Cynnal Safonau Proffesiynol 2021/22

Cyhoeddwyd 1 Medi 2023

Amdanom ni

Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yw rheoleiddiwr cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Rydyn ni'n gweithio i ddiogelu aelodau'r cyhoedd a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy oruchwylio'r holl ofynion o ran addysg a hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ymarfer fel cyfreithiwr, trwyddedu unigolion a chwmnïau i ymarfer, pennu safonau'r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau hyn.

Ni yw'r rheoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys tua 90% o'r farchnad a reoleiddir. Rydyn ni'n goruchwylio dros 220,000 o gyfreithwyr a thua 9,500 o gwmnïau cyfreithiol.

Open all

Ein rôl

Drwy ein gwaith gorfodi, ein nod yw:

  • Cynnal a chadw safonau cymhwysedd ac ymddygiad moesegol.
  • Diogelu cleientiaid a'r cyhoedd – rydyn ni'n rheoli neu'n cyfyngu ar y risg o niwed drwy sicrhau nad yw unigolion a chwmnïau'n gallu troseddu eto neu'n cael eu rhwystro rhag gwneud hynny yn y dyfodol.
  • Anfon neges i'r bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio'n ehangach gyda'r nod o atal ymddygiad tebyg gan eraill.
  • Cynnal hyder y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir.

Sut a phryd rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi

Mae ein Strategaeth Gorfodi yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan nad yw busnes neu unigolyn rydyn ni'n ei reoleiddio wedi cyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl. Mae'n rhoi eglurder ynghylch sut rydyn ni'n penderfynu a ddylem weithredu mewn amgylchiadau penodol, a'r hyn rydyn ni'n ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y camymddwyn a'r camau i'w cymryd.

Ein pwerau fel rheoleiddiwr

Ychydig o bwerau sydd gennym i osod sancsiynau. Gallwn roi dirwy hyd at £25,000 i gyfreithwyr, cwmnïau cyfreithiol a phobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y cwmnïau hynny.

Mae gennym bwerau mwy cadarn mewn perthynas â strwythur busnes amgen (ABS), a elwir hefyd yn gorff trwyddedig, lle nad cyfreithwyr sy'n rheoli nac yn berchen ar y busnes. Gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar y cwmni a hyd at £50m ar ei reolwyr a'i weithwyr. Mae hyn yn wahanol i gwmnïau mwy traddodiadol, fel partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaethau lle dim ond Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) annibynnol all roi dirwy ddiderfyn. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn osod cyfyngiadau ar ymarfer cyfreithiwr neu ar y bobl sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.

Nid ydym yn gallu dileu na gwahardd cyfreithiwr oddi ar y gofrestr. Os ydym o'r farn bod angen gweithredu o'r fath, mae'n rhaid i ni fynd â'r achos i'r SDT.

Mae tabl o'r sancsiynau rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu gosod ar gael yn atodiad 1.

 

Newidiadau polisi allweddol sy'n effeithio ar ein pwerau gorfodi yn 2021/22

Mwy o bwerau dirwyo a chytuno ar ddull gweithredu gyda'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Ym mis Gorffennaf 2022, cynyddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ein pwerau dirwyo o £2,000 i £25,000 ar gyfer cyfreithwyr a phob cwmni cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y gallwn weithredu mewn mwy o achosion heb fod angen eu cyfeirio at y Tribiwnlys. Bydd hyn yn ein galluogi i ddelio â materion o'r fath yn gynt, gan leihau costau i ni ac i'r proffesiwn a helpu gyda'r straen a achosir gan broses sy'n gallu bod yn un hir.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i gyfeirio materion at y Tribiwnlys pan fydd angen cyfyngu ar ymarfer yn y dyfodol. A bydd y Tribiwnlys yn parhau i ddelio ag achosion yn erbyn cwmnïau lle mae'r gosb ariannol debygol yn fwy na £25,000. Yr eithriad yw achosion sy'n ymwneud â chyrff trwyddedig, na all y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr eu hystyried a lle gallwn roi dirwyon hyd at £250m.

Achosion eraill y byddwn yn parhau i'w cyfeirio at y Tribiwnlys, er enghraifft, yw'r rheini sydd o fudd mawr i'r cyhoedd neu sy'n cynnwys pwynt cyfreithiol newydd. Byddwn yn parhau i gyfeirio achosion sy'n ymwneud â honiadau o gamymddwyn rhywiol, hiliaeth, bwlio, aflonyddu neu gamymddygiad gwrth-gynhwysol arall a/neu ymddygiad sy'n targedu unigolyn oherwydd nodwedd warchodedig. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a gellir dod o hyd i'r dull gweithredu mewn datganiad ar y cyd rhyngom ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Fel arfer, mae'r achosion hyn yn ddifrifol eu natur ac yn codi materion agweddol sy'n peri risg i eraill. Mae hyn yn awgrymu bod angen cyfyngu ar ymarfer i amddiffyn eraill, ac i gynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn. Yn yr achosion hyn, rydym yn ystyried cosb ariannol yn annhebygol iawn o fod yn sancsiwn priodol.
Felly, byddwn fel arfer yn cyfeirio achosion o'r fath at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr i ystyried ataliad neu ddileu oddi ar y gofrestr. Rydym hefyd yn cyflwyno cynllun peilot ar ddefnyddio datganiadau effaith personol ar gyfer achosion sy'n ymwneud â chamymddwyn rhywiol, gwahaniaethu neu unrhyw fath o aflonyddu.

Yn ogystal â mwy o bwerau dirwyo, mae'r Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, y disgwylir iddo ddod yn gyfraith eleni, yn cynnig rhoi pwerau dirwyo diderfyn i ni yng nghyswllt troseddau economaidd. Bydd hyn yn berthnasol i bob math o gwmni cyfreithiol. Pan fydd yn dod yn ddeddfwriaeth, byddwn yn ailedrych ar ein dull gweithredu gyda'r Tribiwnlys.

Dull o ddirwyo cwmnïau a chyfreithwyr

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022, roeddem wedi cadarnhau manylion y newidiadau ar gyfer sut rydym yn rhoi cosbau ariannol i gwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr.

Bydd y diwygiadau, a ddaeth i rym hanner ffordd drwy 2023, yn sicrhau'r canlynol:

  • cyflwyno trefn cosb benodedig ar gyfer camymddwyn ar lefel is
  • dirwyon yn y dyfodol ar gyfer cwmnïau ac unigolion sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â bandiau ar sail canrannau incwm/trosiant.

Dylai'r newidiadau helpu achosion i gael eu datrys yn gynt, gan arbed amser, costau a straen i bawb dan sylw. Bydd y bandiau dirwyo newydd yn galluogi i wahanol lefelau o ddirwyon gael eu rhoi, er enghraifft, i gyfreithiwr iau sy'n ennill cyflog isel o'i gymharu ag uwch bartner ecwiti ar gyfer troseddau tebyg. Bydd hyn yn caniatáu canlyniad mwy cymesur ac effaith ataliol briodol.

Cyhoeddi gwybodaeth am benderfyniadau disgyblu

Ddechrau 2023, fe wnaethom gadarnhau ein dull gweithredu diwygiedig ar gyfer sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am benderfyniadau disgyblu, yn dilyn

ymgynghoriad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth hon yn hygyrch ac yn dryloyw. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cyhoeddi mwy o wybodaeth, wedi'i hysgrifennu mewn iaith glir, ar gyfer pob penderfyniad unigol
  • cyflwyno cyfnodau penodol, yn seiliedig ar y math o benderfyniad, y bydd penderfyniadau unigol yn aros ar y cofnod cyhoeddus ar eu cyfer. Bydd y rhain yn amrywio o dair blynedd ar gyfer rhybuddion neu benderfyniadau dileu oddi ar y gofrestr sy'n aros yn gyhoeddus yn barhaol.

Helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wneud pethau'n iawn

Er mwyn helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wybod pa bryd y gallent fod fwyaf mewn perygl o fethu â chyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl, neu o beidio â chydymffurfio â'n rheolau, rydyn ni'n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyhoeddiadau, fel:

  • ein llinell gymorth a'n gwasanaeth sgwrsio ar y we ynghylch Moeseg Broffesiynol, wrth law i ateb cwestiynau am ein rheolau a'n rheoliadau
  • canllawiau i helpu cwmnïau i ddeall sut mae ein rheolau a'n rheoliadau'n gweithio
  • ein cyhoeddiad Rhagolwg Risg blynyddol, sy'n tynnu sylw at y risgiau mwyaf yn y sector a sut gall cwmnïau a chyfreithwyr fynd i'r afael â nhw
  • adolygiadau thematig o feysydd allweddol yn y sector cyfreithiol, yn tynnu sylw at risgiau ac yn codi ymwybyddiaeth o beth sy'n ymarfer da ac yn ymarfer drwg.

Rydyn ni'n rheoleiddio tua 160,000 o gyfreithwyr a thua 9,500 o gwmnïau cyfreithiol. Cawsom tua 10,100 o adroddiadau am bryderon yn 2021/22. Mae hwn yn nifer fach, o'i gymharu â graddfa gyffredinol gwaith a gweithgarwch cyfreithiol.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r pryderon yn golygu ein bod yn cymryd camau gorfodi. Mewn llawer o achosion, rydym yn canfod nad yw ein rheolau wedi cael eu torri o gwbl, ac mewn achosion eraill rydym yn ymgysylltu â chwmnïau i unioni pethau ac i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni ein gofynion. Fodd bynnag, bydd tua 400 o achosion yn golygu y byddwn yn cymryd camau rheoleiddio.

Mae rhai o'r materion y cawn wybod amdanynt yn ymwneud â phryderon a godir yn rheolaidd, er enghraifft, materion cyfrinachedd, camarwain y llys, neu fanteisio ar drydydd parti. Rydyn ni hefyd yn derbyn pryderon am feysydd o'r gyfraith a ddefnyddir yn gyffredin, fel trawsgludo a phrofiant.

Mae pob achos yn wahanol, fodd bynnag, ac mae llawer yn gymhleth, gyda chymysgedd o achosion posib o dorri ein rheoliadau. Ac, er bod amrywiaeth, rydyn ni'n monitro adroddiadau i ganfod unrhyw broblemau penodol sy'n dod i'r amlwg o un flwyddyn i'r llall.

Mae gwaith cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn aml yn gysylltiedig â meysydd sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ymgyfreitha ymosodol, neu gyfreithiau strategol yn erbyn cyfranogiad y cyhoedd, a gwyngalchu arian i gyd wedi bod yn amserol. Gall hyn arwain at gynnydd yn nifer yr adroddiadau cysylltiedig sy'n cael eu cyflwyno i ni. Os yw'n briodol, rydyn ni'n cymryd camau i atgoffa'r proffesiwn o'i gyfrifoldebau, er enghraifft, drwy hysbysiadau rhybuddio.

Yn 2022, fe wnaethom gyhoeddi cyfres o hysbysiadau am sancsiynau sy'n ymwneud â rhyfel Wcráin ac rydym wedi gweld mwy o weithgarwch yng nghyswllt y mater hwn. Gwnaethom hefyd gyhoeddi datganiad ar sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post, y gallwch ddarllen mwy amdano isod.

Mae materion amserol o'r fath yn aml yn uchel eu proffil ac yn ennyn diddordeb y cyhoedd – ac felly, diddordeb y wasg a'r senedd. Gall ein gwaith i gynnal safonau proffesiynol chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ochr yn ochr â gweithgarwch arall, er enghraifft, gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu drwy ddiwygio deddfwriaethol.

Cyfreithiau strategol yn erbyn cyfranogiad y cyhoedd

Yn 2021/22, fe wnaethom agor 49 ymchwiliad newydd yn ymwneud â honiadau o ymgyfreitha ymosodol, neu SLAPPs, y mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol wedi bod yn eu dilyn ar ran eu cleientiaid.

Term a ddefnyddir yn gyffredin i ddisgrifio camddefnyddio'r system gyfreithiol yw SLAPP, a dwyn neu fygwth achosion yn amhriodol. Gellir eu defnyddio i aflonyddu neu ddychryn rhywun arall a allai fod yn eu beirniadu neu'n eu dal yn atebol am eu gweithredoedd a thrwy hynny atal craffu ar faterion er budd y cyhoedd.

Prif nod SLAPP yw atal cyhoeddiadau ar faterion o bwys cyhoeddus, megis ymchwil academaidd, chwythu'r chwiban neu ymgyrchu, neu newyddiaduraeth ymchwiliol. Honiadau o ddifenwi neu darfu ar breifatrwydd yw'r achosion sydd fwyaf cysylltiedig â SLAPPs, ond gellid defnyddio achosion eraill o weithredu (fel torri cyfrinachedd) hefyd at y diben hwn.

Er nad yw'r arfer o ymgyfreitha ymosodol yn newydd, mae pryder sylweddol wedi bod ymysg y cyhoedd ynghylch SLAPPs ers yr ymosodiad ar Wcráin. Cafwyd cwynion bod unigolion cyfoethog yn defnyddio cyfreithwyr i dawelu beirniadaeth ddilys. Er enghraifft, drwy fygwth newyddiadurwyr gydag achosion difenwi hyd yn oed os nad oes gan yr honiad unrhyw rinweddau.

Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein hadolygiad thematig o ymddygiad mewn anghydfodau ar ôl cynnal 25 o ymweliadau â chwmnïau. Y nod oedd deall yn well yr arferion a'r technegau ymgyfreitha a ddefnyddir gan gwmnïau sy'n gweithredu mewn materion preifatrwydd a difenwi ac sy'n darparu gwasanaethau rheoli enw da. Roeddem hefyd am asesu pa mor dda y cafodd risgiau cyfreitha camdriniol eu deall, eu nodi a'u hatal gan gwmnïau a chyfreithwyr.

Daethom o hyd i arfer da ac ymwybyddiaeth dda ymysg cwmnïau sy'n ymwneud â'r mater hwn, ac ni ddaethom o hyd i unrhyw enghraifft o SLAPP. Ac roedd rhai enghreifftiau o gwmnïau'n gwthio'n ôl yn erbyn cleientiaid lle'r oedd eu cyfarwyddiadau'n cael eu hystyried yn amhriodol. Roedd y meysydd sy'n peri pryder yn cynnwys:

Mae'r rhain i gyd yn cynyddu'r risg y bydd cwmnïau'n methu cyrraedd y safonau a ddisgwyliwn.

