Addysg a hyfforddiant

Rydyn ni'n gosod safonau addysg a hyfforddiant ar gyfer cyfreithwyr er mwyn sicrhau bod y bobl rydyn ni’n eu caniatáu yn y proffesiwn yn gymwys. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn cael gwasanaeth o safon gan eu cyfreithwyr.

Rydyn ni am i bawb sy'n ymuno â'r proffesiwn gyrraedd yr un safonau proffesiynol uchel. Ym mis Medi 2021 cyflwynwyd un asesiad trylwyr, sef yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE). Mae’r asesiad hwn wedi cymryd lle llwybrau'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ar gyfer cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae’n rhoi hyder i’r cyhoedd a’r proffesiwn mewn gwasanaethau cyfreithiol ac yn hybu rhagor o hyblygrwydd a dewis mewn hyfforddiant. Bydd yr hyblygrwydd, a fydd yn cynnwys dewisiadau 'ennill wrth ddysgu', yn helpu i hybu proffesiwn amrywiol, gan ddenu'r gorau a'r mwyaf disglair o bob cymuned.

Mae'r siartiau isod yn cynnwys gwybodaeth am y llwybrau i'r proffesiwn cyfreithiwr, a’r niferoedd sy’n ymuno â'r proffesiwn, yn ogystal â'r rhai sy’n dal Hawliau i Ymddangos mewn Uwch Lys. Mae manylion am ein gwaith ehangach ym maes addysg a hyfforddiant, cymhwysedd parhaus, a gwybodaeth am sut mae cymhwyso drwy lwybr yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr ar gael ar y wefan.  Mae rhestr o'r termau ar gael ar waelod y dudalen hon.

Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau hyn ar gyfer mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2020/21 yn gywir fel ar 31 Hydref 2021.

Open all

Mae cyfreithwyr yn ymuno â’r proffesiwn ar hyn o bryd drwy amrywiaeth o lwybrau. Sef:

  • Sefyll yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (gan ei bod wedi dechrau ym mis Medi 2021, nid oes ffigurau derbyn eto).
  • Dilyn gradd draddodiadol yn y gyfraith neu radd nad yw’n gysylltiedig â’r gyfraith a’r arholiad proffesiynol cyffredin, wedi’i ddilyn gan y cwrs ymarfer y gyfraith (LPC) ac yna cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT).
  • Cymhwyso fel cyfreithiwr dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS).
  • Ymgeisio fel cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (mae amodau’n berthnasol). Ar ôl i'r DU adael yr UE yn 2020, dim ond cyfreithwyr o’r Swistir sydd wedi gallu cymhwyso drwy’r llwybr hwn ers mis Ionawr 2021.
  • Ymgeisio fel cyfreithiwr sydd wedi’i dderbyn yn barod yng Ngogledd Iwerddon neu yn Iwerddon.
  • Cymhwyso fel Swyddog Cyfreithiol Siartredig ac yna mynd ymlaen i wneud yr LPC.
  • Ymgeisio fel clerc ynadon cynorthwyol (mae amodau’n berthnasol).
  • Dull cyfatebol. Mae hyn yn caniatáu i unigolion gymhwyso drwy ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam hyfforddi penodol drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.

Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr unigolion a ymunodd â’r proffesiwn o bob llwybr rhwng 2013 a 2021. Mae cyfanswm y cyfreithwyr newydd sydd wedi ymuno â’r proffesiwn wedi aros yn gyson dros y pum mlynedd ddiwethaf, sef tua 6,800 y flwyddyn. Mae nifer yr RELs yn uwch eleni o’i chymharu â blynyddoedd blaenorol oherwydd Brexit a’r dyddiad cau o 31 Rhagfyr 2020 i RELs cymwys wneud cais i gael eu derbyn ar y gofrestr.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
LPC yna PRT 5,320 5,304 5,501 5,513 5,575 5,744 5,475 5,725
QLTS 251 346 421 541 603 521 606 691
CILEX a chlerc yr ynadon cynorthwyol 137 204 240 251 323 343 323 352
Gweriniaeth Iwerddon 158 134 148 136 131 188 124 149
Gogledd Iwerddon 27 32 31 17 28 35 31 41
EQM (o 2014/15) - 8 66 71 85 88 99 109
REL 20 32 29 53 34 76 60 100
QLTT 498 51 24 24 7 8 5 9
Arall - - - 1 - - 0 -
Cyfanswm 6,411 6,111 6,460 6,607 6,786 7,003 6,723 7,176

