Cynnal Safonau Proffesiynol 2020/21

Amdanom ni

Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yw rheoleiddiwr cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

Rydyn ni'n gweithio i ddiogelu aelodau'r cyhoedd a chefnogi rheolaeth y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy oruchwylio’r holl ofynion o ran addysg a hyfforddiant sy’n angenrheidiol i ymarfer fel cyfreithiwr, trwyddedu unigolion a chwmnïau i ymarfer, pennu safonau’r proffesiwn a rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau hyn.

Ni yw'r rheoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys tua 90% o'r farchnad a reoleiddir. Rydyn ni'n goruchwylio dros 210,000 o gyfreithwyr a thua 10,000 o gwmnïau cyfreithiol.

Open all

Croeso i’r trydydd adroddiad blynyddol ar Gynnal Safonau Proffesiynol ar gyfer 2020/21. Mae mwyafrif helaeth y cyfreithwyr a’r cwmnïau rydyn ni’n eu rheoleiddio yn cyrraedd y safonau uchel rydyn ni’n eu gosod, ac yn darparu gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd uchel i’r cyhoedd. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar beth sy’n digwydd pan na chyrhaeddir ein safonau a’n bod yn camu i mewn i weithredu, ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hamddiffyn a bod hyder yn y proffesiwn o hyd.

Dyma’r themâu rydyn ni’n dal i’w gweld yn cael eu cynrychioli’n gryf yn ein gwaith gorfodi: aflonyddu rhywiol, cynlluniau buddsoddi amheus, a bwlio ac aflonyddu yn y gweithle. Mae’r rhain yn feysydd cymhleth, amlwg iawn yn ein gwaith, ac mae gennym dimau arbenigol ar waith i ymchwilio i bryderon sy’n cael eu mynegi i ni. Yn 2020 cyhoeddon nifer o hysbysiadau rhybudd mewn cysylltiad â sancsiynau ar Rwsia – rydyn ni’n rhagweld y bydd hon yn thema yn adroddiad flwyddyn nesaf.

Mae’r Bwrdd yn canolbwyntio’n benodol ar leihau’r amser mae’n ei gymryd i ddod ag achosion i ben, yn enwedig achosion sydd wedi bod ar agor am gyfnod hir. Wrth gwrs mae rhai achosion yn gymhleth ac mae angen adnoddau sylweddol i ymchwilio iddynt ond er mwyn y cyhoedd a’r proffesiwn, rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn delio ag achosion mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Mae gennym waith ar y gweill i roi sylw i hyn drwy ein rhaglen gwelliant parhaus a byddwn yn monitro’r cynnydd yn ofalus drwy adroddiadau perfformiad chwarterol cyhoeddus y Bwrdd. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion nodweddion amrywiaeth y bobl sy’n rhan o’n prosesau gorfodi – dyma’r drydedd flwyddyn inni adrodd ar hyn. Y rheswm am hyn yw ein bod yn parhau i weld dynion a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli ers tro mewn pryderon sy’n cael eu mynegi i ni, a’r rhai rydyn ni’n ymchwilio iddynt. Roeddem wedi cytuno’n flaenorol i gomisiynu ymchwil yn edrych ar y ffactorau cymdeithasol a strwythurol sy’n sail i’r darlun, ac i weithio gyda rhanddeiliaid allanol ar y materion. Mae’n deg dweud bod Covid wedi arafu’r prosiect, ac o ganlyniad dim ond newydd benodi consortiwm o brifysgolion – Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd – i ymchwilio i orgynrychioliaeth yn ein prosesau gorfodi ydym ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y ddealltwriaeth y bydd yr ymchwil newydd hwn yn ei chynnig, yn ogystal â’r cyfle i weithio, gydag eraill, i newid y patrwm ac i wneud y gwahaniaeth y mae pob un ohonom yn dymuno ei weld.

Yn y cyfamser, rhaid inni barhau i adolygu ein systemau a’n prosesau ein hunain i wneud yn siŵr eu bod yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu. Fel rhan o’r gwaith hwnnw rydyn ni wedi sefydlu tîm sicrhau ansawdd hyd braich, mewnol, sy’n ychwanegu gwerth at ein trefniadau sicrhau ansawdd presennol.

Rwy’n gobeithio, fel bob amser, y bydd yr adroddiad hwn yn helpu darllenwyr i ddeall maes pwysig a heriol o’n gwaith.

Anna Bradley

Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Ein gwaith gorfodi

Ein rôl

Rôl ein gwaith gorfodi yw:

  • Cynnal a chadw safonau cymhwysedd ac ymddygiad moesegol.
  • Diogelu cleientiaid a’r cyhoedd – rydyn ni’n rheoli neu’n cyfyngu ar y risg o niwed drwy sicrhau nad yw unigolion a chwmnïau’n gallu troseddu eto neu’n cael eu rhwystro rhag gwneud hynny yn y dyfodol.
  • Anfon neges i’r bobl rydyn ni’n eu rheoleiddio’n ehangach gyda’r nod o atal ymddygiad tebyg gan eraill.
  • Cynnal hyder y cyhoedd yn y gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir.
Ein Strategaeth Gorfodi

Mae ein Strategaeth Gorfodi, fel y’i diwygiwyd ym mis Chwefror 2019 a’i diweddaru ym mis Ionawr 2022, yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan nad yw busnes neu unigolyn rydyn ni’n ei reoleiddio wedi cyrraedd y safonau rydyn ni’n eu disgwyl. Mae’n rhoi eglurder ynghylch sut rydyn ni’n penderfynu a ddylem weithredu mewn amgylchiadau penodol, a’r hyn rydyn ni’n ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y camymddwyn a’r camau i’w cymryd.

Ein pwerau

Ychydig o bwerau sydd gennym i osod sancsiynau. Er enghraifft, mae ein pwerau dirwyo ar gyfer cyfreithwyr unigol wedi’u cyfyngu i £2,000, ac nid ydyn ni’n gallu dileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr. Os byddwn yn credu bod angen cymryd y math hwn o gam gweithredu, rhaid i ni fynd â’r achos at Dribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn osod cyfyngiadau ar ymarfer cyfreithiwr neu ar y bobl sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol, ond nid ar gyfreithwyr.

Yn 2022 cynhalion ni ymgynghoriad ar ddiweddar ein pwerau dirwyo, a hynny fel rhan o’n gwaith i ddatrys achosion yn gyflymach, i wella diogelwch y cyhoedd, ac i arbed amser ac arian i bawb. Mae’r cynigion yn seiliedig ar dystiolaeth o’n profiadau gorfodi dros y deng mlynedd ddiwethaf. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau ar y cynigion cychwynnol canlynol: cynyddu’r ddirwy fwyaf y gallwn ei rhoi i £25,000; ystyried trosiant neu incwm cwmnïau ac unigolion wrth bennu dirwyon; a chyflwyno rhestr o ‘gosbau penodedig’ o hyd at £1,500 i’w gwneud hi’n haws i bawb ddelio â materion llai difrifol. Byddai cyflwyno ‘cosbau penodedig’ ar gyfer camymddwyn penodol ar lefel is nid yn unig yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddelio â materion mwy syml, ond hefyd yn darparu rhagor o dryloywder a chysondeb yn y ffordd mae cosbau’n cael eu defnyddio. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn edrych ar ddull mwy cadarn o gosbi camymddwyn difrifol, sy’n sicrhau bod sancsiynau’n gyson ac yn rhwystr effeithiol ar draws y proffesiwn cyfreithiol cyfan. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda rheoleiddwyr eraill i daro’r cydbwysedd cywir yn ein dull gorfodi.

Mae gennym bwerau mwy cadarn mewn perthynas â strwythur busnes amgen (ABS), a elwir hefyd yn gorff trwyddedig, lle nad cyfreithwyr sy’n rheoli nac yn berchen ar y busnes. Gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar y cwmni a hyd at £50m ar ei reolwyr a’i weithwyr. Mae hyn yn wahanol i gwmnïau mwy traddodiadol, fel partneriaethau neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig – lle mai dim ond Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr all roi dirwy ddiderfyn.

Mae tabl o’r sancsiynau rydyn ni a’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu gosod ar gael yn atodiad 1.

Yn 2022, rydyn ni hefyd yn ymgynghori ar ein dull o gyhoeddi penderfyniadau rheoleiddio. Rydyn ni’n ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys mathau gwahanol o ddefnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol a’r proffesiwn cyfreithiol, ac yn ceisio safbwyntiau ar amseru cyhoeddiadau; faint o fanylion rydyn ni’n eu cyhoeddi; am ba mor hir rydyn ni’n cyhoeddi penderfyniadau; a’r mathau o amgylchiadau eithriadol a allai olygu ein bod yn penderfynu na fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am benderfyniadau y byddem yn ei chyhoeddi fel arfer. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ac o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, cyn penderfynu a oes angen newid ein dull presennol o gwbl.

Helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wneud pethau’n iawn

Er mwyn helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wybod pa bryd y gallent fod fwyaf mewn perygl o fethu â chyrraedd y safonau rydyn ni’n eu disgwyl, neu o beidio â chydymffurfio â’n rheolau, rydyn ni’n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyhoeddiadau, fel:

  • ein llinell gymorth a’n gwasanaeth sgwrsio ar y we ynghylch Moeseg Broffesiynol, wrth law i ateb cwestiynau am ein rheolau a’n rheoliadau
  • canllawiau i helpu cwmnïau i ddeall sut mae ein rheolau a’n rheoliadau’n gweithio
  • ein cyhoeddiad Rhagolwg Risg blynyddol, sy’n tynnu sylw at y risgiau mwyaf yn y sector a sut gall cwmnïau a chyfreithwyr fynd i’r afael â nhw
  • adolygiadau thematig o feysydd allweddol yn y sector cyfreithiol, yn tynnu sylw at risgiau ac yn codi ymwybyddiaeth o beth sy’n ymarfer da ac yn ymarfer drwg.

Rydyn ni’n rheoleiddio tua 157,000 o gyfreithwyr sy’n ymarfer a thua 10,000 o gwmnïau cyfreithiol. Cawsom tua 10,400 o adroddiadau o bryderon yn 2020/21.

Mae nifer yr adroddiadau sy’n arwain at ryw fath o gosb yn isel, sy’n dangos bod y mwyafrif llethol o gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn gwneud gwaith da ac yn haeddu ein hymddiriedaeth.

Mae rhai o’r materion y cawn wybod amdanynt yn ymwneud â phryderon a godir yn rheolaidd, er enghraifft, materion cyfrinachedd, camarwain y llys, neu fanteisio ar drydydd parti. Rydyn ni hefyd yn cael pryderon am feysydd o’r gyfraith a ddefnyddir yn gyffredin, fel trawsgludo a phrofiant.

Mae pob achos yn wahanol, fodd bynnag, ac mae llawer yn gymhleth, gyda chymysgedd o achosion posib o dorri ein rheoliadau. Ac, er bod amrywiaeth, rydyn ni’n monitro adroddiadau i ganfod unrhyw broblemau penodol sy’n dod i’r amlwg o un flwyddyn i’r llall.

