithiwr, rhoi dirwy ddiderfyn neu ei atal rhag ymarfer.

Nifer y pryderon

Cyfanswm nifer yr adroddiadau a gawsom yn 2019/20 oedd 9,642, o'i gymharu â 10,576 yn 2018/19. Mae hyn yn ostyngiad o tua 9%, ac yn ostyngiad o 16% ers 2017/18 lle cawsom 11,452 o adroddiadau am bryderon. Mae'n bosib mai dulliau cyfathrebu gwell yw un o'r rhesymau am hyn. Yn benodol, rydyn ni wedi gwella'r wybodaeth i'r cyhoedd ar ein gwefan ac, yn 2018, fe wnaethom hefyd gyflwyno taflen ar y cyd â'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch gyda pha sefydliad y dylid lleisio cwyn, lle mae unigolyn wedi dod ar draws mater neu broblem gyda chwmni neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol. Dyma'r ail flwyddyn i ni weld gostyngiad yn nifer y pryderon a ddaw i law (mae rhagor o fanylion yn y siart isod) a byddwn yn parhau i fonitro'r ystadegyn hwn i weld a yw'n rhan o unrhyw duedd barhaus.

Nifer y pryderon 2016–2020

2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
Cyfanswm y pryderon a dderbyniwyd 11,967 11,452 10,576 9,642
Cyfanswm y pryderon yr ymdriniwyd â nhw 11,879 11,508 9,649 9,375

Roedd cyfanswm yr adroddiadau yr ymatebodd y tîm iddynt ac yr ymdriniwyd â hwy yn 2019/20 tua 9,400. Cofiwch nad oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a'r nifer yr ymdrinnir â hwy yn yr un cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Dyna pam ein bod wedi delio ag ychydig mwy o bryderon yn 2017/18 o'i gymharu â'r nifer a ddaeth i law.

Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng nifer y pryderon a ddaeth i law a'r rheini yr ymdriniwyd â nhw yn 2018/19 oherwydd bod proses newydd wedi cael ei chyflwyno ynghylch sut roedden ni'n ystyried pryderon a gyflwynir i ni. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2018/19 (tudalen 13).

Camau allweddol wrth ystyried pryder

1. Mae ein tîm Asesu a Datrys yn Gynnar yn edrych ar ein pryderon yn gyntaf

Nid ydym yn ymchwilio

Mewn llawer o achosion, ni fydd angen i ni ymchwilio. Byddwn bob amser yn esbonio pam. Hanner ffordd drwy 2018/19, fe wnaethom gyflwyno proses newydd i reoli'r gwaith hwn ac mae bellach yn cynnwys mwy o ymgysylltu â'r partïon dan sylw.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater i LeO

Mae LeO yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda LeO. Rydyn ni'n anfon materion perthnasol ato ac fel arall.

Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i awdurdodau eraill

Mewn rhai achosion, ni allwn ymchwilio gan nad yw yn ein hawdurdodaeth neu mae am gwmnïau neu bobl nad ydym yn eu rheoleiddio.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater yn fewnol

Rydyn ni'n gwneud hyn os yw'n hawliad ar ein cronfa iawndal neu'n ymholiad awdurdodi.

2. Rydyn ni'n ymchwilio

Siarad â phob parti perthnasol

Fel arfer, bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth. Efallai y byddwn yn siarad â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti. Lle bo angen, byddwn yn casglu dogfennau a thystiolaeth.

Byddwn yn ysgrifennu neu'n siarad â'r cwmni neu'r cyfreithiwr, gan nodi ein pryderon yn ffurfiol. Mae ganddynt gyfle i ymateb.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl

Rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r partïon drwy gydol yr ymchwiliad. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn.

3. Dod ag ymchwiliad i ben

Nid yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheoliadau na'n safonau

Mewn achosion lle rydyn ni'n canfod nad yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi methu â chyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl, byddwn bob amser yn egluro ein canfyddiadau i'r bobl a roddodd wybod i ni am y mater ar y dechrau ac yn egluro pam nad ydym yn cymryd camau.

Datrys drwy ymgysylltu â'r cwmni

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn fân dorri ein safonau neu'n rheoliadau, os nad oes risg barhaus nac yn y dyfodol i'r cyhoedd, os yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi cymryd camau cyflym i ddatrys y broblem ac os defnyddiwyd dull cydweithredol ac adeiladol i ddatrys y broblem.

Rydyn ni'n rhoi sancsiwn

Mewn rhai achosion, byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn gosod sancsiwn neu'n cytuno ar ganlyniad. Gall hyn gynnwys dirwyo cwmni neu gyfreithiwr neu osod cyfyngiadau ar ei dystysgrif ymarfer.

4. Cyfeirio at SDT

Yr achos yn cael ei gyfeirio at y SDT ac mae'n gwneud penderfyniad

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu cyfeirio at y SDT. Mae'n ystyried y broblem ac yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad. Os bydd gwrandawiad, bydd y SDT yn penderfynu a yw'n briodol rhoi sancsiwn.

Gallwn ni a'r cwmnïau a'r cyfreithwyr cysylltiedig wneud cais i apelio yn erbyn penderfyniadau SDT.

Canlyniadau adroddiadau 2019/20

Mae'r diagram 'Pryderon a gyflwynwyd i ni yn 2019/20' yn rhoi trosolwg o nifer yr adroddiadau a gawsom am ymddygiad cwmnïau a chyfreithwyr yn 2019/20 a'r canlyniadau a gofnodwyd yn yr un cyfnod. Nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno.

Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn i ni eu derbyn. Yn 2019/20, yr amser canolrif a gymerwyd i gwblhau asesiad cychwynnol o bryder a godwyd gyda ni oedd 18 diwrnod gwaith, o'i gymharu â phedwar diwrnod gwaith yn 2018/19. Roedd hyn oherwydd newid yn y ffordd rydyn ni'n ystyried pryderon y rhoddir gwybod i ni amdanynt.

Fe wnaethom dreialu a chyflwyno ein proses newydd ar gyfer asesu a datrys yn gynnar ran o'r ffordd drwy 2018/19. Mae hyn yn golygu ein bod yn siarad mwy â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti, fel bo'r angen. Mae hyn yn ein galluogi i gael, casglu a gwirio gwybodaeth, sydd yn aml yn rhoi cyfle i ddatrys y mater yn gynnar heb fod angen ymchwiliad pellach. Ers cyflwyno'r dull newydd hwn, rydyn ni wedi gweld gostyngiad o bron i 37% yn nifer y pryderon rydyn ni'n eu cyfeirio ar gyfer ymchwiliad (gan ostwng o 3,602 yn 2018/19 i 2,279 yn 2019/20).

Fodd bynnag, os caiff mater ei gyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, neu os oes gweithgarwch arall, fel ymchwiliad gan yr heddlu neu os byddwn yn derbyn adroddiadau cysylltiedig pellach, gall achosion gymryd llawer mwy o amser.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r pryderon yn golygu ein bod yn cymryd camau gorfodi nac yn cyfeirio achos at y Tribiwnlys. Y rheswm am hyn yw, mewn llawer o achosion, gallwn ddatrys materion drwy ymgysylltu a heb fod angen cymryd camau gorfodi. Mewn llawer o achosion eraill, rydyn ni'n gweld nad yw'r cyfreithiwr neu'r cwmni wedi torri ein rheolau. Rydyn ni'n cadw'r holl wybodaeth a anfonir atom ac, os yw'n briodol, gallwn gyfeirio ati os bydd pryderon yn cael eu codi yn y dyfodol.

153,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer cafodd 9,642 o bryderon eu cyflwyno i ni ac fe wnaethom ddelio â 9,375 yn 2019/20

Ddim o fewn ein hawdurdodaeth i ymchwilio - 196

Wedi'i ailgyfeirio'n fewnol neu ei anfon at LeO - 879

Ymchwiliad i mewn i'r mater yn parhau (cyfartaledd treigl dros gyfnod o 12 mis) - 1,983
Ymchwiliadau a gynhaliwyd - 2,279
Gwrandawiadau achos yn y SDT - 112 Dirwy -83 Gwaharddiad - 18 Dileu oddi ar y gofrestr - 57 Penderfyniadau eraill - 5 Dim gorchmynion - 10
Achosion gyda sancsiynau SRA - 274 Llythyr cynghori - 73 Ceryddu - 51

Dirwy - 49

Gorchymyn adran 43 - 67

           

Gosod amodau ar dystysgrif ymarfer - 16

Canfyddiad/ canfyddiad a rhybudd - 19 Adran 47 (2) (g) - 3

Heb ganfod bod y cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheolau, nac wedi'u torri'n ddifrifol. Rydyn ni'n ymgysylltu â rhai cwmnïau i unioni pethau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Dim angen ymchwiliad - 6,021

Pryderon a gyflwynwyd i ni yn 2019/20

  • Gall un achos arwain at fwy nag un canlyniad. Fel y nodwyd yn flaenorol, nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis.
  • Os caiff adroddiad ei ailgyfeirio'n fewnol, mae hynny fel arfer oherwydd ei fod yn fater i'n tîm Awdurdodi neu'n tîm Cronfa Iawndal, er enghraifft.
  • Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i'r Ombwdsmon Cyfreithiol os ydyn ni'n credu ei bod yn gŵyn sy'n ymwneud â lefel gwasanaeth.
  • Mae ystyr y gwahanol fathau o ganlyniadau a'r camau rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd i'w gweld yn yr eirfa ac yn atodiad 1.

