Diogelu cleientiaid, ymyriadau a’r gronfa iawndal

Os ydym yn gwybod bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os oes angen diogelu buddiannau cleientiaid am unrhyw reswm arall, gallwn gymryd camau a chau cwmni neu bractis cyfreithiwr. Rydyn ni’n galw hyn yn ymyriad. Pan fyddwn yn ymyrryd, byddwn yn cymryd meddiant o holl arian, ffeiliau a dogfennau cleientiaid ac yn cymryd camau i'w dychwelyd i’w perchnogion. Yna, nid yw'r cwmni'n gallu gweithredu mwyach.

Gall ein cronfa iawndal wneud taliadau i aelodau'r cyhoedd a busnesau bach ar gyfer arian a gymerwyd neu a ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr. Fel arfer, mae pobl yn gwneud hawliad i'r gronfa ar ôl i ni ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol roeddent yn ei ddefnyddio. Rydyn ni’n rheoli'r gronfa ac mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu i mewn iddi drwy gyfraniad blynyddol.

Mae’r siartiau isod yn rhoi manylion am ein gwaith yn y maes hwn ac yn tynnu sylw at batrymau a thueddiadau allweddol.

Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau hyn ar gyfer mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf – hy, mae'r ffigurau ar gyfer 2020/21 yn gywir fel ar 31 Hydref 2021.

Open all

Ymyriadau yn y 10 mlynedd diwethaf

2010/11 56
2011/12 42
2012/13 50
2013/14 51
2014/15 40
2015/16 37
2016/17 50
2017/18 33
2018/19 37
2019/20 40
2020/21 26

Mae'r duedd gyffredinol yn y rhesymau dros ymyriad wedi parhau. Y tri rheswm mwyaf cyffredin dros ymyriad, o hyd, yw diogelu buddiannau cleientiaid, achosion difrifol o dorri ein rheolau, a/neu reswm i amau anonestrwydd.

Mae'r gronfa iawndal yn gronfa ddewisol pan fydd popeth arall wedi methu. Gall wneud taliadau pan fydd arian wedi cael ei gymryd neu ei golli gan rywun rydyn ni'n ei reoleiddio. Mewn rhai amgylchiadau, gall hefyd wneud taliadau lle dylai yswiriant indemniad cwmni fod wedi diogelu colled, ond nad oedd gan y cwmni yswiriant yn ei le.

Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn talu i mewn i'r gronfa iawndal drwy gyfraniad blynyddol. Bob blwyddyn, mae ein Bwrdd yn ystyried ac yn pennu'r cyfraniad y mae’n rhaid i’r cwmnïau a'r unigolion rydyn ni'n eu rheoleiddio ei dalu i’r gronfa iawndal. Mae'r cyfraniadau'n ariannu'r taliadau a wnaed, y cronfeydd wrth gefn rydyn ni’n eu neilltuo ar gyfer hawliadau yn y dyfodol, a chostau delio â'r hawliadau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys cost ymyrryd mewn cwmnïau lle mae arian a ffeiliau cleientiaid mewn perygl.

Ar gyfer 2021/22, roedden ni’n gallu lleihau’r cyfraniadau gan gyfreithwyr unigol o £50 i £40 ac o £950 i £760 ar gyfer cyfraniadau gan gwmnïau.

2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22
Cyfraniad cyfreithiwr unigol £32 £32 £32 £40 £90 £60 £50 £40
Cyfraniad cwmni £548 £548 £548 £778 £1,680 £1,150 £950 £760