Mae gwaith cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yn aml yn gysylltiedig â meysydd sydd o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd. Er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, defnyddio rhai cymalau mewn cytundebau peidio â datgelu, gwyngalchu arian a materion sy’n ymwneud â lesddaliadau i gyd wedi bod yn amserol. Gall hyn arwain at gynnydd yn nifer yr adroddiadau cysylltiedig sy’n cael eu cyflwyno i ni. Os yw’n briodol, rydyn ni’n cymryd camau i atgoffa’r proffesiwn o’i gyfrifoldebau, er enghraifft, drwy hysbysiadau rhybuddio. Yn 2022, cyhoeddon ni gyfres o hysbysiadau am sancsiynau sy’n gysylltiedig â’r rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin, ac rydyn ni’n disgwyl gweld rhagor o weithgarwch yn hyn o beth yn adroddiad flwyddyn nesaf.

Mae materion amserol o’r fath yn aml yn uchel eu proffil ac yn ennyn diddordeb y cyhoedd – ac felly, diddordeb y wasg a’r senedd. Gall ein gwaith i gynnal safonau proffesiynol chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r pryderon hyn, ochr yn ochr â gweithgarwch arall, efallai gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith neu drwy ddiwygio deddfwriaethol.

Camymddwyn rhywiol

Gwnaethom barhau i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn rhywiol yn 2020/21. Cawsom 34 o adroddiadau newydd mewn cysylltiad ag aflonyddu ac ymddygiad rhywiol amhriodol mewn amgylcheddau sy’n gysylltiedig â gwaith. Gall honiadau o gamymddwyn rhywiol gynnwys anfon negeseuon amhriodol, gwneud sylwadau amhriodol, cyswllt corfforol heb ganiatâd ac ymosodiad rhywiol. Gall honiadau o’r fath godi yn yr amgylchedd gwaith, mewn digwyddiadau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwaith, neu ym mywyd preifat y cyfreithiwr. Ym mhob achos, rydyn ni’n ystyried yn ofalus y cyswllt rhwng y camymddwyn honedig, ymarfer proffesiynol/ymddiriedaeth y cyhoedd, a hyder yn y proffesiwn.

Roedd nifer yr adroddiadau mewn cysylltiad â’r pwnc hwn wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil yr ymgyrch #MeToo, pan gyhoeddon ni hysbysiadau rhybudd mewn cysylltiad ag ymddygiad amhriodol a chytundebau peidio â datgelu. Mae’r niferoedd wedi sefydlogi ers hynny. Gallai hyn fod oherwydd y cynnydd mewn gweithio gartref a’r ffaith fod nifer o achosion hanesyddol wedi cael eu hadrodd yn sgil #MeToo.

Hon yw’r bedwaredd flwyddyn lle mae aflonyddu rhywiol wedi bod yn thema allweddol yn ein gwaith gorfodi, yn dilyn twf yr ymgyrch #MeToo. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi a diweddaru hysbysiadau rhybuddio ac wedi rhoi arweiniad ar rwymedigaethau adrodd i arwain cwmnïau ar sut i wella eu harferion a’u diwylliannau yn y gweithle. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi ymgysylltu’n eang i ddatblygu canllawiau ar gamymddwyn rhywiol gyda’r nod o’u cyhoeddi yn hwyrach yn ystod yr haf, gan ddarparu eglurder i'r rhai rydyn ni’n eu rheoleiddio o ran yr hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl ganddynt, helpu’r rhai sy’n gorfod gwneud penderfyniadau am roi gwybod am ymddygiad i ni, a chefnogi achwynwyr sy’n ystyried rhoi gwybod am honiadau i ni.

Rydyn ni’n cydnabod bod y rhain yn faterion anodd a sensitif, ac fel yr adroddwyd o’r blaen, rydyn ni wedi sefydlu tîm arbenigol i ymchwilio i’r pryderon a godwyd. Rydyn ni’n ymwybodol bod y mathau hyn o achosion yn heriol iawn i bawb dan sylw ac yn gwneud popeth gallwn ni i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol iddynt, gan gynnwys ymgysylltu â sefydliadau cymorth arbenigol lle bo hynny’n briodol.

Roeddem wedi datrys 67 o achosion yn ystod y flwyddyn. Rydyn ni hefyd wedi atgyfeirio nifer uwch o achosion camymddwyn rhywiol at y Tribiwnlys, ac yn rhag-weld y bydd hynny’n wir flwyddyn nesaf hefyd.

Cytundebau peidio â datgelu

Mae defnyddio cytundebau peidio â datgelu (NDAs) i atal datgelu drwgweithredu, ynddo’i hun, yn fater proffil uchel, o ystyried ei berthynas â materion fel #MeToo. Mae gan achosion eraill y potensial i fod yn uchel eu proffil oherwydd pwnc yr anghydfod neu’r partïon dan sylw, a gellir cuddio’r ddau drwy ddefnyddio cytundeb peidio â datgelu.

Ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethom ddiweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar gytundebau peidio â datgelu, gan atgoffa’r proffesiwn o’i rwymedigaethau wrth eu drafftio. Yn 2020/21 cawsom wyth adroddiad newydd mewn cysylltiad ag NDAs, gan gau 10 achos. Cafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu cau heb gamau pellach, ond cafodd un ei atgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ac un ei gau â cherydd.

Mae modd defnyddio cytundeb peidio â datgelu yn gyfreithlon ac nid yw cytundebau o’r fath yn anghyfreithlon nac yn anfoesegol ynddynt eu hunain. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw’r cytundebau peidio â datgelu hynny sy’n ceisio cyfyngu ar ddatgelu camymddwyn i reoleiddiwr, neu adrodd am drosedd i’r heddlu, er nad oes modd eu gorfodi. Rydyn ni am wneud yn siŵr nad yw’r rheini rydyn ni’n eu rheoleiddio yn manteisio’n annheg ar y parti sy’n eu gwrthwynebu wrth lunio cytundeb peidio â datgelu. Mae’n bosib iawn y bydd cyfreithwyr sy’n llunio cytundebau o’r fath yn methu â gweithredu’n onest a chynnal rheolaeth y gyfraith. Gellid canfod eu bod wedi methu â chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn cyfreithiol.

Gwyngalchu arian

Mae’r sector cyfreithiol yn ddeniadol i droseddwyr oherwydd gall wneud i’r broses o ddal neu’r weithred o drosglwyddo arian a gafwyd yn sgil gweithgarwch troseddol ymddangos yn fusnes cyfreithlon. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn aml yn dal symiau mawr o arian yng nghyfrifon eu cleientiaid ac yn gallu trosglwyddo arian drwy eiddo neu drafodion eraill.

Fel rhan o’n rôl yng Ngrŵp Cyswllt y Sector Cyfreithiol (Legal Sector Affinity Group), sy’n cynnwys sefydliadau sy’n goruchwylio ymdrechion i atal gwyngalchu arian a chyrff cynrychioliadol yn y sector gwasanaethau cyfreithiol, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y gall cwmnïau ei wneud i helpu i fynd i’r afael â gwyngalchu arian. Bydd hyn yn helpu cwmnïau i gydymffurfio â’r rheoliadau gwyngalchu arian diweddaraf ac i fynd i’r afael â’r risgiau cynyddol, a rhai sy’n dod i’r amlwg, yn y sector.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae ein gwaith ar wyngalchu arian yn cael ei adrodd yn ôl blwyddyn ariannol wahanol, felly sylwch fod yr ystadegau canlynol yn perthyn i’r cyfnod rhwng 5 Ebrill 2020 a 4 Ebrill 2021. Cynhaliwyd ymweliadau â chyfanswm o 85 cwmni, yn ogystal â 168 yn rhagor o adolygiadau desg. Cawsom 273 adroddiad o achosion posibl o dorri polisïau atal gwyngalchu arian, cynnydd sylweddol o’r 196 a gawsom y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos effaith ein gwaith rhagweithiol, a oedd yn cynnwys 63 o adroddiadau o ganlyniad i ddiffyg cydweithredu â’n hymarfer datgan asesiad risg ar draws y cwmni. Roedd 29 o gamau gorfodi wedi arwain at gyhoeddi dirwyon gwerth cyfanswm o £160,000. Roeddem wedi gwneud 39 o adroddiadau gweithgarwch amheus i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol hefyd. Gallwch ddarllen rhagor am y gwaith hwn yn ein hadroddiad atal gwyngalchu arian.

Cynlluniau buddsoddi amheus

Yn 2020/21, roedden ni wedi ymchwilio i 25 o faterion newydd yn ymwneud â chyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi amheus neu beryglus. Rydyn ni wedi rhybuddio am flynyddoedd lawer ynghylch y risgiau y mae cynlluniau buddsoddi amheus yn eu peri. Mae’r cynlluniau hyn yn dwyllodrus o bosibl, yn amheus neu mor uchel eu risg eu bod yn annheg i brynwyr neu fuddsoddwyr. Ar adeg lle mae cyfraddau llog yn gyson isel, ac yn sgil pandemig Covid-19 a’i effaith ar yr economi, efallai y bydd llawer o bobl yn teimlo bod cynlluniau buddsoddi sy’n cynnig enillion uchel yn ddeniadol. Gallai cynnwys cyfreithwyr yn y broses helpu i gyfreithloni cynlluniau amheus ac mewn nifer o achosion, nid yw rhan cwmni cyfreithiol mewn cynllun buddsoddi yn rhan o fusnes arferol cwmni neu gyfreithiwr. Gall hyn fod yn rheswm allweddol pam na all ein cronfa iawndal (ac yn aml yswiriant y cwmni) helpu i adfer yr arian y mae pobl wedi’i golli.

Rydym yn parhau i gymryd camau yn erbyn cyfreithwyr sy’n rhan o gynlluniau sy’n amheus yn y pen draw. Gall y camau hyn gynnwys ymyrryd ac atgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Iechyd ymatebwyr a lles cyfreithwyr

Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn ein sector yn gallu mynd yn wael fel y maent mewn unrhyw sector, a bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen. Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain at gamau gweithredu ac ymgysylltu rheoleiddiol, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a’r help cywir. Er mwyn cefnogi cyfreithwyr sy’n wael, rydyn ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau ac rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau, fel LawCare, sy’n gallu helpu’r rheini sydd angen cymorth.

Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion lle mae ymatebwyr wedi dweud bod y materion sydd wedi dod â nhw i’n prosesau yn gysylltiedig â phwysau gwaith, yn ogystal â’r materion aflonyddu a bwlio sy’n cael sylw isod. Rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd mewn tystiolaeth feddygol mewn achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr sy’n ymwneud ag addasrwydd cyfreithwyr i gymryd rhan yn ein hachosion. Nid yw’n glir a yw hyn oherwydd bod cynnydd yn nifer yr achosion, effaith Covid-19, neu fod pobl yn fwy ymwybodol eu bod yn gallu adrodd mater o’r fath. Byddwn yn parhau i fonitro hyn ac yn 2022 rydyn ni wedi lansio ymgynghoriad ar reolau newydd ar gyfer iechyd a lles.

Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod y broses ymchwilio yn gallu achosi straen a’i bod yn gallu gwaethygu neu achosi problemau iechyd. Os byddwn yn gweld mai dyma’r achos, ac yn dibynnu ar y mater iechyd a’r dystiolaeth sydd ar gael, byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw addasiadau rhesymol neu gyfarwyddiadau rheoli achos a allai fod o gymorth. Gallwn ystyried a fyddai’n fwy priodol datrys materion drwy amodau ymarfer, neu ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na gwrandawiad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Gall ein canllawiau helpu pobl i ddeall y ffordd rydyn ni’n ymdrin â materion iechyd sy’n cael eu codi gan y rheini rydyn ni’n ymchwilio iddynt a’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano o ran tystiolaeth feddygol.