Ein proses asesu a datrys yn gynnar

Mae ein proses asesu a datrys yn gynnar yn ystyried achosion yn drwyadl gan ddefnyddio ein Strategaeth Gorfodi newydd. Mae'n defnyddio dull sy'n canolbwyntio llawer mwy ar y cwsmer wrth ymgysylltu â'r bobl sydd wedi cyflwyno adroddiadau i ni.

Rydyn ni'n defnyddio prawf trothwy asesu tri cham sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r Strategaeth Gorfodi newydd i'n helpu i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad. Rydyn ni'n ystyried:

  • A yw'n bosib bod ein Safonau a'n Rheoliadau wedi cael eu torri, yn seiliedig ar yr honiadau a wnaed?
  • A yw'r achos posib o dorri yn ddigon difrifol fel y gellir arwain at gamau rheoleiddio os caiff ei brofi?
  • A oes modd profi'r achos hwnnw o dorri?

Dim ond os bydd ateb cadarnhaol i'r tri chwestiwn y bydd pryder yn pasio'r prawf hwn. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn am yr wybodaeth honno i'n helpu i benderfynu. Byddwn yn defnyddio ein Strategaeth Gorfodi i'n harwain wrth ystyried pob cam o'r prawf. Byddwn yn dweud wrth y sawl a roddodd wybod i ni am y pryder os a phan fyddwn yn penderfynu symud i gynnal ymchwiliad llawn i'r mater. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor ac yn egluro ein rhesymau os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio.

Gall y rhesymau pam rydyn ni'n cau materion yn ystod y cam hwn fod oherwydd nad yw ein rheolau wedi cael eu torri. Gallwn hefyd ddatrys y mater drwy ymgysylltu (er enghraifft, rydyn ni'n siarad â'r cwmni ac yn ei dywys drwy'r hyn y mae angen iddo ei wneud i gydymffurfio â'n rheolau, lle nad yw'r mater yn cyfiawnhau camau gorfodi). Efallai y byddwn hefyd yn cau materion oherwydd nad yw'r pryder a gyflwynwyd yn peri risg reoleiddiol digon sylweddol. Er nad yw'r materion hyn yn symud ymlaen i ymchwiliad, rydyn ni'n eu hystyried yn ofalus, yn ymgysylltu â chwmnïau lle bo angen ac yn cadw materion ar ffeil rhag ofn y bydd angen i ni gyfeirio atynt yn y dyfodol. 

Ymgysylltu adeiladol

Mewn rhai achosion, ar ôl i ni agor ymchwiliad, bydd ymgysylltu â chwmni neu gyfreithiwr i ddatrys mater a helpu i gydymffurfio yn gam priodol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnig arweiniad i'r cwmni neu'r cyfreithiwr ac yn ei oruchwylio a'i fonitro wrth iddo gymryd camau i ddatrys y mater. Yn gyffredinol, byddwn yn datrys materion fel hyn lle mae'r ymddygiad yn addas ar gyfer cynllun unioni ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'n debygol o gael ei ailadrodd, a lle nad oes risg barhaus. Bydd hefyd yn digwydd pan fydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw agwedd agored, gydweithredol ac adeiladol tuag at ddatrys y materion.

Dim ond y camau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd rydyn ni'n eu cymryd, ac rydyn ni'n ystyried popeth fesul achos. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y materion mwyaf difrifol, fel lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi disgyn yn is o lawer na'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl mewn achos ar ei ben ei hun, neu lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi gostwng yn is o lawer na'r safonau hyn yn gyson. Yn yr achosion hyn, mae'n debygol y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Byddwn bob amser yn egluro sut rydyn ni wedi dod i'n penderfyniad i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r mater.

Pan ddown i wybod am fater mwy difrifol a bod risg uniongyrchol i'r cyhoedd, mae camau y gallwn eu cymryd i gyfyngu ar y risg. Y rhain yw:

  • Ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol: gallwn gymryd meddiant o'r holl arian a ffeiliau sydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr, gan gau'r cwmni neu waith cyfreithiwr unigol i bob pwrpas. Rydyn ni'n gwneud hyn mewn achosion lle rydyn ni'n gwybod bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu oherwydd bod angen amddiffyn buddiannau'r cleientiaid fel arall.
  • Gosod amodau ar dystysgrifau ymarfer: atal cyfreithiwr unigol neu gwmni rhag delio ag arian cleient neu weithredu fel rheolwr cwmni, er enghraifft.
  • Gosod 'gorchymyn adran 43': mae hyn yn atal pobl nad ydynt yn gyfreithwyr ond sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol rhag gweithio mewn unrhyw gwmni rydyn ni'n ei reoleiddio heb ein caniatâd.

Astudiaeth achos

Fe wnaethom osod gorchymyn adran 43 ar unigolyn nad oedd yn gyfreithiwr a oedd yn gweithio mewn cwmni cyfreithiol ar ôl canfod ei fod wedi camarwain cleientiaid.

Roedd yr unigolyn dan sylw wedi bod yn gwneud gwaith adfer dyledion. Roedd wedi dweud wrth y cleientiaid perthnasol ei fod wedi cychwyn achos pan nad oedd wedi gwneud hynny, ar chwe mater. Ar dri o'r materion, roedd wedi dweud wrth y cleientiaid ei fod wedi anfon llythyrau at y diffynyddion, ond nid oedd wedi gwneud hynny. Ar un achlysur, dywedodd yr unigolyn ei fod wedi gwneud cais am ddyfarniad trwy ddiffyg pan nad oedd wedi gwneud hynny. Roedd yr unigolyn nad oedd yn gyfreithiwr wedi camarwain ei oruchwyliwr hefyd, ynghylch sut roedd un mater wedi cael ei ddatrys. Daethom yn ymwybodol o'r mater ar ôl i'r cwmni roi gwybod i ni am ymddygiad yr unigolyn.

Cyfaddefodd yr unigolyn fod ei ymddygiad yn anonest. Roedden ni o'r farn bod canlyniad adran 43 yn briodol, o ystyried ei fod wedi camarwain cleientiaid, er mwyn ei atal rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb gael ein caniatâd ni yn gyntaf. Bu'n rhaid iddo dalu costau ein hymchwiliad, sef £300.

Os yw cwmni neu gyfreithiwr wedi torri ein rheolau'n ddifrifol, gallwn gyhoeddi sancsiwn mewnol.

Mae'r ystod o sancsiynau y gallwn eu gosod yn gyfyngedig. Er enghraifft, mae ein pwerau dirwyo ar gyfer cyfreithwyr unigol wedi'u cyfyngu i £2,000, ac nid ydyn ni'n gallu dileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr. Fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen, sydd hefyd yn cael ei alw'n gorff trwyddedig, a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen.

Pan fo'n briodol, gallwn hefyd ddatrys mater drwy gytundeb setlo rheoleiddiol. O dan gytundeb setlo rheoleiddiol, mae'r ddwy ochr yn cytuno ar y ffeithiau a'r canlyniadau. Mae cytundebau setlo rheoleiddiol yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy sicrhau canlyniadau priodol yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Rydyn ni'n cyhoeddi manylion ein canfyddiadau a'n sancsiynau, gan gynnwys y cytundebau setlo rheoleiddiol, ar ein gwefan. Rydyn ni'n gallu atal unrhyw faterion cyfrinachol rhag cael eu cyhoeddi, os yw hyn yn bwysicach na budd y cyhoedd wrth gyhoeddi (er enghraifft, manylion am gyflwr iechyd unigolyn).

Astudiaeth achos

Fel rhan o'n rôl fel goruchwyliwr atal gwyngalchu arian yn y sector cyfreithiol, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod gan y cwmnïau cyfreithiol a'r unigolion rydyn ni'n eu rheoleiddio bolisïau, rheolaethau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â gwyngalchu arian.

Mae rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys adolygu a samplu ffeiliau cwmnïau, eu gweithdrefnau a'u systemau i wneud yn siŵr eu bod yn chwarae eu rhan ac yn dilyn rheoliadau gwyngalchu arian. Mae hyn er mwyn atal a chanfod achosion o wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth.

Yn 2020, fe wnaethom geryddu cwmni ar ôl canfod nad oedd wedi hyfforddi staff perthnasol yn ddigonol ar reoliadau gwyngalchu arian, a oedd yn torri'r rheoliadau hynny a'n rheolau ni. Mae hyfforddi staff ar sut i adnabod a delio â thrafodion, gweithgareddau neu achosion eraill a allai fod yn gysylltiedig â gwyngalchu arian yn gam hanfodol i'w atal.

Roedden ni wedi ystyried y ffaith fod y cwmni wedi cyfaddef yn gynnar, ond roedd wedi methu â mynd ati'n gyflym i gywiro'r diffyg cydymffurfio drwy hyfforddi ei staff a thynnu eu sylw at y rheoliadau. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o niwed i'r cyhoedd, dim tystiolaeth i awgrymu bod y diffyg hyfforddiant wedi arwain at wyngalchu arian, ac roedd y risg byddai'r cwmni'n cyflawni'r drosedd eto yn isel.