Ar ôl hynny, fe wnaethom gyhoeddi hysbysiad rhybuddio ynghylch SLAPPs. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym hefyd wedi gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y mater hwn ac wedi ymateb i'w hymgynghoriad yn 2022, gan alw'n gryf am un diffiniad statudol o achos SLAPP. Byddai arweiniad mwy penodol ar yr hyn sy'n cael ei ystyried yn SLAPP yn ein helpu i gymryd camau gweithredu mwy penodol a gwneud penderfyniadau cliriach yn y maes hwn o'n gwaith gorfodi.

Rydym yn cynnal adolygiad dilynol a fydd yn ymdrin â'r canlynol:

  • materion sy'n codi o'n hymchwiliadau agored
  • camau y mae cwmnïau'n eu cymryd i atal cyllid anghyfreithlon posibl ar gyfer achosion SLAPP
  • cysylltiadau â chwmnïau cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwilwyr preifat.

Rydym yn disgwyl cael mwy o adroddiadau am y mater hwn yn ystod y misoedd nesaf.

Sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post

Rydym wedi bod yn dilyn yn fanwl y materion sy'n ymwneud â sgandal Horizon Swyddfa'r Post. Yn sgil camweinyddiad cyfiawnder eang, a ddigwyddodd rhwng 2000 a 2013, cafodd is-bostfeistri eu herlyn am droseddau honedig ar sail tystiolaeth a ddarparwyd gan system gyfrifyddu electronig ‘Horizon'. Ceir hefyd faterion sy'n ymwneud ag achosion sifil cysylltiedig. Rydym yn canolbwyntio ar unigolion a chwmnïau rydym yn eu rheoleiddio sy'n gweithio ar ran Swyddfa'r Post/Grŵp y Post Brenhinol.

Mae Ymchwiliad TG Horizon Swyddfa'r Post yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd un o'i gamau'n craffu ar rôl y cyfreithwyr dan sylw. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau ffurfiol yn ein trafodion nes bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben. Nid ydym wedi enwi unrhyw un rydym yn ei reoleiddio sy'n gysylltiedig â'n hymchwiliad. Bydd hyn yn parhau'n wir oni bai ein bod yn penderfynu bod angen i ni gymryd camau rheoleiddio ein hunain, neu fod angen i ni gychwyn achos disgyblu gerbron y Tribiwnlys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein diweddariad, a gyhoeddwyd ddiwedd 2022.

Camymddwyn rhywiol

Rydym wedi parhau i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn rhywiol. Gall honiadau o gamymddwyn rhywiol gynnwys anfon negeseuon amhriodol, gwneud sylwadau amhriodol, cyswllt corfforol heb ganiatâd ac ymosodiad rhywiol. Gall honiadau o'r fath godi yn yr amgylchedd gwaith, mewn digwyddiadau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r gwaith neu ym mywyd preifat y cyfreithiwr. Ym mhob achos, rydym yn ystyried yn ofalus y cysylltiad rhwng y camymddwyn honedig ac arfer proffesiynol/ymddiriedaeth y cyhoedd a hyder yn y proffesiwn.

Daeth nifer yr adroddiadau ar y pwnc hwn i'r amlwg yn sgil y symudiad o'r enw #MeToo, pan wnaethom gyhoeddi rhybudd a oedd yn berthnasol i ymddygiad amhriodol ac NDA. Rydym hefyd wedi darparu canllawiau ar rwymedigaethau adrodd i arwain cwmnïau ac arweiniad ar ddiogelu a chefnogi gweithwyr. Mae'r niferoedd wedi sefydlogi ers hynny. Gallai hyn fod oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio gartref a'r ffaith bod nifer o achosion hanesyddol wedi cael eu hadrodd yn sgil #MeToo.

Yn 2022, roeddem wedi ymgysylltu'n eang i ddatblygu canllawiau ar gamymddygiad rhywiol. Mae hyn yn rhoi eglurder i'r rheini rydyn ni'n eu rheoleiddio ynghylch yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw, yn helpu'r rheini sy'n gorfod gwneud penderfyniadau am roi gwybod i ni am ymddygiad, ac yn cefnogi achwynwyr sy'n ystyried rhoi gwybod i ni am honiadau.

Rydyn ni'n cydnabod bod y rhain yn faterion anodd a sensitif, ac fel yr adroddwyd yn flaenorol, rydym wedi sefydlu tîm arbenigol i ymchwilio i'r pryderon a godwyd. Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i'r rheini sy'n rhan o'n hachosion. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â sefydliadau cymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol.

Ym mis Ebrill 2023, roedd gennym 10 achos wedi'u cyfeirio at y Tribiwnlys ac rydym yn aros am wrandawiad ac yn rhagweld y bydd hyn yn cynyddu wrth i ni symud drwy'r flwyddyn. Fel y nodir yn ein strategaeth orfodi, rydym yn ystyried camymddwyn rhywiol yn un o'r materion mwyaf difrifol rydym yn delio ag ef, a byddwn yn parhau i weithredu a chyfeirio materion at y Tribiwnlys lle bo angen.

Cytundebau peidio â datgelu

Mae defnyddio cytundebau peidio â datgelu (NDAs) i atal datgelu drwgweithredu, ynddo'i hun, yn fater proffil uchel, o ystyried ei berthynas â materion fel #MeToo. Mae gan achosion eraill y potensial i fod yn uchel eu proffil oherwydd pwnc yr anghydfod neu'r partïon dan sylw, a gellir cuddio'r ddau drwy ddefnyddio cytundeb peidio â datgelu.

Ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethom ddiweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar gytundebau peidio â datgelu, gan atgoffa'r proffesiwn o'i rwymedigaethau wrth eu drafftio. Yn 2021/22, roeddem wedi parhau i ymchwilio i 23 o achosion parhaus sy'n ymwneud â'r Cytundebau Peidio â Datgelu. Gwnaethom gau 19 o achosion. Cafodd naw o'r rhain eu cau gyda llythyrau cynghori neu rybudd, fe wnaethom gyhoeddi cerydd mewn un achos, ac ni arweiniodd y gweddill at unrhyw gamau pellach.

Mae modd defnyddio cytundeb peidio â datgelu yn gyfreithlon ac nid yw cytundebau o'r fath yn anghyfreithlon nac yn anfoesegol ynddynt eu hunain. Rydyn ni'n poeni pan mae Cytundebau Peidio â Diogelu yn ceisio cyfyngu ar ddatgelu camymddwyn i reoleiddiwr neu adrodd am drosedd i'r heddlu (er na fydd modd gorfodi cymalau o'r fath).

Rydyn ni am wneud yn siŵr nad yw'r rheini rydyn ni'n eu rheoleiddio yn manteisio'n annheg ar y parti sy'n eu gwrthwynebu wrth lunio cytundeb peidio â datgelu. Os yw'r parti sy'n gwrthwynebu yn agored i niwed neu heb gynrychiolaeth, mae dyletswyddau cyfreithiwr i wneud yn siŵr nad yw'r sefyllfa'n cael eichamddefnyddio, neu'n cael mantais annheg, yn cael eu dwysáu. Mae'n bosib iawn y bydd cyfreithwyr sy'n llunio cytundebau o'r fath yn methu â gweithredu'n onest a chynnal rheolaeth y gyfraith. Gellid canfod eu bod wedi methu â chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn cyfreithiol.

Gwyngalchu arian

Mae'r sector cyfreithiol yn ddeniadol i droseddwyr oherwydd gall wneud i'r broses o ddal neu'r weithred o drosglwyddo arian a gafwyd yn sgil gweithgarwch troseddol ymddangos yn fusnes cyfreithlon. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn aml yn dal symiau mawr o arian yng nghyfrifon eu cleientiaid ac yn gallu trosglwyddo arian drwy eiddo neu drafodion eraill.

Fel rhan o'n rôl yng Ngrŵp Affinedd y Sector Cyfreithiol (LSAG), rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y gall cwmnïau ei wneud i helpu i fynd i'r afael â gwyngalchu arian. Mae'r LSAG yn cynnwys sefydliadau sy'n goruchwylio ymdrechion atal gwyngalchu arian (AML) a chyrff cynrychioliadol yn y sector gwasanaethau cyfreithiol. Bydd y canllawiau'n helpu cwmnïau i gydymffurfio â'r rheoliadau gwyngalchu arian diweddaraf a mynd i'r afael â risgiau cynyddol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn y sector.

Mae ein gwaith gwyngalchu arian yn cael ei adrodd i flwyddyn ariannol wahanol, felly sylwch fod yr ystadegau canlynol yn ymwneud â 5 Ebrill 2021 i 4 Ebrill 2022. Cynhaliwyd cyfanswm o 163 o arolygiadau cwmnïau, gyda 109 adolygiad desg arall. Cafodd 252 o adroddiadau am achosion posibl o dorri rheoliadau gwyngalchu arian eu gwneud i ni, wedi codi o 196 yn 2019/20 ac yn unol â'r 273 o adroddiadau a gawsom yn 2020/21. Roedd y themâu mwyaf cyffredin a welsom ar adroddiadau AML yn cynnwys:

  • methiant i gynnal neu gwblhau diwydrwydd dyladwy cwsmeriaid (CDD) (lle mae cwmni cyfreithiol yn gwirio cleient yw pwy mae'n dweud ydyw)
  • methiant i gynnal asesiad risg gwyngalchu arian
  • methiant i gynnal gwiriad ffynhonnell arian.

Arweiniodd dau ddeg naw o gamau gorfodi at roi cyfanswm o £287,000 o ddirwyon. Gwnaethom hefyd 20 adroddiad gweithgarwch amheus i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yn ein hadroddiad AML.

Cynlluniau buddsoddi amheus

Rydyn ni'n parhau i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â chyfreithwyr yn ymwneud â chynlluniau buddsoddi amheus neu beryglus ac, yn 2021/22, gwnaethom ymchwilio i 18 o faterion newydd.

Rydym wedi rhybuddio dro ar ôl tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf am y risgiau a achosir gan gynlluniau buddsoddi amheus. Mae'r cynlluniau hyn o bosibl yn dwyllodrus, yn amheus neu mor uchel eu risg fel eu bod yn annheg i brynwyr neu fuddsoddwyr.

Ar ôl blynyddoedd o gyfraddau llog isel, ac yn sgil y pandemig a'i effaith ar yr economi, efallai y bydd llawer o bobl yn teimlo bod cynlluniau buddsoddi sy'n cynnig enillion uchel yn ddeniadol. Gall cyfranogiad cyfreithwyr helpu i gyfreithloni cynlluniau amheus ac, mewn sawl achos, nid yw cynnwys cwmni cyfreithiol mewn cynllun buddsoddi yn rhan o fusnes arferol cwmni neu gyfreithiwr. Gall hyn fod yn rheswm allweddol pam na all ein cronfa iawndal (ac yn aml yswiriant y cwmni) helpu i adfer yr arian y mae pobl wedi'i golli.

Rydym yn parhau i gymryd camau yn erbyn cyfreithwyr sy'n ymwneud â chynlluniau sy'n amheus yn y pen draw. Gall camau o'r fath gynnwys ymyrryd a chyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Iechyd ymatebwyr a lles cyfreithwyr

Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn ein sector yn gallu mynd yn wael fel y maent mewn unrhyw sector, a bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen. Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain at gymryd camau rheoleiddio, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a'r help cywir. Er mwyn cefnogi cyfreithwyr sy'n wael, rydyn ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau, ac rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau, fel LawCare, sy'n gallu helpu'r rheini sydd angen cymorth.

Bob blwyddyn rydyn ni'n cael adroddiadau lle mae ymatebwyr wedi dweud bod y materion sydd wedi dod â nhw i'n prosesau yn gysylltiedig â phwysau gwaith, yn ogystal â'r materion aflonyddu a bwlio sy'n cael sylw isod. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y dystiolaeth feddygol sy'n ymwneud ag addasrwydd cyfreithwyr i gymryd rhan yn ein hachosion ar draws ein gwaith gorfodi. Rydym wedi datblygu tîm arbenigol i sicrhau dull gweithredu priodol ar gyfer yr achosion hyn. Mae'r tîm hwn hefyd yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i'n timau ymchwilio.

Mae'r canllawiau hyn yn egluro ein dull gweithredu lle rydym o'r farn bod unigolion a chwmnïau wedi methu cymryd camau priodol i ofalu am lesiant cydweithwyr. Mae'n nodi'r prif safonau sy'n berthnasol i gyfreithwyr, ac i gwmnïau cyfreithiol a'r rheini sy'n gyfrifol am eu diwylliant a'r systemau sydd ar waith ynddynt.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod y broses ymchwilio yn gallu achosi straen a'i bod yn gallu gwaethygu neu achosi problemau iechyd. Gall ein canllawiau helpu pobl i ddeall y ffordd rydyn ni'n ymdrin â materion iechyd sy'n cael eu codi gan y rheini rydyn ni'n ymchwilio iddynt a'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano o ran tystiolaeth feddygol.

Bwlio ac aflonyddu yn y gweithle

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael pryderon lle mae unigolion yn rhoi gwybod i ni am fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn y gweithle.

Gall diwylliant bwlio neu wenwynig yn y gweithle effeithio'n sylweddol ar les ac iechyd meddwl staff cwmni. Gall hefyd arwain at gamgymeriadau a chanlyniadau gwael i gleientiaid – neu bryderon moesegol difrifol, er enghraifft, pan fydd staff yn teimlo dan bwysau i guddio problemau.

Yn 2022 fe wnaethom gyhoeddi canllawiau ar ddiwylliant y gweithle ac amgylchedd gwaith iach i gwmnïau. Mae'n canolbwyntio ar yr angen i gael polisïau, systemau a rheolaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r risg y bydd y math hwn o sefyllfa'n codi. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adolygiad thematig i ddeall y materion yn well ac i dynnu sylw at arfer da sy'n digwydd mewn cwmnïau.

Cyhoeddi gwybodaeth allweddol i ddefnyddwyr ar wefannau cwmnïau cyfreithiol

Cyflwynwyd ein rheolau tryloywder ym mis Rhagfyr 2018. Mae'n golygu y dylai cwmnïau sydd â gwefan gyhoeddi gwybodaeth sylfaenol, ddangosol am bris gwasanaethau penodol, manylion ynghylch pwy allai wneud y gwaith, a'r ffyrdd o gwyno. Dylent hefyd ddangos ein logo mae modd clicio arno, a oedd yn orfodol ym mis Rhagfyr 2019, i helpu i egluro'r amddiffyniadau mae'r cyhoedd yn eu cael wrth ddefnyddio cwmni cyfreithiol a reoleiddir.