Bwlio ac aflonyddu yn y gweithle

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cael nifer cynyddol o bryderon lle mae unigolion yn adrodd bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn y gweithle. Yn 2020/21, roeddem wedi agor 19 o achosion mewn cysylltiad â bwlio ac aflonyddu – gostyngiad sylweddol o’r 83 o ymchwiliadau yn ystod y flwyddyn flaenorol. Nid yw’r rhesymau dros y gostyngiad mewn nifer yr achosion yn glir ond mae’n bosibl eu bod yn gysylltiedig, yn rhannol o leiaf, â’r gwahanol amgylcheddau gwaith yn ystod pandemig Covid-19.

Gall bwlio neu ddiwylliant gwenwynig yn y gweithle effeithio’n sylweddol ar les ac iechyd meddwl staff cwmni. Gall hefyd arwain at gamgymeriadau a chanlyniadau gwael i gleientiaid, neu bryderon moesegol difrifol, er enghraifft pan fydd staff yn teimlo dan bwysau i gelu problemau.

Yn 2022 rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau1 ar ddiwylliant y gweithle ac amgylchedd gwaith iach i gwmnïau. Mae’n canolbwyntio ar yr angen i gael polisïau, systemau a rheolaethau priodol ar waith er mwyn lleihau’r risg y bydd y math hwn o sefyllfa’n codi. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adolygiad thematig i gael gwell dealltwriaeth o’r materion ac i dynnu sylw at yr ymarfer da sy’n cael ei ddilyn mewn cwmnïau2, ac rydyn ni’n ymgynghori ar reolau newydd ar gyfer iechyd a lles, gan gynnig rhwymedigaethau pendant i gwmnïau ac unigolion drin cyd-weithwyr yn deg ac yn barchus, ac i beidio â bwlio, aflonyddu na gwahaniaethu’n annheg.

Cyhoeddi gwybodaeth allweddol i ddefnyddwyr ar wefannau cwmnïau cyfreithiol

Cyflwynwyd ein rheolau tryloywder ym mis Rhagfyr 2018. Mae’n golygu y dylai cwmnïau sydd â gwefan gyhoeddi gwybodaeth sylfaenol, ddangosol am bris gwasanaethau penodol, manylion ynghylch pwy allai wneud y gwaith, a’r ffyrdd o gwyno. Dylent hefyd ddangos ein logo mae modd clicio arno, a oedd yn orfodol ym mis Rhagfyr 2019, i helpu i egluro’r amddiffyniadau mae’r cyhoedd yn eu cael wrth ddefnyddio cwmni cyfreithiol a reoleiddir.

Mae ein hymchwil yn dangos ers cyflwyno’r rheolau, mae rhagor o ddarpar gleientiaid yn credu bod cyfreithwyr yn fforddiadwy, a byddai cwmnïau’n argymell y manteision busnes sy’n dod yn sgil mwy o dryloywder ynghylch prisiau. Fodd bynnag, mae nifer fach o gwmnïau’n brin o’r wybodaeth rydyn ni’n disgwyl iddynt ei chyhoeddi. Rydyn ni’n adolygu gwefannau cwmnïau cyfreithiol yn rheolaidd i wirio cydymffurfiaeth. Dim ond yn rhannol y mae rhai cwmnïau’n cydymffurfio, ac eraill ddim yn cydymffurfio o gwbl.

Rydyn ni wedi darparu cymorth i gwmnïau i wneud hyn yn iawn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ond, lle nad yw cwmnïau’n darparu’r math o wybodaeth y mae’r cyhoedd yn ei disgwyl ac a nodir yn ein rheolau, rydyn ni’n cymryd camau gorfodi.

Roedden ni wedi cosbi naw cwmni am dorri’r rheolau ar ôl ymchwiliadau yn 2019/20, ac mae camau gweithredu wedi cynnwys ceryddu neu ddirwyo cwmnïau.

Ar ôl ymchwiliadau yn ystod 2020/21, gwnaethom sod sancsiynau ar chwe chwmni arall am dorri rheolau – un cerydd a phum cosb ariannol.

Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod cwmnïau’n cydymffurfio â’r rheolau ac yn cymryd camau gorfodi pan fydd angen.

Gweithredu yng nghyswllt hawliadau iawndal

Yn 2020/21, roeddem wedi agor 33 o ymchwiliadau i achosion hawliadau iawndal. Mae hawliadau yn erbyn cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog ac eraill bellach yn cael eu dwyn, gan fod rhai benthyciadau a werthwyd dros y 10 mlynedd diwethaf naill ai wedi cael eu gwerthu’n anghyfrifol neu eu cam-werthu i bobl nad oeddent yn gallu fforddio eu talu’n ôl. Mae’r cynnydd mewn adroddiadau sy’n ymwneud â gwaith inswleiddio waliau ceudod diffygiol yn dilyn cynllun gan y llywodraeth ar ddechrau 2010 er mwyn helpu cartrefi i arbed ynni. Mae rhai perchnogion tai bellach yn canfod bod inswleiddio waliau ceudod wedi arwain at damprwydd neu lwydni yn yr eiddo. Hefyd, mae rhai defnyddwyr wedi canfod bod cynnyrch morgais wedi’i gam-werthu iddynt, ac nad oeddent yn gallu ei fforddio neu eu bod wedi talu gormod o ffioedd i froceriaid.

Mae’r 33 ymchwiliad hyn oll yn cynnwys tystiolaeth nad yw cyfreithwyr yn cyrraedd y safonau rydyn ni’n eu disgwyl ganddynt. Mewn rhai achosion, nid yw cyfreithwyr yn ymchwilio i weld a yw’r hawliad yn ddilys cyn ei wneud, neu nid ydynt yn cynghori cleientiaid ynghylch eu dewisiadau a’r hyn a ddisgwylir ganddynt wrth wneud hawliad. Hefyd, rydyn ni wedi canfod bod rhai cwmnïau wedi bod yn sicrhau cleientiaid drwy roi gwybodaeth anghyflawn neu gamarweiniol iddynt, ac nad yw gwaith rhai cwmnïau’n cael ei oruchwylio’n ddigonol.

Nid yw hawliadau sy’n cael eu dwyn yn amhriodol mewn meysydd sy’n gysylltiedig â hawliau defnyddwyr yn beth newydd. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweld materion tebyg yn ymwneud â salwch gwyliau a hawliadau yswiriant gwarchod taliadau. Byddwn yn parhau i fonitro’r adroddiadau a gawn am y tueddiadau hyn, yn ymchwilio i faterion ac yn cymryd camau gorfodi lle bo angen.

Rhybudd risg

Rydyn ni’n bwrw golwg ar yr amgylchedd cyfreithiol i ganfod risgiau posib. Rydyn ni’n cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i godi ymwybyddiaeth a helpu’r proffesiwn i reoli problemau, gan helpu i amddiffyn defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.

Roedd ein cyhoeddiad Rhagolwg Risg 2021 unwaith eto yn tynnu sylw at y themâu a’r risgiau a nodwyd uchod, fel gwyngalchu arian a chyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau buddsoddi amheus a pheryglus, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig Covid-19. Roedd y Rhagolwg Risg yn cynnwys seiberddiogelwch ac yn rhannu gwybodaeth am Brexit a’i oblygiadau. Mae’n ailadrodd ei bod hi’n hollbwysig sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cyrraedd, yn ogystal â manteision y budd amrywiaeth – sut mae cael gweithle sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu yn dda i gleientiaid ac i chithau.

Mae ein rhybuddion sgam ar ein gwefan yn dal i gael eu defnyddio’n helaeth. Eu nod yw rhoi gwybod i gwmnïau ac aelodau o’r cyhoedd am fusnesau sy’n camddefnyddio manylion cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau cyfreithiol ffug sy’n ceisio twyllo pobl.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Nifer yr ymweliadau â’r rhybuddion sgam ar ein gwefan 153,000 153,000 169,000 160,000

Pwy sy'n rhoi gwybod i ni am bryderon?

Rydyn ni'n cael rhai adroddiadau am bryderon yn uniongyrchol gan y proffesiwn, er enghraifft gan gyfreithwyr neu'r swyddogion cydymffurfio sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.

Daw eraill gan aelodau o'r cyhoedd, yr heddlu a'r llysoedd. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol, y sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael gan eu darparwr gwasanaethau cyfreithiol. Bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn cysylltu â ni os bydd ganddo bryderon, yn ystod un o'i ymchwiliadau, y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau. Fel pob rheoleiddiwr, rydyn ni hefyd yn monitro'r cyfryngau ac adroddiadau eraill.

Rydyn ni hefyd yn nodi pryderon wrth i ni ymgymryd ag agweddau eraill ar ein gwaith. Er enghraifft, rydyn ni'n cynnal adolygiadau thematig o fathau penodol o waith neu ofynion cyfreithiol, fel gweithdrefnau atal gwyngalchu arian.

O ganlyniad i newidiadau TG yn 2020/21, ni allwn adrodd y data penodol ar darddiad yr adroddiadau fel yr ydyn ni wedi'i wneud mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn adrodd yn llawnach ar hyn eto yn y dyfodol. Eleni daeth 27% o'r adroddiadau o'r proffesiwn, a 70% o'r tu allan i'r proffesiwn. O dan y system bresennol, mae tarddiad y 3% sy'n weddill yn anhysbys.

Rhoi gwybod i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr am bryderon

Dros y pedair blynedd diwethaf, ar gyfartaledd, rydyn ni wedi cael 10,500 o adroddiadau bob blwyddyn yn mynegi pryderon am y cyfreithwyr a'r busnesau cyfreithiol rydyn ni'n eu rheoleiddio. Serch hynny, rydyn ni wedi gweld y niferoedd yn codi a gostwng dros y blynyddoedd.

Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni i fynegi pryder, byddwn yn ystyried yr wybodaeth a anfonir atom yn ofalus ac yn penderfynu a oes angen i ni ymchwilio. Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau i'r partïon perthnasol er mwyn deall y materion yn well.

Mewn rhai achosion, gallwn ddatrys y pryderon drwy gysylltu'n syth â'r cwmni, gan wneud yn siŵr ei fod yn cywiro unrhyw ddiffygion. Lle bo angen, byddwn yn cymryd datganiadau tystion, yn ymweld â chwmnïau'n bersonol ac yn dadansoddi tystiolaeth, er enghraifft, cyfrifon banc, datganiadau ariannol a dogfennau eraill.

Ar ôl ystyried y mater yn ofalus a siarad â'r holl bartïon o dan sylw, byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf yn unol â'n Strategaeth Gorfodi.

Mewn achosion difrifol iawn, rydyn ni'n cyfeirio'r cwmni neu'r cyfreithiwr at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn annibynnol arnom ni ac mae ganddo bwerau nad oes gennym ni. Er enghraifft, gall wahardd cyfreithiwr, rhoi dirwy ddiderfyn neu ei atal rhag ymarfer.

