Adroddiad blynyddol ar Awdurdodiad 2022/23

English Cymraeg

Gwybodaeth am ein gwaith awdurdodi

Awdurdodiad yw'r pwynt allweddol lle rydym ni'n sicrhau bod unigolion a busnesau sy'n ymuno â'r proffesiwn yn cyrraedd y safonau uchel rydym ni a'r cyhoedd yn eu disgwyl.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn diogelu'r cyhoedd yn briodol. Mae ein prosesau awdurdodi yn rhoi sicrwydd bod cyfreithwyr awdurdodedig yn bodloni ein gofynion. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gynnal archwiliadau cefndir, gan gynnwys sicrhau nad oes unrhyw broblemau o ran cymeriad ac addasrwydd, a thrwy sicrhau bod yr ymgeiswyr yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau priodol.

Rydym hefyd yn sicrhau bod busnesau newydd sy'n ymuno â'r farchnad gyfreithiol reoledig yn bodloni ein gofynion. Er enghraifft: mae ganddyn nhw'r bobl briodol mewn rolau penodol i oruchwylio cydymffurfiad â'n rheolau, maen nhw'n cael eu sefydlu mewn ffordd briodol, ac maen nhw'n gallu cael y lefel angenrheidiol o yswiriant indemniad. Mae hyn yn helpu i ddiogelu eu cleientiaid.

Ein nod yw sicrhau bod y broses hon yn gweithio mor effeithlon â phosibl, gan helpu i gefnogi marchnad gyfreithiol gystadleuol a deinamig sy'n gweithio er budd defnyddwyr.

Gair am yr adroddiad hwn

Mae'r adroddiad hwn yn darparu data o'n gwaith yn y maes hwn, gan dynnu sylw at dueddiadau allweddol dros gyfnodau o dair, chwe a saith mlynedd, yn dibynnu ar gyd-destun y data. Mae'n cynnwys data newydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Hydref 2023*. Mae'n rhan o gyfres o adroddiadau sy'n ymdrin â'n gwaith ar gyfer blwyddyn 2022/23.

Dyma'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw:

  • pwy rydym ni'n eu hawdurdodi a'u rheoleiddio
  • proffil y cwmnïau cyfreithiol a'r cyfreithwyr rydym yn eu rheoleiddio
  • cefnogi arloesedd yn y sector
  • rheoleiddio yng Nghymru.

Nid yw'r adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch ein perfformiad gweithredol yn y maes hwn – ceir hynny ar wahân drwy ddiweddariadau rheolaidd i'n Bwrdd drwy ein cerdyn sgorio cytbwys.

*Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau'n ymwneud â 31 Hydref 2023 – diwedd y flwyddyn adrodd.

Mae geirfa o'r termau ar gael ar waelod y dudalen we hon.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

  • Mae'r duedd o dwf parhaus ym mhroffesiwn y cyfreithwyr yn parhau. Mae dros 166,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer – cynnydd o tua 16 y cant rhwng 2016/17 a 2022/23.
  • Ar y llaw arall, mae nifer y cwmnïau cyfreithiol yn parhau i ostwng. Bu gostyngiad o dros 10 y cant mewn niferoedd rhwng 2016/17 a 2022/23.
  • Rydym yn gweld mwy o gwmnïau'n mabwysiadu strwythur busnes amgen (ABS). Mae hynny'n caniatáu i rai nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol a'u rheoli. Mae cyfran y strwythurau busnes amgen wedi codi o saith y cant yn 2016/17 i 13 y cant yn 2022/23.
  • O ganlyniad i newid i ddull newydd yn 2019, sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i gyfreithwyr a chwmnïau, wrth ganolbwyntio ar safonau proffesiynol uchel, bu llai o angen i gyhoeddi hepgoriadau i gwmnïau. Felly, mae ceisiadau am hepgoriadau wedi lleihau dros amser.
  • Mae pedwar y cant o'r cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio yng Nghymru – ac mae'r gyfran hon wedi aros yn sefydlog dros y chwe blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae trosiant cyfun y cwmnïau hyn wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall, gan godi o £397m yn 2016/2017 i £493m yn 2022/ 2023.
Open all
  • Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru a Lloegr.
  • Cyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.
  • Unigolion sydd ar y gofrestr cyfreithwyr. Dyma gofnod o unigolion sydd wedi cael eu derbyn i'r proffesiwn. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y gofrestr wrthi'n ymarfer y gyfraith, er enghraifft, oherwydd eu bod wedi ymddeol.
  • Y rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol a rhai mathau eraill o fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol.
  • Cyfreithwyr tramor cofrestredig (RFLs) a rhai cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig o'r Swistir (RELs).