Mae ein hymchwil yn dangos, ers cyflwyno'r rheolau, mae rhagor o ddarpar gleientiaid yn credu bod cyfreithwyr yn fforddiadwy, a byddai cwmnïau'n argymell y manteision busnes sy'n dod yn sgil mwy o dryloywder ynghylch prisiau. Fodd bynnag, mae rhai cwmnïau'n brin o'r wybodaeth rydyn ni'n disgwyl iddynt ei chyhoeddi. Rydyn ni'n adolygu gwefannau cwmnïau cyfreithiol yn rheolaidd i wirio cydymffurfiaeth. Dim ond yn rhannol y mae rhai cwmnïau'n cydymffurfio, ac eraill ddim yn cydymffurfio o gwbl.

Rydyn ni wedi darparu cymorth i gwmnïau i wneud hyn yn iawn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ond, lle nad yw cwmnïau'n darparu'r math o wybodaeth y mae'r cyhoedd yn ei disgwyl ac a nodir yn ein rheolau, rydyn ni'n cymryd camau gorfodi.

Rydym yn parhau i gymryd camau lle rydym yn gweld nad yw cwmnïau cyfreithiol yn cydymffurfio â'r rheolau. Rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ebrill 2023, fe wnaethom gynnal 184 o ymchwiliadau. O'r rhain:

  • roeddem yn gallu dod â 159 o gwmnïau yn ôl i gydymffurfio â'n rheolau yn dilyn ymgysylltu adeiladol
  • gwnaethom ymyrryd mewn dau gwmni lle'r oedd materion pellach, ehangach
  • gwnaethom ddatrys pump drwy rybudd neu gerydd
  • gwnaethom ddatrys 13 drwy ddirwyon, a'r mwyaf ohonynt oedd £3,500
  • mae ymchwiliad i bum mater yn mynd rhagddo.

Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod cwmnïau'n cydymffurfio â'r rheolau ac yn cymryd camau gorfodi pan fydd angen.

Ar ôl ymgynghori, fe wnaethom gyflwyno trefn cosb benodedig ar gyfer mathau penodol o gamymddwyn ar lefel is. Rydym yn ystyried rhai achosion o dorri'r rheolau tryloywder sy'n addas i ddelio â nhw drwy gosb benodedig. Bydd cosbau sefydlog yn ein galluogi i ddatrys materion yn gynt, a byddant yn rhoi mwy o eglurder a disgwyliad i unigolion a chwmnïau o ran beth allai arwain at ddirwy, a faint fydd y ddirwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.

Gweithredu yng nghyswllt hawliadau iawndal

Yn 2021/22, roeddem wedi parhau i weithio ar 54 ymchwiliad yn ymwneud ag ymddygiad cyfreithwyr a chwmnïau wrth weithredu mewn hawliadau iawndal torfol. O'r rhain, gwnaethom gau 20 o achosion heb unrhyw gamau pellach a chyhoeddi un llythyr cynghori.

Mae'r materion hyn yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion lle nad yw cyfreithwyr yn bodloni'r safonau a ddisgwyliwn. Mewn rhai achosion, nid yw cyfreithwyr yn ymchwilio yn iawn i weld a yw'r honiad yn ddilys cyn ei wneud, neu fethu cynghori cleientiaid am eu hopsiynau a'r hyn a ddisgwylir ganddynt wrth wneud honiad. Rydym hefyd wedi canfod bod rhai cwmnïau wedi bod yn caffael cleientiaid drwy roi gwybodaeth anghyflawn neu gamarweiniol iddynt, ac nad yw gwaith rhai cwmnïau yn cael ei oruchwylio'n ddigonol.

Mae llawer o'r honiadau yr ydym yn ymchwilio iddynt yn ymwneud ag inswleiddio waliau ceudod diffygiol, yn dilyn menter gan y llywodraeth ar ddechrau'r 2010au i helpu i wneud i gartrefi ddod yn fwy effeithlon o ran ynni. Rydym hefyd wedi edrych ar gynnal hawliadau am gyllid ceir a hawliadau am gyfrifon banc wedi'u pecynnu.Nid yw hawliadau sy'n cael eu cyflwyno'n amhriodol mewn meysydd sy'n ymwneud â hawliau defnyddwyr yn newydd. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweld materion tebyg yn ymwneud â salwch gwyliau a hawliadau yswiriant gwarchod taliadau. Byddwn yn parhau i fonitro'r adroddiadau a gawn am y tueddiadau hyn, yn ymchwilio i faterion ac yn cymryd camau gorfodi lle bo angen.

Mewn gweithgarwch cysylltiedig, fe wnaethom agor ymgynghoriad a gofyn am safbwyntiau ar reolau i gyfyngu ar godi gormod o ffioedd mewn hawliadau am gam- werthu ariannol ym mis Mawrth 2023. Cyflwynodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol reolau o'r fath ar gyfer y cyrff y mae'n eu rheoleiddio y llynedd. O dan Ddeddf Canllawiau Ariannol a Hawliadau 2018, rhaid i ni hefyd atal ffioedd gormodol rhag cael eu codi am weithgareddau rheoli hawliadau sy'n gysylltiedig â chynnyrch neu wasanaethau ariannol.

Rhybudd risg

Rydyn ni'n bwrw golwg ar yr amgylchedd cyfreithiol i ganfod risgiau posib. Rydym yn llunio amrywiaeth o ddeunyddiau i godi ymwybyddiaeth o risgiau posibl ac i gefnogi'r proffesiwn i'w rheoli. Mae hyn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol. Roedd gan ein cyhoeddiadau Rhagolwg Risg 2022 a 2023 ffocws digidol, gan ymdrin â seiberddiogelwch a risgiau a chyfleoedd technolegau crypto. Gwnaethom hefyd gyhoeddi papur ar arloesedd a chyfleoedd yn y sector cyfreithiol ar gyfer cwmnïau cyfreithiol.

Mae ein hysbysiadau sgam ar ein gwefan yn parhau i gael eu defnyddio'n helaeth. Nod y rhain yw rhoi gwybod i gwmnïau ac aelodau o'r cyhoedd am fusnesau sy'n camddefnyddio manylion cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau cyfreithiol ffug sy'n ceisio twyllo pobl.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Ymweliadau â'n gwefan i weld ein hysbysiadau sgam 153,000 153,000 169,000 160,000 170,000

Pwy sy'n rhoi gwybod i ni am bryderon?

Rydyn ni'n cael rhai adroddiadau am bryderon yn uniongyrchol gan y proffesiwn, er enghraifft gan gyfreithwyr neu'r swyddogion cydymffurfio sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.

Daw eraill gan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a'r llysoedd. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol (LeO), y sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn eu cael gan eu darparwr gwasanaethau cyfreithiol. Bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn cysylltu â ni os bydd ganddo bryderon, yn ystod un o'i ymchwiliadau, y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau. Fel pob rheoleiddiwr, rydyn ni hefyd yn monitro'r cyfryngau ac adroddiadau eraill.

Rydyn ni hefyd yn nodi pryderon wrth i ni ymgymryd ag agweddau eraill ar ein gwaith. Er enghraifft, rydyn ni'n cynnal adolygiadau thematig o fathau penodol o waith neu ofynion cyfreithiol, fel gweithdrefnau AML.

Oherwydd newidiadau TG yn 2020/21, ni allwn adrodd ar y data penodol ynghylch o ble y daeth adroddiadau fel y gwnaethom mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn dychwelyd at adroddiadau llawnach ar hyn yn y dyfodol. Eleni, daeth 25% o'r adroddiadau o'r proffesiwn, a daeth 74% o'r tu allan i'r proffesiwn. O dan y system bresennol, nid yw'r 1% sy'n weddill yn hysbys.

Rhoi gwybod i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr am bryderon

Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi cael rhwng 9,500 ac 11,500 o adroddiadau bob blwyddyn, gan godi pryderon am y cyfreithwyr a'r busnesau cyfreithiol rydym yn eu rheoleiddio.

Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni i fynegi pryder, byddwn yn ystyried yr wybodaeth a anfonir atom yn ofalus ac yn penderfynu a oes angen i ni ymchwilio. Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau i'r partïon perthnasol er mwyn deall y materion yn well.

Mewn rhai achosion, gallwn ddatrys y pryderon drwy gysylltu'n syth â'r cwmni, gan wneud yn siŵr ei fod yn cywiro unrhyw ddiffygion. Lle bo angen, byddwn yn cymryd datganiadau tystion, yn ymweld â chwmnïau'n bersonol ac yn dadansoddi tystiolaeth, er enghraifft, cyfrifon banc, datganiadau ariannol a dogfennau eraill.

Ar ôl ystyried y mater yn ofalus a siarad â'r holl bartïon o dan sylw, byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf yn unol â'n Strategaeth Gorfodi.

Mewn achosion difrifol iawn, rydyn ni'n cyfeirio'r cwmni neu'r cyfreithiwr at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn annibynnol arnom ni ac mae ganddo bwerau nad oes gennym ni. Er enghraifft, gall wahardd cyfreithiwr, rhoi dirwy ddiderfyn neu ei atal rhag ymarfer.

Nifer y pryderon

Ar ôl dwy flynedd o ostyngiad yn nifer yr adroddiadau, cynyddodd y niferoedd yn 2020/21 ac roedd yn ymddangos eu bod wedi lefelu ar gyfer 2021/22. Roedd yr adroddiadau wedi gostwng yn sylweddol yn 2019/20, a oedd yn debygol o fod oherwydd effeithiau pandemig Covid-19. Mae nifer yr adroddiadau yn 2020/21 a 2021/22 yn cyd-fynd yn well â'r rhai a welwyd yn 2018/19.

Un rheswm dros y gostyngiad cyffredinol mewn niferoedd ers 2017/18 yw dulliau cyfathrebu gwell. Rydym wedi cymryd nifer o gamau. Mae'r rhain yn cynnwys gwella'r wybodaeth ar ein gwefan i helpu defnyddwyr i ddeall beth yw'r materion rydym yn delio â nhw a lle gallai cwyn i LeO fod yn fwy priodol. Rydym yn gwneud rhagor o waith ar hyn.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Cyfanswm yr adroddiadau a dderbyniwyd 11,452 10,576 9,642 10,358 10,121
Cyfanswm yr adroddiadau yr ymdriniwyd â nhw 11,508 9,649 9,375 9,329 9,972

Cofiwch nad oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a'r nifer yr ymdrinnir â hwy yn yr un cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Dyna pam ein bod wedi delio ag ychydig mwy o bryderon yn 2017/18 o'i gymharu â'r nifer a ddaeth i law.

Camau allweddol wrth ystyried pryder

1. Ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar yn edrych ar ein pryderon yn gyntaf

Nid ydym yn ymc4hwilio

Mewn llawer o achosion, ni fydd angen i ni ymchwilio. Byddwn bob amser yn esbonio pam.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater i LeO

Mae LeO yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda LeO. Rydyn ni'n anfon materion perthnasol ato ac fel arall.

Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i awdurdodau eraill

Mae LeO yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda LeO. Rydyn ni'n anfon materion perthnasol ato ac fel arall.

Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i awdurdodau eraill

Mewn rhai achosion, ni allwn ymchwilio gan nad yw yn ein hawdurdodaeth neu mae am gwmnïau neu bobl nad ydym yn eu rheoleiddio.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater yn fewnol

Rydyn ni'n gwneud hyn, er enghraifft, os yw'n hawliad ar ein cronfa iawndal neu'n ymholiad awdurdodi.

2. Rydyn ni'n ymchwilio

Siarad â phob parti perthnasol

Fel arfer, bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth. Efallai y byddwn yn siarad â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti. Lle bo angen, byddwn yn casglu dogfennau a thystiolaeth.

Byddwn yn ysgrifennu neu'n siarad â'r cwmni neu'r cyfreithiwr, gan nodi ein pryderon yn ffurfiol. Mae ganddynt gyfle i ymateb.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl

Rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r partïon drwy gydol yr ymchwiliad. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn, er y gall achosion mwy cymhleth gymryd mwy o amser.

3. Dod ag ymchwiliad i ben

Nid yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheoliadau na'n safonau.

Mewn achosion lle rydyn ni'n canfod nad yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi methu â chyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl, byddwn bob amser yn egluro ein canfyddiadau i'r bobl a roddodd wybod i ni am y mater ar y dechrau ac yn egluro pam nad ydym yn cymryd camau.

Datrys drwy ymgysylltu â'r cwmni

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn fân dorri ein safonau neu'n rheoliadau, os nad oes risg barhaus nac yn y dyfodol i'r cyhoedd, os yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi cymryd camau cyflym i ddatrys y broblem ac os defnyddiwyd dull cydweithredol ac adeiladol i ddatrys y broblem.

Rydyn ni'n rhoi sancsiwn

Mewn rhai achosion, byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn gosod sancsiwn neu'n cytuno ar ganlyniad. Gall hyn gynnwys dirwyo cwmni neu gyfreithiwr neu osod cyfyngiadau ar ei dystysgrif ymarfer.

4. Cyfeirio at SDT

Yr achos yn cael ei gyfeirio at y SDT ac mae'n gwneud penderfyniad

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu cyfeirio at y SDT. Mae'n ystyried y broblem ac yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad. Os bydd gwrandawiad, bydd y SDT yn penderfynu a yw'n briodol rhoi sancsiwn.

Gallwn ni a'r cwmnïau a'r cyfreithwyr cysylltiedig wneud cais i apelio yn erbyn penderfyniadau SDT.

Canlyniadau adroddiadau 2021/22

Mae'r tabl ‘Pryderon a gyflwynwyd i ni yn 2021/22' yn rhoi trosolwg o nifer yr adroddiadau a gawsom am ymddygiad cwmnïau a chyfreithwyr yn 2021/22 a'r canlyniadau a gofnodwyd yn yr un cyfnod. Nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn i ni eu derbyn. Fodd bynnag, os caiff mater ei gyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, os oes gweithgarwch arall, fel ymchwiliad gan yr heddlu neu os byddwn yn derbyn adroddiadau cysylltiedig pellach, neu os bydd achos yn gymhleth ofnadwy, gall achosion gymryd llawer mwy o amser.

