Cynnal Safonau Proffesiynol 2020/21 – Monitro Amrywiaeth, Adroddiad Ategol 2020-21

Cyflwyniad

Ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi cyhoeddi canfyddiadau ynghylch nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi fel rhan o’n hadroddiadau cyffredinol ar Gynnal Safonau Proffesiynol yn 2019/20 a 2018/19, wedi’u hategu gan adroddiad manylach ar fonitro amrywiaeth. Mae'r adroddiad hwn yn ategu ein cyhoeddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2020/21.

Mae adolygu ein systemau a’n prosesau i sicrhau eu bod yn rhydd o ragfarn ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd bod gennym ni ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, ond rydyn ni’n ei wneud hefyd gan mai dyma'r peth iawn i’w wneud. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi, ein Safonau a’n Rheoliadau a gyflwynwyd yn 2019. Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gyhoeddi'r wybodaeth hon, a byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar y canfyddiadau hyn.

Rydyn ni wedi defnyddio’r un dull gweithredu ag o'r blaen. Mae manylion y dull hwn yn yr adran nesaf, hyd a lled ein dadansoddiad). Mae hyn wedi caniatáu i ni gymharu a dechrau edrych ar dueddiadau dros y tair blynedd ddiwethaf, fel y nodir yn yr adran canfyddiadau allweddol. Rydyn ni hefyd wedi nodi'r cyfyngiadau yn y data sydd gennym neu y gallwn eu cyhoeddi, a’r anawsterau o ran dod i gasgliadau ystyrlon o’r niferoedd bach iawn yng nghyfnodau diweddarach y broses orfodi.

Rydyn ni'n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy’n cael eu codi gyda ni, a'r rhai rydyn ni’n ymchwilio iddynt. Mae hyn wedi bod yn wir ers tro ac mae’n adlewyrchu’r patrwm ar draws nifer o broffesiynau a rheoleiddwyr. Rydyn ni wedi comisiynu sawl adolygiad allanol i edrych ar y materion hyn yn y gorffennol, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2006 cyn inni gael ein sefydlu. Ni ddaeth yr un adolygiad blaenorol o hyd i unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu, ond roedd pob un yn cynnig argymhellion i ni ac eraill, sydd wedi helpu i ddylanwadu ar ein dull gorfodi. Roedden ni wedi cyhoeddi trosolwg o'n gwaith yn dilyn yr adolygiad allanol diweddaraf gan yr Athro Gus John, sef yr Adolygiad Achos Cymharol Annibynnol yn 2014.

Er ein bod wedi gallu gwella ein dull gorfodi, mae'r patrymau'n parhau ac nid ydyn ni'n llawn ddeall o hyd y ffactorau cymdeithasol a chymdeithasegol sy’n arwain at yr orgynrychiolaeth o gyfreithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y pryderon sy’n cael eu codi gyda ni. I'n helpu ni ac eraill i fynd i'r afael â'r materion hyn, rydyn ni wedi comisiynu ymchwil annibynnol newydd [gan brifysgolion Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd] a fydd yn darparu dealltwriaeth o’r materion hyn. Rydyn ni hefyd wedi gofyn i’r ymchwilwyr gynnal adolygiad penodol o'r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yn y cam asesu er mwyn deall pam mae gorgynrychiolaeth bellach yn yr achosion sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Rydyn ni’n trafod hyn a'r camau eraill rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau bod ein penderfyniadau’n deg ac yn rhydd o ragfarn yn adran gwaith pellach ac ymchwil yr adroddiad hwn.

Open all

Fe wnaethom edrych ar y gynrychiolaeth o rywedd, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle’r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar y camau canlynol o'n proses orfodi rhwng 1 Tachwedd 2020 a 31 Hydref 2021:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad
  • cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a’r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4 – yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a’r mathau o sancsiynau a osodwyd gan y SDT (llwybr B).

Mae’r diagram isod yn dangos y camau a’r llwybrau hyn. Maen nhw'n cyd-fynd yn fras â'r diagram sy’n amlinellu camau allweddol y broses pan fydd pryder yn cael ei adrodd i ni yn yr adroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol.

Welsh Paths A and B.jpg

Mae’r unigolion a enwyd ar bryderon a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) yn is-set o unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1).

Yng nghamau 3 a 4 (llwybrau A a B yn y drefn honno), rydyn ni’n edrych ar yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn 2020/21, y rhai a gafodd sancsiwn mewnol a'r rhai a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy’n gysylltiedig â chamau 1 a 2 a’r rhai sy’n gysylltiedig â cham 3, nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a’u datrys yn yr un flwyddyn. Mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy’n gysylltiedig â cham 1 a 2 a’r rhai sy’n gysylltiedig â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr fel arfer.

Sut rydyn ni wedi dadansoddi’r data

Gan ddechrau drwy ddadansoddi’r boblogaeth sy’n ymarfer, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau yn ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma’r gyfran ar gyfer dynion:

  • 48% o’r boblogaeth sy’n ymarfer
  • 62% o’r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 68% o’r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 66% o’r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 73% o’r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4, llwybr B)

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o’r broses, gan ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2020/21 cafodd:

  • 6,803 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,357 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 258 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 110 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4).

Rydyn ni’n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg a grŵp ethnig arall. Os yw’r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Pan fo’r niferoedd yn rhy fach (yng nghamau 3 a 4), byddwn yn cymharu’r grŵp Gwyn (sy’n cynnwys grwpiau Gwyn lleiafrifol) â’r pedwar grŵp arall, gan gyfeirio at y rheini fel y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol1.

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn amrywio ym mhob cam o’r broses ond yn gyffredinol, mae gennym wybodaeth am rywedd ac oedran ar gyfer 91% a 100%2 o’r boblogaeth sy’n ymarfer, yn y drefn honno, a 74% ar gyfer ethnigrwydd. Oherwydd y ffordd rydyn ni wedi casglu data am anabledd yn y gorffennol3, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o’r boblogaeth sy’n ymarfer. Rydyn ni’n amau bod y data anabledd yn anghyflawn yn y set ddata hon ac yn cymryd camau i wella’r datganiadau ar gyfer hyn a nodweddion amrywiaeth eraill.

Yn yr adran nesaf rydyn ni’n nodi ein canfyddiadau allweddol a throsolwg o’r data ar gyfer pob cam dros y tair blynedd ddiwethaf.

Yn yr adran hon, rydyn ni wedi rhoi trosolwg o'r canfyddiadau allweddol ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth ym mhedwar cam y broses orfodi ar gyfer 2020/21 (lle'r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Rydyn ni wedi cynnwys y data ar gyfer 2018/19 a 2019/20 er mwyn gallu tynnu sylw at unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg dros y tair blynedd.

Mae dadansoddiad manylach o'r data ym mhob cam o'n prosesau yn 2020/21 ar gael yn nes ymlaen yn yr adroddiad ac mae dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar gael yn yr atodiad.

Mae ein canfyddiadau allweddol yn debyg i'r rhai mewn blynyddoedd blaenorol, ac maen nhw'n ymwneud â chamau 1 a 2 yn y broses. Rydyn ni'n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu codi gyda ni, a'r rhai rydyn ni'n ymchwilio iddynt, o'u cymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth hon yn cynyddu ar gyfer y ddau grŵp pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad.