Proffil o gwmnïau cyfreithiol

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng yn raddol ers 2016, gan ostwng o 10,420 yn 2016 i 9,328 yn 2023 – gostyngiad o 10%. Roedd y gostyngiad hwn wedi cyflymu yn 2020, o bosibl oherwydd bod llai o gwmnïau newydd wedi cael eu sefydlu yn ystod pandemig Covid-19 a'r rhagolygon economaidd gwannach yn y DU yn annog pobl i beidio â sefydlu busnes newydd. Mae cwmnïau cyfreithiol yn cael eu cyfuno yn y farchnad hefyd.

Mae nifer y cwmnïau cyfreithiol sy'n dewis ymgeisio am strwythur busnes amgen (ABS) (sydd ar gael i'r rheini nad ydynt yn gyfreithwyr sydd â rheolaeth neu berchnogaeth) yn parhau i gynyddu. Mae canran y cwmnïau sydd â thrwydded strwythur busnes amgen wedi cynyddu o 7% yn 2016/17 i 13% yn 2022/23. Gall y model busnes hwn fod yn ddeniadol gan ei fod yn caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr gyflwyno arbenigedd a chyllid i helpu i ddatblygu eu busnesau.

Mae nifer ostyngol y cwmnïau cyfreithiol yn gyffredinol yn wahanol i nifer y cyfreithwyr sy'n ymarfer, sy'n parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall (gweler proffil o'r boblogaeth cyfreithwyr).

  2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Cyfanswm y cwmnïau cyfreithiol 10,420 10,407 10,341 10,107 9,860 9,636 9,328
Cwmnïau sydd â thrwydded Strwythur Busnes Amgen (ABS)* 681 791 877 945 1,040 1,141 1,202
Canran sydd â thrwydded Strwythur Busnes Amgen (ABS) 7% 8% 8% 9% 11% 12% 13%

*Is-set o'r cyfanswm

Dadansoddiad o'r mathau o gwmnïau cyfreithiol gydag is-set strwythur busnes amgen

Mae cwmnïau corfforedig yn dod yn fodel busnes mwy poblogaidd ar gyfer cwmnïau cyfreithiol, gyda'u niferoedd yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn wahanol i bob math arall o gwmni cyfreithiol, lle rydym wedi gweld y niferoedd yn gostwng.

Mae canran y cwmnïau cyfreithiol sydd â thrwydded strwythur busnes amgen wedi cynyddu ar draws pob math o gwmni rhwng 2016/17 a 2022/23. Fodd bynnag, sylwch fod niferoedd 'Partneriaeth â thrwydded strwythur busnes amgen (is-set)' ac 'Arall â thrwydded busnes amgen is-set' yn fach, felly dylid trin newid yn y ganran, a achoswyd gan newid bach yn y nifer, yn ofalus.

Sylwch, oherwydd natur eu busnes, ni all ymarferwyr unigol fabwysiadu trwyddedau strwythur busnes amgen. Rhaid i gyfreithiwr a rhywun nad yw'n gyfreithiwr fod yn rhan o redeg strwythur busnes amgen.

  2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Cwmni corfforedig 4,537 4,778 4,952 5,015 5,093 5,161 5,153
Cwmni corfforedig â thrwydded Strwythur Busnes Amgen (is-set) 477 (11%) 559 (12%) 629 (13%) 687 (14%) 773 (15%) 850 (16%) 905 (18%)
Ymarferydd unigol (practis unigol a gydnabyddir) 2,489 2,367 2,217 2,060 1,878 1,716 1,577
Partneriaeth 1,799 1,673 1,584 1,470 1,352 1,226 1,105
Partneriaeth â thrwydded Strwythur Busnes Amgen (is-set) 30 (2%) 41 (2%) 46 (3%) 47 (3%) 46 (3%) 50 (4%) 50 (5%)
Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig 1,557 1,542 1,549 1,526 1,503 1,498 1,461
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig â thrwydded ABS (is-set) 172 (11%) 189 (12%) 199 (13%) 208 (14%) 218 (15%) 238 (16%) 244 (17%)
Arall 38 37 39 36 34 34 32
Arall â thrwydded Strwythur Busnes Amgen (is-set) 244 (17%) 2 (5%) 3 (8%) 3 (8%) 3 (9%) 3 (9%) 3 (9%)

Awdurdodi cwmnïau ac unigolion i gynnig gwasanaethau cyfreithiol

Pan fydd cwmni'n dymuno cael ei reoleiddio gennym ni, neu pan fydd cwmni rydym eisoes yn ei reoleiddio yn dymuno newid ei endid cyfreithiol, rhaid iddo wneud cais i ni. Yn yr un modd, rhaid i gwmnïau awdurdodedig wneud cais i ni gymeradwyo unigolion ymlaen llaw i ddal rolau penodol yn y cwmni. Byddwn wedyn yn asesu cymhwysedd yr unigolyn a'i fod o gymeriad da ac yn addas i ddal y rôl. Mae'r rolau hyn yn cynnwys:

  • swyddog cydymffurfio ar gyfer practis cyfreithiol
  • swyddog cydymffurfiaeth ar gyfer gweinyddu ariannol
  • rheolwyr a pherchnogion
  • perchnogion, swyddogion a rheolwyr llesiannol (at ddibenion rheoliadau gwyngalchu arian).

