Ein Gwaith i Atal Gwyngalchu Arian 2018/19

Ein rôl

Beth yw gwyngalchu arian?

Gwyngalchu arian yw pan fo troseddwyr yn ‘glanhau' yr enillion ariannol a gânt o droseddu. Mae troseddwyr yn troi'r enillion yn asedau, fel tai neu gwmnïau, neu gronfeydd sy'n ymddangos yn ddilys, er enghraifft, arian mewn cyfrif banc. Mewn rhai achosion, caiff arian wedi'i wyngalchu ei ddefnyddio i ariannu terfysgaeth.

Mae gwyngalchu arian yn gwneud i'r elw hwn edrych fel ffynonellau incwm dilys, ac mae'r troseddwyr wedyn yn gallu ei wario'n ffri a heb godi amheuaeth. Mae troseddwyr o'r fath yn aml yn gwneud eu harian o droseddau difrifol megis twyll, neu fasnachu pobl, bywyd gwyllt a chyffuriau.

Mae troseddu cyfundrefnol yn costio i economi'r Deyrnas Unedig dros £37 biliwn bob blwyddyn, a chred yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) fod 4,500 o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Hyn, ynghyd â chynnydd mewn ymosodiadau terfysgol yn y blynyddoedd diwethaf, yw'r rheswm pam bo brwydro yn erbyn gwyngalchu arian yn un o'r blaenoriaethau yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ac mae cyfarwyddebau UE a deddfwriaeth y DU wedi'u sefydlu at y pwrpas.

Pam bod hyn yn ymwneud â ni

Mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn atyniadol i droseddwyr oherwydd eu bod yn prosesu symiau mawr o arian, mae pobl yn ymddiried ynddynt, a gallant wneud i arian neu asedau sy'n cael eu trosglwyddo ymddangos yn ddilys. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol yn gweithio'n galed i atal a chanfod arian sy'n cael ei wyngalchu a chymryd y camau angenrheidiol, ond mae rhai yn cael eu dwyn i mewn yn ddiarwybod. Gallai nifer fechan iawn ohonynt fod hyd yn oed yn cydweithredu neu'n gweithio â'r troseddwyr yn fwriadol.

Ein rôl ni i atal gwyngalchu arian

Mae'r rheoliadau gwyngalchu arian yr ydym yn eu gweithredu yn deillio o gyfarwyddebau'r UE – megis y Bedwaredd Gyfarwyddeb Atal Gwyngalchu Arian a'r Bumed Gyfarwyddeb Atal Gwyngalchu Arian (5MLD). Caiff y cyfarwyddebau hyn wedyn eu dwyn i mewn i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Daethant yn Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 ac yn Rheoliadau Gwyngalchu Arian ac Ariannu Terfysgaeth (Diwygio) 2019.

Mae'r rheoliadau hyn yn disgrifio'r mathau o fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau a allai, o bosibl, gael eu targedu gan bobl sy'n ceisio gwyngalchu arian. Maent yn cynnwys banciau, asiantau gwerthu tai a rhai gwasanaethau cyfreithiol. Mae oddeutu dwy ran o dair o'r cwmnïau a awdurdodwn yn syrthio o fewn cwmpas y rheoliadau gwyngalchu arian. Fel goruchwyliwr i gyrff proffesiynol, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y cwmnïau a oruchwyliwn, ac y gallent gael eu targedu gan wyngalchwyr arian, yn cydymffurfio â'r rheoliadau a bod y rheolaethau priodol ar waith ganddynt.

Rydym yn ystyried bod gwyngalchu arian yn fater difrifol dros ben. Rydym yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg cyfreithwyr a chwmnïau y gallent gael eu targedu gan wyngalchwyr arian, er enghraifft, drwy ein hysbysiadau rhybuddio. Ac, rydym yn cyhoeddi canllawiau, yn ogystal ag yn cynnal adolygiadau thematig (gydag ein hadolygiad diweddaraf yn canolbwyntio ar gwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau cwmniau ac ymddiriedolaethau), sy'n amlygu'r arferion gorau ac arferion gwael wrth ddelio â'r risgiau y mae gwyngalchu arian yn eu hachosi.