Oherwydd y niferoedd isel sy'n gysylltiedig â chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a yw'r newidiadau sydd i'w gweld yn y camau hyn yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Mae'r niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau yn y camau hyn.

Mae ein gwaith i roi sylw i'r canfyddiadau allweddol hyn, ac i wella ein data, wedi'i amlinellu yn yr adran nesaf.

Rhywedd

Dadansoddiad o rywedd y boblogaeth sy'n ymarfer ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer Gwryw 49% 48% 48%
Benyw 51% 52% 52%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Gwryw 67% 65% 62%
Benyw 33% 35% 38%
Cam 2: Ymchwiliadau Gwryw 73% 75% 68%
Benyw 27% 25 32%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwryw 70% 73% 66%
Benyw 30% 27% 34%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwryw 85% 80% 73%
Benyw 15% 20% 27%

Yn y tair blynedd, mae dynion wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Mae hyn wedi gostwng dros y tair blynedd ers inni ailddechrau monitro. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, roedd dynion yn cyfrif am tua hanner y boblogaeth sy'n ymarfer, ond tua dau draean o'r unigolion a enwyd ar bryderon a godwyd gyda ni. Yn 2020/21, roedd 62% o'r adroddiadau yn ymwneud â dynion, a oedd yn cyfrif am 48% o'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Mae'r orgynrychiolaeth yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Roedd hyn yn wir yn ystod pob un o'r tair blynedd. Yn 2020/21, roedd 62% o'r adroddiadau yn ymwneud â dynion, o'i gymharu â 68% o'r ymchwiliadau. Cafodd 21% o'r dynion a adroddwyd i ni yn 2020/21 eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, o'i gymharu â 17% o ferched. Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod. Yn hytrach, maen nhw wedi'u cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddynt o'r cyfanswm a adroddwyd.

Gan edrych ar gyfran y dynion mewn achosion a gadarnhawyd, o'i chymharu â'r gyfran mewn achosion yr ymchwiliwyd iddynt, yn y tair blynedd mae'r gyfran yn is mewn achosion a ddaeth i ben yn fewnol ac yn uwch mewn achosion a gadarnhawyd yn y Tribiwnlys. Er enghraifft, yn 2020/21, roedd 68% o'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yn ddynion, ac roedd 66% o'r rhai a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn fewnol a 73% o'r rhai a gadarnhawyd yn y Tribiwnlys yn ddynion.

O ran canlyniadau mewnol, mae'r orgynrychiolaeth o ddynion wedi lleihau, o tua 72% o ddynion yn y ddwy flynedd flaenorol i 66% yn 2020/21. Yn yr un modd mae'r orgynrychiolaeth o ddynion mewn canlyniadau yn y Tribiwnlys wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn, o 85% yn 2018/19 i 80% yn 2019/20, a 73% yn 2020/21.

Ethnigrwydd

Yn yr adran hon rydyn ni wedi nodi'r data ar gyfer y grwpiau Gwyn a Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam. Mae dadansoddiad manylach ar draws y pum grŵp ethnig ar gael yn yr adran sy'n ymwneud â chamau 1 a 2. Nid yw'r dull hwn yn bosibl ar gyfer camau 3 a 4 o ganlyniad i nifer isel y bobl dan sylw.

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth sy'n ymarfer ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Ethnigrwydd 2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer Gwyn 82% 82% 82%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 18% 18% 18%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Gwyn 74% 74% 75%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 26% 26% 25%
Cam 2: Ymchwiliadau Gwyn 68% 65% 67%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 32% 35% 33%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwyn 65% 71% 64%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% 29% 36%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwyn 65% 72% 66%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% 28% 34%

Yn y tair blynedd, mae pobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth hon wedi gostwng ychydig yn 2020/21. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrif am 18% o'r boblogaeth sy'n ymarfer (yn y tair blynedd) a 25% o'r adroddiadau a gafwyd yn 2020/21 (i lawr o 26% yn 2018/19 a 2019/20).

Mae'r orgynrychiolaeth hon yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Dyma'r patrwm a welir dros y tair blynedd ond roedd yr orgynrychiolaeth wedi gostwng ychydig yn 2020/21, pan oedd y grŵp hwn yn cyfrif am 25% o'r rhai a adroddwyd i ni a 33% o'r rhai a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2020/21.

Cafodd 26% o adroddiadau am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, o'i gymharu â 17% o adroddiadau am bobl Wyn. Mae grwpiau Asiaidd a Du wedi'u gorgynrychioli mewn adroddiadau a geir ac mae'r gyfradd symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn debyg (27% ar gyfer y grŵp Asiaidd a 26% ar gyfer y grŵp Du). Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod. Yn hytrach, maen nhw wedi'u cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddynt o'r cyfanswm a adroddwyd.

Gan edrych ar gyfran y bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn yr achosion a gadarnhawyd, o'i chymharu â'r gyfran mewn achosion yr ymchwiliwyd iddynt, mae'r gyfran yn uwch yn 2018/19 a 2020/21 ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn fewnol ac achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Mae'r grŵp hwn yn cyfrif am 33% o'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yn 2020/21, 36% o'r achosion a ddaeth i ben yn fewnol a 34% o'r achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Roedd y sefyllfa yn wahanol yn 2019/20, pan oedd cyfran y bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn canlyniadau mewnol a'r Tribiwnlys yn is nag yn y cam ymchwilio.

Oedran

Oherwydd y niferoedd isel, rydyn ni wedi cyfuno'r ddau grŵp oedran ieuaf, gan ddangos data ym mhob cam ar gyfer pobl rhwng 16 a 34 oed.

Dadansoddiad o oedran y boblogaeth sy'n ymarfer ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Oedran 2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer 16-34 25% 24% 24%
35-44 32% 33% 33%
45-54 24% 24% 24%
55-64 14% 14% 14%
65+ 5% 5% 5%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 16-34 12% 12% 14%
35-44 26% 27% 26%
45-54 30% 28% 28%
55-64 22% 22% 21%
65+ 10% 10% 11%
Cam 2: Ymchwiliadau 16-34 11% 11% 10%
35-44 26% 29% 25%
45-54 30% 28% 29%
55-64 23% 22% 23%
65+ 10% 9% 12%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 16-34 13% 14% 19%
35-44 25% 28% 26%
45-54 27% 24% 25%
55-64 22% 20% 18%
65+ 13% 14% 13%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 16-34 9% 5% 7%
35-44 27% 25% 19%
45-54 31% 30% 31%
55-64 20% 25% 28%
65+ 13% 16% 14%

Sylwch nad yw'r niferoedd yn dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

Yn ystod pob un o'r tair blynedd, mae tangynrychiolaeth o'r ddau gategori oedran iau (pobl dan 44 oed) yn y pryderon sy'n cael eu hadrodd inni, o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rhai yn y categorïau hŷn (dros 45 oed) sy'n cael eu gorgynrychioli o'u cymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Wrth edrych ar achosion yn cynnwys unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad, mae'r patrymau'n debyg dros y tair blynedd. Yn 2020/21, mae'r gyfradd symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn cynyddu gydag oedran, er enghraifft ymchwiliwyd i 15% o'r rhai rhwng 16 a 34 oed a adroddwyd, a 23% o'r rhai dros 65 oed. Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod. Yn hytrach, maen nhw wedi'u cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddynt o'r cyfanswm a adroddwyd.