Roedden ni wedi ystyried cerydd fel canlyniad priodol ac wedi datrys y mater drwy gyfrwng cytundeb setlo rheoleiddiol.

Cyhoeddwyd y penderfyniad ar ein gwefan a bu'n rhaid i'r cwmni dalu ein costau ymchwilio, sef £1,350.

Rydyn ni'n erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'n annibynnol arnom ni a gall osod ystod ehangach o sancsiynau na ni.

Er enghraifft, gall roi dirwyon diderfyn, neu wahardd neu ddileu cyfreithiwr oddi ar gofrestr y cyfreithwyr, sy'n golygu na allant weithio fel cyfreithiwr mwyach. Mae dadansoddiad llawn o'r sancsiynau rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu gosod ar gael yn atodiad 1. Yn 2019/20, fe wnaethom gyfeirio 112 o achosion at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, o'i gymharu â 125 yn 2018/19. Mae'n rhy gynnar i ddweud a yw'r gostyngiad hwn yn arwydd o duedd a byddwn yn parhau i fonitro nifer yr achosion y byddwn yn eu herlyn yn y Tribiwnlys.

Wrth benderfynu a ddylid dod ag achos gerbron y Tribiwnlys, rydyn ni'n ystyried y canlynol:

  • a oes gennym dystiolaeth a fyddai'n cefnogi'r posibilrwydd realistig y byddai'r Tribiwnlys yn canfod achos o gamymddwyn
  • a yw'r Tribiwnlys yn debygol o osod sancsiwn na allwn ei roi
  • a yw cyhoeddi'r adroddiad er budd i'r cyhoedd

Astudiaeth achos

Rhoddodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddirwy o £55,000 i gyfreithiwr ar ôl clywed ei fod wedi ceisio cusanu aelod o staff iau o lawer mewn ystafell mewn gwesty ar ôl digwyddiad cysylltiedig â gwaith. Canfu'r Tribiwnlys fod y cyfreithiwr wedi camymddwyn yn broffesiynol yn ddifrifol ac wedi torri dau o'n hegwyddorion. Yr egwyddorion hyn oedd: ymddwyn yn onest ac ymddwyn mewn ffordd sy'n cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn ac mewn gwasanaethau cyfreithiol.

Wrth ddyfarnu, dywedodd y Tribiwnlys fod y cyfreithiwr: 'wedi derbyn bod ei ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhroffesiynol' a bod ei ymddygiad adeg y digwyddiad: 'yn cynrychioli camddefnyddio safle mewn ffordd eithriadol'. Nododd hefyd, o ganlyniad uniongyrchol i'r digwyddiad, fod gyrfa'r aelod iau o staff: 'wedi dilyn llwybr cwbl wahanol' a bod: 'yr effaith emosiynol ar [y cyfreithiwr iau] wedi bod yn amlwg iawn...yn ystod ei dystiolaeth.'

Yn ogystal â dirwyo'r cyfreithiwr, gorchmynnodd y Tribiwnlys iddo dalu costau o £48,000.

Achosion gerbron y Tribiwnlys

2017/18: 134 achos

2018/19: 125 achos

2019/20: 112 achos

Os byddwn yn cyfeirio mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'i fod yn dweud bod achos i'w ateb, a bod y cwmni neu'r unigolyn yn cyfaddef yr honiadau, efallai y byddai'n briodol dod â'r mater i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na gwrandawiad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydyn ni'n cytuno ar ganlyniad a chostau ar sail set o ffeithiau y cytunwyd arnynt.

Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried y canlyniad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau iddo, neu orchymyn gwrandawiad llawn ar gyfer yr achos. Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn wahanol i'r cytundebau setlo rheoleiddiol, sef cytundebau y byddwn yn eu llunio gyda chyfreithwyr a chwmnïau yn fewnol heb fod angen cynnwys y Tribiwnlys a phan fo'r mater yn llai difrifol. Adlewyrchir hyn yn y sancsiwn – er enghraifft, ni fydd dirwy am gytundeb setlo rheoleiddiol yn fwy na £2,000 fel arfer, tra gall dirwy yn amodol ar adolygiad y Tribiwnlys fod yn ddiderfyn.

Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Ar ben hynny, roedd newidiadau i reolau'r Tribiwnlys yn 2019 yn cynnwys rheol newydd sy'n caniatáu i ni neu'r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunwyd arno. Mae hyn yn annog datrys rhagor o achosion drwy ganlyniad y cytunwyd arno ac mae'n debyg mai dyma'r rheswm pam ein bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion a gafodd eu datrys fel hyn yn 2019/20.

Sut cafodd achosion eu datrys yn y SDT 2015–2020

Flwyddyn Achosion a ddatryswyd gan SDT - canlyniad y cytunwyd arno Achosion a ddatrysir gan wrandawiad SDT
2019/20 42 72
2018/19 33 92
2017/18 37 97
2016/17 27 90
2015/16 2 127

Mae gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (112) pan fydd cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad (72) a'r rhai a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (42) yn cael eu hadio at ei gilydd (114). Gall hyn ddigwydd pan fydd achos yn ymwneud â mwy nag un unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu dod i ganlyniad y cytunir arno gydag un o'r unigolion yn yr achos, ond nad ydyn ni'n gallu gwneud hynny gyda'r llall, felly bydd angen gwrandawiad llawn i ddatrys y mater. Yn 2019/20, roedd dau achos a ddaeth i ben fel hyn.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt 2019/20

Cafodd 42 o achosion eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn 2019/20. Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn is-set o'r nifer cyffredinol yr achosion a gafodd eu cyfeirio at y Tribiwnlys yn ystod 2019/20 (112). Arweiniodd yr achosion hyn at y sancsiynau yn y tabl isod. Cofiwch y gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn.

Mae'r eirfa ac atodiad 1 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ystyr sancsiynau a'r camau y mae'r Tribiwnlys yn eu cymryd.

Dileu oddi ar y gofrestr Atal Dirwy Gorchymyn adran 43 Cerydd Penderfyniad arall
19 10 21 1 0 0

Astudiaeth achos

Yn 2020, daethom i ganlyniad y cytunwyd arno lle cafodd cyfreithiwr ei ddileu oddi ar y gofrestr ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o dair trosedd gwyngalchu arian. Roedd y cyfreithiwr wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar

Cafwyd y cyfreithiwr yn euog o droseddau a oedd yn cynnwys helpu troseddwyr i wyngalchu eu harian drwy drafodion eiddo am o leiaf bum mlynedd. Dywedodd y barnwr a oedd yn dedfrydu'r cyfreithiwr: 'oherwydd nifer, amlder y trafodion, yr adneuon arian heb esboniad a'r arwyddion rhybudd parhaus a niferus a ddaeth i'r amlwg yn y trafodion... Mae'n rhaid ei fod [y cyfreithiwr] wedi bod yn ymwybodol, drwy barhau i weithredu... [ei fod] drwy hynny'n cynorthwyo... i gaffael eiddo troseddol.'

Roedd canlyniad y cytunwyd arno yn briodol yn yr achos hwn oherwydd bod y cyfreithiwr wedi cyfaddef i'r honiadau a gyflwynwyd iddo ac roedd ffeithiau'r achos yn glir yn dilyn yr euogfarn, a oedd yn golygu na fyddai angen gwrandawiad.

Yn ogystal â chael ei ddileu oddi ar y gofrestr, bu'n rhaid i'r cyfreithiwr dalu £1,450 o gostau. Yn ei ddyfarniad, dywedodd y Tribiwnlys: 'roedd niwed sylweddol ehangach i enw da'r proffesiwn yn deillio o euogfarn [y cyfreithiwr] am droseddau difrifol yn ymwneud â gwyngalchu arian.'

Mae gan gwmnïau ac unigolion yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud yn fewnol yn ogystal â phenderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r hawl i apelio yn hanfodol i gyfiawnder naturiol a phroses gyfreithiol deg.

Apelio yn erbyn ein penderfyniadau

Mae gan gwmnïau ac unigolion sy'n ddarostyngedig i'n hamodau neu ein sancsiynau yr hawl i apelio. Mae apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau yn cael eu hystyried yn fewnol gan ein tîm Dyfarnu. Os deliodd dyfarnydd â'r penderfyniad cychwynnol, fodd bynnag, yna caiff yr apêl ei chlywed gan banel a ddewisir o gronfa o ddyfarnwyr hyd braich. Mae gan bartïon hawliau pellach i apelio naill ai i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (yn achos dirwy, cerydd neu orchymyn adran 43) neu i'r Uchel Lys.

Apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Gall cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi bod yn ddarostyngedig i benderfyniad gan y Tribiwnlys apelio os yw'n credu bod y penderfyniad yn anghywir. Gallwn ninnau hefyd apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys yn y llysoedd.

I apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys, rhaid i ni neu'r atebydd wneud cais i'r Uchel Lys.

Mae apeliadau'n caniatáu i lysoedd gywiro unrhyw wallau a allai fod wedi'u gwneud ac egluro sut maent yn dehongli'r gyfraith.