Rydym yn cynnal archwiliadau amrywiol fel rhan o'r broses ymgeisio hon. Ar gyfer cwmnïau, mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod gan y cwmni yswiriant indemniad proffesiynol priodol, manylion am berchnogaeth a strwythur rheoli'r cwmni ac unrhyw risgiau cysylltiedig â'r gwaith y mae'n ei wneud. Ar gyfer unigolion, gall ein gwiriadau gynnwys archwiliadau cofnodion troseddol, adroddiadau credyd ac archwiliadau hanes rheoleiddio. Os yw ymgeisydd yn cael ei reoleiddio gan reoleiddiwr arall, mae angen i ni gael cadarnhad gan y rheoleiddiwr hwnnw hefyd ynghylch enw da'r unigolyn.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni adrodd am y data hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny bob blwyddyn. Rydym wedi cyflwyno data eleni ochr yn ochr â blynyddoedd adrodd 2020/21 a 2021/22 i roi cyd-destun. Dyma'r blynyddoedd y mae gennym ddata cymaradwy ar eu cyfer.

Ceisiadau cwmnïau

Mae cyflwyno cais i sefydlu cwmni yn broses drylwyr. Rydym yn gweithio gyda'r rheini sy'n ceisio sefydlu cwmni wrth i ni asesu eu ceisiadau i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni ein gofynion. Weithiau, pan fydd ymgeiswyr yn sylweddoli na allant fodloni'r gofynion hyn, neu pan fyddant yn penderfynu nad yw'n adeg briodol iddynt sefydlu busnes, byddant yn tynnu'n ôl o'r broses. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau. Rydym ni'n gwneud hyn:

  • lle nad ydym yn fodlon ar addasrwydd ei reolwyr na'i berchnogion i redeg a rheoli busnes sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol
  • lle nad ydym yn fodlon y bydd y cwmni'n cydymffurfio â'n gofynion a'n rheoliadau, neu
  • byddai'n groes i fudd y cyhoedd neu'n anghydnaws â'n rheoliadau i ganiatáu'r cais.

Rydym yn nodi'r niferoedd a dynnodd yn ôl ac a wrthodwyd isod.

2020/21 Nifer a ganiatawyd 2020/21 Nifer a dynnodd yn ôl 2020/21 Nifer a wrthodwyd 2020/21
Cais i awdurdodi cwmni newydd 384 36 2
Cais i newid endid cyfreithiol cwmni presennol 87 4 0
2021/22 Nifer a ganiatawyd 2021/22 Nifer a dynnodd yn ôl 2021/22 Nifer a wrthodwyd 2021/22
Cais i awdurdodi cwmni newydd 407 31 1
Cais i newid endid cyfreithiol cwmni presennol 107 3 1
2022/23 Nifer a ganiatawyd 2022/23 Nifer a dynnodd yn ôl 2022/23 Nifer a wrthodwyd 2022/23
Cais i awdurdodi cwmni newydd 321 37 2
Cais i newid endid cyfreithiol cwmni presennol 80 2 0

Ceisiadau deiliaid rolau

Mae nifer y ceisiadau a ganiateir bob blwyddyn yn adlewyrchu'r swmp uchel o weithgarwch yn y maes hwn. Rydym wedi cyfrif pob cais ar gyfer pob math o swydd deiliad rôl yn y tabl isod. Er enghraifft, os yw unigolyn wedi gwneud cais i fod yn swyddog cydymffurfio ar gyfer practis cyfreithiol a rheolwr, rydym wedi cyfrif y ddau gais.

Gellir tynnu'n ôl am amrywiaeth o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys, yn ystod y broses ymgeisio, os bydd yr unigolyn yn sylweddoli na fydd yn gallu bodloni ein gofynion, os bydd cwmni'n penderfynu ei fod am gyflwyno unigolyn gwahanol ar gyfer deiliad y rôl yn lle'r enwebiad gwreiddiol, neu am resymau gweinyddol.

Byddwn yn gwrthod cais i ddeiliad rôl gael ei gymeradwyo os nad ydym yn fodlon ynghylch addasrwydd yr unigolyn i ddal y rôl berthnasol, gan ystyried natur y rôl a'r amgylchiadau unigol.