Rydym yn ymchwilio i bryderon a chymerwn gamau gorfodi pan fo angen. Gwnawn hyn fel arfer os gwelwn fod cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall yr ydym yn eu rheoleiddio wedi methu â dilyn y rheoliadau, heb roi rheolaethau perthnasol ar waith i atal gwyngalchu arian, neu heb fodloni eu rhwymedigaethau mewn ffordd arall. Byddwn hefyd yn gweithredu'n gadarn os gwelwn fod cwmni neu rywun yr ydym yn ei reoleiddio wedi chwarae rhan mewn gweithgaredd gwyngalchu arian yn fwriadol.

Gwyngalchu arian drwy'r sector cyfreithiol

Dyma rai ffyrdd y gallai cwmnïau a chyfreithwyr fod yn rhan o weithgaredd gwyngalchu arian, naill ai'n fwriadol neu'n ddiarwybod:

  • Trawsgludo: troseddwyr yn defnyddio enillion troseddu i brynu tai i fyw ynddynt, i'w rhentu neu i'w gwerthu. Mae trawsgludo yn waith arferol i lawer o gyfreithwyr a chwmnïau. Oherwydd cynifer o drafodion o'r fath sy'n mynd rhagddynt, a'r symiau mawr o arian sy'n newid dwylo, rhaid cymryd gofal mawr i sylwi ar weithgaredd amheus.
  • Sefydlu ymddiriedolaethau neu gwmnïau cregyn: mae cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn rhan hanfodol o drafodion o'r fath a gallant ychwanegu haen o barchusrwydd neu ddilysrwydd iddynt.  Mae troseddwyr yn aml yn cuddio eu harian mewn ymddiriedolaethau neu gwmnïau cregyn – gan guddio i bwy mae'r arian yn perthyn. Rhaid i weithwyr cyfreithiol proffesiynol fod yn effro i'r posibilrwydd hwn.
  • Camddefnyddio cyfrifon cleientiaid: ni ddylai ond arian sy'n ymwneud â thrafodiad cyfreithiol sylfaenol neu wasanaeth sy'n ffurfio rhan o weithgareddau rheoledig arferol cwmnïau cyfreithiol fod yn eu cyfrifon cleientiaid. Ni ddylai cwmnïau cyfreithiol gael eu defnyddio i dderbyn arian a thalu arian allan fel banciau. Bydd troseddwyr soffistigedig yn targedu cwmnïau sydd â systemau a phrosesau llac, ac mae'n bwysig nad yw cwmnïau'n gadael i hyn ddigwydd.
  • Methu â chynnal prosesau diwydrwydd dyladwy priodol: gall cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr, yn ddiarwybod, ganiatáu i arian gael ei wyngalchu os na wnânt archwiliadau digonol ar ffynhonnell arian darpar gleientiaid, cleientiaid newydd neu'u cleientiaid presennol.
  • Ymdrin â chynigion neu drafodion uchel eu risg neu anghyffredin: er enghraifft, pan fo rhywun yn cysylltu â nhw yn cynnig buddsoddi yn y cwmni neu roi chwistrelliad o arian i gefnogi'r practis.