Yn ogystal â'r sail gyfreithiol, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau ynghylch a ydyn ni'n apelio yn erbyn penderfyniad y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud. Er enghraifft:

  • Eglurhad ar y gyfraith: rydyn ni'n cydnabod bod gan y Tribiwnlys gryn dipyn o ddisgresiwn wrth ystyried canlyniadau'r achosion y mae'n eu clywed. Fodd bynnag, os bydd yn gwneud penderfyniad sy'n ymddangos fel pe bai'n gwrth-ddweud neu'n camddehongli pwynt cyfreithiol, byddwn yn ystyried a ddylem apelio. Rydyn ni'n credu ei bod yn bwysig cael eglurder a chysondeb yn y ffordd y mae'r gyfraith yn berthnasol i'n rôl fel rheoleiddiwr ac i hawliau a rhwymedigaethau'r bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio.
  • Gweithredu er budd y cyhoedd: rydyn ni'n mynd ag achosion i'r Tribiwnlys i sicrhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac i gynnal safonau yn y proffesiwn. Os oes sail i awgrymu nad yw hyn wedi'i gyflawni, byddwn yn ystyried a yw'n briodol apelio.
  • Diogelur cyhoedd: os ydyn nin credu bod y sancsiwn a roddwyd gan y Tribiwnlys yn rhy drugarog a bod sail i awgrymu y gallair cyhoedd, o ganlyniad, fod mewn perygl, byddwn yn ystyried a yw apêl yn briodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn apelio yn erbyn penderfyniad lle rydyn ni or farn y dylai cyfreithiwr fod wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, yn hytrach nai wahardd am gyfnod byr.

Apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau ni

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau mewnol 2017–2020

Cyfanswm yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau 2017/18
15
Apeliadau aflwyddiannus Wedi llwyddo'n rhannol

Apeliadau llwyddiannus

11 3 1
Cyfanswm yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau 2018/19
11
Apeliadau aflwyddiannus Wedi llwyddo'n rhannol

Apeliadau llwyddiannus

11 0 0
Cyfanswm yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau 2019/20
9
Apeliadau aflwyddiannus Wedi llwyddo'n rhannol Apeliadau llwyddiannus
7 2 0

Apeliadau llwyddiannus

Mae'r penderfyniadau yn y siart isod yn ymwneud ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2019/20. Fe wnaethom ni a'r ymatebwyr gyflwyno llai o apeliadau yn 2019/20. Mae nifer cynyddol o achosion a ddatrysir drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y blynyddoedd diwethaf yn debygol o gael effaith ar nifer yr apeliadau a glywir, gan fod partïon yn llai tebygol o apelio. Byddwn yn parhau i fonitro nifer yr apeliadau gennym ni a'r rhai a gyflwynir gan ymatebwyr.

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau SDT 2017–2020

Cyfanswm penderfyniadau apêl allanol 2017/18
21
Apeliadau llwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus yr ymatebwyr Apeliadau llwyddiannus yr ymatebwyr
7 2 10 2
Cyfanswm penderfyniadau apêl allanol 2018/19
20
Apeliadau llwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus yr ymatebwyr Apeliadau llwyddiannus yr ymatebwyr
6 0 13 1
Cyfanswm penderfyniadau apêl allanol 2019/20
6
Apeliadau llwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus SRA Apeliadau aflwyddiannus yr ymatebwyr Apeliadau llwyddiannus yr ymatebwyr Dyfarniad wedi'i neilltuo yn apeliadau'r ymatebwyr
1 0 2 1 2

Astudiaeth achos

Pan fyddwn yn erlyn achos yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, rhaid i ni ddangos bod gennym dystiolaeth i gefnogi ein honiadau yn erbyn cwmni neu gyfreithiwr. Bydd y Tribiwnlys wedyn yn penderfynu a oes achos i'w ateb ac a oes modd cynnal gwrandawiad.

Yn 2020, fe wnaethom apelio yn erbyn mater i'r Uchel Lys ar ôl i'r Tribiwnlys ddweud nad oedd achos i'w ateb ar sail y dystiolaeth roedden ni wedi'i chyflwyno iddo. Roedd yr honiadau a wnaed gennym yn ymwneud â chyfreithiwr a oedd, ar ôl gweithio ar achos troseddol, wedi gwneud hawliad costau ar arian y llywodraeth am y gwaith a wnaeth. Cafodd yr hawliad costau hwn ei ganiatáu ac yna ei dynnu'n ôl gan y llys ar sail amheuaeth o dwyll.

Roedd y dystiolaeth a oedd gennym i gefnogi ein honiadau yn cynnwys adroddiad gan swyddog ll ys a ganfu fod tystiolaeth o dwyll yn yr hawliad costau, dyfarniad y Llys Apêl wrth ddiddymu'r gorchymyn costau, ac adroddiad roedden ni wedi'i baratoi mewn perthynas â'r achos.

Fe wnaethom gyflwyno apêl yn yr achos hwn i geisio esboniad o'r gyfraith ac o ran beth oedd y trothwy ar gyfer tystiolaeth wrth gyflwyno achos i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Gwrthdrodd yr Uchel Lys benderfyniad y Tribiwnlys a gorchmynnodd y dylid cynnal gwrandawiad. Hefyd, fe wrthdrodd orchymyn costau gwerth £63,000 a wnaeth y Tribiwnlys yn ein herbyn pan benderfynodd na ddylid cynnal y gwrandawiad.

Bob blwyddyn, rydyn ni'n casglu ffioedd ymarfer gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.

Mae'r ffioedd ymarfer rydyn ni'n eu casglu'n llawn, neu'n rhannol, yn ariannu chwe sefydliad, gan gynnwys ni. Yn 2019/20, fe wnaethom gasglu cyfanswm o £103.2m, gyda £54.4m yn mynd tuag at ein gwariant cyffredinol.

Yn 2019/20, roedden ni wedi gwario £15.1m ar ein prosesau disgyblu, sy'n rhan hanfodol o'n gwaith i sicrhau safonau proffesiynol uchel. Er bod hyn yn gynnydd bach o'i gymharu â 2018/19, lle roedden ni wedi gwario £15m, rydyn ni wedi lleihau costau ein prosesau disgyblu yn gyson o £16.7m yn 2015/16.

Gwariant ar brosesau disgyblu 2015–2020

2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20
16.7m 16m 14.6m 15m 15.1m

Rydyn ni'n parhau i adolygu sut rydyn ni'n gweithio ac, er mwyn cadw rheolaeth ar gostau beth bynnag, rydyn ni'n gweithio yn ôl egwyddorion allweddol. Yr egwyddorion hyn yw gweithredu'n gyflym, yn deg ac yn gymesur.

Achosion gwerth uchel

Gall ein gwaith gorfodi fod yn uchel ei broffil ac yn aml mae'n ymwneud â materion amserol sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gall fod diddordeb yn faint y mae'n ei gostio i ni ddod ag achosion i'r Tribiwnlys ac i gyflwyno apêl. Mae nifer o ffactorau sy'n effeithio ar hyn: Mae'r rhain yn cynnwys cymhlethdod a hyd oes achos, nifer y partïon a chydweithrediad y rhai sydd ynghlwm.

Achosion a oedd yn costio mwy na £100,000 yn 2019/20

O'r 112 o achosion y gwnaethom eu cyflwyno i'r Tribiwnlys yn 2019/20 a'r chwe apêl y gwrandawyd arnynt, roedd pump lle'r oedd ein costau'n uwch na (tua) £100,000. Yn gyffredinol, bydd y costau yn yr achosion hyn wedi cronni dros nifer o flynyddoedd.

Mae'r ffigurau'n cynnwys y costau a hawliwyd (neu y cytunwyd arnynt) ar gyfer:

  • cyflwyno'r achos i'r Tribiwnlys
  • cyflwyno apêl, os oedd un
  • costau a ddyfarnwyd i'r parti sy'n gwrthwynebu.

Mae costau cyflwyno achos fel arfer yn cynnwys:

  • ein gwaith yn ymchwilio i achos
  • paratoi ar gyfer gwrandawiadau gerbron y Tribiwnlys a'r Uchel Lys, boed hynny'n fewnol neu drwy gyfarwyddo cwmni panel
  • cyngor gan gwnsler neu gyfarwyddo cwnsler pan fydd ein tîm cyfreithiol mewnol yn delio ag achos.

Mewn rhai o'r achosion hyn, dyfarnodd y Tribiwnlys rywfaint o'n costau i ni neu'r cyfan ohonynt. Mae gan y Tribiwnlys ddisgresiwn eang o ran pa gostau i'w dyfarnu, ac mae'n ystyried pob achos ar sail ei ffeithiau ei hun.

Achosion a oedd yn costio mwy na £100,000 yn 2019/20

Partïon dan sylw Costau'r achos Natur yr achos a'r canlyniad terfynol

Cyfreithiwr a chyn bartner cwmni cyfreithiol Freshfields, Ryan Beckwith. Ni wnaethom gymryd camau yn erbyn y cwmni.  Gwrandawyd ar apêl yn yr Uchel Lys yn yr achos hwn.