Rydym yn nodi'r niferoedd a dynnodd yn ôl ac a wrthodwyd isod.

2020/21 Nifer a ganiatawyd 2020/21 Nifer a dynnodd yn ôl 2020/21 Nifer a wrthodwyd 2020/21
Cais i awdurdodi swydd deiliad rôl newydd neu newid swydd 2,419 100 7
2021/22 Nifer a ganiatawyd 2021/22 Nifer a dynnodd yn ôl 2020/21 Nifer a wrthodwyd 2021/22
Cais i awdurdodi swydd deiliad rôl newydd neu newid swydd 2,342 102 5
2022/23 Nifer a ganiatawyd 2022/23 Nifer a dynnodd yn ôl 2022/23 Nifer a wrthodwyd 2022/23
Cais i awdurdodi swydd deiliad rôl newydd neu newid swydd 2,268 73 5

Mae nifer y cyfreithwyr sy'n ymarfer wedi parhau i dyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed eto ym mis Hydref 2023. Mae hyn yn cyd-fynd â nifer y derbyniadau newydd i'r gofrestr bob blwyddyn, sydd hefyd yn parhau i dyfu o un flwyddyn i'r llall.

Bob blwyddyn, rydym yn gwrthod llond llaw o ymgeiswyr. Yn gyffredinol, y rhesymau yw bod yr ymgeisydd wedi methu â datgelu darn pwysig o wybodaeth sy'n ymwneud â'i gymeriad neu ei addasrwydd, neu ei fod wedi methu â bodloni ein gofynion. Mae'r nifer a'r rhesymau dros wrthod i'w gweld isod, ynghyd â nifer y derbyniadau.

Mae'r gofrestr o gyfreithwyr yn gofnod o gyfreithwyr rydym wedi'u derbyn i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y rhestr wrthi'n ymarfer y gyfraith. Er enghraifft, o'r rheini nad ydynt yn ymarfer ond sy'n dal i fod ar y gofrestr, mae'r rhan fwyaf wedi ymddeol, ond efallai bod rhai wedi cymryd cyfnod o absenoldeb o'r proffesiwn – fel seibiant gyrfa neu absenoldeb rhiant.

Ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom ailgyflwyno ymarfer cadw'r gofrestr. Mae hyn yn golygu os yw cyfreithiwr yn dymuno aros ar y gofrestr cyfreithwyr, mae angen iddo wneud cais blynyddol a thalu ffi weinyddol fach. Mae'r ymarfer blynyddol hwn yn sicrhau bod y data sydd gennym yn gyfredol.

Oherwydd y newid hwn, gwelsom ostyngiad sylweddol yn nifer y cyfreithwyr ar y gofrestr, a dangosir hyn yn y tabl isod.

Sylwch fod y ffigurau hyn yn berthnasol i gyfreithwyr yn unig ac nid ydynt yn cynnwys cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig na chyfreithwyr tramor cofrestredig. Mae nifer y cyfreithwyr ar y gofrestr yn cynnwys y rheini sy'n dal tystysgrifau ymarfer.

  Deiliaid tystysgrif ymarfer Ar y gofrestr cyfreithwyr
2016/17 143,072 185,240
2017/18 146,625 192,121
2018/19 150,349 199,181
2019/20 153,082 205,688
2020/21 156,928 212,601
2021/22 160,676 219,424
2022/23 166,256 201,690

Cymeriad ac addasrwydd

Rydym yn asesu a yw ymgeiswyr i gael eu derbyn fel cyfreithiwr yn addas i ymuno â'r proffesiwn drwy wneud yn siŵr eu bod yn bodloni ein gofynion o ran cymeriad ac addasrwydd.

Mae'r cwestiynau rydym yn eu gofyn yn cynnwys a yw'r ymgeisydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd, a ydyw wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi gan reoleiddiwr arall ac a ydyw erioed wedi cael ei ddatgan yn fethdalwr. Rydym hefyd yn cynnal ein harchwiliadau ein hunain. Wrth wneud ein penderfyniadau, rydym yn ystyried yr holl wybodaeth y mae ymgeiswyr yn ei rhoi i ni a, lle mae pryderon posibl ynghylch eu haddasrwydd, unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi cymryd camau i ddiwygio eu cymeriad.

Unigolion sydd wedi cael eu gwrthod i ymuno â'r proffesiwn

Bob blwyddyn, rydym yn gwrthod llond llaw o ymgeiswyr. Yn gyffredinol, y rhesymau yw bod yr ymgeisydd wedi methu â datgelu darn pwysig o wybodaeth sy'n ymwneud â'i gymeriad neu ei addasrwydd, neu ei fod wedi methu â bodloni ein gofynion. Mae nifer y ceisiadau rydym yn eu gwrthod bob blwyddyn yn gyfyngedig gan fod rhai pobl yn tynnu eu ceisiadau yn ôl pan nad ydynt yn gallu bodloni ein gofynion. Nid ydym yn adrodd am y niferoedd sy'n tynnu'n ôl gan nad oes gennym y data hwn.