Bygythiad cynlluniau buddsoddi amheus

Mae cyfraniadau i'r gronfa iawndal wedi lleihau, a hynny'n bennaf oherwydd y risg is o hawliadau a allai fod yn uchel eu gwerth yn cael eu gwneud i’r gronfa iawndal mewn cysylltiad â chynlluniau buddsoddi amheus. Efallai y bydd cynlluniau hyn yn ceisio defnyddio cwmnïau cyfreithiol go iawn fel canolwr i wneud i gynlluniau buddsoddi amheus ymddangos yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn ddiogel. Mae ein hadolygiad thematig ar gyfer 2020 yn tynnu sylw at enghreifftiau o gynlluniau o'r fath, sy’n perthyn i un o bedwar maes fel arfer: datblygiadau neu adnewyddiadau wedi’u harwain gan y prynwr (ee oddi ar y cynllun (off-plan)); datblygiadau ffracsiynol (ee ystafelloedd, mannau neu unedau o fewn cynlluniau ehangach); buddsoddiadau amgen (ee metelau gwerthfawr, gwinoedd da); a chynhyrchion ariannol cymhleth (ee benthyciadau, cyfranddaliadau, bondiau).

Mewn llawer o achosion, nid yw ein cronfa iawndal yn gallu talu pobl sydd wedi colli arian oherwydd eu bod wedi buddsoddi yn y cynlluniau hyn. Mae hyn oherwydd nad yw’r hawliad yn cyd-fynd â’n rheolau, yn aml oherwydd bod cynlluniau o’r fath yn weithgareddau nad ydynt yn rhan o fusnes arferol cyfreithiwr (mae rhagor o wybodaeth o dan Hanes hawliadau’r gronfa iawndal). Fodd bynnag, rydym yn dal wedi talu swm sylweddol.

Cafodd llai o hawliadau mewn cysylltiad â chynlluniau buddsoddi eu gwneud i’r gronfa iawndal a dylai rheolau newydd a ddaeth i rym ar 5 Gorffennaf 2021 leihau’r baich posibl ar y gronfa iawndal ymhellach.

Mae cyfanswm y taliadau rydyn ni’n eu gwneud o’r gronfa bob blwyddyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau: nifer a natur yr ymyriadau rydyn ni wedi’u cynnal, a allai fod wedi digwydd yn ystod y flwyddyn fusnes flaenorol mewn rhai achosion, a gwerth hawliadau unigol.

Taliadau'r gronfa iawndal yn y saith mlynedd ddiwethaf

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Nifer yr ymyriadau 51 40 37 50 33 37 40 26
Cyfanswm taliadau’r gronfa iawndal £24.2m £17.8m £10.3m £15.2m £18.1m £7.5m £10.4m £26.9m

Hawliadau'r gronfa iawndal – 2020-2021

Roedd y gronfa iawndal wedi cael nifer uchel iawn o geisiadau gan un ymyriad, sef y prif reswm dros y cynnydd yn yr hawliadau. Mae hyn er gwaethaf y gostyngiad yn nifer yr ymyriadau. Ar ben hynny, cafodd taliadau eraill eu gwneud i grŵp mawr o hawliadau sy’n ymwneud â chwmni nad oedd yn destun ymyriad.

Hanes hawliadau’r gronfa iawndal

Bydd nifer yr hawliadau a wneir a’r rhai sy’n arwain at daliad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel nifer a natur yr ymyriadau a wneir, nifer y cwmnïau cyfreithiol yr effeithir arnynt ac a ydym yn gallu gwneud taliad.

Dim ond os yw’r hawliad yn dod o fewn ein rheolau y gallwn wneud taliadau. Ac mae rhai rheolau sy’n berthnasol i achosion lle gallwn wrthod hawliad, er enghraifft dan yr amgylchiadau canlynol:

  • dylai yswiriwr y cwmni ddelio â’r hawliad
  • mae’r hawliad gan fusnes sydd â throsiant o £2m neu fwy’r flwyddyn
  • mae’r hawliad ar gyfer colledion sy’n deillio o weithgarwch nad yw’n rhan o fusnes arferol cyfreithiwr
  • mae’r hawliad yn cael ei wneud y tu allan i’r terfyn amser
  • mae’r hawliad yn codi o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r cleient yn cymryd gofal priodol o’i arian.

Hanes hawliadau’r gronfa iawndal – prif rifau

Nid ydym yn delio â phob hawliad sy’n cael ei wneud a’i gau o fewn yr un cyfnod o 12 mis. Dyma pam, mewn rhai blynyddoedd, cafodd mwy o hawliadau eu cau o’i gymharu â’r rhai a gafodd eu creu.