Mae'n anodd nodi unrhyw batrymau clir yn yr achosion a ddaeth i ben yn fewnol neu yn y Tribiwnlys dros y tair blynedd, a hynny oherwydd y niferoedd isel dan sylw.

Anabledd

Oherwydd y niferoedd isel iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn gallwn ei adrodd – mae seren yn y tabl i ddangos bod y niferoedd yn rhy isel i'w hadrodd flwyddyn honno.

Anabledd a gofnodwyd ymysg y boblogaeth sy'n ymarfer ac yn ein proses orfodi

Anabledd 2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% 99% 99%
Anabledd wedi'i gofnodi 1% 1% 1%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni Dim anabledd wedi'i gofnodi 98% 98% 97%
Anabledd wedi'i gofnodi 2% 2% 3%
Cam 2: Ymchwiliadau Dim anabledd wedi'i gofnodi 98% 98% 97%
Anabledd wedi'i gofnodi 2% 2% 3%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Dim anabledd wedi'i gofnodi * * 97%
Anabledd wedi'i gofnodi * * 3%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dim anabledd wedi'i gofnodi * 95% *
Anabledd wedi'i gofnodi * 5% *

Er bod y niferoedd yn rhy isel i ddod i unrhyw gasgliadau cadarn, mae gorgynrychiolaeth o bobl anabl yn yr adroddiadau sy'n cael eu gwneud i ni, ac mae canran yr adroddiadau y symudir ymlaen yr un fath â'r ganran sy'n cael eu gwneud. Yn 2020/21, cafodd 20% o'r bobl anabl a adroddwyd i ni ei symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar gyfer 2018/19 ym mis Rhagfyr 2020 – y mae ei ganfyddiadau wedi bod yn debyg yn y blynyddoedd canlynol – rydyn ni wedi gwneud cynnydd yn ein gwaith i ddeall yn well pam bod rhai grwpiau’n cael eu gorgynrychioli yn ein prosesau gorfodi.

Mae’r tabl isod yn amlinellu’r hyn rydyn ni’n ei wneud i roi sylw i’r materion a godwyd.

Ein hymrwymiadau Camau a gymerwyd

Byddwn yn comisiynu ymchwil annibynnol i’r ffactorau sy’n llywio’r broses o adrodd ar bryderon am gyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ni, er mwyn canfod beth allwn ei wneud am hyn a lle y gallwn weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth.

Yn 2021 fe wnaethon ni gychwyn proses caffael ar y cyd ar gyfer yr ymchwil hwn a’r ymchwil i’r bwlch cyrhaeddiad ymysg cyfreithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn canlyniadau cymhwyster cyfreithiol. Ym mis Rhagfyr 2021 cafodd Prifysgol Caerwysg ei phenodi gennym i wneud y gwaith ar y bwlch cyrhaeddiad ac ar ôl aildendro’r ymchwil gorgynrychiolaeth, rydyn ni wedi penodi consortiwm yn cynnwys prifysgolion Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd i fwrw ymlaen â’r ymchwil hwn. Rydyn ni’n sefydlu grŵp o randdeiliaid allanol i gefnogi’r gwaith hwn. Ei rôl fydd helpu i lywio’r ymchwil a darparu arbenigedd a gwybodaeth i gefnogi’r ymchwilwyr drwy gydol oes y prosiect.

Ochr yn ochr â’n gwaith parhaus i sefydlu tîm sicrhau ansawdd ‘hyd braich’ mewnol, byddwn yn cynnal adolygiad ymlaen llaw o’r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar, lle gwneir y penderfyniad i gyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad.

Roedden ni wedi cysylltu’r ymchwil uchod â’r adolygiad ar wahân hwn o’r broses gwneud penderfyniadau yn ein proses asesu a datrys yn gynnar, a bydd y partner ymchwil a nodir ar gyfer yr ymchwil yn cynnal yr adolygiad hwn hefyd.

Mae ein tîm sicrhau ansawdd ‘hyd braich’ mewnol wedi cael ei sefydlu erbyn hyn ac mae wedi dechrau datblygu a threialu ei ddull i sicrhau ansawdd, gan ychwanegu gwerth at ein trefniadau sicrhau ansawdd presennol.

Byddwn yn gweithio i gynyddu nifer yr unigolion sy’n datgelu gwybodaeth am eu nodweddion amrywiaeth i ni.

Fe wnaethom ddiweddaru’r cwestiynau amrywiaeth sydd ar ein systemau ar gyfer cyfreithwyr ac, ym mis Mai 2021, fe wnaethom lansio cam cyntaf ymgyrch cyfathrebu i annog unigolion i adolygu a diweddaru eu data amrywiaeth. Roedd cyfradd ymateb ddechreuol dda ar gyfer rhai nodweddion ar ddiwedd cam cyntaf yr ymgyrch hon, ond mae rhagor i’w wneud.

Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar sut mae annog pobl i ddarparu eu gwybodaeth amrywiaeth pan fyddant yn ymuno â’r proffesiwn am y tro cyntaf. Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyfreithwyr sydd newydd gofrestru sy’n darparu eu gwybodaeth amrywiaeth i ni, ar ôl inni symud i broses dderbyn ar-lein.

O ran y nodweddion amrywiaeth y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn:

  • mae’r data oedran yn dal yn 100% oherwydd mae’n rhaid i gyfreithwyr roi eu dyddiad geni i ni
  • bu cynnydd o un pwynt canran yn y datganiadau o ethnigrwydd, i 74%
  • mae’r rhai sy’n datgan anabledd wedi cynyddu ychydig (o lai nag un pwynt canran) – 1% yw’r ffigur ar hyn o bryd
  • bu gostyngiad o ddau bwynt canran yn y datganiadau o rywedd, i 81%. Mae hyn oherwydd ein bod wedi symud y cwestiwn hwn i’r adran data amrywiaeth, yn hytrach na’i gynnwys yn y manylion sylfaenol y gofynnir amdanynt pan fydd rhywun yn ymuno â’r proffesiwn.

Byddwn yn gwerthuso’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud drwy ein rhaglen diwygio rheoleiddiol, gyda deall yr effeithiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan allweddol o’r gwaith.

Mae gennym raglen waith i werthuso effaith ein Strategaeth Orfodi newydd a’r Safonau a’r Rheoliadau newydd a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2019. Cafodd ein Gwerthusiad o flwyddyn gyntaf ein Safonau a’n Rheoliadau ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021, ac mae’r gwaith yn parhau.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ehangach i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn a’n gwaith parhaus i gefnogi cydymffurfiaeth cwmnïau bach.

Cafodd adolygiad o’n gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn 2020/21 ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022, gan gynnwys ein gwaith yn helpu cwmnïau bach i gydymffurfio drwy gyfres o weithdai ac adnoddau wedi’u targedu. Hefyd rydyn ni wedi cyhoeddi gwybodaeth am ein blaenoriaethau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer 2022/23 o’n cyfarfodydd Bwrdd ym mis Chwefror 2022 (Camau nesaf ein gwaith ar amrywiaeth yn y proffesiwn) a mis Mawrth 2022 (Ein cynllun gwaith ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant).