  Unigolion a dderbyniwyd Unigolion a wrthodwyd
2016/17 6,607 5
2017/18 6,786 4
2018/19 7,003 3
2019/20 6,723 3
2020/21 7,171 8
2021/22 7,298 2
2022/23 8,819 0

Sylwch, oherwydd gwall data, ein bod ni wedi adrodd nifer yr unigolion a wrthodwyd yn 2020/21 fel saith. Mae'r ffigur a ddangosir yn y tabl yn gywir.

Rydym am weld cwmnïau'n arloesi ac yn gweithio mewn ffyrdd newydd i'w cwsmeriaid. Y rheswm am hyn yw bod gan hyn y potensial i wella gwasanaethau cyfreithiol i'r cyhoedd a gwneud y gwasanaethau hyn yn fwy fforddiadwy neu'n haws i bobl gael gafael arnynt.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi syniadau newydd lle mae manteision posibl i'r cyhoedd a lle mae defnyddwyr yn cael eu diogelu'n briodol.

Ein dull o arloesi yw caniatáu i gwmnïau, cyfreithwyr a newydd-ddyfodiaid i'r farchnad edrych ar wahanol ffyrdd o redeg eu busnes a chyflwyno syniadau gwreiddiol, gan wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael eu diogelu'n briodol. Mae'r meysydd ffocws a'r prosiectau arloesi rydym yn eu rhedeg ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Ein trydydd prosiect, sy'n cael ei arwain gan arloesedd, gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Gronfa Arloesi'r Rheoleiddwyr. Mae ein grant o ychydig o dan £120,000 yn ariannu prosiect sy'n ceisio hyrwyddo dulliau datrys anghydfodau ar-lein (ODR) fel dewis arall yn lle cyfreitha. Ei nod yw gwneud hyn drwy hyrwyddo atebion technolegol, codi ymwybyddiaeth, ac annog unigolion, defnyddwyr a microfusnesau/busnesau bach sydd ag anghenion cyfreithiol sydd heb eu diwallu i ddefnyddio'r dulliau datrys anghydfodau ar-lein.
  • Ein cysylltiad â rhaglen LawTechUK drwy gefnogi ei Uned Ymateb Rheoleiddiol (RRU). Ei nod yw cyflymu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau trawsnewidiol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cyfreithiol busnesau a chymdeithas, gan ddarparu mynediad at offer, gwasanaethau a phobl, i helpu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu atebion technoleg y gyfraith. Rydym ni'n helpu arloeswyr drwy'r Uned Ymateb Rheoleiddiol drwy ymateb i ymholiadau a'u helpu i ddeall rheoleiddio cyfreithiol.
  • Cefnogi arloeswyr drwy gynnig cyngor rheoleiddiol, helpu i lywio technoleg y gyfraith a chyfeirio at reoleiddwyr neu sefydliadau eraill i gael cymorth a gwybodaeth am fuddsoddiad. Mae'r arloeswyr hyn yn cynnwys cwmnïau cyfreithiol, busnesau newydd, a darparwyr technoleg mwy sefydledig.
  • Datblygu ein dull o reoleiddio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngoleuni datblygiad cyflym systemau deallusrwydd artiffisial a dull esblygol y llywodraeth. Rydym yn cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth o raglenni dan arweiniad y llywodraeth.

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi cwmnïau ar gael yng Nghamau arloesi'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Hepgoriadau

Rydym yn caniatáu hepgoriadau i rai o'n rheolau. Rydym yn gwneud hyn pan mae gwneud hynny o fudd i'r cyhoedd. Er enghraifft, wrth ystyried a ddylid caniatáu hepgoriad, byddwn yn asesu:

  • a fyddai mesurau diogelu priodol ar waith o hyd ar gyfer y cyhoedd
  • os yw'r hepgoriad a ganiateir yn cefnogi ac yn caniatáu i gwmnïau a chyfreithwyr gynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd neu wahanol a allai fod o fudd i'r cyhoedd.

Nid ydym yn hepgor unrhyw rai o'n rheolau sy'n ofynnol gan statud neu ddeddfwriaeth arall.

Ers cyflwyno ein Safonau a'n Rheoliadau newydd yn 2019, mae ein rheolau'n caniatáu'n benodol i gyfreithwyr weithio mewn cwmnïau nad ydym ni'n eu rheoleiddio ac nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio gan unrhyw reoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol arall, ar yr amod nad ydyn nhw'n trin arian cleientiaid. Cyn hyn, byddai cyfreithiwr a oedd eisiau gweithio yn y ffordd hon wedi gorfod cael hepgoriad 'rheolau fframwaith ymarfer'. Mae'r niferoedd yn y tabl isod yn adlewyrchu nad yw'r hepgoriadau hyn wedi cael eu rhoi ers 2018/19.