Fe wnaethom dreialu a chyflwyno ein proses newydd ar gyfer asesu a datrys yn gynnar ran o'r ffordd drwy 2018/19. Mae hyn yn golygu ein bod yn siarad mwy â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti, fel bo'r angen. Mae hyn yn ein galluogi i gael, casglu a gwirio gwybodaeth, sydd yn aml yn rhoi cyfle i ddatrys y mater yn gynnar heb fod angen ymchwiliad pellach. Ers cyflwyno'r dull newydd hwn, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sefydlog yn nifer y pryderon rydyn ni'n eu cyfeirio ar gyfer ymchwiliad.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Pryderon a gyfeiriwyd ar gyfer ymchwiliad 6,027 3,602 2,279 1,816 1,741

Nid yw'r rhan fwyaf o'r pryderon yn golygu ein bod yn cymryd camau gorfodi nac yn cyfeirio achos at y Tribiwnlys. Y rheswm am hyn yw oherwydd mewn llawer o achosion, rydyn ni'n gweld nad yw'r cyfreithiwr neu'r cwmni wedi torri ein rheolau. Mewn achosion eraill, gallwn ddatrys materion drwy ymgysylltu a heb fod angen cymryd camau gorfodi. Rydyn ni'n cadw'r holl wybodaeth a anfonir atom ac, os yw'n briodol, gallwn gyfeirio ati os bydd pryderon yn cael eu codi yn y dyfodol.

Pryderon a gyflwynwyd i ni yn 2021/22

160,000 o gyfreithwyr wrth eu gwaith Cafodd 10,121 o bryderon eu cyflwyno i ni ac fe wnaethom ddelio â 9,972 yn 2021/22
Wedi'u hailgyfeirio'n fewnol neu wedi'u hanfon at LeO: 1,100
Mae'r ymchwiliad i'r mater yn parhau (cyfartaledd treigl 12 mis): 1,696
Wedi cynnal ymchwiliad: 1,741
Achosion a wrandewir yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr: 76 Dirwyon: 37 Ataliadau: 10 Dileu oddi ar y gofrestr: 36 Arall: 2 Dim gorchmynion: 2
Achosion gyda sancsiynau SRA: 301 Llythyrau cynghori: 97 Cerydd: 40 Dirwy: 49 Gorchym yn Adran 43: 42 Amodau ar dystysgrif ymarfer: 4 Canfod/c anfod a rhybuddio : 44 Adran 47 (2) (g): 3 Gorchmy nion Adran 99: 111
Heb ganfod bod y cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheolau, nac wedi'u torri'n ddifrifol. Rydym yn ymgysylltu â rhai cwmnïau i gywiro pethau ac i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio: 1,528
Dim angen ymchwiliad: 7,117

Gall un achos arwain at fwy nag un canlyniad. Fel y nodwyd yn flaenorol, nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis.

Os caiff adroddiad ei ailgyfeirio'n fewnol, mae hynny fel arfer oherwydd ei fod yn fater i'n tîm Awdurdodi neu'n tîm Cronfa Iawndal, er enghraifft.

Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i'r Ombwdsmon Cyfreithiol os ydyn ni'n credu ei bod yn gŵyn sy'n ymwneud â lefel gwasanaeth.

Mae ystyr y gwahanol fathau o ganlyniadau ar gael yn yr eirfa ac mae'r camau rydym ni a'r Tribiwnlys yn eu cymryd ar gael yn atodiad 1.

Ein proses asesu a datrys yn gynnar

Mae ein proses asesu a datrys yn gynnar yn ystyried achosion yn drylwyr o safbwynt ein Strategaeth Orfodi newydd ac yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y cwsmer wrth ymgysylltu â'r bobl sydd wedi cyflwyno adroddiadau i ni.

Rydyn ni'n defnyddio prawf trothwy asesu tri cham sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r Strategaeth Gorfodi newydd i'n helpu i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad. Rydyn ni'n ystyried:

  • A yw'n bosib bod ein Safonau a'n Rheoliadau wedi cael eu torri, yn seiliedig ar yr honiadau a wnaed?
  • A yw'r achos posib o dorri yn ddigon difrifol fel y gellir arwain at gamau rheoleiddio os caiff ei brofi?
  • A oes modd profi'r achos hwnnw o dorri?

Dim ond os mai ‘ydy' yw'r ateb i bob un o'r tri chwestiwn y bydd pryder yn pasio'r prawf hwn. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn am yr wybodaeth honno i'n helpu i benderfynu. Byddwn yn defnyddio ein Strategaeth Gorfodi i'n harwain wrth ystyried pob cam o'r prawf. Byddwn yn dweud wrth y sawl a roddodd wybod i ni am y pryder os a phan fyddwn yn penderfynu symud i gynnal ymchwiliad llawn i'r mater. Byddwn hefyd yn darparu ac yn egluro ein rhesymau os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio.

Gall y rhesymau rydyn ni'n cau materion ar hyn o bryd fod oherwydd nad yw'n ymddangos bod ein rheolau wedi cael eu torri. Gallwn hefyd ddatrys y mater drwy ymgysylltu (er enghraifft, ar bryderon llai difrifol rydym yn siarad â'r cwmni ac yn ymgysylltu ag ef ynghylch yr hyn y mae angen iddo ei wneud i gydymffurfio â'n rheolau). Efallai y byddwn hefyd yn cau materion oherwydd nad yw'r pryder a gyflwynwyd yn peri risg reoleiddiol digon sylweddol. Er nad yw'r materion hyn yn symud ymlaen i ymchwiliad, byddwn bob amser yn eu cadw ar ffeil rhag ofn y bydd angen i ni gyfeirio atynt yn y dyfodol.

Mewn rhai achosion, ar ôl i ni agor ymchwiliad, bydd ymgysylltu â chwmni neu gyfreithiwr i ddatrys mater a helpu i gydymffurfio yn gam priodol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnig arweiniad i'r cwmni neu'r cyfreithiwr ac yn ei oruchwylio a'i fonitro wrth iddo gymryd camau i ddatrys y mater. Yn gyffredinol, byddwn yn datrys materion fel hyn lle mae'r ymddygiad yn addas ar gyfer cynllun unioni ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'n debygol o gael ei ailadrodd, a lle nad oes risg barhaus. Bydd hefyd yn digwydd pan fydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw agwedd agored, gydweithredol ac adeiladol tuag at ddatrys y materion.

Dim ond y camau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd rydyn ni'n eu cymryd, ac rydyn ni'n ystyried popeth fesul achos. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y materion mwyaf difrifol, fel lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi disgyn yn is o lawer na'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl mewn achos ar ei ben ei hun, neu lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi gostwng yn is o lawer na'r safonau hyn yn gyson. Yn yr achosion hyn, mae'n debygol y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Byddwn bob amser yn egluro sut rydyn ni wedi dod i'n penderfyniad i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r mater.

Pan ddown i wybod am fater mwy difrifol a bod risg uniongyrchol i'r cyhoedd, mae camau y gallwn eu cymryd i gyfyngu ar y risg. Sef:

  • Ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol: gallwn gymryd meddiant o'r holl arian a ffeiliau y mae'r cwmni neu'r cyfreithiwr yn eu dal, gan gau'r cwmni neu bractis cyfreithiwr unigol i bob pwrpas. Rydyn ni'n gwneud hyn mewn achosion lle rydyn ni'n gwybod bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu oherwydd bod angen amddiffyn buddiannau'r cleientiaid fel arall.
  • Gosod amodau ar dystysgrifau ymarfer: atal cyfreithiwr unigol neu gwmni rhag delio ag arian cleient neu weithredu fel rheolwr cwmni, er enghraifft.
  • Gosod 'gorchymyn adran 43': mae hyn yn atal pobl nad ydynt yn gyfreithwyr ond sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol rhag gweithio mewn unrhyw gwmni rydym yn ei reoleiddio heb ein caniatâd.

Astudiaeth achos

Fe wnaethom ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol yn 2022 ar ôl amau anonestrwydd a thorri ein rheolau. Ar ôl cynnal ymchwiliad fforensig, gwelsom fod dros £200,000 o arian cleientiaid ar goll. Roedd cyfreithiwr-berchennog y cwmni dan sylw wedi gwneud trosglwyddiadau banc amhriodol rhwng materion profiant y cafodd ei benodi'n unig ysgutor arnynt. Roeddem hefyd wedi dod o hyd i daliadau amhriodol ar faterion trawsgludo.

Yn dilyn yr ymyriad, roeddem yn gallu cymryd meddiant o arian cleient y cwmni (tua £3m) a dechrau ei ddychwelyd i'w berchnogion llesiannol. Roedd cleientiaid hefyd yn gallu hawlio rhywfaint o'u harian coll o'n cronfa iawndal. Fe wnaethom gyfeirio'r cyfreithiwr at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a chafodd ei ddileu a'i orchymyn i dalu ein costau o £21,000.

Os yw cwmni neu gyfreithiwr wedi torri ein rheolau'n ddifrifol, gallwn gyhoeddi sancsiwn mewnol.

Mae'r ystod o sancsiynau y gallwn eu gosod yn gyfyngedig. Er enghraifft, mae ein pwerau dirwyo ar gyfer cyfreithwyr unigol a phob math o gwmnïau cyfreithiol wedi'u cyfyngu i £25,000, ac nid ydym yn gallu diswyddo cyfreithiwr. Fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen, sydd hefyd yn cael ei alw'n gorff trwyddedig, a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen.

Pan fo'n briodol, gallwn hefyd ddatrys mater drwy gytundeb setlo rheoleiddiol. O dan gytundeb setlo rheoleiddiol, mae'r ddwy ochr yn cytuno ar y ffeithiau a'r canlyniadau. Mae cytundebau setlo rheoleiddiol yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy sicrhau canlyniadau priodol yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Rydyn ni'n cyhoeddi manylion ein canfyddiadau a'n sancsiynau, gan gynnwys y cytundebau setlo rheoleiddiol, ar ein gwefan. Rydyn ni'n gallu atal unrhyw faterion cyfrinachol rhag cael eu cyhoeddi, os yw hyn yn bwysicach na budd y cyhoedd wrth gyhoeddi (er enghraifft, manylion am gyflwr iechyd unigolyn).

Astudiaeth achos

Yn 2021, fe wnaethom roi dirwy o £232,500 i gwmni cyfreithiol ar ôl i ni ganfod ei fod wedi torri nifer o'r rheoliadau gwyngalchu arian. Daethom yn ymwybodol o'r mater yn dilyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd ac adroddiad gan gwmni trydydd parti.

Roedd y cwmni cyfreithiol wedi methu cynnal CDD trylwyr mewn mater a, lle'r oedd wedi gwneud CDD, nid oedd wedi cadw tystiolaeth ohono. Mae cynnal CDD yn broses hanfodol ac yn allweddol i fynd i'r afael â gwyngalchu arian. Mae cyfreithwyr a chwmnïau'n defnyddio CDD i wirio pwy yw'r cleient – ac unrhyw bartïon cysylltiedig – yn eu barn nhw.

Roedd y cwmni hefyd wedi methu hyfforddi'r aelod o staff sy'n gyfrifol am y CDD a fethodd yn ddigonol ar reoliadau gwyngalchu arian. Gwelsom hefyd fod y cwmni wedi defnyddio ei gyfrif cleient yn amhriodol. Dim ond arian sy'n gysylltiedig â gwasanaeth cyfreithiol sylfaenol sy'n mynd drwy eu cyfrif cleient ddylai fod gan

Roedd dirwy yn sancsiwn priodol yn y mater hwn, ac ystyried achosion difrifol o dorri'r rheoliadau gwyngalchu arian a'r potensial i achosi niwed sylweddol, ymysg ffactorau eraill. Fodd bynnag, fe wnaethom ystyried bod risg isel y byddai hyn yn digwydd eto, yn enwedig ac ystyried bod y cwmni wedi gwella ei systemau TG ers y digwyddiad. Roeddem hefyd o'r farn na fu unrhyw niwed parhaol i gleientiaid y cwmni nac unrhyw barti arall, a chydweithrediad y cwmni yn y mater. Yn ogystal â'r ddirwy, bu'n rhaid i'r cwmni dalu ein costau ymchwilio o £50,000.

Rydyn ni'n erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'n annibynnol arnom ni a gall osod ystod ehangach o sancsiynau na ni.

Er enghraifft, gall roi dirwyon diderfyn, neu wahardd neu ddileu cyfreithiwr oddi ar gofrestr y cyfreithwyr, sy'n golygu na allant weithio fel cyfreithiwr mwyach. Mae Atodiad 1 yn cynnwys dadansoddiad llawn o'r sancsiynau rydym yn eu gosod a'r ancsiynau mae'r Tribiwnlys yn eu gosod.

Wrth benderfynu a ddylid dod ag achos gerbron y Tribiwnlys, rydyn ni'n ystyried y canlynol:

  • a oes gennym dystiolaeth a fyddai'n cefnogi'r posibilrwydd realistig y byddai'r Tribiwnlys yn canfod achos o gamymddwyn
  • a yw'r Tribiwnlys yn debygol o osod sancsiwn na allwn ei roi
  • a yw cyhoeddi'r adroddiad er budd i'r cyhoedd

Mae nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio at y Tribiwnlys yn 2021/22 wedi gostwng o'i gymharu â 2020/21 ac rydym wedi gweld gostyngiad cyffredinol dros y pum mlynedd diwethaf.

Un o'r ffactorau yn hyn o beth yw'r cynnydd mewn achosion cymhleth ac felly hir yr ydym wedi bod yn delio â nhw. Yn 2022, cynyddodd ein pwerau dirwyo mewnol, sy'n golygu y gallwn nawr ddatrys rhai achosion heb fod angen atgyfeiriad Tribiwnlys. Byddwn yn monitro a yw hyn yn cael effaith ar gyfanswm yr atgyfeiriadau. Rydym hefyd yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i wella prydlondeb ein hymchwiliadau a bwrw ymlaen â'r materion mwyaf difrifol. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal prosiect gwella parhaus, er mwyn i ni allu cynnal ymchwiliadau'n gyflymach.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Achosion gerbron y Tribiwnlys 134 125 112 101 76

Astudiaeth achos

Fe wnaethom erlyn cyfreithiwr yn y Tribiwnlys ar ôl iddo gymryd arian o ystad ei ddiweddar gleient a'i ddefnyddio i ddatblygu a phrynu eiddo. Cawsom wybod am y mater ar ôl i gyflogwr y cyfreithiwr roi gwybod i ni am bryder.