Mae'r adran hon yn ymwneud â phroffil yr unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1) a'r pryderon rydyn ni'n bwrw ymlaen i ymchwilio iddynt (cam 2), wedi'u gosod yn erbyn dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer. Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddata 2020/21 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau arwyddocaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng nghamau 1 a 2 wedi'u cynnwys yn yr adran Canfyddiadau allweddol uchod.

Welsh Steps 1 and 2 -  1 Unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni 2 Unigolion a enwyd ar bryderon y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad

Y data

Yn 2020/21, cafodd 10,358 o bryderon eu hadrodd i ni. O'r rhain, roedd 5,862 (57%) o achosion yn enwi un unigolyn neu fwy. Fe wnaethom gyfrif unigolyn bob tro roedd yn ymddangos ar bryder a adroddwyd i ni, felly efallai y bydd rhai unigolion yn cael eu hadrodd fwy nag unwaith. Mae'r gwaith dadansoddi yn yr adran hon yn seiliedig ar y 6,803 o unigolion a gafodd eu henwi ar y pryderon hyn. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, mae pryderon sy'n ymwneud â chwmnïau wedi'u heithrio. 

O'r 6,803 o unigolion a enwyd ar y pryderon a gawsom (cam 1), cafodd 1,357 o unigolion eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) – cyfradd o 20%.

Wedi'u rhannu gan bedair nodwedd amrywiaeth (ethnigrwydd, rhywedd, oedran ac anabledd), mae'r tablau yn yr adran hon yn dangos:

  • y boblogaeth sy'n ymarfer
  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn ystod 2020/21
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2020/21 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt.

Ein canfyddiadau

Rhywedd

Mae gormod o ddynion yn cael eu henwi ar y pryderon rydyn ni'n eu cael (62%) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer (48%). Mae hyn yn cynyddu pan fyddwn yn edrych ar yr unigolion lle gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt, lle mae 68% yn ddynion. Y gyfradd symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad ymysg merched yw 17% (ymchwiliwyd i 393 o ferched o'r 2,365 a adroddwyd), o'i chymharu â 21% ymysg dynion (ymchwiliwyd i 820 o ddynion o'r 3,913 a adroddwyd).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o rywedd4

Gwryw Benyw
Y boblogaeth sy'n ymarfer 48% 52%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni 62% 38%
Cam 2: Ymchwiliadau 68% 32%

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roedden ni'n gwybod rhywedd 148,939 o'r 162,955 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (91%) ar 1 Tachwedd 2021.
  • Cam 1 – o'r 6,803 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roedden ni'n gwybod rhywedd 6,278 ohonynt (92%).
  • Cam 2 – o'r 1,357 o unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad, roedden ni'n gwybod rhywedd 1,213 ohonynt (89%).

Ethnigrwydd

Mae nifer yr unigolion a gyfrifwyd yng nghamau 1 a 2 y broses yn ddigon uchel inni ddangos y pum grŵp ethnig ar wahân. Nid yw hyn yn wir ar gyfer camau 3 a 4, lle mae'r nifer yn rhy isel, felly rydyn ni hefyd wedi dangos cyfanswm y grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y tabl isod er mwyn gallu cymharu ar draws holl gamau ein prosesau.

Gan edrych ar y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ei gyfanrwydd, mae gorgynrychiolaeth o unigolion yn y grwpiau hyn yn cael eu hadrodd i ni (25%) a'u symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (33%), o'i chymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer (18%). Mae'r patrymau ar gyfer y grwpiau Asiaidd a Du yn debyg, ond mae maint y ddau grŵp yn wahanol:

  • Mae 12% o'r boblogaeth sy'n ymarfer yn Asiaidd ond mae 18% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn Asiaidd, yn ogystal â 25% o'r rhai a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad.
  • Mae 3% o'r boblogaeth sy'n ymarfer yn Ddu ond mae 4% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn Ddu, yn ogystal â 5% o'r rhai a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad.

Mae'r gwrthwyneb yn wir ar gyfer y grŵp Gwyn. Mae tangynrychiolaeth o unigolion Gwyn a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (75%) o'i gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (82%). Mae hyn yn lleihau wrth edrych ar unigolion Gwyn a enwyd ar bryderon a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad (67%).

Y gyfradd y mae pobl Asiaidd yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yw 27% (ymchwiliwyd i 265 allan o'r 984 a adroddwyd). Y gyfradd ymysg pobl Ddu yw 26% (ymchwiliwyd i 59 allan o'r 231 a adroddwyd) a'r gyfradd gyffredinol ar gyfer y grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yw 26% (ymchwiliwyd i 356 allan o'r 1,376 a adroddwyd). Mae hyn yn uwch na'r grŵp Gwyn, sef 17% (ymchwiliwyd i 722 allan o'r 4,138 a adroddwyd).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Asiaidd Du Cymysg Arall
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Y boblogaeth sy’n ymarfer 82% 12% 3% 2% 2%
18%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 75% 18% 4% 1% 1%
25%
Cam 2: Ymchwiliadau 67% 25% 5% 1% 2%
33%

Sylwch nad yw'r niferoedd yn dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 121,301 o'r 162,955 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (74%) ar 1 Tachwedd 2021.
  • Cam 1 – o'r 6,803 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 5,514 ohonynt (81%).
  • Cam 2 – o'r 1,357 o unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad, roedden ni'n gwybod rhywedd 1,078 ohonynt (79%).

Oedran

  • Gan fod nifer yr unigolion rhwng 16 a 25 oed yn rhy isel i'w ddangos ar wahân, maen nhw wedi cael eu grwpio gyda'r grŵp oedran 25 i 34 oed. Mae pobl yn y categori oedran hwn (16–34) wedi'u tangynrychioli yn y pryderon a adroddwyd i ni (14%) o'i gymharu â'u cyfran o'r boblogaeth sy'n ymarfer (24%). Gwelir yr un patrwm yn y categori oedran 35 i 44, ond i raddau llai. Mae'r grŵp hwn yn cyfrif am 33% o'r boblogaeth sy'n ymarfer a 26% o'r adroddiadau a wnaed i ni.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rhai yn y categorïau hŷn, sydd wedi'u gorgorgynrychioli mewn adroddiadau o'i gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Ymysg y rhai dros 65 oed y mae'r gwahaniaeth mwyaf sylweddol. Maen nhw'n cyfrif am 11% o'r adroddiadau ond dim ond 5% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, ac mae'r rhai rhwng 55 a 65 oed yn cyfrif am 21% o'r adroddiadau a 14% o'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Mae cyfran y bobl a adroddwyd a'r gyfran yr ymchwiliwyd iddynt yn debyg yn y categorïau oedran hŷn (35+). Mae mwy o wahaniaeth yn y grŵp iau (16-34) – maen nhw'n cyfrif am 14% o'r adroddiadau a wnaed a 10% o'r rhai y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad.

Mae'r gyfradd y mae pobl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn cynyddu gydag oedran:

  • 16-34 – 15% (ymchwiliwyd i 137 allan o'r 911 a adroddwyd)
  • 35-44 – 19% (335 allan o 1,766)
  • 45-54 – 20% (386 allan o 1,915)
  • 55-64 – 21% (304 allan o 1,420)
  • 65+ – 23% (162 allan o 717).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o oedran

16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth sy’n ymarfer 24% 33% 24% 14% 5%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 14% 26% 28% 21% 11%
Cam 2: Ymchwiliadau 10% 25% 29% 23% 12%

Sylwch nad yw'r niferoedd yn dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roedden ni'n gwybod oedran 162,874 o'r 162,955 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (100% neu 99.95%) ar 1 Tachwedd 2021.
  • Cam 1 – o'r 6,803 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roedden ni'n gwybod oedran 6,729 ohonynt (99%).
  • Cam 2 – o'r 1,357 o unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad, roedden ni'n gwybod oedran 1,324 ohonynt (98%).