£343,957 Dyfarnodd y Tribiwnlys gostau o £200,000 i ni, a gafodd eu gwrthdroi wedyn yn dilyn gwrandawiad apêl yn yr Uchel Lys.

Roedd honiadau yn cynnwys ymddygiad amhriodol a cham-fanteisio ar ei swydd uwch. Ni chadarnhaodd yr Uchel Lys ganfyddiadau'r Tribiwnlys yn yr achos hwn. Roedd hefyd yn gwrthdroi gorchymyn costau'r Tribiwnlys (£200,000) a'r ddirwy a roddodd ar Beckwith (£35,000).

Y cwmni cyfreithiol Baker & McKenzie, ei gyn bartner rheoli Gary Senior, ei gyn bartner Thomas Casels, a'i gyn gyfarwyddwr adnoddau dynol, Martin Blackburn.

£212,000 Wrth gyflwyno'r achos yn erbyn Senior, dyfarnodd y Tribiwnlys gostau o £48,000 i ni. 

Cafodd honiadau o ymddwyn yn amhriodol tra mewn sefyllfa o awdurdod a chyfrifoldeb eu gwneud yn erbyn Senior. Cafodd honiadau o ddelio'n amhriodol ag ymchwiliad mewnol i'r ymddygiad amhriodol honedig eu gwneud yn erbyn y cwmni, Cassels and Blackburn. Cafodd Senior ddirwy o £55,000 gan y Tribiwnlys. Nid oedd y Tribiwnlys yn cadarnhau'r honiadau yn ymwneud â Baker & McKenzie, Cassels na Blackburn.

Dau gyfreithiwr a chyfarwyddwr yn y cwmni JWK Solicitors, Peter Jan Bujakowski a Craig Hollingdrake, ac unigolyn nad oedd yn gyfreithiwr, Elaine Saunders. Ni wnaethom gymryd camau yn erbyn y cwmni.

£106,000 Cafodd yr achos ei ddatrys ar ffurf canlyniad y cytunwyd arno a chytunwyd ar gostau o £27,279. 

Mae'r holl honiadau'n ymwneud â rhan yr ymatebwyr mewn cynlluniau maes parcio meysydd awyr a chabanau storio, lle buont yn gweithredu ar ran cwmni buddsoddi a oedd yn addo enillion a gwarantau nad oedd yn gallu eu darparu. Rhoddodd y Tribiwnlys ddirwy o £20,000 i Bujakowski, dirwy o £7,500 i Hollingdrake, a gwnaeth orchymyn adran 43 yn erbyn Saunders.

Y cyfreithiwr Vidal Eulalie Martin, a oedd yn gweithio yn y cwmni cyfreithiol Bright and Sons adeg yr honiadau. Ni wnaethom gymryd camau yn erbyn y cwmni.

£105,000 Dyfarnodd y Tribiwnlys gostau o £48,000 i ni.

Ymysg pethau eraill, mae honiadau yn cynnwys camddefnyddio arian cleientiaid a rhoi gwybodaeth gamarweiniol i ni.  Mae'r Tribiwnlys wedi dileu'r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Y cyfreithiwr Farooq Rafiq - fe wnaethom ymyrryd yn ei bractis, Broadway Legal Limited, yn 2018.

£99,000 Cafodd yr achos ei ddatrys ar ffurf canlyniad y cytunwyd arno a chytunwyd ar gostau o £55,000.

Roedd honiadau'n ymwneud â methu â gweithredu er budd cleientiaid a gwrthdaro rhwng buddiannau wrth gyflawni gwaith hawliadau anaf personol. Mae'r Tribiwnlys wedi dileu'r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Sylwch, nid ydyn ni wedi cynnwys achosion sy'n destun apêl ar hyn o bryd.

Rydyn ni'n gwybod bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen.

Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain atom yn cymryd camau gweithredu, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a'r help cywir.

Ceisio cymorth

Rydyn ni'n deall y gall bod yn rhan o ymchwiliad fod yn gyfnod anodd a llawn straen, yn enwedig i bobl sydd â phroblemau iechyd, neu sydd mewn sefyllfa fregus. Os felly, rydyn ni'n annog pobl i ddweud wrthym, gan fod camau y gallwn eu cymryd i wneud y broses yn haws. Dyma rai enghreifftiau o sut rydyn ni'n gallu cynnig cymorth:

  • darparu un pwynt cyswllt
  • caniatáu amser ychwanegol i ymateb i ni (lle gallwn)
  • oedi ymchwiliad am dymor byr.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac rydyn ni'n ymdrin â phob mater yn seiliedig ar yr amgylchiadau unigol. Efallai y bydd angen cymorth ar aelodau'r cyhoedd a chyfreithwyr sy'n codi pryderon gyda ni hefyd, yn enwedig pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Rydyn ni'n cyfeirio pobl at amrywiaeth o adnoddau a sefydliadau a all helpu, ac mae ein holl staff yn cael hyfforddiant ar wneud addasiadau rhesymol.

Er mwyn helpu cyfreithwyr a chwmnïau i ddeall sut rydyn ni'n mynd i'r afael â materion iechyd a'r dystiolaeth feddygol y gallem ofyn amdani yn ystod ymchwiliad, fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau ar faterion iechyd a thystiolaeth feddygol ym mis Awst 2020. Mae'n cynnwys gwybodaeth am godi mater iechyd gyda ni, adroddiadau meddygol, ac iechyd a'r gallu i ymarfer, ymysg pynciau cysylltiedig eraill.

Ein hymrwymiad ehangach i les yn y proffesiwn

Fe wnaethom lansio ein hymgyrch Eich Iechyd, Eich Gyrfa yn 2016 i annog cyfreithwyr i siarad â ni os ydynt yn cael anawsterau gyda'u hiechyd neu eu lles a allai fod yn effeithio ar eu gwaith. Gall cyfreithwyr siarad â ni am hyn a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am ein rheoliadau a'r problemau y maent yn eu hwynebu.

Chwythu'r Chwiban i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Os bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i ni'n gyfrinachol, byddwn yn cymryd camau priodol i ddiogelu hunaniaeth y sawl sy'n rhoi'r wybodaeth i ni ac yn delio â'r mater mewn modd sensitif.

Rhaid i unigolion a chwmnïau rydyn ni'n eu rheoleiddio roi gwybod i ni am faterion. Fodd bynnag, i rywun sy'n cael ei reoleiddio gennym ni ac sy'n poeni a oes modd i ni ymchwilio iddo oherwydd ei ran ei hun mewn unrhyw ddrwgweithredu, gallai rhoi gwybod i ni am y mater a chydweithio â ni fod yn gam lliniaru. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn yn cael gwybod am faterion yn gynnar. Fodd bynnag, byddai'n well gennym i gyfreithwyr ac eraill sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol roi gwybodaeth yn hwyr na ddim o gwbl. Er na allwn warantu na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y sawl sy'n rhoi gwybodaeth i ni, mae cyflwyno'r wybodaeth i ni yn debygol o helpu ei sefyllfa, a byddwn yn ystyried y cyd-destun, gan gynnwys, er enghraifft, ofn cael ei wrthgyhuddo.

Pan fyddwn yn ymchwilio i gyfreithiwr neu gwmni, efallai y bydd angen cymryd datganiad neu gyfweld â thystion. Bydd hyn yn ein helpu yn ein hymchwiliad ac, o bosib, yn ein helpu i benderfynu a oes angen i ni gyfeirio'r mater i sylw'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Rydyn ni'n deall bod hyn yn gallu bod yn straen, felly rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi tystion. Er enghraifft, os nad Saesneg yw iaith gyntaf y tyst, efallai y gallwn gynnig cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Os mai'r tyst hefyd yw'r sawl a roddodd wybod i ni am y pryder, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am sut rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r mater. Rydyn ni hefyd yn hyfforddi ein staff ar sut i gefnogi unigolion agored i niwed a gofidus, er enghraifft, mewn achosion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Fe wnaethom gyhoeddi canfyddiadau ar nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi yn ein hadroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol 2018/19 ynghyd ag adroddiad ategol manwl a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ers Adolygiad Achos Cymharol Annibynnol 2014 ar broffil cyfreithwyr yn ein gwaith gorfodi, a gynhaliwyd gan yr Athro Gus John. Mae adolygu ein systemau a'n prosesau i sicrhau eu bod yn rhydd o ragfarn ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd bod gennym ni ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a'r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, ond rydyn ni'n ei wneud hefyd gan mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Dyma'r ail flwyddyn i ni gyhoeddi'r wybodaeth hon, a byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar y canfyddiadau hyn. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi, ein Safonau a'n Rheoliadau a gyflwynwyd yn 2019.

Rydyn ni wedi defnyddio'r un dull gweithredu ag yn 2018/19 (mae manylion am y dull hwn ar gael o dan cwmpas ein dadansoddiad). Mae hyn yn ein galluogi i ddechrau llunio cymariaethau ac adnabod tueddiadau o un flwyddyn i'r llall. O dan canfyddiadau allweddol, rydyn ni wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng y data yn 2018/19 a 2019/20. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar gyfyngiadau yn y data sydd gennym a'r anawsterau o ran gwneud unrhyw ddadansoddiad ystyrlon o'r niferoedd bach iawn yng nghyfnodau diweddarach y broses orfodi.