Roedd y cyfreithiwr yn gweithredu fel partner mewn cwmni cyfreithiol ar yr adeg y gwnaeth drosglwyddo eiddo'r diweddar gleient i'w enw ei hun. Yna, dechreuodd weithio ar droi cartref ei gleient yn fflatiau. Roedd hefyd yn defnyddio arian ychwanegol o ystad y cleient i brynu ei eiddo ei hun ac yna'n byw ynddo. Dywedodd y cyfreithiwr wrthym ei fod wedi bwriadu cynyddu gwerth ystad ei ddiweddar gleient drwy addasu ei gartref a buddsoddi mewn mwy o eiddo. Roedd hefyd yn trosglwyddo arian o ystad ei gleient i'w gyfrif ei hun.

Canfu'r Tribiwnlys fod ymddygiad o'r fath wedi methu cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y cyfreithiwr ac wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol. Yn ei ddyfarniad, dywedodd y Tribiwnlys hefyd: ‘Byddai aelodau o'r cyhoedd yn dychryn wrth wybod bod [y cyfreithiwr] wedi camddefnyddio arian yr ystad er ei fudd ei hun.'

Penderfynodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddileu'r cyfreithiwr a gorchmynnodd iddo dalu costau o £25,000.

Os byddwn yn cyfeirio mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'i fod yn dweud bod achos i'w ateb, a bod y cwmni neu'r unigolyn yn cyfaddef yr honiadau, efallai y byddai'n briodol dod â'r mater i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na gwrandawiad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydyn ni'n cytuno ar ganlyniad a chostau ar sail set o ffeithiau y cytunwyd arnynt.

Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried y canlyniad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau iddo, neu orchymyn gwrandawiad llawn ar gyfer yr achos. Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn wahanol i'r cytundebau setlo rheoleiddiol, sef cytundebau y byddwn yn eu llunio gyda chyfreithwyr a chwmnïau yn fewnol heb fod angen cynnwys y Tribiwnlys a phan fo'r mater yn llai difrifol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sancsiwn – er enghraifft, mae dirwy am RSA yn cael ei chapio ar £25,000, ond gall dirwy sy'n destun adolygiad y Tribiwnlys fod yn ddiderfyn.

Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Rydym wedi gweld cyfran uwch o achosion yn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Un o brif ysgogwyr hyn yw newidiadau i reolau'r Tribiwnlys yn 2019. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys rheol newydd sy'n caniatáu i ni neu'r atebydd gynnig bod achos yn cael ei ddatrys drwy ganlyniad y cytunir arno. Mae hyn yn annog mwy o achosion i gael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno ac mae'n debygol pam ein bod wedi gweld cyfran gynyddol o achosion yn cael eu datrys fel hyn.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Achosion a ddatryswyd gan SDT - canlyniad y cytunwyd arno 37 33 42 40 39
Achosion a ddatrysir gan wrandawiad SDT 97 92 72 61 38

Mewn rhai blynyddoedd, mae gwahaniaeth rhwng cyfanswm nifer yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys pan fydd cyfanswm nifer yr achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad a'r rheini a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn cael eu hychwanegu at ei gilydd. Gall hyn ddigwydd pan fydd achos yn ymwneud â mwy nag un unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu dod i ganlyniad y cytunir arno gydag un o'r unigolion yn yr achos, ond nad ydyn ni'n gallu gwneud hynny gyda'r llall, felly bydd angen gwrandawiad llawn i ddatrys y mater.

Achosion gyda chanlyniad y cytunwyd arno – canlyniadau

Arweiniodd yr achosion gyda chanlyniad y cytunwyd arnynt uchod at y sancsiynau yn y tabl isod. Cofiwch y gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn.

Mae'r eirfa ac atodiad 1 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae sancsiynau'n ei olygu a'r camau y mae'r Tribiwnlys yn eu cymryd.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Achosion gyda chanlyniad y cytunwyd arno 37 33 42 40 39
Dileu oddi ar y gofrestr 15 19 19 17 13
Atal 6 4 10 5 6
Dirwy 43 12 21 21 25
Gorchymyn adran 43 1 0 1 2 1

Astudiaeth achos

Daethom i ganlyniad y cytunwyd arno gyda chyfreithiwr a oedd wedi rhoi cyngor anghywir i'w cleientiaid ar gost rhent tir y byddent yn ei dalu ar yr eiddo lesddaliad y byddent yn eu prynu. Daethom yn ymwybodol o'r mater ar ôl i un o gleientiaid y cwmni roi gwybod i ni am bryder.

Dywedodd y cyfreithiwr yn anghywir wrth 115 o gleientiaid y byddai'r rhent tir y byddent yn ei brynu ar eu heiddo lesddaliad yn dyblu bob 25 mlynedd. Mewn gwirionedd, byddai'n dyblu bob 10 mlynedd. Arweiniodd y camgymeriad hefyd at rai o'r cleientiaid yn gwneud hawliadau yn erbyn yswiriwr y cwmni ac i'n cronfa iawndal.

Yn ei ddyfarniad, canfu'r Tribiwnlys fod y cyfreithiwr wedi gweithredu: ‘yn annoeth yn hytrach nag yn fwriadol' ond wedi: ‘gosod gormod o ddibyniaeth ar yr hyn a oedd yn ymddangos yn swmpbrosesu materion trawsgludo', a arweiniodd at y camgymeriad. Rhoddodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddirwy o £15,000 i'r cyfreithiwr a gorchmynnodd iddo dalu ein costau o £10,000. Roedd canlyniad y cytunwyd arno yn briodol yn yr achos hwn oherwydd bod y cyfreithiwr wedi cyfaddef i'r honiadau a gyflwynwyd iddo ac roedd ffeithiau'r achos yn glir, sy'n golygu na fyddai angen gwrandawiad.

Mae gan gwmnïau ac unigolion yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud yn fewnol yn ogystal â phenderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r hawl i apelio yn hanfodol i gyfiawnder naturiol ac i broses gyfreithiol deg.

Apelio yn erbyn ein penderfyniadau

Mae gan gwmnïau ac unigolion sy'n ddarostyngedig i'n hamodau neu ein sancsiynau yr hawl i apelio. Mae apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau yn cael eu hystyried yn fewnol gan ein tîm Dyfarnu. Os deliodd dyfarnydd â'r penderfyniad cychwynnol, fodd bynnag, yna caiff yr apêl ei chlywed gan banel a ddewisir o gronfa o ddyfarnwyr hyd braich. Mae gan bartïon hawliau pellach i apelio naill ai i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (yn achos dirwy, cerydd neu orchymyn adran 43) neu i'r Uchel Lys.

Apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Gall cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi bod yn ddarostyngedig i benderfyniad gan y Tribiwnlys apelio os yw'n credu bod y penderfyniad yn anghywir. Gallwn ninnau hefyd apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys yn y llysoedd.

I apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys, rhaid i ni neu'r atebydd wneud cais i'r Uchel Lys.

Mae apeliadau'n caniatáu i lysoedd gywiro unrhyw wallau a allai fod wedi'u gwneud ac egluro sut maent yn dehongli'r gyfraith.

Yn ogystal â'r sail gyfreithiol, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau ynghylch a ydyn ni'n apelio yn erbyn penderfyniad y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud. Er enghraifft:

  • Eglurhad ar y gyfraith: rydyn ni'n cydnabod bod gan y Tribiwnlys gryn dipyn o ddisgresiwn wrth ystyried canlyniadau'r achosion y mae'n eu clywed. Fodd bynnag, os bydd yn gwneud penderfyniad sy'n ymddangos fel pe bai'n gwrth-ddweud neu'n camddehongli pwynt cyfreithiol, byddwn yn ystyried a ddylem apelio. Rydyn ni'n credu ei bod yn bwysig cael eglurder a chysondeb yn y ffordd y mae'r gyfraith yn berthnasol i'n rôl fel rheoleiddiwr ac i hawliau a rhwymedigaethau'r bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio.
  • Gweithredu er budd y cyhoedd: rydyn ni'n mynd ag achosion i'r Tribiwnlys i sicrhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac i gynnal safonau yn y proffesiwn. Os oes sail i awgrymu nad yw hyn wedi'i gyflawni, byddwn yn ystyried a yw'n briodol apelio.
  • Diogelu'r cyhoedd: os ydyn ni'n credu bod y sancsiwn a roddwyd gan y Tribiwnlys yn rhy drugarog a bod sail i awgrymu y gallai'r cyhoedd, o ganlyniad, fod mewn perygl, byddwn yn ystyried a yw apêl yn briodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn apelio yn erbyn penderfyniad lle rydyn ni o'r farn y dylai cyfreithiwr fod wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, yn hytrach na'i wahardd am gyfnod byr.

Apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau ni

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Apeliadau  llwyddiannus 1 0 0 7 3
Wedi llwyddo'n rhannol 3 0 2 3 2
Apeliadau aflwyddiannus 11 11 7 14 9
Cyfanswm apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau 15 11 9 24 14

 

Mae'r apeliadau hyn yn ymdrin â nifer y ceisiadau i adolygu canlyniad gan ymatebwyr sy'n mynd drwy ein proses sancsiynau fewnol. Yn 2021/22, cynhaliwyd 301 o ymchwiliadau a arweiniodd at ryw fath o sancsiwn.

Yn 2020/21, gwelsom gynnydd yn nifer yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau mewnol, mae'n debyg oherwydd newidiadau a gyflwynwyd drwy ein Safonau a'n Rheoliadau, a gyflwynwyd gennym yn 2019. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys dileu ffi o £250 am apêl. Mae nifer yr apeliadau mewnol ar gyfer 2021/22 yn cyd- fynd yn well â'r cyfartaledd ar gyfer y blynyddoedd 2017/18–2019/20 (11 y flwyddyn). Byddwn yn monitro nifer yr apeliadau mewnol i weld a yw cyflwyno ein Safonau a'n Rheoliadau a dileu'r ffi apelio yn cael effaith barhaol.

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Mae'r penderfyniadau yn y siart isod yn ymwneud ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys. Ni wnaethom gyflwyno unrhyw apeliadau yn 2020/21 a 2021/22. Mae hyn, ynghyd â'r gostyngiad cyffredinol a welir mewn apeliadau, mae'n debyg oherwydd nifer yr achosion a ddatrysir drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y blynyddoedd diwethaf, gan fod partïon yn llai tebygol o ddod ag apêl.

Cynyddodd nifer yr apeliadau a ddaeth i'r amlwg (naw) yn 2021/22, o'i gymharu â 2020/21 (chwech) a 2019/20 (tri). Mae sawl rheswm pam fod ymatebwyr yn cyflwyno apêl, ac mae'r niferoedd bach dan sylw yn golygu ei bod yn anodd dweud a yw'r cynnydd hwn yn arwydd o duedd ehangach. Byddwn yn parhau i fonitro nifer yr apeliadau gennym ni a'r rhai a gyflwynir gan ymatebwyr.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

Dyfarniad

wedi'i neilltuo yn apeliadau'r ymatebwyr
2 1 0
Apeliadau llwyddiannus yr ymatebwyr 2 1 1 0 3 (caniateir un a chaniateir dau yn rhannol)
Apeliadau aflwyddiannus yr ymatebwyr 10 13 2 6 6
Apeliadau aflwyddiannus SRA 2 0 0 0 0
Apeliadau llwyddiannus SRA 7 6 1 0 0
Cyfanswm penderfyniadau apêl allanol 21 20 6 8 9

Astudiaeth achos

Yn 2022, clywodd yr Uchel Lys apêl gan gyfreithiwr yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys i'w ddileu oddi ar y gofrestr.

Roedd y Tribiwnlys wedi canfod bod y cyfreithiwr wedi anfon gwaith papur i'r llys yr oedd yn gwybod ei fod yn gamarweiniol. Roedd hyn yn helpu'r cyfreithiwr i gael gorchymyn rhewi ar asedau'r parti arall yn yr achos. Canfu'r Tribiwnlys fod y cyfreithiwr wedi gweithredu'n anonest, gan arwain at ei ddileu.

Yn ei apêl, roedd y twrnai:

  • yn credu bod y Tribiwnlys wedi dibynnu'n ormodol ar un darn o dystiolaeth yn ei ganfyddiadau
  • yn dweud bod y Tribiwnlys wedi methu ystyried tystiolaeth newydd o'i onestrwydd a'i ddidwylledd
  • yn dadlau nad oedd y Tribiwnlys wedi rhoi digon o bwysau ar y ffaith ei fod wedi dibynnu ar fargyfreithiwr wrth ddelio â'r llys yn y mater cychwynnol.

Ac, oherwydd nad oedd un o'r pum honiad yn ei erbyn wedi bod yn llwyddiannus, apeliodd y cyfreithiwr hefyd yn erbyn y penderfyniad bod yn rhaid iddo dalu ein costau'n llawn.

Fodd bynnag, gwrthododd yr Uchel Lys apêl y cyfreithiwr. Dywedodd y barnwr a oedd yn gweithredu yn yr achos: ‘Mae'n ymddangos i mi fod yr achos yn erbyn y [cyfreithiwr] yn gryf iawn ac nid yw'n syndod bod y Tribiwnlys wedi'i gadarnhau.' Roedd y llys hefyd wedi cadarnhau penderfyniad y Tribiwnlys y dylai'r cyfreithiwr dalu costau'r achos gwreiddiol (£43,000), ac roedd hefyd wedi gorchymyn i'r cyfreithiwr dalu costau'r apêl.

Bob blwyddyn, rydyn ni'n casglu ffioedd ymarfer gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.

Mae'r ffioedd ymarfer rydyn ni'n eu casglu'n llawn, neu'n rhannol, yn ariannu chwe sefydliad, gan gynnwys ni. Yn 2021/22, fe wnaethom gasglu £106m, gyda £58m ohono'n mynd tuag at wariant cyffredinol y Tribiwnlys.

Yn 2021/22, fe wnaethom wario £16.5m ar ein prosesau disgyblu, sy'n rhan hanfodol o'n gwaith i sicrhau bod safonau proffesiynol uchel yn cael eu cynnal. Mae hyn yn fwy na'r hyn a wariwyd gennym yn 2020/21 (£14.5.5m) a 2019/20 (£15m). Mae hyn yn bennaf oherwydd ein bod wedi ychwanegu mwy o adnoddau at ein tîm Ymchwilio a Goruchwylio. Roedd 2020/21 yn flwyddyn anarferol o isel ar gyfer costau disgyblu.

Mae'n bwysig nodi bod yr holl ddirwyon, boed nhw'n cael eu codi gan y Tribiwnlys neu drwy ein prosesau mewnol, yn cael eu talu i'r Trysorlys.