Anabledd

Nid ydyn ni'n gallu dod i unrhyw gasgliadau dibynadwy mewn cysylltiad ag anabledd oherwydd bod y niferoedd mor isel.
Rydyn ni wedi cyhoeddi'r dadansoddiad yng nghamau 1 a 2 ar gyfer cyflawnrwydd. Mae'n dangos gorgynrychiolaeth o bobl anabl a enwyd ar bryderon a godwyd gyda ni (3%) ac y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad (3%), o'i gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (1%).

Y gyfradd y mae pobl anabl yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yw 20.4% (ymchwiliwyd i 37 allan o'r 181 a adroddwyd), sy'n debyg iawn i gyfradd y boblogaeth sy'n ymarfer, 19.9% (ymchwiliwyd i 1357 allan o'r 6803 a adroddwyd).

Camau 1 a 2: Anabledd wedi'i gofnodi

Dim anabledd wedi’i gofnodi Anabledd wedi’i gofnodi
Y boblogaeth sy’n ymarfer 99% 1%
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 97% 3%
Cam 2: Ymchwiliadau 97% 3%

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – o'r 162,995 o unigolion yn y boblogaeth sy'n ymarfer, mae 2,293 (1.4%) wedi'u cofnodi fel bod yn anabl ar 1 Tachwedd 2021.
  • Cam 1 – o'r 6,803 o unigolion a enwyd ar y pryderon a godwyd, mae 181 (2.7%) wedi'u cofnodi fel bod yn anabl.

Cam 2 – o'r 1,357 o unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad, mae 37 (2.7%) wedi'u cofnodi fel bod yn anabl.

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi A, sy'n golygu'r adroddiadau sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) ac sy'n arwain at gosb fewnol (cam 3).

Welsh Path A.jpg

Mae ein gwaith dadansoddi yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar weithgarwch gorfodi yn ystod blwyddyn benodol, felly er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion yng nghamau 1 a 2 a'r rhai yng ngham 3 o bosibl, nid yw'n debygol o fod yn arwyddocaol. Bydd llawer o'r achosion a ddaeth i ben â sancsiwn mewnol (cam 3) yn 2020/21 wedi dod i law yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddata 2020/21 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau arwyddocaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng ngham 3 wedi'u cynnwys yn yr adran Canfyddiadau allweddol uchod.

Y data

  • Dylid nodi bod y data yn yr adran hon yn ymwneud â sancsiynau y gallwn eu gorfodi a'r canlyniadau a adlewyrchir mewn cytundebau setlo rheoleiddiol a wnaed yn 2020/215.
  • Cafwyd 268 o ymchwiliadau yn 2020/21 a arweiniodd at gymryd camau gorfodi mewnol a chyhoeddi sancsiwn. O blith y rhain, roedd 218 o achosion yn ymwneud ag un neu fwy o unigolion, ac enwyd 258 o unigolion yn yr achosion hyn.

Mae dau dabl ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r cyntaf yn dangos proffil yr unigolion yn yr holl gamau canlynol:

  • Cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2020/21
  • Cam 2 – unigolion a enwyd ar y pryderon hynny yn 2020/21 y gwnaethom eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad
  • Cam 3 – unigolion a enwyd ar achosion a arweiniodd at gosb yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ar gyfer 2020/21.
  • Mae'r ail dabl yn dangos dadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ôl y math o ganlyniad (neu sancsiwn). Mae'n bosibl i rai unigolion gael mwy nag un canlyniad ac felly byddant yn ymddangos fwy nag unwaith yn y dadansoddiad. Felly, ni fydd y niferoedd yn y tabl cyntaf yr un fath â'r niferoedd yn yr ail dabl. Dylid nodi hefyd bod y data canlyniadau yn cynnwys llythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion, ceryddon a dirwyon, ond yn eithrio penderfyniadau i ymyrryd, penderfyniadau i atgyfeirio achos at y Tribiwnlys, neu achosion lle roedd yr unigolyn wedi cytuno y byddai'n cael ei ddileu oddi ar y gofrestr cyfreithwyr drwy gytundeb setlo rheoleiddiol, gan fod y penderfyniadau hyn yn golygu bod y canlyniadau y tu allan i gwmpas llwybr A at ddibenion y dadansoddiad hwn.

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Mae ein penderfyniadau mewnol yn cael eu cyhoeddi yn gyffredinol ac oherwydd bod y niferoedd yn isel yn y cam hwn, byddai adrodd yn fanylach yn creu risg o ddatgelu hunaniaeth rhywun. Felly, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydyn ni'n gallu ei adrodd yn yr adran hon:

  • Nid ydyn ni wedi gallu cynnwys dadansoddiad ar gyfer anabledd o gwbl.
  • Nid ydyn ni wedi gallu adrodd ar wahân ar y grwpiau yn y categori Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Rydyn ni wedi grwpio'r categorïau oedran 16–24 a 25–34 gyda'i gilydd.
  • Rydyn ni wedi eithrio rhai canlyniadau o'r dadansoddiad – 12 amod a roddwyd ar dystysgrifau ymarfer a 5 gorchymyn adran 996. Rydyn ni hefyd wedi eithrio 66 gorchymyn adran 43 oherwydd mae'r math hwn o sancsiwn yn cael ei roi ar bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y busnesau a'r cwmnïau cyfreithiol rydyn ni'n eu rheoleiddio, ac nid ydyn ni'n dal data amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn fel yr ydyn ni ar gyfer y boblogaeth sy'n ymarfer. 
  • Rydyn ni wedi cyflwyno'r mathau o ganlyniadau mewn dau grŵp – y sancsiynau mwy difrifol (ceryddon a dirwyon) a'r rhai llai difrifol (llythyrau cynghori a chanfyddiadau a rhybuddion).

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yng ngham 3 (258 o unigolion), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Hefyd, gan fod dadansoddi ar ffurf canrannau yn gallu bod yn gamarweiniol mewn grwpiau bach, rydyn ni wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw hefyd.

Ein canfyddiadau

Rhywedd

Er ei bod yn anodd dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae'r data'n dangos mai ychydig o wahaniaeth sydd yng nghyfran y dynion a'r merched sy'n cael eu henwi mewn ymchwiliadau (cam 2) a'u henwi ar achosion a ddaeth i ben gyda sancsiwn mewnol (cam 3). Ym mhob un o'r camau hyn, y gyfran yw tua dau draean o ddynion a thraean o ferched. 

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o rywedd
Gwryw Benyw
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 62% (3,913) 38% (2,365)
Cam 2: Ymchwiliadau  68% (820) 32% (393)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 66% (105) 34% (55)

O'r 258 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol yng ngham 3, roedden ni'n gwybod rhywedd 160 ohonynt (62%).