Yn yr adran gwaith pellach ac ymchwil, rydyn ni wedi nodi pa gamau rydyn ni'n eu cymryd i ddeall yn well pam mae rhai grwpiau'n cael eu gorgynrychioli yn ein prosesau gorfodi. Rydyn ni hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith rydyn ni'n ei wneud i sicrhau nad oes rhagfarn yn ein prosesau, fel y nodwyd yn adroddiad 2018/19.

Rydyn ni'n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli ers tro mewn pryderon sy'n cael eu codi gyda ni a'r rheini rydyn ni'n ymchwilio iddynt, ac mae hyn adlewyrchu'r patrwm sydd i'w weld ar draws llawer o broffesiynau a rheoleiddwyr.

Rydyn ni wedi comisiynu sawl adolygiad allanol i edrych ar y materion hyn, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2006 cyn i ni gael ein sefydlu. Ni ddaeth yr un adolygiad o hyd i unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu, ond roedd pob adolygiad yn tynnu sylw at orgynrychiolaeth o grwpiau penodol ac yn cynnig argymhellion i ni ac eraill, sydd wedi helpu i lywio ein dull gorfodi. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran amrywiaeth ar ein gwefan.

Fe wnaethom edrych ar y gynrychiolaeth o ryw, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle'r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar y camau canlynol o'n proses orfodi ar gyfer y flwyddyn 2019/20:

  • cam 1: unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2: unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom ymchwilio iddynt
  • cam 3: unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4: yr achosion a gafodd eu cau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gan y Tribiwnlys (llwybr B).
  • Mae'r diagram isod yn dangos y camau a'r llwybrau hyn. Maent yn cyd-fynd yn fras â'r diagram camau allweddol wrth ystyried pryder.

Mae'r unigolion a gyfrifwyd yng ngham 2 (unigolion a enwyd ar bryderon a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2019/20) yn is-set o gam 1 (yr unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni yn 2019/20).

Yng nghamau 3 a 4, rydyn ni'n cyfrif yr unigolion a enwyd ar achosion a dderbyniodd sancsiwn mewnol neu a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2019/20. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â chamau 1 a 2 a'r rheini sy'n gysylltiedig â cham 3 yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2019/20, nid yw'n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a'u datrys yn yr un flwyddyn. Yn yr un modd, mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â cham 1 a 2 a'r rheini sy'n gysylltiedig â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Gan ddechrau gyda dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma'r gyfran ar gyfer dynion:

  • 48% o'r boblogaeth wrth ei gwaith
  • 65% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 75% o'r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 73% o'r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 80% or unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4, llwybr B)

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o'r broses, gan ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2019/20 cafodd:

  • 6,293 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,647 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 275 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 129 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4).

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny - hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Ar gyfer rhyw ac oedran, mae gennym wybodaeth ar gyfer 93% a 99.9% o'r boblogaeth wrth ei gwaith, yn y drefn honno, a 73% ar gyfer ethnigrwydd. Oherwydd y ffordd rydyn ni wedi casglu data am anabledd yn y gorffennol, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Mae set gyflawn o'r siartiau sy'n dangos y data ym mhob cam ar gael yn yr adroddiad ategol ar ein canfyddiadau. Rydyn ni hefyd wedi edrych ar sut mae'r achosion yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi dod i ben, yn benodol, a oes gwahaniaeth yn ôl nodweddion amrywiaeth yn y defnydd o ganlyniadau y cytunwyd arnynt. Rydyn ni wedi darparu'r cyfraddau datgan amrywiaeth ym mhob cam.

Canfyddiadau allweddol 2019/20

Yn yr adran hon, rydyn ni wedi rhoi trosolwg o'r canfyddiadau allweddol ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth ym mhedwar cam y broses orfodi ar gyfer 2019/20 (lle'r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Er mwyn gallu cymharu, rydyn ni wedi cynnwys y siartiau ar gyfer 2018/19 ac wedi nodi lle mae'r canfyddiadau'n wahanol.

Mae canfyddiadau manwl yng nghyswllt camau 1 i 4, fel y'u disgrifir uchod, wedi'u nodi yn adroddiad ategol ein canfyddiadau, ynghyd â dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Rydyn ni'n defnyddio'r data sydd gennym ni am y boblogaeth wrth ei gwaith yn ein systemau fel y man cychwyn ar gyfer dadansoddi sut mae proffil pobl yn newid drwy ein prosesau gorfodi. Mae mwy o wybodaeth am y dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith a ffynhonnell y data hwn yn yr atodiad yn yr adroddiad ategol.

Niferoedd isel yng nghamau 3 a 4

Oherwydd y niferoedd isel sy'n gysylltiedig â chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a yw'r newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Y rheswm am hyn yw bod y niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd yng nghamau 3 a 4 yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn ni'n cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu a byddwn yn parhau i fonitro'r maes hwn.

Dadansoddiad o ryw y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi
Rhyw Y boblogaeth wrth ei gwaith

Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni

Cam 2: Ymchwiliad

           
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
2018/19 Gwryw 49% 67% 73% 70% 85%
Benyw 51% 33% 27% 30% 15%
2019/20 Gwryw 48% 65% 75% 73% 80%
Benyw 52% 35% 25% 27% 20%

Mae gormod o ddynion yn cael eu cynrychioli drwy gydol ein proses orfodi, ac mae'n bosib cymharu'r dadansoddiad cyffredinol ym mhob cam gyda data 2018/19. Mae dynion yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu hadrodd i ni, ac mae'r gorgynrychiolaeth hwn yn cynyddu ym mhob cam o'n proses orfodi.

O'i gymharu â phoblogaeth wrth ei gwaith o 48:52, dynion i fenywod, mae cyfran y dynion yng nghamau 1 i 3 yn amrywio o 65% i 75% gyda gostyngiad cyfatebol ymysg menywod.

Fodd bynnag, mae cyfran y dynion yn cynyddu i 80% wrth edrych ar gam 4, achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gyda gostyngiad cyfatebol ymysg menywod.

Ethnigrwydd

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Os yw'r niferoedd yn rhy fach, er na fydd profiad y bobl yn y grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gyda'i gilydd, ochr yn ochr â'r grŵp Gwyn. Byddwn yn cyfeirio at y grŵp hwn fel y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac yn wahanol i'r adroddiad ar gyfer 2018/19, ac yn unol â'r arfer cyfredol, ni fyddwn yn defnyddio'r acronym 'BAME'. Dyma pam, yn y siart trosolwg isod, mai dim ond y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r grŵp Gwyn a ddangosir. Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ategol.

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi
Ethnigrwydd Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad

Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol

Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
2018/19 Gwyn 82% 74% 68% 65% 65%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% 26% 32% 35% 35%
2019/20 Gwyn 82% 74% 65% 71% 72%
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% 26% 35% 29% 28%

Mae'r grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ei gyfanrwydd, yn cynrychioli 18% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o'r unigolion a gafodd eu hadrodd i ni. Mae unigolion o gefndiroedd Du ac Asiaidd yn cynrychioli 12% a 3% o'r boblogaeth wrth ei gwaith, yn y drefn honno, ond maent yn cael eu gorgynrychioli wrth edrych ar nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd i ni (cam 1), sef 18% a 4%. Nid yw hyn wedi newid o'i gymharu â chamau 1 a 2 yng nghanfyddiadau 2018/19.

Mae cyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cynyddu o 26% i 35% ar gyfer y rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad yng ngham 2, cynnydd ychydig yn fwy na'r hyn a welwyd yn 2018/19.

Mae'r niferoedd bach y tu hwnt i gam 2 yn golygu nad ydyn ni'n gwybod a oes unrhyw newidiadau ystyrlon – rhwng camau neu dros amser. Mae cyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng ngham 3 a 4 (29% a 28% yn y drefn honno) yn is o'i gymharu â'r cam ymchwilio (35%). Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau 2018/19, lle'r oedd, oherwydd yr anhawster gyda niferoedd bach, cynnydd ymddangosiadol yng nghyfran yr unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghanlyniadau camau 3 a 4 (35% ar gyfer y ddau), o'i gymharu â'r cam ymchwilio (32%).

Nid ydyn ni'n gwybod a yw hyn yn newid go iawn neu oherwydd amrywiadau mewn grŵp bach. Byddwn yn edrych ar y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud (i gyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad) yng ngham 2 ein proses fel rhan o'r ymchwil annibynnol rydyn ni'n ei chomisiynu ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Mae mwy o wybodaeth am hyn yn yr adran gwaith pellach ac ymchwil.