Nifer y pryderon

Ar ôl dwy flynedd pan oedd nifer yr adroddiadau wedi gostwng, roedd cynnydd eto yn 2020/21. Roedd nifer yr adroddiadau wedi gostwng yn sylweddol yn 2019/20, a hynny o ganlyniad i effaith pandemig Covid-19 fwy na thebyg. Yn 2020/21 roedden nhw wedi dychwelyd i lefelau tebyg i 2018/19. Efallai fod gwell cyfathrebu yn un rheswm am y gostyngiad mewn niferoedd ers 2017/18. Yn benodol, rydyn ni wedi gwella'r wybodaeth i'r cyhoedd ar ein gwefan ac, yn 2018, fe wnaethom hefyd gyflwyno taflen ar y cyd â'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch gyda pha sefydliad y dylid lleisio cwyn, lle mae unigolyn wedi dod ar draws mater neu broblem gyda chwmni neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Cyfanswm yr adroddiadau a gafwyd 11,452 10,576 9,642 10,358
Cyfanswm yr ymdriniwyd â nhw 11,508 9,649 9,375 9,329

Mae nifer yr adroddiadau yr ymdriniwyd â nhw eleni yn debyg i llynedd. Cofiwch nad oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a'r nifer yr ymdrinnir â hwy yn yr un cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Dyna pam ein bod wedi delio ag ychydig mwy o bryderon yn 2017/18 o'i gymharu â'r nifer a ddaeth i law.

Yn 2018/19 roedden ni wedi cyflwyno proses newydd ar gyfer sut rydym yn ystyried pryderon pan ddôn nhw i law. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2018/19 (tudalen 13).

Camau allweddol wrth ystyried pryder

1. Ein tîm Asesu a Datrys yn Gynnar yn edrych ar ein pryderon yn gyntaf

Dim ymchwiliad gennym

Mewn llawer o achosion, ni fydd angen inni ymchwilio. Byddwn yn egluro pam bob amser. Hanner ffordd drwy 2018/19, fe wnaethom gyflwyno proses newydd i reoli'r gwaith hwn ac mae bellach yn cynnwys mwy o ymgysylltu â'r partïon dan sylw.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Cyfreithiol

Mae'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon. Rydyn ni'n anfon materion perthnasol ato ac fel arall.

Rydyn ni'n ailgyfeirio materion at awdurdodau eraill

Nid ydyn ni'n gallu ymchwilio i rai achosion oherwydd nad yw'n rhan o'n hawdurdodaeth neu ei fod yn ymwneud â chwmnïau neu bobl nad ydyn ni'n eu rheoleiddio.

Rydyn ni'n ailgyfeirio'r mater yn fewnol

Rydyn ni'n gwneud hyn os, er enghraifft, ei fod yn hawliad i'n Cronfa Iawndal neu'n ymholiad awdurdodi.

2. Rydyn ni'n ymchwilio

Siarad â phob parti perthnasol

Fel arfer, bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth. Efallai y byddwn yn siarad â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti. Lle bo angen, byddwn yn casglu dogfennau a thystiolaeth.

Byddwn yn ysgrifennu neu'n siarad â'r cwmni neu'r cyfreithiwr, gan nodi ein pryderon yn ffurfiol. Mae ganddynt gyfle i ymateb.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl

Rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r partïon drwy gydol yr ymchwiliad. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn.

3. Dod ag ymchwiliad i ben

Nid yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheoliadau na'n safonau

Mewn achosion lle rydyn ni'n canfod nad yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi methu cyrraedd y safonau rydyn ni'n eu disgwyl, byddwn bob amser yn egluro ein canfyddiadau i'r bobl a roddodd wybod inni am y mater ar y dechrau ac yn egluro pam nad ydyn ni'n cymryd camau.

Datrys drwy ymgysylltu â'r cwmni

Mae hyn yn digwydd pan fo'r achos o dorri ein safonau neu'n rheoliadau yn un mân, os nad oes risg barhaus na risg yn y dyfodol i'r cyhoedd, os yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi cymryd camau cyflym i ddatrys y broblem, ac os defnyddiwyd dull cydweithredol ac adeiladol i ddatrys y broblem.

Rydyn ni'n rhoi sancsiwn

Mewn rhai achosion, byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn gosod sancsiwn neu'n cytuno ar ganlyniad. Gall hyn gynnwys dirwyo cwmni neu gyfreithiwr neu osod cyfyngiadau ar ei dystysgrif ymarfer.

5. Atgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Yr achos yn cael ei gyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ac mae'n gwneud penderfyniad

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu cyfeirio at y Tribiwnlys. Mae'n ystyried y broblem ac yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad. Os bydd gwrandawiad, bydd y Tribiwnlys yn penderfynu a yw'n briodol rhoi sancsiwn.

Gallwn ni a'r cwmnïau a'r cyfreithwyr cysylltiedig wneud cais i apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys.

Canlyniadau adroddiadau 2020/21

Mae'r diagram ‘Pryderon a godwyd gyda ni yn 2020/21' yn rhoi trosolwg o nifer yr adroddiadau a gawsom am ymddygiad cwmnïau a chyfreithwyr yn 2020/21 a'r canlyniadau a gofnodwyd yn yr un cyfnod. Nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis. Mae hyn oherwydd na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno.

Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn iddynt ddod i law. Fodd bynnag, os caiff mater ei gyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, neu os oes gweithgarwch arall, fel ymchwiliad gan yr heddlu neu os byddwn yn cael adroddiadau cysylltiedig pellach, gall achosion gymryd llawer mwy o amser.

Fe wnaethom dreialu a chyflwyno ein proses newydd ar gyfer asesu a datrys yn gynnar ran o'r ffordd drwy 2018/19. Mae hyn yn golygu ein bod yn siarad mwy â'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu'n cysylltu â thrydydd parti, fel bo'r angen. Mae hyn yn ein galluogi i gael, casglu a gwirio gwybodaeth, sydd yn aml yn rhoi cyfle i ddatrys y mater yn gynnar heb fod angen ymchwiliad pellach. Ers cyflwyno'r dull newydd hwn, rydyn ni wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer y pryderon rydyn ni'n eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Pryderon wedi'u hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad 6,027 3,602 2,279 1,816

Nid yw'r rhan fwyaf o'r pryderon yn golygu ein bod yn cymryd camau gorfodi nac yn cyfeirio achos at y Tribiwnlys. Y rheswm am hyn yw, mewn llawer o achosion, gallwn ddatrys materion drwy ymgysylltu a heb fod angen cymryd camau gorfodi. Mewn llawer o achosion eraill, rydyn ni'n gweld nad yw'r cyfreithiwr neu'r cwmni wedi torri ein rheolau. Rydyn ni'n cadw'r holl wybodaeth a anfonir atom ac, os yw'n briodol, gallwn gyfeirio ati os bydd pryderon yn cael eu codi yn y dyfodol.

Pryderon a gyflwynwyd i ni yn 2020/21

156,928 o gyfreithwyr sy'n ymarfer cafodd 10,358 o bryderon eu cyflwyno i ni ac fe wnaethom ddelio â 9,329 yn 2020/21
Wedi'u hailgyfeirio'n fewnol neu eu hanfon at yr Ombwdsmon Cyfreithiol: 554
Ymchwiliad i mewn i'r mater yn parhau (cyfartaledd treigl dros 12 mis): 1,897
Ymchwiliadau wedi'u cynnal: 1816
Achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr: 101 Dirwy: 36 Gwaharddiad dros dro: 12 Dileu oddi ar y gofrestr: 52 Penderfyniadau eraill: 5 Dim gorchymyn: 6
Achosion gyda sancsiynau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: 268 Llythyr cynghori: 45 Cerydd: 38 Dirwy: 69 Gorchymyn adran 43: 62 Gosod amodau ar dystysgrif ymarfer: 7 Canfyddiad/
canfyddiad a rhybudd: 17
Adran 47 (2) (g): 0
Heb ganfod bod y cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheolau, nac wedi'u torri'n ddifrifol.
Rydyn ni'n ymgysylltu â rhai cwmnïau i unioni pethau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio: 1,763
Dim angen ymchwiliad: 6,959

Pryderon a godwyd gyda ni yn 2020/21

  • Gall un achos arwain at fwy nag un canlyniad. Fel y nodwyd yn flaenorol, nid oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a nifer y canlyniadau mewn cyfnod o 12 mis.
  • Os caiff adroddiad ei ailgyfeirio'n fewnol, mae hynny fel arfer oherwydd ei fod yn fater i'n tîm Awdurdodi neu'n tîm Cronfa Iawndal, er enghraifft.
  • Rydyn ni'n ailgyfeirio materion i'r Ombwdsmon Cyfreithiol os ydyn ni'n credu ei bod yn gŵyn sy'n ymwneud â lefel gwasanaeth.
  • Mae ystyr y gwahanol fathau o ganlyniadau a'r camau rydyn ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd i'w gweld yn yr eirfa ac yn atodiad 1.

Ein proses asesu a datrys yn gynnar

Mae ein proses asesu a datrys yn gynnar yn ystyried achosion yn drwyadl gan ddefnyddio ein Strategaeth Gorfodi newydd. Mae'n defnyddio dull sy'n canolbwyntio llawer mwy ar y cwsmer wrth ymgysylltu â'r bobl sydd wedi cyflwyno adroddiadau i ni.

Rydyn ni'n defnyddio prawf trothwy asesu tri cham sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r Strategaeth Gorfodi newydd i'n helpu i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad. Rydyn ni'n ystyried:

  • A yw'n bosib bod ein Safonau a'n Rheoliadau wedi cael eu torri, yn seiliedig ar yr honiadau a wnaed?
  • A yw'r achos posib o dorri yn ddigon difrifol fel y gellir arwain at gamau rheoleiddio os caiff ei brofi?
  • A oes modd profi'r achos hwnnw o dorri?

Dim ond os bydd ateb cadarnhaol i'r tri chwestiwn y bydd pryder yn pasio'r prawf hwn. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn am yr wybodaeth honno i'n helpu i benderfynu. Byddwn yn defnyddio ein Strategaeth Gorfodi i'n harwain wrth ystyried pob cam o'r prawf. Byddwn yn dweud wrth y sawl a roddodd wybod i ni am y pryder os a phan fyddwn yn penderfynu symud i gynnal ymchwiliad llawn i'r mater. Byddwn hefyd yn darparu ein rhesymau a'u hesbonio os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio.

Gall y rhesymau pam rydyn ni'n cau materion yn ystod y cam hwn fod oherwydd nad yw'n ymddangos bod ein rheolau wedi cael eu torri. Gallwn hefyd ddatrys y mater drwy ymgysylltu (er enghraifft, os yw'r pryder yn llai difrifol rydyn ni'n siarad ac yn ymgysylltu â'r cwmni ynghylch beth mae angen i'r cwmni ei wneud i gydymffurfio â'n rheolau). Efallai y byddwn hefyd yn cau materion oherwydd nad yw'r pryder a gyflwynwyd yn peri risg reoleiddiol digon sylweddol. Er nad yw'r materion hyn yn symud ymlaen i ymchwiliad, rydyn ni'n eu hystyried yn ofalus, yn ymgysylltu â chwmnïau lle bo angen ac yn cadw materion ar ffeil rhag ofn y bydd angen i ni gyfeirio atynt yn y dyfodol. 

Ymgysylltu adeiladol

Mewn rhai achosion, ar ôl i ni agor ymchwiliad, bydd ymgysylltu â chwmni neu gyfreithiwr i ddatrys mater a helpu i gydymffurfio yn gam priodol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnig arweiniad i'r cwmni neu'r cyfreithiwr ac yn ei oruchwylio a'i fonitro wrth iddo gymryd camau i ddatrys y mater. Yn gyffredinol, byddwn yn datrys materion fel hyn lle mae'r ymddygiad yn addas ar gyfer cynllun unioni ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'n debygol o gael ei ailadrodd, a lle nad oes risg barhaus. Bydd hefyd yn digwydd pan fydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw agwedd agored, gydweithredol ac adeiladol tuag at ddatrys y materion.