Canlyniadau – rhywedd

Mae dadansoddiad rhywedd unigolion a gafodd un o'r sancsiynau mwy difrifol (cerydd neu ddirwy) yr un fath â'r dadansoddiad cyffredinol o'r rhai a enwyd yng ngham 3 – dau draean yn ddynion a thraean yn ferched. Ar gyfer y sancsiynau llai difrifol, mae'r gwahaniaeth ychydig yn llai sylweddol – rhoddwyd 61% o'r ceryddon neu ddirwyon i ddynion, a 39% i ferched.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o rywedd
Gwryw Benyw
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 66% (105) 34% (55)
Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd 61% (31) 39% (20)
Cerydd neu ddirwy 66% (49) 34% (25)

Roeddem yn gwybod rhywedd y canlynol:

  • 51 o 60 o lythyrau cynghori neu ganfyddiadau a rhybuddion (85%)
  • 74 o 91 o geryddon a dirwyon (81%).
Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae cyfran yr unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a enwyd ar achosion yng ngham 3 (36%) yn uwch na'r rhai a gynrychiolwyd yng ngham 2 (33%). Ar gyfer unigolion Gwyn, mae cyfran y rhai a enwyd ar achosion yng ngham 3 (64%) yn is na'r rhai a gynrychiolwyd yng ngham 2 (67%). 

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o ethnigrwydd
Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 75% (4,138) 25% (1,376)
Cam 2: Ymchwiliadau 67% (722) 33% (356)
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 64% (90) 36% (51)

O'r 258 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol yng ngham 3, roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 141 ohonynt (55%).

Canlyniadau – ethnigrwydd

O'i gymharu â'r dadansoddiad cyffredinol o unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a enwyd yng ngham 3 (36%), mae cyfran ychydig yn uwch yn y canlyniadau llai difrifol (llythyrau cynghori neu ganfyddiadau a rhybuddion), sef 38%, a chyfran ychydig yn is yn y mathau o sancsiynau mwy difrifol (ceryddon neu ddirwyon), sef 32%.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol 64% (90) 36% (51)
Llythyr cynghori neu ganfyddiad a rhybudd 62% (28) 38% (17)
Cerydd neu ddirwy 68% (45) 32% (21)

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd y canlynol:

  • 45 o 60 o lythyrau cynghori, canfyddiadau a rhybuddion (75%)
  • 66 o 91 o geryddon a dirwyon (73%).

Oedran

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae rhywfaint o wahaniaethau ar draws y grwpiau oedran. Ar gyfer y grŵp ieuaf (16-34) mae cynnydd yng nghyfran yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben gyda sancsiwn mewnol yng ngham 3 (19%), o'i gymharu â'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yng ngham 2 (10%).  Ar gyfer y grŵp ieuaf ar ôl hwn (35-44) a'r grŵp hynaf (65+), mae'r canrannau'n weddol gymesur rhwng camau 2 a 3. Ar gyfer yr ystodau canolig (45-54 a 55-64), mae gostyngiad yn y cyfrannau yng ngham 3 o'i gymharu â cham 2).

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o oedran
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 14% (911) 26% (1,766) 28% (1,915) 21% (1,420) 11% (717)
Cam 2: Ymchwiliadau 10% (137) 25% (335) 29% (386) 23% (304) 12% (162)
Cam 3: Achosion gyda sancsiwn mewnol 19% (44) 26% (60) 25% (58) 18% (43) 13% (30)

O'r 258 o unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol, roeddem yn gwybod oedran 235 o unigolion (91%).

Canlyniadau – oedran

O edrych ar fathau mewnol ac allanol o sancsiynau ar draws categorïau oedran, nid oes patrwm clir ac mae'r niferoedd yn rhy isel i ddod i unrhyw gasgliadau ystyrlon o'r canfyddiadau. Oherwydd y niferoedd isel iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn gallwn ei adrodd – ni allwn adrodd nifer y bobl a gafodd lythyr cynghori na chanfyddiad a rhybudd ar gyfer y categori hwn.

Llwybr A: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o oedran
16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Cam 3: Achosion gyda sancsiwn mewnol 19% (44) 26% (60) 25% (58) 18% (43) 13% (30)
Cerydd neu ddirwy 13% (11) 33% (29) 24% (21) 16% (14) 15% (13)

Roeddem yn gwybod oedran y canlynol:

  • 58 o'r 60 o unigolion a gafodd lythyr cynghori a/neu ganfyddiad a rhybudd (97%)
  • 88 o'r 91 o unigolion a gafodd gerydd a/neu ddirwy (97%).

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r achosion a ddaeth i ben drwy lwybr gorfodi B: hynny yw, y pryderon a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) ac a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Rydym yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys. Y Tribiwnlys sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr achosion y cyfeirir atynt yn yr adran hon. Mae'n annibynnol arnom a gall osod ystod ehangach o sancsiynau na ni.Welsh Path B.jpg

Mae ein dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar weithgarwch gorfodi yn ystod blwyddyn benodol. Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â cham 1 a 2 a'r rhai sy'n gysylltiedig â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys fel arfer.

Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddata 2020/21 yn yr adran hon – mae unrhyw newidiadau arwyddocaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng ngham 4 wedi'u cynnwys yn yr adran Canfyddiadau allweddol uchod.

Y data

Dylid nodi bod y data yn yr adran hon yn cynnwys achosion a ddaeth i ben drwy benderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys (yn dilyn gwrandawiad herio fel arfer) a'r rhai a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Mae'r rhain yn gytundebau i setlo achos rhyngom ni a'r unigolyn, sy'n cael eu cymeradwyo gan y Tribiwnlys. Rydyn ni wedi archwilio'r dadansoddiad o amrywiaeth y rhai y daeth eu hachosion i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn yr adran nesaf.

Daeth 101 o achosion i ben yn y Tribiwnlys, a oedd yn cynnwys 110 o unigolion a 115 o ganlyniadau yn 2020/21. Mae'r gwaith dadansoddi yn yr adran hon yn seiliedig ar y 110 unigolyn hynny. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, mae achosion sy'n ymwneud â chwmnïau wedi'u heithrio. 

Mae dwy siart ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r cyntaf yn dangos proffil yr unigolion yn yr holl gamau canlynol:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar adroddiadau a gyflwynwyd i ni ar gyfer y flwyddyn 2020/21
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar yr adroddiadau hynny yn 2020/21 y gwnaethom fwrw ymlaen i ymchwilio iddynt
  • cam 4 – unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2020/21.
  • Mae'r ail dabl yn dangos dadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ôl y math o ganlyniad (neu sancsiwn) a roddwyd gan y Tribiwnlys. Gall unigolion gael mwy nag un canlyniad.

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Mae canlyniadau achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys yn cael eu cyhoeddi yn gyffredinol ac oherwydd bod y niferoedd yn isel yn y cam hwn, byddai adrodd yn fanylach yn creu risg o ddatgelu hunaniaeth rhywun. Felly, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydyn ni'n gallu ei adrodd yn yr adran hon:

  • Nid ydyn ni wedi gallu cynnwys dadansoddiad ar gyfer anabledd o gwbl.
  • Nid ydyn ni wedi gallu adrodd ar wahân ar y grwpiau yn y categori Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Rydyn ni wedi grwpio'r categorïau oedran 16–24 a 25–34 gyda'i gilydd.
  • Rydyn ni wedi eithrio rhai canlyniadau o'r dadansoddiad – 12 gwaharddiad dros dro, 9 gorchymyn arall a 6 achos lle nad oedd gorchymyn.
  • Nid oedden ni'n gallu adrodd unrhyw ganlyniadau yn ôl oedran, dim ond dirwyon yn ôl rhywedd, a'r penderfyniadau dileu oddi ar y gofrestr yn ôl ethnigrwydd a rhywedd.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yng ngham 4 (110 o unigolion), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Hefyd, gan fod dadansoddi ar ffurf canrannau yn gallu bod yn gamarweiniol mewn grwpiau bach, rydyn ni wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw hefyd.