Rydyn ni'n adolygu'n barhaus sut rydyn ni'n gweithio. Er mwyn cadw costau dan reolaeth ym mhob achos, rydym yn gweithio yn ôl egwyddorion allweddol: gweithredu'n gyflym, yn deg ac yn gymesur.

Achosion gwerth uchel

Gall ein gwaith gorfodi fod yn uchel ei broffil ac yn aml mae'n ymwneud â materion amserol sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gall fod diddordeb yn faint y mae'n ei gostio i ni ddod ag achosion i'r Tribiwnlys ac i gyflwyno apêl. Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar hyn yn cynnwys cymhlethdod a hyd oes achos, nifer y partïon a chydweithrediad y rhai sy'n gysylltiedig.

Achosion sy'n costio £100,000 neu fwy

O'r 76 o achosion a gafodd eu cyflwyno i'r Tribiwnlys yn 2021/22 a'r naw apêl y gwrandawyd arnynt, roedd pump lle'r oedd ein costau tua £100,000 neu fwy. Yn gyffredinol, bydd y costau yn yr achosion hyn wedi cronni dros nifer o flynyddoedd.

Mae'r ffigurau'n cynnwys y costau a hawliwyd (neu y cytunwyd arnynt) ar gyfer:

  • cyflwyno'r achos i'r Tribiwnlys
  • cyflwyno apêl, os oedd un
  • costau a ddyfarnwyd i'r parti sy'n gwrthwynebu.

Mae costau cyflwyno achos fel arfer yn cynnwys:

  • ein gwaith yn ymchwilio i achos
  • paratoi ar gyfer gwrandawiadau gerbron y Tribiwnlys a'r Uchel Lys, boed hynny'n fewnol neu drwy gyfarwyddo cwmni panel
  • cyngor gan gwnsler neu gyfarwyddo cwnsler pan fydd ein tîm cyfreithiol mewnol yn delio ag achos.

Mewn rhai o'r achosion hyn, dyfarnodd y Tribiwnlys rywfaint o'n costau i ni neu'r cyfan ohonynt. Mae gan y Tribiwnlys ddisgresiwn eang o ran pa gostau i'w dyfarnu, ac mae'n ystyried pob achos ar sail ei ffeithiau ei hun.

Achosion a oedd yn costio mwy na £100,000 yn 2021/22

Sylwch fod cofnodion sy'n ymwneud ag Allanson a Hetherington yn ymddangos yn adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2020/21. Nid yw'r ffigurau hynny'n cynnwys cost apêl. Mae'r cofnodion yn y tabl isod yn eu cynnwys.

Partïon dan sylw Costau Natur yr achos a'r canlyniad terfynol

Cyfreithwyr a phartneriaid Margaret a Patrick Hetherington. Fe wnaethom ymyrryd yn y cwmni yn 2018.

Gwrandawyd ar apêl yn yr Uchel Lys yn yr achos hwn.

£148,797 ar draws y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (£11,797) a gwrandawiadau'r Uchel Lys (£35,000).

Dyfarnodd y Tribiwnlys
£98,000 i ni.

Dyfarnodd yr Uchel Lys gostau o £35,000 i ni.

Honiadau'n ymwneud â'r cyfreithwyr a'u rhan mewn cynllun buddsoddi amheus. Penderfynodd y Tribiwnlys ddileu'r cyfreithwyr oddi ar y gofrestr.

Gwrthodwyd apêl y ddau Hetheringtons.

Roger Brian Allanson, cyfreithiwr a pherchennog Allansons. Fe wnaethom ymyrryd yn y cwmni yn 2019.

Gwrandawyd ar apêl yn yr Uchel Lys yn yr achos hwn.

£124,867 ar draws y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (£103,867) a'r Uchel Lys (£21,000).

Dyfarnodd y Tribiwnlys ein costau i ni yn llawn.

Dyfarnodd yr Uchel Lys ein costau i ni yn llawn.

Mae'r honiadau'n ymwneud â chynllun buddsoddi amheus. Mae'r Tribiwnlys wedi dileu'r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Gwrthodwyd yr apêl gan Allanson.

Tri chyfreithiwr yn County Solicitors: Edward Richard Foster, Robert James Newman a Rashpal Kaur. Fe wnaethom ymyrryd yn y cwmni yn 2019.

£107,870.

Dyfarnwyd £88,000 i ni, wedi'i rannu ar draws y partïon (£70,000 i'w dalu gan Foster, £15,000 i'w dalu gan Newman a £3,000 i'w dalu gan Kaur).

Honiadau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau amhriodol o gyfrif y cleient, torri Rheolau Cyfrifon ac anonestrwydd ar ran Foster.

Fe wnaeth y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddileu Foster oddi ar y gofrestr, atal Newman am dri mis a dirwyo Kaur £3,000.

Mae Peter Gray yn gyfreithiwr ac yn gyn-bartner yn y cwmni cyfreithiol Gibson, Dunn a Crutcher. Ni wnaethom gymryd camau yn erbyn y cwmni.

Gwrandawyd ar apêl yn yr Uchel Lys yn yr achos hwn.

£96,525 ar draws y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (£42,525) a'r Uchel Lys (£54,000).

Dyfarnodd y Tribiwnlys ein costau i ni yn llawn.

Dyfarnodd yr Uchel Lys gostau o £30,000 i ni.

Honiadau sy'n ymwneud â chyflwyno gwybodaeth gamarweiniol i lys, anonestrwydd a byrbwylltra. Mae'r Tribiwnlys wedi dileu'r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Gwrthodwyd yr apêl gan Gray.

Charles James Ete, cyfreithiwr a pherchennog cwmnïau cyfreithiol Charles Ete a Co a Pride Solicitors. Fe wnaethom ymyrryd yn y ddau gwmni yn 2019.

Gwrandawyd ar apêl yn yr Uchel Lys yn yr achos hwn.

£94,086 ar draws y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (£79,086) a'r Uchel Lys (£15,000).

Dyfarnodd y Tribiwnlys gostau o £64,260 i ni.

Dyfarnodd yr Uchel Lys ein costau i ni yn llawn.

Honiadau sy'n ymwneud â thaliadau amhriodol sy'n ymwneud â nodweddion twyll yn cael eu gwneud o gyfrif y cleient, cyfrifon cleientiaid yn cael eu defnyddio fel cyfleuster bancio, yswirwyr camarweiniol a methu cydweithredu â ni. Mae'r Tribiwnlys wedi dileu'r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Gwrthodwyd yr apêl gan Ete.

Rydyn ni'n gwybod bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen.

Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain atom yn cymryd camau gweithredu, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a'r help cywir.

Ceisio cymorth

Rydyn ni'n deall y gall bod yn rhan o ymchwiliad fod yn gyfnod anodd a llawn straen, yn enwedig i bobl sydd â phroblemau iechyd, neu sydd mewn sefyllfa fregus. Os felly, rydyn ni'n annog pobl i ddweud wrthym, gan fod camau y gallwn eu cymryd i wneud y broses yn haws. Dyma rai enghreifftiau o sut rydyn ni'n gallu cynnig cymorth:

  • darparu un pwynt cyswllt
  • caniatáu amser ychwanegol i ymateb i ni (lle gallwn)
  • oedi ymchwiliad am dymor byr.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac rydyn ni'n ymdrin â phob mater yn seiliedig ar yr amgylchiadau unigol. Efallai y bydd angen cymorth ar aelodau'r cyhoedd a chyfreithwyr sy'n codi pryderon gyda ni hefyd, yn enwedig pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Rydyn ni'n cyfeirio pobl at amrywiaeth o adnoddau a sefydliadau a all helpu, ac mae ein holl staff yn cael hyfforddiant ar wneud addasiadau rhesymol.

Er mwyn helpu cyfreithwyr a chwmnïau i ddeall sut rydym yn mynd i'r afael â materion iechyd a'r dystiolaeth feddygol y gallem ofyn amdani yn ystod ymchwiliad, fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau ar faterion iechyd a thystiolaeth feddygol ym mis Awst 2020. Mae'n cynnwys gwybodaeth am godi mater iechyd gyda ni, adroddiadau meddygol, ac iechyd a'r gallu i ymarfer, ymysg pynciau cysylltiedig eraill.

Ein hymrwymiad ehangach i les yn y proffesiwn

Mae ein hymgyrch Eich Iechyd, Eich Gyrfa yn annog cyfreithwyr i siarad â ni os ydynt yn cael anawsterau gyda'u hiechyd neu eu lles a allai fod yn effeithio ar eu gwaith. Gall cyfreithwyr siarad â ni am hyn a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am ein rheoliadau a'r problemau y maent yn eu hwynebu.

Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i helpu cwmnïau cyfreithiol a'r rheini sy'n gweithio iddyn nhw i ddeall beth mae rheolau newydd ar iechyd a llesiant yn y gweithle yn ei olygu iddyn nhw. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad thematig o ddiwylliant y gweithle yn 2022.

Mae'r canllawiau hyn yn egluro ein dull gweithredu lle rydym o'r farn bod unigolion a chwmnïau wedi methu cymryd camau priodol i ofalu am lesiant cydweithwyr. Mae'n nodi'r prif safonau sy'n berthnasol i gyfreithwyr, ac i gwmnïau cyfreithiol a'r rheini sy'n gyfrifol am eu diwylliant a'r systemau sydd ar waith ynddynt.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod y broses ymchwilio yn gallu achosi straen a'i bod yn gallu gwaethygu neu achosi problemau iechyd. Gall ein canllawiau helpu pobl i ddeall y ffordd rydyn ni'n ymdrin â materion iechyd sy'n cael eu codi gan y rheini rydyn ni'n ymchwilio iddynt a'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano o ran tystiolaeth feddygol.

Chwythu'r Chwiban i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Os bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i ni'n gyfrinachol, byddwn yn cymryd camau priodol i ddiogelu hunaniaeth y sawl sy'n rhoi'r wybodaeth i ni ac yn delio â'r mater mewn modd sensitif.

Rhaid i unigolion a chwmnïau rydym yn eu rheoleiddio roi gwybod i ni am gamymddwyn sy'n ymwneud â'r rheini rydym yn eu rheoleiddio neu gwmnïau cyfreithiol sy'n gweithio i ni. Fodd bynnag, i rywun sy'n cael ei reoleiddio gennym ni ac sy'n poeni a oes modd i ni ymchwilio iddo oherwydd ei ran ei hun mewn unrhyw ddrwgweithredu, gallai rhoi gwybod i ni am y mater a chydweithio â ni fod yn gam lliniaru. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn yn cael gwybod am faterion yn gynnar.

Fodd bynnag, byddai'n well gennym i gyfreithwyr ac eraill sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol roi gwybodaeth yn hwyr na ddim o gwbl. Er na allwn warantu na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y sawl sy'n rhoi gwybodaeth i ni, mae cyflwyno'r wybodaeth i ni yn debygol o helpu ei sefyllfa, a byddwn yn ystyried y cyd-destun, gan gynnwys, er enghraifft, ofn cael ei wrthgyhuddo.

Cefnogi tystion

Pan fyddwn yn ymchwilio i gyfreithiwr neu gwmni, efallai y bydd angen cymryd datganiad neu gyfweld â thystion. Bydd hyn yn ein helpu yn ein hymchwiliad ac, o bosib, yn ein helpu i benderfynu a oes angen i ni gyfeirio'r mater i sylw'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Rydyn ni'n deall bod hyn yn gallu bod yn straen, felly rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi tystion. Er enghraifft, os nad Saesneg yw iaith gyntaf y tyst, efallai y gallwn gynnig cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Os mai'r tyst hefyd yw'r sawl a roddodd wybod i ni am y pryder, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am sut rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r mater. Rydyn ni hefyd yn hyfforddi ein staff ar sut i gefnogi unigolion agored i niwed a gofidus, er enghraifft, mewn achosion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn lle rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau ar nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi yn yr adroddiad blynyddol hwn. Mae adroddiadau blaenorol ar gael ar gyfer:

Gwnaethom hefyd gyhoeddi adroddiadau ategol manwl ar gyfer:

Byddwn yn parhau i adrodd ar ein canfyddiadau bob blwyddyn.

Mae monitro amrywiaeth y bobl yn ein prosesau gorfodi a chymryd camau ar sail y canfyddiadau yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith a wnawn. Rydym nid yn unig yn gwneud hyn oherwydd bod gennym ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb a Gwasanaethau Cyfreithiol, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi a'n Safonau a'n Rheoliadau.

Rydym wedi defnyddio'r un dull ag o'r blaen, ac mae'r manylion ar gael yn yr adran nesaf, cwmpas ein dadansoddiad. Mae hyn wedi caniatáu i ni wneud cymariaethau ac edrych ar dueddiadau dros y pedair blynedd diwethaf, fel y nodir yn yr adran canfyddiadau allweddol. Rydym hefyd wedi nodi'r cyfyngiadau yn y data rydym yn ei gadw neu y gallwn ei gyhoeddi, a'r anawsterau o ran dod i gasgliadau ystyrlon o'r niferoedd bach iawn yn ystod camau olaf y broses orfodi.

Rydym yn parhau i weld gormod o gynrychiolaeth o ddynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn pryderon a godwyd gyda ni a'r rheini rydym yn ymchwilio iddynt. Ar y ddau gam hyn yn y prosesau gorfodi, mae'r gwahaniaethau'n ystadegol arwyddocaol ac yn adlewyrchu'r patrymau a welir ar draws llawer o broffesiynau a rheoleiddwyr. Er mwyn ein helpu ni, ac eraill, i fynd i'r afael â'r materion hyn, yn benodol, ar gyfer cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, rydym wedi adeiladu ar adolygiadau cynharach drwy gomisiynu ymchwil annibynnol gan brifysgolion Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd, a fydd yn rhoi cipolwg ar y ffactorau sy'n sbarduno gorgynrychiolaeth ar y camau hyn yn y broses.

Rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd gan y prifysgolion. Ychydig iawn o ymchwil sy'n cael ei wneud gan arbenigwyr sy'n edrych yn benodol ar y sector cyfreithiol. Ond fe wnaethant nodi nifer o themâu cyffredin o sectorau eraill a allai olygu bod y rheini o gefndiroedd ethnig penodol yn fwy tebygol o gael eu hadrodd i'w rheoleiddiwr. Roedd y rhain yn ymwneud â'r canlynol:

  • Canfyddiadau neu ddisgwyliadau ymwybodol ac anymwybodol, ymysg y rhai sy'n gwneud y cwynion, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o gwyno am unigolyn.
  • Bod yn fwy agored i amgylcheddau gwaith, mathau o waith neu amgylchiadau eraill sy'n gysylltiedig ag achosion sydd, yn ôl eu natur, yn arwain at fwy o gwynion.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth, mae'r prifysgolion yn cynnal dadansoddiad gwrthrychol a manwl o setiau data SRA. Byddant hefyd yn archwilio profiadau cyfreithwyr ac ymddygiad ymysg defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Disgwylir y bydd adroddiad terfynol ar yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.

Cwmpas ein dadansoddiad

Gwnaethom edrych ar gynrychiolaeth rhyw, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle'r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar gamau canlynol ein proses orfodi rhwng 1 Tachwedd 2021 a 31 Hydref 2022:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad
  • cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4 – yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys ar ffurf gwrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a'r mathau o sancsiynau a osododd y Tribiwnlys (llwybr B).

Mae'n bwysig nodi:

  • Mae'r unigolion a enwyd ar bryderon a gyflwynwyd ar gyfer ymchwiliad (cam 2) yn is-set o'r unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1).
  • Yng nghamau 3 a 4 (llwybrau A a B, yn y drefn honno), rydym yn edrych ar yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn 2021/22, y rheini a gafodd sancsiwn mewnol a'r rheini a gafodd eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 3, nid yw'n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a'u datrys yn yr un flwyddyn.
  • Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n ymwneud â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n ymwneud â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod fel arfer yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a dod â mater i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Sut rydym wedi dadansoddi'r data

Gan ddechrau gyda dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma'r gyfran ar gyfer dynion:

  • 47% o'r boblogaeth wrth ei gwaith
  • 63% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 70% o'r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 74% o'r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 75% o'r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (cam 4, llwybr B).

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o'r broses, gan ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2021/22 cafodd:

  • 6,991 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,350 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 267 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 84 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4).

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg a Grŵp ethnig arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Pan fydd y niferoedd yn mynd yn rhy fach (yng nghamau 3 a 4), byddwn yn cymharu'r grŵp Gwyn (sy'n cynnwys grwpiau Gwyn lleiafrifol) â'r pedwar grŵp arall, y cyfeiriwn atynt fel y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nid ydym yn defnyddio'r acronym ‘BAME' mwyach i gyfeirio at y grŵp hwn.

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn amrywio ar bob cam o'r broses, ond pan fyddwn yn edrych ar y boblogaeth wrth ei gwaith, mae gennym wybodaeth am y canlynol:

  • 88% o ryw unigolion
  • 99.9% o oedran unigolion (dangosir bod hyn yn 100% oherwydd talgrynnu)
  • 72% o ethnigrwydd unigolion.

Rydym yn defnyddio'r data am y boblogaeth wrth ei gwaith sydd gennym yn ein systemau mySRA fel man cychwyn ar gyfer ein dadansoddiad. Mae rhagor o wybodaeth am y dadansoddiad o'r boblogaeth wrth ei gwaith ar gael yn atodiad yr adroddiad ategol.

Oherwydd y ffordd rydym wedi casglu data anabledd yn y gorffennol, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o'r boblogaeth wrth ei gwaith.

Nid ydym yn gallu gwahaniaethu, gyda sicrwydd, rhwng pobl sydd wedi datgan yn weithredol nad oes ganddynt anabledd a'r rheini nad ydynt wedi ateb y cwestiwn. Rydym yn amau bod data anabledd yn cael ei dan-adrodd yn sylweddol yn y set ddata hon.

Ceir set lawn o'r siartiau sy'n dangos y data ym mhob un o'r camau yn yr adroddiad hwn. Rydym hefyd wedi edrych ar sut mae'r achosion yn y Tribiwnlys wedi cael eu cwblhau, yn benodol, a oes gwahaniaeth yn ôl nodwedd amrywiaeth wrth ddefnyddio canlyniadau y cytunwyd arnynt.

Prif ganfyddiadau

Yn yr adran hon, rydym wedi rhoi trosolwg o'r prif ganfyddiadau ar gyfer rhyw ac ethnigrwydd ym mhob un o bedwar cam y broses orfodi (lle'r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Mae gennym y data o flynyddoedd cynharach er mwyn i ni allu tynnu sylw at unrhyw dueddiadau.

Niferoedd isel yng nghamau 3 a 4

Oherwydd y niferoedd isel dan sylw, ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r dadansoddiadau amrywiaeth a welwyd yng nghamau 3 a 4 yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad i siawns. Y rheswm am hyn yw bod y niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Rhyw

Rhyw 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith Dynion 49%
(74,657)
48%
(71,933)
48%
(70,928)
47%
(69,512)
Menywod 51%
(77,539)
52%
(77,769)
52%
(78,011)
53%
(76,987)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Dynion 67%
(4,440)
65%
(3,959)
62%
(3,913)
63%
(3,894)
Menywod 33%
(2,161)
35%
(2,088)
38%
(2,365)
37%
(2,336)
Cam 2: Ymchwiliad Dynion 73%
(1,800)
75%
(1,166)
68%
(820)
70%
(804)
Menywod 27% (661) 25% (380) 32% (393) 30% (352)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Dynion 70% (159) 73% (144) 66% (105) 74% (139)
Menywod 30% (67) 27% (53) 34% (55) 26% (49)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dynion 85% (119) 80% (99) 73% (75) 75% (61)
Menywod 15% (21) 20% (25) 27% (28) 25% (20)

Am y pedair blynedd, mae dynion yn cael eu gorgynrychioli'n sylweddol yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae hyn yn cynyddu ymhellach yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w dwyn ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Wrth edrych ar yr hyn sy'n digwydd i adroddiadau a dderbyniwyd am ddynion, cafodd 21% o'r adroddiadau eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad o'i gymharu â 15% o rai am fenywod.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfran y dynion mewn achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn cynyddu o'i gymharu â'r cam ymchwilio. Dynion yw 70% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt yn 2021/22, a 75% o'r rheini y daeth eu hachosion i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn fewnol, mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyfran y dynion wedi gostwng o'i gymharu â'r cam ymchwilio. Fodd bynnag, yn 2021/22, roedd dynion yn cyfrif am 70% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt a 74% o'r rheini yr ymchwiliwyd i'w hachosion yn fewnol.

Sylwch, mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymateb hunan- gofnodedig i'r cwestiwn canlynol: ‘Beth yw eich rhyw: gwryw, benyw, disgrifiad arall a ffefrir neu mae'n well gennych beidio â dweud'. Nid oes yn rhaid i gyfreithwyr sy'n ateb y cwestiwn hwn ateb yn unol â'u rhyw cyfreithiol.

Ethnigrwydd

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Os yw'r niferoedd yn rhy fach, er na fydd y profiad o bobl yn ffurfio'r grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gyda'i gilydd, ochr yn ochr â'r grŵp Gwyn.

Yn yr adran hon, rydym wedi nodi data ar gyfer y grwpiau Gwyn a'r grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam. Gellir gweld dadansoddiad manylach ar draws pob un o'r pum grŵp ethnig yn yr adran sy'n ymdrin â chamau 1 a 2 yn yr adroddiad ategol. Nid yw'r dull hwn yn bosibl ar gyfer camau 3 a 4 oherwydd y nifer fach o bobl sy'n gysylltiedig.

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Ethnigrwydd 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith Gwyn 82% (99,098) 82% (96,835) 82% (99,078) 81% (97,326)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 18% (21,085) 18% (20,930) 18% (22,223) 19% (22,266)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Gwyn 74% (4,273) 74% (3,864) 75% (4,138) 76% (4,172)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 26% (1,486) 26% (1,327) 25% (1,376) 24% (1,307)
Cam 2: Ymchwiliad Gwyn 68% (1,441) 65%
(870)
67%
(722)
71%
(727)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 32% (691) 35% (460) 33% (356) 29% (295)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwyn 65% (129) 71% (114) 64% (90) 69% (116)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 35% (68) 29% (46) 36% (51) 31% (52)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwyn 65% (81) 72% (81) 66% (59) 64% (47)
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 35% (43) 28% (31) 34% (31) 36% (26)

Am y pedair blynedd, mae pobl o darddiad Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli yn y pryderon a gawn (cam 1) o'u cymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae maint y gorgynrychiolaeth hon wedi gostwng rhywfaint rhwng 2018/19 a 2021/22.

Yn 2021/22, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oedd 19% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 24% o'r adroddiadau a gafwyd – gwahaniaeth o bum pwynt canran. Yn 2018/19, roeddent yn cynrychioli 18% o'r boblogaeth wrth ei gwaith a 26% o'r adroddiadau a dderbyniwyd – gwahaniaeth o wyth pwynt canran. Byddwn yn parhau i fonitro'r gostyngiad hwn i weld a yw'n arwydd o duedd.

Mae'r gorgynrychiolaeth yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Dyma'r patrwm a welwyd ar gyfer y pedair blynedd, er mai graddfa'r orgynrychiolaeth yw'r isaf rydym wedi'i weld yn ystod y pedair blynedd rydym wedi rhoi gwybod am yr wybodaeth hon. Mae'r grŵp hwn yn cynrychioli 24% o'r rheini a adroddwyd i ni a 29% o'r rheini a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2021/22. Ac ystyried nifer yr unigolion ar hyn o bryd, mae hwn yn ostyngiad ystadegol arwyddocaol. Fodd bynnag, fel gyda'r gostyngiad mewn gorgynrychiolaeth yn nifer yr adroddiadau a ddaw i law, bydd angen i ni fonitro i weld a yw'r niferoedd hyn yn arwydd o duedd barhaus.

Wrth edrych ar yr hyn sy'n digwydd i adroddiadau a gafwyd am bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cafodd 23% o'r adroddiadau eu symud ymlaen i'w hymchwilio o'i gymharu â 17% o rai pobl Wyn. Mae grwpiau Asiaidd a Du yn cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau a dderbynnir, ac mae'r gyfradd maent yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn debyg (23% ar gyfer y grŵp Asiaidd a 22% ar gyfer y grŵp Du). Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod, ond yn hytrach cânt eu cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddo o'r cyfanswm a adroddwyd. Mae'r rhifau i'w gweld yn adran camau 1 a 2 yr adroddiad ategol.

O edrych ar gyfran y bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn achosion a gadarnhawyd, o'i gymharu â'r gyfran yr ymchwiliwyd i'w hachosion, mae'r gyfran yn uwch yn 2018/19, 2020/21 a 2021/22 ar gyfer y ddau achos a ddaeth i ben yn fewnol ac ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Mae'r grŵp hwn yn cyfrif am 29% o'r rheini yr ymchwiliwyd iddynt yn 2021/22, 31% o achosion mewnol wedi dod i ben a 36% o achosion wedi dod i ben yn y Tribiwnlys. Roedd y sefyllfa yn wahanol yn 2019/20, lle roedd cyfran y bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn canlyniadau mewnol a'r Tribiwnlys yn is nag yn y cam ymchwilio. Mae'n werth cofio, fodd bynnag, bod nifer yr achosion a glywir yn y Tribiwnlys, yn benodol, yn eithaf isel bob blwyddyn. Felly, gall newidiadau bach mewn niferoedd arwain at newidiadau mwy mewn ffigurau canran, ac felly rhaid bod yn ofalus wrth eu hystyried.

Oedran

Oherwydd niferoedd isel, rydym wedi cyfuno'r ddau grŵp oedran ieuengaf, gan ddangos data ar bob cam ar gyfer pobl rhwng 16 a 34 oed.

Dadansoddiad yn ôl oedran y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Oedran 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Poblogaeth wrth ei gwaith 16-34 25% (39,593) 24% (39,016) 24% (38,927) 23% (38,997)
35-44 32% (50,885) 33% (52,124) 33% (53,371) 33% (54,372)
45-54 24% (38,033) 24% (39,146) 24% (39,788) 25% (41,220)
55-64 14% (21,378) 14% (22,284) 14% (22,787) 14% (23,698)
65+ 5% (7,280) 5% (7,736) 5% (8,001) 5% (8,485)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 16-34 12% (4,440) 13% (3,959) 14% (3,913) 14% (3,894)
35-44 26% (2,161) 27%(2,088) 26% (2,365) 26% (2,336)
45-54 30%
(1,992)
28%
(1,754)
28%
(1,915)
27%
(1,864)
55-64 22%
(!,501)
22%
(1,403)
21%
(1,420)
21%
(1,439)
65+ 10% (250) 10% (616) 11% (717) 13% (867)
Cam 2: Ymchwiliad 16-34 11% (283) 12% (190) 10% (137) 12% (165)
35-44 26% (659) 29% (479) 25% (335) 26% (337)
45-54 30% (751) 28% (447) 29% (386) 27% (349)
55-64 23% (567) 22% (358) 23% (304) 21% (275)
65+ 10% (250) 9%
(150)
12% (162) 12% (187)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 16-34 13% (34) 14% (34) 19% (44) 12% (28)
35-44 25%
(64)
28% (66) 26% (60) 22% (51)
45-54 27% (69) 24% (56) 25% (58) 32% (73)
55-64 22% (55) 20% (48) 18% (43) 16% (36)
65+ 13% (33) 14% (34) 13% (30) 18% (41)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 16-34 9% (13) 5% (6) 7% (8) 2% (2)
35-44 27% (38) 25% (31) 19% (21) 23% (19)
45-54 31% (44) 30% (38) 31% (34) 33% (28)
55-64 20% (28) 25% (31) 28% (31) 20% (20)
65+ 13% (18) 16% (20) 14% (15) 18% (15)

Sylwch, efallai na fydd y rhifau'n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Ar gyfer y pedair blynedd, mae tangynrychiolaeth o'r ddau gategori oedran iau (pobl 44 oed ac iau) mewn pryderon a adroddwyd i ni o'u cymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rheini yn y categorïau oedran hŷn (45 oed a hŷn) sy'n cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu hadrodd i ni o'u cymharu â'r boblogaeth wrth ei gwaith. Mae'r orgynrychiolaeth hon yn dod yn fwy amlwg wrth i'r oedran gynyddu.

Wrth edrych ar achosion sy'n ymwneud ag unigolion sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, o'i gymharu â'r gyfran a gafodd eu hadrodd, mae patrwm tebyg ar gyfer 2018/19, 2020/21 a 2021/22. Mae'n dangos bod y gyfradd yr oedd pobl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn cynyddu gydag oedran. Yn 2021/22, ymchwiliwyd i 17% o'r rheini a ddywedodd eu bod yn 16-34 oed, 19% o'r tri chategori nesaf a 22% o'r rhai 65 oed a hŷn. Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod, ond yn hytrach cânt eu cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddo o'r cyfanswm a adroddwyd.