Ffeithiau cyflym am Atal Gwyngalchu Arian

  • £100 biliwn Faint y mae gwyngalchu arian yn ei gostio i'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn
  • 7,000 Nifer y cwmnïau'r ydym yn eu rheoleiddio ac sy'n syrthio dan gwmpas y rheoliadau gwyngalchu arian
  • 59 Nifer y cwmnïau yr ymwelwyd â nhw fel rhan o'n hadolygiad thematig o gwmnïau cyfreithiol sy'n cynnig gwasanaethau cwmnïau ac ymddiriedolaethau
  • 197 Adroddiadau a gawsom yn 2018/19 ynglŷn â gwyngalchu arian
  • 21% Canran o'r cwmnïau'r ydym yn eu rheoleiddio nad oedd eu hasesiadau risg o wyngalchu arian cystal â'r disgwyl
  • 40 o Gyfreithwyr wedi cael eu diarddel neu eu hatal rhag ymarfer gan yr SDT mewn achosion a oedd yn ymwneud â gwyngalchu arian yn y pum mlynedd diwethaf
  • £19,000 Y ddirwy gyfartalog a roddwyd gan SDT mewn achosion yn ymwneud â gwyngalchu arian
Open all

Fe wnaethom gryfhau ein hadnoddau mewnol yn 2018/19 drwy sefydlu tîm Atal Gwyngalchu Arian at y pwrpas. Mae'r tri maes allweddol y bu'r tîm yn gweithio arnynt i'w gweld isod.

Gweithredu'r Bumed Gyfarwyddeb Atal Gwyngalchu Arian

Cafodd y 5MLD ei throsi yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr ar 10 Ionawr 2020 ac mae'n datblygu ar y Bedwaredd Gyfarwyddeb Atal Gwyngalchu Arian. Ei nod yw atal gweithgaredd gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth ac, ymysg pethau eraill, fe wnaeth gyflwyno newidiadau yn y system ar gyfer cymeradwyo perchnogion, swyddogion a rheolwyr sy'n fuddiolwyr. Yn 2018/19 fe wnaethom baratoi ar gyfer y newidiadau hyn drwy sicrhau bod y systemau a'r adnoddau priodol ar waith gennym.

Ar gyfer y sector cyfreithiol, mae 5MLD yn golygu mwy o dryloywder ynglŷn â'r bobl sy'n ysgwyddo rolau allweddol mewn cwmnïau cyfreithiol. O fis Ionawr 2020 ymlaen, bydd angen i berchnogion, swyddogion a rheolwyr newydd sy'n fuddiolwyr (BOOMs), a BOOMs sy'n symud cwmnïau, gael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'i gyflwyno inni pan maent yn bwriadu symud i rôl newydd. Ni a fydd yn penderfynu a gaiff hyn ei gymeradwyo.

Rydym wedi gweithio ar ganllawiau i helpu cwmnïau i ddeall y rheoliadau newydd. Fe wnaethom hyn mewn partneriaeth â Grŵp Cyswllt y Sector Cyfreithiol (LSAG), sy'n cynnwys holl oruchwylwyr y sector cyfreithiol a enwir yn y rheoliadau atal gwyngalchu arian.

Adolygu asesiadau risg

Mae oddeutu dwy ran o dair o'r cwmnïau'r ydym yn eu rheoleiddio, oddeutu 7,000, yn cynnig gwasanaethau sy'n syrthio dan y rheoliadau gwyngalchu arian.

Dan y rheoliadau hyn, rhaid i'r cwmnïau hyn feddu ar asesiad risg ysgrifenedig ar gyfer y cwmni cyfan i'w galluogi i ystyried ac adnabod y risgiau y gallant eu hwynebu oddi wrth wyngalchwyr arian a pha mor sylweddol yw'r risgiau. Mae asesiadau risg yn hanfodol i sicrhau nad yw prosesau gwael yn denu gwyngalchwyr arian ac maent yn helpu i ddod â ffocws a rheolaeth i feysydd uchel eu risg.