Mae meysydd eraill lle rydym wedi gweld gostyngiad mewn hepgoriadau, yn debygol oherwydd ein Safonau a'n Rheoliadau, sy'n llai rhagnodol, gan rymuso cyfreithwyr a chwmnïau i wneud penderfyniadau ynghylch sut maent yn darparu ac yn rheoli gwasanaethau cyfreithiol, yn unol â'r egwyddorion craidd sy'n canolbwyntio ar safonau proffesiynol uchel. Roeddem hefyd wedi diwygio ein canllawiau ar hepgoriadau yn 2018. Ers hynny, nid ydym wedi cyhoeddi hepgoriadau mwyach os oes ffordd resymol arall i'r ymgeisydd gyflawni ei amcan.

Mae ein rheolau ni yno i ddiogelu'r cyhoedd, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n rhwystro cwmnïau a chyfreithwyr sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Mae diffiniad o bob hepgoriad ar gael yn yr eirfa.

Math o hepgoriad/blwyddyn a'r nifer a ganiateir Rheolau Awdurdodiad Rheolau Fframwaith Ymarfer Mynediad at gyfreithwyr drwy'r Gofod Arloesedd Gofynion yswiriant indemniad proffesiynol (PII) I gyflwyno adroddiadau cyfrifwyr Ffi'r gronfa iawndal
2017/18 19 38 3 6 6 2
2018/19 28 33 2 4 9 3
2019/20 76 n/a 2 7 5 2
2020/21 48 n/a 1 19 4 0
2021/22 35 n/a 0 3 5 1
2022/23 28 n/a 0 5 3 0

Cynyddodd nifer yr achosion o hepgoriadau i'n Rheolau Awdurdodi yn sydyn yn 2019/20. Y rheswm am hyn yw na allai llawer o hyfforddeion ddilyn y cwrs sgiliau proffesiynol (PCS) wyneb yn wyneb oherwydd covid. Roedd angen y cwrs i gymhwyso fel cyfreithiwr. Felly, gwnaethom hepgor y gofyniad bod yn rhaid i rai unigolion fynd ar y cwrs sgiliau proffesiynol ar yr adeg pan gânt eu derbyn, ar yr amod eu bod wedi'i gwblhau o fewn 12 mis.

Gwelsom hefyd gynnydd sydyn yn nifer yr hepgoriadau yswiriant indemniad proffesiynol yn 2020/21. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y pandemig, gyda rhai cwmnïau a oedd yn awyddus i lansio eu hunain i'r farchnad yn penderfynu peidio â gwneud, oherwydd y tarfu a achoswyd. Roeddem hefyd wedi hepgor y gofyniad hwn ar gyfer nifer o gwmnïau yn yr Alban rydym yn eu rheoleiddio. Roedd newid yn ein rheolau'n golygu y gallent gynnig gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â'r Alban o dan reoleiddio deuol, ond byddai'n rhaid iddynt dalu'r premiwm yswiriant indemniad proffesiynol yn yr Alban yn unig, gan y byddai hyn yn cyfateb i'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl.

Sylwch, oherwydd gwall TG, ein bod wedi adrodd nifer anghywir y Rheolau Awdurdodi, gofynion yswiriant indemniad proffesiynol, ac hepgoriadau cyflwyno adroddiadau cyfrifwyr. Mae'r ffigurau a ddangosir yn y tabl uchod yn gywir.

Mae tua 4,000 o gyfreithwyr sy'n ymarfer a 378 o brif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru (amcangyfrif yw hwn oherwydd gweithio trawsffiniol). Mae hyn oddeutu 4% o holl brif swyddfeydd cwmnïau cyfreithiol. Mae tua chwarter y cwmnïau yng Nghymru a 40% o ddeiliaid tystysgrif ymarfer yng Nghymru yng Nghaerdydd.

Daeth trosiant cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i £493m yn 2022/23, i fyny bron i £100m o'i gymharu â 2016/17.

Ers 2020, rydym ni wedi cyhoeddi ein holl dystysgrifau ymarfer yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn trin y ddwy iaith yn gyfartal ac nad oes rhaid i gyfreithwyr ofyn am dystysgrif yn Gymraeg nac ateb cwestiwn ynghylch a ydynt yn siarad Cymraeg. Mae'r tabl isod yn dangos gwybodaeth flaenorol 2016 i 2019 ar gyfer 'Deiliaid tystysgrif ymarfer sy'n nodi eu bod yn siarad Cymraeg', pan oeddem yn arfer cynnig y gwasanaeth hwn.