Mae'n anodd nodi unrhyw batrymau clir yn yr achosion a ddaeth i ben yn fewnol neu yn y Tribiwnlys dros y pedair blynedd oherwydd y niferoedd bach dan sylw.

Anabledd

Oherwydd y niferoedd bach iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwn ei adrodd – mae'r tabl wedi'i farcio â seren lle mae'r niferoedd yn rhy fach i adrodd amdanynt ar gyfer y flwyddyn honno.

Dadansoddiad yn ôl anabledd y boblogaeth wrth ei gwaith ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Disability 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22

 

Poblogaeth wrth ei gwaith
Dim anabledd wedi'i gofnodi 99%
(155,686) 
99% (158,835) 99% (160,662) 99% (164,480)
Anabledd wedi'i gofnodi 1%(1,673) 1%
(1,663)
1% (2,293) 1% (2,362)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% (6,719) 98% (6,187) 99% (6,622) 98% (6,842)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (141) 2% (106) 1% (181) 2% (149)

 

Cam 2: Ymchwiliad
Dim anabledd wedi'i gofnodi 98% (2,517) 98% (1,609) 97% (1,320) 97% (1,316)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (62) 2% (38) 3% (37) 3% (34)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Dim anabledd wedi'i gofnodi * * 97% (251) 98% (262)
Anabledd wedi'i gofnodi * * 3% (7) 2% (5)
Cam 4 (llwybr B): Achosion addaeth i ben yn y Tribiwnlys Dim anabledd wedi'i gofnodi * 95% (123) * *
Anabledd wedi'i gofnodi * 5% (6) * *

Er bod y niferoedd yn rhy fach i ddod i unrhyw gasgliadau pendant, mae pobl anabl yn cael eu gorgynrychioli mewn adroddiadau a wneir i ni, yn ystod y cam ymchwilio ac mewn achosion sydd â chanlyniad mewnol ar gyfer 2021/22. Yn 2021/22, cafodd 23% o bobl anabl yr adroddwyd wrthym eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras â nifer y pryderon y gwnaethom eu symud ymlaen fel canran o'r rhai a adroddwyd i ni (19%). Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod nifer yr unigolion anabl rydym yn eu cyfeirio ar gyfer ymchwiliad yn isel, a gallai unrhyw newid bach mewn niferoedd arwain at fwy o newid mewn canran.

Gwaith pellach ac ymchwil

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2018/19 ym mis Rhagfyr 2020, ac mae'r canfyddiadau wedi bod yn debyg yn y blynyddoedd dilynol, rydym wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith i ddeall yn well pam rydym yn gweld gorgynrychiolaeth rhai grwpiau yn ein prosesau gorfodi.

Mae'r tabl isod yn nodi beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

Ymrwymiad Camau a gymerwyd

Byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol i'r ffactorau sy'n llywio'r broses o adrodd ar bryderon am gyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ni, er mwyn canfod beth allwn ei wneud am hyn a lle y gallwn weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth.

Bydd yr ymchwil hwn yn cynnwys adolygiad o'r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar lle gwneir y penderfyniad i gyfeirio mater i'w ymchwilio (y cyfeirir ato fel cam 2 yn yr adroddiad hwn).

Rydym wedi comisiynu Prifysgol Efrog, Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Caerdydd i fwrw ymlaen â'r ymchwil hon ac maent yn gwneud cynnydd da. Rydym wedi cyhoeddi eu hadolygiad o lenyddiaeth sy'n tynnu sylw at amrywiaeth o ffactorau o'r ymchwil bresennol a allai egluro pam mae cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu riportio i ni. Mae'r ymchwil yn parhau a byddwn yn cyhoeddi'r canfyddiadau yng ngwanwyn 2024.
Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer yr unigolion sy'n datgelu gwybodaeth am eu nodweddion amrywiaeth i ni. Rydym yn uwchraddio'r platfform sy'n cynnal ein holiadur amrywiaeth unigol ar mySRA i wella ei ymarferoldeb a byddwn yn ailgydio yn ein hymgyrch i annog datgelu yn nes ymlaen eleni. Yn y cyfamser, rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyfathrebu'n uniongyrchol â darpar gyfreithwyr wrth iddynt fynd drwy'r broses awdurdodi. Bydd hyn yn tynnu eu sylw at y cwestiynau amrywiaeth, yn egluro sut mae'r data'n eu helpu nhw a'r proffesiwn ac yn annog datgelu.
Byddwn yn gwerthuso'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud drwy ein rhaglen diwygio rheoleiddiol, gyda deall yr effeithiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan allweddol o'r gwaith. Mae gennym raglen waith i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi newydd a'r Safonau a'r Rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019. Cyhoeddwyd ein gwerthusiad blwyddyn un o'n Safonau a'n Rheoliadau ym mis Rhagfyr 2021 ac mae'r gwaith yn parhau. Bydd ein hadolygiad tair blynedd o'n Safonau a'n Rheoliadau yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2023, a byddwn yn edrych ar unrhyw effeithiau EDI fel rhan o'r adolygiad hwn.
Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffe siwn a'n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach. Cyhoeddwyd adolygiad o'n gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021/22 ym mis Ionawr 2023, gan gynnwys ein gwaith i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach, drwy gyfres o weithdai ac adnoddau wedi'u targedu.
Y camau a gymerir ac ym mha amgylchiadau Lefel y camymddwyn Ein sancsiwn Sancsiwn yr SDT
Llythyr cynghori: rydyn ni'n atgoffa'r unigolion neu gwmnïau, yn ysgrifenedig, o'u cyfrifoldebau rheoleiddio. Lefel is neu lle mae cwmni wedi rheoli mater yn briodol ac yn gadarn Oes Nac ydw
Rhybuddio: rhybuddio unigolyn neu gwmni y byddwn yn cymryd camau mwy difrifol os bydd yr ymddygiad yn cael ei ailadrodd, neu os bydd y sefyllfa'n parhau. Gellir ystyried y rhybudd mewn unrhyw achos yn y dyfodol. Lefel is neu lle mae cwmni wedi rheoli mater yn briodol ac yn gadarn Oes Nac ydw
Cerydd: rydyn ni'n rhoi cerydd i unigolyn neu gwmni pan fydd wedi mynd yn groes i'n gofynion neu'n safonau yn gymharol ddifrifol. Canolig Oes Nac ydw
Dirwy: lle mae ein gofynion neu safonau wedi cael eu torri'n ddifrifol a lle gallai'r unigolyn neu'r cwmni a reoleiddir, er enghraifft, fod wedi elwa'n ariannol o'r camymddwyn, a'i bod yn briodol dileu neu leihau ei fudd ariannol. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol Hyd at £25,000* Diderfyn
Amodau ymarfer a roddir ar gyfreithiwr neu unigolyn arall rydyn ni'n ei reoleiddio: rydyn ni'n cyfyngu neu'n atal cyfreithiwr neu unigolyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu gymryd rhan mewn cytundebau/cymdeithasau busnes penodol neu drefniadau ymarfer. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd angen delio â'r risg Oes Cyfeirir ato fel 'gorchymyn cyfyngu'
Amodau ymarfer a roddir ar gwmni: rydyn ni'n cyfyngu neu'n atal cwmni, neu un o'i reolwyr, cyflogeion neu ddeiliaid budd, rhag ymgymryd â gweithgareddau penodol. Gall hyn hefyd ein helpu i fonitro'r cwmni neu'r unigolyn yn effeithiol drwy adroddiadau rheolaidd. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hynny er budd y cyhoedd Oes Cyfeirir ato fel 'gorchymyn cyfyngu'
Cerydd difrifol: mae'r Tribiwnlys D isgyblu Cyfreithwyr yn rhoi sancsiwn i'r sawl a reoleiddir am dorri ein gofynion a/neu ein safonau. Dyma'r hyn y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud sy'n cyfateb i'n cerydd ni. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd gwneud hynny er budd y cyhoedd Nac ydw Oes
Gorchymyn Adran 43 (ar gyfer unigolion nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, er enghraifft, pobl nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol): rydyn ni'n cyfyngu ar unigolion rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni. Difrifoldeb cymedrol, neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn gymharol ddifrifol Oes Oes
Atal neu ddirymu awdurdodiad/cydnabyddiaeth cwmni: rydyn ni'n dileu awdurdodiad cwmni naill ai'n barhaol neu dros dro. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol Oes Oes
Gwahardd: Mae'r Tribiwnlys yn gallu gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr hefyd ohirio cyfnod gwahardd, ar yr amod bod gorchymyn cyfyngu yn parhau mewn grym. Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol Nac ydw Oes
Dileu: mae'r Tribiwnlys yn atal cyfreithiwr rhag ymarfer yn gyfan gwbl. Mae enw'r cyfreithiwr yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol Nac ydw Oes

* Fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen.

Canlyniad y cytunwyd arno
Dewis arall yn lle gwrando ar achos yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Lle bo'n briodol, mae'n ffordd gost-effeithiol, gyflym a chymesur o ddatrys mater. Rhaid i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr gymeradwyo'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Strwythur busnes amgen (ABS)
Mae strwythur busnes amgen hefyd yn cael ei alw'n gorff trwyddedig, ac mae'n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt, gan agor yr hyn a oedd gynt yn farchnad gaeedig.
Canfyddiad/canfyddiad a rhybudd
Canlyniad ar gyfer camymddwyn mwy arwyddocaol ond a ddigwyddodd unwaith yn unig. Gellir ystyried y canfyddiad/canfyddiad a rhybudd yng nghanlyniad unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.
Dirwy
Cosb ariannol. Rydyn ni'n gallu rhoi dirwy hyd at £2,000 i gwmnïau, cyfreithwyr ac unigolion eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Gallwn roi dirwyo o hyd at £250m i strwythur busnes amgen a hyd at £50m i reolwyr a gweithwyr strwythur busnes amgen rydyn ni'n ei reoleiddio. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr roi dirwyon diderfyn ar unigolion a chwmnïau.
Ymyrryd
Camau y byddwn yn eu cymryd os ydyn ni o'r farn bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu oherwydd bod angen amddiffyn buddiannau cleientiaid fel arall. Yn gyffredinol, bydd hyn yn golygu cau'r cwmni a mynd ag arian a ffeiliau cleientiaid i ffwrdd i'w cadw'n ddiogel.
Yr Ombwdsmon Cyfreithiol
Sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael gan eu cyfreithiwr.
Llythyr cynghori
Llythyr rydyn ni'n ei anfon i atgoffa unigolion neu gwmnïau, yn ysgrifenedig, o'u cyfrifoldebau rheoleiddio.
Dim gorchymyn
Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gall dim gorchymyn olygu bod y Tribiwnlys yn dod i benderfyniad o'n plaid, ond yn penderfynu nad oes angen ac nad yw'n briodol rhoi sancsiwn na rheolaeth. Gall hefyd olygu nad yw'n dod i benderfyniad o'n plaid.
Penderfyniad arall
Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gall penderfyniad arall olygu cerydd difrifol neu orchymyn adran 43, er enghraifft.
Cerydd
Rydyn ni'n rhoi cerydd i unigolyn neu gwmni i ddangos ein bod yn anghymeradwyo pan fydd rhywun wedi mynd yn groes i'n gofynion neu ein safonau yn gymharol ddifrifol.
Amod ymarfer
Sancsiwn rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gallu ei roi ar gyfreithwyr, cwmnïau a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Mae'n cyfyngu ar weithgarwch penodol neu'n eu gwahardd a gall ein helpu i fonitro'r cwmni neu'r unigolyn yn effeithiol drwy adroddiadau rheolaidd
Cytundeb setlo rheoleiddiol
Yn debyg i ganlyniadau y cytunwyd arnynt, mae cytundebau setlo rheoleiddiol yn caniatáu i ni gytuno ar ganlyniadau priodol gydag unigolion a chwmnïau yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur. Yn wahanol i ganlyniadau y cytunwyd arnynt, maent yn cael eu trin yn fewnol ac fel arfer yn digwydd cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i gyfeirio'r mater i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Cerydd difrifol
Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn rhoi cerydd difrifol i unigolyn pan fydd wedi torri ein rheoliadau. Dyma'r hyn y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud sy'n cyfateb i'n cerydd ni.
Yr Ymatebydd
Yr atebydd yw'r cwmni, y cyfreithiwr neu'r unigolyn arall rydyn ni'n cymryd camau gorfodi yn ei erbyn.
Cofrestr cyfreithwyr
Dyma gofnod o'r cyfreithwyr rydyn ni wedi'u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr yn ymarfer y gyfraith ar y pryd.
Sancsiynau
Camau a gymerwyd i ddisgyblu cwmnïau, cyfreithwyr neu bobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg ganddynt hwy neu eraill yn y dyfodol, ac i gynnal safonau a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.
Gorchymyn adran 43
Sancsiwn rydyn ni'n ei roi i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, er enghraifft, rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol. Rydyn ni'n eu hatal rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.
Adran 47 (2) (g)
Gorchymyn y mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn ei osod sy'n atal cyn-gyfreithiwr sydd wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr rhag cael ei ychwanegu ati heb ei ganiatâd.
Gorchymyn adran 99
Sancsiwn rydyn ni'n ei roi i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, gan eu gwahardd rhag bod yn weithwyr neu rhag ymgymryd â rhai gweithgareddau, fel gweithredu fel rheolwr, pennaeth ymarfer cyfreithiol neu'r pennaeth cyllid a gweinyddiaeth.
Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Tribiwnlys annibynnol lle byddwn yn erlyn cwmnïau, cyfreithwyr a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio. Mae ganddo bwerau nad oes gennym ni, er enghraifft, rhoi dirwyon diderfyn neu ddileu cyfreithwyr oddi ar y gofrestr.
Dileu oddi ar y gofrestr
Sancsiwn lle mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer a bod ei enw'n cael ei dynnu oddi ar y gofrestr.
Ataliad
Sancsiwn y gallwn ei osod i atal awdurdodiad cwmni naill ai'n barhaol neu dros dro. Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn gallu gwahardd cyfreithiwr rhag ymarfer naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr hefyd ohirio cyfnod gwahardd, ar yr amod bod gorchymyn cyfyngu yn parhau mewn grym.