I fonitro a yw cwmnïau yn cydymffurfio â'r rheoliadau hyn, ysgrifennom at 400 ohonynt yn 2019, yn gofyn iddynt anfon eu hasesiadau risg atom i'w hadolygu. Canfuom nad oedd un o bob pump ohonynt yn bodloni'r rheoliadau gan nad oeddent yn rhoi sylw i'r risgiau angenrheidiol, neu oherwydd bod y cwmnïau wedi anfon atom rywbeth heblaw asesiad risg a oedd yn ymwneud yn benodol ag atal gwyngalchu arian. Canfuom hefyd fod y rhan fwyaf o gwmnïau, cryn 64% ohonynt, yn defnyddio templedi. Roedd y rhain, drwyddynt draw, yn is eu hansawdd na'r asesiadau a oedd wedi'u targedu fwy ac yn fwy at y pwrpas a ddefnyddiwyd gan gwmnïau eraill.

Rydym yn sylweddoli y gall templedi fod yn ddefnyddiol, ond roedd gormod o gwmnïau wedi mynd ati i ‘gopïo a phastio'. Roedd yn amlwg nad oeddent wedi meddwl yn ofalus am y risgiau penodol yr oedd eu cwmnïau nhw yn eu hwynebu o safbwynt gwyngalchu arian.

Fe wnaethom gymryd camau gorfodi priodol lle bo angen (gweler: Gweithredu pan mae pethau'n mynd o chwith) ac fe wnaethom gyhoeddi hysbysiad rhybuddio i gynyddu ymwybyddiaeth o ansawdd gwael yr asesiadau risg a'r bygythiadau y maent yn eu peri.

#staySHARP

Mae sicrhau bod cwmnïau yn ymwybodol o'r rheoliadau newydd, ac o'u rhwymedigaethau a sut dylent gydymffurfio, yn allweddol i fynd i'r afael â gweithgaredd gwyngalchu arian. Yn 2018/19, fel rhan o'n hymgyrch e-bost #staySHARP, anfonwyd negeseuon e-bost at 6,000 o gwmnïau bron mewn cyfnod o chwech wythnos. O ganlyniad, cafodd dolenni at gynnwys atal gwyngalchu arian perthnasol eu clicio 1,700 o weithiau ac fe wnaeth dros 800 o gwmnïau gwblhau arolwg ar-lein – gan ein helpu i ddatblygu ein gwaith.

Mae'r term 'Staying SHARP' yn golygu 'that solicitors Should, Assess, Report, Protect,'. Dylent felly:

  • Asesu: mae angen i gwmnïau asesu eu risg – mae hyn yn golygu sefydlu asesiad risg digonol o wyngalchu arian ar gyfer y cwmni cyfan.
  • Dweud: os ydynt yn amau y gallai cleient fod yn defnyddio enillion troseddu neu fod arian o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn trafodiad, rhaid iddynt ddweud wrth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol drwy gyflwyno Adroddiad Gweithgaredd Amheus. 
  • Diogelu: sicrhau bod eu staff yn deall y risg y mae gwyngalchu arian yn ei pheri, eu bod yn gyfarwydd â'u hasesiad risg, a'u bod yn gweithio'n galed i gadw eu busnes yn ddiogel.

Yn 2018/19, cawsom 197 o adroddiadau yn ymwneud â gwyngalchu arian neu â thramgwyddo'r rheoliadau gwyngalchu arian. Mae'r ffigwr hwn yn is nag yn 2017/18 pan gawsom 235.

Credwn mai'r rheswm am hyn, yn rhannol, oedd oherwydd bod cwmnïau'n fwy ymwybodol o'r risg, ond fe wnaethom hefyd newid y ffordd yr ydym yn categoreiddio adroddiadau pan ddônt i law. Mae'r dull newydd hwn yn golygu ein bod yn gallu adnabod yn fwy cywir yr hyn sy'n achos posibl o wyngalchu arian neu'n achos posibl o dorri'r rheoliadau pan fo'r adroddiadau yn ein cyrraedd.