Ein canfyddiadau

Rhywedd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae gorgynrychiolaeth o ddynion a thangynrychiolaeth o ferched wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys, o'u cymharu â'r rhai a enwyd mewn adroddiadau y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Mae cyfran y dynion yn cynyddu, o 68% i 73%, ac mae cyfran y menywod yn gostwng, o 32% i 27%.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o rywedd

Gwryw Benyw
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 62% (3,913) 38% (2,365)
Cam 2: Ymchwiliadau 68% (820) 32% (393)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 73% (75) 27% (28)

Roedden ni'n gwybod rhywedd 103 o'r 110 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y Tribiwnlys (94%).

Canlyniadau'r Tribiwnlys – rhywedd

Mae cyfran y dynion sy'n cael eu dileu oddi ar y gofrestr (65%) yn agosach i gyfran y dynion sy'n cael eu hadrodd i ni (62%). Mae hyn yn is o lawer na'r 73% o ddynion sy'n cael eu henwi ar achosion yn y Tribiwnlys. Oherwydd y niferoedd isel iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn gallwn ei adrodd – ni allwn adrodd nifer y bobl a gafodd ddirwy ar gyfer y categori hwn.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o rywedd
Gwryw Benyw
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 73% (75) 27% (28)
Dileu oddi ar y gofrestr 65% (34) 35% (18)

Roedden ni'n gwybod rhywedd 52 o'r 52 o unigolion (100%) a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr.

Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae dadansoddiad ethnigrwydd unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn gymesur â'r dadansoddiad yn y cam ymchwilio. Mae 67% o'r unigolion yn y cam ymchwilio yn Wyn, o'i gymharu â 66% yn y cam Tribiwnlys.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 75% (4,138) 25% (1,376)
Cam 2: Ymchwiliadau 67% (722) 33% (356)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 66% (59) 34% (31)

Roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 90 o'r 110 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (82%).

Canlyniadau'r Tribiwnlys – ethnigrwydd

Mae'r sefyllfa'n debyg i'r patrymau a welir ar gyfer canlyniadau mewnol yn yr adran flaenorol. O'i gymharu â'r dadansoddiad cyffredinol o unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a enwyd yng ngham 4 (34%), mae cyfran uwch yn y canlyniad llai difrifol (dirwyon), sef 40%, a chyfran is yn y canlyniad mwy difrifol (dileu oddi ar y gofrestr), sef 30%.

Llwybr B: Mathau o ganlyniadau – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 66% (59) 34% (31)
Dirwy 60% (18) 40% (12)
Dileu oddi ar y gofrestr 70% (31) 30% (13)

Roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 30 o'r 31 o unigolion a gafodd ddirwy (97%) a 44 o'r 52 o unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr (85%).

Oedran

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, yn y ddau grŵp iau (16-34 a 35-44) mae gostyngiad yng nghyfran yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (7% a 19% yn y drefn honno) o'i gymharu â'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yng ngham 2 (10% a 25% yn y drefn honno). Mae'r gwrthwyneb yn wir yn y grwpiau hŷn, lle mae cynnydd yng ngham 4 o'i gymharu â cham 2. Mae hyn yn fwyaf arwyddocaol yn y grŵp 55-64, sy'n cyfrif am 23% yn y cam ymchwilio a 28% o ganlyniadau'r Tribiwnlys.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad o oedran

16-34 35-44 45-54 55-64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 14% (911) 26% (1,766) 28% (1,915) 21% (1,420) 11% (717)
Cam 2: Ymchwiliadau 10% (137) 25% (335) 29% (386) 23% (304) 12% (162)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben mewn SDT 7% (8) 19% (21) 31% (34) 28% (31) 14% (15)

Sylwch nad yw'r niferoedd yn dod i 100%, a hynny oherwydd talgrynnu.

Roedden ni'n gwybod oedran 109 o'r 110 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT (99%). Oherwydd y niferoedd isel iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn gallwn ei adrodd – ni allwn adrodd y canlyniadau ar gyfer y categori hwn.

Ystyr canlyniadau y cytunwyd arnynt yw cytundebau i setlo achos rhyngom ni a'r unigolyn sydd wedi'i gyhuddo o gamymddwyn (yr ymatebydd), sy'n cael eu cymeradwyo gan y Tribiwnlys. Mae rheolau'r Tribiwnlys yn caniatáu i ni neu'r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunir arno. Mae hyn yn arwain at ddatrys rhagor o achosion yn y modd hwn. Gall fod yn ffordd gymesur a chosteffeithiol o ddod â mater i ben.

Mae'r tablau yn yr adran hon yn cymharu dadansoddiad amrywiaeth yr unigolion hynny y daeth eu hachos i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno a'r rhai y daeth eu hachos i ben drwy wrandawiad. O'r 101 o achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2020/21, cafodd 40 eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn cynnwys 41 o unigolion, a daeth 61 achos i ben yn dilyn gwrandawiad, yn cynnwys 69 o unigolion.

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Mae canlyniadau achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys, gan gynnwys drwy ganlyniadau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cyhoeddi yn gyffredinol ac oherwydd bod y niferoedd yn isel yn y cam hwn, byddai adrodd yn fanylach yn creu risg o ddatgelu hunaniaeth rhywun. Felly, mae cyfyngiadau o ran yr hyn rydyn ni'n gallu ei adrodd yn yr adran hon:

  • Nid ydyn ni wedi gallu cynnwys dadansoddiad ar gyfer anabledd o gwbl.
  • Nid ydyn ni wedi gallu adrodd ar wahân ar y grwpiau yn y categori Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Rydyn ni wedi grwpio'r tri grŵp oedran ieuaf, sef y rhai rhwng 16 a 44 oed, gyda'i gilydd.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio
Oherwydd y niferoedd isel â chanlyniad y cytunwyd arno (41 o unigolion), ni allwn gadarnhau'n hyderus a yw'r canfyddiadau yn yr adran hon yn ystadegol arwyddocaol neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Hefyd, gan fod dadansoddi ar ffurf canrannau yn gallu bod yn gamarweiniol mewn grwpiau bach, rydyn ni wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw hefyd. Felly, nid ydyn ni wedi gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar sail y newidiadau i'r data hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rhywedd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae canran uwch o ferched wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (31% yn cynnwys 12 unigolyn) o'i gymharu â'r rhai a ddaeth i ben drwy wrandawiad (25% yn cynnwys 16 unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o rywedd

Gwryw Benyw
Achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad Tribiwnlys 20/21 75% (48) 25% (16)
Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys 20/21 69% (27) 31% (12)

Roedden ni'n gwybod rhywedd 39 o'r 41 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (95%). Roedden ni'n gwybod oedran 64 o'r 69 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (93%). Roedd cyfran uwch o ferched wedi datrys eu hatgyfeiriad at y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno – 43% o ferched o'i gymharu â 36% o ddynion.