Sylwch:

  • Roedd y Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT) yn rhagflaenydd i’r QLTS ond mae bellach wedi cael ei ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â’r proffesiwn drwy’r llwybr hwn.
  • Gall ‘arall’ olygu bod yr unigolyn wedi cael ei dderbyn drwy gais eithriad Morgenbesser (ar gyfer y rheini sy’n rhannol gymwys o dan un o gymwysterau’r UE).
  • Mae rhai o’r ffigurau hyn yn wahanol i’r hyn rydyn ni wedi’i adrodd mewn blynyddoedd blaenorol. Rydyn ni nawr yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd newydd ac rydyn ni wedi adolygu data blaenorol. Mae’r dull newydd hwn yn rhoi mwy o eglurder ynghylch pa lwybr mae ymgeisydd wedi’i ddilyn, gyda mwy o lwybrau wedi’u nodi yn y siart uchod, ac rydyn ni wedi cywiro unrhyw wallau data yn y gorffennol.

Sefydliadau’n cynnal cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)

O dan y llwybr LPC, rydyn ni’n awdurdodi sefydliadau i ddarparu cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, sef rhan o hyfforddiant cyfreithiwr sy’n seiliedig ar waith. Mae oddeutu tri chwarter y rhain yn gwmnïau cyfreithiol, ac mae’r gweddill yn dimau cyfreithiol mewnol neu’n ganolfannau cyfraith.

Mae’r nifer cynyddol o sefydliadau cyfreithiol sydd wedi'u hawdurdodi i gynnal cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig yn dangos galw cynyddol gan gwmnïau i ddatblygu talent a hyfforddi darpar gyfreithwyr yn eu busnes eu hunain.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
4,482 4,881 5,163 5,497 5,746 5,877 6,219 6339

Mae cymhwyso drwy brentisiaeth cyfreithiwr yn gyfle i ennill cyflog a dysgu wrth wneud y swydd, ac mae’n cael gwared ar gostau hyfforddiant a chost sefyll arholiadau. Mae’n annog pobl o bob math o gefndiroedd i ddod yn gyfreithwyr. Fe wnaethom ddatblygu’r brentisiaeth arloesi yn y gyfraith gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau ei bod yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt.

Rydyn ni’n falch o weld bod nifer y prentisiaethau i gyfreithwyr yn parhau i gynyddu. Bydd yr holl brentisiaid yn cymhwyso drwy gymryd yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

Mae’r ffigurau isod yn dangos sawl un ddechreuodd o’r newydd ym mis Medi bob blwyddyn.

2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
30 107 170 242 208

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer y prentisiaethau i gyfreithwyr. Mae’r ffigurau isod yn gywir.

Rydyn ni’n asesu a yw ymgeiswyr sy’n ceisio cael eu derbyn fel cyfreithwyr yn addas i ymuno â’r proffesiwn drwy ein prawf cymeriad ac addasrwydd. Mae’r cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn yn cynnwys y canlynol: A yw’r ymgeisydd wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd? A yw’n wynebu unrhyw gamau gorfodi gan reoleiddiwr arall? A yw erioed wedi’i ddatgan yn fethdalwr? Wrth wneud ein penderfyniadau, rydyn ni’n ystyried yr holl wybodaeth y mae ymgeiswyr yn ei rhoi i ni ac, os oes pryderon posibl ynghylch a ydynt yn addas, unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i wella eu cymeriad.

Unigolion na chafodd eu derbyn i’r proffesiwn 2013-2021

Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwrthod llond llaw o ymgeiswyr. Yn gyffredinol, y rheswm am hyn yw bod yr ymgeisydd wedi methu â datgelu gwybodaeth bwysig sy’n ymwneud â’i gymeriad neu ei addasrwydd, neu ei fod wedi methu â bodloni ein gofynion. Mae’r nifer sy’n cael eu gwrthod bob blwyddyn yn gyfyngedig gan fod rhai pobl yn tynnu eu ceisiadau’n ôl pan na allant fodloni ein gofynion.