Pan welwn achos posibl o wyngalchu arian yn yr hyn sy'n aml yn adroddiadau cymhleth, aml-ran ac mewn gwybodaeth o fath arall a welwn, mae ein Swyddog adroddiadau gwyngalchu arian yn cyflwyno adroddiad gweithgaredd amheus i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth gan yr NCA a gan gyrff eraill sy'n gorfodi'r gyfraith. Mae ein tîm atal gwyngalchu arian un pwrpas yn ymchwilio i unrhyw achosion yr amheuir eu bod yn tramgwyddo'r rheoliadau gwyngalchu arian ac achosion yr amheuir bod gweithgaredd gwyngalchu arian yn digwydd.

Yn 2018/19, fe wnaethom ddwyn 15 o achosion a oedd yn ymwneud â gwyngalchu arian gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Arweiniodd hyn at 11 o ddirwyon, cafodd un ei wahardd a chwech eu diarddel (gall un achos arwain at fwy nag un canlyniad).

Delio ag asesiadau risg o ansawdd gwael

Yn dilyn y pryderon a godwyd yn sgil ein hadolygiad o asesiadau risg ac er mwyn delio â'r mater ehangach o asesiadau risg o ansawdd gwael yn y sector, fe wnaethom ddarparu cefnogaeth ychwanegol i gwmnïau i'w helpu i gydymffurfio â'r rheolau. Cyhoeddom ganllawiau, rhestrau cyfeirio a, gan fod cwmnïau yn amlwg yn defnyddio templedi, fe wnaethom greu ein templed asesiad risg ein hunain. Fe wnaethom bwysleisio y dylai cwmnïau sy'n defnyddio'r templed ei deilwra i adlewyrchu eu practis nhw orau.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi hysbysiad rhybuddio i rybuddio'r proffesiwn am y risgiau yr oedd bod ag asesiad risg o ansawdd gwael yn eu hachosi. Hefyd, fe wnaethom gysylltu â'r cwmnïau nad oeddent yn dilyn y rheoliadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n ddi-oed. Lle bo'n briodol, fe wnaethom ymholiadau i fodloni ein hunain nad oedd angen cymryd camau pellach.

Tua diwedd 2019 ac yn dilyn ein hadolygiad sampl o asesiadau risg 400 o gwmnïau cyfreithiol, fe wnaethom ysgrifennu at yr holl gwmnïau eraill sy'n darparu gwasanaethau sy'n syrthio dan y rheoliadau gwyngalchu arian i ofyn a oedd ganddynt asesiad risg ar waith. Os gwelwn fod yr asesiadau yn annigonol, fe wnawn weithio â nhw i wella eu prosesau. Ac, unwaith eto, fe wnawn gymryd camau gorfodi lle bo angen.

Beth oedd y materion a godwyd mewn adroddiadau gwyngalchu arian?

  • Methu â chynnal archwiliadau ar ffynhonnell yr arian
  • Methu â chanfod yn union pwy yw eu cleientiaid
  • Methu â chyflawni neu gwblhau proses diwydrwydd dyladwy gychwynnol ar y cwsmer
  • Ddim yn meddu ar weithdrefnau digonol i atal gweithgaredd gwyngalchu arian

Astudiaeth achos – methu â chydymffurfio â rheoliadau gwyngalchu arian

Yn 2019, fe wnaethom erlyn cyfreithiwr yn y SDT oherwydd ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r rheoliadau gwyngalchu arian wrth gynnal trafodion eiddo.

Dechreuom bryderu bod rheoliadau yn cael eu torri yn sgil y gwaith a wnawn i fonitro adroddiadau yn y cyfryngau. Roedd yr adroddiadau yn sôn am achosion honedig o wyngalchu arian dramor. Fe wnaeth y cyfreithiwr hefyd gysylltu â ni ei hun pan gyhoeddwyd yr adroddiadau yn y cyfryngau. Cydweithredodd y cyfreithiwr â ni yn ystod ein hymchwiliadau, ac ni wnaethom ddod o hyd i dystiolaeth o wyngalchu arian.