Rheoleiddio yng Nghymru

  Deiliaid tystysgrifau ymarfer wedi'u lleoli yng Nghymru Prif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru Canran y cwmnïau cyfreithiol wedi'u lleoli yng Nghymru Deiliaid tystysgrif ymarfer sy'n nodi eu bod yn siarad Cymraeg Tystysgrifau ymarfer a gyhoeddwyd yn Gymraeg Trosiant
2016/17 3,770 440 4% 1,140 790 £397m
2017/18 3,885 443 4% 1,172 793 £410m
2018/19 3,927 431 4% 1,205 783 £428m
2019/20 4,003 420 4% 1,182 776 £435m
2020/21 4,033 400 4% Ddim yn cael ei gasglu mwyach Pob un yn cael ei chyhoeddi yn y ddwy iaith bellach £442m
2021/22 4,015 397 4% Ddim yn cael ei gasglu mwyach Pob un yn cael ei chyhoeddi yn y ddwy iaith bellach £480m
2022/23 3,973 378 4% Ddim yn cael ei gasglu mwyach Pob un yn cael ei chyhoeddi yn y ddwy iaith bellach £493m

Awdurdodiad

Strwythur busnes amgen (ABS)
Strwythur sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt.
Awdurdodiad
Pan fyddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion a chwmnïau sydd eisiau ymuno â'r farchnad gwasanaethau cyfreithiol rheoledig.
Cwmni corfforedig

Gall cwmni corfforedig gael ei ffurfio gan un neu fwy o bobl neu endidau (e.e. cwmni arall). Mae gan gwmnïau corfforedig eu hunaniaeth gyfreithiol eu hunain, sy'n eu gwahanu'n gyfreithiol oddi wrth eu cyfarwyddwyr a'u perchnogion.

Mae cwmnïau corfforedig yn hyblyg o ran eu strwythur rheoli a'u perchenogaeth. Er enghraifft, gellir newid cyfarwyddwyr a, lle bo gan gwmni rai, gellir trosglwyddo cyfranddaliadau. Mae ganddynt reolau llywodraethu rhagnodol iawn.

Mae atebolrwydd ariannol y perchnogion yn gyfyngedig hefyd, oni bai eu bod yn dewis cael cwmni anghyfyngedig. Rhaid i gwmnïau yn y DU fod wedi cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau.

Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP)

Gall Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig gael eu ffurfio gan ddau neu ragor o bobl neu endidau (e.e. cwmni arall), a fydd yn aelodau. Fel cwmnïau corfforedig, mae ganddynt eu hunaniaeth gyfreithiol eu hunain, ac felly maent ar wahân yn gyfreithiol i'w haelodau. Cyn belled â bod gan y Bartneriaeth ddau aelod, mae gan yr aelodau hynny atebolrwydd cyfyngedig – er enghraifft, mae ganddynt warchodaeth ariannol personol os bydd y busnes yn mynd yn ansolfent.

Gall cwmnïau cyfreithiol ddewis mabwysiadu strwythur Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig gan ei fod yn caniatáu atebolrwydd cyfyngedig i'w haelodau heb orfod gwneud cymaint o wybodaeth yn gyhoeddus (fel gwybodaeth cyfranddalwyr). Rhaid i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig yn y DU fod wedi cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau.

Ymarfer amlddisgyblaeth
Strwythur busnes sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau proffesiynol eraill i gwsmeriaid, fel cyfrifyddiaeth neu dirfesur.
Partneriaeth

Gall Partneriaethau gael eu ffurfio gan ddau neu ragor o bobl neu endidau (e.e. cwmni arall), a fydd yn bartneriaid. Mae partneriaethau yng Nghymru a Lloegr yn caniatáu symlrwydd gweinyddol gan nad oes rhaid iddynt gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau ac nid oes yn rhaid iddynt gyhoeddi eu cyfrifon busnes.

Yng Nghymru a Lloegr, nid oes gan bartneriaeth hunaniaeth gyfreithiol. Mae hyn yn golygu nad yw ar wahân i'w phartneriaid, ac mae'r partneriaid yn gwbl atebol am y bartneriaeth. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os yw'r bartneriaeth yn ansolfent, y gellir mynd ar drywydd dyledion y bartneriaeth yn erbyn y partneriaid eu hunain.