Oedran

Yn y siart hwn, rydyn ni wedi grwpio'r categorïau 16–24 oed a 25–34 oed gyda'i gilydd. Y rheswm am hyn yw bod nifer y bobl ifanc 16–24 oed a enwyd yng nghamau 1 i 3 yn nominal, ac nid oedd unrhyw bobl ifanc rhwng 16–24 oed wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Dadansoddiad o oedran y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi
2018/19
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth wrth ei gwaith 25% 32% 24% 14% 5%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni 12% 26% 30% 22% 10%
Cam 2: Ymchwiliad 11% 26 30% 23% 10%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 13% 25 27% 22% 13%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 9% 27 31% 20% 13%
2019/20
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth wrth ei gwaith 24% 33% 24% 14% 5%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni 13% 27% 28% 22% 10%
Cam 2: Ymchwiliad 12% 29% 28% 22% 9%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 14% 28% 24% 20% 14%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 5% 25% 30% 25% 16%

Mae cynrychiolaeth pob grŵp oedran drwy gydol ein proses orfodi yr un fath i raddau helaeth ag yr oedd yn 2018/19. Nid oes digon o gynrychiolaeth o bobl yn y categorïau oedran iau (44 ac iau) a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni o'i gymharu â chyfran eu poblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau hŷn (55 a hŷn) sy'n cael eu gorgynrychioli o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r grŵp oedran 45-54 a gynrychiolir yng ngham 1 yn gymesur i raddau helaeth â'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Wrth edrych ar achosion sy'n cynnwys unigolion a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, nid oes fawr o wahaniaeth ar gyfer unrhyw un o'r grwpiau oedran. Ar gyfer pob grŵp oedran, mae canran yr unigolion a enwir ar achosion a gafodd eu cwblhau'n fewnol yng ngham 3 yn gymesur i raddau helaeth â'r rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2), ar wahân i'r grŵp oedran 65+, lle mae'r gynrychiolaeth ychydig yn uwch.

Ar gyfer pob grŵp oedran, mae canran y rhai y daeth eu hachosion i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4) yn gymesur i raddau helaeth â'r rhai y symudwyd eu hachosion ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2), gyda gwahaniaethau bach ar gyfer y grwpiau ieuengaf a hynaf. Roedd y rheini o dan 34 yn cyfrif am 12% o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt a 5% o'r rheini a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Roedd y rhai 65 oed a throsodd yn cyfrif am 9% o'r pryderon a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio ac 16% o'r achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Anabledd

Oherwydd y niferoedd bach iawn dan sylw, dim ond ar gamau 1, 2 a 4 y gallwn adrodd ar nifer y bobl anabl sy'n ymwneud â'n prosesau gorfodi. Am yr un rheswm, dim ond nifer o bobl anabl a oedd yn rhan o'n prosesau gorfodi ar gamau 1 a 2 roedden ni'n gallu adrodd arnynt yn 2018/19.

Anabledd a gofnodwyd ymysg y boblogaeth wrth ei gwaith ac yn ein proses orfodi
2018/2019
Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad
Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% 98% 98%
Anabledd wedi'i gofnodi 1% 2% 2%
2019/20
Y boblogaeth wrth ei gwaith Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Cam 2: Ymchwiliad Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT
Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% 98% 98% 95%
Anabledd wedi'i gofnodi 1% 2% 2% 5%

Fel y llynedd, mae unigolion anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu hadrodd i ni o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Roedd 106 o unigolion anabl wedi'u henwi ar y pryderon a gawsom (2% o'r cyfanswm) o'i gymharu ag 1% o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

O'r rhai a gafodd eu henwi ar y pryderon a adroddwyd i ni, cafodd achosion 38 o bobl anabl eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (2% o gyfanswm yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt).

Yng ngham 4, enwyd chwe unigolyn ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (5%).

Mae angen i gyfraddau datgan ar gyfer anabledd wella cyn y gallwn ddod i unrhyw gasgliadau ystyrlon am y data.

Gwaith pellach ac ymchwil

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2018/19 ym mis Rhagfyr 2020, rydyn ni wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith i ddeall yn well pam bod rhai grwpiau'n cael eu gorgynrychioli yn ein prosesau gorfodi. Mae canfyddiadau ein hadroddiad ar gyfer 2019/20 yn eithaf tebyg i adroddiad y llynedd, felly mae'r gwaith roedden ni wedi ymrwymo iddo yn adroddiad y llynedd yn dal yn berthnasol heddiw a byddwn yn ystyried canfyddiadau'r ddau adroddiad.

Mae'r tabl isod yn nodi'r gwaith rydyn ni wedi ymrwymo iddo a'r camau rydyn ni wedi'u cymryd ers hynny.

Gwaith rydyn ni wedi ymrwymo iddo Camau a gymerwyd

Byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol i'r ffactorau sy'n llywio'r broses o adrodd ar bryderon am gyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ni, er mwyn canfod beth allwn ei wneud am hyn a lle y gallwn weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth.

Dechreuodd y broses gaffael ym mis Mawrth gyda gwahoddiad agored i sefydliadau allanol ddangos diddordeb mewn gwneud y gwaith hwn. Rydyn ni'n cynnal tendr ffurfiol yn yr haf, gyda'r bwriad o ddechrau'r ymchwil yn ystod hydref 2021.

Rydyn ni'n sefydlu grŵp o randdeiliaid allanol i gefnogi'r gwaith hwn. Ei rôl fydd helpu i lywio'r ymchwil a darparu arbenigedd a gwybodaeth i gefnogi'r ymchwilwyr drwy gydol oes y prosiect. 

Ochr yn ochr â'n gwaith parhaus i sefydlu tîm sicrhau ansawdd 'hyd braich' mewnol, byddwn yn cynnal adolygiad ymlaen llaw o'r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar, lle gwneir y penderfyniad i gyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad.

Bydd yr adolygiad o'r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar yn cael ei gynnal gan asiantaeth allanol fel rhan o'r ymchwil annibynnol a amlinellir uchod.

Mae ein tîm sicrhau ansawdd 'hyd braich' mewnol wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, a bydd yn dechrau datblygu a threialu ei ddull i sicrhau ansawdd yn ystod y misoedd nesaf, gan ychwanegu gwerth at ein trefniadau sicrhau ansawdd presennol.

Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer yr unigolion sy'n datgelu gwybodaeth am eu nodweddion amrywiaeth i ni.

Fe wnaethom ddiweddaru'r cwestiynau amrywiaeth sydd ar ein systemau ar gyfer cyfreithwyr ac, ym mis Mai 2021, fe wnaethom lansio ymgyrch i annog unigolion i adolygu a diweddaru eu data amrywiaeth.

Roedd hyn yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau uniongyrchol i bob un o'r 10,100 o gwmnïau a grwpiau cyfreithiol lle rydyn ni'n gwybod bod y cyfraddau datgan yn isel. Rydyn ni wedi gweld cyfradd ymateb gychwynnol dda ar ddiwedd cam un yr ymgyrch hon a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r proffesiwn i annog unigolion i ddarparu eu data amrywiaeth.

Mae Cymdeithas y Gyfraith a'r grwpiau amrywiaeth rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn y proffesiwn yn ein cefnogi gyda'r ymgyrch hon.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o annog pobl i ddarparu eu gwybodaeth amrywiaeth pan fyddant yn ymuno â'r proffesiwn am y tro cyntaf. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad 2018/19, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfreithwyr sydd newydd gofrestru sy'n darparu eu gwybodaeth amrywiaeth i ni, ar ôl i ni symud i broses dderbyn ar-lein. Mae hyn wedi gostwng o un flwyddyn i'r llall ac mae'n egluro'r gostyngiad yn y cyfraddau datgan a welir yn yr atodiad yn yr adroddiad ategol.

Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar broffil pobl yn ein prosesau gorfodi ac yn cynnwys dadansoddiadau croestoriadol lle gallwn.

Dyma'r ail flwyddyn i ni adrodd ar yr wybodaeth hon. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn dechrau dadansoddi'r data ac yn archwilio rhyngblethedd lle bo hynny'n bosib, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael.

Byddwn yn gwerthuso'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud drwy ein rhaglen diwygio rheoleiddiol, gyda deall yr effeithiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan allweddol o'r gwaith.

Rydyn ni'n gwerthuso effaith ein Strategaeth Orfodi newydd a'r Safonau a'r Rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019. Roedd canfyddiadau 2018/19 yn llinell sylfaen i ni ar gyfer monitro yn y dyfodol a bydd, gyda'r data diweddaraf, yn cyfrannu at y gwaith gwerthuso hwn.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn a'n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach.

Mewn adolygiad o'n Cynlluniau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2019/20, gwnaethom nodi amrywiaeth o waith i fwrw ymlaen ag ef yn 2020/21, gan gynnwys y canlynol:

  • Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach, mae ein rhaglen o weithdai sydd wedi'u targedu at gwmnïau llai yn dal i fynd rhagddi. Er enghraifft, fe wnaethom gynnal gweithdy ar atal gwyngalchu arian gyda Chymdeithas Cyfreithwyr Prydeinig Bangladeshaidd ym mis Chwefror, ac mae mwy i ddod ar gyfer grwpiau a rhwydweithiau amrywiaeth eraill.
  • Mewn enghraifft arall, fe wnaethom gynnal gweminar i gwmnïau bach ar sut mae bodloni gofynion ein Rheolau Tryloywder. Rydyn ni wedi rhannu'r gweminar hwn gyda'r Grŵp Ymarferwyr Unigol a grwpiau amrywiaeth eraill sydd â nifer uchel o gyfreithwyr mewn cwmnïau bach a rhwydweithiau eraill.
  • Fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant newydd ar ragfarn ddiarwybod i'r holl staff ym mis Mawrth ac rydyn ni'n rhoi rhagor o wybodaeth am hyn drwy weithdai pwrpasol.
Fel rhan o'n gwaith ehangach i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y proffesiwn, rydyn ni'n datblygu adnoddau newydd ar gyfer cwmnïau mewn meysydd allweddol, gan gynnwys symudedd cymdeithasol, creu gweithleoedd iach a beichiogrwydd a mamolaeth. Byddwn hefyd yn ychwanegu at ein hadnoddau presennol i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, cynhwysiant anabledd, llesiant a chynhwysiant LGBTQ+.
Y camau a gymerir ac ym mha amgylchiadau Lefel y camymddwyn Ein sancsiwn Sancsiwn yr SDT

Llythyr cynghori: rydyn ni'n atgoffa'r unigolion neu gwmnïau, yn ysgrifenedig, o'u cyfrifoldebau rheoleiddio.