Roedd y cyfreithiwr, fodd bynnag, wedi cynnal trafodiad eiddo a godai nifer o amheuon y dylai fod wedi eu hystyried, megis:

  • roedd yr eiddo yn werth miliynau lawer o bunnoedd
  • roedd y taliad am yr eiddo yn dod o dramor
  • roedd yr eiddo yn cael eu dal gan gwmni cyfryngol. 

Roedd y cyfreithiwr hefyd yn gweithredu dros gleientiaid newydd nad oedd erioed wedi'u cyfarfod ac nad oedd wedi gweithredu drostynt o'r blaen. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai'r cyfreithiwr fod wedi cynnal proses diwydrwydd dyladwy uwch i ganfod yn union pwy oedd y cleientiaid. Dylai hefyd fod wedi gwneud archwiliadau i weld a oeddent yn unigolion gwleidyddol amlwg (PEPs).  Mae PEPs yn unigolion sydd â rôl wleidyddol uchel ei phroffil, neu sy'n berthnasau neu'n gyfeillion agos i unigolyn o'r fath, oherwydd fe allai hyn eu gwneud yn agored i lwgrwobrwyo a llygru. Yn yr achos hwn, roedd y cleientiaid yn PEPs.

Hefyd, roedd y cyfreithiwr wedi cymryd cyfarwyddyd ynglŷn â'r trafodiad gan drydydd parti. Roedd hyn yn ychwanegu risg bellach. Rhoddodd yr SDT ddirwy o £45,000 i'r cyfreithiwr. Dywedodd eu bod yn dal rôl Swyddog adrodd am wyngalchu arian yn eu cwmni ac y dylai hyn fod wedi cynyddu eu hymdeimlad o rwymedigaethau a'u hymwybyddiaeth o'r risgiau. Dywedodd hefyd fod hyn wedi achosi niwed sylweddol i'r proffesiwn, gan fod methiannau'r cyfreithiwr ‘wedi arwain at y risg i symiau mawr o arian gael eu gwyngalchu.' Wrth bennu'r gosb, fe wnaeth y tribiwnlys hefyd roi ystyriaeth i'r ffaith bod y cyfreithiwr wedi dweud am ei gysylltiad o'i wirfodd ac wedi cydweithredu â'r ymchwiliad ac nad oedd yr un cleient wedi dioddef colled o ganlyniad i'r hyn a wnaeth. Gorchmynnodd yr SDT y cyfreithiwr i dalu costau o £40,000.

Monitro a rhoi cefnogaeth/arweiniad pellach i gwmnïau

Tua diwedd 2019, fe wnaethom ddechrau rhaglen helaeth o ymweliadau trylwyr, wedi'u targedu â chwmnïau i ddeall yn well pa systemau, arferion a phrosesau yr oedd ganddynt ar waith i frwydro yn erbyn risg gwyngalchu arian.

Mae'r rhan fwyaf o'r ymweliadau a wnaethom cyn belled wedi arwain at inni gymryd camau pellach o ryw fath. Mae'r math hwn o gamau yn cynnwys ymgysylltu, er mwyn helpu cwmnïau i ddeall y gofynion y well, yn ogystal â goruchwylio, i sicrhau bod cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio yn dechrau cydymffurfio drachefn, ac, mewn rhai achosion, rydym wedi cymryd camau gorfodi.

Dyma'r materion allweddol yr ydym wedi'u nodi:

  • enillwyr ffioedd yn methu â chynhyrchu copïau o'r archwiliadau diwydrwydd dyladwy a wnaethant ar gleientiaid
  • enillwyr ffioedd yn methu â chynnal asesiadau risg o gleientiaid neu faterion
  • archwiliadau annigonol ar ffynonellau cyllid neu gyfoeth cleientiaid
  • diffyg archwiliad annibynnol ar waith atal gwyngalchu arian y cwmni, lle bo hynny'n angenrheidiol dan y rheolau
  • diffyg sgrinio neu sgrinio annigonol yn ystod prosesau recriwtio a chyflogi.