Tystysgrif ymarfer
Trwydded rydym yn ei rhoi i gyfreithwyr, cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig a chyfreithwyr tramor cofrestredig bob blwyddyn. Rhaid ei hadnewyddu'n flynyddol os yw'r unigolyn yn dymuno parhau i ymarfer.
Cyfreithiwr Ewropeaidd Cofrestredig (REL)
Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith eu hawdurdodaeth gartref yng Nghymru a Lloegr a chynghori ar gyfraith Cymru a Lloegr (gyda rhai cyfyngiadau). Ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, dim ond cyfreithwyr o'r Swistir all fod yn Gyfreithwyr Ewropeaidd Cofrestredig.
Cyfreithiwr tramor cofrestredig (RFL)

Rhywun â chymhwyster cyfreithiol tramor sydd wedi'i gofrestru gyda ni ond nad yw'n cael ei reoleiddio gennym ni. Gallant ddod yn rheolwr neu'n berchennog ar gwmni cyfreithiol rydym yn ei reoleiddio, ymarfer cyfraith eu hawdurdodaeth gartref, cynghori ar gyfraith Cymru a Lloegr a darparu gwasanaethau cyfreithiol diamod. Rydym yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr sy'n cynnwys enwau'r holl gyfreithwyr tramor cofrestredig. Gweler ymhellach ein canllawiau ar gyfreithwyr tramor cofrestredig.

Cofrestr cyfreithwyr
Dyma gofnod o gyfreithwyr rydym wedi'u derbyn i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y rhestr wrthi'n ymarfer y gyfraith. Nid yw cyfreithwyr tramor cofrestredig a chyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig yn cael eu cyfrif ar y gofrestr cyfreithwyr.
Ymarferydd unigol (practis unigol a gydnabyddir)

Cyfreithiwr sy'n rhedeg ei bractis cyfreithiol ei hun fel person hunangyflogedig. Pan fydd angen i'r busnes hwnnw gael ei reoleiddio gennym ni, rydyn ni'n cyfeirio atyn nhw fel ymarferwyr unigol. Fel partneriaeth, nid oes angen i unig fasnachwyr gofrestru eu busnes gyda Tŷ'r Cwmnïau, ac felly nid oes angen iddynt gyhoeddi cyfrifon eu busnes. Nid oes gan fusnes unig fasnachwr hunaniaeth gyfreithiol ar wahân. Nid yw'n berson ar wahân i'r unigolyn sy'n ei weithredu, ac maent yn gwbl atebol amdano.

Mae unig fasnachwr yn cynnig llawer o symlrwydd i fusnesau bach, ond mae ganddo ei gyfyngiadau. Yn ogystal â'r unigolyn sy'n gwbl atebol, mae holl elw'r busnes yn cael ei drethu fel incwm personol.

Geirfa – tabl â'r mathau o hepgoriadau a ganiateir

Rheolau Awdurdodiad
Efallai y byddwn yn hepgor rhai o'n Rheolau Awdurdodi os ydynt yn ddiangen o feichus i gwmni eu dilyn.
Ffi'r gronfa iawndal
Efallai y byddwn yn cytuno nad oes rhaid i gwmnïau gyfrannu at y gronfa iawndal. Gallwn wneud hyn os yw cwmni ond wedi dal swm bach iawn o arian cleient am gyfnod byr iawn, ac nad oes risg y bydd ei gleient yn gwneud hawliad i'r gronfa.
Rheolau Fframwaith Ymarfer
Roedden ni'n arfer hepgor rheolau ynghylch sut a ble gallai cyfreithwyr a phobl eraill rydyn ni'n eu rheoleiddio weithio. Gwnaethom hyn os oeddem yn fodlon nad oedd risg i'r cyhoedd wrth wneud hynny. Er enghraifft, roeddem yn caniatáu i gyfreithwyr weithio mewn cwmnïau nad oeddem yn eu rheoleiddio ac nad oeddent yn cael eu rheoleiddio gan reoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol arall, ar yr amod nad oeddent yn trin arian cleientiaid. Dydy'r rheolau hyn ddim yn bodoli mwyach. O dan y Safonau a'r Rheoliadau newydd, a gyflwynwyd yn 2019, mae'r trefniant hwn bellach yn cael ei ganiatáu.
Gofynion yswiriant indemniad proffesiynol (PII)
Gallwn gytuno nad oes rhaid i gwmnïau gael yr yswiriant indemniad proffesiynol â'r telerau a'r amodau sylfaenol sydd eu hangen fel arfer o dan ein rheolau. Rydym wedi gwneud hyn mewn achosion lle mae gan y cwmni bolisi yswiriant arall sydd â thelerau cyfatebol neu well na'n rhai ni.
I gyflwyno adroddiadau cyfrifwyr
Gallwn gytuno nad oes angen i gwmnïau anfon adroddiad blynyddol o'u cyfrifon atom os ydynt yn cau. Er enghraifft, rydym yn hepgor y rheol hon os gallwn weld bod nifer fach iawn o drafodion cleientiaid wedi cael eu trin dros gyfnod o amser.