Ethnigrwydd

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae cyfran is o unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (24% yn cynnwys 8 unigolyn) o'i gymharu â'r rhai a ddaeth i ben drwy wrandawiad (40% yn cynnwys 23 unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad Tribiwnlys 20/21 60% (34) 40% (23)
Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys 20/21 76% (25) 24% (8)

Roedden ni'n gwybod ethnigrwydd 33 o'r 41 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y SDT drwy ganlyniad y cytunwyd arno (80%). Roedden ni'n gwybod oedran 57 o'r 69 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (83%).

Oedran

Er ei bod yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw yn y cam hwn yn isel, mae cyfran is o unigolion rhwng 45 a 54 oed a rhwng 55 a 64 oed wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno o'i gymharu â'r rhai a ddaeth i ben drwy wrandawiad. Mae'r gwrthwyneb yn wir ar gyfer unigolion dros 65 oed a'r grŵp oedran 25-44, lle mae cyfran uwch o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad o oedran

25-44 45-54 55-64 65+
Achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad Tribiwnlys 20/21 22% (15) 37% (25) 32% (22) 9% (6)
Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys 20/21 34% (14) 22% (9) 22% (9) 22% (9)

Roedden ni'n gwybod oedran pob un o'r 41 o unigolion a enwyd ar achosion a daeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (100%). Roedden ni'n gwybod oedran 68 o'r 69 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (99%).

Mae'r siartiau yn yr atodiad hwn yn dangos dadansoddiad amrywiaeth o'r boblogaeth sy'n ymarfer, yn cynnwys:

  • unigolion ar y gofrestr sydd â thystysgrif ymarfer gyfredol
  • cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig neu gyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi'u heithrio
  • yn dibynnu ar y rôl, rhai nad ydynt yn gyfreithwyr, fel rheolwyr a swyddogion cydymffurfio.

Mae'r data'n seiliedig ar gipolwg a gymerwyd ar 1 Tachwedd 2021 o ddata a ddarparwyd gan unigolion drwy eu cyfrifon mySRA. Y boblogaeth sy'n ymarfer ar y dyddiad hwn oedd 162,955.

Gan fod yr adroddiadau a'r achosion sy'n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn dod o 2020/21, dyma'r ffynhonnell data mwyaf priodol ar gyfer cymharu proffil amrywiaeth y bobl sy'n cael eu cynrychioli yn ein prosesau.7 Mae'r data hyn yn wahanol i'r hyn sydd wedi'i gasglu bob yn ail flwyddyn yn ein casgliad data amrywiaeth cwmnïau sy'n ymwneud â chyfreithwyr, twrneiod eraill a staff eraill sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol. 

Fodd bynnag, dylid nodi nad yw'r holl unigolion sy'n mynd drwy ein proses orfodi ymysg y boblogaeth sy'n ymarfer a ddiffinnir uchod. Mae gennym ddyletswydd i reoleiddio pawb sy'n gweithio mewn cwmni cyfreithiol, er mwyn inni allu ymchwilio i bryderon am bobl nad ydynt yn gyfreithwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, paragyfreithwyr ac ysgrifenyddion cyfreithiol a rhai rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr. Nid ydynt ar gofrestr y cyfreithwyr, nid oes ganddynt dystysgrif ymarfer ac nid oes ganddynt gyfrifon mySRA, felly nid oes gennym wybodaeth amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn. 

Cyfraddau datgelu

Wrth edrych ar y boblogaeth sy'n ymarfer, mae'r boblogaeth ar gyfer y pedair nodwedd amrywiaeth yn amrywio o 74% (ar gyfer ethnigrwydd) i 100%8 (ar gyfer oedran). Ar wahân i'r data oedran, daw'r data amrywiaeth o gyfrifon mySRA unigol, lle nad yw'n orfodol i bobl ddatgan eu nodweddion amrywiaeth.

Rhywedd

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 148,939 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roedden ni'n gwybod eu rhywedd. Mae'n cynrychioli 91% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2021.

Benyw Gwryw
Y boblogaeth sy’n ymarfer 52% 48%

Ethnigrwydd

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 121,301 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roedden ni'n gwybod eu hethnigrwydd. Mae'n cynrychioli 74% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2021.

Poblogaeth sy'n ymarfer – dadansoddiad o ethnigrwydd

Asiaidd Du Cymysg Grŵp ethnig arall Gwyn
Y boblogaeth sy’n ymarfer 12% 3% 2% 2% 82%
18%

Sylwch nad yw'r niferoedd yn dod i 100%, a hynny oherwydd talgrynnu.

Oedran

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 162,874 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roedden ni'n gwybod eu hoedran. Mae'n cynrychioli 100%9 o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2021.
Poblogaeth sy'n ymarfer – dadansoddiad o oedran

16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+
Y boblogaeth sy'n ymarfer 0% 24% 33% 24% 14% 5%

Anabledd

Mae'r siart isod yn dangos y 2,293 o gyfreithwyr sy'n ymarfer sydd wedi datgan anabledd (o 162,955).

Poblogaeth sy'n ymarfer – dadansoddiad o anabledd

Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi
Y boblogaeth sy'n ymarfer 99% 1%
  1. Nid ydym yn defnyddio'r acronym 'BAME' i gyfeirio at y grŵp hwn mwyach.
  2. Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ond mai 100% sy’n cael ei ddangos o ganlyniad i dalgrynnu.
  3. Nid ydyn ni bob amser wedi casglu data anabledd yn y modd rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae hyn yn golygu nad ydyn ni'n gallu gwahaniaethu, yn sicr, rhwng pobl sydd wedi datgan yn dweud nad oes ganddynt anabledd a'r rheini sydd heb ateb y cwestiwn.
  4. Mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymateb a hunan-adroddwyd i'r cwestiwn canlynol, 'Beth yw eich rhywedd: gwryw, benyw, disgrifiad arall y mae'n well gennyf, neu well gen i beidio â dweud'. Nid oes yn rhaid i gyfreithwyr sy'n ateb y cwestiwn hwn ateb yn unol â'u rhywedd cyfreithiol.
  5. Defnyddir cytundebau setlo rheoleiddiol pan fydd unigolyn yn derbyn cyfrifoldeb am yr holl honiadau yr ymchwiliwyd iddynt, neu rywfaint ohonynt, a'n bod ni a'r unigolyn yn cytuno ar y canlyniad.
  6. Mae gorchmynion adran 99 yn ymwneud ag anghymhwyso pobl heb eu hawdurdodi rhag gweithio mewn gwasanaethau cyfreithiol neu eu hatal rhag swyddi penodol, fel Pennaeth Cyllid a Gweinyddiaeth Pennaeth Practis Cyfreithiol.
  7. Mae'r data hyn yn wahanol i'r hyn sydd wedi'i gasglu bob yn ail flwyddyn yn ein casgliad data amrywiaeth cwmnïau sy'n ymwneud â chyfreithwyr, twrneiod eraill a staff eraill sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol. 
  8. Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ond mai 100% sy'n cael ei ddangos o ganlyniad i dalgrynnu.
  9. Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ond mai 100% sy'n cael ei ddangos o ganlyniad i dalgrynnu.