Fel y crybwyllwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, byddwn yn dal i gymryd camau os gwelwn gwmnïau'n syrthio'n brin o'r safonau disgwyliedig.

Rydym, wrth gwrs, wedi bod angen addasu i'r heriau y mae pandemig Covid-19 yn eu hachosi a chaiff y rhan fwyaf o'n ‘hymweliadau' â chwmnïau yn awr eu gwneud yn rhithiol a/neu dros y ffôn. Rydyn ni hefyd yn gallu adolygu'r rhan fwyaf o systemau, prosesau a ffeiliau cwmnïau yn rhithiol.

Rydym wedi cyhoeddi ein canfyddiadau lefel uchel, yr hyn a ystyriwn yn arferion da a beth sydd angen ei wella.

Cynllun troseddau economaidd

Ddiwedd 2019, fe wnaethon ni, ynghyd â sefydliadau eraill yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, weithio â'r llywodraeth i gynhyrchu a chefnogi ei Chynllun Troseddau Economaidd, 2019 i 2022. Mae'r cynllun yn cyflwyno saith blaenoriaeth sy'n cynrychioli'r rhwystrau mwyaf rhag mynd i'r afael â throseddau economaidd. Mae'r llywodraeth yn galw ar sefydliadau i weithio'n gydweithredol i wella eu hymatebion a'u dull gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn.

Dyma'r meysydd penodol yr ydym yn gweithio arnynt a'r camau y mae angen inni eu cymryd:

  • cynnal asesiadau cyfunol o fygythiadau â sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig ar feysydd penodol, er enghraifft, gwasanaethau cwmnïau ac ymddiriedolaethau
  • gwella'r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth â goruchwylwyr atal gwyngalchu arian eraill ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith
  • datblygu atebion hirdymor i ariannu'r gwaith o ddiwygio troseddau economaidd (mae ardoll arfaethedig ar y gweithwyr proffesiynol rheoledig i dalu am ffordd newydd o brosesu SARs eisoes yn cael ei hystyried)
  • cysoni'r oruchwyliaeth dros gyrff proffesiynol i atal gwyngalchu arian.

Ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2020—23

Mae Tachwedd 2020 yn nodi dechrau eich Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd newydd. Un o'r tri amcan y byddwn yn gweithio atynt fydd meithrin ein dealltwriaeth o gyfleoedd a heriau datblygol i ddefnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a'r sector cyfreithiol, a'n rôl ninnau yn ei reoleiddio'n effeithiol.

Mae angen inni ragweld a rhoi sylw i broblemau datblygol mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl – yn enwedig ac ystyried effaith pandemig Covid-19 a'r effeithiau ar y sector cyfreithiol a'r economi ehangach. Gwyddom y bydd gwyngalchwyr arian yn parhau i dargedu cwmnïau cyfreithiol ac yn gwneud hynny mewn ffyrdd fwyfwy soffistigedig, gan fanteisio o bosibl ar ein ffyrdd newydd o weithio oherwydd y pandemig. Ochr yn ochr â LSAG fe wnaethom gyhoeddi cyngor ar y risgiau sy'n gysylltiedig ag atal gwyngalchu arian a gweithio o adref a sut i barhau i adnabod gweithgaredd amheus yn ystod pandemig byd-eang.

Byddwn yn parhau i fod yn effro i risgiau ac yn sgwrsio ac yn ymgysylltu â'r proffesiwn, â defnyddwyr, ac â chyrff rheoleiddio eraill a'r llywodraeth. Hefyd, byddwn yn gweithio ar draws sectorau ac awdurdodaethau, mewn partneriaeth â llu o gyrff rheoleiddio, i sicrhau gwarchodaeth i'r cyhoedd.

Rhaid inni ddarparu ar gyfer yr amgylchedd newidiol ac addasu iddo a chodi llais pan geir diffygion neu sialensiau wrth gyflenwi gwasanaethau cyfreithiol diogel ac effeithiol o fewn y fframweithiau presennol.