Dim ond y camau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd rydyn ni'n eu cymryd, ac rydyn ni'n ystyried popeth fesul achos. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y materion mwyaf difrifol, fel lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi disgyn yn is o lawer na'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl mewn achos ar ei ben ei hun, neu lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi gostwng yn is o lawer na'r safonau hyn yn gyson. Yn yr achosion hyn, mae'n debygol y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Byddwn bob amser yn egluro sut rydyn ni wedi dod i'n penderfyniad i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r mater.

Mewn rhai achosion, ar ôl i ni agor ymchwiliad, bydd ymgysylltu â chwmni neu gyfreithiwr i ddatrys mater a helpu i gydymffurfio yn gam priodol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnig arweiniad i’r cwmni neu’r cyfreithiwr ac yn ei oruchwylio a’i fonitro wrth iddo gymryd camau i ddatrys y mater. Yn gyffredinol, byddwn yn datrys materion fel hyn lle mae’r ymddygiad yn addas ar gyfer cynllun unioni ac mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’n debygol o gael ei ailadrodd, a lle nad oes risg barhaus. Bydd hefyd yn digwydd pan fydd gan y cwmni neu’r cyfreithiwr dan sylw agwedd agored, gydweithredol ac adeiladol tuag at ddatrys y materion.

Dim ond y camau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd rydyn ni’n eu cymryd, ac rydyn ni’n ystyried popeth fesul achos. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y materion mwyaf difrifol, fel lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi disgyn yn is o lawer na’r safonau rydyn ni’n eu disgwyl mewn achos ar ei ben ei hun, neu lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi gostwng yn is o lawer na’r safonau hyn yn gyson. Yn yr achosion hyn, mae’n debygol y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Byddwn bob amser yn egluro sut rydyn ni wedi dod i’n penderfyniad i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r mater.

Pan ddown i wybod am fater mwy difrifol a bod risg uniongyrchol i’r cyhoedd, mae camau y gallwn eu cymryd i gyfyngu ar y risg. Sef:

  • Ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol: gallwn gymryd meddiant o’r holl arian a ffeiliau sydd gan y cwmni neu’r cyfreithiwr, gan gau’r cwmni neu waith cyfreithiwr unigol i bob pwrpas. Rydyn ni’n gwneud hyn mewn achosion lle rydyn ni’n gwybod bod pobl mewn perygl o dderbyn gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu oherwydd bod angen amddiffyn buddiannau’r cleientiaid fel arall.
  • Gosod amodau ar dystysgrifau ymarfer: atal cyfreithiwr unigol neu gwmni rhag delio ag arian cleient neu weithredu fel rheolwr cwmni, er enghraifft.
  • Gosod ‘gorchymyn adran 43’: mae hyn yn atal pobl nad ydynt yn gyfreithwyr ond sy’n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol rhag gweithio mewn unrhyw gwmni rydyn ni’n ei reoleiddio heb ein caniatâd.

Astudiaeth achos

Siomi buddsoddwyr a chleientiaid

Yn 2021 fe wnaeth y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddileu cyfreithiwr, yr oeddem wedi ymyrryd yn ei waith, oddi ar y gofrestr. Roedden ni wedi ymyrryd yn y cwmni a’i gau yn 2019 oherwydd nad oedd yn cydymffurfio â’n hegwyddorion a’n rheolau cyfrifon, gan adfer yr holl ffeiliau cleientiaid i’w cadw’n ddiogel.

Roedd y cyfreithiwr yn perswadio pobl i fuddsoddi yn ei gwmni, a oedd yn gwneud addewidion ffug i reoli hawliadau ar gyfer morgeisiau wedi’u camwerthu. Dywedodd y cwmni y byddai’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn benthycwyr morgais am godi gormod ar fenthycwyr, ond nid oedd yn bwrw ymlaen â’r hawliadau yr oedd yn eu cael. Derbyniodd bron i 8,000 achos o’r fath. Collodd arian y buddsoddwyr ac arian y cleientiaid a oedd yn credu bod ganddynt hawliad am forgais wedi’i gamwerthu.

Dyfarnodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr fod y cyfreithiwr wedi rhannu deunydd marchnata camarweiniol, camddefnyddio arian cleientiaid, rheoli hawliadau’n annigonol, anfon negeseuon e-bost amhriodol, a thorri ein Rheolau Cyfrifon. Apeliodd y cyfreithiwr yn erbyn y dyfarniad ond cafodd yr apêl ei gwrthod yn gyfan gwbl. Dyfarnodd y Tribiwnlys ein costau llawn o ddwyn yr achos, dros £100,000, i ni.

Os yw cwmni neu gyfreithiwr wedi torri ein rheolau’n ddifrifol, gallwn gyhoeddi sancsiwn mewnol.

Mae’r ystod o sancsiynau y gallwn eu gosod yn gyfyngedig. Er enghraifft, mae ein pwerau dirwyo ar gyfer cyfreithwyr unigol wedi’u cyfyngu i £2,000, ac nid ydyn ni’n gallu dileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr. Fodd bynnag, gallwn roi dirwy o hyd at £250m ar strwythur busnes amgen, sydd hefyd yn cael ei alw’n gorff trwyddedig, a dirwy o hyd at £50m ar reolwyr a chyflogeion strwythur busnes amgen.

Pan fo’n briodol, gallwn hefyd ddatrys mater drwy gytundeb setlo rheoleiddiol. O dan gytundeb setlo rheoleiddiol, mae’r ddwy ochr yn cytuno ar y ffeithiau a’r canlyniadau. Mae cytundebau setlo rheoleiddiol yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy sicrhau canlyniadau priodol yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Rydyn ni’n cyhoeddi manylion ein canfyddiadau a’n sancsiynau, gan gynnwys y cytundebau setlo rheoleiddiol, ar ein gwefan. Rydyn ni’n gallu atal unrhyw faterion cyfrinachol rhag cael eu cyhoeddi, os yw hyn yn bwysicach na budd y cyhoedd wrth gyhoeddi (er enghraifft, manylion am gyflwr iechyd unigolyn).

Astudiaeth achos

Negeseuon tramgwyddus ar gyfryngau cymdeithasol

Roedden ni wedi cyhoeddi sancsiwn ar ôl i gyfreithiwr rannu negeseuon tramgwyddus ar gyfrif cyfrwng cymdeithasol cyhoeddus, gan ddatrys yr achos drwy gytundeb setlo rheoleiddiol. Roedd y cyfreithiwr wedi targedu aelodau seneddol â negeseuon trydar tramgwyddus, dirmygus ac amhriodol. Roedden ni wedi canfod nad oedd ymddygiad y cyfreithiwr yn cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn, ac nad oedd y cyfreithiwr wedi ymddwyn yn gywir. Y rheswm am hynny oedd bod gan y negeseuon y potensial i achosi niwed sylweddol (roedd un neges wedi achosi gofid i aelod seneddol). Fel mesur lliniaru, caeodd y cyfreithiwr y cyfrif ac ymddiheuro i dri aelod seneddol. Nid oedd gan y cyfreithiwr unrhyw hanes o beidio â chydymffurfio â rhwymedigaethau rheoleiddiol.

Roedd y cytundeb setlo rheoleiddiol yn cynnwys dirwy o £2,000, cyhoeddi’r cytundeb, a thaliad o £600 am y costau. Gan ystyried y ffactorau lliniarol, roedden ni’n credu bod dirwy’n briodol ar gyfer cynnal safonau proffesiynol a chynnal hyder y cyhoedd ym mhroffesiwn cyfreithwyr.

Rydyn ni’n erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae’n annibynnol arnom ni a gall osod ystod ehangach o sancsiynau na ni.

Er enghraifft, gall roi dirwyon diderfyn, neu wahardd neu ddileu cyfreithiwr oddi ar gofrestr y cyfreithwyr, sy’n golygu na allant weithio fel cyfreithiwr mwyach. Mae dadansoddiad llawn o’r sancsiynau rydyn ni a’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu gosod ar gael yn atodiad 1.

Wrth benderfynu a ddylid dod ag achos gerbron y Tribiwnlys, rydyn ni’n ystyried y canlynol:

  • a oes gennym dystiolaeth a fyddai'n cefnogi'r posibilrwydd realistig y byddai'r Tribiwnlys yn canfod achos o gamymddwyn
  • a yw’r Tribiwnlys yn debygol o osod sancsiwn na allwn ei roi
  • a yw cyhoeddi’r adroddiad er budd i’r cyhoedd

Roedd nifer yr achosion a atgyfeiriwyd at y Tribiwnlys yn 2020/21 ychydig yn is o’i gymharu â 2019/20, a hynny yng nghyd-destun tuedd o lai o atgyfeiriadau dros y pedair blynedd ddiwethaf. Un ffactor posibl yn hyn o beth yw’r cynnydd yn nifer yr achosion cymhleth, ac felly hir, yr ydym wedi bod yn delio â nhw. Rydyn ni wedi gweld oedi sy’n gysylltiedig â phandemig Covid-19 hefyd (er enghraifft rhoi rhagor o amser i bobl gael gafael ar ddogfennau), a allai fod wedi effeithio ar y niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Achosion gerbron y Tribiwnlys 117 134 125 112 101

Astudiaeth achos

Cynlluniau buddsoddi amheus

Roedd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi dileu dau gyfreithiwr, a oedd wedi caniatáu i dros £100m basio drwy eu cwmni drwy gytundebau tai amheus, oddi ar y gofrestr. Gweithredodd y pâr ar ran bron i 7,000 o gleientiaid yn prynu mannau parcio a storio mewn cynlluniau a oedd yn ‘sicrhau’ enillion mawr. Drwy’r trafodion hyn, cafodd y ddau gyfreithiwr ffioedd o bron i £2.9m am wasanaethau cysylltiedig â’r cynllun buddsoddi ffug.

Dywedodd y Tribiwnlys fod eu methiannau wedi achosi niwed ariannol sylweddol i nifer o gleientiaid a oedd wedi colli symiau sylweddol o arian.

Dyfarnodd y Tribiwnlys ‘y byddai pobl arferol, deg yn credu ei bod hi’n anonest i gyfreithwyr ddarparu cyngor cyfyngedig yn fwriadol er mwyn sicrhau y byddai’r trafodion yr oeddent wedi’u cyfarwyddo ar eu cyfer yn bwrw ymlaen. Ar ben hynny, byddai’n cael ei ystyried yn anonest i gyfreithwyr flaenoriaethu eu buddiannau eu hunain dros fuddiannau eu cleientiaid.’ Yn ogystal â’u dileu oddi ar y gofrestr, gorchmynnodd y Tribiwnlys iddynt dalu costau o £98,000.

Os byddwn yn cyfeirio mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a’i fod yn dweud bod achos i’w ateb, a bod y cwmni neu’r unigolyn yn cyfaddef yr honiadau, efallai y byddai’n briodol dod â’r mater i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na gwrandawiad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydyn ni’n cytuno ar ganlyniad a chostau ar sail set o ffeithiau y cytunwyd arnynt.

Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried y canlyniad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau iddo, neu orchymyn gwrandawiad llawn ar gyfer yr achos. Mae’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn wahanol i’r cytundebau setlo rheoleiddiol, sef cytundebau y byddwn yn eu llunio gyda chyfreithwyr a chwmnïau yn fewnol heb fod angen cynnwys y Tribiwnlys a phan fo’r mater yn llai difrifol. Adlewyrchir hyn yn y sancsiwn – er enghraifft, ni fydd dirwy am gytundeb setlo rheoleiddiol yn fwy na £2,000 fel arfer, tra gall dirwy yn amodol ar adolygiad y Tribiwnlys fod yn ddiderfyn.

Mae’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.

Mae cyfran uwch o achosion yn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunir arno. Un o’r prif bethau sydd wedi achosi hynny ydy newidiadau i reolau’r Tribiwnlys yn 2019, sy’n cynnwys rheol newydd sy’n caniatáu i ni neu’r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunwyd arno. Mae hyn yn annog datrys rhagor o achosion drwy ganlyniad y cytunwyd arno ac mae’n debygol mai dyma’r rheswm pam ein bod wedi gweld cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion sy’n cael eu datrys fel hyn.

2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Achosion a ddatryswyd gan SDT – canlyniad y cytunwyd arno 27 37 33 42 40
Achosion a ddatrysir gan wrandawiad SDT 90 97 92 72 61

Mewn rhai blynyddoedd, mae gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys pan fydd cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad a’r rhai a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn cael eu hadio. Gall hyn ddigwydd pan fydd achos yn ymwneud â mwy nag un unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu dod i ganlyniad y cytunir arno gydag un o’r unigolion yn yr achos, ond nad ydyn ni’n gallu gwneud hynny gyda’r llall, felly bydd angen gwrandawiad llawn i ddatrys y mater.

Arweiniodd yr achosion uchod, lle roedd canlyniad y cytunwyd arno, at y sancsiynau yn y tabl a ddangosir. Cofiwch y gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn.

Mae’r eirfa ac atodiad 1 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ystyr sancsiynau a’r camau y mae’r Tribiwnlys yn eu cymryd.

2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Achosion â chanlyniad y cytunwyd arno 27 37 33 42 40
Dileu oddi ar y gofrestr 8 15 19 19 17
Gwahardd dros dro 3 6 4 10 5
Dirwy 24 43 12 21 21
Cerydd 3 0 0 0 0
Gorchymyn adran 43 2 1 0 1 2
Penderfyniad arall 3 0 0 0 0

Astudiaeth achos

Adnabod gwyngalchu arian

Yn 2021 daethom i ganlyniad y cytunwyd arno lle cafodd cwmni ddirwy o £10,000 am beidio â chael systemau yn eu lle i adnabod a delio ag achosion posibl o wyngalchu arian. Hefyd roedd y cwmni wedi methu sicrhau bod ei gyflogeion wedi cael hyfforddiant digonol i adnabod achosion posibl o wyngalchu arian.

Ystyriodd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddifrifoldeb y camymddwyn, yr enillion ariannol cyfyngedig a wnaed gan y cwmni, maint y cwmni a’r ffaith nad oedd adroddiadau o golledion i gleientiaid. Penderfynodd y Tribiwnlys fod dirwy o £10,000 yn briodol ac yn gymesur yn yr holl amgylchiadau, ac felly cafodd y mater ei setlo â chanlyniad y cytunwyd arno. Yn ogystal â’r ddirwy, bu’n rhaid i’r cwmni dalu £10,350 o gostau.

Mae gan gwmnïau ac unigolion yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yn fewnol yn ogystal â phenderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'r hawl i apelio yn hanfodol i gyfiawnder naturiol a phroses gyfreithiol deg.

Apelio yn erbyn ein penderfyniadau

Mae gan gwmnïau ac unigolion sy’n ddarostyngedig i’n hamodau neu ein sancsiynau yr hawl i apelio. Mae apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau yn cael eu hystyried yn fewnol gan ein tîm Dyfarnu. Os deliodd dyfarnydd â’r penderfyniad cychwynnol, fodd bynnag, yna caiff yr apêl ei chlywed gan banel a ddewisir o gronfa o ddyfarnwyr hyd braich. Mae gan bartïon hawliau pellach i apelio naill ai i’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (yn achos dirwy, cerydd neu orchymyn adran 43) neu i’r Uchel Lys.

Apelio yn erbyn penderfyniadau’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Gall cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi bod yn ddarostyngedig i benderfyniad gan y Tribiwnlys apelio os yw’n credu bod y penderfyniad yn anghywir. Gallwn ninnau hefyd apelio yn erbyn penderfyniadau’r Tribiwnlys yn y llysoedd.

I apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys, rhaid i ni neu’r atebydd wneud cais i’r Uchel Lys.

Mae apeliadau’n caniatáu i lysoedd gywiro unrhyw wallau a allai fod wedi’u gwneud ac egluro sut maent yn dehongli’r gyfraith.

Yn ogystal â’r sail gyfreithiol, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau ynghylch a ydyn ni’n apelio yn erbyn penderfyniad y mae’r Tribiwnlys yn ei wneud. Er enghraifft:

  • Eglurhad ar y gyfraith: rydyn ni’n cydnabod bod gan y Tribiwnlys gryn dipyn o ddisgresiwn wrth ystyried canlyniadau’r achosion y mae’n eu clywed. Fodd bynnag, os bydd yn gwneud penderfyniad sy’n ymddangos fel pe bai’n gwrth-ddweud neu’n camddehongli pwynt cyfreithiol, byddwn yn ystyried a ddylem apelio. Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig cael eglurder a chysondeb yn y ffordd y mae’r gyfraith yn berthnasol i’n rôl fel rheoleiddiwr ac i hawliau a rhwymedigaethau’r bobl rydyn ni’n eu rheoleiddio.
  • Gweithredu er budd y cyhoedd: rydyn ni’n mynd ag achosion i’r Tribiwnlys i sicrhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac i gynnal safonau yn y proffesiwn. Os oes sail i awgrymu nad yw hyn wedi’i gyflawni, byddwn yn ystyried a yw’n briodol apelio.
  • Diogelu’r cyhoedd: os ydyn ni’n credu bod y sancsiwn a roddwyd gan y Tribiwnlys yn rhy drugarog a bod sail i awgrymu y gallai’r cyhoedd, o ganlyniad, fod mewn perygl, byddwn yn ystyried a yw apêl yn briodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn apelio yn erbyn penderfyniad lle rydyn ni o’r farn y dylai cyfreithiwr fod wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, yn hytrach na’i wahardd am gyfnod byr.

Apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau ni

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Apeliadau llwyddiannus 1 0 0 7
Wedi llwyddo’n rhannol 3 0 2 3
Apeliadau aflwyddiannus 11 11 7 14
Cyfanswm yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau 15 11 9 24

Cafwyd 268 o ymchwiliadau yn 2020/21 a arweiniodd at gymryd camau gorfodi mewnol a chyhoeddi sancsiwn fel llythyr cynghori, cerydd, dirwy, gorchymyn adran 43, gorchymyn adran 99, canfyddiad a rhybudd, a rhoi amodau ar dystysgrifau ymarfer. O blith y rhain, roedd 218 o achosion yn ymwneud ag un neu fwy o unigolion, ac enwyd 258 o unigolion yn yr achosion hyn.

Mae'r apeliadau hyn yn cynnwys nifer y ceisiadau i adolygu canlyniad gan ymatebwyr sy’n dilyn ein proses sancsiynau fewnol. Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau mewnol, a hynny o ganlyniad i newidiadau yn ein Safonau a’n Rheoliadau, a gyflwynwyd gennym yn 2019. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar y ffi apelio o £250. Mae natur yr achosion sydd wedi bod yn destun sancsiynau mewnol gennym, fel rhai achosion atal gwyngalchu arian ac achosion tryloywder, wedi cael effaith hefyd, yn enwedig lle mae apelyddion yn darparu gwybodaeth newydd yn y cam apelio.

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Mae'r penderfyniadau yn y siart isod yn ymwneud ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Fe wnaethom ni a'r ymatebwyr ddwyn llai o apeliadau yn 2019/20 a 2020/21. Mae nifer cynyddol o achosion a ddatrysir drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y blynyddoedd diwethaf yn debygol o gael effaith ar nifer yr apeliadau a glywir, gan fod partïon yn llai tebygol o apelio. Byddwn yn parhau i fonitro nifer yr apeliadau gennym ni a'r rhai a gyflwynir gan ymatebwyr.

2017/18 2018/19 2019/20 2020/21
Dyfarniad wedi'i neilltuo yn apeliadau';r ymatebwyr 2 1
Apeliadau llwyddiannus yr ymatebwyr 2 1 1 0
Apeliadau aflwyddiannus yr ymatebwyr 10 13 2 6
Apeliadau aflwyddiannus SRA 2 0 0 0
Apeliadau llwyddiannus SRA 7 6 1 0
Cyfanswm penderfyniadau apêl allanol 21 20 6 8*

*Sylwch fod un apêl arall wedi’i chlywed yn ystod 2020/21 ond bod y dyfarniad dan embargo ar hyn o bryd.

Mae’r ffioedd ymarfer rydyn ni’n eu casglu’n llawn, neu’n rhannol, yn ariannu chwe sefydliad, gan gynnwys ni. Yn 2020/21, roedden ni wedi casglu £105m. Mae £57.3m o hwn yn cyfrannu at gyfanswm gwariant yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, sef £66m at ei gilydd.

Yn 2020/21, roedden ni wedi gwario £14.2m ar ein prosesau disgyblu, sy’n rhan hanfodol o’n gwaith i sicrhau safonau proffesiynol uchel. Rydyn ni wedi lleihau costau ein prosesau disgyblu yn raddol, o £16.7m yn 2015/16. Mae’n bwysig nodi bod dirwyon, p’un ai eu bod yn cael eu cyhoeddi gan y Tribiwnlys neu drwy ein prosesau mewnol, yn cael eu talu i’r Trysorlys.

Rydyn ni’n parhau i adolygu sut rydyn ni’n gweithio ac, er mwyn cadw rheolaeth ar gostau beth bynnag, rydyn ni’n gweithio yn ôl egwyddorion allweddol. Yr egwyddorion hyn yw gweithredu’n gyflym, yn deg ac yn gymesur.

Achosion uchel eu gwerth

Gall ein gwaith gorfodi fod yn uchel ei broffil ac yn aml mae’n ymwneud â materion amserol sydd o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gall fod diddordeb yn faint y mae’n ei gostio i ni ddod ag achosion i’r Tribiwnlys ac i gyflwyno apêl. Mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar hyn: Mae’r rhain yn cynnwys cymhlethdod a hyd oes achos, nifer y partïon a chydweithrediad y rhai sydd ynghlwm.

Achosion a oedd yn costio mwy na £100,000 yn 2020/21

O’r 101 o achosion y gwnaethom eu cyflwyno i’r Tribiwnlys yn 2020/21 a’r wyth apêl y gwrandawyd arnynt, roedd pedwar lle roedd ein costau’n uwch na (tua) £100,000. Roedd 16 arall lle roedd ein costau’n uwch na (tua) £50,000. Yn gyffredinol, bydd y costau yn yr achosion hyn wedi cronni dros nifer o flynyddoedd.