 

Lefel is neu lle mae cwmni wedi rheoli mater yn briodol ac yn gadarn

Oes

Nac oes

Rhybuddio: rhybuddio unigolyn neu gwmni y byddwn yn cymryd camau mwy difrifol os bydd yr ymddygiad yn cael ei ailadrodd, neu os bydd y sefyllfa'n parhau. Gellir ystyried y rhybudd mewn unrhyw achos yn y dyfodol.

Oes

Nac oes

Cerydd: rydyn ni'n rhoi cerydd i unigolyn neu gwmni pan fydd wedi mynd yn groes i'n gofynion neu'n safonau yn gymharol ddifrifol.

Canolig

 

Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol

Oes

Nac oes

Dirwy: lle mae ein gofynion neu safonau wedi cael eu torri'n ddifrifol a lle gallai'r unigolyn neu'r cwmni a reoleiddir, er enghraifft, fod wedi elwa'n ariannol o'r camymddwyn, a'i bod yn briodol dileu neu leihau ei fudd ariannol.

Oes

Hyd at £2,000*

Oes

Diderfyn

Amodau ymarfer a roddir ar gyfreithiwr neu unigolyn arall rydyn ni'n ei reoleiddio: rydyn ni'n cyfyngu neu'n atal cyfreithiwr neu unigolyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu gymryd rhan mewn cytundebau/cymdeithasau busnes penodol neu drefniadau ymarfer.

Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd angen delio â'r risg

Oes

Oes

Cyfeirir ato fel 'gorchymyn cyfyngu'

Amodau ymarfer a roddir ar gwmni: rydyn ni'n cyfyngu neu'n atal cwmni, neu un o'i reolwyr, cyflogeion neu ddeiliaid budd, rhag ymgymryd â gweithgareddau penodol. Gall hyn hefyd ein helpu i fonitro'r cwmni neu'r unigolyn yn effeithiol drwy adroddiadau rheolaidd.

 

Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hynny er budd y cyhoedd

Oes

 

Oes

Cyfeirir ato fel 'gorchymyn cyfyngu'

Cerydd difrifol: mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn rhoi sancsiwn i'r sawl a reoleiddir am dorri ein gofynion a/neu ein safonau. Dyma'r hyn y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud sy'n cyfateb i'n cerydd ni.

Nac oes

Oes

Gorchymyn Adran 43 (ar gyfer unigolion nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, er enghraifft, pobl nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol): rydyn ni'n cyfyngu ar unigolion rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.

Difrifoldeb cymedrol, neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn gymharol ddifrifol

Oes

Oes

Atal neu ddirymu awdurdodiad/cydnabyddiaeth cwmni: rydyn ni'n dileu awdurdodiad cwmni naill ai'n barhaol neu dros dro.

 

Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol

 

 

Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol

Oes

Oes

Gwahardd: Mae'r Tribiwnlys yn gallu gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr hefyd ohirio cyfnod gwahardd, ar yr amod bod gorchymyn cyfyngu yn parhau mewn grym.

Nac oes

Oes

Dileu: mae'r Tribiwnlys yn atal cyfreithiwr rhag ymarfer yn gyfan gwbl. Mae enw'r cyfreithiwr yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr.

Nac oes

Oes

Canlyniad y cytunwyd arno
Dewis arall yn lle gwrando ar achos yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Lle bo'n briodol, mae'n ffordd gost-effeithiol, gyflym a chymesur o ddatrys mater. Rhaid i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr gymeradwyo'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Strwythur busnes amgen (ABS)
Mae strwythur busnes amgen hefyd yn cael ei alw'n gorff trwyddedig, ac mae'n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt, gan agor yr hyn a oedd gynt yn farchnad gaeedig.
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd
Canlyniad ar gyfer camymddwyn mwy arwyddocaol ond a ddigwyddodd unwaith yn unig. Gellir ystyried y canfyddiad/canfyddiad a rhybudd yng nghanlyniad unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.
Dirwy
Cosb ariannol. Rydyn ni'n gallu rhoi dirwy hyd at £2,000 i gwmnïau, cyfreithwyr ac unigolion eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Gallwn roi dirwyo o hyd at £250m i strwythur busnes amgen a hyd at £50m i reolwyr a gweithwyr strwythur busnes amgen rydyn ni'n ei reoleiddio. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr roi dirwyon diderfyn ar unigolion a chwmnïau.
Ymyrryd
Camau y byddwn yn eu cymryd os ydyn ni o'r farn bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu oherwydd bod angen amddiffyn buddiannau cleientiaid fel arall. Yn gyffredinol, bydd hyn yn golygu cau'r cwmni a mynd ag arian a ffeiliau cleientiaid i ffwrdd i'w cadw'n ddiogel.
Yr Ombwdsmon Cyfreithiol
Sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael gan eu cyfreithiwr.
Llythyr cynghori
Llythyr rydyn ni'n ei anfon i atgoffa unigolion neu gwmnïau, yn ysgrifenedig, o'u cyfrifoldebau rheoleiddio.
Dim gorchymyn
Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gall dim gorchymyn olygu bod y Tribiwnlys yn dod i benderfyniad o'n plaid, ond yn penderfynu nad oes angen ac nad yw'n briodol rhoi sancsiwn na rheolaeth. Gall hefyd olygu nad yw'n dod i benderfyniad o'n plaid.
Penderfyniad arall
Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gall penderfyniad arall olygu cerydd difrifol neu orchymyn adran 43, er enghraifft.
Cerydd
Rydyn ni'n rhoi cerydd i unigolyn neu gwmni i ddangos ein bod yn anghymeradwyo pan fydd rhywun wedi mynd yn groes i'n gofynion neu ein safonau yn gymharol ddifrifol.
Amod ymarfer
Sancsiwn rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gallu ei roi ar gyfreithwyr, cwmnïau a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Mae'n cyfyngu ar weithgarwch penodol neu'n eu gwahardd a gall ein helpu i fonitro'r cwmni neu'r unigolyn yn effeithiol drwy adroddiadau rheolaidd
Cytundeb setlo rheoleiddiol
Yn debyg i ganlyniadau y cytunwyd arnynt, mae cytundebau setlo rheoleiddiol yn caniatáu i ni gytuno ar ganlyniadau priodol gydag unigolion a chwmnïau yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur. Yn wahanol i ganlyniadau y cytunwyd arnynt, maent yn cael eu trin yn fewnol ac fel arfer yn digwydd cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i gyfeirio'r mater i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Cerydd difrifol
Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn rhoi cerydd difrifol i unigolyn pan fydd wedi torri ein rheoliadau. Dyma'r hyn y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud sy'n cyfateb i'n cerydd ni.
Atebydd
Yr atebydd yw'r cwmni, y cyfreithiwr neu'r unigolyn arall rydyn ni'n cymryd camau gorfodi yn ei erbyn.
Cofrestr cyfreithwyr
Dyma gofnod o'r cyfreithwyr rydyn ni wedi'u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.
Sancsiynau
Camau a gymerwyd i ddisgyblu cwmnïau, cyfreithwyr neu bobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg ganddynt hwy neu eraill yn y dyfodol, ac i gynnal safonau a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.
Gorchymyn adran 43
Sancsiwn rydyn ni'n ei roi i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, er enghraifft, rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol. Rydyn ni'n eu hatal rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.
Adran 47 (2) (g)
Gorchymyn y mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn ei osod sy'n atal cyn-gyfreithiwr sydd wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr rhag cael ei ychwanegu ati heb ei ganiatâd.
Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Tribiwnlys annibynnol lle byddwn yn erlyn cwmnïau, cyfreithwyr a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Mae ganddo bwerau nad oes gennym ni, er enghraifft, rhoi dirwyon diderfyn neu ddileu cyfreithwyr oddi ar y gofrestr.
Dileu oddi ar y gofrestr
Sancsiwn lle mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer a bod ei enw'n cael ei dynnu oddi ar y gofrestr.
Gwaharddiad
Sancsiwn y gallwn ei osod i atal awdurdodiad cwmni naill ai'n barhaol neu dros dro. Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gallu gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr hefyd ohirio cyfnod gwahardd, ar yr amod bod gorchymyn cyfyngu yn parhau mewn grym.