Y taliad mwyaf yn ystod 2020-2021 oedd taliad brys o £1.6 miliwn a oedd yn ymwneud â thrafodiad trawsgludo, lle roedd yr ymgeiswyr yn rhwym dan gontract i gwblhau ar y diwrnod y cynhaliwyd yr ymyriad.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Hawliadau a wnaed 1,737 1,054 1,561 2,174 2,648 1,425 1,120 1,599
Hawliadau wedi’u cau 2,006 1,426 1,531 1,710 3,217 1,553 1,146 1,910
Hawliadau’n arwain at daliad 952 645 604 680 1,553 488 367 616
Amcangyfrif o werth cyfartalog hawliad llwyddiannus £25,000 £28,000 £17,000 £22,000 £12,000 £15,000 £28,000 £41,698

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd nifer yr achosion a gafodd eu creu a’u cau yn ein Hadolygiad Blynyddol 2015/16. Mae’r ffigurau isod yn gywir.

Y tri phrif reswm dros wneud taliadau

Mae’r rhesymau mwyaf cyffredin pam ein bod yn gwneud taliadau’n ymwneud â meysydd ymarfer lle mae trafodion ariannol mawr yn digwydd, fel trawsgludo a phrofiant. Mae’r rhesymau wedi’u nodi yn y tabl isod.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
1 Profiant – £4.8m Dychwelyd blaendal – £3.5m Profiant – £3.9m Enillion ar werthiannau – £4.5m Profiant – £5.3m Profiant – £2.7m Enillion ar werthiannau – £2.9m Profiant – £8.2m
2 Morgais heb ei dalu – £3.6m Profiant – £3.4m Enillion ar werthiannau – £1m Profiant – £3.3m Twyll trawsgludo – £3.7m Twyll morgais – £0.9m Dychwelyd blaendal – £2.7m Blaendal - £1.7m
3 Twyll trawsgludo – £2.4m Dychwelyd taliad ar sail costau – £2.2m Arian cyffredinol cleientiaid – £1m Dychwelyd blaendal – £2.6m Enillion ar werthiannau – £2.8m Dwyn arian cleientiaid – £0.8m Profiant – £2m Enillion ar werthiannau – £0.9m

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi cam-adrodd gwerth yr enillion ar werthiannau ar gyfer 2016/17 yn ein Hadolygiadau Blynyddol ar gyfer 2016/17 a 2017/18. Mae’r ffigurau isod yn gywir.

Rydyn ni’n ceisio adennill costau ymyrryd mewn cwmni rydyn ni’n ei reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys:

  • costau defnyddio cwmni cyfreithiol allanol i’n helpu i ymyrryd
  • unrhyw daliadau y byddwn yn eu gwneud o’r gronfa iawndal
  • unrhyw gostau llys ac ymchwiliad mewnol gan y cwmni dan sylw.

Mae ein cyllid yn dod o’r cwmnïau cyfreithiol a’r cyfreithwyr rydyn ni’n eu rheoleiddio, felly mae adennill costau’n bwysig oherwydd, yn y pen draw, mae ein costau’n cael eu trosglwyddo i’r cyhoedd sy’n prynu gwasanaethau cyfreithiol. Byddwn yn ystyried pob ffordd o adennill costau, gan gynnwys cymryd camau yn erbyn y cyfreithwyr neu’r rheolwyr sydd wedi camu i mewn, yswiriwr y cwmni ac, mewn rhai achosion, cyn bartneriaid a chyfarwyddwyr y cwmni.

Mae’r tabl isod yn dangos costau ymyriadau a thaliadau’r gronfa iawndal rydyn ni wedi’u hadennill dros y saith mlynedd diwethaf. Ar gyfartaledd, rydyn ni wedi adennill tua £2.9m y flwyddyn ond mae hyn yn dibynnu’n helaeth ar fanylion ac amgylchiadau’r ymyriadau.

2013/14 2014/15 2015/16 2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
£3.2m £3.7m £1.9m £3.5m £4.7m £2.5m £2.9m £1.2m