Roedd cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn cael eu gwrthod yn 2013/14 oherwydd bod nifer o unigolion yn ymgeisio dan y cynllun QLTT cyn iddo gael ei ddisodli gan y QLTS. Nid oedd llawer o unigolion yn gallu dangos bod ganddynt y profiad gwaith angenrheidiol i drosglwyddo dan y cynllun ac felly nid oeddent yn gymwys i ymgeisio.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
31 13 2 5 4 3 3 7

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer yr unigolion a gafodd eu gwrthod yn ein Hadolygiad Blynyddol 2015/16 a’n Hadolygiad Blynyddol 2017/18. Mae’r ffigurau isod yn gywir.

Mae cymhwyster hawl i ymddangos mewn uwch lys yn caniatáu i gyfreithwyr weithredu fel eiriolwr yn yr uwch lysoedd. Y rhain yw Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr. Mae nifer y cyfreithwyr rydyn ni’n eu rheoleiddio sydd â hawl i ymddangos mewn uwch lys i’w gweld isod.

Mae cynnydd graddol wedi bod yn nifer y cyfreithwyr sydd â chymhwyster hawl i ymddangos mewn uwch lys dros y saith mlynedd diwethaf. Mae’r cynnydd hwn yn deillio o gynnydd yn y rhai sydd â chymhwyster i ymddangos mewn achosion sifil, ond mae gostyngiad bach wedi bod yn y rheini sydd â hawliau ar gyfer achosion troseddol neu’r ddau.

Mae’r canrannau’n cynrychioli cyfran o nifer yr unigolion sydd â hawl i ymddangos mewn achosion sifil, achosion troseddol, neu’r ddau ar gyfer y flwyddyn a ddangosir ar y chwith.

Sifil Troseddol Y ddau Cyfanswm
2013/14

1,613 (25%)

3,372 (52%)

1,556 (24%)

6,541

2014/15

1,797 (27%)

3,363 (50%)

1,528 (23%)

6,688

2015/16

1,947 (29%)

3,305 (49%)

1,483 (22%)

6,735

2016/17

2,131 (31%)

3,272 (48%)

1,464 (21%)

6,867

2017/18

2,279 (33%)

3,200 (46%)

1,437 (21%)

6,916

2018/19

2,439 (35%)

3,153 >(45%)

1,417 (20%)

7,009

2019/20

2,533

(35%)

3,160

(44%)

1,444

(20%)

7,137

2020/21

2,714

(38%)

3,087

(43%)

1,408

(20%)

7,209

Sylwch fod y ffigurau hyn arfer adlewyrchu’r niferoedd ar ddechrau pob cyfnod adolygu, yn hytrach na diwedd y cyfnod. Mae’r tabl newydd wedi cael ei ddiweddaru i ddangos y ffigurau ar ddiwedd y flwyddyn, ar gyfer pob blwyddyn.

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
Un asesiad trylwyr, a gyflwynwyd ym mis Medi 2021, y bydd angen i bob darpar gyfreithiwr ei wneud i gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae wedi’i rannu’n ddwy ran, sef SQE1 a SQE2, ac mae’n asesu gwybodaeth gyfreithiol ymarferol a sgiliau cyfreithiol ymarferol.</dd
Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE)
Cwrs cyfraith ôl-radd sy’n cael ei ddilyn gan raddedigion nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n dymuno bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Fe’i gelwir hefyd yn Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC)
Cwrs hyfforddiant galwedigaethol gorfodol a ddilynir fel arfer ychydig cyn y PRT. Mae’n cyfuno hyfforddiant academaidd ac ymarferol, er mwyn paratoi myfyrwyr i weithio mewn cwmni cyfreithiol.
Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)
Dysgu gorfodol sy’n seiliedig ar waith, fel arfer mewn cwmni cyfreithiol, sy’n rhan o’r cam galwedigaethol ar y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys asesiad y mae’n rhaid i bobl ei wneud os ydynt eisoes wedi cymhwyso fel cyfreithiwr mewn awdurdodaeth arall ac yn dymuno cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Bydd bargyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a Lloegr ac sy’n dymuno croesgymhwyso fel cyfreithiwr hefyd yn cymhwyso drwy’r llwybr hwn. 
Dull cyfatebol (EQM)
Llwybr i unigolion gael eu derbyn fel cyfreithwyr sy’n caniatáu iddynt ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam hyfforddi penodol drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.
Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT)
Mae pwrpas y prawf hwn yr un fath â’r QLTS. Mae wedi cael ei ddiddymu’n raddol a’i ddisodli gan y QLTS. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â’r proffesiwn drwy’r llwybr hwn.
Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx)
Darparu hyfforddiant i fod yn weithredwr cyfreithiol.