Mae’r ffigurau’n cynnwys y costau a hawliwyd (neu y cytunwyd arnynt) ar gyfer:

  • cyflwyno’r achos i’r Tribiwnlys
  • cyflwyno apêl, os oedd un
  • costau a ddyfarnwyd i’r parti sy’n gwrthwynebu.

Mae costau cyflwyno achos fel arfer yn cynnwys:

  • ein gwaith yn ymchwilio i achos
  • paratoi ar gyfer gwrandawiadau gerbron y Tribiwnlys a’r Uchel Lys, boed hynny’n fewnol neu drwy gyfarwyddo cwmni panel
  • cyngor gan gwnsler neu gyfarwyddo cwnsler pan fydd ein tîm cyfreithiol mewnol yn delio ag achos.

Mewn rhai o’r achosion hyn, dyfarnodd y Tribiwnlys rywfaint o’n costau i ni neu’r cyfan ohonynt. Mae gan y Tribiwnlys ddisgresiwn eang o ran pa gostau i’w dyfarnu, ac mae’n ystyried pob achos ar sail ei ffeithiau ei hun.

Achosion a oedd yn costio mwy na £100,000 yn 2020/21

Partïon dan sylw Costau'r achos Natur yr achos a'r canlyniad terfynol
Cyfreithiwr Z, cyn-bartner mewn cwmni cyfreithiol.

£198,000

Nid oedd gorchymyn am gostau.

Roedd yr achos yn ymwneud â rôl y cyfreithiwr yn llunio fersiwn ddrafft o gytundeb peidio â datgelu mewn cysylltiad â honiad difrifol o ymosodiad rhywiol.

Roedd y Tribiwnlys wedi atal yr achos ar y sail y byddai parhau ac, yn benodol, cynnal gwrandawiad, yn cynrychioli risg sylweddol i fywyd y cyfreithiwr. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad na fyddai treial teg yn bosibl dan yr amgylchiadau.

Roger Brian Allanson, cyfreithiwr a pherchennog Allansons. Roedden ni wedi ymyrryd yn y cwmni yn 2019.

£103,867

Dyfarnwyd ein costau i ni yn llawn.

Honiadau ynghylch cynllun buddsoddi amheus.

Mae’r Tribiwnlys wedi dileu’r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Richard Mallett a Sharon Mallett, cyfreithwyr a chyfarwyddwyr Mallett Solicitors, a gaeodd yn 2016.

£151,009

Dyfarnwyd costau o £140,000 i ni.

Honiadau ynghylch cyfreithwyr yn defnyddio arian cleientiaid i dalu eu treuliau busnes.

Mae'r Tribiwnlys wedi dileu’r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Margaret a Patrick Hetherington, cyfreithwyr a phartneriaid. Roedden ni wedi ymyrryd yn y cwmni yn 2018.

£113,797

Dyfarnwyd costau o £98,000 i ni.

Honiadau ynghylch y cyfreithwyr a’u rhan mewn cynllun buddsoddi amheus.

Mae'r Tribiwnlys wedi dileu’r cyfreithiwr oddi ar y gofrestr.

Rydyn ni’n gwybod bod gweithio ym maes y gyfraith yn gallu bod yn heriol ac yn straen.

Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar gymhwysedd ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosib, at achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn arwain atom yn cymryd camau gweithredu, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y cymorth a’r help cywir.

Ceisio cymorth

Rydyn ni’n deall y gall bod yn rhan o ymchwiliad fod yn gyfnod anodd a llawn straen, yn enwedig i bobl sydd â phroblemau iechyd, neu sydd mewn sefyllfa fregus. Os felly, rydyn ni’n annog pobl i ddweud wrthym, gan fod camau y gallwn eu cymryd i wneud y broses yn haws. Dyma rai enghreifftiau o sut rydyn ni’n gallu cynnig cymorth:/p>

  • darparu un pwynt cyswllt
  • caniatáu amser ychwanegol i ymateb i ni (lle gallwn)
  • oedi ymchwiliad am dymor byr.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac rydyn ni’n ymdrin â phob mater yn seiliedig ar yr amgylchiadau unigol. Efallai y bydd angen cymorth ar aelodau’r cyhoedd a chyfreithwyr sy’n codi pryderon gyda ni hefyd, yn enwedig pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Rydyn ni’n cyfeirio pobl at amrywiaeth o adnoddau a sefydliadau a all helpu, ac mae ein holl staff yn cael hyfforddiant ar wneud addasiadau rhesymol.

Er mwyn helpu cyfreithwyr a chwmnïau i ddeall sut rydyn ni’n mynd i’r afael â materion iechyd a’r dystiolaeth feddygol y gallem ofyn amdani yn ystod ymchwiliad, fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau ar faterion iechyd a thystiolaeth feddygol ym mis Awst 2020. Mae’n cynnwys gwybodaeth am godi mater iechyd gyda ni, adroddiadau meddygol, ac iechyd a’r gallu i ymarfer, ymysg pynciau cysylltiedig eraill.

Ein hymrwymiad ehangach i les yn y proffesiwn

Fe wnaethom lansio ein hymgyrch Eich Iechyd, Eich Gyrfa yn 2016 i annog cyfreithwyr i siarad â ni os ydynt yn cael anawsterau gyda’u hiechyd neu eu lles a allai fod yn effeithio ar eu gwaith. Gall cyfreithwyr siarad â ni am hyn a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am ein rheoliadau a’r problemau y maent yn eu hwynebu. Yn 2022 rydyn ni wedi lansio ymgynghoriad ar reolau newydd ar gyfer iechyd a lles, ar ôl cyhoeddi adolygiad thematig o ddiwylliant y gweithle.

Os bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i ni’n gyfrinachol, byddwn yn cymryd camau priodol i ddiogelu hunaniaeth y sawl sy’n rhoi’r wybodaeth i ni ac yn delio â’r mater mewn modd sensitif.

Rhaid i unigolion a chwmnïau rydyn ni’n eu rheoleiddio roi gwybod i ni am faterion. Fodd bynnag, i rywun sy’n cael ei reoleiddio gennym ni ac sy’n poeni a oes modd i ni ymchwilio iddo oherwydd ei ran ei hun mewn unrhyw ddrwgweithredu, gallai rhoi gwybod i ni am y mater a chydweithio â ni fod yn gam lliniaru. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn yn cael gwybod am faterion yn gynnar. Fodd bynnag, byddai’n well gennym i gyfreithwyr ac eraill sy’n gweithio yn y sector cyfreithiol roi gwybodaeth yn hwyr na ddim o gwbl. Er na allwn warantu na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y sawl sy’n rhoi gwybodaeth i ni, mae cyflwyno’r wybodaeth i ni yn debygol o helpu ei sefyllfa, a byddwn yn ystyried y cyd-destun, gan gynnwys, er enghraifft, ofn cael ei wrthgyhuddo.

Cefnogi tystion

Pan fyddwn yn ymchwilio i gyfreithiwr neu gwmni, efallai y bydd angen cymryd datganiad neu gyfweld â thystion. Bydd hyn yn ein helpu yn ein hymchwiliad ac, o bosib, yn ein helpu i benderfynu a oes angen i ni gyfeirio’r mater i sylw’r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Rydyn ni’n deall bod hyn yn gallu bod yn straen, felly rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi tystion. Er enghraifft, os nad Saesneg yw iaith gyntaf y tyst, efallai y gallwn gynnig cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Os mai’r tyst hefyd yw’r sawl a roddodd wybod i ni am y pryder, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am sut rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r mater. Rydyn ni hefyd yn hyfforddi ein staff ar sut i gefnogi unigolion agored i niwed a gofidus, er enghraifft, mewn achosion sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Rydyn ni wedi cyhoeddi'r canfyddiadau ynghylch nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi yn ein hadroddiadau ar Gynnal Safonau Proffesiynol yn 2018/19 a 2019/20. Cafodd adroddiadau ategol, manwl ar gyfer 2018/19 a 2019/20 eu cyhoeddi hefyd.

Mae adolygu ein systemau a'n prosesau i sicrhau eu bod yn rhydd o ragfarn ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd bod gennym ni ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a'r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, ond rydyn ni'n ei wneud hefyd gan mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein helpu i werthuso effaith ein Strategaeth Gorfodi, ein Safonau a'n Rheoliadau a gyflwynwyd yn 2019. Dyma'r drydedd flwyddyn i ni gyhoeddi'r wybodaeth hon, a byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar y canfyddiadau hyn.

Rydyn ni wedi defnyddio'r un dull gweithredu ag o'r blaen. Mae manylion y dull hwn yn yr adran nesaf, hyd a lled ein dadansoddiad). Mae hyn wedi caniatáu i ni gymharu a dechrau edrych ar dueddiadau dros y tair blynedd ddiwethaf, fel y nodir yn yr adran canfyddiadau allweddol. Rydyn ni hefyd wedi nodi'r cyfyngiadau yn y data sydd gennym neu y gallwn eu cyhoeddi, a'r anawsterau o ran dod i gasgliadau ystyrlon o'r niferoedd bach iawn yng nghyfnodau diweddarach y broses orfodi.

Rydyn ni'n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli mewn pryderon sy'n cael eu codi gyda ni, a'r rhai rydyn ni'n ymchwilio iddynt. Mae hyn wedi bod yn wir ers tro ac mae'n adlewyrchu'r patrwm ar draws nifer o broffesiynau a rheoleiddwyr. Rydyn ni wedi comisiynu sawl adolygiad allanol i edrych ar y materion hyn yn y gorffennol, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2006 cyn inni gael ein sefydlu. Ni ddaeth yr un adolygiad blaenorol o hyd i unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu, ond roedd pob un yn cynnig argymhellion i ni ac eraill, sydd wedi helpu i ddylanwadu ar ein dull gorfodi. Roedden ni wedi cyhoeddi trosolwg o'n gwaith yn dilyn yr adolygiad allanol diweddaraf gan yr Athro Gus John, sef yr Adolygiad Achos Cymharol Annibynnol yn 2014.

Er ein bod wedi gallu gwella ein dull gorfodi, mae'r patrymau'n parhau ac nid ydyn ni'n llawn ddeall o hyd y ffactorau cymdeithasol a chymdeithasegol sy'n arwain at yr orgynrychiolaeth o gyfreithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y pryderon sy'n cael eu codi gyda ni. I'n helpu ni ac eraill i fynd i'r afael â'r materion hyn, rydyn ni wedi comisiynu ymchwil annibynnol newydd [gan brifysgolion Efrog, Caerhirfryn a Chaerdydd] a fydd yn darparu dealltwriaeth o'r materion hyn. Rydyn ni hefyd wedi gofyn i'r ymchwilwyr gynnal adolygiad penodol o'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud yn y cam asesu er mwyn deall pam mae gorgynrychiolaeth bellach yn yr achosion sy'n cael eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Rydyn ni'n trafod hyn a'r camau eraill rydyn ni'n eu cymryd i sicrhau bod ein penderfyniadau'n deg ac yn rhydd o ragfarn yn adran gwaith pellach ac ymchwil yr adroddiad hwn.

Hyd a lled ein dadansoddiad

Fe wnaethom edrych ar y gynrychiolaeth o ryw, ethnigrwydd, oedran ac, mewn rhai meysydd lle'r oedd y niferoedd yn ddigonol, anabledd unigolion ar y camau canlynol o'n proses orfodi rhwng 1 Tachwedd 2020 a 31 Hydref 2021:

  • cam 1: unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni
  • cam 2: unigolion a enwyd ar bryderon y gwnaethom ymchwilio iddynt
  • cam 3: unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gennym (llwybr A)
  • cam 4: yr achosion a gafodd eu cau yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno, a'r mathau o sancsiynau a osodwyd gan y Tribiwnlys (llwybr B).

Mae'r unigolion a enwyd ar bryderon a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2) yn is-set o unigolion a enwyd ar y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1).

Yng nghamau 3 a 4 (llwybrau A a B yn y drefn honno), rydyn ni'n edrych ar yr unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn 2020/21, y rhai a gafodd sancsiwn mewnol a'r rhai a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â chamau 1 a 2 a'r rhai sy'n gysylltiedig â cham 3, nid yw'n debygol o fod yn arwyddocaol. Y rheswm am hyn yw nad yw achosion bob amser yn cael eu derbyn a'u datrys yn yr un flwyddyn. Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw orgyffwrdd rhwng yr unigolion sy'n gysylltiedig â cham 1 a 2 a'r rhai sy'n gysylltiedig â cham 4. Y rheswm am hyn yw ei bod yn cymryd mwy na blwyddyn i ymchwilio, cyfeirio a chwblhau mater yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr fel arfer.

Gan ddechrau gyda dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer, rydyn ni wedi cymharu cyfrannau pob grŵp amrywiaeth ar wahanol gamau ein proses orfodi. Er enghraifft, dyma'r gyfran ar gyfer dynion:

  • 48% o'r boblogaeth sy'n ymarfer
  • 62% o'r unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 68% o'r unigolion a gafodd eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 66% o'r unigolion a enwyd ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3, llwybr A)
  • 73% o'r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4, llwybr B)

Mae nifer yr unigolion yn gostwng ym mhob cam o'r broses, gan ei gwneud yn anodd dod i gasgliadau pendant yng nghamau 3 a 4. Yn gyffredinol yn 2020/21 cafodd:

  • 6,803 o unigolion eu henwi ar bryderon a adroddwyd i ni (cam 1)
  • 1,357 o unigolion eu symud ymlaen i gael eu hymchwilio (cam 2)
  • 258 o unigolion eu henwi ar achosion gyda sancsiwn mewnol (cam 3)
  • 110 o unigolion eu henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4).

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg a grŵp ethnig arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Pan fo'r niferoedd yn rhy fach (yng nghamau 3 a 4), byddwn yn cymharu'r grŵp Gwyn (sy'n cynnwys grwpiau Gwyn lleiafrifol) â'r pedwar grŵp arall, gan gyfeirio at y rheini fel y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol3.

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn amrywio ym mhob cam o'r broses ond yn gyffredinol, mae gennym wybodaeth am rywedd ac oedran ar gyfer 91% a 100%4 o'r boblogaeth sy'n ymarfer, yn y drefn honno, a 74% ar gyfer ethnigrwydd. Oherwydd y ffordd rydyn ni wedi casglu data am anabledd yn y gorffennol5, dim ond cyfran y bobl sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o'r boblogaeth sy'n ymarfer. Rydyn ni'n amau bod y data anabledd yn anghyflawn yn y set ddata hon ac yn cymryd camau i wella'r datganiadau ar gyfer hyn a nodweddion amrywiaeth eraill.

Mae set gyflawn o'r siartiau sy'n dangos y data ym mhob cam ar gael yn yr adroddiad ategol ar ein canfyddiadau. Rydyn ni hefyd wedi edrych ar sut mae'r achosion yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi dod i ben, yn benodol, a oes gwahaniaeth yn ôl nodweddion amrywiaeth yn y defnydd o ganlyniadau y cytunwyd arnynt. Rydyn ni wedi darparu'r cyfraddau datgan amrywiaeth ym mhob cam.

Canfyddiadau allweddol 2020/21

Yn yr adran hon, rydyn ni wedi rhoi trosolwg o'r canfyddiadau allweddol ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth ym mhedwar cam y broses orfodi ar gyfer 2020/21 (lle'r oedd digon o ddata i ganiatáu i ni wneud hyn). Rydyn ni wedi cynnwys y data ar gyfer 2018/19 a 2019/20 er mwyn gallu tynnu sylw at unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg dros y tair blynedd.

Mae canfyddiadau manwl yng nghyswllt camau 1 i 4, fel y'u disgrifir uchod, wedi'u nodi yn adroddiad ategol ein canfyddiadau, ynghyd â dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Rydyn ni'n defnyddio'r data sydd gennym ni am y boblogaeth sy'n ymarfer yn ein systemau mySRA fel y man cychwyn ar gyfer dadansoddi sut mae proffil pobl yn newid drwy ein prosesau gorfodi. Mae rhagor o wybodaeth am y dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer a ffynhonnell y data hwn yn yr atodiad yn yr adroddiad ategol.

Niferoedd isel yng nghamau 3 a 4

Oherwydd y niferoedd isel sy'n gysylltiedig â chamau 3 a 4, ni allwn gadarnhau a yw'r newidiadau sydd i'w gweld yn ystadegol arwyddocaol, neu a ydynt yn ganlyniad siawns. Y rheswm am hyn yw bod y niferoedd yn rhy fach i brofion ystadegol wahaniaethu rhwng y grwpiau mewn ffordd ddibynadwy. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Er bod y niferoedd yng nghamau 3 a 4 yn debygol o aros yn gymharol fach, rydyn ni'n cymryd camau i gynyddu cyfraddau datgelu a byddwn yn parhau i fonitro'r maes hwn.

Rhywedd

Dadansoddiad o rywedd y boblogaeth sy'n ymarfer ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi
2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer Gwryw 49% 48% 48%
Benyw 51% 52% 52%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Gwryw 67% 65% 62%
Benyw 33% 35% 38%
Cam 2: Ymchwiliadau Gwryw 73% 75% 68%
Benyw 27% 25% 32%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwryw 70% 73% 66%
Benyw 30% 27% 34%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwryw 85% 80% 73%
Benyw 15% 20% 27%

Yn y tair blynedd, mae dynion wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, ac yn cynyddu eto yng ngham 4, sef atgyfeiriadau at y Tribiwnlys. Fodd bynnag, mae'r orgynrychiolaeth hon o ddynion ym mhob cam wedi lleihau dros y tair blynedd ddiwethaf.

Gan edrych ar gyfran y dynion mewn achosion a gadarnhawyd, o'i chymharu â'r gyfran mewn achosion yr ymchwiliwyd iddynt, yn y tair blynedd mae'r gyfran yn is mewn achosion a ddaeth i ben yn fewnol ac yn uwch mewn achosion a gadarnhawyd yn y Tribiwnlys. Er enghraifft, yn 2020/21, roedd 68% o'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yn ddynion, ac roedd 66% o'r rhai a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn fewnol a 73% o'r rhai a gadarnhawyd yn y Tribiwnlys yn ddynion.

O ran canlyniadau mewnol, mae'r orgynrychiolaeth o ddynion wedi lleihau, o tua 72% o ddynion yn y ddwy flynedd flaenorol i 66% yn 2020/21. Yn yr un modd mae'r orgynrychiolaeth o ddynion mewn canlyniadau yn y Tribiwnlys wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn, o 85% yn 2018/19 i 80% yn 2019/20, a 73% yn 2020/21.

Ethnigrwydd

Rydyn ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Os yw'r niferoedd yn rhy fach, er na fydd profiad y bobl yn y grŵp ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall yr un fath, byddwn yn adrodd am y grwpiau hyn gyda'i gilydd, ochr yn ochr â'r grŵp Gwyn. Byddwn yn cyfeirio at y grŵp hwn fel y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac yn unol â'r arfer bresennol, ni fyddwn yn defnyddio'r acronym ‘BAME'. Dyma pam, yn y siart trosolwg isod, mai dim ond y grŵp o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'r grŵp Gwyn a ddangosir. Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ategol.

Dadansoddiad o ethnigrwydd y boblogaeth sy'n ymarfer ac yng nghamau 1–4 ein proses orfodi

Ethnigrwydd 2018/19 2019/20 2020/21
Y boblogaeth sy'n ymarfer Gwyn 82% 82% 82%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 18% 18% 18%
Cam 1: Pryderon a gyflwynwyd i ni Gwyn 74% 74% 75%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 26% 26% 25%
Cam 2: Ymchwiliadau Gwyn 68% 65% 67%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 32% 35% 33%
Cam 3 (llwybr A): Achosion gyda sancsiwn mewnol Gwyn 65% 71% 64%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% 29% 36%
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwyn 65% 72% 66%
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% 28% 34%

Yn y tair blynedd, mae pobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o'i gymharu â'u cynrychiolaeth yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth hon wedi gostwng ychydig yn 2020/21. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrif am 18% o'r boblogaeth sy'n ymarfer (yn y tair blynedd) a 25% o'r adroddiadau a gafwyd yn 2020/21 (i lawr o 26% yn 2018/19 a 2019/20).

Mae'r orgynrychiolaeth hon yn cynyddu yng ngham 2, pan fyddwn yn penderfynu pa achosion i'w symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad. Dyma'r patrwm a welir dros y tair blynedd ond roedd yr orgynrychiolaeth wedi gostwng ychydig yn 2020/21, pan oedd y grŵp hwn yn cyfrif am 25% o'r rhai a adroddwyd i ni a 33% o'r rhai a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2020/21.

Gan edrych ar drywydd yr adroddiadau a geir am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, cafodd 26% o adroddiadau eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad, o'i gymharu â 17% o adroddiadau am bobl Wyn. Mae grwpiau Asiaidd a Du wedi'u gorgynrychioli mewn adroddiadau a geir ac mae'r gyfradd symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn debyg (27% ar gyfer y grŵp Asiaidd a 26% ar gyfer y grŵp Du). Sylwch nad yw'r ffigurau hyn yn y tabl uchod. Yn hytrach, maen nhw wedi'u cyfrifo fel canran o'r cyfanswm yr ymchwiliwyd iddynt o'r cyfanswm a adroddwyd.

Gan edrych ar gyfran y bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn yr achosion a gadarnhawyd, o'i chymharu â'r gyfran mewn achosion yr ymchwiliwyd iddynt, mae'r gyfran yn uwch yn 2018/19 a 2020/21 ar gyfer achosion a ddaeth i ben yn fewnol ac achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Mae'r grŵp hwn yn cyfrif am 33% o'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt yn 2020/21, 36% o'r achosion a ddaeth i ben yn fewnol a 34% o'r achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Roedd y sefyllfa yn wahanol yn 2019/20, pan oedd cyfran y bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn canlyniadau mewnol a'r Tribiwnlys yn is nag yn y cam ymchwilio.

  1. SRA | Canllawiau | Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  2. SRA | Adolygiad Thematig o Ddiwylliant y Gweithle | Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  3. Nid ydym yn defnyddio’r acronym ‘BAME’ i gyfeirio at y grŵp hwn mwyach.
  4. Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.95% o’r boblogaeth sy’n ymarfer ond mai 100% sy’n cael ei ddangos o ganlyniad i dalgrynnu.
  5. Nid ydyn ni bob amser wedi casglu data anabledd yn y modd rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae hyn yn golygu nad ydyn ni’n gallu gwahaniaethu, yn sicr, rhwng pobl sydd wedi datgan yn dweud nad oes ganddynt anabledd a’r rheini sydd heb ateb y cwestiwn.